Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

02/02/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda chi. Dwi eisiau atgoffa Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies. 

Atyniadau Ymwelwyr Awyr Agored

1. Pa feini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i benderfynu pryd y bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn gallu ailagor? OQ56204

Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn yna. Mae'r meini prawf ar gyfer ailagor atyniadau awyr agored i ymwelwyr wedi eu nodi yng 'Nghynllun Rheoli Coronafeirws—Lefelau Rhybudd yng Nghymru' Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym ar lefel rhybudd 4, ac mae atyniadau awyr agored wedi'u rhestru fel bod yn ailagor ar lefel rhybudd 2.

Diolch am yr ateb yna. Yn amlwg, mae'r sector yn deall yr angen i ailagor yn ddiogel, ond dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fo'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau gwario sylweddol, ac i'r perwyl hwnnw maen nhw'n chwilio am gymaint o wybodaeth â phosibl i'w helpu i wybod am ba hyd y mae'n rhaid iddyn nhw gynllunio i aros ar gau yn hytrach nag agor. Rwy'n credu bod y posibilrwydd o etholiad diogel ym mis Mai wedi rhoi rhywfaint o obaith iddyn nhw y gallai mis Mai fod yn bosibilrwydd. Eu pryderon uniongyrchol, ar wahân i gynllunio'r gweithlu, fodd bynnag, yw dyfodiad biliau ardrethi a'r posibilrwydd o ganiatáu teithio mewn mannau eraill yn y DU ond nid yng Nghymru, ac, wrth gwrs, bydd hynny yn effeithio ar benderfyniadau pobl ynghylch gwyliau. Felly, pa obaith sydd yna y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwyliau ardrethi busnes ychwanegol i'r sector tan y bydd yn ailagor, a pha mor bwysig ydych chi'n meddwl, am y rheswm yr wyf i wedi ei roi—dim byd i'w wneud â datganoli—bod yn rhaid gwneud rhyw fath o ymdrech i gysoni'r dyddiadau ailagor ledled y DU, gan roi ystyriaeth i'r gwahanol haenau neu lefelau rhybudd, yn sicr rhwng Cymru a Lloegr?

Llywydd, diolchaf i Suzy Davies am y cwestiynau ychwanegol yna, a rhag ofn na chaf i gyfle arall i'w ddweud, a gaf i ddweud wrthi y bydd colled mawr ar ei hôl hi yn y Siambr hon? Ac mae ei chwestiwn heddiw, yn ôl yr arfer, yn adeiladol o ran dymuno dod o hyd i atebion i sector sydd wedi cael amser hynod anodd yn ystod cyfnod y coronafeirws. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cael arian yn natganiad y Canghellor ym mis Mawrth sy'n ein ariannu ni i gynnig cyfnod rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf, yna byddwn yn sicr yn ceisio gwneud hynny. Ond mae ein gallu i'w wneud, maint y cyllid sydd ei angen, yn golygu mai dim ond os yw hynny yn ymdrech DU gyfan wirioneddol y gellir gwneud hynny.

O ran cydgysylltu dyddiadau ar gyfer ailagor, clywaf yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni bellach yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Llywodraeth y DU bob dydd Mercher—a nifer o ddyddiau yn y cyfamser y rhan fwyaf o wythnosau erbyn hyn—lle gallwn ni drafod dulliau cyffredin o ymdrin â phethau sy'n digwydd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Byddwn i gyd, serch hynny, yn pwyso a mesur y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud o dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu. Fel y bydd Suzy Davies yn gwybod, mae nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws fesul 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru yn gostwng bob dydd ar hyn o bryd. Mae ar tua hanner y lefel sydd i'w weld dros y ffin yn Lloegr. Fyddwn i ddim eisiau gwadu cyfle i fusnesau nac atyniadau awyr agored Cymru agor yn gynharach pe byddai ein hamgylchiadau yn caniatáu i hynny ddigwydd, ond mae'r sefyllfa, Llywydd, fel y mae'r Aelodau yn gwybod, yn hynod ansicr. Bydd pawb yn y fan yma wedi gweld y newyddion dros nos am amrywiolyn De Affrica a datblygiadau yn Lloegr. Ar hyn o bryd, yng Nghymru, rydym ni'n symud ymlaen mewn cyfeiriad cadarnhaol. Mae pob un ohonom ni yn agored i newid yn hynny o beth, a byddai hynny yn anochel yn cael effaith ar ein gallu i ailagor rhannau o'r economi.

Prif Weinidog, er na fyddai neb yn argymell agor atyniadau cyn ei bod hi'n ddiogel i wneud hynny, mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod y diwydiant wedi cymryd rhagofalon enfawr i wneud eu busnesau mor ddiogel ag y gallan nhw o ran COVID. A'r hyn sydd wir ei angen ar y diwydiant yw llwybr eglur i agor unwaith eto. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi gyhoeddi canllawiau ar gyfer ailagor yr economi ymwelwyr, lle y gall fod yn amodol efallai ar gyfraddau achosion yn parhau i ostwng? Mae angen  amserlen arnom ni fel y gall y diwydiant ymbaratoi. Diolch.

13:35

Llywydd, diolchaf i Caroline Jones, ac rwy'n deall y pwyntiau y mae'n eu gwneud, wrth gwrs. Y llwybr at ailagor yw'r llwybr a nodir yn y cynllun rheoli coronafeirws, ac mae hwnnw yn cynnwys cyfres o ddangosyddion, gan gynnwys cyfraddau positifrwydd a chyfraddau achosion yn y gymuned, sy'n dweud wrthym ni pryd y byddai'n ddiogel i ganiatáu atyniadau awyr agored i ymwelwyr ailagor unwaith eto. Rwy'n derbyn popeth a ddywedodd yr Aelod am yr ymdrechion y mae'r diwydiant ei hun wedi eu gwneud i roi ei hun yn y sefyllfa lle bydd pobl yn hyderus i ymweld â'r atyniadau hynny eto. Nid wyf i'n credu mewn gwirionedd bod unrhyw beth mwy sicr y gallwn i ei gynnig i'r diwydiant hwnnw, nac unrhyw un arall, ac eithrio cyfeirio at y cynllun a gyflwynwyd gennym, â'i lefelau rhybudd a chyda'r meini prawf a fydd yn caniatáu i ni symud rhyngddyn nhw, gan gyfeirio bob amser at ansicrwydd cynhenid yr amgylchiadau yr ydym ni'n parhau i fyw ynddyn nhw.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin? OQ56240

Llywydd, nid yw cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin yn cydnabod yr ymrwymiadau mynych na fyddai Cymru yn ddim gwaeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae ganddyn nhw oblygiadau difrifol i'n setliad datganoli.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna. Bydd ef wedi gweld yr adroddiadau a'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd dros yr wythnosau diwethaf, ac mae pob un ohonyn nhw wedi dangos yn eglur bod cymunedau fel Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn debygol o ddioddef effaith economaidd lawer gwaeth o ganlyniad i'r coronafeirws na llawer o gymunedau eraill. Felly, bydd angen buddsoddiad ychwanegol ar y cymunedau hyn i'n helpu i adfer. Rwy'n cytuno ag ef bod y gronfa ffyniant gyffredin, fel y'i cynigir ar hyn o bryd, yn fradychiad gwirioneddol o'r holl bobl hynny nid yn unig a bleidleisiodd dros Brexit, gan gredu y bydd cyllid y DU yn cymryd lle cronfeydd strwythurol yr UE, ond hefyd y bobl hynny a oedd yn credu bod ein buddiannau pennaf yn bwysig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn benderfynol o ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol a pheidio â dysgu'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Yn y modd hwn, mae Blaenau Gwent yn colli arian a bydd yn talu pris anonestrwydd y Torïaid ac aflerwch y Torïaid. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod angen buddsoddiad ychwanegol ar leoedd fel Blaenau Gwent, cymunedau yn y Cymoedd, a Blaenau'r Cymoedd, i'n helpu ni i adfer o sgil effeithiau economaidd y coronafeirws ac i greu'r swyddi yr ydym ni i gyd eisiau eu gweld ac yr ydym eu hangen?

Diolchaf i Alun Davies am hynna, Llywydd. Mae e'n iawn i dynnu sylw at yr adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Llwyddais i ddarllen adroddiad Prifysgol Sheffield Hallam dros y penwythnos ar effaith yr argyfwng coronafeirws ar Brydain hŷn, ddiwydiannol, a oedd yn ymdrin â'r union ardaloedd fel yr un y mae Alun Davies yn ei chynrychioli yn y fan yma yn y Senedd. Ac mae wir yn dangos pwysigrwydd hanfodol parhau i fuddsoddi yn y cymunedau hynny, o'r math yr ydym ni wedi gallu ei dynnu i lawr yn ystod y cyfnod pan fo Cymru wedi gallu defnyddio'r cyllid sydd wedi ein cyrraedd drwy'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, rydym ni'n gweld hynny yn cael ei wrthdroi. Rydym ni'n cael £375 miliwn y flwyddyn mewn cronfeydd strwythurol ac, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, gallwch weld effaith y cronfeydd hynny mewn cynifer o agweddau ar seilwaith etholaeth Blaenau Gwent.

Dywedodd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, dan gadeiryddiaeth Aelod Ceidwadol, y llynedd mai prin oedd y cynnydd a wnaed gan y gronfa ffyniant gyffredin, nad oes unrhyw eglurder ynghylch sut y bydd yn edrych, sut y bydd yn cael ei gweinyddu na sut y bydd yn cael ei hariannu. A phan ymatebodd Llywodraeth y DU i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, dywedodd yr un cadeirydd Ceidwadol bod cwestiynau mawr yn dal i fod heb eu hateb—dim sicrwydd o hyd ynghylch maint y gronfa, y dull dosbarthu, cyfran y gronfa i Gymru o'i chymharu â chyllid yr UE, a pha ran, os o gwbl, y gellir disgwyl i Lywodraethau datganoledig ei chwarae yng weithrediad y gronfa—ac

nid ydym yn ystyried y mater hwn fel bod ar ben,

meddai cadeirydd y pwyllgor. Rwy'n eithaf siŵr nad yw'r Senedd hon yn ei weld fel bod ar ben ychwaith.

13:40

Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, mae cadeirydd y materion Cymreig—y pwyllgor, dylwn i ddweud—yn San Steffan wedi mynegi pryderon, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn sylweddoli y bu problemau o ran cyflwyno a datblygu cronfa ffyniant gyffredin. Fodd bynnag, yn ôl ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, 'Cymru a'r Gronfa Ffyniant Gyffredin', ym mis Rhagfyr, bydd y gronfa, o leiaf, yr un faint â'r hyn a dderbynnir ar hyn o bryd o gronfa strwythurol yr UE gyda'r bwriad o dargedu'r lleoedd mwyaf anghenus—y rhai y cyfeiriodd Alun Davies atyn nhw—fel hen ardaloedd diwydiannol, trefi difreintiedig, cymunedau gwledig ac arfordirol. Felly, rwy'n sylweddoli mai safbwynt Llywodraeth y DU yw hwnnw; efallai nad dyna safbwynt Llywodraeth Cymru. Ond sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio fel bod yr ardaloedd hyn yng Nghymru yn elwa yn y pen draw? A sut y mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU neu, o leiaf, yn cysylltu â hi i wneud yn siŵr, pan fydd cyllid yn dechrau cael ei ddarparu, y bydd darpariaeth ar gyfer yr ardaloedd hynny?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n cytuno ei fod yn fater o wahaniaeth barn. Mae'n wahaniaeth o ffeithiau syml: mae Cymru yn cael £375 miliwn y flwyddyn, yn y cylch diwethaf o gyllid Ewropeaidd; bydd gan y gronfa ffyniant gyffredin y flwyddyn nesaf £220 miliwn ynddi ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan. Nid gwahaniaeth barn yw hynny. Mae hynny'n wahaniaeth o £150 miliwn. Pe byddai Cymru yn cael holl gronfa ffyniant gyffredin y DU, byddem £150 miliwn yn waeth ein byd nag y byddem ni wedi bod fel arall. A dyna pam, pan ofynnodd Alun Davies ei gwestiwn atodol, y dywedodd bod hwn yn fradychiad o bopeth a ddywedwyd wrth bobl yng Nghymru fyddai'n digwydd ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae arnaf ofn nad oes llawer iawn o ymgysylltu ar lefel swyddogol, oherwydd bob tro y byddwn ni'n gofyn y cwestiwn, dywedir wrthym nad oes rhagor o fanylion y gellir eu rhannu â ni. A dyna'r un ateb yr ydym ni wedi ei gael nawr ers 2017, pan awgrymwyd y syniad hwn gyntaf gan Lywodraeth y DU—2017 i 2021, pan nad oes unrhyw fanylion ychwanegol y gellir eu rhannu â ni. Nid yw'n syndod bod nid yn unig Llywodraeth Cymru ond y cymunedau hynny sy'n dibynnu ar y buddsoddiad hwn i greu'r math o ddyfodol economaidd yr ydym ni ei angen ar eu cyfer wedi colli amynedd a ffydd yn yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn debygol o'i ddarparu.

O ystyried hynt Cymru ers degawdau lawer, drwy flynyddoedd Thatcher yn y 1980au, 15 mlynedd o Lywodraeth Lafur yn San Steffan na wnaeth ddiwygio fformiwla Barnett, gan adael Cymru yn waeth ei byd, 11 mlynedd o gyni cyllidol dan arweiniad y Torïaid a'r gronfa ffyniant gyffredin warthus nawr—a byddwn yn cysylltu fy hun â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud am hynny—a yw'r Prif Weinidog bellach yn derbyn bod degawdau erbyn hyn ers i botensial ailddosbarthu y Deyrnas Unedig, y mae'n cyfeirio ato yn aml, ddod yn agos o gwbl at gael ei wireddu? Ac a yw bellach yn cytuno â mi ei bod hi'n bryd i ni yma yng Nghymru ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd, gan ddefnyddio'r ysgogiadau economaidd sydd ar gael i wlad annibynnol i ailadeiladu ein heconomi a rhoi terfyn ar dlodi?

Nac ydw, dydw i ddim, Llywydd, fel y mae'r Aelod yn gwybod, ac mae hi'n annheg iawn yn ei disgrifiad o'r Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Yn ystod y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, cynyddodd yr arian a oedd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol gan 10 y cant bob blwyddyn yn nhymor cyntaf y sefydliad hwn. Cynyddodd mewn termau real ym mhob blwyddyn yr oedd Llafur mewn grym. Mae'n gwbl bosibl defnyddio'r Deyrnas Unedig fel peiriant ar gyfer ailddosbarthu, a dangosodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf hynny flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ni ddylid drysu rhwng methiant dros dro deiliaid presennol y grym yn San Steffan i wneud hynny gyda dadl nad yw'r system yn gallu cyflawni'r hyn yr wyf i'n credu y gallai ei gyflawni ac a fydd er lles Cymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Llywydd, a gyda'ch caniatâd, hoffwn gofnodi bod ein meddyliau a'n gweddïau gyda theuluoedd y tri physgotwr sy'n dal i fod ar goll oddi ar arfordir y gogledd, a'n diolch i'r timau chwilio ac achub sydd wedi bod allan yn ddiflino yn ceisio rhoi rhywfaint o gysur i'r teuluoedd hynny wrth geisio chwilio am eu hanwyliaid. Rwy'n siŵr bod meddyliau a gweddïau'r holl Aelodau gyda theuluoedd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath, sy'n dal wedi eu rhestru fel bod ar goll oddi ar arfordir y gogledd.

Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw sefyllfa bresennol y pandemig? Oherwydd yn eich ymateb cynharach i'r cwestiwn gan Suzy Davies, nodwyd yn eglur gennych bod gennym ni ffordd bell i fynd cyn y gallwn ni ddatgan bod y pandemig ar ben. Cawsom ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd heddiw ar farwolaethau yng Nghymru, ac yng ngogledd Cymru yn arbennig, a phob un yn drasiedi, ac mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid. A heddiw mae gennym ni'r asesiad ar straen mwtant newydd amrywiolyn Caint. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni geisio deall beth yw eich asesiad o'r pandemig presennol a'r daith y mae'n rhaid i ni barhau i fod arni yma yng Nghymru.

13:45

Diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiynau yna a chysylltaf fy hun wrth gwrs â'r hyn a ddywedodd wrth agor am deuluoedd y tri gŵr hynny sydd ar goll ar y môr yn y gogledd. Gwn y bydd pobl ledled Cymru sydd wedi dilyn y digwyddiadau yn y gogledd, gan gynnwys yr ymdrechion enfawr a wnaed i ddarganfod y bobl sydd ar goll, ac i gynnig cysur i'w teuluoedd, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies. Mae'n rhaid bod hwn yn gyfnod cwbl ofnadwy iddyn nhw.

Dyma fy asesiad o sefyllfa'r pandemig yng Nghymru: oherwydd y penderfyniadau a wnaed i roi Cymru mewn cyfres lefel 4 o fesurau cyn y Nadolig, rydym ni'n gweld budd hynny yn y cyfnod ers troad y flwyddyn. Mae nifer y bobl sy'n dioddef o'r coronafeirws yn gostwng bob dydd. Mae wedi gostwng yn is na 140 fesul 100,000 heddiw. Mae'r gyfradd positifrwydd yn gostwng bob dydd, i lawr i ddim ond tua 11 y cant heddiw. Mae nifer y bobl yn ein hysbytai sydd â coronafeirws wedi dechrau gostwng—nid yw wedi gostwng yn ddigonol o bell ffordd, ond mae'r duedd ar i lawr erbyn hyn—ac rydym ni wedi gweld effaith gyntaf hynny yn ein capasiti gofal critigol hefyd. Mae'r rheini i gyd yn gyflawniadau pwysig iawn, ac, ochr yn ochr â'r rhaglen frechu torfol, yn rhoi gobaith i ni, wrth i ni fynd ymhellach i mewn i'r flwyddyn hon, y bydd modd adfer rhywfaint o'r rhyddid i bobl yng Nghymru y bu'n rhaid iddyn nhw ymdopi hebddo dros yr wythnosau diwethaf. Ond mae hynny i gyd yn seiliedig ar sylfeini a allai symud ar unrhyw adeg, a'r enghreifftiau y cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid atyn nhw—amrywiolyn Caint a'r datblygiadau yno, amrywiolyn De Affrica—er bod pethau yn symud i'r cyfeiriad iawn, ceir breuder yn gysylltiedig â hynny i gyd. Ac rydym ni wedi gweld, mewn rhannau eraill o'r byd, gan gynnwys rhannau o'r byd yn agos iawn atom ni, sut y gall cyfres o ddangosyddion addawol droi'n gyfres o ddangosyddion anodd iawn mewn mater o ychydig wythnosau byr yn unig.

Byddwn yn cytuno â'ch asesiad, Prif Weinidog; mae rhywfaint o oleuni ym mhen draw'r twnnel gyda rhai o'r rhifau sy'n symud i'r cyfeiriad iawn erbyn hyn, ond mae gennym ni ffordd faith iawn o hyd i fynd gyda'r pandemig hwn, ac mae'n iawn ein bod ni'n cadw at y cyfyngiadau a'n bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu wrth i ni fynd i mewn i'r gwanwyn.

Yr hyn sy'n fy mhoeni i'n fawr yw pan fydd Gweinidogion y Llywodraeth yn gwneud ymrwymiadau yn ystod y pandemig hwn, fel y rhai y mae Gweinidog yr amgylchedd wedi eu gwneud drwy gydol y pandemig—saith gwaith yn y Cyfarfod Llawn. Yn ôl i 7 Mai y llynedd, wrth sôn am barthau perygl nitradau, dywedodd hi na fyddai'n eu cyflwyno tra byddwn ni yn y cyfnod pandemig presennol. Ar 16 Medi, dywedodd:

'Rwyf wedi ymrwymo i beidio â'u cyflwyno tra ein bod ni yng nghanol pandemig COVID-19.'

Ar saith achlysur dywedodd hi na fyddai'n cyflwyno'r rheoliadau Parth Perygl Nitradau i'w mabwysiadu yma yng Nghymru, a chyhoeddodd ddatganiad yr wythnos diwethaf pryd y gwnaeth hi wrth-ddweud ei hun gan ddweud ei bod hi'n gweithredu'r rheoliadau Parth Perygl Nitradau hyn ar 1 Ebrill. A wnewch chi ymyrryd yn bersonol, Prif Weinidog, atgoffa'r Gweinidog o'r ymrwymiadau y mae hi wedi eu gwneud i ffermwyr a'r economi wledig ac i bobl Cymru drwy ei sylwadau ar lawr y Cyfarfod Llawn, a pheidio â chyflwyno'r rheoliadau tan y cadarnheir bod y pandemig ar ben ac y gall paratoadau fod ar waith i fabwysiadu'r rheoliadau hyn, os cânt eu cymeradwyo gan y Cynulliad?

Fydda i ddim yn gwneud hynny, Llywydd. Rydym ni wedi aros cyn cyflwyno'r rheoliadau tan, fel y nodais yn fy ateb i'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies, y ffaith ein bod ni'n symud i gyfnod mwy hynaws, gobeithio, o ran y feirws. Mae'r angen i gyflwyno rheolaethau ar lygredd amaethyddol yng Nghymru yn fater brys—tri digwyddiad ar gyfartaledd bob wythnos ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf. Mae dros 90 y cant o allyriadau amonia yng Nghymru yn dod o amaethyddiaeth. Mae lefel y digwyddiadau llygredd yn y maes amaethyddol yn niweidio enw da ffermwyr, yn niweidio ein hamgylchedd ac yn niweidio gallu'r diwydiant hwnnw yn y tymor hwy i fasnachu â rhannau eraill o'r byd, o gofio mai cryfder ein diwydiant yw ansawdd y cynnyrch y mae'n ei ddarparu. Nawr yw'r adeg iawn i wneud hyn, ac ni fyddai oedi er lles pennaf y diwydiant. Bydd gweithredu'r rheoliadau yn cael ei wneud mewn modd sensitif, bydd yn cael ei wneud ochr yn ochr â'r diwydiant, ond nid yw oedi pellach o fantais i'r diwydiant o safbwynt amgylcheddol, economaidd nac o ran enw da.

13:50

Gyda pharch, Prif Weinidog, byddwn yn cytuno â chi bod un digwyddiad llygredd yn ormod, ac fel rhywun sy'n ymwneud â'r diwydiant amaethyddol, rwyf i eisiau gweld diwydiant sydd mor lân â phosibl. Ond rwyf am fynd yn ôl at y pwynt yr wyf i wedi ei ddweud wrthych chi; rwyf i wedi cynnig enghreifftiau i chi lle mae'r Gweinidog wedi dweud ar goedd na fyddai'r rheoliadau Parth Perygl Nitradau hyn yn cael eu cyflwyno tra bod y pandemig yn bodoli—nid unwaith, nid dwywaith, ond saith gwaith mewn ymateb i gwestiynau yn y Cyfarfod Llawn y mae gen i gofnod uniongyrchol ohonyn nhw yn y fan yma. Rydych chi'n dweud

Pan fyddwn ni'n gwneud addewid, rydym ni'n gwybod yn y blaid Lafur bod yn rhaid i ni ei gadw.

Byddwn yn awgrymu, pan fydd un o Weinidogion eich Llywodraeth yn gwneud ymrwymiad o'r fath ar lawr y Cyfarfod Llawn, bod hynny yn addewid, ac mae'r addewid hwn yn cael ei dorri. Nid oes unrhyw ddadl ynglŷn â gostwng nifer yr achosion o lygredd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n cosbi'r bobl sy'n torri'r rheoliadau, ond pan fo'r Gweinidog wedi gwneud ymrwymiad o'r fath, a'ch bod chi wedi gwneud datganiad o'r fath pan fydd y blaid Lafur yn gwneud addewid, bod yn rhaid iddi ei gadw, does bosib nad oes yn rhaid cadw'r addewidion hyn, ac mae'n rhaid i ni gyrraedd diwedd y pandemig cyn i'r rheoliadau hyn gael eu gweithredu.

Yr addewid y mae fy mhlaid yn ei wneud yw y byddwn ni'n ymdrin â llygredd amaethyddol yma yng Nghymru. Rydym ni wedi cyrraedd y pwynt pan yr wyf i'n credu, ac mae'r Gweinidog yn credu, y gallwn ni roi'r rheoliadau hyn gerbron y Senedd. Gallwn wneud hynny yn ffyddiog ein bod ni wedi gweithio yn galed gyda'r diwydiant, a phan ddaw'n fater o weithredu'r rheoliadau, byddwn yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r nifer fawr hynny o ffermwyr yng Nghymru sydd eisoes yn cydymffurfio â rheoliadau, nad ydyn nhw'n llygru ein hamgylchedd naturiol, ac sy'n cael eu siomi gan y rhai sy'n gwneud hynny. Pe byddai'r rhain yn ddigwyddiadau cwbl ynysig, neu hyd yn oed pe byddai nifer y digwyddiadau yn gostwng, byddwn yn cydymdeimlo yn fwy â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud. Mewn gwirionedd, nid ydym ni wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol. Nid dim ond un yr ydym ni'n ei weld, rydym ni'n gweld tri bob wythnos, wythnos ar ôl wythnos, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yma yng Nghymru, mewn ffordd sy'n niweidio'r diwydiant ac yn niweidio'r amgylchedd sy'n perthyn i bob un ohonom ni. Dyna pam y byddwn ni'n cyflwyno'r rheoliadau. Dyna'r ysbryd y byddwn ni'n mynd i'r afael â'r mater ynddo ac rydym ni'n gwneud y peth iawn ar ran y diwydiant ac ar ran Cymru.

Diolch, Lywydd. Gaf i, yn gyntaf, ategu'r sylwadau, ac ategu bod ein meddyliau a'n gweddïau ni i gyd gyda theuluoedd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath ar yr adeg hynod anodd yma iddyn nhw a'r gymuned gyfan?

Prif Weinidog, mae Llywodraeth yr Alban yn darparu £90 miliwn o gyllid ychwanegol i gynghorau i'w caniatáu i rewi'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf, gan wrthbwyso'r hyn a fyddai, ar gyfartaledd, wedi bod yn gynnydd o 3 y cant. Byddai'n costio tua £100 miliwn i ganiatáu i gynghorau Cymru rewi'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf a gwrthbwyso'r cynnydd cyfartalog o 4.8 y cant a welsom y llynedd. Ar yr adeg hon o ansicrwydd ariannol mawr, a ydych chi'n cael eich denu gan ddadl o ddiogelu gwasanaethau lleol hanfodol, ond hefyd diogelu cyllidebau teuluoedd ar adeg mor anodd, gan ddilyn esiampl yr Alban? A fyddech chi mewn gwell sefyllfa i wneud hynny pe gallech chi argyhoeddi San Steffan i ganiatáu mwy o hyblygrwydd trwy gario arian nad yw'n cael ei wario ymlaen i'r flwyddyn nesaf?

13:55

Wrth gwrs fy mod i'n gweld atyniad yr hyn a gynigiwyd ar gyfer yr Alban, ond mae'n £100 miliwn, fel y mae'r Aelod wedi ei grybwyll. Wythnos ar ôl wythnos, mae'n cyflwyno cynigion i mi ar gyfer gwario sy'n costio degau neu gannoedd o filiynau o bunnoedd. Yr hyn sydd gennym ni yng Nghymru yw cynllun budd-dal y dreth gyngor, cynllun unigryw yng Nghymru, yr ychwanegwyd ato gennym ni fel Llywodraeth Cymru y tu draw i'r £220 miliwn a ddarparwyd i ni gan Lywodraeth San Steffan pan, yn groes i'n dymuniadau, y datganolwyd budd-dal y dreth gyngor. Rydym ni wedi ychwanegu arian newydd gan y Llywodraeth at hynny eleni—£5.4 miliwn arall, rwy'n credu—i wneud yn siŵr y gall y cynllun hwnnw barhau i gael ei weithredu. Mae dros 300,000 o deuluoedd yng Nghymru yn elwa arno, y mwyafrif llethol ohonyn nhw yn talu dim treth gyngor o gwbl. Mae honno'n ffordd, rwy'n credu, o amddiffyn y bobl hynny y mae angen eu hamddiffyn fwyaf rhag biliau cynyddol mewn cyfnod o ataliaeth, gan ei gwneud yn ofynnol i eraill yn ein plith wneud cyfraniad y mae'n haws i ni ei wneud i gynnal gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Felly, mae gennym ni ein ffordd ein hunain o wneud hyn, ac rwy'n credu bod llawer o fanteision iddi. O ran pwynt olaf Mr Price, rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU, fel y gwnaeth y Llywodraeth yn yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, am hyblygrwydd syml i ganiatáu i ni reoli gwariant diwedd blwyddyn yn y cyfnod eithriadol hwn. Yn anffodus, nid yw'n ymddangos ein bod ni'n cael unrhyw lwyddiant gyda nhw.

Yn amlwg, mae'r cynnydd ychwanegol o £5.5 miliwn i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor y cyfeiriasoch ato, Prif Weinidog, i'w groesawu, ond mae'n is na'r cynnydd i ôl-ddyledion y dreth gyngor, a'r bobl sydd fwyaf tebygol o fod wedi mynd i ôl-ddyledion yw'r rhai y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw, aelwydydd â phlant, pobl ag anableddau. Mae rhewi'r dreth gyngor yn fesur tymor byr, er fy mod i'n siŵr y byddai croeso mawr iddo gan lawer o'r teuluoedd hynny; yr ateb tymor hwy yw diwygio'r hyn y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi ei alw yn system dreth gyngor hen, atchweliadol ac afluniol. Pam ydych chi wedi caniatáu i'r system annheg hon barhau cyhyd?

Rwy'n cytuno bod angen diwygio'r system. Mae'r adroddiad y mae'r Aelod yn ei ddyfynnu yn rhan o'r gwaith ymchwil y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gomisiynu i'r system bresennol i roi cynigion i ni ynghylch sut y gellid ei diwygio. Ceir dewisiadau pwysig iawn, dewisiadau anodd, i unrhyw un sy'n dymuno cyflwyno diwygiadau yn y system bresennol i fynd i'r afael â nhw pa un a ddylem ni—a dyma ddiben adroddiad yr IFS yn bennaf—gymryd camau radical i wneud y system bresennol o dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar, gan gynnwys ymarfer ailfandio, neu pa un a yw hi'n well meddwl am wahanol system yn gyfan gwbl. Mae gwaith sylweddol iawn wedi ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf drwy Lywodraeth Cymru i ystyried a fyddai trethiant gwerth tir yn cynnig gwell model yn gyfan gwbl, hyd yn oed na system dreth gyngor ddiwygiedig sy'n manteisio ar waith yr IFS. Felly, mae'r Llywodraeth hon wedi bod ar drywydd diwygio yma drwy gydol tymor y Senedd hon, gan wneud yn siŵr bod cynigion ymarferol y gellir eu gweithredu os sicrheir mandad ar gyfer hynny yn etholiadau'r Senedd eleni.

Rydych chi a minnau wedi trafod yr union fater hwn o'r blaen, ond y cwestiwn, wrth gwrs, yw beth yr ydym ni'n mynd i'w wneud nawr. Yr hyn y byddem ni'n ei wneud mewn Llywodraeth yw ymrwymo i ailbrisio yn fwy rheolaidd a sicrhau bod system y dreth gyngor yn fwy cymesur â gwerth eiddo. Rydym ni'n gwybod ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, ein bod ni wedi gweld gwerth eiddo yn cynyddu fwy na dwywaith cymaint o'i gymharu â Wrecsam, ac mae eiddo yn gynyddol fympwyol o ran y gwahaniaeth mewn trethiant. Ac rydym ni'n disgwyl i'n cynigion—. O dan ein cynigion ni, byddai treth gyngor 20 y cant o aelwydydd yn y pumed isaf o ddosbarthiad incwm yn gostwng gan fwy na £200, ac mae adroddiad yr IFS y cyfeiriasoch ato yn dangos y byddai hynny yn golygu bod bil cyfartalog yn gostwng gan £160 yn rhywle fel Merthyr Tudful. Dyna'r ateb tymor canolig. Yr ateb tymor hwy, fel y dywedwch, yn sicr yw cyflwyno system gwbl decach yn ei lle sy'n gysylltiedig â gwerth tir. Prif Weinidog, ble ydych chi o ran y weledigaeth tymor canolig a hirdymor?

14:00

Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna ac edrychaf ymlaen at barhau i drafod y materion hyn gydag ef, oherwydd eu bod nhw'n wirioneddol ddifrifol ac yn wirioneddol heriol o safbwynt polisi. Rwy'n cael fy nenu nid yn unig at ailbrisio rheolaidd ond ailbrisio treigl, lle byddai'n bosibl cael cofrestr sy'n cael ei diweddaru drwy'r amser fel na fyddwch chi'n cael yr ystumiadau yr ydym ni'n eu gweld pan fydd ailbrisiadau yn cael eu gohirio dros flynyddoedd lawer. Bydd hynny yn gofyn am wahanol berthynas ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, ac o bosibl system brisio ar wahân i Gymru, lle nad ydym ni'n dibynnu ar y trefniadau presennol.

Mae'r Aelod yn dyfynnu'r ffigurau o adroddiad yr IFS am yr hyn y gallai ailbrisio a diwygiadau eraill ei olygu i bobl ar waelod y raddfa incwm, ond nid yw'n dyfynnu'r ffaith y gallai hynny, i bobl ar ben uchaf y prisiadau eiddo, olygu miloedd o bunnoedd mewn biliau ychwanegol bob blwyddyn. Ac nid yw pawb sy'n byw mewn tŷ mawr, fel y mae'n gwybod, yw rhywun sydd ag incwm mawr. Felly, bydd angen rhoi trefniadau pontio sylweddol iawn ar waith er mwyn amddiffyn y rhai a fyddai'n cael eu heffeithio yn andwyol ac nad oes ganddyn nhw incwm wrth gefn; er eu bod nhw'n gyfoethog o ran asedau, maen nhw'n dlawd o ran arian parod. Felly, bydd yn fwy cymhleth na phenawdau sy'n dweud y bydd rhai rhannau o Gymru yn well eu byd, oherwydd bydd yn rhaid llywio'r system drwodd mewn modd sy'n deg i bawb, ac ni fydd mor syml, mae arnaf ofn, ag y bydd rhai o'r sloganau yn ei awgrymu.

Cyllid Cynghorau Lleol

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth fel sail i ddyraniadau cyllid cynghorau lleol? OQ56233

Diolch yn fawr, Llywydd. Amcanestyniadau poblogaeth yw un o amrywiaeth o ddata sy’n cael eu defnyddio fel sail i fformiwla setliad llywodraeth leol. Y prif ffactor sy’n llywio gwariant gwasanaeth yw lefelau poblogaeth, lefelau amddifadedd a thrwch poblogaeth.

Wel, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, newydd gyhoeddi setliad o 2.3 y cant i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yr ail setliad isaf yng Nghymru. Ac fel roeddech chi'n dweud nawr, mae hwnnw'n rannol seiliedig ar asesiadau newydd o boblogaeth y sir. Nawr, os ydy'r asesiadau newydd yma'n gywir, sef bod poblogaeth y sir yn statig, yn hytrach na'n codi'n sylweddol, pam fod adran gynllunio eich Llywodraeth chi yn mynnu bod y cynllun datblygu lleol yn Wrecsam yn gorfod delio â chynnydd sylweddol yn y boblogaeth? Mae yna anghysondeb difrifol yn fan hyn ar amser, wrth gwrs, pan fod angen cysondeb a chwarae teg er mwyn i gynghorau allu cynllunio at y dyfodol. Felly, efallai y gallwch chi ddweud wrthon ni, Brif Weinidog, pa adran o'ch Llywodraeth chi sy'n gywir yn fan hyn, yr adran sy'n dweud am Wrecsam fod y boblogaeth yno yn statig, neu'r adran sy'n dweud fod y boblogaeth yno'n cynyddu'n sylweddol.

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn cymysgu dau wahanol fath o gyfrifiadau at ddau wahanol ddiben, y deuir atynt mewn dwy wahanol ffordd. Y ffordd y caiff y setliad llywodraeth leol ei gyflwyno yw'r ffordd a ddisgrifiais yn fy ateb cyntaf: ceir fformiwla, cytunir ar y fformiwla gyda llywodraeth leol yma yng Nghymru, caiff y fformiwla ei dilysu yn annibynnol gan yr is-grŵp dosbarthu, sydd ag academyddion blaenllaw yn rhan ohono sy'n ardystio bob blwyddyn bod y fformiwla wedi ei chymhwyso yn deg ac yn gywir. Bob blwyddyn, ceir awdurdodau lleol sy'n eu canfod eu hunain yn ennill oherwydd y ffordd y mae ffactorau o fewn y fformiwla yn symud, a bydd awdurdodau lleol a fydd yn canfod nad ydyn nhw'n elwa yn y modd y bydden nhw yn ei ddymuno. Ond tra bod y fformiwla yn aros fel ag y mae, ac fel yr wyf i wedi ei ddweud erioed yn yr amser yr wyf i wedi bod yn gyfrifol amdani, os oes cynigion y gall awdurdodau lleol yng Nghymru gytuno arnyn nhw y maen nhw'n dymuno eu cyflwyno a fyddai'n caniatáu i'r fformiwla gael ei diwygio, yna wrth gwrs bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â hyn. Ond tra bod gan y fformiwla gefnogaeth, fel sydd ganddi, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a thra ei bod yn seiliedig ar ddata gwrthrychol, wedi'u dilysu yn annibynnol, yna mae'n rhaid i bob un ohonom ni ddysgu i fyw gyda hi yn y blynyddoedd y mae'n gweddu i ni a'r blynyddoedd pan nad yw'n gweddu i ni.

14:05

Oherwydd bod gan y fformiwla anghysondebau mor eang, mae hi angen Llywodraeth i'w harwain, oherwydd ni allwch chi byth gael cytundeb rhwng enillwyr a chollwyr o fewn CLlLC. O dan setliad llywodraeth leol dros dro Llywodraeth Cymru, mae cynghorau'r gogledd unwaith eto ar eu colled gyda chynnydd o 3.4 y cant ar gyfartaledd o'i gymharu â 4.1 y cant yn y de a 5.6 y cant ar gyfer y prif le, Casnewydd, ac fel y clywsom, Wrecsam yn derbyn dim ond 2.3 y cant. Fodd bynnag, Conwy, sydd unwaith eto yn cael cynnydd is na'r cyfartaledd, sydd â'r gyfran uchaf o'i phoblogaeth yn y grŵp oedran hynaf o holl siroedd Cymru, gydag Ynys Môn hefyd yn cael cynnydd is na'r cyfartaledd nad yw ymhell ar ei hôl hi yn y trydydd safle allan o 22, a phob sir yn y gogledd â chyfran uwch o'i phoblogaeth yn y grŵp oedran hynaf na Chasnewydd—sy'n ail o'r gwaelod—a Chaerdydd, ar y gwaelod. Sut gall eich fformiwla gyfiawnhau hyn, er gwaethaf y datganiadau a'r protestiadau wythnosol yn y Senedd hon sy'n tynnu sylw at hawliau ac anghenion pobl hŷn a'r angen i ddiwallu ac ariannu'r rhain?

Wel, Llywydd, fel y mae'r Aelod yn gwybod yn iawn, nid fformiwla Llywodraeth Cymru yw hon; dyma'r fformiwla y cytunir arni gyda llywodraeth leol yng Nghymru.

A chlywaf yr hyn y mae'n ei ddweud, ac mewn gwirionedd, mae'n amharchus iawn tuag at lywodraeth leol pan fydd yn honni ei bod hi'n amhosibl iddyn nhw gyflawni swyddogaeth yn y maes hwn, felly mae'n rhaid i rywun arall ei chymryd oddi arnyn nhw. Rydym ni'n eistedd i lawr bob blwyddyn gydag is-grŵp dosbarthu, y corff o arbenigwyr sy'n rhoi cyngor i ni; mae hwnnw yn mynd at grŵp o wleidyddion, yr is-grŵp cyllid y cynrychiolir awdurdodau lleol arno o'r gogledd yn ogystal â phob man arall. Mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i argymhellion y grŵp hwnnw.

Pan oeddwn i'n Weinidog llywodraeth leol a chyllid, Llywydd, yn 2017-18, rwy'n cofio eistedd yn yr is-grŵp cyllid hwnnw pan drafodwyd adroddiad ar ddiwygio'r data gwasanaethau cymdeithasol personol. Cafodd y diwygiad hwnnw yr effaith dros ddwy flynedd o symud arian i ffwrdd o dde Cymru drefol i ardaloedd gwledig yn y canolbarth, y gorllewin a'r gogledd. Argymhellwyd hynny gan yr is-grŵp dosbarthu, ac er gwaethaf y ffaith y byddai'r rhan fwyaf o Aelodau'r is-grŵp cyllid yn gweld eu hawdurdodau eu hunain ar eu colled, fe'i cytunwyd gan y grŵp hwnnw hefyd. Dyna natur y fformiwla; rydych chi'n ei diweddaru, rydych chi'n ei diweddaru yn wrthrychol, rydych chi'n defnyddio'r data gorau y gallwch chi, ac rydych chi'n ei gweithredu, ac rydych chi'n ei gweithredu mewn ffordd nad yw'n ceisio gweld lle mae'r gweithrediad yn glanio yn ddaearyddol; rydych chi'n ceisio gwneud yn siŵr ei bod yn deg, yn wrthrychol ac yn amddiffynadwy, ledled Cymru.

Ansicrwydd Bwyd

4. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd yng Nghaerdydd? OQ56245

Llywydd, diolchaf i'r Aelod. Strategaeth Llywodraeth Cymru yw cefnogi arloesedd yn y sector statudol a'r trydydd sector yng Nghaerdydd, ac yna gweithio gyda mentrau llwyddiannus sy'n dangos y potensial i helpu i fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd ar raddfa ehangach.

Diolch, Prif Weinidog am yr ateb yna. Rydym ni i gyd wedi gweld y lluniau o foron a phupurau wedi'u torri, a oedd i fod yn ddigonol ar gyfer gwneud pum cinio i deuluoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim yn Lloegr, ac rwy'n siŵr y byddech chi'n rhannu fy mraw bod cwmnïau preifat wedi cael codi £30 am barseli bwyd mor gwbl annigonol. Mewn cyferbyniad, mae gan bob plentyn sy'n cael prydau ysgol am ddim yng Nghaerdydd y sicrwydd o dalebau gwerth bron i £20, y gallan nhw eu gwario yn yr archfarchnad leol o'u dewis.

Yn anffodus, mae'r pandemig wedi amlygu sut mae deietau gwael yn troi'n iechyd gwael ac yn gwneud teuluoedd difreintiedig gymaint yn fwy tebygol o ddal a marw o COVID na theuluoedd sy'n gallu fforddio bwyd maethlon, ac nid yw'r sefyllfa honno yn cael ei helpu gan y tarfu ar fwydydd bob dydd sy'n cael eu mewnforio o'r UE. Mae'r cynllun gweithredu adferiad gwyrdd a luniwyd gan Syr David Henshaw ac eraill yn cynnwys syniadau ardderchog ar gyfer mynd i'r afael â'n system fwyd ansicr, gan gynnwys amaethyddiaeth drefol lle mae ei hangen fwyaf, cynyddu nifer y bobl sy'n gwybod sut i dyfu bwyd, a chysylltu tyfwyr â marchnadoedd lleol. Ond ar ôl siarad â phennaeth Ymddiriedolaeth Trussell yng Nghymru, nid yw'n eglur pa un a fydd hyn yn ddigon i atal y cynnydd parhaus i nifer y teuluoedd y mae'n rhaid iddyn nhw droi at fanciau bwyd yn y cyfnod hynod anodd hwn. Pa ran all Llywodraeth Cymru ei chwarae, naill ai drwy ei pholisïau caffael ei hun neu strategaethau eraill, i fynd i'r afael â'r ansicrwydd bwyd a'r deiet gwael y mae'r coronafeirws wedi eu hamlygu fel cyfrannwr mor fawr at salwch cronig a bod yn agored i glefydau?

14:10

Llywydd, diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiynau dilynol yna. Rwy'n ofni fy mod i'n ddigon hen i gofio pan wnaeth Cyngor Sir Swydd Amwythig, o dan reolaeth y Ceidwadwyr yn ystod cyfnod Thatcher, roi brechdanau pâst cig i'w blant prydau ysgol am ddim fel cinio Nadolig un flwyddyn. Felly, nid yw'n syndod i mi o gwbl i ganfod, pan fydd gwasanaeth cyhoeddus yn darparu rhywbeth i blant mewn angen, yna maen nhw'n cael gwell bargen na phan fydd hyn yn cael ei drosglwyddo i ffrindiau sy'n gwneud elw yn y Blaid Geidwadol.

Rwy'n cytuno â'r Aelod am adroddiad Henshaw, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gyfrannodd ato. Cefais gyfle i gyfarfod â'r grŵp yn gynnar yn eu gwaith, ac mae'n rhoi rhai syniadau ymarferol iawn i ni o sut y gallwn ni wneud yn siŵr, wrth i ni adfer yn sgil y coronafeirws, ein bod ni'n gallu gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi ein hamgylchedd, a'r lle sydd gan fwyd yn hynny, ar frig ein hagenda.

Llywydd, gofynnodd yr Aelod am rai enghreifftiau o'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, a dyma, yn gyflym iawn, nifer fach yn unig. Fel y dywedais, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw buddsoddi mewn syniadau ac yna gwneud i'r syniadau hynny fynd ymhellach pan ganfyddir eu bod nhw'n profi i fod yn rhai da. Yn fy etholaeth i, Llywydd, mae prosiect y Dusty Forge yn brosiect gwych a oedd yn gartref i'r cynllun pantri cyntaf yng Nghymru. Mae hwnnw wedi mynd i rannau eraill o Gymru erbyn hyn, gan gynnwys, rwy'n gwybod, eglwys Glenwood yn etholaeth yr Aelod ei hun. Ychydig cyn y Nadolig, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Lee Waters £100,000 i fynd â'r cynllun Blwch Mawr Bwyd a oedd wedi dechrau ym Mro Morgannwg i gymunedau'r Cymoedd, ac mae wedi cael ei arddangos yn llwyddiannus mewn dwy ysgol arloesi yn y Barri, a byddan nhw bellach ar gael i bum ysgol ym Merthyr, Aberdâr, Maesteg a Rhydaman.

Rhoddaf un enghraifft olaf, Llywydd, ar raddfa ychydig yn fwy—mae Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â'i fwrdd iechyd lleol a'i brifysgol leol, yn defnyddio arian drwy'r gronfa her economi sylfaenol, yn dod o hyd i ffyrdd y gall caffael bwyd lleol yn y sector cyhoeddus gynnig gwell bwyd mewn ysbytai, mewn colegau ac mewn cartrefi pobl hŷn, ond bydd hefyd yn sicrhau cyflenwad, yn cryfhau economïau lleol ac yn lleihau'r ôl troed carbon. Gan weithio gyda'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol, rydym ni hefyd yn awyddus i gymryd y syniadau hynny a'u mewnblannu mewn ardaloedd lleol eraill yng Nghymru.

Prif Weinidog, mae hwn yn faes pwysig iawn, ac mae'r mentrau bwyd cydweithredol a sefydlodd glybiau bwyd lle mae aelodau yn cael mynediad at amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau ffres am bris rhesymol wedi creu argraff fawr arnaf i. Ond hefyd, rhoddir cyfle iddyn nhw wella eu sgiliau coginio os oes angen, ac yn wir, pan fydd y pandemig ar ben ac y gallwn ni gyfarfod yn gymdeithasol unwaith eto, cyfarfod i rannu eu profiadau a pharatoi bwyd gyda'i gilydd—sgiliau, felly, y maen nhw'n amlwg yn eu trosglwyddo i'w haelwydydd. Mae gan y mathau hyn o ddatblygiadau arloesol lawer i'w hargymell yn fy marn i, oherwydd rwy'n credu bod awydd naturiol i fwyta'n dda, ac nid yw coginio, pan fydd gennych chi'r sgiliau, y baich y gall ymddangos i fod, os nad ydych chi wir yn gwybod sut i fynd i'r afael â llawer o'r sylweddau bwyd sydd ar gael i chi.

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod David Melding yn gwneud pwynt pwysig iawn mai'r reddf ddynol naturiol yw rhannu bwyd a defnyddio'r broses o rannu bwyd fel sail ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod o'r Senedd a wnaeth fwyta cinio Nadolig rhithwir eleni gydag aelodau o'r teulu ymhell i ffwrdd yng Nghymru, ac er ei bod hi'n wych gweld pobl hyd yn oed yn y ffordd honno, nid yw cystal â'r hyn y soniodd David Melding amdano—am bobl yn dod o amgylch y bwrdd gyda'i gilydd ac yn rhannu pryd o fwyd. Ond rwy'n credu bod ei enghraifft gyntaf—yr hyn y soniodd amdani o ran mentrau bwyd cydweithredol—yn bwysig iawn. Mae'r cynllun pantri y cyfeiriais ato, wrth ateb Jenny Rathbone, yn enghraifft o hynny. Mae pawb yn talu £5 i mewn i'r cynllun ac yna'n cael tynnu bwyd allan o'r stoc gyfunol.

Ac er bod banciau bwyd yn gwneud gwaith gwych, er ei bod yn drist bod angen i'r gwaith hwnnw gael ei wneud, yr hyn y mae'r cynllun pantri yn ei wneud yw cael dros y synnwyr hwnnw sydd gan bobl sy'n defnyddio banciau bwyd o fod yn ddibynnol arnyn nhw, o fod mewn perthynas cleient. Gyda'r pantri, rydych chi'n aelod, gan eich bod chi mewn menter gydweithredol, ac rydych chi wedi talu i mewn ac rydych chi'n tynnu allan ohono drwy hawl, ac mae hynny yn newid y ddeinameg gyfan. A byddai gan fwy o ddatblygiadau o'r math hwnnw fanteision o'r math y cyfeiriodd David Melding atyn nhw, ond byddai ganddyn nhw fanteision ehangach hefyd o ran rhoi i bobl y synnwyr hwnnw o werth ac urddas cymdeithasol, y byddai'r ddau ohonom ni, mi wn, yn dymuno ei weld.

14:15
Effaith Brexit ar Bobl Ifanc

5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar bobl ifanc yng Nghymru? OQ56249

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Diolch i'r—. Mae'n ddrwg iawn gen i, Llywydd; rwy'n troi gormod o dudalennau yn y fan yma. Mae'n gywilyddus y bydd ein pobl ifanc yn cael eu heithrio o raglen Erasmus, ni fydd y rhaglen gyfnewid ryngwladol fwyaf mewn hanes bellach yn gallu byw a gweithio yn rhwydd yn 27 yr UE, a bydd yn dioddef o ganlyniad economaidd dull Llywodraeth y DU o ymdrin â Brexit.

Diolch, Prif Weinidog, ac, fel y gwyddoch, rwyf i wedi siarad o'r blaen yn y Senedd am sut, fel person ifanc o gymuned ddifreintiedig nad oedd erioed wedi cael gwyliau tramor o'r blaen, i mi gael cyfle i astudio ym Mhrifysgol Paris diolch i gyllid a chefnogaeth gan raglen Erasmus. Mae'n ymddangos nad oes fawr o amheuaeth y bydd rhaglen Turing yn olynydd israddol iawn, a cheir ofnau gwirioneddol, diolch i benderfyniad sbeitlyd, hunandrechol a chwbl ddiangen Llywodraeth y DU i dynnu yn ôl o Erasmus+, y bydd llawer o bobl ifanc yng Nghymru ar eu colled, yn enwedig y rhai hynny sydd fwyaf difreintiedig. Nawr, bu rhywfaint o sôn y gellir dod o hyd i ffordd o alluogi pobl ifanc yng Nghymru a'r Alban i barhau i gymryd rhan yn Erasmus, sy'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu yn wresog. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am unrhyw drafodaethau yn hyn o beth, ac a all ef fy sicrhau y bydd yn mynd ar drywydd pob llwybr posibl i alluogi pobl ifanc Cymru i barhau i gymryd rhan yn y cynllun hwn sy'n newid bywydau?

Llywydd, rwy'n cytuno yn llwyr â Lynne Neagle—mae'n brofiad sy'n newid bywydau i fynd dramor i weithio, i astudio, i gyfarfod â phobl ifanc eraill sydd â gwahanol brofiadau, ac mae'n un o benderfyniadau mwyaf ofnadwy Llywodraeth y DU hon i gymryd y cyfleoedd hynny oddi wrth bobl ifanc nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws gweddill y DU. Derbyniodd y Gweinidog Addysg lythyr ar 19 Ionawr gan y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion yn Llywodraeth y DU. Dyma'r hyn yr oedd y llythyr yn ei ddweud: 'Fe wnaethoch chi godi'r posibilrwydd y gallai Cymru ymuno ag Erasmus+ fel cyfranogwr annibynnol. Nid yw'r cymhwysedd gennych chi i ymrwymo i unrhyw gytundeb o'r fath'.

Felly, nid yn unig y maen nhw'n benderfynol o atal cyfleoedd drwy eu gweithredoedd eu hunain, ond maen nhw'n ceisio rhwystro'r ymdrechion y byddem ni'n eu gwneud—a byddem yn sicr yn eu gwneud nhw ochr yn ochr â Llywodraeth yr Alban, pe byddai hynny yn bosibl—i ddod o hyd i ffyrdd eraill y gellid sicrhau bod y cyfleoedd hynny ar gael. Nid yw hynny'n golygu, Llywydd, am eiliad nad ydym ni'n parhau i feddwl am bob ffordd y gallwn ni i ddod o hyd i gyfleoedd i'r bobl ifanc hynny. Cefais gyfarfod â llysgennad yr Almaen yn ddiweddar. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn pryd y soniodd am bosibiliadau dwyochrog ar gyfer trefniadau cyfnewid rhwng pobl ifanc yma a phobl ifanc yn yr Almaen. Trafodais holl fusnes Erasmus gyda Gweinidog tramor Gweriniaeth Iwerddon yn ddiweddar, unwaith eto gyda'r nod o weld a oes unrhyw lwybrau y gallem ni eu harchwilio yno.

Rydym ni eisiau i bobl ifanc o Gymru allu ymweld, gweithio, astudio, cael yr holl fanteision y cyfeiriodd Lynne Neagle atyn nhw, ac rydym ni eisiau i bobl ifanc o rannau eraill o'r byd ddod yma i Gymru hefyd—posibilrwydd sy'n cael ei ddiystyru yn llwyr yng nghynllun Turing. Dros y penwythnos, Llywydd, rhoddais bleser bach i mi fy hun a gwrandewais am hanner awr ar Wasanaeth y Byd. Cyfweliad oedd hwn gydag epidemiolegydd nodedig iawn, yn arwain tîm ym mhrifysgol Llundain, ac yn ystod y cyfweliad gofynnodd y cyfwelydd iddo, 'Sut y daethoch chi i weithio yn Llundain?' a dywedodd, 'Wel, cefais fy magu yn yr Almaen, fe es i i Belfast ar gynllun Erasmus, ac rwyf i wedi aros yma byth ers hynny.' Dyna'r hyn yr ydym ni'n troi ein cefnau arno trwy agwedd fychanfrydig y Llywodraeth hon yn y DU at yr hyn sydd wedi bod yn un o drysorau'r Undeb Ewropeaidd.

14:20
Darparu Brechlyn COVID-19

6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu brechlyn COVID-19 yng Nghaerffili? OQ56227

Wel, Llywydd, cafwyd ymdrechion gwych gan bawb sy'n gysylltiedig â chyflawni'r rhaglen frechu yma yng Nghymru ar gyfradd gyflym ac sy'n cyflymu. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae 72 o feddygfeydd teulu yn cymryd rhan yn y rhaglen ar draws ardal gyfan y bwrdd, gan gynnwys yr holl feddygfeydd teulu ym mwrdeistref sirol Caerffili.

Rwy'n cytuno; rwy'n credu bod bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi rhoi pob gewyn ar waith. Mae wedi bod yn gwbl anhygoel gweld rhaglen frechu yn dechrau o ddim i'r hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu ar hyn o bryd, sef bod 77 y cant o bobl 80 oed wedi cael eu brechu. Mae'n debyg bod hynny wedi cynyddu ers i'r sesiwn ddechrau heddiw. Pryder rhai trigolion yr wyf i wedi bod mewn cysylltiad â nhw fu ynghylch ciwio y tu allan i'r canolfannau, ac un broblem yw y bydd y bobl hynny y mae'n rhaid iddyn nhw ddal bysiau o ardaloedd fel Senghennydd, Abertridwr a Nelson yn canfod nad oes ganddyn nhw unrhyw ddewis ond cyrraedd yn gynnar, oherwydd dyna sut mae'r bysiau yn gweithio. Rwyf i wedi bod mewn cysylltiad â chyngor Caerffili, sy'n ymchwilio i gludiant cymunedol i geisio darparu gwell gwasanaeth cludiant yn syth i'r ganolfan i bobl. Mae cyngor Caerffili wedi dod yn ôl ataf ac wedi dweud eu bod nhw'n ymchwilio i'r dewisiadau hynny ac yr hoffen nhw ei redeg, hefyd, ar sail ranbarthol. A wnaiff y Prif Weinidog, gan gydnabod y cynnydd enfawr sydd wedi ei wneud, hefyd roi rhywfaint o gefnogaeth i ddarpariaeth o gludiant cymunedol i ganolfannau brechu torfol?

Llywydd, diolchaf i Hefin David am y cwestiwn dilynol yna, ac mae yn llygad ei le ynglŷn â'r hyn sydd wedi ei gyflawni yng Nghaerffili—mae dros 7,000 o bobl dros 80 oed eisoes wedi'u brechu yn y fwrdeistref. Mae rhywun yn cael ei frechu bob pum eiliad yma yng Nghymru, felly rwy'n eithaf sicr, erbyn i'r cwestiwn hwn ddod i ben, y bydd rhywun yng Nghaerffili wedi cael ei frechu yn rhan o'r rhaglen honno, ac rwy'n credu ei fod yn dweud rhywbeth wrthym ni, Llywydd, ein bod ni bellach ar y cam hwnnw yn y rhaglen lle'r ydym ni'n gallu canolbwyntio nid yn unig ar yr ymdrech seilwaith enfawr a wnaed i sicrhau'r holl ganolfannau brechu torfol, y tros 400 o feddygon teulu sy'n cymryd rhan, yr unedau symudol sydd allan yna yn brechu hefyd, ond ein bod ni'n gallu canolbwyntio bellach ar fanylion ymarferol o'r math y mae Hefin David wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma. Wrth gwrs, nid ydym ni eisiau gweld pobl oedrannus, yn arbennig, yn gorfod ciwio y tu allan yn nhywydd mis Ionawr a mis Chwefror, a gwneud yn siŵr bod cyfleoedd cludiant i bobl nad ydyn nhw'n gallu dibynnu ar eu ceir eu hunain pan fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw fynd i leoliad penodol i gael brechiad, dyna'r mathau o fanylion yr ydym ni'n gallu mynd i'r afael â nhw nawr. Ac yn y gwaith sy'n cael ei arwain gan fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething, ac rwy'n ymuno ag ef bob wythnos mewn cyfarfod gyda'r prif dîm sy'n gyfrifol am frechu ledled Cymru, byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n codi'r materion y mae'r Aelod wedi eu codi heddiw fel y gallwn ni gynorthwyo ymdrechion Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn parhau i fod y llwyddiant ysgubol yr yw hi heddiw.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru? OQ56244

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu gwasanaethau sy'n rhoi cyngor a chymorth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i wneud ceisiadau am statws preswylydd sefydlog, a chyngor cyffredinol ac arbenigol arall, sy'n ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion, o fudd-daliadau lles cymdeithasol i faterion cyflogaeth a gweithle.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae Cymru yn gartref, ac wedi bod ers cryn amser, i bobl o bob rhan o'r UE; maen nhw wedi sefydlu eu teuluoedd yma, wedi magu eu teuluoedd, maen nhw wedi gwreiddio eu hunain yn ein diwylliant yng Nghymru, ac, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi ei gyfoethogi gyda'u diwylliant hwythau hefyd. Mae llawer ohonyn nhw wedi gweithio drwy gydol y pandemig hwn i gadw ein gwasanaethau allweddol yn rhedeg, ac eto—ac eto—rydym ni'n gwybod bod gormod o hyd nad ydyn nhw wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog hyd yn hyn. Felly, gyda'r datblygiad sy'n peri pryder braidd yr wythnos diwethaf bod Llywodraeth y DU yn cynnig, yn rhyfedd iawn, cymhellion ariannol i ddinasyddion yr UE adael y DU, a wnewch chi sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu yng Nghymru a phopeth o fewn eich gallu chi fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod dinasyddion yr UE sy'n byw yma yn ymwybodol o'u hawliau, yn ymwybodol o sut i sicrhau statws preswylydd sefydlog, ac, yn hollbwysig, y dywedir wrthyn nhw yn glir mai dyma eu cartref a bod croeso mawr iawn iddyn nhw yma?

14:25

Wel, Llywydd, rwy'n cytuno yn llwyr â Huw Irranca-Davies. Mae'n sicr wedi bod yn un o'n llwyddiannau mawr ein bod ni wedi perswadio pobl o rannau eraill o'r byd i ddod i wneud eu dyfodol nhw yn rhan o'n dyfodol ni yma yng Nghymru. Ac maen nhw'n dod gyda nhw, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, nid yn unig y sgiliau y maen nhw'n eu cynnig a'r cyfleoedd economaidd y maen nhw'n ein helpu ni i'w creu, ond maen nhw'n dod â'r cyfoeth diwylliannol hwnnw sy'n dod o gael pobl o rannau eraill o'r byd yn rhan o gymdeithas Cymru a chymunedau Cymru. Ac mae'n neges gymysg, i'w roi yn y ffordd fwyaf cwrtais, bod Llywodraeth y DU, tra ar y naill law yn honni ei bod yn annog gwladolion yr UE i aros yma yng Nghymru, yn cyhoeddi yn dawel y ffaith bod y bobl hynny yn cael eu trin bellach yn unol â chynllun dychwelyd gwirfoddol Llywodraeth y DU. Wel, allwn ni ddim ei chael hi bob ffordd, Llywydd. Naill ai rydym ni i gyd yn gweithio'n galed i'w hannog i aros, neu rydym ni'n gwneud trefniadau i'w helpu i adael. Ac yma yng Nghymru, rydym ni eisiau eu hannog nhw i aros, am yr holl resymau y mae Huw Irranca-Davies wedi eu dweud. Dyna pam yr ydym ni wedi cyfrannu £2 filiwn o arian Llywodraeth Cymru at gyngor arbenigol i helpu pobl gyda cheisiadau statws preswylydd sefydlog; dyna pam yr ydym ni wedi ymestyn y contract gyda'r canolfannau Cyngor ar Bopeth hyd at ddiwedd mis Mehefin i wneud yn siŵr eu bod nhw yno hyd at y funud olaf, yn helpu pobl gyda'r hyn sydd ei angen arnyn nhw.

Ac fy marn i yw y dylid ymestyn y dyddiad erbyn pryd y gellir gwneud cais am statws sefydlog y tu hwnt i 30 Mehefin. Yr hyn yr ydym ni'n ei ddysgu yw, yng nghyd-destun y coronafeirws, i bobl sydd â heriau ieithyddol, yn ceisio gwneud hynny o bell, yn ceisio gwneud hynny dros y ffôn, yn ceisio gwneud hynny drwy lenwi ffurflenni—mae'n gosod rhwystrau ar lwybrau pobl sydd eisiau aros ac yr ydym ni eisiau iddyn nhw aros, ond pan fo cyngor wyneb yn wyneb wedi bod yn llawer anoddach ei drefnu. Byddai dim ond rhoi mwy o amser i ganiatáu i'r bobl hynny gwblhau'r broses yn y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ei ddweud y bydden nhw eisiau ei gweld fyddai er budd pawb, ac rydym ni'n parhau i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y ddadl honno i Lywodraeth y DU, oherwydd rydym ni eisiau gweld y bobl hynny sy'n gwneud cyfraniad mor gadarnhaol at fywyd Cymru yn gallu parhau i wneud hynny.

Adfywio'r Stryd Fawr

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio'r stryd fawr yng Ngogledd Cymru? OQ56211

Llywydd, mae ein rhaglen trawsnewid trefi yn y gogledd yn canolbwyntio ar gefnogi bywiogrwydd canol ein trefi, gan eu gwneud nhw'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gan ganiatáu i swyddi gael eu creu a gwella cyfleusterau cymunedol. Gan weithio yn agos gyda phartneriaid awdurdodau lleol, mae prosiectau gwerth dros £39 miliwn yn cael eu cyflawni dros y cyfnod rhwng 2018 a 2021.

Diolch. Prif Weinidog, mae llawer o siopau'r stryd fawr wedi diflannu ac maen nhw'n annhebygol o ddychwelyd byth. Mae colli Debenhams a brandiau Grŵp Arcadia a'r swyddi sy'n gysylltiedig â'r siopau ffisegol yn cael ei deimlo yn aruthrol ar draws y gogledd. Mae'r pandemig wedi arwain at foratoriwm ar ardrethi busnes, a fydd, yn ei dro, yn arwain at ostwng refeniw treth i awdurdodau lleol. A yw'n bryd bellach rhoi ailystyriaeth radical i gyfundrefn ardrethi busnes sydd wedi cael ei hystyried yn ddylanwad cyfyngol ar fusnesau newydd sbon a'u cynaliadwyedd, ac edrych ar rywbeth sy'n adlewyrchu arferion siopa modern, fel treth fach ar werthiannau ar-lein?

14:30

Diolch i'r Aelod am y cyfraniad yna. Mae'n dilyn ymlaen o'r drafodaeth yr oeddwn i'n ei chael gydag Adam Price yn gynharach y prynhawn yma. Mae treth ar werthiant yn ddewis arall, mae Mandy Jones yn iawn, y gellir ei hystyried yn rhan o amrywiaeth o bethau y byddai modd eu cyflwyno i ddisodli'r system ardrethi busnes ochr yn ochr â system y dreth gyngor ddomestig.

Bydd wir angen dychymyg ar ganol ein trefi o ran y ffordd y maen nhw'n gwella o'r pandemig. Mae angen iddyn nhw gael eu cefnogi yn hynny o beth gan gyfundrefn dreth y DU sy'n cymryd trethi oddi wrth y rhai sy'n masnachu ar-lein, ac sydd, ar hyn o bryd, yn dianc rhag hynny i raddau helaeth, tra bod rhywun ar y stryd fawr yn gorfod gwneud ei gyfraniad. Yn y tymor byr, rydym ni'n parhau i ddarparu ein rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, sy'n darparu rhyddhad ardrethi sylweddol i nifer fawr iawn o fusnesau bach yn arbennig yma yng Nghymru. Ceir rhaglen ddiwygio hirach, nid yn unig o ran ardrethi busnes, ond hefyd yn natur y stryd fawr yn y dyfodol, ac rwy'n cytuno â'r Aelod bod angen dechrau meddwl ynghylch hynny nawr, a bod angen i hynny gynnwys cynifer o syniadau llawn dychymyg y gellir eu cyflwyno.

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog, a dwi'n galw ar Vikki Howells i ofyn y cwestiwn cyntaf. Vikki Howells. 

Diogelwch Cymunedol yng Nghwm Cynon

1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch cymunedol yng Nghwm Cynon? OQ56210

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel, yn gryf ac yn gadarn. Rydym ni'n parhau i weithio gyda'n pedwar heddlu, awdurdodau lleol, Llywodraeth y DU ac asiantaethau eraill i helpu i sicrhau bod ein pobl a'n cymunedau yn parhau i fod yn ddiogel.

Diolch, Dirprwy Weinidog, a hoffwn i  ddiolch i bawb sy'n gweithio mor galed i gadw ein cymunedau yn ddiogel yn y cyfnod anodd iawn hwn.

Yn ystod y pandemig, mae fy etholaeth i wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglus gan feiciau modur oddi ar y ffordd sydd yn anghyfreithlon yn defnyddio llwybrau cerdded poblogaidd a hawliau tramwy cyhoeddus eraill. Mae gwaith canmoladwy Llywodraeth Cymru i agor ein llwybrau cerdded a chaniatáu defnydd cwbl gynhwysol, drwy ddileu rhwystrau, wedi ei gwneud yn llawer haws i feiciau modur oddi ar y ffordd ddefnyddio llwybrau o'r fath, ac yn fwy anodd i'r heddlu orfodi'r gyfraith a chadw trigolion yn ddiogel. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Heddlu De Cymru a gyda'r comisiynydd heddlu a throseddu ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â'r broblem anhydrin hon?

Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells, am y cwestiwn yna, cwestiwn pwysig ynglŷn â hyrwyddo diogelwch cymunedol, ac, fel y dywedwch, diolch i bawb yn eich etholaeth yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, am y ffyrdd y maen nhw wedi gweithio i sicrhau bod diogelwch cymunedol yn bodoli.

Ond rydych chi wedi codi mater beicio oddi ar y ffordd. Rwy'n ymwybodol iawn, ac mae eich tystiolaeth chi heddiw yn amlwg yn dangos y bu cynnydd wedi bod mewn adroddiadau o weithgarwch anghyfreithlon yn ystod y cyfyngiadau symud, ac, wrth gwrs, sy'n tresmasu ar yr holl fannau agored pwysig hynny ar gyfer cerdded ac ar gyfer gwneud ymarfer corff, sydd mor hanfodol i iechyd a lles. Rwyf i yn deall bod Heddlu De Cymru wedi cynllunio gweithrediadau yn rhan o ddull o fynd i'r afael â'r mater hwn. Gan fod gennym ni berthynas gref â'n heddluoedd, byddaf i'n codi'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud a sicrhau ein bod ni'n ystyried gyrru oddi ar y ffordd fel mater lle gallwn ni sicrhau nad ydyn nhw'n defnyddio llwybrau lle nad oes hawliau i gerbydau, neu'n gyrru mewn modd anghyfreithlon, ac y bydd hwn yn fater pwysig o ran diogelwch cymunedol a lles.

Y Sector Gwirfoddol

2. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r sector gwirfoddol yng Nghymru? OQ56239

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid craidd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i'w galluogi i gefnogi mudiadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddoli ledled Cymru. Rydym ni wedi cymeradwyo £26.5 miliwn, gyda £5.7 miliwn ychwanegol ar gyfer y sector gwirfoddol—cymeradwywyd y £5.7 miliwn olaf hwnnw yr wythnos hon—i gefnogi'r sector yn ystod y pandemig.

Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog. Mae grwpiau gwirfoddol ac elusennau yn gwneud gwaith eithriadol i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Un grŵp o'r fath yw Apêl Sparkle, sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd gydag anableddau ac anawsterau datblygu, yng nghanolfan Serennu yng Nghasnewydd. Mae eu gwaith yn hollbwysig. Fodd bynnag, maen nhw eu hunain wedi cael blwyddyn eithriadol o anodd, gyda chyfyngiadau COVID yn gweld eu gwaith a'u cyfleoedd ariannu wedi'u cyfyngu. Roedden nhw'n gwerthfawrogi'r grant Llywodraeth Cymru a gawsant y llynedd yn fawr iawn, a oedd â'r nod o dalu am chwe mis o gostau craidd; fodd bynnag, naw mis yn ddiweddarach, mae eu cyflwr ariannol yn dioddef. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydliadau o'r fath, i sicrhau y gallan nhw barhau i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed drwy'r cyfnod hwn, oherwydd mae'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn hanfodol, ac allwn ni ddim fforddio eu colli?

14:35

Diolch, Jayne Bryant, am dynnu sylw at yr elusen bwysig hon yn eich etholaeth chi. Yn wir, mae gwaith ysbrydoledig, fel yr ydych chi wedi ei ddisgrifio, yn cael ei wneud gan elusennau fel Sparkle. Ac, wrth gwrs, mae eu holl wirfoddolwyr yn ardal Gwent yn helpu yn arbennig i gefnogi plant a phobl ifanc anabl a'u teuluoedd. Felly, fel yr ydych chi'n ei ddweud, fe wnaeth Sparkle elwa ar y grant o £90,000 o'r hyn oedd cronfa argyfwng ein gwasanaethau gwirfoddol, yn ystod y pandemig, a byddwn ni'n sicrhau bod y ffynonellau cymorth hyn i sefydliadau'r trydydd sector yn parhau yn ystod y pandemig. Ond mae hi wedi bod yn her fawr i gymunedau a grwpiau o'r math hwn, oherwydd yr achosion o goronafeirws. Oherwydd mae cynifer ohonyn nhw, wrth gwrs, wedi colli incwm, yn ogystal â chael galwadau a disgwyliadau ychwanegol arnyn nhw, ac mae cynifer o wirfoddolwyr wedi ymgysylltu. Ond rwyf i yn falch iawn ein bod ni, fel y dywedais i wrth ateb eich cwestiwn cyntaf, yn darparu £5.7 miliwn arall i barhau â'r gwaith hwn drwy'r pandemig, a gobeithio y bydd hyn yn gallu cefnogi sefydliadau fel eich un chi.

Goroeswyr Trais Domestig

4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am rôl gwasanaethau cymorth arbenigol o ran cefnogi goroeswyr trais domestig yn ystod y pandemig? OQ56241

Ni allaf i ddiolch digon i'r gwasanaethau arbenigol am eu hymateb i ddioddefwyr yn ystod y pandemig. Maen nhw wedi bod yn achubiaeth hanfodol i gymaint o bobl, ac maen nhw wedi dangos cadernid, cryfder a gallu gwych i addasu. Mae fy swyddogion yn cyfarfod â'r grŵp strategol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn rheolaidd i drafod yr effaith ar y sector o ran cefnogi goroeswyr trais domestig.

Diolch i chi am yr ateb yna. Fel y gwyddoch chi, wrth gwrs, mae'r argyfwng hwn a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi arwain at gynnydd mewn risg i fenywod sydd naill ai mewn perthynas gamdriniol neu sy'n ffoi rhagddynt. Ond mae argyfwng cyn waethed ar y gorwel sy'n gysylltiedig ag ariannu'r gwasanaethau cymorth arbenigol sy'n darparu achubiaeth yn llythrennol, neu'n drosiadol i'r menywod hyn. Derbyniwyd yr arian yn ddiweddarach na'r disgwyl ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd gwario'r arian cyn y dyddiad cau ym mis Mawrth. Mae sefydliadau fel Cymorth i Fenywod Cymru yn galw am hyblygrwydd yn y terfyn amser hwn ar wariant, gan fod hyn yn broblem benodol mewn sefyllfaoedd lle cafodd y cyllid ei glustnodi ar gyfer recriwtio—mae sefydliadau wedi cael amser byr iawn i recriwtio a hyfforddi staff newydd i ateb y galw parhaus am wasanaethau. Os na chaiff yr hyblygrwydd hwnnw ei gyflwyno, Gweinidog, neu os yw'r ymrwymiad ariannu'n cael ei wneud i gyfateb â hynny ar ôl mis Mawrth, yna bydd llawer o staff yn cael eu colli. Yn sicr, Gweinidog, ni fyddai neb eisiau i'r sefydliadau hyn ailgeisio am arian ar ôl mis Mawrth, gan y gallai hyn y golygu amser ac adnoddau y gellid eu defnyddio'n well  i amddiffyn menywod. Felly, a wnaiff y Llywodraeth fynd i'r afael â'r pryderon hyn os gwelwch yn dda ac ystyried hyn ar frys?

Diolch, Delyth Jewell, am godi'r cwestiwn pwysig yna, oherwydd mae'n rhaid i ni sicrhau bod yr arian hwn sydd wedi ei neilltuo yn cyrraedd y gwasanaethau arbenigol hynny. Oherwydd bod y sector ei hun—ac, fel y dywedais i, mae fy swyddogion, ac yn wir fi fy hunan, pan rwy'n gallu, yn cwrdd â'r sector yn rheolaidd—wedi cael dros £4 miliwn o gyllid ychwanegol eleni; mae'n 67 y cant yn ychwanegol o'i gymharu â'r llynedd. Ac mae hyn hefyd yn ymwneud â sicrhau ein bod yn buddsoddi yn anghenion y sector, yn enwedig, er enghraifft, o ran llety, y llety cymunedol gwasgaredig—felly cyfalaf yn ogystal â refeniw. Ac mae'n bwysig hefyd bod y cyllid refeniw ychwanegol yn ymateb i'r anghenion sydd wedi eu codi gyda ni yn ystod y pandemig. Byddaf i, wrth gwrs, yn siarad â fy swyddogion o ran y ffyrdd y gallwn ni sicrhau bod yr arian hwnnw nid yn unig yn cyrraedd y gwasanaethau arbenigol, ond y gallan nhw ei wario a bod yna'r hyblygrwydd hwnnw. Oherwydd ei bod yn hanfodol bod yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi gallu ei godi yn y gyllideb o ganlyniad i'r pandemig, ac, yn wir, drwodd i'r gyllideb ddrafft, yn cyrraedd y dioddefwyr hynny a'r menywod yn enwedig sy'n dianc rhag trais a cham-drin domestig, a phum mlynedd i mewn i'n deddfwriaeth Trais yn erbyn menywod, Cam-drin domestig a Thrais rhywiol—deddfwriaeth arloesol—ei bod wir yn cyflawni yn lle mae'n cyfrif.

14:40
Y Sector Gwirfoddol

5. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwirfoddol yn ystod y pandemig? OQ56220

Ym mis Ebrill y llynedd, cyhoeddais £24 miliwn i gefnogi'r trydydd sector yng Nghymru drwy'r pandemig. Roedd hyn yn cydnabod y rhan hanfodol y mae'r sector yn ei chwarae ac y mae wedi ei chwarae yn yr ymateb i COVID-19. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais £2.5 miliwn arall i sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth.

Diolch yn fawr am yr ymrwymiad hwnnw sy'n cael ei ddangos gan y Llywodraeth, ond yr un yw'r ymrwymiad y mae mudiadau'r sector gwirfoddol yn ei roi i'w cymunedau, yn enwedig yn y cyfnod hwn o angen mawr. Yr hyn yr wyf i eisiau ei ofyn i chi heddiw, Dirprwy Weinidog, yw a fyddech chi'n ymrwymo i ddiolch i'r holl unigolion hynny ledled Cymru, y sefydliadau elusennol sydd wedi rhoi o'u hamser yn ystod y pandemig ac sydd wedi cefnogi pobl unigol a theuluoedd a chymunedau o'r dwyrain i'r gorllewin ac o'r gogledd i'r de?

Hoffwn i ddiolch yn arbennig i Joyce Watson am roi'r cyfle imi ddiolch i'r rhai sy'n wirfoddolwyr, y sefydliadau trydydd sector hynny sydd wedi ymateb i her y pandemig. Rwy'n credu y bydd pawb yma yn y Senedd, yn eu hetholaethau i gyd, wedi gweld canlyniadau ymateb anhygoel y gwirfoddoli hwnnw i'r pandemig, mewn cymunedau, cymdogaethau, a hefyd mae sefydliadau newydd yn datblygu, yn ogystal â'r rhai presennol, ac yn sicrhau y gallan nhw estyn allan a chefnogi'r rhai sy'n dod ymlaen. Felly, hoffwn i ddiolch yn y ffordd honno, a dim ond o ran Sir Benfro, yn eich cymuned chi, i gydnabod swyddogaeth Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro. Maen nhw, wrth gwrs, yn cael grant gennym ni yn rheolaidd. Maen nhw'n cael eu cyllid craidd gennym ni a hefyd, maen nhw wedi cael cyllid ychwanegol i ymateb i'r pandemig.

A gaf i ddweud hefyd, Llywydd, ei bod mor galonogol i weld bod sir Benfro yn sir noddfa? Ac mae'r ymateb y mae'r gwirfoddolwyr wedi'i roi, o ganlyniad i fod yn sir noddfa, i'r rhai sy'n byw yng ngwersyll Penalun, mae'n rhaid imi ddweud, yn rhyfeddol. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r holl wirfoddolwyr hynny yn sir Benfro a ledled Cymru, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar y gwirfoddolwyr hynny yn sir Benfro heddiw, pan fyddwn ni'n meddwl am y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i wneud bywyd yn haws i'r bobl sy'n byw yng ngwersyll Penalun.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny. Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl ar yr egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol o ran Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) wedi'i hychwanegu fel yr eitem olaf o fusnes cyn pleidleisio heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Do, fe wnaethoch chi, Llywydd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rheolwr busnes, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r amrywiolion newydd sy'n cael eu nodi ar hyn o bryd ledled y Deyrnas Unedig? Rwy'n sylweddoli bod datganiad brechu yn ddiweddarach y prynhawn yma, ond nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cymysgu'r ddau, a bod yn onest â chi, a byddai datganiad uniongyrchol gan y Gweinidog o fudd i'r Aelodau ddeall pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ynghyd â Llywodraethau eraill ledled y DU, yn enwedig o ran amrywiolyn newydd Caint, E484K, o ystyried yr achosion uchel o amrywiolyn Caint yng Nghymru, ac, yn amlwg, y cyfyngiadau teithio sydd wedi'u gosod o ran amrywiolyn Brasil.

14:45

Diolch i Andrew R.T. Davies am godi'r mater penodol hwnnw, a byddaf i'n siarad â'r Gweinidog Iechyd i archwilio beth yw'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau o ran amrywiolion newydd yn ymddangos, ac yn benodol, yr amrywiolyn y mae'r Aelod yn cyfeirio ato sy'n peri pryder. Fel y dywedwn, mae gennym ddatganiad ynghylch brechiadau nesaf heddiw, ond byddaf yn edrych i weld pa wybodaeth ychwanegol y gellid ei darparu a fyddai'n ddefnyddiol i'r Aelodau.

A gaf i ofyn am ddatganiad llafar gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar yr ymateb i'r llifogydd diweddar mewn cymunedau ar draws Cymru? Wrth gwrs, dwi'n croesawu'r ymrwymiad i gynnig cymorth ariannol i'r cartrefi a'r busnesau hynny a gafodd eu heffeithio. Mae angen sicrwydd bod hwnnw'n cael ei dalu'n syth, ac nid mewn dau fis, fel y digwyddodd mewn achosion tebyg y llynedd, wrth gwrs. Ond, hefyd, mae angen sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod unrhyw wella sydd ei angen i'r isadeiledd atal llifogydd yn yr ardaloedd hynny a brofodd y trychinebau diweddar a bod y gwaith sydd ei angen yn fanna yn cael ei wneud y syth. Nawr, gwelliannau dros dro fyddai nhw—pethau yn y tymor byr—ond mae'n rhaid inni osgoi achosion pellach o lifogydd yn y llefydd hynny sydd wedi cael eu taro.

Hefyd, mae angen sicrhau bod y rheini a fuodd bron â chael eu taro gan lifogydd—a dwi'n gwybod am ddegau lawer o gartrefi a ddaeth o fewn modfeddi i gael eu difrodi—yn cael y cyngor a'r cyfarpar sydd ei angen i amddiffyn eu tai ar fyrder. Dwi'n sôn am bethau fel gatiau llifogydd, ac yn y blaen. Mae'r gofid am lifogydd yn cael effaith ddybryd ar iechyd meddwl pobl, wrth gwrs, heb sôn am y ffaith y byddai buddsoddi i osgoi llifogydd yn y lle cyntaf yn gwneud llawer mwy o synnwyr na gorfod delio gyda'r canlyniadau pan fydd hi'n rhy hwyr.

A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn sgil ateb cwbl annigonol y Prif Weinidog i fy nghwestiwn i ychydig yn ôl, ynglŷn â'r amcanestyniadau poblogaeth sy'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, a'r anghysondeb dybryd sydd wedi cael ei amlygu nawr rhwng yr amcanestyniadau sydd yn rhan o'r fformiwla ar gyfer pennu dyraniadau i awdurdodau lleol yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a'r amcanestyniadau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y cynlluniau datblygu lleol? Mae un yn Wrecsam yn dweud bod y boblogaeth yn mynd i fod yn statig, ac mae'r llall yn Wrecsam yn dweud bod y boblogaeth yn mynd i gynyddu'n sylweddol. Mi fyddwn i'n tybio bod hynny'n destun embaras i'r Llywodraeth yma ac yn rhywbeth y byddech chi a phob Gweinidog arall yn awyddus i'w sortio unwaith ac am byth.    

Wel, rwy'n credu bod ymateb y Prif Weinidog i'r cwestiwn a godwyd yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw yn eithaf clir. Fodd bynnag, byddaf i'n eich gwahodd chi i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn nodi eich pryderon, fel y gallwch chi gael ymateb ysgrifenedig ynglŷn â hynny.

O ran llifogydd, rwy'n cytuno'n llwyr ei bod yn bwysig bod unigolion y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw'n cael y cymorth ariannol hwnnw cyn gynted â phosibl, ond yna hefyd y cymorth o ran gwybodaeth a chyngor hefyd. Sylwaf fod gan y papur trefn ar gyfer yfory nifer o gwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynglŷn â llifogydd, ac yn enwedig effaith ddiweddar storm Christoph. Felly, gallai hynny fod yn gyfle cynnar i glywed gan y Gweinidog ynghylch y materion hyn.

Codais fater effaith economaidd wahaniaethol y coronafeirws ar gymunedau difreintiedig yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog. Hoffwn i ofyn am ddadl gan y Llywodraeth ar y mater hwn. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn destun nifer o wahanol astudiaethau ac adroddiadau a dadansoddiadau yn ystod y misoedd diwethaf, a bydd yn gosod yr agenda ar gyfer dull gweithredu'r Llywodraeth i'r materion hyn, gobeithio, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cael dadl yn amser y Llywodraeth ar effaith economaidd wahaniaethol coronafeirws ar wahanol gymunedau.

Yr ail fater yr hoffwn i ei godi, Gweinidog, yw'r lleihad yn yr amser sydd ar gael ar gyfer datganiadau a dadleuon, ar hyn o bryd, i 30 munud. Mae hyn yn lleihau'n sylweddol y cyfle i feincwyr cefn godi materion ar ran eu hetholwyr. Rwy'n cydnabod ein bod ni i gyd yn gweithio dan gyfyngiadau gwahanol ar hyn o bryd, ond mae'n bwysig ei bod yn parhau'n Senedd, ac mae hynny'n golygu bod pob un ohonom ni'n cael cyfle cyfartal i godi materion sy'n bwysig i'n hetholwyr a'n hetholaethau. Mae lleihau'r amser sydd ar gael i ni wneud hynny'n effeithio'n sylweddol ar ein gallu ni i wneud hynny, a byddwn i'n ddiolchgar os byddai modd adolygu'r mater hwnnw.

14:50

Felly, ar yr ail bwynt hwnnw, mae'r mater hwnnw'n cael ei adolygu'n gyson yn y Pwyllgor Busnes ac, yn anochel, mae'n rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd o ran y busnes yr ydym ni'n ei gyflwyno a hefyd faint o amser y gallwn ni ei roi iddo, o ystyried y ffyrdd cyfyngedig yr ydym ni'n gweithio oddi tanyn nhw ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais i, rydym ni'n parhau i adolygu hyn yn gyson gan nad yw'n fwriad o gwbl gwtogi ar y cyfle i graffu. Felly, rwy'n wirioneddol yn derbyn y pwynt hwnnw.

Ac yna roedd yr ail bwynt yn ymwneud ag effaith wahaniaethol y coronafeirws ar gymunedau ledled Cymru ac, yn sicr, bydd hynny'n bwysig o ran diffinio'r ffordd ymlaen a'r math o adferiad sydd gennym, y bydd rhaid iddo fod yn adferiad gwyrdd a theg lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Ac rwy'n gwybod y bydd cydweithwyr yn ystyried y ffordd orau o gynnal y drafodaeth honno.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y trefniadau siopa i bobl ddall a rhannol ddall. Rwy'n deall bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag archfarchnadoedd i wella eu mesurau diogelwch coronafeirws. Mae'r mesurau arfaethedig yn cynnwys systemau i reoli nifer y cwsmeriaid mewn siopau, arwyddion a hylendid mwy gweladwy, a mwy o arwyddion cadw pellter cymdeithasol. Mae nifer o'u haelodau wedi cysylltu ag RNIB Cymru yn poeni ynghylch yr hyn y gallai'r cyfyngiadau newydd ei olygu iddyn nhw. Mae cadw pellter cymdeithasol bron yn amhosibl i bobl ddall a rhannol ddall, ac mae ymdopi â chiwiau a chynlluniau siopau sydd wedi'u haddasu wedi bod yn heriol iawn iddyn nhw drwy gydol y pandemig cyfan. Felly, mae RNIB Cymru yn galw am gyhoeddi canllawiau drwy archfarchnadoedd a manwerthwyr hanfodol i sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r mathau o gymorth ac addasiadau y gallan nhw eu cynnig i gwsmeriaid dall a rhannol ddall. Mae angen i gwsmeriaid dall a rhannol ddall wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â mynediad i archfarchnadoedd ar eu cyfer, a pha ganllawiau y bydd yn eu rhoi i fanwerthwyr i godi ymwybyddiaeth staff a sicrhau nad yw pobl sy'n agored i niwed dan anfantais ychwanegol. Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am godi mater pwysig profiad pobl ddall a rhannol ddall mewn archfarchnadoedd yn ystod y cyfyngiadau presennol. Gwn ei fod yn gwneud sefyllfaoedd yn arbennig o anodd iddyn nhw, yn enwedig pan nad yw pobl bob amser yn deall y gallai pobl ddall a rhannol ddall ei chael yn fwy anodd cynnal y pellter cymdeithasol hwnnw, ac ati. Rwy'n ymwybodol fy hun o waith yr RNIB, ond byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog Iechyd—er fy mod yn siŵr ei fod eisoes yn gyfarwydd ag ef—yn adolygu hynny, gyda golwg ar archwilio beth arall y gallwn ni ei ddweud i sicrhau nad yw'r bobl hyn dan anfantais a bod cymaint â phosibl o ymwybyddiaeth yn cael ei chodi.

A gawn ni ddatganiad o ran nifer y disgyblion sydd heb ddyfais neu gyfle i ddefnyddio'r rhyngrwyd er mwyn gwneud eu gwaith addysg gartref? A oes gan y Llywodraeth syniad o nifer y plant sydd heb y modd i gymryd rhan mewn gwersi ysgol ar-lein? Oherwydd os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch dileu'r cysylltiad rhwng cyrhaeddiad ysgol a thlodi, yna dylai'r mater hwn fod yn brif flaenoriaeth. Ac mae'r ffaith bod yna blant heb y modd i gael eu haddysgu ar-lein bron flwyddyn ers inni fynd i'r cyfyngiadau symud am y tro cyntaf yn golygu y bydd y cysylltiad hwnnw rhwng cyrhaeddiad addysg a thlodi yn cael ei gynyddu. Rwyf wedi cael rhieni ac athrawon yn cysylltu â mi i ddweud bod hyn yn dal i fod yn broblem yn y Rhondda. Yn Lloegr, cafodd data di-dâl a diderfyn eu haddo i blant sydd heb y modd i fanteisio ar y rhyngrwyd yn eu cartrefi tan ddiwedd y flwyddyn academaidd, a chafodd y cynllun hwnnw ei weithredu o ganlyniad i'r Adran Addysg yn Lloegr yn gweithio gyda darparwyr rhyngrwyd. Gobeithio y gallwn ni gael cynllun tebyg wedi'i fabwysiadu yng Nghymru'n fuan, a hoffwn i gael syniad gan y Llywodraeth os a phryd y gall ddarparu cynllun o'r fath.

Yn sicr, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y mater penodol hwnnw, ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol iawn o ran darparu dyfeisiau i blant a phobl ifanc eu defnyddio er mwyn manteisio ar ddysgu ar-lein a dysgu cyfunol. Ychydig cyn y Nadolig, cyhoeddwyd £11 miliwn arall i brynu nifer o ddyfeisiau—rwy'n credu, ar y pryd, mai 35,000 o ddyfeisiau oedd hynny—a fyddai'n mynd â nifer y dyfeisiau wedi'u dosbarthu i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod y pandemig i 133,000. Rwy'n credu bod hynny'n gyflawniad eithaf sylweddol. Ac rydym  hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd i rai plant fynd ar-lein, felly rydym hefyd wedi dosbarthu mwy na 11,000 o ddyfeisiau Mi-Fi, fel y gall plant a phobl ifanc nad oes ganddyn nhw'r cysylltiad dibynadwy hwnnw gartref wneud hynny. Yn amlwg, os oes modd gwneud rhagor, yna byddem eisiau gwneud hynny, a byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog Addysg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y cwestiwn penodol hwnnw.

14:55

A gaf i ofyn am ddatganiad llafar neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar barthau perygl nitradau? Rwy'n sylwi bod Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn ateb cwestiynau yfory ac yn cyflwyno datganiad ysgrifenedig, ond roedd amseriad y datganiad ysgrifenedig hwnnw'n golygu nad oes cyfle i Aelodau cyffredin y Senedd ofyn cwestiynau yn y sesiwn honno yfory. Dywedodd y Gweinidog, yn ôl ar 8 Ebrill y llynedd, y byddai'n cyflwyno rheoliadau dim ond pan fydd yr argyfwng yn dod i ben. Yna, ar 16 Medi y llynedd, dywedodd,

Yr hyn yr wyf i wedi ymrwymo iddo yw peidio â'u cyflwyno wrth inni fod yng nghanol pandemig COVID-19,

ac yna, ar 14 Hydref,

Rwyf wedi ymrwymo i beidio â gwneud dim pan mae'r pandemig yn ei anterth.

Felly, ai safbwynt Llywodraeth Cymru yw ein bod ni wedi mynd heibio i'r pandemig yn ei anterth ac nad ydym ni bellach yn ei ganol, ac y daw i ben erbyn 1 Ebrill? Os felly, pam ydym ni'n trafod deddfwriaeth frys yn nes ymlaen i ohirio'r etholiad o 6 Mai? Rwy'n credu bod angen i'r Gweinidog roi esboniad inni am yr hyn a ddywedodd o'r blaen, a hefyd esboniad pam mae Cymru gyfan wedi bod yn barth perygl nitradau o dan ei rheoliadau hi, ar gost fawr i'r ffermwyr, lawer ohonyn nhw nad ydyn nhw'n gyfrifol am y problemau hyn ac nad ydyn nhw'n ffermio mewn ardaloedd yng Nghymru lle maen nhw'n gyffredin. Pam na allwn ni gael system debyg i'r un sydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, lle mae ardaloedd yn Barthau Perygl Nitradau dim ond pan mae nifer yr achosion yn uchel neu lle mae yna broblem benodol?

Wel, fe atebodd y Prif Weinidog rai cwestiynau ar hyn yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog y prynhawn yma, ond mae'n wir fod y Gweinidog wedi defnyddio'r weithdrefn negyddol i osod y rheoliadau, oherwydd dyna'r system sydd wedi'i nodi yn y gyfraith. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Busnes heddiw wedi cytuno ar ddadl ar ddirymu'r rheoliadau, a bydd y Senedd yn trafod hynny maes o law.

Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am barhad gwasanaethau erthylu telefeddygol? Mae'r rhain wedi bod yn gwbl hanfodol yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig i alluogi menywod i gael erthyliadau meddygol cynnar heb orfod gadael eu cartrefi. Ysgrifennais i at y Gweinidog ym mis Tachwedd ar ran y grŵp trawsbleidiol ar iechyd menywod, gan dynnu sylw at y drafodaeth a gafwyd, gyda chyfranogiad pob un o'r saith bwrdd iechyd, ynghylch y defnydd trawsnewidiol o delefeddygaeth i alluogi menywod i gael yr ymgynghoriad cynnar hwnnw heb risg a diogelwch ac effeithiolrwydd y peth. Mewn gwirionedd, i fenywod sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, lle maen nhw gryn bellter oddi wrth glinigau sy'n darparu'r gwasanaethau hyn, mae wedi bod yn drawsnewidiol, ac roeddwn i'n tybio a gawn ni ddatganiad i ganfod a fyddai modd parhau â'r ffordd ragorol hon o ddarparu gofal iechyd darbodus yn fwy parhaol ai peidio.

Wel, cafodd y trefniant ei roi ar waith yn ystod y pandemig i leihau trosglwyddo COVID-19, ac ar hyn o bryd mae'n para am gyfnod penodol o ddwy flynedd neu nes bod y pandemig ar ben, pa un bynnag sydd gynharaf. Ond, ar 1 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad, yn gofyn am sylwadau ynghylch a ddylai'r trefniadau dros dro presennol gael eu gwneud yn barhaol, a bydd yr ymgynghoriad hwn yn para tan 23 Chwefror. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, pan fydd yr ymatebion hynny i'r ymgynghoriad gennym ni, bydd penderfyniad yn cael ei wneud. Ond, wrth gwrs, rwy'n annog Jenny Rathbone i wneud ei chyflwyniad i hynny.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar frechu a'i botensial i alluogi dychwelyd i'r ystafell ddosbarth yn gynharach i fyfyrwyr a disgyblion ledled Cymru? Cynhaliais sesiwn friffio yr wythnos ddiwethaf, ar y cyd â llysgenhadaeth Israel, gan Dr Asher Salmon, sy'n gyfarwyddwr cysylltiadau rhyngwladol yng ngweinyddiaeth iechyd Israel. Mae Llywodraeth Israel wedi gwneud penderfyniad ymwybodol, oherwydd ei bod yn dymuno gweld plant a phobl ifanc yn ôl yn cael eu haddysg, i frechu athrawon a staff eraill ysgolion er mwyn cyflymu'r cyfle hwnnw iddynt ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth. Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol cael datganiad ynghylch a yw hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ystyried, er mwyn helpu i egluro sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran y mater hwn. Diolch.

15:00

Yr eitem ynglŷn â brechu yw'r un nesaf ar gyfer busnes y prynhawn, ac fe allai fod yn gyfle pellach i ni glywed gan y Gweinidog am hyn. Ond mae'n wir dweud bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn cyngor y JCVI o ran yr amserlen a nodwyd ganddi, er mwyn cadw at y dull yr ydym ni wedi bod yn ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig sef cymryd ein harwain gan y wyddoniaeth a gwrando ar yr hyn y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud wrthym ni o ran sut i leihau nifer y marwolaethau ymhlith pobl ledled Cymru. Ond, fel y dywedais i, mae yna ddatganiad nesaf, felly bydd hwnnw'n gyfle i glywed ychydig mwy gan y Gweinidog Iechyd.

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn esbonio pam mae rhai cartrefi gofal wedi cael eu dadflaenoriaethu ar gyfer brechlynnau. Mae yna gartref gofal bach ym mwrdeistref sirol Caerffili sydd wedi cysylltu â mi ac sy'n gofidio llawer na chaiff eu preswylwyr nhw eu cynnwys erbyn hyn yn y ddau grŵp blaenoriaeth cyntaf ar gyfer eu brechu. Fe ddywedwyd wrthynt yn wreiddiol y byddai holl breswylwyr cartrefi gofal yn cael eu brechu yn y grŵp cyntaf, ond mae oedolion mewn rhai lleoliadau gofal preswyl wedi cael eu symud i grŵp rhif chwech erbyn hyn. Maen nhw'n tybio mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod y cartref yn un bach o ran maint. Maen nhw'n gofalu am breswylwyr ag anableddau dysgu, ond mae preswylwyr y cartref gofal hwn i gyd dros eu 65 oed. Mae pobl sy'n gweithio yno'n credu eu bod wedi cael eu trin yn annheg oherwydd bod disgwyl iddynt ddilyn yr un canllawiau a'r un rheolau â phob cartref gofal arall, ac ni roddwyd unrhyw gyfiawnhad hyd yn hyn dros y dadflaenoriaethu. Rwy'n gwybod i'r cyngor fod yn barod iawn i helpu, ac fe fyddai'r cartref yn awyddus imi ddweud bod y cyngor wedi helpu i sicrhau bod yr holl staff wedi cael eu brechu, ond ni allant wneud hynny i'r preswylwyr oherwydd y newid hwn o ran blaenoriaethu.

Trefnydd, ychydig cyn y Cyfarfod Llawn heddiw, fe anfonodd y Gweinidog Iechyd ddiweddariad at yr Aelodau ynglŷn â brechu, sy'n crybwyll cartrefi gofal i bobl hŷn. Fe hoffwn i wybod a yw'r amod hwn yn golygu bod cartrefi gofal sy'n cael eu diffinio fel rhai sy'n gofalu am breswylwyr ag anableddau dysgu yn cael eu hesgeuluso yn hyn o beth, hyd yn oed os yw'r preswylwyr dros eu 65 oed. A yw'r newid hwn o ran blaenoriaethu wedi digwydd fel y gall Llywodraeth Cymru honni ei bod wedi brechu ym mhob cartref gofal i bobl hŷn? Oherwydd mae'n amlwg na fyddai hynny'n wir. Ddoe, fe honnodd Llywodraeth Cymru fod pob cartref gofal naill ai wrthi'n cael eu brechiadau neu eisoes wedi eu cael nhw ond mewn gwirionedd nid yw hynny wedi digwydd mewn cartrefi gofal bach fel hyn. Felly, fe hoffwn i glywed cyfiawnhad o'r hyn a gyhoeddwyd, os gwelwch chi'n dda, fel y gellir dangos hwnnw i'r cartrefi gofal. Oherwydd os yw hwn wedi bod yn newid ôl-weithredol, rwy'n poeni'n wir y gallai hwnnw fod yn wahaniaethol, oherwydd fe fyddai llawer o breswylwyr y cartref hwn, oherwydd eu hoedran, wedi bod yn gymwys eisoes ar gyfer eu brechu pe na fyddai ganddyn nhw'r anableddau.

Diolch i chi am godi'r mater penodol hwn ar ran y cartref gofal hwnnw. Fe fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ynglŷn â brechiadau a brechlynnau yn yr eitem sy'n dod nesaf ym musnes heddiw, felly bydd cyfle i godi hyn bryd hynny. Ond, os na, pe byddech chi'n ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd neu ataf i gyda manylion penodol y cartref gofal yr ydych chi'n sôn amdano, fe allwn ni ymchwilio i hyn yn fwy manwl a rhoi'r ateb manwl hwnnw yr ydych chi'n ei geisio.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19

Y datganiad, felly, ar frechiadau COVID-19. Dwi'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y datganiad hwnnw—Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Heddiw fe wnaethom ni gyhoeddi'r ail o'n hadroddiadau ni sy'n crynhoi'r cynnydd yn erbyn ein cynllun brechu COVID-19 cenedlaethol. Fe gyhoeddir yr adroddiadau hyn bob dydd Mawrth, yn ogystal â'r data gwyliadwriaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddir yn ddyddiol ac yn wythnosol hefyd, a'r data gweithredol a gyhoeddir gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru. Yn ôl y ffigurau a gyhoeddwyd ganol dydd heddiw, mae'r rhaglen a arweinir gan GIG Cymru wedi brechu mwy na 439,000 o bobl ledled Cymru. Hynny yw, bron 14 y cant o'r boblogaeth. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf yn dangos hefyd bod dros 60 y cant o'n grwpiau blaenoriaeth cyntaf ni wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn erbyn hyn. Mae pethau'n cyflymu trwy'r amser, ac rydym yn gwneud cynnydd mawr. Mae effeithiolrwydd ein seilwaith ni a'r twf o ran capasiti yn amlwg i bawb eu gweld.

Rydym wedi taro dau nod eisoes yn ein cynllun brechu. Rydym wedi cynnig dos cyntaf o'r brechlyn i holl staff rheng flaen y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru. Fe aethom y tu hwnt i'n nod ni ar gyfer diwedd mis Ionawr hefyd, sef bod mwy na 250 o bractisau meddygon teulu yn gweinyddu'r brechlyn. Roedd adroddiad yr wythnos diwethaf yn cadarnhau bod y nod hwn wedi ei gyrraedd yn gynt na'r disgwyl, gyda dros 300 o bractisau yn cynnal clinigau. Mae'r nifer wedi cynyddu eto hyd at dros 400 o feddygfeydd, gan amlygu'r gyfradd uchel o ymgysylltu ar draws pob rhan o'n gwasanaeth iechyd ni ar gyfer cydweithio i ddarparu rhaglen frechu cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl yn erbyn COVID-19. Mae amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed wedi bod wrth wraidd ein hymateb ni i'r pandemig bob amser ac mae hynny'n parhau i fod yn bwysig iawn  yn ein brwydr ni yn erbyn y clefyd brawychus hwn.

Y nod olaf yr ydym ni wedi bod yn gweithio tuag ato yw brechu'r grŵp blaenoriaeth cyntaf a bennwyd gan Gyd-bwyllgor arbenigol annibynnol y DU ar Frechu ac Imiwneiddio—pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a'r staff sy'n gofalu amdanyn nhw. Ein bwriadu oedd mynd i'r holl gartrefi gofal yr oedd yn bosibl mynd iddyn nhw erbyn diwedd mis Ionawr a sicrhau bod cynlluniau ar waith i'r cartrefi gofal hynny sydd wedi profi achosion o COVID-19 gael y brechiadau cyn gynted â phosibl. Rwy'n falch o gadarnhau unwaith eto ein bod ni wedi cyrraedd y nod hwn, fel y cadarnhaodd fy nghyd-Weinidog i, Eluned Morgan, ddoe. Mae'r byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod wedi ymweld â phob cartref gofal i bobl hŷn yr oedd yn ddiogel i anfon timau brechu yno. O ran y cartrefi hynny lle nad yw hynny wedi bod yn ddiogel, bwriedir ymweld â'r rheini yn ystod mis Chwefror, cyn gynted ag y bydd y cyngor iechyd cyhoeddus yn caniatáu hynny.

Fel sy'n gyffredin gyda'n model cyflenwi ni, mae dull cyfunol ar waith ar gyfer cartrefi gofal i bobl hŷn. Gyda rhai cartrefi gofal, mae'r byrddau iechyd yn anfon timau brechu i frechu preswylwyr a staff. Gyda chartrefi gofal eraill, mae practisau meddygon teulu yn trefnu'r brechiadau i breswylwyr, yn aml drwy anfon nyrs ardal neu dîm bach, a staff yn cael eu gwahodd i fynd i ganolfannau torfol. Mae'r model cymysg hwn yn sicrhau'r dull priodol ar gyfer pob cartref, gan ystyried y cyd-destun a'i leoliad. Gyda'r tri nod ar y daith hyd at garreg filltir 1 wedi eu cyrraedd, rydym yn canolbwyntio bellach ar gynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi brechu mwy o bobl yn ôl canran y boblogaeth nag unrhyw wlad arall yn y DU. Rydym yn symud trwy'r carfannau blaenoriaeth ac rydym ar y trywydd cywir i gyflawni yn erbyn ein carreg filltir gyntaf ganol mis Chwefror.

Rydym yn disgwyl gallu cynnal y lefel hon o gynnydd ac, mewn gwirionedd, rydym yn disgwyl gweld cynnydd ychwanegol yng nghyfraddau brechu'r wythnos hon. Rydym wedi llunio rhaglen sy'n gynaliadwy gan gynnwys cyflymder a chapasiti oddi mewn iddi'n barhaus. Yr wythnos hon, fe gytunwyd ar gymorth ychwanegol gan y lluoedd arfog ar gais awdurdodau sifil. Fe fydd hyn yn golygu 90 o bersonél milwrol arall yn cael eu dwyn i mewn i gefnogi'r capasiti yn y rhaglen frechu ledled Cymru. Rwy'n hynod ddiolchgar i'n cydweithwyr ni yn y GIG ledled Cymru sydd, oherwydd eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus, yn gwneud y cynnydd anhygoel hwn yn bosibl, ac, wrth gwrs, i'w partneriaid nhw mewn llywodraeth leol, y lluoedd arfog a thu hwnt, gan gynnwys y sector gwirfoddol. Rwy'n ymfalchïo'n fawr iawn yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn ein gwlad gyda gweinyddu'r brechiadau. Mae gennym ni farathon o'n blaen eto, ond fe allwn wynebu'r cam nesaf gydag ymdeimlad gwirioneddol o hyder yn ein rhaglen ni a arweinir gan y GIG yma yng Nghymru. Diolch, Llywydd.

15:05

Prynhawn da, Gweinidog. Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n rhaid rhoi clod lle mae'n ddyledus, mae'r sefyllfa wedi symud ymlaen yn aruthrol ers yr wythnos diwethaf, ac fe hoffwn i ddweud da iawn wrth bawb a fu'n rhan o'r ymdrech hon, o'r Llywodraeth hyd at y rhai ar y rheng flaen, am fwrw ymlaen gyda'r brechiadau, yn arbennig felly am inni fod ar ei hôl hi. Braf iawn yw gweld bod y gwaith gyda'r grwpiau blaenoriaeth hyn wedi cyflymu a'i fod yn mynd rhagddo.

Rwy'n awyddus i bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu, oherwydd mae gennyf i lawer yn fy etholaeth i, ac fe wn i ei bod yn wir yn Hywel Dda, mewn gwirionedd—mae gennym lawer sydd yn eu 80au ac yn hŷn sydd heb gael eu brechu eto, ond sydd wedi cael apwyntiadau yn ystod yr wythnos hon ac wythnos nesaf. Mae hynny'n wahanol i ddweud wrth bawb, 'Fe gewch chi eich brechu erbyn y penwythnos diwethaf', a hwnnw oedd y targed, ac rwy'n credu bod hynny wedi achosi rhywfaint o ddryswch. Felly, wrth symud ymlaen, trwy'r holl grwpiau blaenoriaeth eraill, fe fyddwn i'n pwyso am roi mwy o ystyriaeth i'r neges a gaiff ei chyfathrebu. Ond mae'n wych gweld ein bod ni'n brasgamu tuag at geisio brechu'r genedl gyfan.

Yn anffodus, mae nifer y marwolaethau cofrestredig, er eu bod nhw wedi gostwng o 467 i 447, sydd i'w groesawu'n fawr, yn amlwg—mae'n dal i fod y trydydd uchaf o unrhyw bwynt yn y pandemig, sy'n dangos pa mor frawychus ac ofnadwy ydyw, a'r ffaith bod y clefyd hwn yn lladd. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am ragor y gallech chi ei wneud i gyrraedd y grwpiau hynny sy'n anodd eu brechu, sef y bobl sydd naill ai'n gwrthod y brechlyn neu'r grwpiau, y carfannau hynny o bobl, y gwyddom ei bod yn fwy anodd eu perswadio i gael y brechlyn? Ac i'r bobl hynny sydd wedi cael yr alwad ffôn a'r cynnig o frechlyn ond sydd wedi dweud, 'Na dim diolch', pa gynlluniau sydd ar waith i allu mynd ar drywydd yr unigolion hyn, gan eu meddyg teulu lleol nhw efallai, i geisio cael sgwrs â nhw? Oherwydd hyd nes y bydd mwy ohonom yn cael ein brechu, fe fyddwn ni'n parhau i weld y marwolaethau echrydus hyn yn digwydd mewn ysbytai ac yn ein cymunedau ni. Felly, fe fyddai unrhyw ddiweddariad y gallwch chi ei roi inni am hynny i'w groesawu'n fawr.

Wrth gwrs, y pryder arall sydd gan bobl nawr ac y maen nhw'n dechrau llythyra llawer iawn yn ei gylch yw a yw'r brechlynnau hyn yn effeithlon yn erbyn yr holl amrywiadau newydd hyn ai peidio, yn enwedig y straen newydd o'r DU y soniodd Andrew R.T. Davies amdano yn ystod y datganiad busnes, ac, wrth gwrs, y straen o Dde Affrica. Efallai yr hoffech chi wneud rhyw fath o sylw cyhoeddus ynglŷn â hynny, oherwydd rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn wrth geisio cysuro a rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i bobl.

Roeddech chi'n sôn am y gwaith, sydd i'w groesawu'n fawr, o ran cyrraedd y cartrefi gofal, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni faint o gartrefi gofal sydd heb gael eu brechiadau eto, neu faint o breswylwyr a staff mewn rhai cartrefi gofal? Rwy'n sylweddoli bod rhai cartrefi gofal yn cael eu hystyried dan rybudd coch oherwydd bod rhyw elfen o goronafeirws yn bresennol yno; fe wn i fod gan wahanol fyrddau iechyd bolisïau gwahanol o ran a fyddan nhw'n mynd i mewn i'r cartrefi gofal ai peidio a cheisio brechu'n rhannol, hyd yn oed os oes rhywfaint o feirws COVID yn bresennol yno. Ond fe hoffwn i ehangu hefyd ar gwestiwn Delyth Jewell a ofynnodd ichi yn ystod y datganiad busnes, neu a ofynnodd i'r Trefnydd edrych ar hynny: a oes yna gartrefi gofal yn cael eu hailgategoreiddio? A oes unrhyw gynllun bod rhai cartrefi gofal efallai wedi'u newid i wahanol gategorïau? Fe fyddai'n ddefnyddiol iawn inni gael clywed eto unrhyw beth y gallwch chi ei ddweud wrthym ni am hynny.

Yn olaf, fe hoffwn i godi mater y fferyllwyr. Fe wyddom fod gennym y canolfannau brechu torfol hyn, fe wyddom fod meddygon teulu â rhan yn hynny, ac fe wyddom fod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo o fewn amgylchedd ysbytai a gofal cymdeithasol, ond wrth gwrs mae ein fferyllwyr ni'n dal i aros yn yr esgyll yn barod i helpu yn yr hyn sy'n ymdrech genedl gyfan. A allwch chi amlinellu unrhyw gynlluniau i'w cynnwys nhw? Rwyf wedi clywed gan y byrddau iechyd ledled Cymru eu bod nhw'n siarad â fferyllwyr, ond mewn gwirionedd maen nhw wedi bod yn siarad â nhw am y ddwy, neu'r tair neu'r pedair wythnos ddiwethaf. Nid oes dim wedi digwydd eto. Mae'n ymddangos nad oes unrhyw beth o sylwedd wedi digwydd ar lawr gwlad.

Wrth inni weithio i lawr y rhestr o'r grwpiau categorïau hynny a dechrau edrych ar frechu'r rhai yn eu chwedegau a'u pumdegau, mae'r grwpiau hynny'n mynd i gynyddu fwyfwy eto yn eu maint. Fe fydd angen pawb arnom ni. Rydych chi wedi sôn eisoes heddiw am ddefnyddio 90 aelod o'r lluoedd arfog—mae croeso mawr i hynny, ond mae gennym ni tua 710 o fferyllfeydd yn aros yn yr esgyll. Felly, unrhyw ddiweddariad y gallwch ei roi am hynny—oherwydd yn fy marn i mai hwn yn adnodd sy'n cael ei wastraffu ac mae eu hangen arnom ni. Maen nhw eisiau cael eu defnyddio, maen nhw wedi dweud hynny'n eglur iawn, yn hyglyw iawn, maen nhw wedi cyflwyno'r cynigion ac, wrth gwrs, os ydych chi'n rhywun sy'n llai awyddus i deithio, efallai, mae mynd i'ch fferyllfa leol, fel y mae mynd at eich meddyg teulu lleol, yn ddewis llawer haws na theithio i ganolfan frechu torfol. Felly, unrhyw ddiweddariad yn ymwneud â phryd y gellir defnyddio'r fferyllwyr ac ar gyfer pa gategori o bobl. Diolch yn fawr iawn.

15:10

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Yn benodol, diolch am gydnabod y cynnydd sy'n cael ei wneud a chyflymder yr hyn yr ydym ni'n gallu ei gyflawni yng Nghymru gyda dull cytûn o weithredu fel tîm.

Ar y cwestiynau, o ran cyfradd y marwolaethau a welwn ni o hyd, y gwir amdani yw, gan ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn, ein bod ni'n dal i weld niferoedd cymharol uchel o bobl yn dod yn agored i niwed, ac fe fyddwn ni'n gweld hynny yn ffigurau'r marwolaethau. Pan welsom ni'r penllanw cyntaf, pan oeddem ni'n symud i'r cyfeiriad iawn, fe fu'n rhaid inni adrodd am  wythnosau lawer am gyfraddau uchel iawn o farwolaethau, rwy'n ofni. Ac o ystyried nifer y bobl yn ein hysbytai o hyd, rwy'n ofni y byddwn ni'n gweld mwy o bobl yn colli eu bywydau yn ystod yr wythnosau nesaf, er bod y darlun yn gwella. Felly, fe fydd mwy o deuluoedd bob wythnos yn galaru oherwydd colli anwyliaid. A dyna pam mae'n bwysig ein bod ni'n gadarnhaol nid yn unig o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r rhaglen frechu, ond o ran y sicrwydd i bobl na fyddan nhw'n cael eu hanghofio a'u gadael ar ôl. Felly, os oes yna bobl dros 80 oed heb gael eu pigiadau eto, fe fyddan nhw'n cael eu hapwyntiadau ac fe fyddan nhw'n cael eu cynnwys; fe fyddan nhw'n cael eu hamddiffyn yng Nghymru yn union fel yng ngweddill y Deyrnas Unedig.

O ran cynnydd gyda'r bobl hynny sy'n gwrthod, rhan amlwg o'n her ni yw mai rhywbeth gwirfoddol yw'r brechiad, ac felly mae yna bobl sydd, am wahanol resymau, yn fwy pryderus na'i gilydd ynghylch beth i'w wneud. Mae hynny'n ychwanegu at eich pwynt chi ynglŷn â chyfathrebu, o ran yr ystod o bryderon sy'n bodoli, felly, wrth fynd drwy hyn, rydym yn ceisio deall mwy am y pryderon y mae'n rhaid i bobl allu mynd i'r afael â nhw, ac nid materion sy'n unigryw i Gymru yw'r rhain; maen nhw'n faterion cyffredin ledled y DU ac yn wir ledled Ewrop.

Felly, rydym ni'n gwneud gwaith penodol, er enghraifft, ynglŷn â chymunedau pobl ddu ac o darddiad Asiaidd. Roeddwn i'n credu bod hwn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen wrth weld Aelodau Seneddol o'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur nad ydyn nhw'n hoffi ei gilydd mewn gwirionedd; ni fyddech fel arfer yn gweld James Cleverly a Diane Abbott yn rhannu llwyfan, ond roedd y ddau mewn fideo gyda'i gilydd, yn annog pobl i fynd am y brechlyn. Nawr, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Er yr holl amrywiaeth barn sydd rhyngom ni o ran yr hyn sydd wedi digwydd neu'r hyn a fydd yn digwydd, mae'n bwysig iawn annog pobl i fanteisio ar y brechlyn oherwydd mae'n ddiogel ac yn effeithiol.

Ac rwy'n credu y bydd hynny'n dod at eich pwynt chi ynglŷn ag effeithiolrwydd brechlynnau a straenau newydd. Felly, gyda'r ddau, os hoffech chi, amrywiolyn Caint-plws, ac amrywiolyn De Affrica, ceir pryder y bydd ymateb llai effeithiol yn erbyn y brechlynnau. Nid yw hynny'n golygu na fydd brechlynnau yn effeithiol o gwbl; fe fydd cyfran dda o ddiogelwch yn cael ei chynnig ganddynt, ac mewn gwirionedd mae hynny'n atgyfnerthu'r angen i barhau i fod yn gyflym iawn wrth weinyddu ein rhaglen frechu ni. Ac fel y clywsoch chi gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dweud yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, a gynhaliwyd gyda Matt Hancock, mae'r un cyngor yn union gan bob asiantaeth iechyd cyhoeddus ledled y DU ynglŷn â'r ffaith y ceir pryder y bydd y brechlynnau yn llai effeithiol ond nid yn aneffeithiol; maent yn parhau i fod yn ddiogel, yn parhau i fod yn effeithiol, ac mae'n parhau i fod yn bwysig bod pawb yn manteisio ar y cyfle pan ddaw'r cynnig. Ac fe allwch chi ddisgwyl gweld clinigwyr gofal sylfaenol, yn arbennig felly, yn ceisio mynd ar drywydd y bobl hynny sydd heb gael eu brechlyn nhw eto. Ond yr her wirioneddol yw mynd trwy grwpiau 1 i 9 cyn gynted â phosibl, lle gwyddom fod 99 y cant o'r marwolaethau yn digwydd. Serch hynny, mae yna nifer uchel o bobl y tu allan i gategorïau 1 i 9 yn parhau i fod yn yr ysbyty, felly hyd yn oed wedi hynny, ni fydd yn fater mor syml â mabwysiadu agwedd fel un Ryanair, a dweud 'Fe all bywyd fynd yn ôl i normal unwaith eto.' Fe fyddwn ni yn ei chanol hi am beth amser eto.

Ynglŷn â'ch pwynt chi am gartrefi gofal; ni chafodd y rhain eu hailgategoreiddio. Nid oes unrhyw dric yn cael ei chwarae yma. Nid yw preswylwyr cartrefi gofal yn cael eu hesgeuluso. Roedd y targed yn ymwneud â chartrefi gofal pobl hŷn, oherwydd dyna lle mae'r risg uchaf, ac yn y rhain y gwelwn y canlyniadau mwyaf erchyll o goronafeirws, wrth iddo gael mynediad i'r cartrefi gofal hynny. Fe fydd pobl sydd â materion eraill sy'n eu gwneud nhw'n fwy agored i goronafeirws yn cael eu cynnwys mewn grwpiau blaenoriaeth eraill. Felly os ydych chi'n disgwyl gweld cynnwys pobl ag anableddau dysgu, er enghraifft, yna fe fydd y rhai sy'n hŷn, dros 50 oed, yn cael eu cynnwys yn eu carfan oedran. A'r rhai â chyflyrau gofal iechyd eraill, fe all y bobl hynny, er enghraifft, y rhai sy'n gymwys i gael pigiad ffliw'r GIG, ddisgwyl cael eu cynnwys yng ngrŵp blaenoriaeth 6 hefyd. Felly rydym ni'n symud yn raddol nid yn unig drwy grwpiau 1 i 4, ond fe fyddwn ni rywbryd yn mynd ati o ddifrif i wahodd grwpiau o bobl o grwpiau 5, 6 ac eraill i ddod ymlaen hefyd. Felly, nid yw'r cyflymder yn mynd i arafu o ran yr hyn y gallwn ni ei gyflawni ac yn sicr nid ydym ni yn anghofio pobl chwaith.

O ran y cartrefi gofal, roeddwn i'n edrych ar rai ffigurau yn gynharach, ac fe fyddaf yn darparu nodyn yn cyfeirio nôl at hyn, felly nid wyf i'n ceisio anghofio neu gamddehongli'r hyn sydd wedi digwydd yn fwriadol, ond o ran y cartrefi gofal lle nad yw'r gwaith brechu wedi'i gwblhau, mae yna amrywiaeth ohonyn nhw wedi cael y brechlyn yn rhannol, oherwydd fe wnaethom ni gyhoeddi canllawiau ledled Cymru ac felly roedd cysondeb yn y dull. Pe byddai yna lond llaw o achosion yn hytrach nag un achos ehangach ar safle, ar sail asesu risg, roedd y timau'n gallu mynd i mewn a phrofi'r bobl hynny a oedd wedi cael canlyniad negyddol. Roedden nhw'n mynd i mewn ac yn gallu brechu nifer o bobl, felly mae gennym ni amrywiaeth o gartrefi gofal lle mae'r gwaith wedi'i gwblhau'n rhannol ar gyfer staff a phreswylwyr, ac mae gennym ni rai eraill lle nad oedden nhw'n gallu mynd i mewn o gwbl, ac rwy'n credu bod y niferoedd ar gyfer y rheini yn y 30au isel, a hynny o ganlyniad i achosion cyfredol yno. Ond gan eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn nawr, fe anfonaf nodyn at yr Aelodau wedi hyn i gadarnhau'r safbwynt hwnnw.FootnoteLink

Ac yna, yn olaf, o ran eich pwynt chi am fferyllwyr, rydym ni'n disgwyl defnyddio mwy ar fferyllwyr, wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith, yn ein canolfannau brechu torfol ni a'r rhai sy'n gallu gweinyddu brechiadau yn eu hadeiladau nhw. A'r hyn sy'n  cyfyngu arnom ni—ac fe fyddai unrhyw Weinidog Iechyd yn y DU yn rhoi'r un ateb i chi i raddau helaeth iawn—yw'r cyflenwad o frechlynnau, oherwydd rwy'n credu ym mhob gwlad yn y DU, ac yn sicr yma yng Nghymru, fe allem ni weinyddu mwy o frechlynnau pe byddai mwy o gyflenwadau gennym, yn enwedig gan AstraZeneca, oherwydd mae hwnnw'n haws ei ddefnyddio. Nid ydym wedi manteisio i'r eithaf ar allu gofal sylfaenol i gyflawni yn hyn o beth, ac wrth inni gael mwy o frechlynnau, ac rydym ni'n gobeithio y bydd gennym fwy yn y dyfodol, yn sicr, fe ddylem yn gallu gwneud hyd yn oed mwy o ddefnydd wedyn o ffynnon ewyllys da yn ogystal â'r gallu materol i ddarparu mwy o frechlynnau na'r hyn sy'n bodoli ym maes gofal sylfaenol.

15:20

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y datganiad. Dwi'n blês iawn i weld y tir sydd wedi cael ei ennill, yn sicr, o ran y broses frechu yng Nghymru. Mae yna dimau o frechwyr brwd iawn ym mhob cwr o'r wlad, ac dwi'n clywed adroddiadau positif iawn o'r profiad mae pobl yn ei gael wrth gael y brechiad yma. Mae hynny, wrth gwrs, i'w groesawu.

Gwnaf i ofyn cwestiwn cyntaf yn deillio o hynny. Efo pethau'n mynd yn dda ar hyn o bryd—ac dwi'n cytuno'n llwyr efo sylwadau'r Gweinidog mai supply ydy'r broblem, nid pobl i wneud y brechu ar hyn o bryd—o ystyried bod y Novavax a Janssen yn dod tuag atom ni'n fuan iawn, ydy o'n fwriad gan y Llywodraeth i symud ymlaen y targed ar gyfer brechu'r boblogaeth gyfan? Erbyn hyn, dwi'n meddwl y gallwn ni drio bod yn fwy uchelgeisiol, mewn difri, ac mae hynny'n nodyn positif, dwi'n meddwl, i'w daro yn fan hyn.

Er bod pethau'n mynd yn lled dda, mae yna bryderon o hyd—pryderon ynglŷn â'r mix o Pfizer ac AstraZeneca rydyn ni'n ei gael yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mi fyddai'n haws pe bai gennym ni fwy o'r brechlyn sy'n haws i'w ddefnyddio. Felly, gaf i ofyn yr un cwestiwn â dwi'n gofyn bob wythnos? Plîs, gawn ni'r data ar faint o ba frechlyn sy'n cael ei rannu i bob gwlad a phob rhan o Gymru, yn ysbryd bod yn dryloyw, er mwyn gallu adnabod unrhyw broblemau yn y system? Dwi'n gwybod bod y Gweinidog wedi awgrymu'r wythnos diwethaf ei fod o rŵan yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol cael hynny, a'i fod o am drio cael y data. Gawn ni ddiweddariad, os gwelwch yn dda?

Gaf i hefyd apelio ar y Llywodraeth i beidio gwahodd pobl i amau'r ffigyrau drwy fethu â bod yn gwbl agored yn y datganiadau rydych chi'n eu gwneud? Rydyn ni'n cofio'r Llywodraeth yn dweud eu bod nhw ychydig yn brin o'r targed o 70 y cant o bobl dros 80; wel, 52.8 y cant oedd y ffigwr, ac mae hynny'n dipyn mwy nag ychydig yn brin. Byddwch yn dryloyw yn y ffordd mae'r ffigyrau yn cael eu datgan.

Yn yr un ffordd eto, rydyn ni'n gweld y comisiynydd pobl hŷn, er enghraifft, yn gorfod pwyntio allan ei bod hi'n bryderus iawn bod chwarter y bobl mewn cartrefi gofal yn dal ddim wedi cael y brechiad. Dydy'r ffigyrau ynglŷn â lle rydyn ni arni ddim yn y datganiad, ddim yn yr wybodaeth sydd hawsaf i'w chanfod gan y cyhoedd, yn y diweddariad ar y broses frechu. Byddwch upfront ynglŷn â'r ffigyrau yma fel ein bod ni'n gallu gweld lle rydyn ni arni. Mae yna ddigon o newyddion da i ganolbwyntio arno fo. Gadewch i ni weld lle mae'r problemau hefyd, ac i bawb gael gweld lle mae'r problemau.

Un cwestiwn gen i, os gaf i, yn benodol ynglŷn â staff gwasanaeth ambiwlans ar y rheng flaen. Mae'n bryder bod yna nifer sylweddol, o bosibl, ddim wedi bod yn fodlon derbyn y brechiad. A gaf i eich sylwadau chi ynglŷn â'r pryderon sydd wedi cael eu codi bod hynny yn gallu rhoi'r cleifion mewn perygl? Beth ydy barn y Llywodraeth ar hynny?

A chwestiwn y gwnes i ofyn yr wythnos diwethaf, a ches i ddim ateb iddo fo: mae'r dechnoleg mRNA yn dechnoleg newydd. Mae'r gofynion storio ac ati yn golygu bod angen math newydd o isadeiledd. Mae'n bosib iawn y byddwn ni'n mynd yn fwy a mwy dibynnol ar y dechnoleg frechu newydd yma, o bosibl i ddelio efo variants newydd, ac yn y blaen. Beth ydy'r ystyriaeth sy'n cael ei rhoi rŵan i fuddsoddi mewn isadeiledd y bydd yn ei gwneud hi'n haws i handlo'r math yma o frechlyn? Achos, fel dwi'n dweud, mae'n bosibl iawn y byddwn ni'n dibynnu llawer mwy arno fo mewn blynyddoedd i ddod.

Diolch am y rhestr o gwestiynau. Rwyf i am geisio mynd trwy'r rhain yn gyflym, Llywydd, i ganiatáu amser i gwestiynau eraill. O ran a allwn ni symud yn gyflymach wedi'r cyflawni, cwestiwn cylchol yw hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd mae'n mynd â ni'n ôl at y cyflenwad. Os oes gennych chi gyflenwad mwy a rhagor o frechlynnau, cyn belled â'u bod nhw wedi cael eu cymeradwyo yn rhai sy'n ddiogel ac effeithiol, yna fe allwn ni fynd yn gyflymach, ac rwyf i o'r farn ein bod wedi dangos hynny dros yr wythnosau diwethaf. O ran data ar y brechlynnau ar gyfer pob gwlad yn y DU, rydym ni'n parhau i gael y trafodaethau hyn gyda chydweithwyr ledled y DU ac mae angen i bob un ohonom ni fod yn gyfrifol am yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Mae'n siŵr eich bod chi wedi gweld y ffrae gyhoeddus astrus a fu rhwng yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU ac, yn wir, â chynhyrchwyr y brechlynnau. Rwy'n gobeithio bod y storm honno wedi gostegu nawr, ond mae sensitifrwydd sy'n ddealladwy ynghylch stociau a archebwyd a stociau a ddelir. Rwy'n awyddus i gyrraedd sefyllfa lle gallwn ni gyhoeddi maint y stociau sydd gennym ni, a bod yn glir ynglŷn â'r hyn sydd gennym ni a sut mae hwnnw'n cael ei ddefnyddio. Rydym yn cyhoeddi cyfraddau gwastraff ar hyn o bryd, ac rydym yn defnyddio'r brechlynnau yn effeithlon iawn yma yng Nghymru, sy'n nod disglair iawn arall yn ein rhaglen frechu ni yma yng Nghymru.

Pan ddown ni i gytundeb ar allu cyhoeddi'r ffigurau hynny'n agored, yna fe fyddwn ni'n gwneud hynny yn sicr. Rwy'n awyddus i ni allu gwneud felly, ond rwy'n deall y sensitifrwydd, yn enwedig ar hyn o bryd, o ran yr hyn y gallwn ni ei gyhoeddi. Ac fe fyddai'n ddefnyddiol pe gallai holl ffigurau'r Llywodraeth ym mhob un o'r pedair gwlad ymateb yn yr un modd ag yr ydym ni'n ceisio ei wneud gydag aeddfedrwydd ledled y pedair gwlad.

O ran bod yn agored o ran y ffigurau, rwy'n credu ein bod ni'n hynod o agored. Mae gennym ffigurau dyddiol, mae gennym ffigurau wythnosol a gyhoeddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae gennym naratifau wythnosol ychwanegol sy'n darparu rhywfaint o'r wybodaeth yr ydych chi'n chwilio amdani o ran y ganran ym mhob un o'r carfannau. Fe'u cyhoeddir nhw'n ddyddiol nawr drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, felly nid wyf yn derbyn y pwynt ein bod ni'n celu gwybodaeth; rydym ni'n cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth fel y gall pobl weld yn agored beth sy'n digwydd. 

Ac rwy'n credu bod pryderon y comisiynydd pobl hŷn braidd yn annheg, os caf i ddweud. Mae gan y comisiynydd pobl hŷn aelod o'i staff hi'n cymryd rhan yn y rhaglen frechu ac yn y grwpiau o randdeiliaid ers yr haf. Mae hi'n ymwybodol iawn o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o fewn y rhaglen. Mae hi'n ymwybodol iawn hefyd o'i gallu hi drwy gyfarfodydd rheolaidd gyda Gweinidogion a swyddogion, ac wrth ymdrin â bwrdd y rhaglen, o ran sut i godi pryderon. Ac mewn gwirionedd, rydym ni'n mynd mor gyflym â phosibl, a'r unig reswm nad ydym wedi cyrraedd canran fwy byth o bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal yw oherwydd y rheswm syml a eglurodd Eluned Morgan ddoe, ac rwyf i wedi esbonio hynny eto heddiw, oherwydd achosion cyfredol.

O ran y potensial i staff beidio â chael y brechlyn a'r hyn y mae hynny'n ei olygu i'r cyhoedd, dyna ran o'r sgwrs y mae cymheiriaid yn ei chael, yn ogystal ag ar lefel arweinwyr, yn arbennig felly o ystyried maint y niwed sy'n digwydd. Fe hoffwn i fod mewn sefyllfa lle bydd ein staff rheng flaen ni'n cymryd yr awenau. Fe fyddaf i'n edrych eto ar ganran hynny, ond mae yna her a dewis ynglŷn â chadw'r aelod staff hwnnw'n ddiogel a'r cyhoedd hefyd, yn wir. 

Ac yna o ran mRNA, wrth bwrs bydd angen inni edrych ar ddiwedd hyn i gyd ar gynigion am yr hyn y bydd angen inni ei wneud, nid yn unig gyda'n cyfleusterau storio presennol ni ar gyfer gallu derbyn symiau sylweddol o frechlyn Pfizer—ac ni ddylem anghofio ein bod wedi derbyn symiau sylweddol o'r rhain—ond y seilwaith wedyn i brofi pob un o'r rhain, ac yna ryddhau pob un o'r rhain, yn hytrach, i'r rhaglen frechu. Felly, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n edrych ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod y cyfnod yn ogystal â gwersi i'r dyfodol. Nid wyf i o'r farn fy mod i mewn sefyllfa nawr i gadarnhau swm o fuddsoddiad y byddwn ni'n bendant o'i wneud yn y dyfodol, ond mae hynny'n sicr yn rhan o ddysgu gwersi ac fe fydd angen gonestrwydd pur yn ogystal â bod yn agored am hynny nawr ac yn y misoedd i ddod.  

15:25

Gweinidog, fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i anfon y sylwadau calonogol niferus a ddaeth i law oddi wrth drigolion Cwm Cynon, sydd wedi cysylltu â mi i fynegi eu rhyddhad a'u gorfoledd am eu bod nhw wedi cael y brechlyn, a'u diolch nhw i bawb a wnaeth hynny'n bosibl. Mae cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru ar gyfer brechu yn esbonio bod pob brechiad yng Nghymru yn cael ei gofnodi yn uniongyrchol yn system imiwneiddio Cymru, sef pecyn meddalwedd pwrpasol a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a gaiff ei integreiddio i gofnod meddygon teulu, sy'n ei gwneud hi'n hawdd galw pobl ymlaen yn gyflym am y brechlyn, yn unol â chanllawiau'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio. Pa asesiad a wnaethoch chi hyd yma, Gweinidog, o ba mor effeithiol y mae'r system ddigidol hon o gofnodi ac adrodd yn gweithredu? A pha wersi y gallwn ni eu dysgu o'r arloesi hwn o ran sut y gallwn ni ddefnyddio technoleg ddigidol yn gyflym i wella profiad cleifion o fewn y GIG yng Nghymru?

Ie wir, diolch i chi. Rwy'n credu mai dyna un o'r pethau a gafodd ei anwybyddu i raddau helaeth—y ffaith bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, a gafodd ei feirniadu ar adegau, wedi darparu darn pwrpasol o feddalwedd i'n helpu ni i ddeall yr hyn a wnawn ni, a sicrhau, nid o ran cofnodi gwybodaeth yn unig, ond y bydd yr wybodaeth honno'n cael ei defnyddio wedyn hefyd i wneud yn siŵr ein bod ni'n cynnig apwyntiadau newydd i'r bobl hynny pan fydd angen eu hail ddos arnyn nhw, ond i wneud yn siŵr, ar ben hynny, eu bod nhw'n cael y brechlyn cywir ar gyfer eu hail ddos. Ac eto, mae hyn yn dangos bod dull o weithredu gan weision cyhoeddus ymroddedig yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr drwy gydol yr argyfwng hwn. Ac fe fydd y ffaith fod hyn wedi ei integreiddio â chofnod meddygon teulu yn ddefnyddiol iawn i'r dyfodol hefyd.

Felly, rwyf i o'r farn y bydd gwasanaeth imiwneiddio Cymru nid yn unig yn ddefnyddiol am y tro, ond yn yr hirdymor i'r dyfodol. Ac rwy'n credu y byddwch chi'n gweld mwy o'r arloesi hwnnw'n ehangach na dim ond yn y rhaglen frechu. Felly, yn y feddalwedd yr ydym ni'n ei defnyddio, er enghraifft, Attend Anywhere, fe gafodd hwnnw ei ysgogi gan ei fod yn angenrheidiol, oherwydd fe fu'n rhaid i bobl gael eu hapwyntiadau nhw o bellter. Fe'i cyflwynwyd yn gyflym iawn. Fe fyddai wedi cymryd blynyddoedd fel arall i gyflwyno meddalwedd fel hwn ledled ein GIG. Ac nid ymateb a arweinir yn unig gan argyfwng i'r pandemig fydd hwnnw—fe fydd yn rhan o'r ffordd y bydd ein gwasanaeth ni'n gweithio yn y dyfodol. Os ydych chi'n meddwl amdanom ni fel grŵp o weithwyr sydd ddim yn hollol nodweddiadol, ond, wyddoch chi, mae gwleidyddion a phobl eraill yn ei chael hi'n anodd iawn bod mewn lle arbennig ar amser arbennig, ac yn cael cyfres wahanol o apwyntiadau lle mae gofyn ichi fynd i safle ysbyty yn bersonol, er enghraifft, ar gyfer apwyntiadau y gallech chi eu cael ar y ffôn neu ar y sgrin. Felly, yn fwyfwy fe fydd angen ymateb i'r unigolyn, i'r claf, ond hefyd o ran sut mae hynny'n gweithio ar gyfer yr aelod o staff. Felly, mae llawer wedi'i wneud o ran arloesi digidol, ac mae llawer mwy i'w wneud eto i'r dyfodol a ddylai fod o fudd i bob un ohonom ni. 

15:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a dechrau hefyd drwy ganmol perfformiad ardderchog pawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu? Mae'n wirioneddol arwrol, epig, ac mae pob ansoddair o'r fath yn gwbl addas. Hefyd, a gaf i ddweud bod y cyfyngiadau symud yn gweithio mewn gwirionedd? Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio'r pwynt hwnnw. Fe all hynny fod yn sioc i un neu ddau o'r rhai sy'n cysylltu â mi'n rheolaidd ar-lein, ond mae'r cyfyngiadau symud yn gweithio, mae'r ffigurau'n dangos hynny. Ac a gaf i roi teyrnged i'r arbenigedd ardderchog o ran genomeg sydd gennym yma yng Nghymru? Mae'r dechnoleg dilyniant sydd gennym ni'n gwbl wych. Ac o ran hynny, a'r arbenigedd hwnnw, a dyna sut yr ydych chi'n darganfod amrywiolion newydd, mae'n amlwg bod gennym yr amrywiolyn newydd o Dde Affrica, a'r amrywiolyn newydd hwn, Caint-plws, fel yr awgrymodd y Gweinidog, a fyddai, yn honedig, yn ei chael hi'n haws osgoi holl effeithiau brechu, ac osgoi effeithiau llawn ein himiwnedd ni.

Y cwestiwn—. Rwy'n clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am hynny ac, yn amlwg, mae hynny wedi tawelu fy meddwl i'n fawr iawn. O ran sut y byddwn ni'n profi am yr amrywiolion newydd hynny yng Nghymru, fodd bynnag, pa mor eang yw ein gallu ni i ddarganfod yr amrywiolion newydd hyn yn y drefn brofi sydd gennym ni yng Nghymru ar hyn o bryd? A'm cwestiwn olaf i, o ran profi yn gyffredinol, yw: beth yw'r cynnydd o ran caniatáu i unigolion, h.y. aelodau'r cyhoedd, ofyn am eu prawf nhw eu hunain pan fydd ganddyn nhw symptomau amwys neu rai nad ydynt yn arferol o ran COVID? Sut allwn ni ymdrin â'r sefyllfaoedd hynny nad ydyn nhw'n nodweddiadol, ond yn bwysig serch hynny? Diolch yn fawr.

Os caf i ymdrin â'r cwestiwn olaf yn gyntaf, oherwydd rwy'n credu, mewn gwirionedd, os bydd pobl yn mynd i ganolfan brofi gydag ystod o symptomau nad ydyn nhw'n rhai arferol, ond yn gallu egluro sut maen nhw'n teimlo, yna ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu gwrthod. Nid dyna fydd eu profiad nhw. Ac, mewn gwirionedd, y broblem fwyaf sydd gennym yw'r bobl sydd â symptomau ond nad ydyn nhw'n cael eu profi. Os edrychwch chi ar adroddiadau'r grŵp cynghori technegol yr ydym ni'n parhau i'w cyhoeddi bob wythnos, fe welwch chi fod nodwedd reolaidd yn y rhain, ac un o'r nodweddion rheolaidd yr wyf i'n sicr yn edrych arno bob wythnos, hyd yn oed os nad yw eraill yn gwneud hynny, yw edrych ar nifer y bobl sy'n cydnabod eu bod nhw wedi bod â symptomau ac yna faint ohonyn nhw sy'n mynd ymlaen i gael y prawf, a dim ond tua hanner y bobl sydd â'r symptomau arferol, fel y mynegwyd yn y cwestiwn, sy'n mynd ymlaen i gael eu prawf eu hunain. Felly, mae problem wirioneddol yma, ac mae yna raniad mewn ystod oedran a rhaniad rhwng y rhywiau hefyd. A dweud y gwir, mae dynion yn llawer llai tebygol o fynd am brawf, ac, mewn gwirionedd, fe wyddom ni mai dynion hŷn yw un o'r categorïau risg uwch hefyd. Felly, mae hyn yn achosi rhwystredigaeth fawr. Mae angen inni gyhoeddi'r neges: os oes gennych chi symptomau, ewch am brawf. Ac mae digon o adnoddau profi ar gael ar hyn o bryd, oherwydd—un o'ch pwyntiau cynharach chi oedd bod y cyfyngiadau symud wedi gweithio o ran gostwng cyfraddau trosglwyddo. Mae'r cyfraddau trosglwyddo yn gostwng, mae cyfraddau achosion yn gostwng—rydym yn dymuno gweld hynny'n parhau—ac mae hynny'n golygu y bydd llai o bobl yn cael profion.

Ac o ran yr arbenigedd sydd gennym o ran genomeg, rydym yn cyflawni llawer mwy na'r disgwyl yng Nghymru, ac fe ddylem fod yn falch iawn o'r hyn y mae ein harbenigwyr genomeg yn ei gyflawni o ran yr ymdrech gyffredinol, nid yn unig ar gyfer Cymru, a'r DU, ond yn fyd-eang hefyd. Mae'r labordai sydd gennym ni ar hyn o bryd mewn sefyllfa i allu darganfod amrywiaeth o amrywiolion newydd. Rydym ni wedi cytuno i sicrhau y bydd gennym ni sampl gynrychioliadol o brofion o Gymru i'w hanfon i labordai goleudy fel y gallan nhw ddarganfod amrywiolyn newydd y DU, amrywiolyn Caint. Ac mae gennym amrywiaeth o brofion ar waith hefyd i ddarganfod ymhle y gallem fod ag amrywiolyn De Affrica. Dyna pam—. Niferoedd isel o amrywiolyn De Affrica sydd gennym ni yma—dyrnaid yn llythrennol—yn hytrach na'r niferoedd llawer mwy sydd, yn anffodus, wedi eu profi yn gadarnhaol yn Lloegr. Ac fe fydd hyn yn bwysig iawn i ni—rydym yn awyddus i weld llwyddiant gyda'r rhaglen brofi honno yn Lloegr sy'n chwilio am amrywiolyn De Affrica, oherwydd fe fydd honno mewn gwirionedd yn helpu i gadw pob un ohonom yn ddiogel. Ac mae rhai o'r ardaloedd lle maen nhw'n cynnal profion ar y ffin â Chymru, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cadw'n agos at ein gilydd ledled y DU er mwyn deall yr wybodaeth yr ydym yn ei chaffael, a'i rhannu'n agored wedyn. Ac mae honno wedi bod yn nodwedd bwysig iawn drwy gydol y pandemig hwn. Fe fydd yn rhaid i hynny barhau am fisoedd lawer i ddod.

15:35

Diolch i chi am eich diweddariad, Gweinidog, a diolch o galon i'r lliaws o bobl sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod dros 13 y cant o boblogaeth Cymru wedi cael eu dos cyntaf o'r brechlyn, heb anghofio'r cymorth a gawn ni gan ein lluoedd arfog yn ystod y pandemig hwn. Gweinidog, yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddwn ni'n dechrau gweinyddu ail ddosau. Pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau y gall y dosau cyntaf barhau i gael eu cyflwyno ar frys heb unrhyw ostyngiad yn y niferoedd? Dros yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld biwrocratiaid yr Undeb Ewropeaidd yn bygwth ein cyflenwadau o frechlynnau. Felly, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gallwn ni sicrhau diogelwch ein cyflenwad ni? Ac er na all yr UE byth atal allforion o'n cyflenwadau ni o frechlynnau, fe allan nhw eu gohirio, ac mae'r ffradach wedi tynnu sylw at y risgiau cynhenid a ddaw o ddibynnu ar fewnforion. Felly, o ystyried hyn, a wnewch chi ddweud wrthyf i pa drafodaethau a gawsoch chi ynghylch cynhyrchu brechlynnau yng Nghymru?

Ac yn olaf, Gweinidog, rydym ni wedi gweld amrywiolion newydd eisoes yn dod i'r amlwg, ac mae'n ymddangos bod ganddyn nhw gyfradd o ymwrthedd i frechlynnau. Fe allai hyn olygu y bydd raid inni barhau i addasu'r brechlynnau yn gyson i gadw i fyny â'r feirws. Pan ddaw bywyd yn ôl at ryw fath o normalrwydd, ni allwn ddibynnu ar y canolfannau brechu torfol presennol, felly pa gamau yr ydych chi wedi eu cymryd i sicrhau y bydd gennym gapasiti hirdymor ar gyfer brechu ym mhob cymuned? Ac fe hoffwn i ddiolch i'r etholwr a'm ffoniodd i, a oedd yn gorfoleddu wrth ddweud ei fod ef, ar ei ben-blwydd yn saith deg a phum mlwydd oed, wedi cael ei frechu. Mae yntau'n dweud 'diolch yn fawr'. Diolch.

Diolch. O ran yr ail ddosau, heb effeithio ar y cyflwyno yn ehangach, rydym ni eisoes yn bwriadu darparu ail ddosau—. Yn ystod yr wythnosau nesaf, yn llythrennol, fe fyddwn ni'n dechrau gweld mwy o bobl yn cael eu hail ddos nhw, ac fe fydd y niferoedd hynny'n cynyddu, oherwydd, fel y gwyddoch, yn ystod y tair i bedair wythnos gyntaf, fe gawsom ni niferoedd llai o bobl yn cael eu brechu o'i gymharu â'r wythnos hon. Fe fydd cyfanswm y cyflenwad yn effeithio ar ein gallu ni i barhau i fynd ar yr un gyfradd a'r dos cyntaf fel rydym ni'n gwneud ar hyn o bryd. Felly, fe fydd angen inni ystyried sicrhau bod y brechlyn cywir ar gael gennym ar gyfer yr ail ddos—felly fe ddylai pobl sydd wedi cael Pfizer gael Pfizer eto ar gyfer yr ail ddos. Mae llai o bryderon a chwestiynau am AstraZeneca, ac fe fydd angen inni wybod wedyn beth sydd ar ôl inni ar gyfer cyflawni o ran dosau cyntaf newydd. Felly, unwaith eto, mater o gyflenwad yw hyn, yn ogystal â dychwelyd at bwynt Angela Burns, ynghylch gwneud defnydd o'r tîm gofal sylfaenol ehangach—felly, ein fferyllwyr ni—a'n gallu ni i ddarparu rhaglen fwy byth wedi hynny. Os bydd y cyflenwad gennym i wneud hynny, fe fydd angen defnyddio'r tîm ehangach hwnnw ym maes gofal sylfaenol.

O ran yr Undeb Ewropeaidd a'r brechlyn, rwy'n credu bod yna gydnabyddiaeth eang, beth bynnag yw eich barn chi o'r Undeb Ewropeaidd, nad yw'r wythnos neu'r pythefnos ddiwethaf wedi bod yn rhagorol o safbwynt yr UE. Roedd y ffordd y cyflwynwyd y mater hwnnw'n eithriadol o ddi-fudd. Rwy'n credu bod synnwyr cyffredin wedi cario'r dydd erbyn hyn. Gan fod ar bawb angen ein gilydd—o ran teithio hefyd, oherwydd, mewn gwirionedd, fe gafodd y coronafeirws ei fewnforio i Gymru i raddau helaeth pan aeth pobl o Brydain i Ewrop am wyliau a dod adref ym mis Ionawr a mis Chwefror y llynedd; roedd hanner tymor mis Chwefror yn ddigwyddiad arwyddocaol o ran mewnforio oherwydd teithio uniongyrchol o Ewrop, ac nid o Tsieina. Felly, mewn gwirionedd, nid yw'r patrymau hynny o deithio am fod yn wahanol iawn yn y dyfodol, gyda bygythiadau yn y dyfodol. Mae hefyd yn wir ein bod ni eisoes yn cael brechlyn o Ewrop, felly mae angen perthynas dda â phartneriaid Ewropeaidd er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu gweld brechlynnau yn croesi ffiniau rhyngwladol, yn union fel mae cyflenwad AstraZeneca, y caiff rhywfaint ohono ei gynhyrchu yma yng Nghymru eisoes.

Ac mae eich cwestiwn chi am gynhyrchu brechlynnau yng Nghymru—wrth gwrs, mae gwaith cyflenwi a llenwi AstraZeneca yn Wrecsam yn barod. Felly, mae gennym ni rywfaint o'r gweithgynhyrchu hwnnw yma eisoes, ac mae gan un o'r darpar frechlynnau newydd sylfaen i gynhyrchu'r brechlyn yn yr Alban. Felly, mae'r DU eisoes yn cynhyrchu brechiadau ar ei thiriogaeth ei hun, ond nid yw hynny ynddo'i hun am roi'r math o sicrwydd y byddem ni'n dymuno ei gael yn fy marn i. Felly, fe fydd angen perthynas ymarferol ac aeddfed iawn arnom ni â chanolfannau cynhyrchu yn Ewrop, yn ogystal â chwmnïau fferyllol sydd â chanolfannau mewn mwy nag un rhan o Ewrop. Ac o ran ymwrthedd i frechlynnau, dyma un o'r pethau sydd wedi codi o'r blaen, rwy'n credu. Felly, mae hynny'n sicr yn rhan o'r hyn y mae ein gwyddonwyr ni'n ei ystyried, yn ogystal ag ymchwilwyr mewn cwmnïau unigol sy'n awyddus i ddatblygu'r brechlynnau nesaf.

A chapasiti—mae'r capasiti i frechu niferoedd mawr wedi cynyddu oherwydd y ffordd yr ydym wedi gallu symud a defnyddio ein tîm gofal sylfaenol ni. Fel rheol, caiff brechiadau eu gweinyddu gan ofal sylfaenol yn bennaf, beth bynnag. O ystyried ein rhaglenni imiwneiddio hynod lwyddiannus ni ar gyfer plant a phobl ifanc yn sgil yr ymgyrch ffliw—wel, gofal sylfaenol sy'n gweinyddu'r rhain, boed hynny mewn practis cyffredinol neu, yn wir, mewn fferyllfa, neu ymwelwyr iechyd ac eraill a fydd yn mynd i ymweld â phobl o oedran cynnar iawn. Felly, ni fydd gennym strwythur parhaol o ganolfannau brechu byth, os mynnwch chi. Os byddai hynny'n wir, fe fyddem yn byw gyda bygythiadau i dragwyddoldeb. Ond, pe byddai angen inni fod yn fwy ystwyth eto, rwy'n credu mai'r hyn a gafodd ei brofi yw bod gofal sylfaenol yn hynod o hyblyg ac yn hynod o barod i amddiffyn y bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw'n gyson, ac rwy'n ddiolchgar iawn am bopeth y maen nhw wedi ei wneud. 

15:40

Gweinidog, rydym ni'n gwybod bod ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn arbennig o agored i salwch y feirws, ac mae Llywodraeth Cymru a'i gweithgor wedi gwneud gwaith da iawn yn esbonio a deall ac ymateb i hynny. Mae rhywfaint o bryder ar hyn o bryd y gallai rhai yn ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig fod yn fwy cyndyn o gael y brechlyn na'r boblogaeth yn gyffredinol. Tybed a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniad a yw hynny'n wir yng Nghymru, ac, os felly, i ba raddau y mae honno'n broblem.

Ac, o ran cyfathrebu'r negeseuon cywir mewn modd priodol i'n poblogaethau lleiafrifoedd ethnig, gwn i fod gwaith yn cael ei wneud gyda phobl yn y gymuned i gyfleu'r negeseuon hynny, yn wir, ac o gael aelodau o'r gymuned leiafrifol ethnig mewn swyddi cyfrifol priodol, gweithwyr iechyd proffesiynol efallai, yn cyfathrebu'r negeseuon hynny ac, wrth gwrs, yn sicrhau bod yr ieithoedd priodol yn cael eu defnyddio. Tybed a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud rhagor i adeiladu ar y gwaith hwnnw, o ystyried y broblem bosibl sy'n bodoli, a hefyd tybed a roddir ystyriaeth i ddefnyddio mosgiau fel canolfannau brechu, pe gallem ddod o hyd i adeiladau sydd â digon o le ac sy'n addas o ran eu natur saernïol. Fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi darlun mwy manwl inni o'r gwaith sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â'r materion hyn, Gweinidog, oherwydd maen nhw'n arwyddocaol iawn, yn amlwg, o ystyried yr effaith fwy andwyol ar iechyd a gafodd y feirws ar ein cymunedau du ac Asiaidd ni.

Diolch. O ran hyn, rwy'n cyfeirio nôl at yr hyn a ddywedais i'n gynharach mai da o beth yw bod gennym ni seneddwyr—neb ohonyn nhw'n ASau o Gymru, ond seneddwyr o'r Blaid Geidwadol a Llafur y DU, nad ydyn nhw'n cytuno â'i gilydd o gwbl ar y mwyafrif llethol o faterion—a phob un ohonyn nhw'n cytuno i lunio neges sy'n hyrwyddo ac annog pobl i fanteisio ar y brechlyn. Pobl yn adrodd eu profiadau personol am eu teuluoedd a'u cyfeillion nhw, a chlywed James Cleverly a David Lammy yn siarad am bobl y mae'r ddau ohonyn nhw'n eu hadnabod—o dueddiadau gwleidyddol gwahanol iawn, ond y ddau ohonyn nhw wedi colli pobl, y maen nhw wedi eu hadnabod a'u caru a gofalu amdanyn nhw, oherwydd COVID. Ac rwy'n credu bod clywed pobl fel hyn yn annog pawb i fanteisio ar y brechlyn yn neges rymus iawn.

Ac rydym eisoes yn gwneud gwaith yn benodol gyda grwpiau cymunedol yma yng Nghymru, ac nid yw bod yn amheus o'r brechlyn yn rhywbeth y dylem ni gredu nad yw'n bodoli yma yng Nghymru. Mae'n ymwneud â sut rydym ni'n ceisio mynd i'r afael â hyn a pha mor effeithiol y byddwn ni'n gwneud hynny. Byddaf i'n gwneud rhywfaint o waith yn benodol gyda hynny drwy siarad ag arweinwyr cymunedol i adeiladu ar waith sydd wedi ei wneud yn barod. Ac rydym yn siarad â'r gymuned Fwslimaidd eisoes yma yng Nghymru ynghylch a allwn ni ddefnyddio mosgiau, ond yn ogystal â hynny, rwy'n cael fy nghalonogi'n fawr hefyd gan y neges sydd gan arweinwyr ffydd wrth annog pobl i fanteisio ar y brechlyn. Nid oes unrhyw beth sy'n anghydnaws â'u crefydd nhw i gael y brechlyn ac mae yna hefyd—[Anghlywadwy.] —nid yn unig drwy ddefnyddio mosgiau, ond drwy ddefnyddio eglwysi hefyd, o ran yr ystod o'n cymunedau ni. I lawer ohonyn nhw, mae ffydd yn fwy canolog na meysydd eraill o fywyd yma yng Nghymru. Felly, mae angen inni feddwl am y ffyrdd amrywiol o gyfleu negeseuon yn effeithiol i bobl, sy'n ystyrlon ac yn adeiladu'n wirioneddol ar ymddiriedaeth.

Felly, fe fyddaf i'n hapus i roi diweddariad pellach ar ôl hanner tymor, oherwydd fe fyddaf wedi gweithio mwy ar yr ymgysylltiad uniongyrchol hwnnw i roi ryw syniad i chi am yr hyn y gallwn ni ei wneud i annog pobl i'w hamddiffyn eu hunain, oherwydd mae cymunedau du ac Asiaidd mewn mwy o berygl o gael coronafeirws na gweddill y wlad, oherwydd eu tarddiad ethnig nhw.

15:45

Gweinidog, ddydd Sul diwethaf, fe weinyddodd bwrdd iechyd Cwm Taf frechiadau ym mhob un o'r cartrefi gofal ac i bob aelod o staff yn y cartrefi gofal, ac rwy'n credu y dylid llongyfarch pob un a gyfrannodd at hynny, mewn tywydd garw iawn, ar adegau, am yr ymdrech a wnaed yn y fan honno.

A gaf i godi dim ond dau bwynt gyda chi? Un ohonyn nhw yw brechu gartref. Yn amlwg, mae pryder y bydd angen brechu rhai nad ydyn nhw'n gallu mynd o'u tai am ba reswm bynnag, ac ati, yn eu cartrefi nhw eu hunain. Mae'n ymddangos bod peth o'r wybodaeth am hynny'n gymysglyd. Tybed a ellid edrych ar hynny, dim ond er eglurder, oherwydd mae'n amlwg bod pobl yn teimlo'n bryderus. Un pwynt arall, wrth gwrs, yw eich bod chi wedi gweld data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfradd y marwolaethau ymhlith gyrwyr tacsis a bysiau—ymhlith gyrwyr tacsis, 101 o farwolaethau i bob 100,000; a gyrwyr bysiau, 83 i bob 100,000—ac roeddwn i'n meddwl tybed a oes unrhyw sylw'n cael ei roi naill ai i ystyriaethau diogelwch o ran eu gwaith nhw, neu i'r gwaith y maen nhw'n ei wneud yn enwedig wrth gludo meddygon a nyrsys, i ganolfannau brechu, i gymorthfeydd, neu ysbytai ac yn y blaen. Diolch i chi, Gweinidog.

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O ran mater gweithwyr trafnidiaeth yn benodol, fe gadarnhaodd cyhoeddiad diweddar yr ONS yr hyn yr oeddem ni'n ei wybod o'r don gyntaf sef bod gweithwyr trafnidiaeth, y mae natur eu gwaith yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o'i gymharu â'r boblogaeth yn fwy eang a bod y gwahaniaeth yn un sylweddol. Felly, mae hynny'n rhan o'r hyn y mae'r JCVI wedi bod yn edrych arno wrth roi ystyriaeth i flaenoriaethu'r tu allan i grwpiau 1 i 9. Dyna pam mae'n bwysig iawn hefyd i bob cyflogwr feddwl am yr hyn y mae'n ei wneud o ran yr angen cynyddol i asesu risg cyfredol. Mae rhai o'r bobl hyn yn hunangyflogedig, wrth gwrs. Hunangyflogedig yw'r rhan fwyaf o yrwyr tacsis. Ac rydym ni'n ystyried a oes angen, o'n safbwynt ni, ganllawiau pellach ynglŷn â hynny i amddiffyn y gweithwyr hynny rhag perygl.

Rwy'n cymryd i ystyriaeth yr hyn a ddywedwch am aelodau o'r cyhoedd sy'n gaeth i'r tŷ. Os ydych chi'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, yna rydym eisoes wedi bod yn mynd allan i'ch amddiffyn chi. Mae amrywiaeth o bobl eraill mewn cymunedau sy'n gaeth i'r tŷ am wahanol resymau, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae cyswllt â gofal sylfaenol mor hanfodol. Mae gennym ni dimau brechu symudol ym mhob un ardal bwrdd iechyd, ond fe fydd angen i hyn fod yn destun sgwrs gydag ymarferwyr cyffredinol ynglŷn ag olrhain y bobl hynny sy'n gaeth i'w tai, oherwydd ni fydd llunio tîm symudol canolog gan y GIG yn golygu ynddo'i hun eu bod nhw'n gwybod pwy yw pob un o'r unigolion hyn. Felly, dyna pam mae'n bwysig iawn bod â'r cysylltiad hwn yn ogystal â'r pwyntiau a wnaeth Vikki Howells yn gynharach am y cysylltiad â system imiwneiddio Cymru, i sicrhau ein bod ni'n deall pwy sy'n gwneud beth a phwy sy'n mynd allan i ymweld â'r bobl hynny i wneud yn siwr eu bod wedi eu cynnwys, yn hytrach na'u cyfrif ddwy waith.

Ac yn olaf, fe ddylwn i ddweud fy mod i'n gwerthfawrogi'r gamp arwyddocaol yr ydych chi, Vikki Howells, ac eraill wedi ei chrybwyll, ar draws y pleidiau, a llongyfarch ein staff ni am yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Mae'n arwyddocaol iawn. O ran ein cyflymder ni yn yr hyn rydym ni'n ei wneud, i roi syniad i chi, yn y saith diwrnod diwethaf y nifer cyfartalog fesul 100,000 ar gyfer y brechlyn yw 452 yn yr Alban, 469 yng Ngogledd Iwerddon, 609 yn Lloegr, ond 680 yng Nghymru. Mae hynny'n dangos ein cyflymder ni yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd â rhan yn hynny.

Gweinidog, ers rhai wythnosau bellach, rwyf i wedi bod yn siarad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am sefydlu pwynt cyswllt canolog a llinell ffôn i'r rhai sy'n pryderu nad ydyn nhw wedi cael eu brechlyn eto, ac i nifer fechan o bobl 80 oed, mae hynny'n amlwg yn wir. Roeddwn i'n arbennig o falch yr wythnos hon pan gafodd y llinell ffôn honno ei sefydlu, ac fe gafodd ei lansio ddoe. Yn fy marn i, bydd hyn yn rhan o'r ateb wrth sicrhau nad oes neb sy'n dymuno cael y brechlyn yn cael ei amddifadu ohono. Ac wrth inni weithio trwy'r grwpiau blaenoriaeth, Gweinidog, a wnewch chi drafod gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a byrddau iechyd eraill ledled Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i sicrhau parhad y llinell ffôn hon drwy gydol y pandemig?

Gwnaf, rwy'n credu mai dyma ran o'n her ni o ran rheoli disgwyliadau pobl ac wrth sicrhau, ar yr un pryd, nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Nid ydym yn dymuno gweld pobl yn galw'r rhif oherwydd eu pryderon cyffredinol, ac fe fydd yna lawer o bobl yng ngrwpiau 1 i 4 yn bryderus ar hyn o bryd, ond pan fyddwn ni'n ymestyn hynny eto, i grwpiau 1 i 9, nid wyf i'n dymuno i gydweithwyr gofal sylfaenol, yn enwedig practisau cyffredinol a fferyllwyr, gael eu llethu gan alwadau. Serch hynny, mae angen dod o hyd i ffordd o ennyn hyder a sicrhau hefyd bod modd gwirio. Felly, fe fyddaf i'n sicr yn rhoi ystyriaeth i'r hyn sydd wedi digwydd eisoes yn y gogledd, i edrych ar yr arfer da y mae Betsi Cadwaladr wedi gallu ei ddatblygu, a gweld sut yr ydym ni'n cymhwyso hynny mewn ffordd fwy unffurf ledled Cymru fel na fydd unrhyw un yn cael ei adael ar ôl wrth inni gwblhau'r ymgyrch genedlaethol hon i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn ein pobl.

15:50
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Felly, yr eitem nesaf yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol unwaith eto ar ddiweddariad ar adolygiad clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Felly, unwaith eto, Vaughan Gething.

Diolch, Llywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais y cyntaf o dri adroddiad thematig yn nodi'r hyn sy'n dod i'r amlwg o'r rhaglen adolygu clinigol a sefydlwyd gan banel goruchwylio annibynnol y gwasanaethau mamolaeth a benodwyd gennyf. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar adolygu tua 160 o achlysuron gofal a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol hen Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf rhwng 1 Ionawr 2016 a 30 Medi 2018. Roedd yr adroddiad cyntaf yn canolbwyntio ar y gofal a ddarperir i famau ac yn benodol y rhai yr oedd angen gofal brys arnyn nhw, a arweiniodd yn bennaf at dderbyn gofal dwys.

Fel y bydd yr Aelodau wedi'i weld yr wythnos diwethaf, yn gyffredinol mae canfyddiadau'r adroddiad yn cyd-fynd â chanfyddiadau'r adolygiad annibynnol a gomisiynais gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd yn 2018. Nid profiad braf oedd ei ddarllen pan gadarnhaodd y canfyddiadau, mewn 27 o'r 28 o'r achosion o feichiogrwydd a adolygwyd, canfuwyd ffactorau a gyfrannodd at ansawdd y gofal a gafodd menywod. Mae'n bryder sylweddol, mewn 19 o'r adolygiadau, yr ystyriwyd fod y ffactorau yn rhai pwysig. Mae hynny'n golygu y gellir disgwyl yn rhesymol i ofal gwahanol fod wedi newid y canlyniad.

Nid wyf yn bychanu pa mor drallodus y bu'r adroddiad hwn i'r menywod a'u teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw. Er fy mod yn gobeithio ei fod wedi rhoi atebion i bryderon a oedd ganddyn nhw o bosib, mae'r adroddiad yn cadarnhau bod y pryderon hynny'n real iawn. Mae'n ddrwg iawn gennyf i o hyd am yr hyn a aeth o'i le ac rwy'n gwybod na all dim newid yr hyn a ddigwyddodd i'r menywod hyn a'u teuluoedd. Er ei bod hi'n bwysig bod yn dryloyw ynglŷn â'r canfyddiadau hyn, sylweddolaf hefyd ei bod hi'n ddigon posibl eu bod wedi achosi trallod pellach i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw. Efallai ei fod wedi sbarduno'r atgofion hynny o'u profiadau gwael ac, ar adegau, trawmatig.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar fenywod pan fyddant yn gwybod bod rhywbeth o'i le. Mae cyfathrebu gwael yn thema allweddol sy'n sail i'r ffactorau a nodwyd yn yr adroddiad. Roeddwn yn falch, fodd bynnag, fod y panel wedi cydnabod y ffordd agored a thosturiol y mae'r bwrdd iechyd wedi ymateb a'r gefnogaeth y mae wedi'i rhoi ar waith i fenywod a theuluoedd drwy'r broses adolygu hon. Hoffwn ddiolch hefyd i wasanaeth eirioli'r cyngor iechyd cymuned am ei swyddogaeth bwysig yn y gwaith hwn.

Ni ddylem ni danbrisio pa mor anodd y bydd yr adroddiad hwn wedi bod i staff ac yn enwedig ar adeg pan fo'r GIG, gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, wedi bod o dan bwysau aruthrol. Mae'n bwysig cydnabod, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud, fod gwelliannau sylweddol wedi'u cyflawni dros y ddwy flynedd ddiwethaf y mae'r panel wedi cadarnhau yn ei adroddiadau blaenorol. Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth ag ymrwymiad a gwaith caled y staff ac, yn wir, yr arweinyddiaeth newydd. Mae'r adroddiad thematig hefyd yn cadarnhau mai'r meysydd gwella hynny oedd y rhai cywir i ganolbwyntio arnyn nhw.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â Mick Giannasi, cadeirydd y panel annibynnol, a chadeirydd y bwrdd iechyd, Marcus Longley, i adolygu cynnydd ac ystyried y camau nesaf. Bydd y panel nawr yn troi ei sylw at gwblhau'r adolygiadau o ofal babanod a oedd yn farwanedig yn anffodus. Unwaith y bydd canfyddiadau unigol wedi'u rhannu â menywod a theuluoedd, byddant yn cynhyrchu adroddiad pellach yn disgrifio'r dysgu thematig. Byddant yn parhau i oruchwylio agweddau mamolaeth y rhaglen wella.

Ar y cyd, mae'r panel yn rhoi mwy o bwyslais ar ofal newyddenedigol. Mae'r adolygiadau o fabanod yr oedd angen gofal arbenigol arnyn nhw neu a fu farw yn anffodus ar ôl eu geni, ar y gweill. Dyma'r categori mwyaf, sy'n cynnwys tua 70 adolygiad. Mae angen i'r panel sicrhau bod y dysgu uniongyrchol sy'n deillio o'r adolygiadau hyn yn cyd-fynd ag agweddau newyddenedigol rhaglen wella'r bwrdd iechyd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn penderfynu a yw'r holl gamau gofynnol eisoes wedi cael sylw neu ar y gweill.

Er mwyn sicrhau bod hyn mor gadarn â phosibl, mae'r panel wedi nodi'r angen i ehangu ei aelodaeth i gynnwys arbenigedd newyddenedigol. Maen nhw wedi argymell i mi fod neonatolegydd a nyrs newyddenedigol yn ymuno â'r panel. Wrth wneud hynny, maen nhw yn bwriadu defnyddio'r arbenigedd sydd eisoes yn rhan o'r rhaglen adolygiad clinigol. Bydd hyn yn eu galluogi i sicrhau y rhoddir manyldeb yr un mor drylwyr i roi sicrwydd ynghylch yr agweddau newyddenedigol ar wella, ochr yn ochr â'r dysgu sy'n deillio o'r adolygiadau clinigol unigol.

Er mwyn pwyso a mesur, maen nhw yn bwriadu cynnal archwiliad manwl o'r gwasanaeth presennol, a sicrhau yr eir i'r afael ag unrhyw welliannau sydd eu hangen, a'u bod yn derbyn yr argymhellion a nodwyd yn adolygiad y colegau brenhinol yn llawn. Roeddwn yn falch bod Marcus Longley, y cadeirydd, wedi cadarnhau y byddai'r bwrdd yn croesawu'r datblygiad hwn, a'r oruchwyliaeth a'r cyngor allanol, annibynnol ychwanegol y bydd yn eu darparu iddyn nhw. Bydd hyn yn sicrhau y gellir rhoi sicrwydd llwyr iddyn nhw o ran ansawdd gofal newyddenedigol, a'r gwelliannau y maen nhw yn eu gwneud.

Menywod a theuluoedd sydd wrth wraidd y broses hon o hyd. Gobeithio y gallant weld fy mod i, y panel annibynnol a'r bwrdd iechyd yn benderfynol y dylem ni wneud popeth posibl i sicrhau ein bod yn dysgu o'r gorffennol. Mae hyn hefyd yr un mor bwysig i'n staff, gan eu bod yn haeddu gweithio mewn amgylchedd agored a chefnogol bob amser lle mae pwyslais o hyd ar ddysgu.

Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, a byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach unwaith y bydd aelodau ychwanegol y panel wedi'u cadarnhau. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

15:55

Diolch, Gweinidog, am y datganiad yma, ac am eich cydnabyddiaeth o ba mor anodd fu'r sefyllfa hon mewn difrif. Fel chithau, hoffwn ddweud wrth yr holl deuluoedd hynny pa mor flin yr wyf i—ac rwy'n siŵr ein bod ni i gyd—fod hyn wedi digwydd.

Fe'm syfrdanwyd o ddarllen bod y tîm clinigol annibynnol wedi dweud mewn gwirionedd eu bod nhw, yn y rhan fwyaf o'r achosion hyn, wedi dod i'r casgliad y gallai gwahanol driniaethau fod wedi arwain yn rhesymol at ganlyniadau gwahanol i famau a babanod. Dim ond mewn un achos y byddai'r canlyniad heb fod yn wahanol. Felly, gweinidog, mae honno'n wers fawr iawn i'r bwrdd iechyd ei dysgu, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi amlinellu sut yn union y gallwn ni warantu bod y gwersi hynny wedi'u dysgu yn wir.

Cofiaf sôn am y sgandal ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf rai blynyddoedd yn ôl, pan dorrodd y stori gyntaf, ac roeddem yn ei hystyried yn y pwyllgor iechyd. Fe wnaethom ni edrych ar yr holl adroddiadau amrywiol a oedd wedi bod yn tynnu sylw at y ffaith bod problem, ond dro ar ôl tro, nid oedd y tîm rheoli na'r bwrdd ar y pryd wedi cydnabod y problemau hynny, neu nid oedden nhw wedi eu dirnad yn llawn. Roedd pob math o resymau ac esgusodion, ac ati. Un o ganlyniadau'r trafodaethau cynnar hynny, y gwelaf fod yr adroddiad presennol yn ei adlewyrchu, yw, er bod hyn yn mynd yn dda ac yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ei fod yn waith sy'n mynd rhagddo. Mae gwaith i'w wneud o hyd mewn meysydd allweddol fel diwylliant ac ymddygiad, arweinyddiaeth a chyfathrebu.

Gweinidog, mae gennyf i gof byw iawn mai un o'r pethau a ddaeth i'r amlwg oedd y ffaith nad yn y  gwasanaethau mamolaeth yn unig oedd y broblem, ond mewn gwirionedd yn ethos Cwm Taf yn ei gyfanrwydd, fod angen y newid sylweddol hwnnw yn eu diwylliant—yr arweinyddiaeth a'r cyfathrebu drwyddi draw. Felly, a wnewch chi ddweud ychydig wrthym ni ac egluro wrthym ni pam yr ydych chi'n teimlo'n ffyddiog bod y gwersi hynny wedi'u dysgu, bod y diwylliannau hynny'n dal i newid? Mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers hynny. Mae'r adroddiad presennol yn dal i ddweud bod ffordd bell i fynd. Wrth gwrs, nid ydym ni wedi cyffwrdd eto â'r achosion eraill a oedd yn gysylltiedig â hyn.

Y rheswm pam rwy'n awyddus iawn i ddeall am y diwylliant drwy'r ardal hon i gyd yw oherwydd bod rhybuddion eraill wedi dod i'r fei o ran Gwm Taf. Nawr, fe allech chi ddweud nad oes unrhyw gyswllt yn y byd rhyngddyn nhw, neu ai sbardunau ydyn nhw yn hytrach, a ydyn nhw yn ein harwain i ddweud, mewn gwirionedd, mai bwrdd iechyd yw hwn lle nad yw rhai o'r gwersi hyn wedi'u gwreiddio drwyddi draw, a bod hyn yn fethiant systemig? Felly, arwydd rhybudd un yw bod taliadau esgeulustod wedi mynd o £4.5 miliwn i £13 miliwn mewn un flwyddyn yn unig. Mae hynny'n dangos i mi fod llawer yn digwydd, ac y gwneir taliadau oherwydd bod materion heb eu datrys ac sy'n cael eu datrys yn araf. Felly, a yw hynny'n arwydd rhybudd? A ddylem ni fod yn edrych ar hynny?

Y maes arall, wrth gwrs, yw'r ffaith bod Cwm Taf wedi gweld nifer sylweddol iawn o farwolaethau COVID oherwydd trosglwyddo yn yr ysbyty. Unwaith eto, mae hynny'n ymwneud â hyfforddiant, cyfathrebu, arweinyddiaeth, rheolaeth. Felly, gallech ddweud, 'Nag oes, does dim cysylltiad o gwbl â'r mater dan sylw', ond y pwynt yr wyf yn ceisio'i wneud yw: a ydym ni wedi datrys y problemau systemig? Ai dim ond gyda'r agwedd famolaeth oedd y broblem mewn gwirionedd, neu, fel y trafodwyd mewn gwahanol gyfarfodydd pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf, a oedd hynny'n rhan o ddarlun ychydig yn fwy? Credaf y bydd eich sicrwydd neu eich cadarnhad bod hynny'n cael sylw a'ch bod yn teimlo'n ffyddiog bod y cadeirydd a'r tîm presennol yn dechrau cael y maen i'r wal mewn gwirionedd yn dechrau ateb llawer o'r cwestiynau eraill, oherwydd nid yw sôn am fanylion yr hyn a ddigwyddodd ac na ddigwyddodd a'r holl adroddiadau, fel y dywedoch chi yn gynharach, yn newid dim o ran yr hyn a ddigwyddodd.

16:00

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Dylwn i dynnu sylw at y ffaith bod ffactorau addasadwy mewn 27 o'r 28 achos a adolygwyd. Mewn 19 o'r 28 achos roedd ffactorau pwysig y gellid disgwyl yn rhesymol iddyn nhw fod wedi arwain at ganlyniad gwahanol. Mae hynny'n bwysig, rwy'n credu, oherwydd mae hynny yn dangos, mewn 19 o'r 28 achos, y gallai fod gwahaniaeth wedi bod. Yn y lleill, byddai'r heriau hynny, ffactorau addasadwy mewn gofal, wedi gwneud gwahaniaeth i'r person hwnnw, ond nid o reidrwydd yn effeithio ar y canlyniad cyffredinol. Bydd llawer ohonom ni yn gwybod bod y cwynion a gawn yn aml yn ymwneud â'r profiad sydd gan bobl o'u gofal; hyd yn oed pe bai'r canlyniad clinigol yr un fath, gallai profiad unigolyn fod yn wahanol iawn wrth gael yr un canlyniad. Mae'n bwysig cydnabod yr holl agweddau gwahanol hynny yn y gwaith gwella sydd ei angen o hyd.

Er hynny, dylwn ddweud fy mod yn credu ei bod hi efallai'n annheg tynnu sylw at y cynnydd mewn esgeulustod clinigol heb unrhyw gyd-destun, ac yn yr un ffordd â'r trosglwyddiad nosocomaidd mewn ysbytai. Oherwydd, wrth gwrs—a byddwch yn deall hyn, Angela, fel y bydd rhai pobl sy'n gwylio hyn—gallai'r gwahaniaeth mewn cynnydd o'r maint hwnnw mewn taliadau esgeulustod clinigol fod yn un achos unigol. Gallai digwyddiad trawmatig ar adeg gynnar arwain at daliad sylweddol iawn. Felly, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r nifer a'r maint, a chredaf fod angen mwy o gyd-destun yn hynny.

Mae'r un peth yn wir am drosglwyddo nosocomaidd—felly, y bobl hynny sy'n dal COVID, yn debygol neu wedi ei gadarnhau, o leoliad gofal iechyd. Mewn gwirionedd, gwyddom ei fod yn nodwedd; pan fydd gennym ni gyfraddau trosglwyddo cymunedol, fe welwch y rheini mewn lleoliadau iechyd a gofal. Bydd Aelodau sy'n byw yn y cymunedau hynny'n gweld achosion o drosglwyddo ac maen nhw mewn mwy o berygl oherwydd y gweithle y maen nhw'n gweithio ynddo. Felly, mewn gwirionedd, nid yw marwolaethau COVID mewn gwirionedd oherwydd y ffordd y mae ein hysbytai'n gweithredu mewn difrif; maen nhw mewn gwirionedd yn nodwedd o drosglwyddo cymunedol, a'r sefyllfa sydd ohoni fod ffactorau risg yn y boblogaeth. Does dim syndod mai ardaloedd â'r anghydraddoldeb economaidd mwyaf mewn unrhyw ran o'r DU yw'r rhai lle yr ydym wedi gweld y niwed mwyaf yn cael ei achosi. Felly, nid wyf i eisiau ceisio tynnu sylw at y ffaith bod y ddau fater hynny rywsut yn dangos methiant ehangach o fewn y bwrdd iechyd.

Nid yw hynny'n golygu nad oes dim i'w wneud o ran dysgu o'r naill bwynt na'r llall. Ym mhob achos o esgeulustod clinigol, dylid  deall yr hyn a aeth o'i le a dysgu ohono. Ym mhob achos o drosglwyddo nosocomaidd, dylid dysgu o hynny a deall sut i wyrdroi hynny, ac a yw'n ymwneud ag arferion atal a rheoli heintiau, neu a yw'n gwbl nodweddiadol o drosglwyddo cymunedol. Ni fyddwn i eisiau i bobl feddwl yn sicr fod hynny, heb fwy o gyd-destun, yn arwydd rhybudd, os mynnwch chi. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae llawer iawn o sylw'n cael ei roi i'r bwrdd iechyd hwn yn ystod pandemig COVID. Maen nhw wedi gwneud camau sylweddol o ran newid y ffordd y maen nhw'n gweithredu, a chredaf eu bod wedi ennyn llawer o glod. Mewn gwirionedd, mae'n gwella'r berthynas â'r bwrdd iechyd a'r cyhoedd lleol, oherwydd maen nhw wedi gorfod gwneud cymaint gyda'i gilydd. Rwy'n credu ei fod wedi ennyn lefel o ymddiriedaeth a didwylledd sy'n bwysig iawn i beidio â cholli golwg arnyn nhw, yn union fel y mae wedi'i wneud mewn rhannau eraill o'r wlad.

Mae hefyd yn werth adlewyrchu bod y panel annibynnol, wrth gwrs, yn darparu adroddiadau chwarterol rheolaidd o hyd. Felly, dyma adroddiad yr adolygiad clinigol. Byddwn yn dal i ddisgwyl cael adroddiad chwarterol yn edrych ar y cynnydd ehangach sy'n cael ei wneud o ran y 70 o argymhellion a wnaed. Cwblhawyd hanner cant o'r 70 argymhelliad hynny, ac mae'r 20 arall ar y gweill. Mae'r rhan fwyaf o'r rheini bellach yn ymwneud â'r newidiadau diwylliannol y mae angen eu gwneud o hyd. Nid yw newid diwylliannol—unwaith eto, byddwch yn gyfarwydd â hyn, Angela—yn digwydd o fewn ychydig fisoedd, ac mae'n cymryd amser nid yn unig iddo ddigwydd, ond i gadarnhau wedyn bod newid diwylliannol wedi'i wreiddio a'i sicrhau ac yn gynaliadwy. Mae perygl bob amser, ar ôl gwelliant, y gallwch ddechrau gweld hunanfodlonrwydd yn dychwelyd. Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod bwrdd yn gweithredu'n effeithiol ac nid arweinyddiaeth ar lefel weithredol yn unig, ond mewn gwirionedd drwy bob un o'r wardiau a'r lleoliadau cymunedol hefyd.

Rwy'n gobeithio cyrraedd y sefyllfa lle bydd Gweinidog iechyd yn y dyfodol yn gallu cadarnhau bod gwaith y panel annibynnol wedi ei wneud, ond bydd angen i ni sicrhau bod prosesau eraill y bwrdd yn gweithio'n effeithiol o hyd. Credaf y dylai pobl fod ag elfen o sicrwydd nid yn unig bod y panel yn y sefyllfa honno nawr, ond y ffaith bod pwyllgor ansawdd a diogelwch y bwrdd iechyd ei hun yn cydnabod ei fod eisiau mwy o sicrwydd am wasanaethau newyddenedigol. Felly, cafwyd sgwrs briodol rhwng y bwrdd iechyd a'r panel. Ni chafwyd unrhyw ymgais i wadu bod angen sicrwydd pellach, ac mae hynny, rwy'n credu, yn adlewyrchu'r math o onestrwydd y byddem eisiau ei weld. Dyna pam yr wyf wedi cytuno i'r argymhelliad yn ffurfiol, a dychwelaf gyda datganiad i'r Aelodau yn y dyfodol pan fyddwn ni wedi cadarnhau pwy fydd y ddau aelod newydd. Gan fod hyn yn ymwneud mewn gwirionedd ag adfer yr ymddiriedaeth a'r ffydd y dylai'r cyhoedd eu cael, ac y dylai staff gael, ac, yn wir, bydd Aelodau eisiau gwybod ei fod yn bodoli hefyd.

16:05

Nid yw'n bosibl gorbwysleisio'r boen, y loes, y niwed a'r gofid sydd wedi'u hachosi i bob un o'r teuluoedd y mae'r sgandal hon wedi effeithio arnyn nhw, ac mae hynny'n parhau. Nid yw'n rhywbeth sydd yn y gorffennol; mae'n rhywbeth y mae pobl yn byw ag ef bob dydd. Mae'r adroddiad yn dweud, o'r 28 achos o ofal a adolygwyd, mewn dwy ran o dair o'r achosion hyn, y gellid disgwyl yn rhesymol i ofal gwahanol fod wedi cael canlyniad gwahanol. A wnaiff y Gweinidog egluro beth yn ei dyb ef yw ystyr 'canlyniad gwahanol'? A yw'n derbyn y gallai'r iaith gwrtais a diplomyddol hon a ddefnyddir yn yr adroddiadau hyn fod yn rhan o'r broblem? Mae'r adroddiad yn sôn mai dim ond pedair o'r 28 menyw yn y garfan a ddewisodd rannu eu straeon, er bod y cyngor iechyd cymuned yn darparu gwasanaeth eirioli. A yw'r Gweinidog yn derbyn bod y niferoedd isel hyn yn broblem, ac yn broblem sy'n dangos bod angen gwneud llawer mwy o waith er mwyn adfer ymddiriedaeth y gymuned yn y bwrdd iechyd? Rhoddodd yr adroddiad a'r datganiad lawer o bwyslais ar y gwelliannau a'r dysgu sydd wedi digwydd, ond os ydym wedi dysgu unrhyw beth o'r flwyddyn ddiwethaf a sgandalau eraill sydd wedi digwydd mewn sefydliadau eraill, dim ond pan fo atebolrwydd am gamweddau y gellir ymgorffori dysgu mewn gwirionedd. A all y Gweinidog ddweud yn onest y bu atebolrwydd yn y sgandal hon, pan fo arweinwyr blaenorol y bwrdd iechyd wedi cael taliadau mor fawr ac nad yw'r menywod sydd wedi cael profedigaeth, mewn rhai achosion, wedi cael dim?

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Credaf, o ran deall beth fyddai 'canlyniad gwahanol' yn ei olygu, y bydd hynny bob amser yn dibynnu ar y niwed a wnaed, a byddai angen ichi ystyried achosion unigol yn hynny o beth. Ond rydym ni yn gwybod y bu canlyniadau gwael i famau a/neu eu babanod, a gallai rhai o'r ffactorau addasadwy fod wedi golygu nad oedd angen i bobl fynd i ofal dwys ac y byddent wedi cael gwell canlyniad, ac y gallai niwed fod dros dro neu gallai fod yn para'n hirach. O fewn y 28 achos, mae'n ymwneud â deall yr adolygiadau wrth iddyn nhw gael eu cyflwyno, ac yna wrth gydnabod nad yw menywod wedi rhoi eu caniatâd i rannu manylion hynny.

Felly, mae adroddiad y panel yn grynodeb o hynny yn ôl rheidrwydd, ac mae'n ymwneud mewn gwirionedd—mae a wnelo hyn â'ch ail bwynt a'ch ail gwestiwn—beth mae'n ei olygu bod pedwar o'r 28 yn barod i rannu eu profiadau. Nawr, mae'n bosibl, rwy'n tybio, wrth ddehongli awgrym Leanne Wood ei fod yn golygu nad oes gan y cyhoedd ffydd yn y bwrdd iechyd. Dydw i ddim yn credu bod hynny'n dybiaeth deg, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn mor bersonol. Dechreuoch drwy sôn am y boen a'r gofid sy'n parhau; pan wyf i wedi cwrdd â theuluoedd, rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod y boen honno a'r gofid hwnnw'n parhau i raddau helaeth iawn, flynyddoedd ar ôl y digwyddiad, i nifer o'r bobl hyn.

Bydd yr adroddiadau heddiw, a'r un a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn peri gofid i lawer ohonyn nhw, ac nid yw rhai pobl yn barod i wynebu hynny. Mae yna bobl sy'n ymateb drwy fod eisiau esbonio a siarad am yr hyn a ddigwyddodd iddyn nhw, ac maen nhw'n cael hynny'n ddefnyddiol, mae eraill yn teimlo y dylen nhw wneud hynny, oherwydd eu bod eisiau helpu eraill, ac eraill, am resymau sydd, mi gredaf, yn gwbl ddealladwy, nad ydyn nhw eisiau siarad amdano'n gyhoeddus ac nad ydyn nhw eisiau rhannu profiadau ag eraill. Rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ni ystyried y bydd gwahanol bobl yn ymateb yn wahanol i wahanol brofiadau a hyd yn oed profiadau tebyg y maen nhw wedi'u cael.

Dyna pam y mae'r adolygiad annibynnol mor bwysig, oherwydd mae'r unigolion yn cael eu hadborth manwl, ac yna mae gennym ni grynodeb sy'n eu diogelu nhw a'u hunaniaeth. Ond byddwn yn dweud, i'r holl fenywod hynny a'u teuluoedd sydd wedi rhannu eu profiadau, fod hynny'n gwneud gwahaniaeth, oherwydd mae clywed yn uniongyrchol gan bobl beth ddigwyddodd iddyn nhw, sut roedd yn gwneud iddyn nhw deimlo pan wrandawyd ac na wrandawyd arnyn nhw, a'r cyfan y mae wedi'i olygu ar gyfer eu bywyd, yn bwysig iawn o ran y dysgu. Yn aml iawn mae adborth o lygad y ffynnon gan bobl yn rhywbeth nad yw'n agwedd ddysgu gadarnhaol yn unig, ond y dylai'r dysgu hwnnw arwain at ddarparu gwell gwasanaeth i fenywod eraill a'u teuluoedd yn y dyfodol. Felly, nid mater o ymgorffori dysgu yn unig yw'r broses adolygu clinigol; mae'n ymwneud yn llwyr â gwella ansawdd y gofal a ddarperir.

O ran eich sylw olaf am atebolrwydd, mae cwestiwn bob amser ynghylch pryd a sut yr ydych chi'n gwneud staff yn atebol. Mae yn yr adroddiad ei hun yn ogystal sylw ynglŷn ag un o'r pethau a oedd yn mynd o'i le o ran diwylliant y staff, lle nad oedd pobl a deimlai fod ganddyn nhw bryderon yn teimlo y byddai eraill yn atebol, ac y bydden nhw mewn gwirionedd yn teimlo y caent eu cosbi pe baen nhw yn siarad ac yn dweud bod problem. Mewn gwirionedd, os ydych chi wedyn yn dechrau chwilio am bobl i gosbi'n gyhoeddus, nid yw hynny o reidrwydd yn eich helpu i gael pobl i ddod ymlaen a chael sgwrs, cydnabod eu bod nhw wedi gwneud camgymeriadau, neu gydnabod bod pryderon am y gwasanaeth y maen nhw'n rhan o'r gwaith o'i ddarparu gyda chydweithwyr eraill.

Mae wedi bod yn brofiad anodd iawn, nid yn unig i Weinidogion ac nid i'ch bwrdd iechyd eich hun yn unig, ond mae wedi bod yn brofiad anodd iawn i'r holl staff sydd wedi edrych yn ôl ar yr hyn a ddigwyddodd. Ac i rai staff, maen nhw wedi gadael y gwasanaeth oherwydd hynny. Nid yw hynny oherwydd eu bod o reidrwydd yn teimlo eu bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, ond mewn gwirionedd, oherwydd y sylw ychwanegol a'r hyn y mae hynny wedi'i olygu iddyn nhw a'u gallu i wneud eu gwaith, ac i fynd i'w gwaith, maen nhw wedi cynhyrfu cymaint eu bod wedi dewis gadael. Felly, mewn gwirionedd, na, nid yw'r prif weithredwr yn y sefydliad mwyach, ac nid wyf yn credu y bydd y prif weithredwr yn gweithio eto yn GIG Cymru. Gallai'r her o ddatrys yr hyn sydd wedi digwydd ar lefel arweinyddiaeth gan ymwneud â phroses hirfaith fod wedi niweidio'r sefydliad yn fwy.

Nid yw byth yn fater syml, ond rwyf wedi gweld hyn o'r ddwy ochr, yn Weinidog ac yn gyfreithiwr cyflogaeth, wrth orfod datrys rhywfaint o hyn hefyd, ac yn yr un modd yn y fan yma wrth wneud dewis ynglŷn â beth yw'r peth iawn i'w wneud dros y gwasanaeth. Rwy'n credu mai gallu symud ymlaen gydag arweinyddiaeth newydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach oedd y peth iawn i'w wneud dros y gwasanaeth. Oherwydd, fel y dywedais, menywod a'u teuluoedd sydd wrth wraidd hyn wrth wneud y peth iawn i wella'r gwasanaeth, ac i sicrhau bod didwylledd a gonestrwydd ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd, a'r didwylledd a'r sicrwydd sydd ar bobl ei eisiau ynglŷn â sut i fynd rhagddi i wella.

16:10

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi cwrdd â menywod a theuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan fethiannau hen wasanaethau mamolaeth Cwm Taf, rwyf wedi cyfarfod â staff mamolaeth sydd ers hynny wedi gweithio mor galed i weddnewid y gwasanaeth, ac wedi dilyn gwaith y panel arbenigol a'i adolygiad drwyddo draw. Mae gennyf dri chwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, rwy'n falch bod yr adroddiad hwn unwaith eto'n ailddatgan y gwelwyd ac y parheir i weld gwelliannau sylweddol yn y gwasanaethau mamolaeth. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i famau beichiog a fydd yn defnyddio'r gwasanaeth cyn hir, a chyda phwysau ychwanegol y cyfyngiadau a osodir gan y pandemig, y gallan nhw fod â ffydd yn y timau mamolaeth yng Nghwm Taf Morgannwg i roi'r gofal gorau posibl iddyn nhw? Yn ail, mae cyfathrebu wedi bod yn thema sy'n codi dro ar ôl tro drwy gydol yr adolygiad; a wnewch chi roi mwy o fanylion am sut y mae'r bwrdd wedi ceisio mynd i'r afael â'r mater allweddol hwn? A'm cwestiwn olaf: wrth i'r panel symud i ganolbwyntio ar ofal newyddenedigol, rydych chi'n dweud yn gwbl briodol fod angen iddyn nhw sicrhau bod dysgu uniongyrchol yn deillio o'r adolygiadau hyn sy'n cyd-fynd ag agweddau newyddenedigol rhaglen wella'r bwrdd iechyd. A allwch chi gadarnhau pa systemau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau y caiff y dysgu hwn ei ymgorffori'n gyflym yn rhaglen wella'r bwrdd?

O ran y sylw olaf am raglen wella'r bwrdd, fe welwch chi honno'n dryloyw yn yr adolygiadau chwarterol a gyhoeddir gennym ni a'r ymatebion gan y bwrdd. Mae hwn yn faes amlwg parhaus i'r bwrdd a'i drefniadau llywodraethu, a'r sicrwydd y mae'n ei geisio. Unwaith eto, fel y dywedais yn gynharach, mae'r bwrdd iechyd yn gwybod bod cryn ddiddordeb yn yr hyn y mae'n ei wneud a'r camau y mae'n eu cymryd, a byddant hefyd yn gwybod bod gan y panel annibynnol, yn ogystal â'u prosesau eu hunain, swyddogaeth o ran goruchwylio a rhoi sicrwydd i'r gwasanaeth mamolaeth hefyd. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i aelodau'r cyhoedd, sydd, yn fy marn i, yn berthnasol i'ch pwynt am yr hyn y gall mamau beichiog ei ddisgwyl o ran ansawdd y gofal y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael ac i gymryd rhan ynddo. Dywedaf 'cymryd rhan' oherwydd mae dewisiadau i bobl eu gwneud ynglŷn â'r hyn sy'n bwysig ac yn gwneud gwahaniaeth iddyn nhw.

O ran y sylw ynglŷn â chael gwrandawiad yn ystod eu triniaeth, yn ystod eu gofal pan fo nhw'n mynd drwy feichiogrwydd, credaf, mewn gwirionedd, fod y ffaith bod y panel yn yr adroddiad hwn, yn ogystal ag yn eu hadroddiadau chwarterol, wedi cydnabod bod gwelliant yn digwydd yn bwysig iawn. Maen nhw'n cydnabod ymrwymiad yr arweinyddiaeth, ar lefel cyfarwyddwr nyrsio gweithredol ac, yn wir, y prif weithredwr, ond hefyd, drwy'r timau sy'n darparu'r gofal ar lawr gwlad, fel petai, yn y ward ac yn y gymuned. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn hefyd, oherwydd mae'r mwyafrif helaeth o'r menywod sy'n gweithio yn y gwasanaeth—ac rwy'n falch eich bod wedi gallu cwrdd â staff, yn ogystal â mamau beichiog neu famau newydd—mae'r rhan fwyaf o'r menywod hyn yn byw yn eu cymunedau, a dyna pam yr oedd hi mor niweidiol pan oedd heriau o'r fath gyda'r gwasanaeth, oherwydd roedd rhai ohonyn nhw yn teimlo her ynglŷn ag ymdroi yn eu cymuned eu hunain, gwisgo'r wisg ac egluro mai bydwraig oedden nhw, oherwydd maint y sioc a gafwyd. Mewn gwirionedd, mae'n bwysig iawn bod gan y menywod hynny, ac maen nhw bron i gyd yn fenywod, sy'n mynd ati i wneud eu gwaith, ymdeimlad gwirioneddol o falchder yn yr hyn y maen nhw yn ei wneud, ac yn darparu rhagoriaeth mewn gofal, a bod ganddyn nhw'r amgylchedd dysgu cefnogol hwnnw ar eu cyfer hefyd, oherwydd bydd hynny'n eu helpu i ddarparu'r math o ofal o ansawdd y byddai arnaf i ei eisiau i'm teulu fy hun hefyd.

Dyna hefyd pam mae'r gwaith cyfathrebu a'r ymgysylltu uniongyrchol â mamau yn bwysig iawn hefyd. Felly, dyna un o'r pethau y mae Cath Broderick, yn arbennig, sy'n un o aelodau annibynnol y panel, wedi'i arwain, ac mae hynny wedi ymwneud â chloriannu ac adolygu'r gwasanaeth cyswllt a'r rhwydwaith mamolaeth sy'n bodoli. Felly, maen nhw'n bwrw iddi yn fwriadol, yn chwilio'n rhagweithiol am straeon menywod, i wrando arnyn nhw, i ddeall eu profiad o ofal, ac i ofyn iddyn nhw sut beth yw gofal da yn eu tyb nhw, ac yna dychwelyd a dweud, 'Ac ai dyna beth mae'r bwrdd iechyd yn ei gyflawni?' Maen nhw'n llawer mwy agored o ran rhannu straeon y cleifion hynny nawr, hefyd. Felly, mae amrywiaeth o fenywod sydd wedi rhannu eu straeon, a straeon da, cadarnhaol ynglŷn â sut beth yw gofal o ansawdd da yng Nghwm Taf Morgannwg. Unwaith eto, edrychaf ymlaen at weld hynny, pa swyddogaeth bynnag sydd gennyf neu na fydd gennyf mewn bywyd cyhoeddus yn y dyfodol, yn y misoedd i ddod, oherwydd efallai fod y pandemig wedi ymyrryd â sawl peth, ond yn sicr nid yw wedi ymyrryd ar y gwasanaeth mamolaeth.

16:15

Diolch am y diweddariad, Gweinidog, ac rwy'n meddwl am bawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae'r ffaith bod yr adolygiad annibynnol wedi canfod y byddai dwy ran o dair o'r menywod yr effeithiwyd arnyn nhw wedi cael canlyniadau gwahanol iawn pe baent dim ond wedi cael gofal gwell yn wrthun, ac mae'n rhaid bod y canfyddiad hwn yn rhoi mwy o straen ar y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw, a gobeithiaf fod y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw gan y canfyddiad hwn yn cael y cymorth ychwanegol y mae arnyn nhw ei angen.

Gweinidog, a wnewch chi ymhelaethu ar yr hyn yr ydych chi'n ei wneud nid yn unig i ddysgu'r gwersi, ond hefyd i sicrhau na all y fath sefyllfa ffarsaidd fyth ddigwydd eto mewn unrhyw ysbyty yng Nghymru? Gweinidog, pa effaith, os o gwbl, y mae pandemig COVID-19 wedi'i chael ar allu'r bwrdd iechyd i gyflawni argymhellion yr adolygiad, ac a ydych chi'n fodlon y bydd digon o gynnydd yn parhau i gael ei wneud? Ac yn olaf, Gweinidog, er bod yr adroddiad hwn yn canolbwyntio'n briodol ar y methiannau gyda gwasanaethau mamolaeth, mae'n tynnu sylw at fethiannau arweinyddiaeth, felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd yr holl wasanaethau yn y bwrdd iechyd? Diolch.

O ran eich sylw am arweinyddiaeth, mae arweinyddiaeth newydd yn y bwrdd iechyd ar lefel weithredol, ac mae prif weithredwr newydd, mae cyfarwyddwr nyrsio newydd. Yn wir, cyrhaeddodd y cyfarwyddwr nyrsio yn fuan ar ôl i'r adolygiad annibynnol adrodd yn ôl. Felly, mae dwylo glân ar lefel weithredol, sydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn o ran meithrin cymhwysedd staff, ond hefyd ar lefel cyfarwyddwr clinigol, mae arweinyddiaeth newydd yn y fan yna hefyd. Mae hynny'n bwysig hefyd.

Ond y newid mewn diwylliant yw'r pwynt eithriadol i allu rhoi sicrwydd uniongyrchol fod hynny wedi ymwreiddio sydd bwysicaf yn fy marn i, oherwydd mae hyn yn ymwneud â'r sicrwydd y credaf fod Vikki Howells wedi ei grybwyll yn ei sgyrsiau â staff, a gwn fod Dawn Bowden wedi cael sgyrsiau tebyg hefyd gydag etholwyr am sicrhau bod yr amgylchedd yn un lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i godi pryderon ac na fyddant yn teimlo y cânt eu hatal rhag gwneud hynny, oherwydd dyna a ddywedodd nifer o staff pan gynhaliwyd yr adolygiadau, a phan gwrddais â staff yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn etholaeth Mick Antoniw yn ogystal â staff yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. A'r sicrwydd bod y diwylliant hwnnw wedi newid yn bendant ac yn gadarnhaol ar gyfer y dyfodol, rwy'n credu, yw'r rhan bwysicaf mewn sawl ffordd ynghylch sicrhau bod menywod yn cael gwrandawiad priodol.

A chredaf, o ran eich ail sylw am sicrwydd ynglŷn â chynnydd, fy mod wedi ymdrin â hynny'n helaeth wrth ateb cwestiynau eisoes, ac, yn wir, mae'r panel annibynnol yn rhan o'r broses sicrwydd honno, fel yr wyf wedi dweud. 

O ran eich sylw cyntaf am well gofal, mae'n dangos, mewn tua dwy ran o dair o'r achosion hyn, 19 o'r 28, y gellid bod wedi cael gwell canlyniadau i fenywod a'u babanod, ac mae'n bwysig peidio â cholli golwg ar hynny. Er hynny, mae'r panel hefyd yn adlewyrchu hyn, bod y rhain yn ddigwyddiadau eithriadol. Defnyddiodd bron i 10,000 o fenywod wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol rhwng yr amseroedd yn y cyfnod adolygu, a rhoddodd y mwyafrif llethol enedigaeth i fabanod iach heb gymhlethdodau sylweddol na chanlyniadau andwyol. Felly, mae'r achosion a adolygwyd yn ffracsiwn o'r rhai a gyflwynir. Ond mae'n bwysig cydnabod mai eithriad yw'r achosion hyn, yn hytrach na'r norm, ond y perygl a'r broblem yw, os anwybyddwch yr achosion hyn ac os ceisiwch eu hesgusodi, yna byddwch yn tanseilio hyder ehangach yn y gwasanaeth cyfan. Ac mae'r niwed sydd wedi'i achosi wedi bod yn sylweddol iawn i fenywod a'u teuluoedd. Dyna pam y mae'r adolygiad nid yn unig o'r 28 achos hyn ond y 160 o achosion llawn sydd yng nghwmpas yr adolygiad clinigol hwn mor bwysig, a dyna pam y bydd y panel yn parhau nes ei fod wedi cwblhau ei waith i roi'r sicrwydd rwy'n gwybod y bydd Aelodau ac etholwyr yn chwilio amdano. 

16:20

Gweinidog, credaf fod angen inni gydnabod bod yr adolygiad hwn hefyd yn dangos bod rhannau sylweddol o'r GIG sy'n dal yn ei chael hi'n anodd galluogi rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth ar y lefel briodol os ydym ni eisiau cael y gwasanaethau o'r ansawdd gorau, ac mae'r angen i fenywod deimlo'n gwbl wybodus i wneud penderfyniadau am eu gofal yn hollbwysig. Hefyd, mae cynnwys cleifion yn y gwaith o gynllunio a gwerthuso gofal yn falf ddiogelu sylweddol arall os nad yw pethau'n gweithredu cystal ag y dylen nhw. A'r pwynt cyffredinol am gyfathrebu, nid yn unig cyfathrebu rhwng cleifion a staff ond hefyd ymhlith staff. Ond mae'r mater hwn o gydsyniad ar sail gwybodaeth yn rhywbeth y mae gwir angen i ni ei nodi, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwersi'n cael eu dysgu a'u rhannu mewn rhannau eraill o'r GIG. Ac mae hyn yn adleisio, onid yw, y canfyddiadau iasol yn adolygiad Cumberlege i wasanaethau'r GIG yn Lloegr.

Nid wyf yn anghytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud o gwbl. Credaf fod pwyntiau yma'n bendant ynglŷn â chynnwys cleifion yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n arwain at well gwasanaethau o ran eu diogelwch, ac o ran y profiad a'r canlyniadau i bobl. Rwy'n credu bod hynny'n hollol wir.

Ac o ran cydsyniad ar sail gwybodaeth, roeddwn yn meddwl am y materion yn ymwneud â Cumberlege, oherwydd lle nad yw cydsyniad ar sail gwybodaeth a'ch bod yn cymryd—. Pan oeddwn yn fyfyriwr, yn fyfyriwr y gyfraith, roeddwn yn astudio moeseg feddygol a'r gyfraith, buom yn siarad am agwedd nawddoglyd at feddygaeth, sef i raddau helaeth iawn, 'Y meddyg sy'n gwybod orau, a bydd pethau'n cael eu gwneud i chi sydd er eich budd chi ac mae angen i chi gytuno iddyn nhw.' Wel, mewn gwirionedd, nid dyna lle yr ydym ni, nid dyna lle y dylem ni fod, ac eto gallwch weld olion y dull gweithredu hwnnw mewn rhannau o ofal iechyd. Felly, mae yna bethau y mae angen i'r gwasanaethau mamolaeth ddysgu ohonyn nhw, nid yn unig yng Nghwm Taf Morgannwg, ond yn yr holl wasanaeth, a bydd y cyfleoedd dysgu hynny'n cael eu defnyddio. Mae gennym ni rwydwaith gofal mamolaeth a fydd eisiau gweld beth sy'n digwydd yng Nghwm Taf Morgannwg i sicrhau eu hunain eu bod yn gwneud y peth iawn hefyd.

Ac mae pwynt llawer ehangach y gwnaethoch chi gyfeirio ato hefyd yr wyf yn cytuno'n llwyr ag ef hefyd: nid dim ond ar gyfer y rhan hon o'n GIG y mae cydsyniad ar sail gwybodaeth, mae ar gyfer y GIG cyfan. Ac mae'n ddigon posibl y gwelwn ni yn y dyfodol feysydd lle nad ymdrinnir â hynny'n berffaith. Y pwynt, rwy'n credu, yw pan ydych chi'n datgelu, pan ydych chi'n gweld fod hynny'n bodoli, dylech chi fynd i'r afael ag ef a pheidio â cheisio'i guddio a gwneud esgusodion amdano. Dyna sut y cawn ni wasanaeth mwy diogel a gwell gwasanaeth, a'r gwasanaeth yr ydym ni yn ei werthfawrogi gymaint, nid yn unig yn y pandemig ond ym mhob cyfnod yn y bywydau gwleidyddol ffodus yr ydym ni'n byw.

Oddeutu 15 neu 16 mis yn ôl es i'r ysbyty i drafod gyda'r staff newydd, yr arbenigwyr newydd a gyflwynwyd, i edrych ar y cyfleusterau newydd, oherwydd bryd hynny, credaf fod yr holl gynrychiolwyr yn ardal Cwm Taf wedi cael llawer o gyfarfodydd emosiynol iawn gyda theuluoedd, ac wedi parhau i wneud hynny. Ac roedd yn amlwg iawn, er gwaethaf y buddsoddiad a'r arbenigedd, fod adfer ffydd yn un o'r prif heriau.

Felly, mae'r adroddiad sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer heddiw yn nodi, mewn gwirionedd, dri phwynt sy'n ymwneud â'r angen am newid diwylliant. Mae'r cyfathrebu gwael, y diffyg gwybodaeth, ond yn bwysicaf oll, y diffyg empathi, a chredaf mai dyna'r eitem a oedd yn wirioneddol amlwg i mi o ran yr hyn a ganfuwyd. Ac wrth gwrs, wrth adfer ffydd, bydd blwyddyn boenus o'n blaenau yn hyn o beth, oherwydd byddwn yn edrych ar y marw-enedigaethau a mwy o afiachedd dros y misoedd nesaf.

Roeddwn wedi fy modloni'n arw gydag ymrwymiad y staff newydd a'r agwedd newydd o ran cydnabod, rwy'n credu, yr heriau sydd o'n blaenau o ran sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau mamolaeth gorau posib am yr holl resymau y mae siaradwyr eraill wedi sôn amdanyn nhw heddiw.

A gaf i wneud dau sylw felly? Un ohonyn nhw yw'r gefnogaeth barhaus i'r teuluoedd eu hunain—ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi cael teuluoedd yn cysylltu â mi sydd wedi sôn yn benodol am eich cyfranogiad a'ch goruchwyliaeth, ac roedden nhw'n croesawu hynny yn arbennig, ac maen nhw'n gweld hynny'n gysur gan Lywodraeth Cymru—ond yn arbennig nid dim ond gwersi ar gyfer Cwm Taf yw'r unig rai sy'n cael eu dysgu, ond rwy'n amau eu bod ar gyfer gwasanaethau mamolaeth ar draws y byrddau iechyd ledled Cymru, ac roeddwn yn meddwl tybed beth sy'n cael ei wneud o ran cyfleu gwybodaeth am y broses ddysgu honno sy'n digwydd wrth inni fynd drwy'r broses yng Nghwm Taf.

16:25

O ran eich sylw olaf, roeddwn yn ceisio gwneud y pwynt hwn wrth ymateb i David Melding, ac i Vikki Howells hefyd, rwy'n credu, sef ein bod yn edrych yn fwriadol ar sut yr ydym ni'n defnyddio'r rhwydwaith mamolaeth i rannu dysg. Nid cyfle dysgu i un bwrdd iechyd yn unig yw hwn; mae'n gyfle dysgu i'r holl wasanaeth, ac i ystyried a meddwl am sut yr ydym ni'n sicrhau ein bod yn darparu gofal mamolaeth trylwyr o ansawdd uchel ym mhob rhan o Gymru. Gall y cyd-destun newid ychydig, ond mewn gwirionedd, bydd gan bob bwrdd iechyd boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu sydd â lefelau uwch o amddifadedd. Bydd gan bob bwrdd iechyd ran o'i boblogaeth sy'n byw mewn amgylchedd mwy gwledig neu amgylchedd trefol neu mewn tref neu ddinas; wel, mewn tref o leiaf. Felly, mae gennym ni heriau a all fod ychydig yn wahanol, ond mewn gwirionedd, dylai ansawdd y gofal fod yn rhywbeth y gall pob bwrdd iechyd ei ddarparu, gofal o ansawdd uchel, ac mae hwn yn gyfle pwysig na ddylid mo'i golli.

Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddefnyddiol gorffen ar nodyn cadarnhaol am yr hyn y mae angen ei wneud, ac am yr ymrwymiad sy'n bodoli yn hynny o beth, oherwydd pan gyfarfûm â staff ar ddechrau hyn, roedd pobl anhapus iawn, pobl a oedd yn poeni, a phobl a oedd yn cydnabod nad oedd y cymunedau y maen nhw'n byw ynddyn nhw wedi cael eu gwasanaethu'n dda i raddau helaeth ym mhob achos, ac roedden nhw'n teimlo'n ofidus ynglŷn â'r sefydliad yr oedden nhw'n gweithio iddo hefyd. Nid oedd llawer ohonyn nhw, fel y dywedais, yn teimlo'n falch o wisgo'r wisg yn gyhoeddus, a phryder rheolaidd a ddygwyd i fy sylw oedd, 'Pwy sydd eisiau gweithio yma? Nid oes gennym ni ddigon o staff, a phwy fydd eisiau gweithio yma nawr?' Ac eto, mewn gwirionedd, mae Cwm Taf Morgannwg wedi llwyddo i recriwtio pobl i'w sefydliad. Mae bellach mewn sefyllfa lle nad oes ganddo fethiannau yn Birthrate Plus, ac mae'r rheini'n cael eu cyfleu'n agored. Dyna un o'r heriau ynglŷn â'r rheolaeth flaenorol yr wyf i eisoes wedi'i nodi yn y gorffennol yr oeddwn yn arbennig o anhapus â hi.

Felly, mae gennym ni bellach well sefyllfa o ran staffio, mae gennym ni weithlu sydd, yn fy marn i, wedi ymrwymo i welliant parhaus yn y dyfodol, a'r newid cadarnhaol hwnnw yn y sefyllfa ac yn y diwylliant yw'r hyn rwy'n gobeithio y byddwn ni wastad yn gweld mwy ohono ac a fydd yn ymwreiddio, ac unwaith eto, dylai pobl sy'n mynd i Gwm Taf Morgannwg am eu gofal mamolaeth fod â ffydd nawr yn ansawdd y gofal ac yn disgwyl yr un ansawdd uchel o ofal y dylai pob un o'n hetholwyr ei ddisgwyl a bod â hawl iddo.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yw eitem 5 ar y cynnydd o ran trethi datganoledig, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cyflwyno'r trethi cyntaf yng Nghymru ers bron i 800 mlynedd wedi bod yn garreg filltir bwysig yn ein stori ddatganoli. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae gweithredu tair treth i Gymru yn llwyddiannus—y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi yn 2018, a chyfraddau treth incwm Cymru yn 2019—wedi ehangu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a'r Senedd, gan gryfhau ein hatebolrwydd am yr arian a godwyd ac a wariwyd i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i bobl Cymru.

Rydym ni hefyd wedi sefydlu adran anweinidogol gyntaf Cymru, Awdurdod Cyllid Cymru, ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae bellach wedi llwyddo i gasglu a gweinyddu trethi Cymru sydd wedi'u datganoli'n llawn ers tair blynedd. Mae dull unigryw'r Awdurdod o gefnogi'r broses ar gyfer darparu system dreth deg yn golygu ei fod yn gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr i sicrhau bod treth yn cael ei thalu'n brydlon, ac yn gywir y tro cyntaf.

Rydym ni wedi amlinellu ein dull yma yng Nghymru o ymdrin â pholisi treth yn ein fframwaith polisi treth, i egluro sut y byddwn yn defnyddio trethi er budd cymunedau a busnesau. Mae'r fframwaith yn cynnwys yr egwyddorion yr ydym ni yn eu dilyn wrth ddatblygu polisi treth, gan wneud hynny drwy gydweithio, ceisio creu trethi clir a sefydlog, sy'n codi refeniw'n deg, yn cefnogi amcanion polisi ehangach, ac yn helpu i sicrhau mwy o gydraddoldeb. Ac rydym ni wedi rhoi'r egwyddorion hynny ar waith.

Rydym ni wedi defnyddio ein pwerau i sicrhau bod treth trafodiadau tir yn llawer mwy blaengar na'i rhagflaenydd, treth dir y dreth stamp, ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl. Fe wnaethom ni gyflwyno rhyddhad dros dro i helpu'r farchnad eiddo i wella yn yr haf, ac yn fwy diweddar cynyddodd y gyfradd uwch i greu cymorth ychwanegol i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Pan ddaw'r gostyngiad dros dro presennol i gyfraddau y dreth trafodiadau tir i ben, Cymru unwaith eto fydd yr unig wlad yn y DU gyda throthwy cychwynnol sydd tua phris cyfartalog cartref. Mae'r trothwy cychwynnol hwnnw'n golygu na fydd y rhan fwyaf o'r rhai sy'n prynu tŷ am y tro cyntaf yn talu unrhyw dreth trafodiadau tir. Cymru hefyd sydd â'r trothwyon uchaf lle mae angen i fusnesau dalu treth ar drafodion eiddo dibreswyl yn y DU.

Prif ddiben treth gwarediadau tirlenwi yw cefnogi ein nodau amgylcheddol, felly dylai refeniw ostwng wrth i'r rhai a dargedir gan y dreth ymateb yn gadarnhaol. Hyd yma, rydym ni wedi cadw cysondeb wrth bennu ardrethi gyda Llywodraeth y DU, gan sicrhau nad ydym yn annog trosglwyddo gwastraff ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, cafwyd cyfle i arloesi, gan arwain y ffordd drwy fod y wlad gyntaf yn y DU i bennu cyfradd dreth uwch ar gyfer gwarediadau tirlenwi anawdurdodedig a chreu rhwystr ariannol ychwanegol i bobl sy'n cael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon.

Rydym ni wedi defnyddio £2.8 miliwn o refeniw o'r dreth gwarediadau tirlenwi i ariannu prosiectau lleol drwy gynllun y dreth gwarediadau tirlenwi gymdeithasol, gan gynnal ein hymrwymiad i gymunedau yr effeithir arnyn nhw gan waredu gwastraff mewn safleoedd tirlenwi.

O'r tair treth, mae cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithio ar y nifer mwyaf o ddinasyddion Cymru, gyda dros hanner oedolion ein gwlad yn ei thalu. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sy'n parhau i fod yn gyfrifol am gasglu a rheoli cyfraddau treth incwm Cymru, er mwyn sicrhau bod y prosesau'n rhedeg yn ddidrafferth.

Mae ein fframwaith polisi treth yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys a chydweithredu. Rydym wedi annog hyn drwy ddatblygu grwpiau cynghori a thrafod i ystyried cynigion sy'n cael eu datblygu, gan weithio'n agos gyda rhanddeiliaid. Rydym ni wedi cyhoeddi cynlluniau gwaith blynyddol, yn cyhoeddi'r materion yr ydym yn eu harchwilio, ac yn gwahodd sylwadau, ymholiadau a chyfraniadau. Mae llawer o'r meysydd polisi hyn wedi'u trafod yn y cynadleddau treth blynyddol, a chyhoeddir cynnydd yn yr adroddiadau polisi treth. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad polisi treth diweddaraf ochr yn ochr â'r gyllideb derfynol fis nesaf.

Un maes allweddol o weithgarwch polisi treth fu archwilio syniadau ar gyfer trethi newydd posibl. Rydym yn mynd ar drywydd cymhwysedd ar gyfer treth ar dir gwag drwy'r broses rynglywodraethol y cytunwyd arni gyda Thrysorlys Ei Mawrhydi, gan ymchwilio hefyd i dreth blastig untro, cloriannu'r achos dros dreth dwristiaeth, a dewisiadau posibl ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol. Mae'n destun gofid bod y broses rynglywodraethol ar gyfer trethi newydd wedi methu yn ei phrawf cyntaf. Bydd cynnydd pellach yn anodd, o ystyried agwedd Llywodraeth bresennol y DU tuag at ddatganoli, a hithau'n gweithredu fel y myn. 

Yn ystod tymor y Senedd hon, rydym ni wedi elwa ar gefnogaeth llawer o bobl a sefydliadau sydd wedi cyfrannu at y broses o gyflwyno trethi Cymru. Rwy'n ddiolchgar iddyn nhw, ac i Aelodau'r Senedd a'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n ddiwyd ar y darpariaethau yr ydym ni wedi'u cyflwyno. Mae cyfrifoldeb arnom o hyd i sicrhau bod ein trethi datganoledig yn gweithredu'n deg ac yn effeithiol, gan ddarparu'r refeniw sy'n ofynnol ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac mae gwaith pellach i'w wneud ar y posibilrwydd o drethi newydd. Dyna fydd y gwaith ar gyfer Llywodraeth a Senedd nesaf Cymru. Byddant yn adeiladu ar sylfeini cadarn yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

16:35

Er gwaethaf, neu, efallai y byddai rhai'n dadlau, oherwydd, 22 mlynedd o bolisïau blaengar Llywodraeth Lafur Cymru, fel y'u gelwir ac a ddisgrifiwyd felly gan y Llywodraeth ei hun, mae Cymru wedi cadw'r cyfraddau tlodi uchaf a'r cyfraddau cyflog isaf o holl wledydd y DU, a, hyd yn oed cyn y coronafeirws, roedd bron i chwarter y bobl yng Nghymru mewn tlodi, yn byw, a dyfynnaf, 'bywydau ansicr ac ansefydlog'. Mae'r canfyddiadau hyn i gyd yn deillio o adroddiadau annibynnol. A yw'r Gweinidog yn cydnabod bod angen i Gymru ddenu mewnfuddsoddiad a buddsoddiad mewnol a swyddi sgiliau uchel gyda gwerth ychwanegol uchel mewn mentrau bach, canolig a mawr? Os felly, a yw'n cydnabod y gall fod perthynas wrthgyfartal rhwng cyfraddau treth a refeniw treth, ac y gall defnyddio'r system i gymell gweithgarwch economaidd gynhyrchu mwy o refeniw i wasanaethau cyhoeddus yn y pen draw? Sut y mae'n ymateb i ganfyddiadau academyddion Prifysgol Caerdydd yn ystod blwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon y bydd torri'r gyfradd uchaf o dreth incwm yn y pen draw yn codi refeniw treth drwy annog cynhyrchwyr cyfoeth i helpu i dyfu economi Cymru?

Ychwanegodd Deddf Tai (Cymru) 2014 bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol osod premiymau'r dreth gyngor o hyd at 100 y cant ar ail gartrefi. Fel y rhybuddiais ar y pryd, ni fyddai hyn yn creu cyflenwad ychwanegol i bobl y mae angen tai fforddiadwy arnyn nhw yn eu cymunedau, a byddai galluogi awdurdodau lleol i godi treth gyngor ychwanegol ar berchnogion ail gartrefi yn creu risg o ganlyniadau anfwriadol. Pa dystiolaeth sydd ganddi felly i gefnogi honiad Llywodraeth Cymru bod galluogi awdurdodau lleol yng Nghymru i godi premiymau'r dreth gyngor ar ail gartrefi yn defnyddio trethiant i sicrhau cyfraniad teg, pan fo'r sector wedi'i gwneud yn glir, yn lle hynny, fod hyn wedi ysgogi llawer nad oedden nhw'n gwybod eu bod eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, i newid o'r dreth gyngor i hyn, ac ysgogi eraill i ddechrau gosod eu cartrefi a chofrestru ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i helpu gyda chostau, yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru a ddiwygiwyd ac a atgyfnerthwyd ddiwethaf yn 2016, a'u rheoli gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol?

Pa ddadansoddiad a ddangoswyd sydd ganddi i herio'r dystiolaeth sy'n dangos bod y mwyafrif llethol o eiddo a brynwyd fel ail gartrefi mewn mannau lle ceir nifer o gartrefi gwyliau, eisoes yn ail gartrefi, ac wedi bod felly erioed, wedi'u hadeiladu fel ail gartrefi dros fwy na chanrif yn ôl, ac wedi parhau felly byth ers hynny? Pam y mae'r Gweinidog yn dweud bod gan Gymru hefyd y trothwy uchaf pryd y mae angen i fusnesau dalu treth ar drafodion eiddo preswyl yn y DU, pan fo cyfraddau uwch treth trafodion tir uwch Llywodraeth Cymru, a darodd nifer fawr o fusnesau bach a chanolig cyfreithlon, llawer ohonynt ag eiddo ger ffin fewnol y DU â Lloegr, yn uwch na chyfraddau treth uwch tir y dreth stamp gyfatebol yn Lloegr ar gyfer prisiau prynu hyd at £125,000 yn unig, ac yn uwch ar gyfer yr holl brisiau prynu yn Lloegr dros £180,000 yn unig, neu a ddylwn i ddweud yn uwch na'r holl brisiau prynu yn Lloegr ychydig yn uwch na £180,000, hyd yn oed ar ôl y gwyliau cyfraddau uwch a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i bandemig COVID ddod i ben?

Ac yn olaf, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y potensial ar gyfer treth dwristiaeth. Sut y bydd yn sicrhau bod ystyriaeth wrthrychol yn cael ei rhoi i'r dystiolaeth gref iawn gan y sector y byddai hyn yn niweidiol i dwristiaeth yng Nghymru, y byddai hyn yn niweidiol i fuddsoddiad, yn niweidiol i swyddi, ac yn y pen draw yn lleihau'r dreth a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru?

Rwy'n ddiolchgar i Mark Isherwood am y cwestiynau yna y prynhawn yma, ac rwy'n ei groesawu i'w bortffolio newydd. Felly, dechreuodd Mark Isherwood drwy sôn am ddull cyffredinol Llywodraeth Cymru o drethu, ac mae gennym sylfaen gadarn iawn ar gyfer ein polisi treth i Gymru, a nodir ar sail pum egwyddor. Hynny yw y dylai trethiant godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mewn modd mor deg â phosibl—nid wyf yn siŵr a oes llawer y gellid anghytuno ag ef yn y fan yna. Dylai trethiant helpu i gyflawni amcanion cyllidol a pholisi ehangach, gan gynnwys swyddi a thwf. Dylai trethiant fod yn syml ac yn glir ac yn sefydlog. A dylid datblygu trethiant drwy ymgysylltu â threthdalwyr a rhanddeiliaid. Yn olaf, dylai trethiant gyfrannu'n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 o greu Cymru fwy cyfartal. Ac rwy'n credu bod y rheini'n sylfeini cryf i seilio ein polisi treth arnynt

Roedd fy natganiad y prynhawn yma'n ymwneud â'r trethi datganoledig, y gwyddys yn gyffredinol eu bod yn dreth gwarediadau tirlenwi, treth trafodiadau tir a chyfraddau treth incwm Cymru, ond gwn fod gan Mark Isherwood ddiddordeb arbennig yn ein hymagwedd at drethiant lleol, gan gynnwys y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. O ran y dreth gyngor, yn ystod tymor y Senedd hon rydym wedi cymryd camau sylweddol ymlaen o ran gwneud y dreth gyngor yn decach. Rydym wedi eithrio pobl ifanc sy'n gadael gofal o'r dreth gyngor hyd at 25 oed. Rydym wedi dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor, oherwydd yn ein plaid ni nid ydym yn credu mai trosedd yw bod yn dlawd, ac rydym wedi gwella'r modd y sicrheir gostyngiadau ar gyfer pobl â namau meddyliol difrifol ac wedi gweithredu protocol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ar gyfer rheoli'r broses o gasglu'r dreth gyngor ac ôl-ddyledion, a hefyd wedi annog pobl i fanteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael o ran y dreth gyngor, ac rydym wedi gwneud hynny gan roi cymorth ariannol sylweddol i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i ymgymryd â'r gwaith hwnnw.

O ran y pryderon penodol sy'n ymwneud â phremiymau'r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru y pŵer disgresiwn hwnnw i osod y premiymau hynny o hyd at 100 y cant ar filiau'r dreth gyngor ar gyfer cartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi yn eu hardaloedd. Mae'r pwerau hynny wedi bod ar gael ers 2017. Gofynnodd awdurdodau lleol am y pwerau hynny, ac roeddem yn falch o'u darparu. Nawr, mater i bob awdurdod lleol yw penderfynu sut y bydd yn ymgymryd â'i benderfyniad—pa benderfyniad y bydd yn ei wneud ynghylch a fydd yn defnyddio'r pŵer hwnnw'n lleol ai peidio.

O ran treth trafodiadau tir a'r effaith ar fusnes, wel, y penderfyniad a gyhoeddais ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft yw na fydd busnesau nawr, ar y cyfan, yn talu treth ar brynu eiddo dibreswyl sy'n costio llai na £225,000. Bydd hyn yn rhoi swm bach ond pwysig o gymorth ychwanegol i fusnesau drwy leihau'r cyfalaf sydd ei angen i fuddsoddi mewn eiddo busnes newydd, a bydd y newidiadau hynny'n arwain at lai o drafodion dibreswyl yn talu treth ar gaffael eiddo wrth ymrwymo i brydles newydd, a bydd yn arbed treth i'r holl fusnesau hynny sy'n prynu eiddo y bydd rhwymedigaeth dreth arno o hyd. Bydd yr arbedion mwyaf fel cyfran o'r dreth sy'n daladwy yn effeithio fwyaf ar fusnesau bach a chanolig eu maint. Felly, gwnes y penderfyniad hwn yn ymwybodol iawn o'r cyfnod anodd y mae busnesau bach yn arbennig ynddo, gan ddeall bod gennym lawer o entrepreneuriaid sy'n awyddus i sefydlu busnes bach, ac rwyf am greu'r hinsawdd iawn er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny.

Ac yna'n olaf, ar drethi newydd, fe welwch o'n cynllun gwaith treth ein bod wedi bod yn archwilio'n ddiwyd iawn y gwahanol fathau o drethi newydd y gellid eu cyflwyno yng Nghymru, a'r pedwar a wnaethom eu dewis i'w harchwilio yn y lle cyntaf oedd y rhai a ymddangosodd yn gryf iawn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym. Arweiniodd y Prif Weinidog, pan oedd yn y swyddogaeth hon, at yr ymgynghoriad hwnnw, ac mewn gwirionedd credaf fod tua 200 o syniadau ar gyfer trethi newydd wedi'u cyflwyno gan bobl ledled Cymru. Ac aethom ati i archwilio'r dreth dwristiaeth, treth bosibl ar blastigau, er enghraifft, ond, yn y lle cyntaf, fe wnaethom y penderfyniad y byddem yn bwrw ymlaen â'r dreth bosibl ac yn ceisio datganoli'r pwerau treth ar gyfer tir gwag, ac, fel y dywedais yn fy natganiad, mae hynny wedi methu ar y cam cyntaf. Rydym wedi cael amser anodd iawn yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU yn ystyrlon ar hyn, ac mae'n drueni mawr nad ydym wedi llwyddo gyda chais cymharol annadleuol a syml.

16:40

Diolch. Hoffwn atgoffa'r Aelodau'n garedig mai datganiad 30 munud yw hwn ac rydym hanner ffordd drwy'r amser a neilltuwyd nawr, ac mae gennyf nifer o siaradwyr na fyddan nhw, mae'n debyg, yn cael eu galw. Rhun ap Iorwerth.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am y datganiad yna. Diolch i Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr am bwysleisio mor wael mae Cymru wedi cael ei gwasanaethu gan y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd hefyd. Rydyn ni yn siarad, onid ydyn, yn y blynyddoedd cynnar yma o hawliau codi trethi Cymreig, am rywbeth sydd yn hanesyddol—mae o'n air dwi wedi'i ddefnyddio ac mae o'n air mae eraill wedi'i ddefnyddio hefyd. Ac mae o'n egwyddor cwbl greiddiol. Rydyn ni'n mynd yn ôl at y comisiwn Silk yn datgan yr egwyddor bwysig honno o'r berthynas gwbl greiddiol rhwng trethi ac atebolrwydd, a dyna rydyn ni'n sôn amdano fo yn fan hyn. Y mwyaf o rymoedd trethu sydd gan y Senedd hon, y mwyaf atebol ydym ni i bobl Cymru, ac mae hynny'n rhywbeth i'w groesawu. A rydyn ni'n mynd i etholiad, lle, rŵan, yn y dirwedd newydd honno, mae gan bobl Cymru y gallu i edrych ar wahanol addewidion trethu y pleidiau, ac mae'n drafodaeth hynod, hynod bwysig i'w chael.

Dwi'n siomedig efo'r datblygu sydd wedi bod ar ben y trethi sydd wedi cael eu cyflwyno'n barod. Mae'r dreth trafodion tir wedi gweithio'n dda, dwi'n credu. Mae'r graddfeydd Cymreig o dreth incwm yn allweddol er mwyn creu'r atebolrwydd roeddwn i'n cyfeirio ato fo, ac mae'r dreth gwastraff tirlenwi yn un bwysig ynddi ei hun, ond mae eisiau edrych ar ba mor bell y gallwn ni fynd.

Mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio at bedwar math o dreth y bydden nhw eisiau edrych arnyn nhw: lefi gofal cymdeithasol—dwi yn edrych ymlaen at weld sut mae'n bosib darparu gofal cymdeithasol o fewn y gwariant cyffredinol ac dwi'n siŵr bod modd gwneud hynny. Mae'r Llywodraeth eisiau edrych ar dreth gwaredu plastig. Mae yna dair blynedd a mwy ers i Blaid Cymru orfodi pleidlais yn y Senedd hon, gan ddweud ein bod ni eisiau gweld y dreth honno, a ble'r ydym ni dair blynedd ymlaen? Y dreth dwristiaeth: dwi ddim yn meddwl, ar ôl y flwyddyn sydd wedi bod, y dylem ni fod yn sôn am dreth dwristiaeth—nid dyna y mae'r sector eisiau ei glywed, rŵan. Mi ydw i, er hynny, yn meddwl bod yna bethau arloesol y gallwn eu gwneud drwy ryw fath o lefi a fyddai'n rhoi gwell gwasanaeth i dwristiaid, a fyddai'n cryfhau isadeiledd i warchod ein cymunedau ni lle mae twristiaeth ar ei phrysuraf, i hybu twristiaeth gynhenid, ond mae eisiau bod yn ofalus iawn, iawn wrth sôn am dreth dwristiaeth rŵan.

A'r pedwerydd ohonyn nhw, y dreth tir gwag, mae'r Llywodraeth, a bod yn deg, wedi bod yn eglur iawn yn gwthio'r syniad hwn. Rwyf finnau'n rhannu siom, yn sicr, y Gweinidog yn ymateb Llywodraeth Prydain. Mae o yn brawf o fethiant y broses rynglywodraethol bod yna ddim tir go iawn wedi cael ei ennill ar y drafodaeth yma. Mae o'n arwydd, dwi'n ofni, o agwedd Llywodraeth Prydain tuag at roi caniatâd i Gymru ymestyn ei hawliau yn y maes trethu, fydd mor bwysig yn y blynyddoedd i ddod. Mi ydw i, serch hynny, yn galw ar y Gweinidog i beidio â rhoi i fyny, rŵan. Dwi'n gobeithio mai fy mhlaid i fydd yn llywodraethu ar ôl mis Mai, ond mae yna gyfnod i fynd tan hynny, felly peidiwch â llaesu dwylo ar y gwaith o drio gwthio ar y dreth hon. Dwi'n eich annog chi i wthio pethau tan y funud olaf.

Un pwynt pellach: mae o yn eich grym chi i newid y rheolau sydd yn caniatáu, fel y dywedodd Mark Isherwood, i bobl optio allan o dalu treth yn llwyr ar ail eiddo ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r gallu gan Lywodraeth Cymru i gau'r loophole er mwyn sicrhau bod y rheini sydd yn berchen ar ail gartrefi ac sydd, ar hyn o bryd, yn gallu manteisio ar y rheolau er eu budd eu hunain, ddim yn gallu gwneud hynny. Dwi'n sylweddoli, yn y datganiad sydd wedi cael ei wneud ar hyn gan y Llywodraeth yr wythnos yma, dydych chi ddim yn mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon cyflym; mae angen gweld gwella ar hynny, fel rhan o'r newidiadau rydyn ni angen eu gweld i'r tirwedd trethiant yng Nghymru.

16:45

Diolch. Dechreuodd Rhun ap Iorwerth drwy sôn am bwysigrwydd trethiant ac atebolrwydd a thryloywder. Rwy'n falch iawn mai Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth ledled y Deyrnas Unedig a fydd wedi cyflwyno tair cyllideb atodol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ac, wrth gwrs, mae cysylltiad mor agos rhwng ein cyllidebau a'r refeniw a godir yma yng Nghymru. Credaf fod lefel y tryloywder yr ydym wedi'i ddarparu ar draws y flwyddyn ariannol yn hyn o beth wedi bod yn eithriadol, ac yn sicr mae wedi bod yn fwy nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Byddwn yn awyddus—ac rwy'n siŵr y byddai Gweinidog cyllid yn y dyfodol yn awyddus—i archwilio sut y gall adeiladu ar y math o dryloywder yr ydym wedi gallu ei gyflawni eleni.

Soniodd Rhun ap Iorwerth am nifer o feysydd treth newydd yr ydym yn edrych arnyn nhw, a chyfeiriodd yn benodol at yr achos dros y dreth ar dir gwag. Dyma'r tro cyntaf inni lywio'r broses y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU. Yn anffodus, mae rhywbeth ar goll. Mae dros ddwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers cyflwyno'r cynnig i Lywodraeth y DU am y tro cyntaf. Er gwaethaf yr hyn sydd, ar rai adegau, wedi ymddangos yn berthynas weddol gynhyrchiol, ym mis Awst cawsom lythyr siomedig iawn gan Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ac ail-agorodd hynny gyfres gyfan o gwestiynau yr oeddem yn credu eu bod eisoes wedi'u hateb yn ein trafodaethau blaenorol. Felly, mae'n wir fod gan y broses rai diffygion difrifol. Credaf fod hyn yn ymwneud yn sylfaenol â Llywodraeth y DU yn farnwr ac yn rheithgor ar yr holl bethau hyn, ac yn sicr mae angen dull annibynnol ar gyfer trafod ac apelio yn erbyn y penderfyniadau hynny.

Cyfeiriwyd hefyd at yr ardoll gofal cymdeithasol bosibl, a'r gwaith sydd wedi bod yn mynd rhagddo i gwmpasu sut y gallai rhywbeth fel yna weithio, pe bai Llywodraeth yn y dyfodol yn penderfynu gwneud hynny. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am waith y grŵp rhyng-weinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol. Ond, mae'n wir fod cyllid wedi bod yn rhan bwysig iawn o hynny, a gwn y bydd nifer o gydweithwyr wedi cymryd rhan yn y sesiynau briffio technegol a ddarparwyd yn ddiweddar iawn yn hynny o beth.

Y dreth blastig untro: wel, mae hyn yn rhywbeth lle bu cryn dipyn o waith gyda Llywodraeth y DU, mewn gwirionedd, yn yr achos hwn, archwilio'r dewisiadau ar gyfer mynd i'r afael â defnydd a gwastraff plastig diangen, a chydnabod y manteision yn yr achos hwn y byddai mabwysiadu dull gweithredu ledled y DU yn eu cynnig. Mae hynny wedi cynnwys cefnogi ymgynghoriadau ar dreth pecynnau plastig yn y DU, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am ddeunydd pacio, a'r potensial ar gyfer cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad pellach ar gynllunio manwl y dreth pecynnau plastig fel rhan o gyllideb Llywodraeth y DU y llynedd, ac rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar hynny. Fel y dywedais, mae rhai meysydd lle rwy'n credu ei bod yn rhesymol ac yn ddymunol cydweithio.

Yn olaf, treth na soniodd Rhun ap Iorwerth amdani, ond gwn ei fod yn rhannu fy marn, sef toll teithwyr awyr. Unwaith eto, dyma un o'r meysydd hynny lle na fyddwn yn sicr yn rhoi'r gorau i geisio ei ddatganoli, o ystyried y rhan bwysig y gallai ei chwarae wrth gefnogi economi Cymru. Rydym ni'n credu bod gan Lywodraeth y DU safbwynt cwbl anghynaliadwy ar hyn, ac rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gennym yn hynny o beth yn y Senedd.

16:50

Pan fyddaf yn meddwl am dreth, rwy'n meddwl am y stori plant pan ddywedir wrth rywun, 'Mae gennych bŵer mawr; byddwch yn ofalus sut yr ydych chi'n ei ddefnyddio.' Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y trethi newydd—y dreth trafodiadau tir, y dreth gwarediadau tirlenwi a chyfraddau treth incwm Cymru—sydd wedi'u hychwanegu at y dreth gyngor ac ardrethi busnes. Rhaid i drethiant fod yn flaengar, gyda'r rhai sydd â'r mwyaf o arian a'r gallu i dalu fwyaf. Felly, mae angen dileu bylchau.

Mae treth yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus—y gwasanaethau cyhoeddus y mae arnom ni i gyd eu hangen. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran treth ar blastig. Os nad oes gennym dreth ar blastig, ni fyddwn yn ymdrin â llygredd plastig. Mae pob un ohonom wedi gweld mwy a mwy o eitemau a arferai fod mewn gwydr bellach mewn plastig. Yr un diweddaraf a'm synnodd fwyaf oedd finegr.

Hefyd, treth dwristiaeth. Mae hon yn gyffredin ledled y byd. Mae'n sicr yn haeddu ymchwiliad. A minnau'n un a dalodd £135 am ystafell am noson mewn gwesty cadwyn pris rhesymol, ni welaf sut y byddai'n effeithio ar fforddiadwyedd. Mae gan leoedd fel Efrog Newydd dreth dwristiaeth. Prin ei bod yn cael ei hystyried yn gadarnle Marcsaidd.

A gaf i ddweud hefyd fod angen mwy o fandiau ar y dreth gyngor? Mae angen mwy ar y gwaelod a mwy ar y brig. Mae Band B yn dechrau'n llawer rhy uchel, ac mae'r band uchaf yn gorffen pan fo lle i o leiaf dri band, a phedwar arall o bosibl. Rwy'n dal i rygnu ymlaen am hyn, ond er mwyn bod yn deg, ni ddylai rhywun mewn tŷ gwerth £5 miliwn fod yn talu'r un faint â rhywun mewn tŷ gwerth £0.5 miliwn.

Diolch. Felly, gan adeiladu ar y sylwadau a wnes i mewn ymateb i gwestiynau Rhun ap Iorwerth yn ymwneud â threth ar blastig, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn hwyluso digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru mewn cysylltiad â'r gwaith y disgrifiais ein bod ni yn ei wneud gyda Llywodraeth y DU. Ym mis Mai y llynedd, er enghraifft, anogwyd rhanddeiliaid i fynychu digwyddiad rhannu gwybodaeth ar y dreth pecynnau plastig, dan arweiniad Llywodraeth y DU. Ond, ym mis Awst, arweiniodd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â WRAP Cymru a Llywodraeth y DU, ddigwyddiad ymgysylltu yn benodol ar gyfer rhanddeiliaid o Gymru yn y diwydiant pecynnau plastig.

Mae swyddogion o fewn Trysorlys Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y camau nesaf i sicrhau bod sylwadau Cymreig gan randdeiliaid allweddol yma yn rhan o'r broses ac yn cael eu clywed yn glir, gan arwain at weithredu'r dreth, credaf o bosibl, os aiff pethau yn ôl y bwriad, yn 2022. Er enghraifft, mae swyddogion yn trafod cymorth i fusnesau, o gofio bod hon yn dreth gymhleth, hyd yn oed i'r rhai â phrofiad yn y math hwn o ddeddfwriaeth, a hefyd yr anhawster i gyrraedd busnesau bach a chanolig eu maint yn ystod y broses ymgynghori. Roedd gweithgorau diwydiant yn digwydd bob ychydig fisoedd, a bydd ymgynghoriad technegol nawr ar y ddeddfwriaeth yn gam pellach. Felly, mae gwaith da yn mynd rhagddo yma, ac mae buddiannau Cymru wedi'u cynrychioli'n dda iawn yn y gwaith hwnnw.

Ochr yn ochr â hynny, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi'n adeiladu sylfaen dystiolaeth i asesu rhinweddau cyflwyno treth neu dâl sy'n benodol i Gymru ar gwpanau plastig untro. Ac rydym hefyd yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o'r farchnad a'r defnydd o gwpanau o'r fath. Felly, mae hwn yn faes penodol a allai fod yn addas yn y dyfodol.

O ran y dreth gyngor, mae Mike Hedges a finnau wedi trafod hyn droeon, a bydd yn ymwybodol o'r gyfres o ymchwil yr ydym wedi'i chomisiynu, a chafodd y Prif Weinidog gyfle i gyfeirio at rywfaint ohoni yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach, sydd, o bosibl, yn nodi llwybr ar gyfer trethiant lleol tecach yn y dyfodol. Rwy'n credu bod posibiliadau gwych, ac yn sicr bydd yr ymchwil sydd wedi bod yn dod i mewn, ac yr wyf wedi'i ddarparu i gydweithwyr drwy ddatganiadau ysgrifenedig, yn sicr yn ein helpu i ddod o hyd i'n ffordd ymlaen ynghylch hynny.

16:55

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Mae dau fater yr wyf am eu codi gyda hi y prynhawn yma. Yn gyntaf oll mae swyddogaeth treth, nid yn unig fel modd o godi refeniw, ond hefyd fel dull polisi i gyflawni a llunio polisi. Rwy'n siomedig nad yw'r Llywodraeth yn cynnwys cynaliadwyedd fel un o'i hegwyddorion allweddol ar gyfer trethiant. Credaf y dylem fod yn edrych tuag at ddefnyddio treth i gyfyngu, o bosibl, neu gosbi os hoffech chi, defnyddio adnoddau a llunio ymateb i bolisi hinsawdd, sy'n fwy dwys nag a wnawn ar hyn o bryd. Mae rhai o'r materion yr ydym wedi'u trafod y prynhawn yma, o ran plastigau ac o ran taliadau dychwelyd, yn rhan o'r maes hwnnw, ond credaf y dylai'r Llywodraeth ddefnyddio treth fel modd o gyflawni ei hegwyddorion cynaliadwyedd hefyd, a hoffwn weld hynny o fewn y gyfres gyffredinol o egwyddorion y mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio.

Mae'r ail bwynt yn ymwneud â'r hyn yr ydych yn ei alw'n drethiannau newydd, a'r broses sydd wedi methu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid yw'r rheini ohonom a ddioddefodd y Gorchmynion cymhwysedd deddfwriaethol byth am weld un o'r rheini'n dod ger ein bron eto. Roedd yn broses boenus a oedd yn llawn bwriadau da ond a ddymchwelodd o dan bwysau ei biwrocratiaeth ei hun. Rwy'n credu bod ASau ac ACau, fel yr oeddem ar y pryd, gyda'n gilydd yn casáu'r broses, ac yn sicr nid ydym eisiau mynd yn ôl i'r dyddiau hynny. Ond mae angen proses sy'n gweithio arnom. Nid yw'n syndod nad oes gan y Deyrnas Unedig bresennol unrhyw ddiddordeb mewn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ar unrhyw beth realistig o gwbl, ond mae arnom angen proses sy'n gweithio.

Fel eraill y prynhawn yma, nid oes gennyf unrhyw broblem o ran y dreth dwristiaeth na threth ar dir gwag nac unrhyw beth arall. Rydych yn talu treth dwristiaeth yn y rhan fwyaf o wladwriaethau yn y byd, hyd y gwn i—

17:00

Fe wnaf hynny. Mae'n ymddangos braidd yn wrthnysig ein bod yn cael y ddadl hon yma. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth sut y mae'n bwriadu mynd ar drywydd y mater hwn yn y dyfodol. Oherwydd rwy'n credu ei fod yn rhan bwysig o'r strwythur llywodraethu cyffredinol y gall y Llywodraeth fynd ar drywydd trethiadau amgen.

Cytunaf yn llwyr ag Alun Davies fod dwy ochr i'r geiniog, os hoffech chi, o ran codi trethiant yma yng Nghymru. Mae un yn ymwneud â chodi refeniw, ond mae'r llall, wrth gwrs, yn ymwneud â newid ymddygiad. Mae ein treth gwarediadau tirlenwi yn dangos hynny'n glir iawn, oherwydd rydym eisiau gweld y ffigurau hynny'n gostwng mewn gwirionedd. Rwy'n awyddus i archwilio, yn y dyfodol, beth arall y gallwn ei wneud gyda threth gwarediadau tirlenwi o ran cefnogi'r economi gylchol honno yr ydym ni eisiau ei gweld.

Cyfeiriodd Alun Davies yn benodol at ein fframwaith polisi treth, sy'n seiliedig ar y pum egwyddor hynny, ac, mewn gwirionedd, o ganlyniad i sgyrsiau yr wyf wedi'u cael o'r blaen gydag Alun Davies ar lawr y Senedd, a hefyd rhywfaint o drafodaeth yn y Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddechrau darn o waith sy'n adolygu'r egwyddorion hynny, i archwilio ai nhw yw'r egwyddorion cywir i ni o hyd wrth symud ymlaen neu a oes angen i ni eu newid a'u haddasu. Yn sicr, rwy'n credu bod y swyddogaeth bwysig honno sydd gan dreth o ran cyflawni'r Gymru wyrddach honno yr ydym ni eisiau ei gweld, yno gyda'r egwyddorion posibl hynny ar gyfer y dyfodol.

Yna roedd y pwynt pwysig ynghylch a yw'r cydberthnasau rhynglywodraethol yn gweithio ai peidio ac i ba raddau y mae'r dulliau gweithredu sy'n cefnogi hynny hefyd yn gweithio. Rwy'n credu y byddai hyn yn sicr yn faes lle byddem eisiau gweld gwell gweithio gyda Llywodraeth y DU, ond mae'n faes sy'n uniaethu'n gryf iawn ag un o'r meysydd hynny lle mae angen canolwr annibynnol arnom nawr i archwilio'r dystiolaeth yr ydym wedi'i darparu, sydd, yn ein barn ni, yn bodloni popeth y mae'n ofynnol i ni ei wneud o dan y Ddeddf yn llawn, o ran darparu gwybodaeth a data a safbwyntiau ac ati er mwyn gweld datganoli'r pŵer. Rwy'n credu bod angen y farn o'r tu allan honno arnom ni ynghylch a oes mwy sy'n ofynnol i ni ei wneud ai peidio, neu a yw'r oedi'n gwbl wleidyddol, fel y credaf y gallai fod, ar ran Llywodraeth y DU.

Gweinidog Cyllid, rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am Awdurdod Cyllid Cymru a pha mor dda y mae'n llwyddo fel sefydliad. Rwyf hefyd wedi mwynhau o leiaf un o'r cynadleddau treth yr ydych chi wedi'u cynnal. Dydw i ddim yn credu mai'r rheswm dros lwyddiant ACC yw oherwydd ei fod wedi'i wneud ar sail Cymru yn hytrach na sail y DU, ond rwy'n credu ei fod yn mynd i ddangos faint yn fwy effeithlon y gellir darparu gwasanaethau cyhoeddus pan fyddwch yn dechrau gyda llechen lân ac nad oes gennych y systemau TG a etifeddwyd. Rwy'n credu bod symud yr holl TG i'r system gwmwl a'r ffordd y maen nhw wedi rheoli hynny wedi bod yn llwyddiant gwirioneddol.

Gwnaethoch sôn yn fyr iawn am gyfraddau treth incwm Cymru. Yn amlwg, rydym yn anhapus eu bod wedi'u datganoli heb y refferendwm a addawyd yn flaenorol. Fodd bynnag, a gaf i ofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y golled refeniw yn sgil datganoli'r cyfraddau hyn yng Nghymru? Yn amlwg, nid ydyn nhw wedi cael eu newid eto, felly nid ydyn nhw wedi cael y lefel o ddiddordeb cyhoeddus y byddent wedi'i gael pe baent wedi eu newid, yn sicr pe bai'r trethi'n codi. Onid yw'n wir fod yr arenillion o'r 10 y cant hwn o gyfraddau Cymru yn llai na'r disgwyl? Ac er bod rhywfaint o amddiffyniad o hyd, oni wyddom gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ein bod bellach yn cael llawer llai o arian oherwydd y lefel honno o ddatganoli? A allwch gadarnhau sawl miliwn yw hynny nawr?

Yn olaf gennyf fi, rydych chi'n dweud fod y broses ar gyfer trethi newydd wedi methu yn ei brawf cyntaf. Byddwn i'n dweud ei fod wedi llwyddo gan ei fod wedi atal datganoli trethi newydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi edrych ar y dull hwn ac ymddengys ei bod wedi tybio mai ei bwriad yw datganoli llawer mwy o drethi—trethi ychwanegol y byddai pobl yn hoffi eu cael efallai am ba reswm bynnag—. Mewn gwirionedd, mae'r broses wedi atal hynny, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei groesawu. Dywedodd y Prif Weinidog, yn ei swyddogaeth flaenorol, ei fod am brofi'r dulliau. Mae hynny wedi'i wneud erbyn hyn; nid yw'n arwain at ddatganoli trethi newydd, diolch byth. Felly—

—a gawn ni roi'r gorau i wastraffu amser pobl wrth gael 200 o syniadau newydd ac archwilio pob un yn ddiwyd iawn, a derbyn na fydd trethi newydd yn cael eu datganoli?

17:05

Fe wnaf ddechrau drwy groesawu geiriau caredig Mark Reckless am Awdurdod Cyllid Cymru; rwy'n credu ei fod wedi perfformio'n eithriadol o dda, ac mae'n cymryd ymagwedd gwbl wahanol at gasglu trethi o'i gymharu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu awdurdodau refeniw eraill. Mae'r ffaith ei fod wedi gallu adeiladu rhywbeth cwbl newydd a ffres wedi ei alluogi i berfformio'n dda iawn. Caiff dros 98 y cant o'r ffurflenni eu ffeilio'n ddigidol, 98 y cant eu ffeilio'n brydlon, ac mae 87 y cant o'r trafodion yn cael eu cyflawni heb angen unrhyw ymyrraeth â llaw o gwbl. A chanfu 88 y cant o'r bobl a holwyd am eu profiadau o ddefnyddio'r system ei bod yn hawdd ei defnyddio. Felly, rwy'n credu bod hynny'n gadarnhaol iawn, ac rwy'n credu bod y tîm wedi gwneud gwaith hollol ragorol.

Mae'n debyg mai dyna lle mae'r cytuno rhwng Mark Reckless a finnau'n dod i ben. Ond soniodd am WRIT, ac yn enwedig rhagweld WRIT. Rhagolwg diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer refeniw WRIT yn 2021-22 yw £2.064 biliwn, a dyna'r ffigur yr ydym ni wedi'i gynnwys yn y gyllideb ddrafft. Mae'r refeniw a ragwelir, fel y gwn fod Mark Reckless yn ymwybodol ohono, £35 miliwn yn is na'r addasiad i'r grant bloc cysylltiedig, yn seiliedig ar y rhagolwg ar gyfer refeniw cyfatebol yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ond mae'r ffordd y cyfrifir yr addasiad i'r grant bloc wedi'i nodi yn y cytundeb fframwaith cyllidol, ac mae'r cytundeb hwnnw hefyd yn cynnwys cyflwyno ffactor sy'n seiliedig ar anghenion yn fformiwla Barnett, a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'r pecyn. Mae hynny wedi darparu bron i £600 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n fwy na gorbwyso'r £35 miliwn y mae Mark Reckless yn cyfeirio ato.

O ran y pwynt olaf, a oedd yn ymwneud â'r dreth ar dir gwag a'r ffordd y mae'r system yn gweithio, wrth gwrs, cytunwyd ar y broses ar y cyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, felly y mae o fantais i ni gyd, rwy'n credu, bod y broses yn gweithio o leiaf. Dyma'r pwynt ynghylch Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ynghylch mantais y dreth, am bolisi y tu ôl i dreth, pan na ddylai fod yn edrych ar hynny mewn gwirionedd, dylai fod yn edrych ar ble mae'r cymwyseddau ac yn archwilio datganoli ar y sail honno. Felly, dyna lle mae'r system, mi gredaf, wedi methu y tro hwn.

Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod wedi bod yn rhwystredig iawn dros flynyddoedd Llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan i weld polisïau blaengar Llywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio gan y mesurau a gymerwyd yn San Steffan, a pho fwyaf y gallwn ni dynnu pwerau i Gymru, gan gynnwys pwerau trethu, gorau oll fydd sefyllfa Llywodraeth Cymru  i ymateb i'r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddymuno, sef Cymru decach? Dyna'r hyn y maen nhw'n pleidleisio amdano pan fyddan nhw'n ethol Llywodraethau Llafur, ac mae'r trethi newydd hyn—y dreth trafodiadau tir, er enghraifft—yn cynnig y gallu i wneud hynny. I ryw raddau, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud hynny. Wrth edrych ar amrywiadau yn y dreth gyngor a bandiau newydd posibl, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth. A wnewch chi ddweud wrthym, Gweinidog, yn eich gwaith yn ymgysylltu â phoblogaeth Cymru ynghylch trethi a threthiant newydd yng Nghymru, a yw'r awydd hwnnw am degwch wedi ei amlygu'n gryf? Ac os felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn ymateb yn briodol? Ac yn gyflym iawn ar y dreth dwristiaeth, tybed a fyddech yn cytuno mai taliad bach i bobl ei wneud o ran trethi twristiaeth ydyw, ond gall gael effaith fawr ar wella'r cynnyrch twristiaeth, a fydd o fudd mawr i weithredwyr twristiaeth a chymunedau ledled Cymru.

Diolch yn fawr iawn i John Griffiths am godi'r mater yna. Mae'n rhoi cyfle i mi ddarparu enghreifftiau o sut mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau gwahanol i Lywodraeth y DU lle mae gennym gyfrifoldeb dros drethi.

Un, wrth gwrs, yw'r dreth trafodion tir. Mae gennym y system fwyaf blaengar yma yng Nghymru. Nid yw ein rhyddhad yn gyfyngedig i brynwyr tro cyntaf yn unig—er bod y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf yn elwa—mewn gwirionedd, sylweddolwyd bod pobl ar incwm cymharol fach sy'n prynu eiddo cymharol fach yn dal i fod angen y math hwnnw o gymorth, p'un ai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw brynu cartref neu eu bod yn symud ymlaen i eiddo mwy, neu'n symud i rywbeth llai. Felly, rydym yn awyddus i weld beth y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio ein system i roi cymorth i bawb sydd ei angen. Ac, unwaith eto, gyda'r dreth gwarediadau tirlenwi, fe wnaethom ni gymryd ymagwedd wahanol yma, a chyflwyno'r lefel gwastraff anawdurdodedig honno er mwyn sicrhau bod pobl a oedd yn tipio'n anghyfreithlon ac ati yn talu mwy o ganlyniad i hynny. Unwaith eto, rwy'n credu bod hynny'n ymwneud â thegwch. Rwy'n credu bod ymwybyddiaeth y cyhoedd o drethi Cymru a barn y cyhoedd am drethi Cymru yn cefnogi awydd i gael system wirioneddol flaengar.

Ac yna, yn olaf, ar dreth dwristiaeth bosibl, fel y dywedais i, mae'n rhywbeth yr ydym ni yn ei gwmpasu ar hyn o bryd o ran cael rhai trafodaethau gyda'r sector twristiaeth a gydag awdurdodau lleol. Mae'r gwaith hwnnw wedi'i oedi, os hoffech chi, drwy'r pandemig, oherwydd mae'n amlwg bydd amser i gael y trafodaethau hynny, a gyda'r pwysau a'r straen a deimlir gan y diwydiant twristiaeth, yn sicr nid dyma'r amser i gael y trafodaethau hynny. Ond, yn y dyfodol, gallai treth fod yno i gefnogi'r diwydiant twristiaeth gyda refeniw yn cael ei ail-fuddsoddi yn y cynnig twristiaeth yn lleol. Ond gallai fod yn rhywbeth, rwy'n credu, i awdurdodau lleol feddwl amdano yn unigol. Byddwn yn parhau i gael y trafodaethau hynny er mwyn deall barn awdurdodau lleol a'r sector twristiaeth yn well hefyd.

17:10

Diolch yn fawr iawn.

Y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 yw cymryd eitemau 6, 7 ac 8, sef Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a dwy gyfres o reoliadau treth trafodiadau tir, fel un ddadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Felly, oni bai fy mod yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, rwy'n mynd i dybio mai dyna sut y byddwn yn symud ymlaen. Dydw i ddim yn gweld unrhyw wrthwynebiadau.

6., 7. & 8. Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021

Cynnig NDM7573 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2020.

Cynnig NDM7572 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2020.

Cynnig NDM7571 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Yn y gyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, nodais fanylion ein cynlluniau ar gyfer sut y mae trethi datganoledig a rhannol ddatganoledig Cymru yn cefnogi ein blaenoriaethau gwario ac yn darparu system dreth decach a mwy blaengar yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn y gyllideb ddrafft yn dod i rym yn barhaol, mae angen cymeradwyaeth y Senedd ar gyfer tair cyfres o reoliadau. Mae dau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol 'wnaed', ac un i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.

Daeth Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 i rym ar 22 Rhagfyr. Daw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 i rym ar 1 Ebrill 2021. Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft a byddant yn cael eu gwneud os cânt eu cymeradwyo. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau, a'r cyfle i ddarparu tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyllid.

Daeth rheoliadau'r cyfraddau treth trafodiadau tir a bandiau i rym o 22 Rhagfyr. Gwnaethant newidiadau i'r cyfraddau sy'n berthnasol i'r cyfraddau preswyl uwch sy'n daladwy gan bobl sydd eisoes yn berchen ar fuddiant mewn eiddo preswyl arall. Maen nhw hefyd yn berthnasol i gwmnïau sy'n prynu eiddo preswyl. Cynyddodd y cyfraddau sy'n daladwy 1 pwynt canran ar gyfer pob band, gan greu gordal 4 pwynt canran effeithiol dros y cyfraddau sy'n daladwy'n fras gan brynwyr cartrefi. Bydd y refeniw ychwanegol yn ariannu mentrau polisi Llywodraeth Cymru yn 2021, 2022 a thu hwnt, yn enwedig buddsoddiad mewn tai cymdeithasol.

Rwy'n deall y pryder a fynegwyd ynghylch pa mor gyflym y gwnaed y newidiadau hyn, yn enwedig o gofio bod y newidiadau'n cynyddu'r atebolrwydd treth. Fodd bynnag, nid oedd yn anghyffredin i newidiadau i dreth dir y dreth stamp gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod y gyllideb i ddod i rym y diwrnod canlynol, ac mae rhesymau da dros y newidiadau hyn. Yn gyntaf, os yw'r dreth sy'n daladwy i gynyddu, gall oedi wrth ddod â'r tâl i rym arwain at gyflwyno trafodion er mwyn gwneud arbediad treth. Yn ail, os yw'r dreth sy'n daladwy i ostwng, yna gellir gohirio trafodion er mwyn elwa ar y gostyngiad hwnnw yn y dreth. Yn bwysig, ar gyfer trafodion sy'n agored i'r cyfraddau preswyl uwch, mae'r rheoliadau'n cynnwys amddiffyniadau i'r trethdalwyr hynny sydd wedi cyfnewid contractau a phryd y byddai'r newidiadau'n arwain at fwy o atebolrwydd. Bydd y trethdalwyr hynny, ar y cyfan, yn gallu talu treth yn seiliedig ar y cyfraddau sydd mewn grym pan fyddant yn cyfnewid contractau. 

Gwnaed newidiadau hefyd i'r bandiau treth ar gyfer trafodion dibreswyl. Cynyddodd y bandiau cyfradd sero ar gyfer cydnabyddiaeth ar wahân i rent a chydnabyddiaeth a oedd yn cynnwys rhent, 50 y cant sy'n golygu na fydd trafodion sydd â chydnabyddiaeth o £225,000 neu lai yn talu treth. Mae'r gostyngiad cymedrol hwn i fusnesau yn dangos cefnogaeth y Llywodraeth hon i fusnesau wrth iddyn nhw geisio gwella o'r pandemig, yn ogystal ag annog busnesau llai i ddechrau yng Nghymru.

Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd yn adroddiadau'r pwyllgor ynglŷn ag absenoldeb un o'r pwerau perthnasol yn y rhagymadrodd i'r rheoliadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwyllgor yn nodi'n glir pam yr ydym o'r farn bod y rheoliadau fel y'u gwnaed yn ddilys. Mae cyfraith achosion yn cefnogi'r sefyllfa honno, ac mae'r prif reoliadau a ddiwygir yn cynnwys yr holl bwerau perthnasol yn y rhagymadrodd, ac mae'r rheoliadau'n nodi'n glir y newidiadau sydd i'w gwneud.

Mae'r ail gyfres o reoliadau treth trafodion tir yn ymwneud â thrafodion dibreswyl yn unig ac yn diwygio swm y rhent perthnasol. Ffigur rhent blynyddol yw'r swm rhent perthnasol, ac os caiff ei dalu ynghyd â chydnabyddiaeth ar wahân i renti, cymhwysir rheol atal osgoi. Mae'r rheoliadau hyn yn cynyddu'r swm 50 y cant, o £9,000 i £13,500. Mae hyn yn cynnal y berthynas rhwng y trothwyon sero a'r swm rhent perthnasol, gan sicrhau bod y rheol yn parhau i weithredu fel o'r blaen.

O ran treth gwarediadau tirlenwi, mae Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 yn ymwneud â gosod cyfraddau treth 2021-22 ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu'r cyfraddau gwaredu safonol is ac anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi, a fydd, yn amodol ar ganlyniad y ddadl heddiw, yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar neu ar ôl 1 Ebrill 2021. Yn unol â'm cyhoeddiad yn y gyllideb ddrafft ym mis Rhagfyr, bydd y cyfraddau safonol ac is ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau manwerthu. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod cyfraddau'n parhau i fod yn gyson â'r DU ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan ddarparu'r sefydlogrwydd y mae busnesau wedi dweud wrthym fod ei angen arnyn nhw.

Eleni, drwy bennu'r un cyfraddau treth â Llywodraeth y DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw treth, gan sicrhau bod y risg o symud gwastraff dros y ffin yn gostwng. Bydd y gyfradd safonol yn cael ei chynyddu i £96.70, a'r gyfradd is fydd £3.10 y dunnell. Y gyfradd anawdurdodedig, a bennir ar 150 y cant o'r gyfradd safonol i annog pobl i beidio ag ymgymryd â gweithgareddau anghyfreithlon o ran gwastraff, fydd £145.05 y dunnell. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn. 

17:15

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog ar y rheoliadau yma, wrth gwrs, fel rhan o'n gwaith craffu ni ar y gyllideb ddrafft. Bydd fy nghyfraniad i'n canolbwyntio ar reoliadau bandiau treth a chyfraddau treth y dreth trafodiadau tir.

Fe glywon ni gan y Gweinidog fod yna ddau benderfyniad o bwys ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn. Yn y lle cyntaf, cynyddu cyfraddau treth a delir ar drafodion sy'n atebol i'r cyfraddau preswyl uwch er mwyn creu cyllid ychwanegol i ganiatáu gwariant pellach gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ym maes tai; ac yn ail, gostwng faint o dreth sy'n daladwy ar drafodion dibreswyl, fydd yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i fusnesau wrth i’r pandemig ddod i ben. Fe ddywedodd y Gweinidog wrthon ni fod y cyfraddau hyn yn parhau i fod yn flaengar o ran egwyddorion treth Llywodraeth Cymru. Fe ddywedodd y dylid gwneud cyhoeddiadau sy’n ymwneud â threth, lle bo hynny’n bosibl, fel rhan o'r gyllideb ddrafft, o ystyried eu bod, wrth gwrs, yn gysylltiedig â'r ymrwymiadau gwariant yn y gyllideb.

Mi fydd y Siambr hon yn cofio bod amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud newidiadau i’r dreth trafodiadau tir yn haf 2020 yn dibynnu ar newidiadau a wnaed gan San Steffan yn dilyn gwyliau treth stamp dros dro Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hytrach na chan gylch y gyllideb. Mae’r pwyllgor, felly, yn croesawu'r dull, sef bod y rheoliadau hyn wedi’u gwneud fel rhan o'r gyllideb ddrafft, o ystyried bod newidiadau treth yn gysylltiedig ag ymrwymiadau gwariant. 

Fe osodwyd y rheoliadau hyn ar 21 Rhagfyr, ac fe ddaethon nhw i rym y diwrnod canlynol. Fe glywon ni gan y Gweinidog bod hynny'n berffaith gyfreithlon, i gyfyngu ar gyfleoedd trethdalwyr i ddwyn trafodion ymlaen er mwyn osgoi'r cynnydd yn y cyfraddau. Fodd bynnag, roedd hi'n cydnabod goblygiadau hynny ar gyfreithwyr ac eraill sy'n ymwneud â thrafodion eiddo. Er ein bod ni'n cydnabod y gallai fod angen rhoi newidiadau treth trafodiadau tir ar waith ar unwaith er mwyn osgoi ymddygiad ystumiol, fe ellir ystyried hyn yn groes i egwyddor treth Llywodraeth Cymru, sef galluogi rhanddeiliaid i gynllunio gyda sicrwydd.

Yn olaf, fe wnaethom ni holi'r Gweinidog ynghylch y pŵer i Weinidogion Cymru i bennu'r bandiau treth a'r cyfraddau cyfrannol yn achos cydnabyddiaeth drethadwy, sy'n cynnwys rhent ar gyfer prydlesi dibreswyl neu gymysg, gan na nodwyd hynny yn y rhaglith, fel y soniodd y Gweinidog, ac a fyddai hynny'n cael unrhyw effaith ar ddilysrwydd y rheoliadau. Rydym ni'n nodi geiriau'r Gweinidog yn gynharach ac ymateb y Llywodraeth, felly, sy'n cydnabod nad yw'r pŵer hwn yn cael ei nodi, ond nad yw o'r farn bod hyn yn newid effaith y rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau, serch hynny, y bydd, er eglurder cyfreithiol, yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol ar y cyfle nesaf, ac rydym ni yn eu hannog nhw, wrth gwrs, i wneud hynny cyn gynted ag sy'n bosibl. I gloi, felly, Llywydd, mae'r Pwyllgor Cyllid yn nodi'r tair set o reoliadau.

17:20

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd. O ran eitemau 6, 7 ac 8, gwnaethom ystyried y tair cyfres hyn o reoliadau yn ein cyfarfod ar 11 Ionawr a gosodwyd ein hadroddiad gennym ar yr un diwrnod. Ni chododd ein hadroddiad ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Swm Penodedig o Rent Perthnasol) (Cymru) (Diwygio) 2021 unrhyw faterion o bwys, felly fe wnaf ganolbwyntio ar y ddau offeryn sy'n weddill at ddibenion y ddadl hon.

Cododd ein hadroddiad ar Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020 nifer o bwyntiau technegol. Nododd ein pwynt cyntaf fod Llywodraeth Cymru wedi methu enwi un o'r pwerau galluogi a ddefnyddiwyd i wneud y rheoliadau hyn, ac er ein bod yn cytuno â safbwynt Llywodraeth Cymru nad yw hyn yn newid effaith y rheoliadau, rydym yn croesawu ei hymrwymiad i wneud y gwelliannau angenrheidiol ar y cyfle nesaf, dim ond er mwyn eglurder cyfreithiol.

Roedd y pwyntiau technegol ychwanegol a godwyd gennym yn ymwneud â mân anghysondebau a materion drafftio yn y rheoliadau, ac eto, rydym yn croesawu cadarnhad Llywodraeth Cymru y bydd yn ceisio cywiro'r gwallau hyn.

Amlygodd ein pwynt rhinwedd cyntaf yn ymwneud â'r rheoliadau hyn y rhybudd byr ynghylch y newidiadau a wnaed gan y rheoliadau hyn, ac rydym yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi cael gohebiaeth gan y sector ar yr union bwynt hwn. Yn yr ymateb hwn i'n pwynt adrodd, dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newidiadau wedi dod i rym yn fuan ar ôl iddyn nhw gael eu cyhoeddi i gyfyngu ar gyfleoedd trethdalwyr i ddod a thrafodion ymlaen er mwyn osgoi'r cynnydd yn y cyfraddau fel y'u nodir gan y rheoliadau.

Nododd ein hail bwynt rhinweddau fandiau treth diwygiedig a chyfraddau treth canrannol y rheoliadau hyn ar gyfer trafodion penodol yn amodol ar dreth trafodiadau tir a gasglwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'n rhaid talu symiau a gesglir gan Awdurdod Cyllid Cymru i gronfa gyfunol Cymru. Codwyd pwynt rhinweddau tebyg yn ein hadroddiad ar Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020, ac fel y dywedodd y Gweinidog, roedd y rheoliadau hyn yn rhagnodi'r tair cyfradd o dreth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru a gasglwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru drwy arfer ei swyddogaethau ac a dalwyd i gronfa gyfunol Cymru. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau diwygio cyntaf a'r olaf. Rydym hefyd yn cydnabod yr effaith fuddiol ar y rhan fwyaf o fusnesau bach y rheoliad diwygio arfaethedig yn y canol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod ei gynigion ehangach i gynyddu'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi yn berthnasol i lawer mwy na chartrefi gwyliau yn unig mewn nifer fach o ardaloedd lle mae galw mawr yn peri risg o ganlyniadau difrifol i ddarpariaeth tai yn ehangach ac mae busnesau hunanarlwyo cyfreithlon ledled Cymru eisoes wedi'u taro'n galed gan gyfyngiadau coronafeirws. Mae hyn yn niweidiol i filoedd o drigolion yn y sector rhentu preifat ac yn gwrth-ddweud amcanion Llywodraeth Cymru ei hun o ran pennu cyllidebau. Nid mesur iechyd cyhoeddus yw hwn, ac felly nid oes ganddo gyfiawnhad o'r fath am y rhesymau hyn. Mae hyn hefyd yn methu cydnabod yr effaith ariannol ar aelwydydd a busnesau sydd eisoes yn gorfod ymdopi ag effaith cyfyngiadau'r ymateb i coronafeirws sy'n newid yn gyflym. Nid yn unig y mae hyn yn faich annymunol ar y landlordiaid preifat hynny sy'n darparu tai i'r rhai na allant fforddio neu sy'n dewis peidio â phrynu ar adeg mor ansicr, mae'n ei gwneud yn anos i berchen-feddianwyr ail gam symud i gartref newydd ac felly rhyddhau stoc i brynwyr tro cyntaf. Mae'r gwelliant hwn unwaith eto'n anwybyddu'r realiti bod y rhan fwyaf o landlordiaid preifat yn landlordiaid gweddus heb lawer o eiddo, ac yn dibynnu arnyn nhw am eu costau byw eu hunain, sy'n darparu tai gwerthfawr i'r rhai na allant brynu neu nad oes angen iddyn nhw wneud hynny, gan ddefnyddio adnoddau cymdeithasol gwerthfawr sydd, wrth gwrs, yn brin. Byddai'n llesteirio gallu landlordiaid da i ehangu ac amrywio eu portffolio i ddiwallu'r angen hwnnw.

Ni ddylid trin eiddo prynu i osod yr un fath ag ail gartrefi, gan eu bod yn darparu ar gyfer enillwyr cyflogau isel nad ydyn nhw'n gallu prynu, a phobl leol, ymhlith eraill. O ystyried y sefyllfa economaidd bresennol, bydd pobl hefyd yn llai abl i brynu, ac felly mae tai'r sector rhentu preifat bellach yn wasanaeth mwy gwerthfawr fyth. Fel y dywedodd rhai landlordiaid gweddus yn sir y Fflint wrthyf yr wythnos diwethaf, 'Mae'r cyfyngiadau a osodir gan y Llywodraeth yn lleihau'n gyflym y stoc o eiddo rhent gweddus, fforddiadwy. Rydym wedi dysgu gwers galed eleni, felly byddwn ni'n dechrau'r broses o adleoli ein portffolio rhentu i Loegr. Mae'n benderfyniad trist, oherwydd mae'r ddau ohonom yn dod o gefndir Cymreig.'

Mae'r gwelliant hwn hefyd yn codi cwestiynau ynghylch yr effaith, er enghraifft, ar aelodau o'r offeiriadaeth a phersonél y lluoedd arfog y mae eu cyflogaeth yn gofyn iddyn nhw fyw mewn mannau eraill, ond sy'n ceisio prynu cartrefi yn eu cymunedau eu hunain. Byddwn o ganlyniad yn ymatal.

17:25

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r holl gyd-Aelodau am eu cyfraniadau, ac yn enwedig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud o ran craffu ar y rheoliadau. Fe wnaf ymateb i'r ddau bwynt mwyaf o bwys a godwyd yn ystod y ddadl yn fy marn i, a'r cyntaf yw amseriad y cyhoeddiad. Rydym yn cydnabod bod y newidiadau wedi'u cyflwyno'n fuan iawn ar ôl eu cyhoeddi, a byddai gan hynny rai goblygiadau i waith cyfreithwyr ac eraill sy'n ymwneud â chyfleu eiddo. Rwy'n credu, serch hynny, ei bod yn dal yn wir ei bod yn briodol inni gyhoeddi'r penderfyniadau hyn ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft pan fydd ein cynlluniau gwariant mor gydgysylltiol â'r cyfraniad y mae trethi datganoledig yn ei wneud i ariannu'r gwariant hwnnw, a chyflwyno'r newidiadau yn y modd hwn am reswm da—i gyfyngu ar y cyfleoedd i drethdalwyr ddod â thrafodion ymlaen er mwyn osgoi'r cynnydd yn y cyfraddau, ac i dalu'r pedair cyfradd is. Ond rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig cydnabod bod rheolau trosiannol wedi'u cynnwys hefyd, fel y gallai'r rhai a oedd wedi cyfnewid contractau dalu'r dreth yn seiliedig ar y cyfraddau ar y dyddiad y cawsant eu cyfnewid fel na fydden nhw dan anfantais o ganlyniad i hynny. Felly, rwy'n credu bod hynny'n amddiffyniad pwysig a wnaethom ni ei roi ar waith.

Yna, o ran yr effaith ar bryniannau ail gartref, rwy'n credu bod y mesurau a wnaethom eu cyflwyno i sicrhau refeniw ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn gymesur â'r heriau. O ganlyniad i'r newidiadau, bydd y dreth a delir ar drafodion ardrethi preswyl uwch yn cynyddu £1,600 ar gyfartaledd ac mae tua 14,000 o drafodion o'r fath bob blwyddyn. O ganlyniad, rydym yn disgwyl i'r mesur hwn ddarparu cynnydd o £14 miliwn mewn refeniw yn 2021-22, ac o ganlyniad, fe welwch ein bod wedi gallu cynyddu'r cyllid yr ydym yn ei roi yn ein hagenda dai yn ein cyllideb ddrafft, felly rwy'n credu bod cysylltiad agos a chlir rhwng y penderfyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud yn hyn o beth a'n hymdrechion i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i unigolion ledled Cymru. Felly, roedd y penderfyniadau a wnaethom ni yn y gyllideb hon, yn fy marn i, yn gymedrol ac yn gymesur.

Rwy'n credu, Llywydd, fy mod wedi ymateb i'r prif bwyntiau o bwys. Diolch.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na, felly, unwaith eto, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig o dan eitem 7.

Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld unrhyw wrthwynebiadau, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

17:30

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021

Eitem 9 ar ein hagenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7570 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ger ein bron. Dim ond cyfres o reoliadau diwygio sydd i'w hystyried heddiw—Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol ein bod wedi atal pob coridor teithio dros dro mewn ymateb i ymddangosiad sawl amrywiad o COVID-19. Ystyrir bod gwledydd sydd â chysylltiadau teithio cryf ag ardaloedd lle mae'r mathau newydd wedi'u canfod yn cyflwyno risg uchel o drosglwyddo. Cyflwynwyd gofynion ynysu gwell hefyd o ran teithwyr sy'n dod i Gymru o'r gwledydd hyn.

Wrth adolygu'r asesiadau diweddaraf, rwyf wedi penderfynu y dylai'r gofynion ynysu uwch barhau i fod yn berthnasol i'r rhestr gyfredol o wledydd. O ganlyniad i'r rheoliadau hyn, ychwanegwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo a Gweriniaeth Unedig Tanzania at y rhestr hon hefyd. Bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu hadolygu eto ymhen tair wythnos. Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i Gymru sydd wedi bod yn y gwledydd risg uchel hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol ynysu am 10 diwrnod. Dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn y byddan nhw'n cael gadael eu hynysiad. Bydd y gofynion ynysu tynnach hyn hefyd yn berthnasol i bob aelod o'u cartref.

Mae'r rheoliadau hefyd wedi'u diwygio i ganiatáu i awyrennau a llongau sy'n teithio'n uniongyrchol o wlad neu diriogaeth sy'n ddarostyngedig i ofynion ynysu uwch ddod i Gymru o dan amgylchiadau eithriadol yn unig. Er nad yw'r rheoliadau hyn yn darparu ar eu cyfer, mae'n siŵr y bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau eraill yn y DU i gryfhau mesurau ar y ffin. Mae nifer o ddewisiadau yn cael eu hystyried, gan gynnwys cwarantin wedi'i reoli a gorfodi ynysu gwell yn y cartref, a phrofion ychwanegol i bob teithiwr.

Mae llawer iawn o fanylion i weithio drwyddyn nhw o hyd ar ôl y prif gyhoeddiadau a wnaed yr wythnos diwethaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda gweinyddiaethau eraill y DU i ystyried yn ofalus y trefniadau angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sydd, yn ein barn ni, yn parhau i fod yn rhan hanfodol o gadw Cymru yn ddiogel.

Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiad wedi'i gyflwyno mewn pryd ar gyfer y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Bydd fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn fyr.

Mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt rhinwedd. Mae'r pwynt cyntaf yn nodi cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth â hawliau dynol. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw arbennig at ddarn o'r memorandwm esboniadol sy'n cadarnhau nad yw'r diwygiadau a wneir gan y rheoliadau hyn yn newid yr ymgysylltiad o dan reoliadau teithio rhyngwladol hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 na'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Mae'r ail bwynt rhinwedd yn bwynt adrodd cyfarwydd—rydym wedi nodi na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau, am resymau y bydd yr Aelodau yn ymwybodol ohonynt. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Diolch am y sylwadau adeiladol unwaith eto gan y Pwyllgor Deddfwriaeth a Chyfiawnder, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn cefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron yn awr.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Rwyf i hefyd yn dymuno cofnodi bod gwrthwynebiad wedi'i godi i un o'r eitemau yn y gyfres ddiwethaf o dri nad oeddwn i'n gallu ei weld. Ac rwy'n meddwl weithiau ei bod yn eithaf anodd eich gweld chi i gyd yn ceisio chwifio arnaf i, ac, os ydych chi'n eistedd mewn ystafell lled-dywyll hefyd, mae hyd yn oed yn anoddach eich gweld, felly rwyf i yn ymddiheuro. Rwy'n credu bod Gareth Bennett wedi codi gwrthwynebiad, felly mae hynny wedi'i gywiro a bydd yn mynd yn y sgript bleidleisio. Felly, rwy'n ymddiheuro am hynny.

17:35
10. Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021

Felly, symudwn ymlaen at eitem 10, sef Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.

Cynnig NDM7574 Jeremy Miles

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae dadl heddiw yn nodi un o'r camau olaf tuag at benllanw ychydig dros ddwy flynedd o drafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar baratoi'r Gorchymyn drafft hwn.

Ym mis Tachwedd 2018, ysgrifennodd y Prif Weinidog ar y pryd at yr Ysgrifennydd Gwladol yn codi mater swyddogaethau cydredol a grëwyd drwy gywiro offerynnau statudol a wnaed o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Mae'r cyfyngiadau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, yn eu ffurf bresennol, yn atal y Senedd rhag dileu swyddogaethau o'r fath heb gydsyniad gweinidogol priodol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Ers hynny, mae nifer o ddeddfiadau eraill wedi arwain at greu swyddogaethau cydredol—[Anghlywadwy.]

Cytunodd y ddwy Lywodraeth fod y cynnydd canlyniadol i swyddogaethau presennol, a'r cynnydd dilynol i'r cyfyngiadau ar gymhwysedd y Senedd, yn anfwriadol a dylid ei gywiro. Dileu'r cyfyngiadau hyn fu ein blaenoriaeth ac rydym yn hyderus bod y Gorchymyn drafft yn cyflawni ymrwymiad Llywodraeth y DU, ynghyd â'n hymrwymiad ni, i wneud y cywiriad. Yn ogystal, mae'r Gorchymyn yn gwneud nifer o ddiwygiadau i Atodlen 7A a 7B o Ddeddf Llywodraeth Cymru i ddileu cyfeiriadau at rwymedigaethau'r UE sy'n ddiangen bellach ac etholiadau seneddol Ewropeaidd, yn dilyn ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Yn olaf, mae'r Gorchymyn hefyd yn cywiro rhai gwallau a fewnosodwyd i Ddeddf Llywodraeth Cymru gan Ddeddf Cymru 2017. Nodir manylion hyn a'r darpariaethau eraill yn y Gorchymyn drafft yn y memorandwm esboniadol yr wyf wedi ei osod gerbron y Senedd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried y Gorchymyn drafft a'u cefnogaeth i ddileu'r cyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rwyf wedi ymateb i'r argymhellion ac rwy'n falch o'u cofnodi eto heddiw. Pan wnes i gyfarfod â'r pwyllgor, soniais am yr angen am Orchymyn arall yn y Cyfrin Gyngor o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru. Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020 wedi creu swyddogaethau cydamserol eraill yr ydym yn credu y dylai eithriad tebyg fod yn berthnasol iddyn nhw hefyd. Rydym yn trafod gyda Llywodraeth y DU i geisio darpariaeth o'r fath. Rwyf i hefyd wedi ymrwymo i roi gwybod i'r pwyllgor am ddatblygiadau sy'n ymwneud â swyddogaethau cydamserol a chydredol a mwy sydd wedi codi, neu a fydd yn codi yn y dyfodol, o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. 

Gwnaed darpariaeth i wneud Gorchmynion o dan adran 109 o Ddeddf Llywodraeth Cymru i allu addasu cymhwysedd y Senedd heb fod angen deddfwriaeth sylfaenol bellach. Fodd bynnag, mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae'r Gorchymyn drafft yn ei wneud a'r hyn nad yw'n ei wneud. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn ymestyn cymhwysedd y Senedd. Yn hytrach, mae'n diogelu cymhwysedd y sefydliad rhag effeithiau anfwriadol deddfwriaeth ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal â gwneud rhai cywiriadau angenrheidiol.

Os gwnaiff y Senedd gymeradwyo'r Gorchymyn drafft heddiw, a gan fod Tŷ'r Cyffredin wedi'i gymeradwyo heddiw, a Thŷ'r Arglwyddi eisoes wedi gwneud hynny'r wythnos diwethaf, rydym yn disgwyl i'r Gorchymyn drafft gael ei gyflwyno i'w Mawrhydi yng nghyfarfod y Cyfrin Gyngor y mis nesaf. Rwy'n falch, felly, Dirprwy Lywydd, o symud y cynnig, a gofynnaf i'r Aelodau ei gefnogi.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y soniwyd, cawsom dystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ar y Gorchymyn arfaethedig ar 14 Rhagfyr 2020, ac fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiad ar 14 Ionawr 2021. Fel cefndir i'r Gorchymyn drafft hwn, ac i roi rhywfaint o gyd-destun, sydd wedi ei amlinellu yn rhannol gan y Cwnsler Cyffredinol, bydd yr Aelodau yn gwybod bod Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 wedi rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i ddiwygio cyfraith yr UE a gedwir, boed yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth ddomestig, neu, yn wir, o ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE, er mwyn cywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a gadwyd a allai godi ar ôl ymadawiad y DU â'r UE. Felly, cyn i'r Bil ymadael â'r UE ddod yn Ddeddf, yn y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraethau'r DU a Chymru, ymrwymodd Llywodraeth y DU i beidio â gweithredu mewn meysydd datganoledig heb gytundeb Gweinidogion Cymru. 

Rhoddodd Rheol Sefydlog 30C broses hysbysu ar waith, lle byddai Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i'r Senedd am reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf 2018. Wrth graffu ar y datganiadau hyn, daethom yn ymwybodol y crëwyd swyddogaethau cydamserol a chydredol a mwy o ganlyniad i Lywodraeth y DU yn deddfu mewn meysydd datganoledig, gan arwain atom yn pryderu ynghylch lleihau cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, er mewn meysydd cul iawn yn aml. Erbyn hyn, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymdrin â mater y swyddogaethau cydamserol, ond hoffwn i amlinellu bod y rhain yn swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru a Gweinidog y Goron eu harfer mewn cysylltiad â Chymru gan weithredu'n annibynnol ar ei gilydd—hynny yw, mae gan y ddau yr un pŵer. Felly, yn achos pŵer cydredol a mwy, cyn y gall Gweinidog y Goron arfer y pŵer, mae angen cydsyniad Gweinidogion Cymru.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ni chaiff y Senedd ddileu nac addasu ochr Gweinidogion y DU o swyddogaeth gydredol heb gydsyniad Gweinidog y Goron. Felly, po fwyaf o swyddogaethau cydamserol a gaiff eu creu, y mwyaf o bethau sy'n mynd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gan na all y Senedd addasu na dileu ochr Gweinidog y Goron o'r swyddogaethau cydamserol hynny.

Felly, mae'r Gorchymyn sydd gerbron y Senedd heddiw, yn ogystal â chywiro gwallau yn Neddf 2006, sydd wedi eu disgrifio gan y Cwnsler Cyffredinol, yn dileu'r cyfyngiadau newydd hyn ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Felly, rydym yn croesawu'r Gorchymyn yn fawr. Fodd bynnag, fe wnaeth ein hadroddiad fynegi gobaith y dylid gwneud unrhyw gywiriadau i'r llyfr statud yn y dyfodol yn y chweched Senedd drwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Fe wnaethom ddau argymhelliad yn ein hadroddiad ac rydym yn croesawu ymateb y Cwnsler Cyffredinol yn ei lythyr atom ar 20 Ionawr 2021, y mae wedi cyfeirio ato. Felly, rydym yn cydnabod y bydd angen Gorchymyn adran 109 arall o ganlyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) 2020, ac rydym yn ddiolchgar bod y Cwnsler Cyffredinol wedi nodi y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y datblygiadau hynny. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:40

Diolch. Nid oes gen i unrhyw Aelodau sy'n dymuno ymyrryd, felly, galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ymateb—Jeremy Miles.

Dirprwy Lywydd, hoffwn i ddiolch, yn fyr, i'r pwyllgor am ei waith diwyd wrth graffu ar waith paratoi y Gorchymyn hwn ac am ei gefnogaeth i'w weithredu. Diolch yn fawr.

Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gallaf weld gwrthwynebiad. Diolch. Felly, byddwn yn symud ymlaen i ohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig, o dan Reol Sefydlog 12.24, yw trafod eitemau 11 a 12 ar y cyd, ond gyda phleidleisiau ar wahân. A welaf unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig hwnnw? Nac ydw.

11. & 12. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)

Cynnig NDM7579 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.102:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws).

Cynnig NDM7578 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r pandemig wedi cael effaith ddramatig ar ein bywydau, gan roi cyfyngiadau ar lawer o'r hawliau a'r rhyddid yr ydym yn eu trysori. Ym mis Mai, bydd pobl Cymru yn arfer eu hawl i leisio eu barn ar eu cynrychiolwyr etholedig pan fyddan nhw'n mynd i bleidleisio yn etholiad y Senedd. Barn gadarn y Llywodraeth yw y dylid cynnal yr etholiad yn ôl y bwriad ar 6 Mai. Rydym ni'n credu bod angen Senedd a Llywodraeth Cymru arnom â mandad newydd. Fodd bynnag, byddai'n anghyfrifol i ni beidio â pharatoi ar gyfer sefyllfa lle nad yw'n ddiogel i'r etholiad redeg yn ôl y bwriad oherwydd effaith y pandemig. Mae'r Bil hwn yn galluogi cytuno ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer gohirio'r etholiad pan fydd popeth arall wedi methu yn unig, pe byddai'r pandemig yn fygythiad difrifol i redeg yr etholiad yn ddiogel ac yn deg.

Mae'r Bil yr ydym yn ei drafod heddiw yn ceisio diogelu un o'n hawliau mwyaf sylfaenol—yr hawl i bleidleisio—trwy alluogi pobl Cymru i gymryd rhan yn etholiad y Senedd. Os bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar 6 Mai yn ôl y bwriad, yna bydd yn ddiogel pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, gyda'r holl fesurau y byddech yn eu disgwyl o ran hylendid a chadw pellter corfforol. Os na all yr etholiad ddigwydd, mae angen y Bil hwn arnom ni. Mae darpariaethau'r Bil hwn yn fesurau wrth gefn darbodus i sicrhau y gall swyddogion canlyniadau gyflawni'r etholiad yng nghyd-destun y pandemig sy'n datblygu. Mae perygl y gellir atal pleidleiswyr rhag pleidleisio, nid yn unig am resymau salwch neu'r angen i gydymffurfio â gofynion i hunanynysu, ond hefyd oherwydd ofnau a allai fod ganddyn nhw ynghylch diogelwch pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio. Yn yr un modd, mae lefelau uchel o salwch hefyd yn peri'r risg na fydd digon o staff ar gael i weinyddu'r bleidlais, gyda risg ganlyniadol i uniondeb yr etholiad ei hun.

Yn gyntaf, mae adran 3 o'r Bil yn byrhau'r cyfnod diddymu o 21 diwrnod gwaith i saith diwrnod calendr. Bydd hyn yn caniatáu amser ychwanegol i'r Senedd ystyried deddfwriaeth hanfodol yn ymwneud â'r coronafeirws yn y cyfnod cyn yr etholiad. Pe byddai'r diddymiad yn digwydd fel y nodir mewn deddfwriaeth, byddai'r Aelodau yn peidio â bod yn Aelodau o 7 Ebrill, a byddai ein Senedd yn cael ei diddymu. Byddai'n anghyfrifol diddymu'r Senedd hon am fis cyfan yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol, pan fu ei chraffu yn elfen hanfodol o'r ymateb i'r pandemig. Mae gwaith craffu y ddeddfwrfa ar waith y Llywodraeth fwyaf hanfodol yn ystod argyfwng cenedlaethol.

Mae byrhau'r cyfnod diddymu yn darparu hefyd fod y Senedd hon ar gael i wneud penderfyniad ar ohirio'r etholiad. Ni fyddai'n iawn deddfu ar newidiadau i ddyddiad yr etholiad heb warantu y byddai'r Senedd ei hun yn gallu gwneud y penderfyniad terfynol. O ganlyniad, mae adran 10 hefyd yn addasu'r adeg pan ddaw unigolyn yn ymgeisydd yn yr etholiad. Mae hyn ynghlwm wrth y cyfnod diddymu ar hyn o bryd. Mae'r Bil yn datgysylltu'r ddau, fel y bydd unigolyn yn dod yn ymgeisydd yn etholiad y Senedd ar yr un pryd ag y byddai wedi ei wneud pe na byddai'r Bil wedi cynnig byrhau y cyfnod diddymu i saith diwrnod calendr. Er mwyn lliniaru unrhyw oedi i'r cyfrif ei hun, mae adran 4 yn gwneud newidiadau i'r amserlen ar ôl yr etholiad, gan ganiatáu diwrnod ychwanegol i'r cyfarfod cyntaf gael ei gynnal os bydd unrhyw oedi oherwydd y coronafeirws.

Gwnaeth y grŵp cynllunio etholiadau nifer o argymhellion i gynyddu hyblygrwydd wrth gynnal yr etholiad, ac rydym wedi cynnwys y rhain yn adran 10. Bydd pleidleisiau trwy ddirprwy brys ar gael i bleidleiswyr am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, sy'n golygu y bydd gan bleidleiswyr opsiynau ychwanegol os bydd hunanynysu yn eu hatal rhag mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol. Mae'r Bil hefyd yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd o ran cyflwyno papurau enwebu, a sut y gall ymgeisydd gydsynio i enwebiad.

Y ddarpariaeth yn y Bil hwn a drafodwyd fwyaf yw'r ddarpariaeth hefyd yr ydym yn gobeithio na fydd yn rhaid i ni ei defnyddio byth. Hynny yw, y pŵer newydd i'r Llywydd ohirio dyddiad y bleidlais i ddyddiad heb fod yn hwyrach na 5 Tachwedd 2021, am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, fel y nodir yn adran 5. Yn adran 6, mae'r Bil hefyd yn cyflwyno pŵer presennol y Llywydd i ohirio'r etholiad am hyd at fis am resymau nad ydyn nhw'n ymwneud â'r coronafeirws. Unwaith eto, hoffwn i bwysleisio mai ein bwriad cadarn yw y dylai'r etholiad gael ei gynnal fel y bwriadwyd ar 6 Mai, ac mai dim ond fel opsiwn wrth gefn y mae'r ddarpariaeth hon wedi ei chynnwys os nad yw'n ddiogel cynnal yr etholiad oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd.

Nid yw'r Bil ei hun yn gwneud unrhyw newidiadau i ddyddiad yr etholiad. Mae dim ond yn darparu'r gallu i wneud hynny pe byddai ei angen. Byddai'r broses ohirio yn cael ei chychwyn drwy gynnig gan y Prif Weinidog i'r Llywydd, sydd yn ei thro yn cynnig dyddiad newydd i'w gyflwyno gerbron y Senedd. Mae'n rhaid i gynnig i ohirio'r etholiad gael cytundeb y Senedd gan fwyafrif o ddwy ran o dair o gyfanswm seddi'r Senedd.

Fel amddiffyniad pellach, mae'r Bil yn cynnig swyddogaeth i'r Comisiwn Etholiadol o ran gohirio. Os bydd y Llywydd neu'r Prif Weinidog yn gofyn, mae'n rhaid i'r Comisiwn Etholiadol roi cyngor iddyn nhw ar y mater gohirio. Yn yr un modd, mae adrannau 7 ac 8 hefyd yn mynd i'r afael ag is-etholiadau ar gyfer y Senedd ac ar gyfer llywodraeth leol. Maen nhw'n rhoi pŵer i'r Llywydd ohirio is-etholiadau'r Senedd, a phŵer gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru ohirio is-etholiadau llywodraeth leol.

Yn olaf, mae adran 12 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, trosiannol, darfodol neu arbedol y maen nhw o'r farn eu bod yn briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i'r Ddeddf, neu mewn cysylltiad â hynny. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau, pe byddai'r etholiad yn cael ei ohirio, bod gan Weinidogion Cymru y gallu i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer effeithiau na ellid bod wedi eu rhagweld wrth ddatblygu'r Bil. Bydd y pŵer hwn hefyd yn darparu ar gyfer trefniadau ymarferol fel mynd i'r afael â blaendaliadau ymgeiswyr, dinistrio pleidleisiau post, ac yn y blaen, y gellir ymdrin â nhw drwy is-ddeddfwriaeth.

Roeddwn i'n falch o roi tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynglyn â'r Bil, ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r Aelodau a'r swyddogion, a lwyddodd i lunio adroddiad erbyn amser cinio heddiw. Rwyf i wedi ystyried argymhellion y pwyllgor y prynhawn yma, ac rwy'n falch o dderbyn y rhan fwyaf ohonyn nhw.

Yn benodol, gallaf dderbyn argymhellion 8 a 9 o ran defnyddio'r weithdrefn amgen a wnaed yn hytrach na'r weithdrefn negyddol ar gyfer y rheoliadau; a rhan o argymhelliad 4, a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog ymgynghori â'r prif swyddog meddygol cyn gwneud argymhelliad i ohirio. Rydym yn credu bod y ddarpariaeth o ran y Comisiwn Etholiadol yn ddigonol eisoes.

Argymhelliad 6, sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd wneud datganiad yn esbonio ei phenderfyniad os bydd yn defnyddio ei phŵer presennol i amrywio'r bleidlais hyd at fis, rydym yn derbyn hyn at ddibenion tryloywder, er nad oes dyletswydd gyfatebol ar y Llywydd mewn etholiad arferol. Byddwn yn cyflwyno gwelliannau i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Mae'n ddrwg gen i ddweud bod rhai argymhellion nad ydym mewn sefyllfa i'w derbyn ar hyn o bryd. O ran argymhelliad 1, nid yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hasesiadau o gydweddu â deddfwriaeth hawliau dynol, ond rydym yn fodlon bod y Bil o fewn cymhwysedd ac nad yw'n torri Deddf Hawliau Dynol 1998. Nid wyf yn credu bod angen y cymal machlud, fel yr awgrymir yn argymhelliad 2. I'r graddau y mae angen terfynau amser ar y Bil, maen nhw eisoes wedi eu cynnwys yn nhestun y Bil.

Ac o ran argymhelliad 3, mae'r term 'priodol' yn ychwanegu hyblygrwydd, a byddai ei ddileu yn lleihau hyblygrwydd. Mae'n werth nodi bod y term 'priodol' yn cael ei ddefnyddio yn Neddf yr Alban hefyd. Rwyf i o'r farn y dylem ni gadw'r hyblygrwydd hwnnw yn y Bil, o ystyried natur anrhagweladwy y pandemig a'i effeithiau.

O ran argymhelliad 5, mae dealltwriaeth y pwyllgor, fel y nodir ym mharagraff 65 o'r adroddiad, yn gywir ar y cyfan. Mae gan y Llywydd ddisgresiwn i gynnig dyddiad. Fodd bynnag, y Llywydd sy'n gosod y dyddiad, ond dim ond os yw'r uwchfwyafrif yn cytuno ar y dyddiad.

Mewn ymateb i gwestiynau penodol y pwyllgor, nid yw'r Bil yn darparu ar gyfer pa un a ellir diwygio cynnig ai peidio. Gellid gwneud darpariaethau o'r fath yn y Rheolau Sefydlog, ac rydym ni wedi cychwyn trafodaeth gyda'r Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r gweithdrefnau a allai fod yn briodol. Yn absenoldeb darpariaeth benodol yn y Rheolau Sefydlog, byddai cyflwyno a dethol gwelliannau yn fater i'r Llywydd. Os na fydd y Senedd yn pleidleisio o blaid dyddiad a gynigir gan y Llywydd, gall y Llywydd, mewn egwyddor, gynnig dyddiad arall. Unwaith eto, gellir gwneud darpariaeth ynglŷn â hyn yn y Rheolau Sefydlog. Ni fyddai cynnig dyddiad newydd yn gofyn am gynnig newydd gan y Prif Weinidog. Mae pŵer y Prif Weinidog yn ymwneud â chynnig gohirio'r etholiad, nid â'r dyddiad. Ni all y Llywydd bennu dyddiad ar gyfer etholiad gohiriedig o dan adran 5, ac eithrio un a gymeradwywyd yn benodol gan uwchfwyafrif y Senedd.

Mewn ymateb i argymhelliad 7, paratowyd Gorchymyn adran 116—Gorchymyn Senedd Cymru (Breinlythyrau a Phroclamasiwn) 2021—y mae disgwyl i'w Mawrhydi ei wneud yn y Cyfrin Gyngor ar 10 Chwefror. Mae'r Gorchymyn yn cynnwys math o eiriad ar gyfer proclamasiwn o dan adran 4(2) ac adran 5(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Rydym yn cynnig y gellir defnyddio ffurf y geiriad fel cynsail neu dempled ar gyfer proclamasiwn o dan adran 6 o'r Bil. Byddem yn trefnu i'r proclamasiwn gael ei gyhoeddi yn y newyddiaduron, a byddem, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r Llywydd i dynnu sylw pawb sy'n ymwneud â'r etholiad at y newid i'r dyddiad ar unwaith. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad â'r palas ynglŷn â hyn.

O ran argymhelliad 10, ni allaf gadarnhau yr union fanylion ar hyn o bryd, ond mae'r math o welliannau rwy'n eu harchwilio yn ymwneud ag addasiadau i sut y caiff ceisiadau am bleidleisiau post eu prosesu i leihau'r broses o wrthod ceisiadau o'r fath.

Ac yn olaf, mewn ymateb i argymhelliad 11, gallaf gadarnhau fy mod i'n bwriadu cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 a fyddai'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu ar gyfer diwrnodau pleidleisio ychwanegol yn yr wythnos cyn pleidleisio yn etholiad y Senedd, os caiff yr etholiad ei ohirio, a chyn belled nad yw'r bleidlais wedi ei chyfuno ag etholiadau'r comisiynydd heddlu a throseddu.

Mae'r cynnig penderfyniad ariannol sydd wedi'i gyflwyno yn cael ei ystyried heddiw hefyd. Byddai'r prif gostau yn y Bil hwn yn codi pe byddai'r etholiad yn cael ei ohirio. Nodir ein hamcangyfrif o'r costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, sy'n cael ei osod gerbron y Senedd ochr yn ochr â thestun y Bil. Daw'r amcangyfrifon hyn o ffigurau ar gyfer yr etholiad yn 2016, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw wedi eu diweddaru i brisiau cyfredol trwy ddefnyddio'r gyfres datchwyddydd cynnyrch domestig gros i gyrraedd cost 2021. Y dybiaeth yn yr amcangyfrif o'r costau hyn yw'r sefyllfa waethaf.

Dirprwy Lywydd, anogaf yr Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil a'r penderfyniad ariannol i sicrhau bod gan bob un ohonom opsiynau wrth ymateb i'r pandemig. Diolch.

17:50

Galwaf nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Cawsom dystiolaeth ar y Bil gan y Gweinidog ddoe, fel y soniwyd. Rwy'n ddiolchgar iawn i staff y Comisiwn a'r pwyllgor am y gwaith maen nhw wedi ei wneud i baratoi'r hyn sydd, yn fy marn i, yn adroddiad trylwyr a manwl iawn ar yr hyn sy'n ddarn pwysig iawn o ddeddfwriaeth etholiadol, ac felly cyfansoddiadol. Felly, rydym wedi rhoi sylw manwl iawn iddo mewn cyfnod byr iawn, iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am roi tystiolaeth ddoe, ond hefyd am y sylwadau manwl yr ydych wedi eu gwneud heddiw ynghylch y gwahanol argymhellion.

Byddaf yn trafod rhai o'r prif argymhellion. Wrth gwrs, fe wnaethom ni godi'r mater hawliau dynol eto, a'r diffyg cyfeiriad ato yn y memorandwm esboniadol. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol bod hwn yn fater yr ydym yn canolbwyntio arno yn sylweddol. Rwyf yn nodi sylwadau'r Gweinidog, ac yn cyfeirio'r Aelodau at yr argymhelliad yn yr adroddiad. Mae'r mater hawliau confensiwn yr un mor berthnasol.

Symudwn ymlaen at adran 1. Dywedodd y Gweinidog wrthym mai dim ond i etholiad 2021 y gall y Bil fod yn berthnasol. I bob pwrpas, mae'n darfod ar ôl 5 Tachwedd 2021. Nid oeddem yn gallu dod i gytundeb ynglyn â hyn. Er enghraifft, gallai'r pŵer yn adran 12 ganiatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio'r dyddiad o 5 Tachwedd 2021, a nodir yn adran 5, drwy reoliadau, a dyna pam y gwnaethom argymhelliad 2, sef cymal machlud.

Gan gyfeirio at adran 5, mae hyn yn galluogi'r Prif Weinidog i gynnig i'r Llywydd fod etholiad 2021 yn cael ei ohirio am reswm sy'n ymwneud â'r coronafeirws, os yw'r Prif Weinidog o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n briodol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol iawn o'r pryderon sydd gan y pwyllgor ynghylch defnyddio'r term 'priodol', pa un a yw wedi ei gynnwys yn neddfwriaeth Cymru, deddfwriaeth yr Alban neu unrhyw ddeddfwriaeth arall. Felly, mae ein safbwynt ar hynny yn parhau, nad ydym yn credu ei fod yn rhywbeth a ddylai fod mewn deddfwriaeth, er ein bod ni yn cydnabod yr esboniad manwl amdano a roddodd y Gweinidog i'r pwyllgor.

O ran arfer y pŵer yn adran 5(1), ein pedwerydd argymhelliad yw diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol i'r Prif Weinidog ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol, y prif swyddog meddygol a phobl briodol eraill. Ac rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Gweinidog ynghylch hynny.

Gan symud ymlaen at y darpariaethau eraill yn adran 5, yn gyffredinol, nid ydym o'r farn bod geiriad adrannau 5(2), 5(3) na 5(4) mor glir ag y gallai fod. Nid yw'n hawdd dirnad union gyfres y camau sy'n gysylltiedig â gohirio etholiad, yn enwedig oherwydd y defnydd o 'caiff' yn adran 5(2). Ein dealltwriaeth ni yw bod gan y Llywydd, yn ei hanfod, ddisgresiwn o dan adran 5 i gynnig dyddiad ar gyfer pleidlais ohiriedig, ond mai dim ond ar ôl i uwchfwyafrif o'r Senedd bleidleisio o'i blaid y bydd y dyddiad hwnnw yn cael ei osod yn sefydlog. Rwy'n credu mai dyna a wnaeth y Gweinidog ei gadarnhau. Ond ar y sail honedig honno, gofynnodd argymhelliad 5 i'r Gweinidog gadarnhau'r ddealltwriaeth honno. Rwy'n credu bod cadarnhad wedi ei roi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.

Gan droi yn awr at adran 6, sy'n rhoi'r pŵer i'r Llywydd amrywio dyddiad etholiad a ohiriwyd o dan adran 5 fis cyn neu ar ôl y dyddiad newydd, gan nad yw'r pŵer hwn wedi ei gysylltu yn uniongyrchol â'r pandemig ac y byddai'n diystyru dyddiad y bleidlais, fel y cytunwyd gan o leiaf 40 o Aelodau, mae argymhelliad 6 yn dweud y dylai fod yn rhaid i'r Llywydd gyhoeddi datganiad ar y rhesymau, ac rwy'n ddiolchgar bod y Gweinidog wedi cadarnhau bod hynny yn wir. Roeddem ni yn credu bod hwnnw yn gam rhesymol.

Os yw'r Llywydd yn cynnig amrywio dyddiad yr etholiad eto o dan adran 6(2) o'r Bil, mae adran 6(4) yn darparu i'w Mawrhydi, drwy broclamasiwn brenhinol, ddiddymu'r Senedd a'i gwneud yn ofynnol i'r bleidlais gael ei chynnal ar y diwrnod a gynigir gan y Llywydd. Ni nododd y Bil sut y byddai hyn yn gweithio yn ymarferol, ond rwy'n ddiolchgar am y sylwadau ychwanegol y mae'r Gweinidog wedi eu gwneud i egluro'r sefyllfa honno. Dywedodd argymhelliad 7, felly, y dylai'r Gweinidog esbonio i'r Aelodau y mesurau hynny, o ran y proclamasiwn, felly rydym yn ddiolchgar am hynny.

Gan droi yn awr at y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 8 a 12 o'r Bil. Mae'r ddwy adran yn cynnwys pwerau Harri VIII, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad. Bydd rheoliad o'r fath yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. At hynny, nid yw'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 8 wedi ei gysylltu yn uniongyrchol â'r coronafeirws. Felly, fel egwyddor gyffredinol, nid ydym o'r farn ei bod yn briodol diwygio deddfwriaeth sylfaenol drwy gyfrwng y weithdrefn negyddol, ac ni chawsom ein darbwyllo gan reswm y Gweinidog dros wyro oddi wrth yr egwyddor hon. Fodd bynnag, rydym ni yn cydnabod y gallai fod angen gweithredu'n gyflym. Er hynny, mae rheoliadau a wnaed eisoes mewn ymateb i'r coronafeirws wedi eu gwneud yn gyflym, ond nid yw hynny wedi golygu bod angen defnyddio'r weithdrefn negyddol. Rwy'n ymddiheuro os wyf i wedi methu sylwadau'r Gweinidog ynghylch hynny. Mae argymhellion 8 a 9 yn nodi y dylid diwygio'r Bil fel bod rheoliadau a wneir o dan adrannau 8 a 12 sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed, ac rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Gweinidog wrth dderbyn y pwynt hwnnw.

Gan droi yn olaf at bleidleisio drwy'r post a phleidleisio'n gynnar. Fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog roi rhagor o eglurder i'r Aelodau ar fwriadau Llywodraeth Cymru o ran pleidleisio drwy'r post a phleidleisio'n gynnar. Mae ymdrin â'r Bil fel Bil brys yn cyfyngu ar yr amser sydd ar gael i ddeall ei ddarpariaethau yn llawn. Fodd bynnag, rydym ni wedi dod i'r casgliad bod gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol a fydd yn galluogi gohirio etholiad 2021, ac is-etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol, am gyfnod byr yn ateb pragmatig, o ystyried argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus y coronafeirws.

Pe cytunir ar yr egwyddorion cyffredinol heddiw, nod ein hadroddiad yw rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau a allai lywio gwaith craffu a thrafodaethau yn ystod y camau dilynol. Diolch, Llywydd.

18:00

Wel, wrth geisio cytundeb y Senedd hon i Egwyddorion Cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), mae Llywodraeth Cymru yn ei hanfod yn gofyn i ni ailgylchu'r pwyntiau a'r dadleuon a wnaed pan wnaethom ni drafod a chytuno i gyflwyno Bil brys hwn y Llywodraeth wythnos yn ôl. Fel y dywedais i bryd hynny, mae Bil brys yn

'symleiddio prosesau deddfu ac atebolrwydd y Senedd'—

ac felly

'dim ond pan fydd argyfwng gwirioneddol ac anrhagweladwy y dylid ei defnyddio.'

Fel y nodais i hefyd bryd hynny,

'Cyflwynwyd Bil Etholiad Cyffredinol yr Alban (Coronafeirws), sy'n galluogi Gweinidogion Llywodraeth yr Alban i ohirio etholiad cyffredinol yr Alban y tu hwnt i 6 Mai, yn amodol ar bleidlais o Senedd gyfan yr Alban, yn Senedd yr Alban am y tro cyntaf'—

fis Tachwedd diwethaf, ac

'er iddo gael ei basio drwy amserlen ar garlam, roedd gan Aelodau Senedd yr Alban dros bum wythnos o hyd i ystyried y Bil.'

Mae amserlen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil hwn, mewn cyferbyniad, yn rhoi pythefnos o graffu yn unig i ni tan Gyfnod 3 yr wythnos nesaf. Er y bu argyfwng y pandemig yma ers mis Mawrth 2020 ac rydym ni wedi bod yn ymwybodol o ddyddiad etholiad nesaf Senedd Cymru am bum mlynedd, ni wnaeth y Prif Weinidog awgrymu newid y rheoliadau tan fis Tachwedd diwethaf. Felly mae'n rhaid i ni ofyn unwaith eto: pam mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa lle mae angen iddi fod yn defnyddio gweithdrefnau brys o'r fath, pan oedd yn amlwg y byddai'r pandemig yn dal i fod yn rheoli'r agenda? Yn ddealladwy, mae pryder ynghylch creu gwrthdaro buddiannau lle mai'r Prif Weinidog, sydd wedi ei rymuso gan y ddeddfwriaeth hon i ofyn yn ffurfiol am oedi'r etholiad yw'r un person a fydd yn arwain yr ymgyrch etholiadol ar gyfer un o'r pleidiau yn yr etholiadau hyn—Llafur Cymru. 

Fe wnaethom ni bleidleisio yr wythnos diwethaf i gytuno y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno'r Bil hwn fel Bil brys yn y Senedd, gan gydnabod yr angen posibl am oedi ar sail y sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n dirywio'n wael. Fodd bynnag, fel y dywedais bryd hynny, 'dim ond rhoi benthyg ein pleidlais a wnawn.' Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud pa sefyllfa y bydd angen i'r pandemig fod ynddi i'w gwneud yn ofynnol i'r etholiad gael ei oedi, a byddai ein cefnogaeth barhaus yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi beth fydd angen i'r trothwy fod cyn i'r Prif Weinidog wneud cais yn ffurfiol am yr oedi. Rydym yn pryderu eu bod nhw'n dal i ddod o hyd i resymau dros beidio â gwneud hyn, ac felly rydym ni'n eu hannog i nodi difrifoldeb ein safbwynt ar hyn.

Rydym ni yn cydnabod bod rhinwedd i lawer o gynnwys y Bil. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu ei bod yn bosibl mai dim ond yn ddiweddarach y byddai rhywfaint o'r cynnwys arfaethedig yn cael ei gyflwyno, fel gwelliannau Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom ni gymryd rhan yng ngrŵp cynllunio etholiadol Llywodraeth Cymru, ac mae gennym ni nifer o bryderon o hyd ers y grŵp cynllunio, gan gynnwys ymestyn y pleidleisio dros sawl diwrnod, lle byddai pleidleiswyr, er enghraifft, yn cael eu difreinio pe byddan nhw'n credu y byddai pleidleisio dros Senedd Cymru ar ddiwrnod arall yn dal i ganiatáu iddyn nhw bleidleisio dros eu comisiynydd heddlu a throseddu. Ac eithrio pleidleisio absennol felly, byddwn ni'n ceisio cefnogaeth y Senedd i atal y pleidleisio mewn gorsafoedd dros sawl diwrnod. Byddwn ni hefyd yn ceisio cefnogaeth y Senedd i sicrhau bod yr Aelodau yn cael eu hatal rhag defnyddio eu lwfans swyddfa neu eu lwfans cyfathrebu i hyrwyddo eu hunain yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod y cyfnod diddymu; i leihau o 21 nifer y diwrnodau sydd eu hangen ar y Senedd nesaf iddi gynnal ei chyfarfod cyntaf lle y gellir cynnal y trefniadau tyngu llw ar-lein, a gellir trefnu diwrnodau tynnu lluniau i'r Aelodau newydd gael tynnu eu llun yn y Siambr os byddai hynny'n cael ei ganiatáu o dan y rheolau COVID ar y pryd; i leihau'r cyfnod y mae'r grym i ohirio'r etholiad yn berthnasol iddo o chwech i bedwar mis, pan fydd angen i ni gynnal yr etholiad cyn unrhyw gynnydd posibl mewn achosion COVID-19 yn ystod y misoedd oerach; ac i atal y sefyllfa lle y gallai'r etholiad gael ei ohirio fwy nag unwaith. Mae angen eglurder hefyd ynghylch beth fyddai'n digwydd i bleidleisiau post a gaiff eu bwrw cyn cytuno ar oedi'r etholiad. Mae'r pandemig wedi taflu goleuni llachar ar Lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, a dim ond o dan amgylchiadau brys eithriadol y dylid ystyried gohirio etholiad cyffredinol Cymru sydd i'w gynnal ar 6 Mai. Diolch.

Mi bwysleisiaf innau'r amlwg i ddechrau: mae'r amserlen ar gyfer y Bil yma yn dynn iawn, iawn, iawn. Mi ddylai hwn fod wedi digwydd ynghynt, ac mae yna bryder bod yna ddiffyg cyfle rŵan i roi'r ystyriaeth fuasem ni'n dewis ei rhoi i'r materion sy'n codi o'r memorandwm esboniadol ac adroddiad y pwyllgor deddfwriaeth hefyd—a dwi'n eu llongyfarch nhw am droi adroddiad rownd dros nos neithiwr, dwi'n deall. Ond mi fyddwn ni'n cefnogi'r Bil yng Nghyfnod 1 heddiw i ganiatáu iddo fo symud ymlaen i'r cyfnod nesaf, pan allwn ni gyflwyno gwelliannau i gryfhau'r Bil a mynnu mwy o sicrwydd am rai agweddau penodol, ac mi wnaf i sôn am rai o'r agweddau yna a gofyn i'r Gweinidog os gall hi roi ymateb llawn i'r pwyntiau naill ai yn ei hymateb i'r ddadl y prynhawn yma neu yn ysgrifenedig mor fuan â phosib ar ôl y ddadl heddiw er mwyn inni allu cyflwyno gwelliannau ystyrlon yng Nghyfnod 2 o fewn amserlen dynn iawn.

Ychydig o sylwadau am y cyfnod diddymu yn gyntaf, y cyfnod sydd yno i roi tegwch i bob ymgeisydd sicrhau bod adnoddau cyhoeddus ddim yn gallu cael eu camddefnyddio. Mae o'n fecanwaith hefyd i sicrhau tegwch a chydbwysedd rhwng Llywodraeth y dydd a'r gwrthbleidiau drwy'r confensiwn purdah a'r nod, wrth gwrs, ydy sicrhau integriti'r etholiad. Mae'n rhaid ei gael o. Mi oedd y peryg o golli hwnnw oherwydd amgylchiadau'r pandemig yn gyfan gwbl yn achos pryder mae'n rhaid dweud. Dwi'n deall bod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno mewn egwyddor y bydd yna gyfnod cyn diddymu, pre-dissolution, rŵan a fydd yn debyg i gyfnod diddymu ond, ar yr un pryd, yn rhoi hyblygrwydd i adalw'r Senedd am resymau'n gysylltiedig â'r pandemig. Mae hynny yn mynd peth o'r ffordd i leddfu pryder. Rydw i'n deall bod y Llywodraeth wedi cynnig sut allai gweithgarwch gael ei gwtogi—stopio cyflwyno cwestiynau ysgrifenedig, er enghraifft, rhag ffafrio Aelodau presennol—ond dydyn ni ddim eto, hyd y gwn i, wedi gweld y canllawiau am oblygiadau'r cyfnod cyn diddymu i weithgarwch y Llywodraeth. Rydw i'n deall bod canllawiau o'r fath wedi cael eu cyhoeddi mor fuan â Rhagfyr 2015 ar gyfer etholiad 2016 dan y trefniadau arferol. Mae'n rhaid inni gael eglurder am y canllawiau a fydd yn berthnasol i'r Senedd a'r Llywodraeth fel ei gilydd er mwyn gallu ymdrin yn briodol efo'r Bil yma.

Rydw i am wneud ambell i sylw ynglŷn â'r angen i sicrhau bod iechyd cyhoeddus a iechyd ein democratiaeth ni yn rhan o'r hafaliad fel ei gilydd yn y penderfyniadau sydd o'n blaenau ni. Fel y dywedais i'r wythnos diwethaf, yr her sydd gennym ni ydy ystyried y darlun llawn hwnnw a chydbwyso’r gwahanol risgiau. Mae'r broses o alluogi bwrw pleidlais a'r broses o alluogi cyfri'r pleidleisiau hynny'n ddiogel yn allweddol, ond yr un mor bwysig yw galluogi trafodaeth ystyrlon efo pobl Cymru wrth iddyn nhw ethol llywodraeth am y pum mlynedd nesaf. Mae'r risg i intregiti'r etholiad o'i chynnal hi heb allu cael y drafodaeth ystyrlon honno yn dal, imi, ar goll braidd o edrych ar y memorandwm esboniadol.

Rydyn ni'n fawr callach am y sefyllfa o ran dosbarthu taflenni a dulliau ymgyrchu eraill. Ai dim ond drwy'r Post Brenhinol mae modd dosbarthu taflenni ar hyn o bryd? A oes modd talu rhywun neu asiantaethau cwmnïau eraill i wneud hynny? Mae eisiau edrych ar sut mae dosbarthu taflenni am elw yn dderbyniol ond dosbarthu gwirfoddol ddim. Mae yna beth gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol yn adran FAQs lefel rhybudd 4 y Llywodraeth ar ddulliau ymgyrchu. Rydyn ni'n annog pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i ystyried yr ystod lawn o ddulliau, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael iddynt i ddarparu gwybodaeth i etholwyr. Mae gen i ofn bod hyn yn gwbl annigonnol ac yn methu'r pwynt sylfaenol rydw i ac eraill wedi ei godi—nid pawb sydd ar y cyfryngau cymdeithasol ac nid pob ymgeisydd sydd am fod yn ddigon ariannog i dalu i ddosbarthu gwybodaeth. Pryd fydd yna ganllawiau cynhwysfawr ar gael i bleidiau gwleidyddol yn dangos yn glir beth allan nhw ei wneud o dan bob un o'r lefelau rhybudd yng nghynllun COVID Llywodraeth Cymru?

Yn olaf, Llywydd, rydw i'n troi at yr angen am eglurder am yr amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad ac at yr angen am ddiweddariadau cyson am statws yr etholiad. O ran yr amserlen pendefynu, pe byddai angen gohirio'r etholiad, rydw i'n credu bod awgrym o saith diwrnod cyn diwrnod pleidleisio yn dynn iawn, iawn. Dydy hi ddim yn glir a allai pŵer presennol y Llywodraeth gael ei ddefnyddio mor hwyr â 3 Mai, wythnos yr etholiad ei hun. Mi fydd llawer o bobl wedi pleidleisio'n barod drwy'r post erbyn hynny, felly beth fyddai'n digwydd i'w pleidleisiau nhw ac ati? Gan nad ydy hi'n glir beth fyddai'r amodau neu'r trothwy iechyd cyhoeddus fyddai'n cael eu  defnyddio i benderfynu a ydy hi'n ddiogel i'r etholiad fynd yn ei blaen ai peidio a bod y Bil fel y mae o yn darparu ar gyfer gohirio'r etholiad yn hwyr iawn yn y dydd, mi fyddwn ni'n ystyried cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru roi diweddariadau cyson inni ar statws y paratoadau ar gyfer yr etholiad a'r gallu i'w gynnal o yn ddiogel i gydfynd â'r adolygiadau tair wythnos o reolau COVID. Mae hynny'n lleiafswm, dwi'n meddwl, o ran gofynion. Tybed beth fyddai'r cyngor gwyddonol ar gyfer caniatáu i'r etholiad fynd rhagddo petai o'n cael ei gynnal yfory, er enghraifft. Llawer o gwestiynau i'w gofyn, amserlen dynn, ac rydyn ni angen eglurder ar frys gan y Llywodraeth ar nifer o'r pynciau hyn. 

18:10

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon y prynhawn yma. Byddwn i'n dweud yn dyner iawn wrth y Ceidwadwyr fod angen iddyn nhw ddysgu peidio â gwrthwynebu popeth y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud wrth ymdrin â'r pandemig hwn. Mae'r rhain yn ddyddiau hynod anodd, ac rwyf i yn cydymdeimlo yn fawr â'r Gweinidog wrth wneud y penderfyniadau y mae wedi eu hamlinellu i ni, ac rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom ni sy'n eistedd yma, pa ran bynnag o'r Siambr yr ydym ni'n ei chynrychioli, i geisio mewn gwirionedd rhoi ein democratiaeth o flaen unrhyw ystyriaeth arall.

Dywedais yr wythnos diwethaf yn fy nghyfraniad i fy mod i'n cefnogi cyflwyno'r Bil hwn, fy mod i'n cefnogi proses Bil brys a fy mod i'n credu bod hynny yn arfer y pwerau hyn mewn modd teg a da, ac rwyf i hefyd yn cefnogi arfer y pwerau y mae'n ei ddarparu i Weinidogion. Ond rwyf i yn credu, wrth arfer y pwerau hyn a cheisio'r pwerau hyn, y dylai Gweinidogion hefyd amlinellu i ni o dan ba amgylchiadau y maen nhw'n rhagweld y bydd y pwerau hyn yn cael eu harfer. Rwy'n hapus gyda'r prosesau a'r mesurau diogelu sy'n rhan o'r Bil. Rwy'n credu ei fod yn darparu ar gyfer craffu democrataidd da a chytundeb democrataidd eang ar y materion hyn, sy'n mynd y tu hwnt i blaid wleidyddol unigol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig cael yr ymdeimlad hwnnw o fenter ar y cyd ar draws y Siambr. Ond mae yn bwysig, wrth geisio pwerau, pwy bynnag yw hwnnw, boed y Prif Weinidog, y Gweinidog neu hyd yn oed y Llywydd, fod y bobl hynny yn amlinellu o dan ba amgylchiadau y byddai'r pwerau hynny yn cael eu harfer. Mae gen i ddiddordeb mewn deall beth yw'r amserlen ar gyfer penderfyniadau o'r fath. Mae gennym ni etholiad rai wythnosau i ffwrdd, o bosibl. Ar ba bwynt y mae hynny yn anghynaliadwy? Ar ba bwynt y mae'r Gweinidog yn rhagweld y bydd hi'n dod i'r lle hwn gyda chynnig neu'n gofyn am yr awdurdod i wneud cynnig o'r fath? Ar ba bwynt y mae etholiad ar 6 Mai yn dod yn opsiwn anghynaliadwy?

Ac yna, yn ogystal â deall yr amserlen, beth yw'r meini prawf, y prosesau a'r amgylchiadau a fyddai'n llywio penderfyniad? Mae cyfradd y coronafeirws ym Mlaenau Gwent wedi gostwng yn fwy nag mewn bron i unrhyw ran arall o Gymru, ac erbyn hyn mae'n un o'r rhannau isaf yng Nghymru. Byddai'n ddiddorol, rwy'n credu, i ni ddeall sut y byddai'r gwahanol niferoedd yr ydym yn eu gweld yn cael eu hadrodd bob dydd yn dylanwadu ar benderfyniad ac yn ei lunio. Ai'r gyfradd achosion fesul 100,000? Ai dyna'r hyn fydd yn llywio penderfyniad? A fydd yn ffigur cenedlaethol, neu'n un sy'n ystyried yr ardal? Felly, er enghraifft, os oes problem wirioneddol ddifrifol mewn un rhan o Gymru, a fyddai hynny'n golygu bod angen gohirio'r etholiad ar gyfer Cymru gyfan am gyfnod? Mae angen i ni ddeall beth yw'r meini prawf hyn.

Ac, yn olaf, roeddwn i'n credu bod y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth yn bwerus iawn ac wedi eu gwneud yn dda iawn. Mae angen i hwn fod yn etholiad diogel, yn sicr, ond mae angen iddo fod yn etholiad teg hefyd, ac mae angen iddo ymddangos yn deg hefyd, ac mae hynny'n golygu'n arbennig yn deg i'r sefydliadau hynny, pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr na fydd ganddyn nhw'r adnoddau sydd gan y rhan fwyaf o'r pleidiau sydd wedi eu cynrychioli yma y prynhawn yma. I lawer ohonom ni, mae gennym ni bleidiau etholaethol strwythuredig, mae gennym ni bleidiau cenedlaethol strwythuredig sy'n gallu cynnal ymgyrch, ond mae'n rhaid i ni beidio â chamddefnyddio'r fraint o fod yn dal sedd, ac mae hynny'n golygu galluogi a chaniatáu a chreu'r lle i gael ein herio a chael ein herio'n deg ar gyfer ein seddi. Felly rwy'n gobeithio, ym mis Mai neu pryd bynnag y bydd yn digwydd, y byddwn yn cael etholiad teg yn ogystal ag etholiad diogel. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. 

Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Rwyf i yn derbyn ei sicrwydd mai mesur wrth gefn yw hwn, fodd bynnag, nid ydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn gweld yr angen i ddeddfu i ohirio'r etholiad ac rydym ni'n credu y dylem ni ganolbwyntio ar sicrhau bod yr etholiad yn mynd yn ei flaen yn unol â'r bwriad ddydd Iau 6 Mai. Rwy'n nodi eto bod gan y Llywydd yr awdurdod i ohirio etholiad hyd at fis os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn galw am hynny yn wirioneddol. Ond mae angen i ni fod yn ofalus yma. Dim ond am bum mlynedd y gwnaeth y pleidleiswyr ein hethol ni ac efallai nad ydyn nhw'n rhy hapus i'r Aelodau yn y lle hwn—gan gynnwys fi fy hun, wrth gwrs—barhau y tu hwnt i'w tymor gorfodol. Mae Aelodau Llafur wedi bod yn gadarn iawn wrth wneud y pwynt hwn yn y gorffennol diweddar, yn enwedig Alun Davies, yr ydym ni newydd glywed ganddo. Rwy'n gwybod ei fod yn dweud rhywbeth ychydig yn wahanol nawr, ond ychydig bach o amser yn ôl, yr oedd yn dweud wrthym ni fod tymor y Cynulliad hwn—y pumed Cynulliad—eisoes wedi bod yn rhy hir.

Byddai gohirio etholiad y tu hwnt i 6 Mai yn atal democratiaeth i bob pwrpas. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym ni'n mynd ar hyd y trywydd hwn. Rwy'n credu, er bod Alun yn cefnogi'r ddeddfwriaeth heddiw, ei fod newydd godi rhai cwestiynau perthnasol iawn, y mae'n rhaid i'r Gweinidog eu hateb o hyd; er enghraifft ar ba sail benodol y gallai'r etholiad gael ei ohirio os ydym ni'n pasio'r ddeddfwriaeth hon. Oherwydd yn amlwg, fel yr oedd y Gweinidog yn glir yn ei gylch pan agorodd y ddadl, nid yw'r ddeddfwriaeth hon ynddi ei hun yn oedi etholiad; dim ond rhoi cynllun wrth gefn ar gyfer gwneud hynny y mae'n ei wneud. Felly, mae angen iddi hi esbonio i ni ar ba sail benodol a neilltuol y gallai'r etholiad gael ei ohirio. Rwy'n credu bod angen i ni wybod hynny.

Mae materion eraill. Nid yw'r mater hwn o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru yn llwyr, oherwydd bod etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn cael eu cynnal ar yr un pryd, mae'n debyg. Llywodraeth y DU sy'n pennu'r dyddiad ar gyfer y rhain, felly mae'n bosibl ein bod yn arwain at sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn penderfynu ein bod ni'n mynd i gael etholiad yng Nghymru ar 6 Mai, sef etholiad y Comisiynydd. Pe byddai hynny yn wir, byddai'n hurt yn fy marn i pe byddai Llywodraeth Cymru wedyn yn dweud nad yw'n bosibl i ni gael etholiad y Senedd ar yr un diwrnod, oherwydd byddai gwneud hynny yn golygu cael dau etholiad ar wahân yn lle un. Byddai hefyd yn cynyddu'r gost o gynnal yr etholiadau hyn, gan wastraffu arian trethdalwyr. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn dda iawn am wneud hynny, ond nid wyf i'n credu y dylen nhw fod yn ei wneud fel mater o arfer. Felly, rwyf i'n credu bod yn rhaid i ni wneud unrhyw benderfyniad yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd gydag etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, ac mae hynny yn fater i Lywodraeth y DU.

I wneud achos mwy cadarnhaol, mae cyfraddau brechu yn gwella yng Nghymru, felly mae yn ymddangos y gallai'r gwaethaf o'r pandemig fod y tu ôl i ni erbyn i ni gyrraedd mis Mai. Felly, gallai mynd ar drywydd penderfynu oedi gael ei ddehongli fel cyfaddefiad o fethiant o ran sefyllfa iechyd y cyhoedd, sydd yn gwella mewn gwirionedd. A gaf i nodi hefyd, gan ychwanegu at bwyntiau a wnaeth Mark Isherwood, fod y pandemig hwn a'r cyfyngiadau symud amrywiol wedi bod gyda ni ers misoedd lawer erbyn hyn? Felly mae'r awdurdodau perthnasol yng Nghymru wedi cael digon o amser i gynllunio ar gyfer yr etholiad hwn. I gloi, mae angen i ni gael yr etholiad hwn ar 6 Mai, ac felly, â phob parch, ni fydd Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr.

18:15

Rwy'n dweud eto bod yn rhaid i etholiad ar 6 Mai ddigwydd os yw hynny'n bosibl o gwbl, fel y mae fy nghyfaill Alun Davies wedi ei ddweud droeon. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth y rhai sy'n gwrthwynebu'r estyniad posibl yw sut y byddech chi'n ymdrin â phleidleisiau post nad oes modd eu casglu, achosion newydd o COVID-19 ar raddfa fawr lle mae pobl yn cael gorchymyn i aros gartref, neu le nad yw'n bosibl i staffio gorsafoedd pleidleisio? I'r rhai hynny sy'n dweud nad yw hynny'n bosibl, a gaf i eich tywys chi yn ôl i 2001, pan wnaethom ni ohirio'r etholiad cyffredinol ac etholiadau'r cyngor oherwydd clwy'r traed a'r genau? Felly, gall ddigwydd.

Mae gen i un pryder ynghylch y ddeddfwriaeth. Fel y bydd unrhyw un sydd wedi bod yn asiant etholiadol yn dweud wrthych chi, mae llawer iawn o bleidleisiau post yn cael eu hanghymhwyso oherwydd bod y dyddiad dychwelyd, nid y dyddiad geni, wedi ei gofnodi, neu nad yw'r llofnod yn cyfateb. Yn aml, mae hynny oherwydd strôc neu glefyd Parkinson sydd wedi digwydd ers i'r person wneud cais am bleidlais bost ac mae ei lofnod wedi newid, ac wedi newid yn sylweddol. Rwy'n deall bod ein partneriaid yn y DU wedi ysgrifennu at y Gweinidog neu eu bod yn bwriadu ysgrifennu at y Gweinidog i godi'r union bwynt hwnnw. A gaf i ofyn i ni ddilyn America, a chaniatáu i bobl gywiro'r ffurflen drwy anfon eu dyddiad geni, a chaniatáu iddyn nhw egluro pam nad yw'r llofnod yn cyfateb hefyd?

O ran dosbarthu taflenni, mae gen i daflenni gyda'r argraffwyr sy'n aros i fynd allan, mae gen i daflenni yn barod i fynd at yr argraffwyr yn barod i fynd allan, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ddiogelwch y cyhoedd ddod yn gyntaf. Er cymaint y byddwn i'n hoffi bod yn crwydro'r strydoedd yn dosbarthu taflenni—i fy helpu i golli rhywfaint o bwysau os nad dim byd arall—rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni ofalu am iechyd ein hetholwyr a'n hymgyrchwyr, ac ymgysylltu dim ond pan fydd yn ddiogel.

18:20

Fel y dywedais i o'r blaen, nid bwriad Llywodraeth Cymru yw gohirio etholiad y Senedd. Mae hwn yn amddiffyniad i'w ddefnyddio dim ond pan ystyrir ei bod yn gwbl angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag y risgiau a gaiff eu hachosi gan y coronafeirws—amddiffyniad yr ydym ni'n gobeithio na fydd yn rhaid i ni ei ddefnyddio byth. Fodd bynnag, fel Llywodraeth gyfrifol mae'n rhaid i ni wneud paratoadau sy'n caniatáu i ni ymateb i'r risgiau a gaiff eu hachosi gan y pandemig i ddiogelwch a thegwch yr etholiad. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl hon a byddaf i'n ceisio rhoi sylw i gynifer ohonyn nhw ag y gallaf i.

Gan ddechrau gyda Mark Isherwood, mae arnaf i ofn fy mod i'n credu bod ganddo wyneb braidd i ddweud, 'Pam ydym ni yn y sefyllfa hon?' o gofio gwrthwynebiad blaenorol ei blaid, cyn y Nadolig, i unrhyw awgrym o gwbl ynghylch gohirio. Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod y DU yn cyflwyno deddfwriaeth i ohirio etholiadau yn Lloegr mewn diwrnod os oes angen. Fe wnaethon nhw hynny yn union gyda'r Ddeddf perthynas yn y dyfodol, a oedd yn ymdrin â mater bach y cytuniad rhyngwladol pwysicaf y mae'r DU erioed wedi ei lofnodi mewn bron i 50 mlynedd—mewn un diwrnod. Felly, ni fyddaf i'n dysgu unrhyw wersi ganddo fe ynglŷn â'r angen i barchu'r angen i graffu mewn deddfwrfa. Mae'r mater a gododd ynghylch gwrthdaro buddiannau posibl gan y Prif Weinidog, wrth gwrs, yn cael ei ateb gan uchafiaeth y Llywydd a swyddogaeth y Senedd yn y Bil hwn, sef yr hyn y gwnes i ei nodi yn fy sylwadau agoriadol. Mae angen y pwerau arnom ni i wneud rheoliadau i ymdrin â'r pleidleisiau post sydd eisoes wedi eu bwrw a materion eraill o'r math hwnnw, y mae nifer o Aelodau wedi eu codi.

Mewn ymateb i nifer o bobl a ofynnodd, gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, byddwn ni, wrth gwrs, yn cyflwyno ein hymateb ffurfiol i adroddiad y pwyllgor yfory, ond roeddwn i'n falch o allu mynd i'r afael â rhai o'r materion yn fy sylwadau agoriadol. Hefyd, o ran y canllawiau cyn yr etholiad, rydym ni'n sylweddoli bod hon yn sefyllfa wahanol iawn i'r arfer, ond byddwn ni'n eu cyhoeddi cyn gynted ag y bo modd i'r Aelodau allu gweld hynny. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r Pwyllgor Busnes, oherwydd byddwn ni eisiau sicrhau bod ochr Comisiwn y Senedd a rheolau ochr y Llywodraeth yn cyfateb a'u bod nhw mor glir ac mor hawdd eu defnyddio â phosibl. Rwyf i hefyd yn hapus iawn i gytuno ag awgrym Rhun ein bod ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd o ran dilyniant ein gwaith ar y mater hwn.

Mae'r Bil hwn yn gweithredu fel mesur wrth gefn hanfodol wrth baratoi ar gyfer etholiadau mis Mai. Ein gobaith a'n nod diffuant yw bod yr etholiad yn mynd yn ei flaen yn ôl y bwriad, a bod pobl Cymru yn gallu pleidleisio'n rhydd ac yn ddiogel ar 6 Mai. Rydym ni'n paratoi ar y sail honno ac felly ein partneriaid hefyd. Ond wrth gwrs, byddaii'n esgeulus i ni beidio â chydnabod nad yw hynt y pandemig hwn wedi bod yn llyfn, ac mae'n iawn y dylem ni, fel Llywodraeth gyfrifol, roi cynllun wrth gefn ar waith, hyd yn oed os yw'n un yr ydym ni'n gobeithio peidio byth â'i ddefnyddio.

O ran y sawl a ofynnodd i mi ba amgylchiadau y byddem ni'n disgwyl eu pwyso a'u mesur o ran gwneud y penderfyniad hwnnw, mae amrywiaeth enfawr o ffactorau i'w hystyried. Mae nifer o Aelodau wedi sôn amdanyn nhw, mewn gwirionedd—sefyllfa iechyd y cyhoedd, yr hyder mewn gweinyddu'r etholiad, ei effaith ar bleidleiswyr. Nid ydym ni'n nodi'r metrigau hynny yn benodol, oherwydd bod y sefyllfa yn parhau i symud mor gyflym ag y bu erioed yn y pandemig hwn. Yn amlwg, yr agosaf yr ydym ni'n dod at yr etholiad, y mwyaf yw'r risgiau o ran costau, goblygiadau ymarferol, dryswch pleidleiswyr ac yn y blaen, ac felly yn ddelfrydol byddem ni eisiau gwneud penderfyniad amserol.

Mae'n bwysig bod y Senedd yn gallu ymateb yn agos at ddyddiad y bleidlais hefyd, os oes angen, o ystyried pa mor gyflym y gall sefyllfa'r pandemig newid. Mae pob un ohonom ni yma wedi byw drwy newidiadau cyflym dros nifer o ddyddiau, weithiau, yn ystod y pandemig. Mae nifer o'r Aelodau wedi sôn, er enghraifft, fod y ffigurau yn gostwng ledled Cymru, a'n bod ni'n ddiolchgar iawn o weld hynny, ond bydd yr Aelodau wedi cofio adegau eraill yn y pandemig pan oedd ffigurau i'w gweld yn gostwng, ac yna'n gwrthdroi'n sydyn dros nos oherwydd bod amrywiolyn newydd yn codi neu ryw ffactor arall nad ydym ni eto wedi ei ystyried. Felly, rwy'n credu y byddai'n esgeulus iawn ceisio cyfyngu ar hynny. Llywydd, pe byddwn i'n gallu ei ddyfynnu, ac yn anffodus ni allaf i, byddwn i'n galw ar gymorth rhyw Donald Rumsfeld, ac yn siarad am y pethau anhysbys anhysbys y byddai'n rhaid i ni ymdrin â nhw yn y pandemig hwn wrth symud ymlaen.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Rwyf i yn eu hannog i bleidleisio o blaid y Bil hwn ac, wrth gwrs, y penderfyniad ariannol. Diolch yn fawr.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 11? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gweld gwrthwynebiad. Gan fod y bleidlais ar eitem 11 wedi'i gohirio tan y cyfnod pleidleisio, bydd y bleidlais ar y penderfyniad ariannol hefyd yn aros tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

We've now reached voting time, and therefore I will adjourn the meeting for a short time in order to prepare for the vote.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:24.

18:25

Ailymgynullodd y Senedd am 18:28, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

13. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf heddiw ar eitem 7, Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, 11 yn ymatal, tri yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 7 - Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2020: O blaid: 39, Yn erbyn: 3, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 10, Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021. Rwy'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 49, neb yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

18:30

Eitem 10 - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021: O blaid: 49, Yn erbyn: 4, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 11 yw'r bleidlais nesaf, a hynny ar Ddadl egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 11 - Dadl: Egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws): O blaid: 48, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Eitem 12 yw'r bleidlais olaf. Mae hynny ar y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws). Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 48, neb yn ymatal, pump yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.

Eitem 12 - Y penderfyniad ariannol ynghylch Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws): O blaid: 48, Yn erbyn: 5, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni. Dyna ddiwedd ar ein pleidleisiau ni a diwedd ar ein gwaith ni am y dydd. Prynhawn da, bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.