Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

19/01/2021

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau cyn cychwyn. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda. Dwi eisiau atgoff Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod.

13:30
Cwestiwn Brys: Y Cynllun Brechu yn erbyn COVID-19

Yr eitem gyntaf ar yr agenda fydd y cwestiwn brys dwi wedi cytuno iddo, i'w ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth. 

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynllun brechu yn erbyn COVID-19 yng Nghymru yn dilyn adroddiadau mai polisi Llywodraeth Cymru yw dosbarthu’r cyflenwad presennol o frechiadau yn raddol yn hytrach nag anelu i frechu cymaint o bobl â phosib yn y cyfnod byrraf posib? (EQ0008)

Diolch. Bydd pob brechlyn yn cael ei roi i bobl sydd ei angen. Nid yw brechlynnau'n cael eu dal yn ôl yng Nghymru. Bob wythnos, rydym ni'n brechu mwy o bobl. Yr wythnos hon, byddwn yn darparu 60,000 yn rhagor o frechlynnau Pfizer mewn canolfannau brechu torfol, bron i ddwywaith nifer wythnos diwethaf. Mae'r ffigur heddiw yn dangos bod o leiaf 161,900 o bobl  wedi cael eu dos cyntaf erbyn hyn, a bod 10,000 o bobl ar gyfartaledd yn cael eu brechu bob dydd. Rwy'n disgwyl gweld hynny'n cynyddu ymhellach yn ystod gweddill yr wythnos hon. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y cerrig milltir yn y cynllun brechu a gyhoeddais yr wythnos diwethaf.

Diolch, Gweinidog. Mae cael y broses frechu yn iawn yn bwysig iawn, iawn. Dyma'r golau ym mhen draw'r twnnel, y gobaith y mae cymaint o bobl wedi bod yn glynu wrtho. Mae'n rhaid bod ffydd wirioneddol ymhlith y boblogaeth bod pethau ar y trywydd iawn. Dywedir wrth y bobl sy'n aros am y brechlyn ar gyfer eu hunain neu eu hanwyliaid, 'Peidiwch â'n ffonio ni, fe wnawn ni eich ffonio chi.' Os gofynnir i bobl fod yn amyneddgar, mae'n rhaid rhoi rheswm iddyn nhw fod â ffydd y daw eu tro nhw yn fuan. Yn anffodus, mae Llywodraeth Cymru wedi ysgwyd y ffydd honno yn ddifrifol. Yn gyntaf, ffigurau sy'n dangos ein bod ni ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Mae'r Prif Weinidog wedi ceisio wfftio hyn gan ddweud mai ffracsiynau bach yn unig ydyn nhw, ond er efallai nad yw 6.6 y cant o'r boblogaeth a frechwyd yn Lloegr yn swnio'n llawer mwy na 4.8 y cant wedi'u brechu yng Nghymru neu yn yr Alban, mae hynny'n wahaniaeth o 30 y cant yn nifer y bobl sy'n cael eu brechu, ac mae angen mynd i'r afael â hynny nawr.

Cawsom y ffigurau hynny ynglŷn â faint o frechlynnau a gafwyd yng Nghymru—cafwyd cannoedd o filoedd—a, bryd hynny, dim ond degau o filoedd a oedd wedi eu rhoi ym mreichiau pobl, lle yr ydym ni eisiau iddyn nhw fynd. Ac yna cawsom y datganiadau syfrdanol hwnnw gan y Prif Weinidog yn dweud y cai stociau eu gwasgaru dros yr wythnosau nesaf—datganiadau a ailadroddwyd—yn hytrach na'u dosbarthu cyn gynted â phosibl. Pe byddai nhw i gyd yn cael eu dosbarthu, dywedwyd wrthym ni, byddai brechwyr yn segur, yn gwneud dim byd. Galwodd Cymdeithas Feddygol Prydain hynny yn 'ddryslyd'. Dydw i ddim wedi gweld unrhyw reswm clinigol pam y byddai hynny'n gwneud synnwyr, a'r hyn sy'n gwneud synnwyr i mi ac, yn bwysicach, yr hyn sy'n gwneud synnwyr i'r cyhoedd yng Nghymru, rwy'n credu, yw dosbarthu cyn gynted â phosibl. Nawr, roedd datganiad gan Lywodraeth Cymru ddoe yn gwbl groes i'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, felly hefyd sylwadau'r Gweinidog nawr. Dywedwyd wrthym ni yn y datganiad hwnnw na fyddai'r brechlyn yn cael ei ddal yn ôl. Felly, pa un sy'n wir—y datganiad hwnnw, neu'r hyn a glywsom ni dro ar ôl tro gan y Prif Weinidog?

Mae angen i ni allu mesur yn union beth sy'n digwydd. Felly, unwaith eto, gofynnaf heddiw: rhowch ddiweddariadau rheolaidd i ni ar faint o bob math o frechlyn sydd wedi ei roi i bob gwlad yn y DU. Mae hynny'n hollbwysig. Mae'n rhaid i ni fod yn gwbl sicr ein bod yn cael ein cyfran o'r brechlyn AstraZeneca, sy'n haws ei ddefnyddio, er enghraifft. Mae angen i ni wybod faint o bob un sydd wedi ei roi i bob bwrdd iechyd, a faint o bob un sydd wedi ei roi ym mreichiau pobl.

Dechreuais drwy ddweud pa mor bwysig yw cael y broses frechu yn iawn, ac fe orffennaf os caf, drwy ddyfynnu sylw gan y bardd uchel ei pharch, Gwyneth Lewis, ar y cyfryngau cymdeithasol. Meddai hi, 'Wna i byth faddau i'r weinyddiaeth hon os bydd fy ngŵr sy'n agored i niwed, sydd wedi cael ei warchod ers mis Mawrth, yn dal COVID rhwng nawr a chael ei frechu fel nad yw staff yn segur, yn gwneud dim byd. Rydym ni wedi cadw at yr holl ganllawiau,' meddai, 'ac rydym ni yn ddig ac wedi'n drysu gan y dull hwn o frechu yng Nghymru.' Llywydd, mae llawer o bobl yn ddig ac yn ddryslyd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru eisiau i Lywodraeth Cymru gael hyn yn iawn. Gwyddom fod gennym ni frechlynnau a thimau brechu gwych eisoes yn gweithio, i gyd yn barod i ddechrau arni. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth nawr sicrhau bod y strategaeth yn gywir, bod yn gwbl dryloyw ynghylch yr hyn sy'n digwydd, gan gynnwys ynghylch ble mae unrhyw broblemau yn y system, ac, yn hollbwysig, mae'n rhaid iddi adeiladu'r ffydd sydd ei hangen arnom ni yn y rhaglen frechu hollbwysig hon.

13:35

Diolch. Rwy'n credu, o ran y sylwadau, y ceisiaf fod mor uniongyrchol ac mor fyr â phosib, Llywydd. Mae'r Prif Weinidog wedi egluro'r sylwadau, fel y gwyddoch chi—rydym ni i gyd yn glir iawn y caiff pob brechlyn ei ddefnyddio ac nad oes unrhyw frechlynnau'n cael eu dal yn ôl. Dydw i ddim yn credu y gallwn ni fod yn gliriach. Mae hi hefyd yn werth atgoffa pawb nad ydyn nhw yn y cyfarfod rhithwir, ond y rhai sy'n gwylio ar lawr gwlad hefyd, bod stociau Pfizer yn cael eu cadw, eu storio ac yna eu rhyddhau i'w defnyddio ym mhob gwlad yn y DU. Cafodd pob un o bedair gwlad y DU gyflenwad o frechlynnau Pfizer ddiwedd mis Rhagfyr, a dyna'r stociau yr ydym ni'n gweithio drwyddyn nhw cyn gynted ag y gall ein system eu darparu. Ac rydym ni wedi adeiladu ein seilwaith i ddarparu llawer mwy o frechlynnau Pfizer. Dyna pam mae dros 60,000 o bigiadau Pfizer wedi'u rhyddhau yr wythnos hon i GIG Cymru, er mwyn sicrhau y rhoddir nhw ym mreichiau pobl, er mwyn darparu'r amddiffyniad yr ydym ni i gyd eisiau i'n dinasyddion ei gael.

O ran y cais i roi mwy o wybodaeth i'r cyhoedd, rydym ni mor agored â phosib. Rwyf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig, yn nodi ein dull o ddarparu gwybodaeth am gyflenwadau ac am eu cyflenwi hefyd. Felly, bob dydd Iau bydd dangosfwrdd gyda mwy o wybodaeth, a phob dydd Mawrth o'r wythnos nesaf byddwn yn darparu mwy o wybodaeth fyth am yr hyn yr ydym ni yn ei gyflawni, ynghyd â'r ffigurau beunyddiol.

O ran yr wybodaeth fanwl y mae'r Aelod yn gofyn amdani am faint o gyflenwad yr ydym ni'n ei dderbyn—beth sy'n cyrraedd a beth sy'n cael ei ddosbarthu—byddwn yn dweud dau beth. Y cyntaf yw fy mod yn glir iawn ein bod yn cael ein cyfran o'r boblogaeth o'r holl gyflenwad o frechlynnau sydd ar gael. Cyn belled â bod y cyflenwad yn cyrraedd, byddwn yn darparu'r brechlynnau hynny. Yr ail sylw yw efallai na fydd yn bosib rhoi'r manylder y mae'r Aelod yn gofyn amdano ym mhob agwedd. Bydd yr Aelod wedi sylwi, yn yr Alban, y bu'n rhaid iddyn nhw ddileu'r cynllun yr oedden nhw wedi'i gyhoeddi ar-lein ac yna cyhoeddi fersiwn newydd oherwydd bod rhywfaint o wybodaeth a allai fod yn fasnachol sensitif am y cyflenwad o frechlynnau wedi'i chynnwys yn y strategaeth gychwynnol honno. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus ynghylch darparu cymaint o wybodaeth ag y gallwn ni, ac efallai na fydd hynny'n bodloni holl alwadau'r Aelod am wybodaeth feunyddiol ychwanegol.

Gallaf ddweud, serch hynny, am y ffydd ynglŷn â'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, fod y ffigurau beunyddiol yn cael eu cyhoeddi, a byddwch yn gweld cynnydd yn y ddarpariaeth drwy'r wythnos hon a'r wythnos nesaf hefyd. Ac mae'n werth nodi, fel y mae pethau ar hyn o bryd, fy mod yn ffyddiog y bydd saith o bob 10 o bobl dros 80 oed yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos hon wedi cael eu pigiad cyntaf, a bydd saith o bob 10 o breswylwyr a staff ein cartrefi gofal erbyn diwedd yr wythnos hon wedi cael eu pigiad cyntaf hefyd. Mae pethau'n cyflymu a phobl yn fwy ffyddiog, gan gynyddu diogelwch, yn union fel y gofynnodd yr Aelod amdano, yn union fel yr wyf fi a phob aelod o'r Llywodraeth hon eisiau ei weld, oherwydd rwy'n cydnabod pwysigrwydd hanfodol y rhaglen frechu hon. Ni fydd diffyg ymdrech na brys wrth wneud y peth priodol ar ein rhan i gadw Cymru'n ddiogel.

[Anghlywadwy.]—am yr ateb, a hefyd am rai o'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud eisoes. Ond y gwir amdani yw ein bod ni, o ran y gyfran o'r boblogaeth, 40,000 o bobl ar ei hôl hi o'i gymharu â Lloegr. Mae hynny'n cyfateb i dref o faint Caerffili yn cael ei brechu'n llwyr. Mae'r niferoedd hyn yn cynyddu wrth i'r dyddiau a'r wythnosau fynd heibio, oherwydd, bythefnos yn ôl, y bwlch hwnnw rhwng lle mae Lloegr a Chymru arni oedd 15,000 o ddinasyddion—y gwahaniaeth rhwng lle mae Lloegr a Chymru arni ar hyn o bryd. Felly, a wnewch chi ddweud wrthyf i pa mor ffyddiog ydych chi y byddwch mewn sefyllfa i gau'r bwlch hwnnw a sicrhau y caiff mwy o ddinasyddion Cymru eu brechu, er gwaethaf sylwadau'r Prif Weinidog ddoe wrth ddweud bod brechwyr yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'r galw am nad oedd ganddyn nhw ddigon o frechlynnau felly bod angen i ni ddogni'r brechlyn? Mae hynny yn wir, fel y dywedodd David Bailey, yn anfon neges ddryslyd,—David Bailey o Gymdeithas Feddygol Prydain—at bobl, lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru, sydd eisiau gweld y llwyddiant gwirioneddol hwn yn datblygu yma yng Nghymru, oherwydd dyma'r golau ym mhen draw'r twnnel yr ydym ni i gyd yn glynu wrtho. Ond yr hyn yr ydym ni yn ei weld wrth i bob diwrnod fynd heibio yw bwlch cynyddol yn ymagor rhwng ble mae rhannau eraill o'r DU arni o ran brechu a lle mae Cymru arni o ran brechu, strategaeth gyfathrebu wael gan Lywodraeth Cymru, gyda sylwadau'r Prif Weinidog ddoe yn nodweddiadol o hynny, a diffyg manylion o ran gallu deall sut yn union y mae'r rhaglen hon yn mynd rhagddi yn rhai o'n cymunedau sy'n agored i niwed.

Ddwywaith yr wythnos diwethaf gofynnais ichi, Gweinidog, a allech chi roi ffigur inni ar gyfer nifer y rhai dros 80 oed a frechwyd yma yng Nghymru, ac, ar y ddau achlysur, nid oeddech yn gallu darparu'r wybodaeth honno. Clywais yr hyn a ddywedsoch chi wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, pan ddywedsoch chi eich bod chi, ddiwedd yr wythnos, yn gobeithio y bydd saith o bob 10 o bobl dros 80 oed wedi cael eu brechu yma yng Nghymru gyda'u pigiad cyntaf. A allwch chi gadarnhau heddiw faint o bobl dros 80 oed, fel canran o'r boblogaeth, a fydd wedi cael eu brechu? Oherwydd dydd Sul fe allwn i ddweud, yn Lloegr, oherwydd ei fod ar draws y bwletinau newyddion, fod dros 50 y cant o bobl dros 80 oed wedi cael eu brechu. Rydym ni eisiau gweld y Llywodraeth yn llwyddo yn ei rhaglen frechu ledled Cymru, oherwydd os bydd y rhaglen hon yn llwyddo, mae Cymru'n llwyddo. Ond nid yw hi'n afresymol, pan glywch chi sylwadau fel rhai ddoe, i fod ag amheuon ynghylch effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ymgyrch y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi ar waith. Felly, pe gallech chi ymateb i'r sylwadau yr wyf i wedi'u cyflwyno i chi, byddwn yn ddiolchgar iawn. 

13:40

Diolch ichi am y sylwadau yna. O ran ein darpariaeth, byddwch wedi sylwi ein bod ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol o ran cynyddu nifer y canolfannau brechu torfol. Mae hynny'n golygu nawr y gallwn ni gynyddu'r modd y darperir brechlyn Pfizer. Dyna pam y gallwn ni ragweld yn ffyddiog y byddwn ni nid yn unig yn gallu darparu 60,000 dos i'n GIG, ond y byddan nhw wedyn yn gallu eu rhoi ym mreichiau pobl a'u diogelu. Rydym ni yn gwneud cynnydd. Mae'r cyflymder yn cynyddu o wythnos i wythnos ac mae'r ffigurau'n dangos hynny. A gobeithio bod yr Aelod yn ddiffuant yn ei sylwadau, oherwydd rydym ni i gyd eisiau i'r rhaglen hon lwyddo, a gobeithio, o'r pryderon y mae'n eu mynegi nawr ac, a bod yn deg, y mae wedi eu mynegi yn rheolaidd, y bydd wedyn yn rhoi rhywfaint o glod i'r Llywodraeth a'n gwasanaeth iechyd gwladol os byddwn, fel y disgwyliaf, yn cyflawni'r garreg filltir o fod wedi diogelu'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror, fel y bydd disgwyl i wledydd eraill y DU ei wneud hefyd.

O ran ein sefyllfa ni, nid wyf yn unig yn gobeithio y byddwn ni wedi brechu saith o bob 10 preswylydd ac aelod staff cartref gofal erbyn y penwythnos, nid wyf yn unig yn gobeithio y byddwn ni wedi brechu 70 y cant o'r rhai dros 80 oed erbyn diwedd y penwythnos, rwy'n disgwyl i ni wneud hynny. A gallaf ddweud mai fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw ein bod ni eisoes wedi llwyddo i wneud hynny ar gyfer y rhan fwyaf o'n poblogaeth dros 80 oed. Bydd gennyf i fwy o ffigurau ar gael yn ddiweddarach yr wythnos hon y byddwn yn hapus i'w darparu i Aelodau a'r cyhoedd i roi'r ffydd y mae'r Aelod yn dweud yr hoffai er mwyn deall ac i allu ei roi i'r cyhoedd yn ehangach. Mae hon yn rhaglen sy'n magu stêm. Rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd, ac rwyf yn sicr yn deall bod bob un ohonom ni eisiau gweld hyn yn mynd rhagddo ar fyrder, beth bynnag fo ein barn am wleidyddiaeth, darparu dyfodol gwahanol am weddill y flwyddyn hon, oherwydd mae'r rhaglen frechu yn amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed ac yn helpu i achub bywydau. 

Yn fyr iawn, fel y gwyddom ni i gyd, mae pobl yn pryderu am yr amser aros am y brechlyn. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo'n ddiamwys y caiff brechlynnau eu darparu cyn gynted â phosib?

Gwnaf. Caiff brechlynnau eu darparu cyn gynted â phosib a byddant yn parhau i gael eu darparu cyn gynted â phosib. Mae'n werth nodi, os oes unrhyw bobl bryderus dros 80 oed yn gwylio hyn, nid yn unig ein bod ni eisoes wedi brechu y rhan fwyaf o bobl dros 80 oed yma yng Nghymru, nid yw'n wir fod Lloegr wedi cwblhau eu rhaglen i bobl dros 80 oed. Mae bylchau o hyd a bydd pobl yn Lloegr yn aros am eu brechlynnau hefyd. Yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydym ni i gyd yn gweithio mor gyflym ag y gallwn ni yn y grwpiau blaenoriaeth hynny, ac ni fydd llaesu dwylo o ran Llywodraeth Cymru na'n staff diwyd yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, sydd, yn fy marn i, yn gwneud gwaith gwych ac yn glod i'n gwlad.

Gweinidog, er gwaethaf pa un a lithrodd y Prif Weinidog wrth siarad ar gyfweliad Radio 4 ai peidio, y gwir amdani yw mai Cymru yw'r wlad waethaf yn y DU o ran cyflwyno'r brechlyn. Rydym ni ymhell y tu ôl i Ogledd Iwerddon a Lloegr, ac os gall y genedl leiaf yn ein cenedl lwyddo i wneud hyn, pam na allwn ni? Mae'n hanfodol ein bod yn cyflymu'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn sylweddol pan ystyriwch fod gan Gymru un o'r cyfraddau marwolaethau mwyaf yn y byd. Rydym yn colli mwy o bobl y pen na hyd yn oed yr Unol Daleithiau, sydd wedi gwneud traed moch llwyr o'u hymateb i'r coronafeirws. Felly, yn wyneb y gyfradd farwolaeth enfawr hon, pam nad yw meddygon teulu yn fy rhanbarth i ond yn cael traean o'r cyflenwadau brechlynnau a addawyd iddyn nhw ac yn cael eu gorfodi i ganslo brechiadau ar y funud olaf? Gweinidog, pryd fydd Cymru'n cael trefn ar bethau, o ystyried ein bod ni wedi dangos yn glir mai brechu yw'r unig ffordd allan o'r pandemig hwn? Diolch.

I ddweud y gwir, nid ni yw'r genedl waethaf yn y DU. Rydym ni bellach wedi dal i fyny ac yn olrhain y cynnydd yn yr Alban, ac rwy'n disgwyl i ni fynd hyd yn oed yn gyflymach yn ystod gweddill yr wythnos hon, fel rwyf wedi dweud dro ar ôl tro nid yn unig y prynhawn yma, ond hefyd mewn datganiadau a chyfweliadau eraill yr wyf wedi'u rhoi dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Rydym ni yn cyflymu'r broses gyflwyno, ac, fel y dywedais, edrychwch ar y ffigurau, nid yn unig yn ystod yr wythnosau diwethaf lle rydym ni wedi gweld cynnydd o wythnos i wythnos yn y broses o'i gyflwyno, ond erbyn diwedd yr wythnos hon, pan welwch chi gynnydd pellach yn y cyflwyno yng Nghymru. Credaf fod staff y GIG yn haeddu canmoliaeth am y cynnydd hwnnw, a byddwch yn gweld mwy o hynny yn y dyfodol. 

O ran cymariaethau rhyngwladol, wrth gwrs, Cymru yw'r bumed wlad orau yn y byd ar hyn o bryd, ond rydym ni eisiau cymharu'n dda â phob rhan arall o'r DU. Dyna ymrwymiad ein staff. Dyna ymrwymiad y Llywodraeth hon. Caiff mwy o bobl eu hamddiffyn. Yr hyn sy'n ein llesteirio, fel mae pob Gweinidog iechyd arall wedi cydnabod wrth gael ei holi am hyn, yw'r cyflenwad. O ran y meddygfeydd hynny nad ydyn nhw wedi cael yr holl gyflenwad o AstraZeneca y bydden nhw wedi'i ddisgwyl, nid yw ond mater o'i gyflenwi iddyn nhw. Ond rwy'n ffyddiog y bydd y sicrwydd a gawsom ni ym mhob un o wledydd y DU ynghylch cynyddu'r cyflenwad brechlynnau yn cael ei fodloni, ac os byddan nhw, byddwn yn parhau i gynyddu ein darpariaeth. Mae hynny'n golygu bod mwy o bobl yn cael eu hamddiffyn yn gyflymach ym mhob cymuned ledled Cymru.

13:45

Mae fy mewnflwch ynglŷn â chyflwyno brechlynnau yn llawn negesau blin, ac mae ein staff gwych yn gweithio nerth eu deng ewin i ddarparu'r brechlyn. Nawr, rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r modd y bydd Llywodraeth y DU yn caffael brechlynnau amrywiol, fel y clywsom ni. A gaf i ofyn pa hyblygrwydd sydd yn y ddarpariaeth y cytunwyd arni o'r brechlyn Pfizer o'i gymharu â brechlyn Rhydychen-AstraZeneca? A oes hyblygrwydd i newid wrth i'r sefyllfa newid o bosib, neu wrth i'r heriau newid? A oes hyblygrwydd yn y cytundeb caffael? A yw Cymru'n cael ei chyfran deg o frechlyn Rhydychen-AZ, sy'n haws ei gyflwyno mewn meddygfeydd teulu a fferyllfeydd cymunedol ac ati?

Fy sylw olaf yw: gyda lefelau cylchredeg uchel o COVID yn dal i fodoli, er bod y cyfyngiadau symud yn gweithio a'r ffigurau'n gostwng, mae tebygolrwydd mawr o hyd y bydd mathau newydd o'r feirws yn datblygu, a dyna pam y mae'n rhaid i chi frechu fel mater o frys—hyd eithaf eich gallu. Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn ddewr wrth gyflwyno'r brechlyn gan fentro popeth a phwyso am fwy o frechlynnau os yw ein cyflenwad mewn peryg o ddarfod. Gweinidog, a fyddech yn cytuno, a hefyd a fyddech yn cytuno bod yn rhaid inni fod yn hyblyg? Os oes brechlyn ar gael yn unrhyw le, rhaid i ni geisio ei sicrhau. Ni ddylai unrhyw lyffetheiriau gweinyddol lesteirio'r rhaglen frechu frys hon.

Rwy'n fodlon cadarnhau nad wyf yn credu bod llyffetheiriau gweinyddol yn llesteirio'r rhaglen frechu yma yng Nghymru. Rwy'n deall rhwystredigaeth ein staff sydd eisiau bod allan yn brechu mwy. Rwy'n deall sefyllfa nid dim ond practis cyffredinol, ond fferylliaeth gymunedol hefyd. Wrth i gyflenwadau AstraZeneca gynyddu fel y disgwyliwn iddyn nhw—nid dim ond drwy sgyrsiau â Llywodraeth y DU y mae hynny, ond hefyd o drafod uniongyrchol rhwng Llywodraeth Cymru ac AstraZeneca eu hunain—rydym yn disgwyl cael llawer mwy o gyflenwadau'n raddol drwy weddill y gwanwyn. Mae hynny'n golygu y byddwn yn gallu cyflawni'n gyflymach fyth.

Rwyf wedi cael sgyrsiau uniongyrchol gyda Nadhim Zahawi, Gweinidog brechlynnau'r DU, am y cyflenwad i Gymru, oherwydd rhan o'm pryder am gyhoeddiad annisgwyl y Prif Weinidog ar y pedwar grŵp cyntaf yn cael eu datrys erbyn canol mis Chwefror oedd bod gennym ni, wrth gwrs, gyfran uwch fel poblogaeth o'r pedwar grŵp cyntaf hynny na Lloegr, ac mae angen i ni sicrhau na fyddwn yn cael ein dal yn ôl yn artiffisial gan ddiffyg cyflenwad drwy fynd ati mor gyflym â phosib. Yn y sgyrsiau hynny, cafwyd sicrwydd uniongyrchol y bydd gennym ni yr holl gyflenwad sydd ei angen arnom ni i allu cyflawni'r garreg filltir honno ar yr un pryd â chenhedloedd eraill y DU. Rydym yn derbyn o leiaf ein cyfran o'r boblogaeth, fel yr ydym ni wedi cytuno. Felly, ydym, rydym yn cael cyfran deg ac rydym yn gwneud defnydd da o'r gyfran deg honno o'r holl frechlynnau yr ydym yn eu derbyn.

Rwyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol ailadrodd y sylw yr ydych chi'n ei wneud, serch hynny, fod cyfyngiadau symud yn gweithio ar y telerau y cânt eu cyflwyno. Maen nhw'n helpu i arafu'r gyfradd drosglwyddo, i leihau faint o niwed sy'n cael ei achosi, i sicrhau nad yw ein GIG yn cael ei lethu, i ganiatáu inni gyfyngu ar y gyfradd drosglwyddo, i'w weld yn gostwng, ac i ganiatáu gwneud gwahanol ddewisiadau wrth i frechiad ddiogelu mwy o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Does dim llaesu dwylo gan y Llywodraeth hon, dim diffyg dealltwriaeth o'r angen am frys, cyflymder a darpariaeth, ac rwy'n falch iawn—fel yr wyf wedi dweud fwy nag unwaith—o'r gwaith y mae staff ein GIG yn ei wneud i amddiffyn cymaint o'n pobl sy'n agored i niwed cyn gynted â phosib ym mhob cymuned ledled Cymru.

13:50

Gweinidog, mae'r Prif Weinidog, o wneud y datganiadau a wnaeth ddoe, wedi achosi llawer o boen meddwl, pryder a gofid. Mewn gwirionedd, mae'n arwain pobl agored i niwed i gredu eu bod nhw mewn mwy o berygl o ddal y feirws erbyn hyn, a hynny ddim mwy nag yn Aberconwy.

A ydych chi'n cytuno â'r Prif Weinidog na ddylai'r holl frechlynnau Pfizer sydd ar gael fod ar gael cyn gynted â phosibl? Fe wnaethoch chi honni mai'r her oedd cael digon o seilwaith i ddarparu pigiad Pfizer heb ei wastraffu, ond sut gallwch chi sefyll wrth yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud pan mai dim ond tri diwrnod yr wythnos y mae lleoliadau i lawr y ffordd o ble'r wyf i yma yn Venue Cymru wedi bod yn gweithio, yn hytrach na'r chwe diwrnod a gytunwyd, gan nad ydyn nhw'n gallu cael digon o frechlynnau? Sut ydych chi'n ymateb i feddygon teulu sy'n gweithio yn fy etholaeth i sy'n gandryll gan fod rhai wedi cytuno i roi 100 dos y dydd am chwe diwrnod yr wythnos, ac eto yn ystod y pythefnos diwethaf, dim ond 100 yr wythnos y maen nhw wedi llwyddo i'w cwblhau? Mae hynny oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y cyflenwadau. Pam nad ydych chi'n gwrando ar y gweithwyr iechyd proffesiynol a'r holl staff iechyd hynny sy'n gweithio'n galed yn rhoi'r brechlynnau hyn? Fel y soniwyd, mae Dr David Bailey, cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru, yn gofyn i chi—a dyfynnaf—

roi'r gorau i eistedd ar gyflenwadau a bwrw ati.

Ac fel y dywedodd meddyg teulu wrthyf i ddoe, 'A wnewch chi ddweud wrth Mr Vaughan Gething oddi wrthyf i fy mod i eisiau cael y brechiadau hynny ym mreichiau ein pobl yma yn Aberconwy? Dydyn nhw'n dda i ddim yn eistedd ar silff a'r cwbl sy'n mynd i lwyddo os bydd hynny'n digwydd yw y bydd y feirws yn anoddach i'w drechu a bydd cleifion yn colli bywydau.' Ni all fod yn fwy difrifol na hynny, Gweinidog, felly gwrandewch ar yr hyn sy'n cael ei ddweud wrthych chi. Diolch, Llywydd.

Gyda phob parch, rwy'n credu y dylai'r Aelod wrando ar yr atebion sy'n cael eu rhoi am wybodaeth. O ran y cyflenwad Pfizer, rydym ni'n dosbarthu llawer mwy o gyflenwad Pfizer yr wythnos hon—bron i ddwbl yr hyn a aeth allan yr wythnos diwethaf—a bydd hynny yn gwneud yn siŵr bod y nifer gynyddol o ganolfannau brechu torfol—. Mae gennym ni 28 yn weithredol ar hyn o bryd ac roedd dros 90 y cant o'r rheini ar agor y penwythnos hwn. Rydym ni'n mynd i symud i fyny i hyd at 45 o ganolfannau brechu o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf. Felly, mewn gwirionedd, bydd hynny yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud defnydd da o'r cyflenwad brechu Pfizer sydd gennym ni ac dylem ni barhau i'w gael yn y dyfodol.

Rwy'n deall pryderon meddygon teulu, ac roedd hwn yn bwynt yr wyf i wedi rhoi sylw iddo mewn sawl cwestiwn arall, gan gynnwys cwestiwn Dr Lloyd yn union o flaen eich cwestiwn chi. Cyflenwad Rhydychen-AstraZeneca yw'r un yr ydym ni'n ei ddarparu i faes gofal sylfaenol. Rwy'n gwybod bod rhai pobl wedi teimlo'n rhwystredig nad ydyn nhw wedi cael cymaint â'r disgwyl, ond mater syml o gyflenwad i mewn i Gymru yw hynny. Wrth i ni weld cynnydd sylweddol yn digwydd yr wythnos hon, bydd y cyflenwadau hynny yn mynd allan yn gyflym iawn i feddygfeydd teulu; ni fyddan nhw'n eistedd ar silffoedd, ni fyddan nhw'n cael eu cadw yn rhywle i ffwrdd oddi wrth ymarferwyr sydd angen gallu eu rhoi nhw i amddiffyn ein dinasyddion. Dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud a dyna'r union beth y byddwch chi'n gweld ein GIG yn ei wneud.

Rwy'n gobeithio y bydd yr eglurder yn yr wybodaeth yr ydym ni'n ei darparu heddiw a'r eglurder yn y niferoedd y byddwch chi'n eu gweld yn cynyddu drwy weddill yr wythnos hon yn rhoi'r lefel o ffydd y mae'r Aelod yn honni ei bod hi eisiau ei chael yn y rhaglen hon a'r gwahaniaeth sylweddol y bydd yn ei wneud i bobl ym mhob un cymuned ar hyd a lled y wlad, wrth i'n GIG chwarae ei ran i helpu i gadw Cymru yn ddiogel.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Huw Irranca-Davies.

COVID-19 a Swyddi

1. Pa sylwadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch darparu cymorth ariannol ychwanegol i gynorthwyo swyddi y mae COVID-19 wedi cael effaith arnynt yng Nghymru? OQ56126

Rydym ni'n manteisio ar bob cyfle i gyflwyno sylwadau o'r fath. Cafodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru gyfarfod gyda Gweinidog busnesau bach y DU ddydd Iau ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddoe. Mae cyfarfod pedairochrog rhwng Llywodraethau'r DU yn cael ei gynnal yfory, pryd y bydd sylwadau pellach yn cael eu cyflwyno.

Prif Weinidog, rwy'n falch o glywed am amlder y cyfarfodydd hynny, oherwydd pan osodais i y cwestiwn hwn am y tro cyntaf, fy mwriad oedd gofyn i chi bwyso ar Lywodraeth y DU i roi mwy o gefnogaeth i'r hunangyflogedig ac eraill sy'n dal i fod y tu allan i'r cynlluniau cymorth swyddi sydd ar gael, ac i bwyso arnyn nhw i sicrhau y byddan nhw'n gwarchod, y gwnaethon nhw fethu yn gywilyddus â'i wneud mewn pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon, y cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol, sydd, fel y gwyddom, yn mynd i rai o'r teuluoedd sy'n gweithio tlotaf yng Nghymru. Ond ni wnes i ragweld, Prif Weinidog, y byddai'r Ceidwadwyr, yn ystod y penwythnos diwethaf, yn cyflwyno cynigion ar gyfer coelcerth o hawliau a thelerau ac amodau gweithwyr, fel bod Llywodraeth y DU, yn nannedd argyfwng ansicrwydd swyddi, sy'n llifo o adael yr UE a'r pandemig byd-eang, yn rhwygo ymaith amddiffyniadau y gweithiwyd yn galed i'w hennill i bobl gyffredin sy'n gweithio. Felly, Prif Weinidog, pan fyddwch chi'n cyfarfod â Boris Johnson nesaf, a wnewch chi ofyn iddo pam y dylai pobl sy'n gweithio yn Ogwr a Chymru fyth bleidleisio dros ei blaid, pan ei fod yn bwriadu gwneud iddyn nhw weithio yn hwy am lai o gyflog a chymryd eu hawliau cyflogaeth oddi arnyn nhw?

13:55

Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn atodol yna. Y tro nesaf y caf i gyfle i gyfarfod â Phrif Weinidog y DU, byddaf yn sicr yn rhannu'r pwyntiau hynny gydag ef. Mae gan bobl yng Nghymru hawl i wybod pam mae'r Llywodraeth hon yn cefnu mor gyflym ar addewidion a wnaed. Cawsom addewid y byddai hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni'n gweld pa mor ddi-sail oedd yr addewid hwnnw. Addawyd i ni na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r addewid hwnnw wedi cael ei rwygo'n ddarnau dro ar ôl tro yn ystod yr wythnosau diwethaf. Addewir i ni y byddwn ni'n cael amddiffyniadau y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn eu cael, ac eto pan wnaeth Llywodraeth y DU lawer iawn o stŵr dros y penwythnos am y cymorth yr oedd yn mynd i'w roi i feysydd awyr, ar ôl penderfynu na ellid cynnal coridorau teithio mwyach, daeth i'r amlwg er y bydd Bryste yn cael £8 miliwn, ni fydd Maes Awyr Caerdydd yn cael dim ganddyn nhw. Dro ar ôl tro, mae'r Llywodraeth hon yn gwireddu'r dywediad adnabyddus hwnnw, a adwaenir ym mhobman yng Nghymru, 'Allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid'.

Prif Weinidog, codwyd nifer o bryderon gyda mi gan y busnesau hynny yn y sector lletygarwch a thwristiaeth. Mae'n ymddangos mai'r broblem yw mai'r meini prawf ar gyfer y gronfa cadernid economaidd yw bod yn rhaid iddyn nhw gyflogi staff ar y system talu wrth ennill. Byddai llawer yn y diwydiant hwnnw, wrth gwrs, yn tynnu sylw at y ffaith mai dyna union natur y diwydiant, lle maen nhw'n cyflogi pobl ar sail hunangyflogedig, pa un a ydyn nhw'n lanhawyr neu ar sail fyrdymor. A allwch chi gytuno, Prif Weinidog, i edrych ar y mater penodol hwn o ran cylch nesaf y gronfa cadernid economaidd? Oherwydd mae'r sector lletygarwch a thwristiaeth angen cymorth brys, ac mae'r meini prawf hyn, a allai fod yn eu helpu drwy'r gronfa cadernid economaidd, yn eu hatal rhag gallu cael gafael ar y cymorth mewn gwirionedd.

Y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru sydd â'r pecyn cymorth mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig, ac mae miliynau ar filiynau o bunnoedd wedi cael eu talu i'r diwydiannau hynny a'r busnesau hynny er mwyn eu cynorthwyo drwy'r anawsterau enfawr y mae'r pandemig wedi eu creu iddyn nhw. Rwy'n hapus, wrth gwrs, i edrych ar y pwynt penodol y mae'r Aelod wedi ei godi. Rydym ni'n gobeithio, yma yng Nghymru, gallu cyhoeddi cymorth pellach i ddiwydiannau sy'n cael eu heffeithio gan sefyllfa bresennol y pandemig. Byddwn yn cael cymorth yn hynny o beth pan fydd yn eglur gan Lywodraeth y DU faint o arian sydd gennym ni er mwyn gallu gwneud y cyhoeddiadau pellach hynny. Bydd yr Aelod yn gwybod bod y Trysorlys wedi cyhoeddi ein bod ni'n cael £227 miliwn yn dod i Gymru o ganlyniad i gymorth pellach yn Lloegr, dim ond iddyn nhw dynnu'r cyhoeddiad hwnnw yn ôl y diwrnod canlynol a dweud wrthym ni fod yr arian gennym ni eisoes. Pan fydd gennym ni eglurder gwirioneddol, yna byddwn ni mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiadau pellach hynny yr ydym ni wedi ymrwymo iddyn nhw. Rwy'n hapus i ddweud y byddwn ni'n codi'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei godi yn y trafodaethau hynny.

Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi mai'r ffordd orau o sicrhau swyddi yn ystod y pandemig hwn yw sicrhau bod pob cyflogwr sy'n cael ei effeithio gan fesurau i leihau lledaeniad COVID-19 yn cael cymorth? Mae dau gwmni o'r fath sydd wedi cael eu heffeithio yn fy rhanbarth i wedi cysylltu â mi, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn gweithredu arcedau difyrion a gwrthodwyd cymorth i'r ddau ohonyn nhw gan eu bod nhw'n cael eu hystyried yn fusnesau gamblo. Prif Weinidog, mae'r rhain yn fusnesau cyfreithiol, cymerir eu trethi ac maen nhw'n dioddef yr un fath ag unrhyw fusnes hamdden arall, felly oni ddylen nhw gael yr un cymorth â busnesau hamdden eraill? Diolch.

Mae mwy nag £1.7 biliwn eisoes yng nghyfrifon busnesau yma yng Nghymru o ganlyniad i'r cymorth y maen nhw wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru. Mae mwy i'w hawlio o hyd ac mae mwy o gyhoeddiadau, fel y dywedais, i ddod, gyda chymorth pellach. Yn y pen draw, fel y bydd yr Aelodau yn deall, arian cyhoeddus yw hwn. Mae'n rhaid cael rheolau ynghylch sut y gellir gwneud hawliadau a phwy gaiff eu hawlio. Mater i fusnesau sy'n credu bod ganddyn nhw hawliad dilys ac sy'n gallu dod â'u hunain o fewn y rheolau hynny yw gwneud hynny. Ac ar yr amod eu bod yn gallu, yna bydd y taliadau hynny yn cael eu gwneud. Ond pan eich bod chi'n dosbarthu arian cyhoeddus ar y raddfa sydd wedi bod yn angenrheidiol yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, mae'n rhaid gwneud hynny ar y sail y gellir rhoi cyfrif priodol am yr arian hwnnw, a phan fydd taliadau yn cael eu gwneud, bod ffydd eu bod nhw'n cael eu gwneud i fusnesau cyfreithlon at ddibenion cyfreithlon, a dyna'r rheolau sydd gennym ni yma yng Nghymru.

14:00

Ni ofynnwyd cwestiwn 2 [OQ56158].

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Nid wyf i'n gallu gweld Neil Hamilton ar y sgrin o'm blaen, felly symudaf ymlaen at gwestiynau gan arweinyddion y pleidiau, a'r arweinydd cyntaf y prynhawn yma yw arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Tachwedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru chwe chyfarfod Cabinet, ac eto yn y cofnodion cyhoeddedig trafodwyd amrywiaeth o faterion, fel strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, y Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau a hyd yn oed ehangu swyddogaeth diffoddwyr tân. Fodd bynnag, nid oes yr un eitem ar frechlynnau na brechiadau wedi'i gyflwyno na'i godi i'w thrafod. O ystyried pwysigrwydd datblygu strategaeth frechu yn barod ar gyfer defnyddio brechlynnau, pam na wnaeth Llywodraeth Cymru hyd yn oed drafod y mater yn ystod mis Tachwedd i gyd? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pryd, fel Cabinet, y gwnaethoch chi drafod y defnydd o frechlynnau?

Llywydd, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gofnodi, o flaen y Senedd, yr hyn y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, eisoes wedi ei ddweud. Y brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon a'r brif flaenoriaeth i'r GIG yng Nghymru yw brechu cynifer o bobl yng Nghymru cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl, ac mae'r cynllun a gyflwynwyd gennym ni ar gyfer gwneud hynny yn cael ei gyflawni, ac rydym ni ar y trywydd iawn i wneud yr hyn yr ydym ni wedi addo i bobl Cymru y byddwn ni'n ei wneud. Nid yw'r ffaith nad yw'r Aelod yn darllen yn y cofnodion holl fanylion yr hyn a drafodir yn y Cabinet yn golygu, wrth gwrs, nad yw materion yn cael eu trafod. Trafodwyd brechu, a phob agwedd arall ar yr argyfwng coronafeirws, y tu mewn i Lywodraeth Cymru gydag uwch swyddogion a rhwng Gweinidogion drwy gydol mis Tachwedd i gyd, fel y'u trafodwyd ers cynnal cyfarfod cyntaf ein grŵp i gynllunio ar gyfer brechu ym mis Mehefin eleni.

Wel, rwy'n awgrymu i chi, Prif Weinidog, y dylai rhywbeth mor bwysig â chyflwyno'r brechiadau fod wedi cael ei drafod ar lefel y Cabinet ac y dylai fod wedi cael ei gofnodi, byddwn i wedi meddwl. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael misoedd i ddatblygu strategaeth sy'n sicrhau bod pobl mewn grwpiau blaenoriaeth ledled Cymru yn cael eu brechu. Ac yn hytrach, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw darpariaeth afreolaidd ac anghyson gyda gwahanol lefelau o gynnydd mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ac mae'n destun pryder mawr clywed eich bod chi'n amddiffyn eich polisi o wneud pethau yn araf i atal brechwyr rhag sefyll o gwmpas heb ddim i'w wneud pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn cyflymu'r broses o roi brechlynnau ledled Cymru yn sylweddol, ac mae'r pryderon hynny, wrth gwrs, wedi cael eu hadleisio gan BMA Cymru, sydd, fel yr ydym ni eisoes wedi clywed yn gynharach y prynhawn yma, wedi dweud y dylid rhoi'r gorau i gadw cyflenwadau yn ôl a bwrw ati. Nawr, tra bod rhannau eraill o'r DU wedi dechrau brechu pobl yn y categori dros 70 oed, yma yng Nghymru, mae pobl yn eu 80au a rhai hyd yn oed yn eu 90au yn fy etholaeth i yn dal i aros am eu brechlynnau. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu parhau â'i dull o wneud pethau yn araf drwy gydol y cyfnod brechu? Ac os felly, pa mor ffyddiog ydych chi y bydd pobl mewn grwpiau blaenoriaeth yn cael eu brechlyn cyntaf erbyn canol mis Chwefror?

Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw brechu cymaint o bobl â phosibl cyn gynted a phosibl yma yng Nghymru. Nid oes polisi arall. Dyma ein prif flaenoriaeth a dyma brif flaenoriaeth y bobl hynny sy'n gweithio'n galed iawn yn ein gwasanaeth iechyd sydd, ar ben popeth arall yr ydym ni'n ei ofyn ganddyn nhw, yn gweithio'r oriau maith hynny i wneud yn siŵr bod 1,000 o bobl mewn cartrefi gofal yn cael eu brechu bob dydd yma yng Nghymru, ac y bydd erbyn diwedd yr wythnos hon, 70 y cant, o leiaf, o bobl dros 80 oed a phobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal wedi cael eu brechu yng Nghymru. Pan siaradais yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, Llywydd, dywedais mai ein gobaith oedd y byddai gennym ni 100 o feddygfeydd teulu yn brechu erbyn diwedd yr wythnos diwethaf—rhagorwyd ar hynny; y byddai gennym ni 250 o feddygfeydd teulu erbyn diwedd y mis—byddwn yn rhagori ar hynny; y byddai gennym ni 35 o ganolfannau brechu torfol—bydd gennym ni 45. Nid yn unig y mae GIG Cymru yn gwneud popeth yr ydym ni wedi ei ofyn ganddo, mae'n gwneud hyd yn oed mwy bob dydd, ac mae hynny yn golygu y gallwn ni fod yn ffyddiog y byddwn ni'n darparu brechiad i'r pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf hynny, yn unol â'n cynllun, erbyn canol mis Chwefror. Mae hynny yn wir diolch i'r ymdrechion enfawr hynny, yr wyf i'n credu y bydd pawb yn y Senedd hon eisiau eu cefnogi.

14:05

Wel, Prif Weinidog, os mai eich polisi chi yw cael y brechlynnau i freichiau pobl cyn gynted â phosibl, pam ar y ddaear y dywedasoch chi eich bod chi eisiau cyflwyno'r brechlynnau dros gyfnod o amser? Oherwydd mae honno yn neges sy'n achosi dryswch. A, Llywydd, er efallai fod Llywodraeth Cymru yn hapus gyda'i dull o wneud pethau'n araf, mae pobl Cymru ymhell o fod yn hapus; maen nhw eisiau gweld gweithredu ac maen nhw eisiau ei weld nawr. Yn y cyfamser, mae pobl ledled Cymru yn cael eu dal yn garcharorion i'r feirws hwn. Ni chaiff pobl gyfarfod â'u hanwyliaid, mae plant yn gorfod bod heb ddysgu wyneb yn wyneb ac mae rhieni yn ei chael hi'n anodd rheoli'r gofynion sy'n cystadlu â'i gilydd o weithio gartref ac addysgu eu plant gartref. Y cwbl y mae cynnydd araf Llywodraeth Cymru o ran brechu pobl yn ei wneud yw cynyddu rhwystredigaeth a dicter pobl ar adeg pan ddylai Llywodraeth Cymru fod yn rhoi gobaith iddyn nhw a gwneud popeth posibl i hwyluso'r broses o ddarparu'r brechlyn.

Prif Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym ni pam mae Cymru wedi bod ar ei hôl hi o'i chymharu â gweddill y DU o ran cyflwyno'r brechlyn i'r rhai sydd ei angen fwyaf yma yng Nghymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu o ddifrif y broses o ddarparu brechlynnau i grwpiau blaenoriaeth yng Nghymru, fel y gall y rhai sydd ei angen fwyaf gael eu brechlyn cyn gynted â phosibl?

Wel, Llywydd, dywedodd llefarydd iechyd y Blaid Geidwadol yn gynharach y prynhawn yma ei fod eisiau gweld y rhaglen frechu yn llwyddo. Nid yw'n helpu i sicrhau ei bod yn llwyddo pan fydd arweinydd yr wrthblaid yn bychanu ymdrechion y bobl hynny sy'n gweithio mor galed i gyflymu'r brechlyn yma yng Nghymru, a hynny yn ymwybodol ac yn fwriadol, trwy ei ddisgrifio drwy'r amser fel polisi gwneud pethau'n araf.

Gadewch i mi ddweud eto, oherwydd dywedodd y gallai fod yn ddryslyd; ni fyddai angen iddo fod yn ddryslyd pe byddai wedi gwrando ar y ddau ateb cyntaf yr wyf i wedi eu rhoi iddo. Gadewch i mi roi'r ateb iddo unwaith eto ac yna ni fydd angen iddo fod yn ddryslyd eto yn y dyfodol: polisi Llywodraeth Cymru yw brechu cynifer o bobl yng Nghymru cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl. Dyna sut yr ydym ni wedi brechu 162,000 o bobl eisoes yma yng Nghymru. Dyna pam y bydd cyflymder y brechiad yn cyflymu unwaith eto yr wythnos hon. Y ffactor sy'n cyfyngu ar y gyfradd o ran brechu yng Nghymru yw'r un a esboniwyd gan y Gweinidog iechyd, wrth ateb y cwestiwn brys. Cyfradd cyflenwi'r brechlyn yw hwnnw. Rydym ni wedi cael 25,000 dos o frechlyn Rhydychen ar gael i ni dros bob un o'r ddwy wythnos ddiwethaf. Rydym ni'n disgwyl bod ag 80,000 dos ar gael i ni yr wythnos hon, a byddwn yn defnyddio pob un ohonyn nhw. A byddwn ni'n defnyddio pob diferyn o frechlyn Pfizer hefyd cyn i'r dosbarthiad nesaf o'r brechlyn hwnnw gyrraedd yma yng Nghymru. Dyna yw ein penderfyniad, dyna y mae pobl yn y GIG yn gweithio mor galed i'w gyflawni, a gwn yr hoffen nhw gael cefnogaeth arweinydd yr wrthblaid yn hytrach na'i feirniadaeth barhaus ohonyn nhw.

Prif Weinidog, os mai cyflenwad yw'r ffactor sy'n cyfyngu ar y gyfradd—ac mae'r Gweinidog iechyd newydd ddweud bod hynny yn wir ar draws yr holl wledydd—yr hyn y mae'n ei esbonio wedyn yw'r gyfradd wahaniaethol o frechu yng Nghymru o'i chymharu, fel yr ydym ni wedi ei glywed, â'r DU yn ei chyfanrwydd, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn arbennig. Os yw'r un gyfradd gyflenwi yn bodoli ar draws y gwledydd hyn, pam ydym ni felly yn gweld cyfradd wahaniaethol, bwlch rhwng y gyfradd frechu yng Nghymru? Nid ydym ni wir wedi clywed, yn fy marn i, ateb cydlynol, eglur i'r cwestiwn hwnnw. Felly, a allwch chi ei roi i ni nawr?

Wel, Llywydd, y ras yn erbyn y feirws yw'r ras yr ydym ni ynddi yng Nghymru. Mae'r ras rhwng heintiad a chwistrelliad; nid yw'n ras gyda gwledydd eraill. Rydym ni'n gwneud ein gorau glas i frechu cynifer o bobl mor gyflym ag y gallwn ni, gyda'r cyflenwad o frechlynnau sydd gennym ni, a dyna yr ydym ni'n canolbwyntio arno. Bydd y ffigurau rhwng gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig yn amrywio dros amser, fel y maen nhw o ran pob agwedd arall ar y coronafeirws. Y ffigurau sy'n bwysig i bobl yng Nghymru yw'r ffigurau brechu sy'n digwydd yma, a'n penderfyniad a'n ffydd yn y cynllun sydd gennym ni, sydd yr un cynllun ag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, yw cwblhau'r broses o frechu'r pedwar prif grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror. Rydym ni ar y trywydd iawn i wneud hynny, a dyna lle'r ydym ni'n canolbwyntio ein hymdrechion.

14:10

Prif Weinidog, nid ydych chi wedi rhoi sylw i fy nghwestiwn i, ac mae'n gwestiwn rhesymol i mi ei ofyn i chi, ac, yn wir, mae'n gwestiwn y mae fy rhieni oedrannus fy hun yn ei ofyn i mi, oherwydd maen nhw yn y sefyllfa—dydyn nhw ddim wedi cael dyddiad o gwbl; y ddau ohonyn nhw yn eu 80au. Mae gan fy nhad, cyn-löwr 85 oed, glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint; mae mewn grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol, ac eto nid yw wedi cael unrhyw gyfathrebiad hyd yma i esbonio iddo pryd y bydd yn cael brechiad. Mae gennym ni deulu, fel llawer o bobl yng Nghymru, ar draws gwahanol rannau o'r DU; mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu brechu, ac maen nhw wedi cael dyddiad ar gyfer brechiad. Felly, cwestiwn rhesymol i mi ei ofyn i chi unwaith eto, Prif Weinidog, yw: beth sy'n esbonio'r bwlch? Mae'n bwysig i ni wybod, oherwydd os oes problem yn y fan honno, yna gallwn ni ei datrys. A yw'n wir—? Clywsom y Gweinidog yn cyfeirio at y ffaith bod gan Gymru gyfrannau uwch o boblogaeth yn rhai o'r grwpiau blaenoriaeth—yn sicr. Mae gennym ni niferoedd uwch o bobl sy'n hŷn na 80 oed. Mae gennym ni gyfran sylweddol uwch o bobl sy'n hŷn na 65 oed. Felly, onid oes dadl dros ddychwelyd at y cwestiwn a ddylem ni fod yn cael cyfran sy'n fwy na'n poblogaeth oherwydd y lefel uwch hon o angen?

Wel, Llywydd, trafodais yr union fater hwnnw gyda Phrif Weinidogion yr Alban, Gogledd Iwerddon a chyda Michael Gove yn Swyddfa'r Cabinet yn ein cyfarfod ddydd Mercher yr wythnos diwethaf. Fe'i harchwiliwyd gennym gyda'r gwas sifil uchaf sy'n gyfrifol am sicrhau a dosbarthu cyflenwadau o frechlynnau ledled y Deyrnas Unedig. Cydnabuwyd y pwynt am ein strwythur oedran yn y sgwrs honno, ac mae camau yn cael eu cymryd i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn y cyflenwadau o frechlyn, a fydd yn cynyddu yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig gyfan.

Bydd ffigurau yr hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig a'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, fel y dywedais, yn newid o wythnos i wythnos. Yr hyn yr ydym ni'n canolbwyntio arno yw gwneud y defnydd cyflymaf a mwyaf effeithlon o bob diferyn o frechlyn sy'n dod yma i Gymru. Rydym ni wedi defnyddio'r brechlyn Rhydychen sydd wedi dod i ni dros y pythefnos diwethaf; byddwn ni'n defnyddio'r 80,000 dos sydd gennym ni yr wythnos hon, ac yn cyflymu niferoedd y tu hwnt i hynny. A byddwn ni'n defnyddio'r holl frechlyn Pfizer sydd gennym ni cyn i ni gael dosbarthiad arall ohono yma yng Nghymru. A'r ffigurau a fydd bwysicaf i bobl—ac rwy'n deall yn iawn fod pobl sy'n dal i aros i rywun gysylltu â nhw. Mae ein rhaglen yn nodi y byddem ni'n cynnig y brechlyn i bawb erbyn canol mis Chwefror; yn anochel, mae rhai pobl a fydd yn dal i aros. Rwy'n deall yn iawn y byddan nhw'n bryderus ac yn aros i rywun gysylltu â nhw. Y ffigurau a fydd bwysicaf iddyn nhw yw'r ffigurau ynghylch sut y mae'r brechlyn yn cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru, ac mae'r ffigurau a ddarparwyd y prynhawn yma, gan y Gweinidog iechyd a minnau, yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r hyn a addawyd gennym, yn unol â'r hyn sy'n digwydd ledled y Deyrnas Unedig.

Mae'n iawn, wrth gwrs, i ni beidio â bod yn blwyfol yn unig, os hoffech chi, a chymharu ein hunain gyda gwledydd eraill yn yr ynysoedd hyn, ond cymharu ein hunain â rhai o'r goreuon yn y byd. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, erbyn dydd Sul, bod Israel wedi brechu 20 y cant o'i phoblogaeth—rwy'n credu ei fod wedi cyrraedd 28 y cant erbyn hyn. Disgwylid yn wreiddiol y byddai eu rhaglen hwythau yn arafu hefyd wrth i ddosau Pfizer redeg yn isel, ond sicrhaodd Llywodraeth Israel ymrwymiad gan y cwmni i wneud danfoniadau cynharach ar y sail y bydden nhw'n rhannu data ystadegol, yn gyfnewid am roi astudiaeth achos i wyddonwyr i ddadansoddi effaith cyflwyniad y brechlyn. Mae hynny'n golygu eu bod nhw ar y trywydd iawn i frechu eu holl ddinasyddion dros 16 oed o fewn dau fis. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i gysylltu â Pfizer i archwilio llwybrau i Gymru ddod i gytundeb tebyg, neu os na ellir gwneud hynny, a wnewch chi gyflwyno sylwadau i Brif Weinidog y DU i ddilyn llwybr tebyg, fel y gallwn ni sicrhau mai'r cyfyngiadau symud hyn yr ydym ni'n mynd drwyddyn nhw nawr yw'r cyfyngiadau symud olaf?

Wel, Llywydd, fel yr esboniodd y Gweinidog iechyd, rydym ni mewn cysylltiad uniongyrchol â chyflenwyr y brechlyn, ond nid yw hynny'n ymwneud â'r contract sy'n cael ei gytuno a nhw—mae hynny'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU ar ran y pedair gwlad. Byddaf yn codi'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud yn fy nghyfarfod nesaf gyda Llywodraeth y DU yfory, ond mae'r trafodaethau y maen nhw'n eu cynnal ar ein rhan wedi llwyddo i sicrhau ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac felly ar gyfer Cymru, cyflenwadau o frechlyn sy'n golygu bod y Deyrnas Unedig, a Chymru fel rhan ohoni, fel y clywsoch y Gweinidog iechyd yn esbonio, ar flaen y gad o ran brechu ar lwyfan y byd. Daw'r ffydd sydd gennym ni yn y cyflenwadau hynny o'n gallu i gyfuno ein hanghenion a'n hadnoddau a chael y rheini wedi eu dosbarthu wedyn ledled y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n adlewyrchu ein poblogaeth a strwythur y boblogaeth honno.

14:15
Brechiadau COVID-19

3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu cyfradd brechiadau COVID-19 yng Nghymru? OQ56159

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran cyflwyno brechiadau COVID-19 yng ngogledd Cymru? OQ56127

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Gan fod meddygon teulu a fferyllfeydd erbyn hyn yn darparu brechiadau COVID yng Nghymru, byddwn yn cynyddu cyfraniad optometryddion a deintyddiaeth i ddarparu adnoddau a chapasiti ychwanegol wrth i nifer y brechlynnau sydd ar gael gynyddu.

Diolch. Prif Weinidog, rydych chi newydd fod â'r haerllugrwydd i ddweud yn gynharach yn y cwestiynau, 'Allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid', ac eto mae pobl Cymru wedi ymddiried ynoch chi i gyflwyno'r brechlyn yn gyflym i geisio achub bywydau pobl Cymru, ac rydych chi wedi eu siomi yn dra helaeth. Croesawaf sylwadau'r Gweinidog iechyd yn gynharach, ond, a dweud y gwir, mae eich sylwadau chi dros yr ychydig ddiwrnodau diwethaf i'r cyfryngau yn peri dryswch, ac rwy'n credu bod hwnna'n ddefnydd da o air gan y gymdeithas feddygol. Fel yn Lloegr, mae angen i'r system gyfan hon yng Nghymru fod yn fwy tryloyw. Rydym ni mewn sbrint i achub bywydau, felly beth yw'r broblem? Os nad ydych chi'n cadw'r brechlynnau yn ôl, Gweinidog, ai'r system yw'r broblem? Pam ydym ni gymaint ar ei hôl hi? Os cafodd pawb y brechlyn ym mis Rhagfyr, pam ydym ni mor wahanol? Pam ydym ni gymaint ar ei hôl hi? Yr esgus ychydig funudau yn ôl oedd bod danfoniadau yn broblem. Wel, beth ydych chi'n ei wneud i gynyddu'r danfoniadau, er mwyn cyflymu'r broses o ddarparu'r brechlyn? Mae pobl eisoes yn aros, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, i gyflawni ac i frechu pobl. Maen nhw eisiau brechu mwy o bobl, ac eto mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi mynegi pryder am y diffyg ymgysylltu y maen nhw wedi ei gael gan eich Llywodraeth i ehangu'r rhaglen cyflwyno brechlynnau. Beth sy'n digwydd, Gweinidog? Sut gallwch chi gyfiawnhau'r ffaith ein bod ni mor bell y tu ôl i bawb arall?

Wel, Llywydd, fel yr wyf i wedi esbonio ac fel y mae'r Gweinidog iechyd wedi esbonio, cyflwynwyd ein cynlluniau i frechu'r pedwar prif grŵp blaenoriaeth yma yng Nghymru ar amserlen gyffredin â gweddill y Deyrnas Unedig. Rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r addewid hwnnw. Byddwn yn brechu'r pedwar grŵp blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror. Mae llythyrau yn cael eu hanfon yng Nghymru yr wythnos hon at bobl dros 70 oed ac yn y grŵp a oedd yn gwarchod o'r blaen i wneud yn siŵr eu bod nhw'n barod i dderbyn y brechlyn, a fydd ar gael iddyn nhw ym mhob rhan o Gymru ar y cyflymder cynyddol y mae'r ffigurau ar gyfer y tair wythnos diwethaf yn parhau i'w ddangos. Mae'r holl gynlluniau hynny yno; yr hyn sydd ei angen arnom i wneud yn siŵr y gallwn ni eu darparu yw cyflenwad o frechlyn sy'n cyfateb i'n capasiti ar lawr gwlad i'w roi. Mae'r dulliau cyflawni yno ac yn barod, a byddan nhw'n cael eu hehangu yn y ffordd yr esboniais i i'r Aelod. Rydym ni angen y cyflenwad o frechlyn i gyd-fynd â hynny, ac yna byddwn ni'n gwneud yn siŵr, fel y nodwyd gennym yn ein cynllun, y bydd y pedwar prif grŵp blaenoriaeth hynny i gyd yn cael y brechlyn yn yr un modd ag ym mhobman arall erbyn canol mis Chwefror.

Cefais gais i grwpio cwestiynau 3 a 7, ac felly galwaf ar Darren Millar i ofyn ei gwestiwn atodol ar gwestiwn 7. Darren Millar.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, dim ond 17.3 y cant o'r stoc frechiadau a ddosbarthwyd gan Lywodraeth Cymru hyd at 8 Ionawr a gafodd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn ôl ateb ysgrifenedig gan eich Gweinidog iechyd eich hun, er bod ganddo dros 22 y cant o boblogaeth Cymru i ofalu amdano. A dim ond yr wythnos diwethaf, dywedwyd wrth feddygon teulu yn y gogledd a oedd yn rhan o'r rhaglen cyflwyno brechlynnau i ohirio apwyntiadau oherwydd oediadau wrth ddarparu stoc frechlynnau. Nawr, mae hyn yn ogystal â'r hyn sy'n ymddangos fel bod yn broses arafach o gyflwyno'r rhaglen frechu yn y gogledd. A allwch chi ddweud wrthym ni pam nad yw'r gogledd yn cael ei gyfran deg o stociau brechlynnau, neu'n sicr nid oedd tan 8 Ionawr, a hefyd pam na all meddygon teulu ddefnyddio brechlyn Pfizer-BioNTech, o gofio bod ganddo fywyd silff o bum diwrnod hyd yn oed ar ôl cael ei dynnu allan o storfa oer dwfn, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, dyna un o'r rhesymau pam nad yw'r cynnydd wedi bod yn gyflymach nag y mae ar hyn o bryd yn y gogledd?

14:20

Llywydd, mae'r Aelod yn hollol anghywir yn ei ddisgrifiad o'r sefyllfa yn y gogledd. Erbyn 8 a.m. ddoe, roedd 31,095 o ddinasyddion yn y gogledd wedi cael eu brechu, a dyna'r nifer uchaf o gryn dipyn o unrhyw fwrdd iechyd yn unman yng Nghymru. Felly, ymhell o gael eu dal yn ôl, mewn gwirionedd, mae gweithredoedd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn eu rhoi ar y blaen o ran brechu yma yng Nghymru. Ac mae hynny oherwydd yr ymateb anhygoel yr ydym ni wedi ei gael gan y gymuned meddygon teulu a'r gymuned fferylliaeth gymunedol yn y gogledd. Mae pob un o'r 98 practis gofal sylfaenol yn Betsi Cadwaladr wedi nodi eu bod nhw'n dymuno cymryd rhan a darparu brechlyn AstraZeneca.

Nawr, mae Darren Millar yn iawn ein bod ni wedi gobeithio cael 26,000 yn fwy o ddosau o frechlyn Rhydychen nag y byddwn ni'n eu derbyn yr wythnos hon. Ac mae hynny wedi golygu bod rhai cynlluniau a oedd yno yn y gogledd i gyflymu brechu ymhellach fyth wedi gorfod cael eu dal yn ôl. Y newyddion da yw bod Llywodraeth y DU yn ein sicrhau y byddwn ni'n cael y cyflenwad hwnnw yr wythnos nesaf, yn ogystal â'r hyn yr oeddem ni eisoes yn ei ddisgwyl yr wythnos nesaf. Felly, bydd hynny'n ostyngiad dros dro iawn i'r brechlyn y byddem ni'n ei ddisgwyl fel arall. 

Mae meddygon teulu yn eu meddygfeydd eu hunain mewn sefyllfa well o lawer i ddarparu brechlyn Rhydychen na'r brechlyn Pfizer, am resymau y bydd llawer o Aelodau yn ymwybodol ohonynt. Mae'n rhaid storio'r brechlyn Pfizer mewn amodau penodol iawn, nid yn unig o ran tymheredd ond o ran amodau eraill hefyd. Mae'n golygu bod brechlynnau Pfizer yn addas ar gyfer y canolfannau brechu torfol—mae tri ohonyn nhw yn y gogledd eisoes—ac ar gyfer y canolfannau brechu mewn ysbytai—tri o'r rheini yn y gogledd—a bydd y gymuned meddygon teulu yn canolbwyntio ar frechlyn AstraZeneca-Rhydychen. Llwyddiant y strategaeth honno yw sail y llwyddiant sylweddol iawn yr ydym ni'n ei weld yn y gogledd ac y gwn y bydd yr Aelod eisiau ei gydnabod a'i ddathlu.

Prif Weinidog, roeddwn i'n falch iawn o ymweld â'r ganolfan frechu torfol yn Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yr wythnos diwethaf a gweld drosof fy hun yr ymdrechion aruthrol sy'n cael eu gwneud i gyflwyno'r rhaglen frechu. A hoffwn fanteisio ar yr amser hwn heddiw i gofnodi fy niolch ac i dalu teyrnged i'r holl staff a'r holl wirfoddolwyr yn Betsi am eu gwaith caled.

Rydym ni wedi clywed newyddion pryderus y penwythnos hwn am yr oedi wrth gyflenwi brechlynnau. Prif Weinidog, a fydd y rhain yn effeithio ar darged uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gynnig brechlyn i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror? Ac a all y Prif Weinidog fy sicrhau i y bydd pob fferyllfa gymunedol sy'n mynegi diddordeb yn rhoi'r brechlyn ar draws y gogledd-ddwyrain ac, yn arbennig, yn sir y Fflint?

Wel, diolchaf i Jack Sargeant am y cwestiwn atodol yna, Llywydd, ac am yr hyn a ddywedodd am yr ymdrechion y mae wedi eu gweld ei hun ar lawr gwlad gan bobl sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddai eu contractau yn ei ddisgwyl, gan weithio fin nos, gweithio ar benwythnosau, gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl yma yng Nghymru. 

Mae'r problemau a adroddwyd gyda'r cyflenwad brechlynnau yn rhybudd i ni bod mannau gwan yn y gadwyn gyflenwi honno. Roeddem ni i fod i gael pedwar cyflenwad o frechlyn Rhydychen i Gymru yr wythnos hon. Nodwyd, yn hwyr iawn yn y broses, bod angen rhoi sylw pellach i un o'r cyflenwadau hynny ac felly na allai ein cyrraedd ni yr wythnos hon. Bydd yr Aelodau wedi darllen rhai o'r pryderon a fynegwyd mewn mannau eraill yn Ewrop am broblemau yn ffatri cwmni Pfizer yng Nghwlad Belg. Rwy'n credu bod Pfizer wedi cadarnhau ers hynny bod rhai problemau yn y ffatri honno ac y bydd hynny yn cael rhywfaint o effaith ar ei gallu i gynyddu cyflenwadau yn y ffordd yr oedd wedi ei rhagweld. Mae'r rhain yn broblemau, fodd bynnag, nad ydyn nhw'n effeithio ar Gymru yn unig. Maen nhw'n effeithio ar yr holl leoedd hynny sy'n dibynnu ar i'r brechlyn gyrraedd yn y modd y byddem ni i gyd yn ei ddymuno, ac nid yng Nghymru yn unig y teimlwyd effaith problemau brechlyn Rhydychen, fe'i teimlwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Rydym ni'n dal yn ffyddiog—i ymateb i bwynt Jack, rydym ni'n dal yn ffyddiog y byddwn ni'n cyflawni'r addewid a wnaed gennym, y bydd y pedwar prif grŵp blaenoriaeth hynny yn cael eu brechu erbyn canol mis Chwefror, ac ni fydd cyfraniad fferylliaeth gymunedol yn y fferyllfeydd eu hunain yn unig, ond yn cael ei wneud gan fferyllwyr cymunedol yn helpu mewn canolfannau brechu torfol, lle mae'r sgiliau a'r galluoedd y maen nhw wedi eu datblygu, drwy, er enghraifft, y rhaglen brechu rhag y ffliw, yn cael eu defnyddio yn dda iawn i wneud yn siŵr bod y brechlynnau hynny yn cael eu darparu cyn gynted â phosibl i bobl yma yng Nghymru. 

14:25

Rwyf i wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl sy'n bryderus oherwydd nad ydyn nhw'n teimlo bod y Llywodraeth wedi bod yn ddigon rhagweithiol o ran dweud wrthyn nhw pwy sy'n gymwys a phryd y byddan nhw'n cael yr wybodaeth honno drwodd. Rwyf i hyd yn oed wedi cael rhai sylwadau a rhai galwadau ffôn i'm swyddfa, wrth i ni fod yn siarad yma, gan bobl dros 80 oed yn dweud y bu'n rhaid iddyn nhw fynd ar drywydd apwyntiadau gyda'r meddyg teulu. Clywaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud—y byddan nhw'n cael gwybod ym mis Chwefror—ond rwy'n credu bod pobl angen cael gwybod yn gwbl eglur pryd yn union y byddan nhw'n cael yr wybodaeth honno i leddfu unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw. Rwyf i hefyd wedi bod yn pryderu am wraig a gysylltodd â mi yn fy rhanbarth sydd dros 80 oed, ond y dywedwyd wrthi am fynd i ganolfan dros 30 milltir i ffwrdd. Nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl. Beth allwch chi ei wneud i dawelu ei hofnau, y bydd hi'n cael cyfle arall i gael brechlyn mewn man agosach, fel y gall hi gael ei diogelu rhag y feirws mwyaf ofnadwy hwn?

Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna? Rwy'n credu bod pob bwrdd iechyd wedi ysgrifennu yn uniongyrchol at yr holl drigolion yn eu hardal yn nodi'r cynlluniau ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer darparu'r brechlyn, a chyhoeddwyd cynllun Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, dros wythnos yn ôl; rydym ni wedi trafod hynny yn helaeth yma y prynhawn yma. Ar y lefel leol iawn, lle mae meddygon teulu yn brechu, yna mae'n rhaid i'r wybodaeth ddod gan y feddygfa, oherwydd y ffordd y mae'n gallu trefnu i'r brechlyn gael ei ddarparu yn y ffordd gyflymaf bosibl. Bydd yr unigolyn y soniodd yr Aelod amdani y cynigiwyd brechlyn iddi 30 milltir i ffwrdd wedi cael ei gynnig gan mai dyna oedd y cyfle cyntaf posibl i gael brechlyn i'r unigolyn hwnnw. Ond, wrth gwrs, os ydych chi dros 80 oed, ni fydd teithio bob amser yn bosibl i chi, ac, o dan yr amgylchiadau hynny, bydd yr unigolyn hwnnw yn sicr yn cael cynnig gan ddarparwr llawer mwy lleol, boed hynny gan ei meddyg teulu neu mewn fferyllfa gymunedol. Ond bydd y cynnig wedi cael ei wneud oherwydd popeth yr ydym ni wedi ei glywed a'r bobl eraill y soniodd yr Aelod amdanyn nhw—pobl sydd eisiau gwybod, ac eisiau, wrth gwrs, cael y brechlyn cyn gynted a phosibl—a bydd y cynnig wedi ei wneud oherwydd mai dyna fyddai'r cyfle cyntaf posibl i ganiatáu i'r person hwnnw gael y brechlyn y bydd ei eisiau. Pan nad yw'n bosibl iddyn nhw fanteisio ar y cynnig hwnnw, yna bydd GIG Cymru yn gwneud gwahanol gynnig iddyn nhw, ac un y byddan nhw mewn sefyllfa i fanteisio arno.

Rwy'n ddiolchgar, Llywydd, a diolch am eich atebion ar hyn, Prif Weinidog. Ymwelais â'r ganolfan frechu torfol a agorodd yng Nglynebwy ddydd Iau diwethaf, ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn brofiad i ysbrydoli a chodi calon gweld brwdfrydedd y staff nyrsio, gweithwyr y gwasanaeth iechyd, yn gweithio ochr yn ochr â phersonél yr RAF a oedd yno yn rheoli'r broses—roedd yn rhywbeth a oedd yn wirioneddol galonogol ei weld, ynghyd â'r bobl, dros 80 mlwydd oed i raddau helaeth iawn, a oedd wedi cael eu brechu, a synnwyr o bwrpas y bobl hynny sy'n cerdded i mewn i'r swyddfeydd cyffredinol i gael eu brechu ac yna'n teimlo mor hyderus yn cerdded allan.

Ac a wyddoch chi, Prif Weinidog, mai'r hyn y mae pobl ym Mlaenau Gwent ei eisiau yw gweld gwleidyddion yn cydweithio i roi pobl yn gyntaf, ac nid chwarae gwleidyddiaeth gyda'u bywydau? Dyna beth mae pobl ei eisiau a dyna maen nhw'n ei ddweud wrthyf i, a'r hyn y maen nhw eisiau ei weld yw sut y gallwn ni ehangu a chyflymu'r rhaglen frechu, lle mae meddygon teulu a fferyllfeydd yn gallu darparu'r brechlyn yn eu cymunedau eu hunain yn agos at eu cartrefi. A allwch chi, y prynhawn yma, roi sicrwydd y bydd meddygon teulu a fferyllfeydd yn cael dosau o frechlyn, ac y byddan nhw'n gallu ategu canolfannau brechu torfol, i sicrhau bod y bobl yr ydym ni eisiau gofalu amdanyn nhw yn cael brechlyn ac yn gallu teimlo'n ddiogel?

14:30

Llywydd, diolchaf yn fawr iawn i Alun Davies am y cwestiwn atodol yna, ac rwy'n cytuno ag ef yn llwyr. Yr hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei ddisgwyl yw ymdrech tîm Cymru wirioneddol i gyflawni'r rhaglen frechu enfawr hon mor gyflym ac mor effeithiol ag y gallwn. Ac mae'n eich ysbrydoli pan fyddwch chi'n siarad ac yn clywed gan y staff rheng flaen hynny sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol ganddyn nhw i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn llwyddiant.

A gadewch i mi roi dim ond ychydig o ffigurau i'r Aelod i gynnig tystiolaeth o'r hyn a ofynnodd, oherwydd yng Ngwent, yr wythnos hon sydd newydd fod, roedd 14 o feddygfeydd teulu eisoes wedi dechrau clinigau yn defnyddio brechlyn Rhydychen. Erbyn diwedd yr wythnos hon, bydd 70 o'r 74 meddygfa yng Ngwent wedi cael brechlyn a byddan nhw'n rhoi brechiadau yn eu cymunedau lleol. Pedwar ar ddeg yr wythnos diwethaf, 70 yr wythnos hon, a 72 yr wythnos nesaf. Rwy'n credu bod hynny yn dangos ymrwymiad rhyfeddol ein meddygon teulu a'n cymuned gofal sylfaenol, pa mor gyflym y mae hynny yn cael ei roi ar waith yn lleol, ac rwy'n credu y bydd hynny yn cyfleu neges gryfach i bobl yng Nghymru sydd eisiau gweld hyn yn llwyddo nag unrhyw beth yr wyf i'n debygol o'i ddweud, ac yn sicr yn gryfach nag unrhyw un o'r rheini sy'n ceisio bychanu eu hymdrechion.

Prif Weinidog, rydych chi wedi sôn am yr angen i fynd yn araf o ran brechu pobl, ond nid yw'n ymddangos bod neb arall yn gallu deall hyn, gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain. Ac mae tri Gweinidog arall, yn hytrach nag esbonio'r meddylfryd sy'n sail i'r penderfyniad i wneud pethau yn araf, wedi dod allan a phenderfynu mai dyma sy'n digwydd. Mae Vaughan Gething, Kirsty Williams a Jeremy Miles i gyd yn dweud bod y brechlyn yn cael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl. Mewn geiriau eraill, maen nhw, bob un ohonynt, yn gwrthddweud yn llwyr eich polisi a ddatganwyd yn gyhoeddus. Tybed a allwch chi egluro pam mae hyn yn digwydd. Rydym ni'n deall erbyn hyn o'ch ymateb yn gynharach heddiw nad yw'r rhaglen frechu hyd yn oed wedi cael ei thrafod ar lefel y Cabinet. A yw eich Cabinet yn deall eich polisi ar frechu pobl Cymru? A oes unrhyw un yn ei ddeall?

Wel, Llywydd, byddai'n sicr yn gwella ansawdd y drafodaeth yma yn y Senedd pe byddai'r Aelod ddim ond yn gwrando ar yr hyn a ddywedwyd eisoes. Mae'r Cabinet yn trafod pob agwedd ar ein hymateb coronafeirws drwy gydol cyfnod y coronafeirws, gan gynnwys brechu. Gadewch i mi gyfleu'r pwynt hwnnw yn eglur iddo fel nad oes angen iddo wneud y camgymeriad hwnnw rhyw dro eto.

O ran cyflymder y cyflwyniad, gadewch i mi ei ddweud unwaith eto: polisi Llywodraeth Cymru yw darparu brechiadau mor gyflym ag y gallwn ni, i gynifer o bobl ag y gallwn ni, mor ddiogel ag y gallwn ni, ym mhob rhan o Gymru. Y tro nesaf y bydd yn dyfynnu ein polisi, edrychaf ymlaen at iddo ddyfynnu hynny oherwydd ei fod wedi ei glywed gennyf i, ac mae wedi ei glywed gennyf i dro ar ôl tro yn ystod y prynhawn. Nid oes esgus dros ddryswch yr Aelod mewn gwirionedd.

Ddoe, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin —. Mae'n ddrwg gen i, ydych chi'n gallu fy nghlywed i?

Iawn. Mae'n ddrwg gen i, roedd problem dechnegol yn y fan yna.

Ddoe, cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y bydd pob meddyg teulu yn fy etholaeth i yn cael y brechlyn heddiw ac yfory. Mae hynny i fyny o 13 yn ardal y bwrdd cyfan yr wythnos diwethaf. Mae'r ganolfan frechu yn Ystrad Mynach ar agor am gyfnod amhenodol i helpu i gyrraedd y pedwar targed blaenoriaeth erbyn canol mis Chwefror, a'r wythnos diwethaf, cafodd bron i 11,000 o bobl yn ein hardal ni eu brechu.

Codwyd rhai pryderon gyda mi gan drigolion sydd â pherthnasau yn Lloegr ynglŷn â'r hyn y maen nhw'n ei ystyried yn loteri cod post sy'n digwydd yno, ac mae er lles bob un ohonom ni i sicrhau bod y DU gyfan yn cael ei brechu cyn gynted â phosibl. Hoffwn gydnabod, ar ôl y diwrnodau diwethaf, y cynnydd sydd wedi ei wneud yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, ac a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod hynny felly, a'r cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghaerffili?

Llywydd, rwy'n llwyr gydnabod yr ymdrechion syfrdanol sydd wedi eu gwneud yn ardal Aneurin Bevan, gan staff y bwrdd iechyd a chan bobl sydd ar y rheng flaen. Mae hynny'n arbennig o glodwiw, Llywydd, rwy'n meddwl, o gofio mai dim ond wythnosau yn ôl yr oedd lefel y coronafeirws yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan ymhlith yr uchaf yng Nghymru gyfan, a bu'n rhaid i'r bwrdd iechyd ymdrin nid yn unig â brechu, ond â'r holl bobl hynny sydd wedi mynd yn sâl gyda'r feirws hwn, a'r galw y mae hynny wedi ei achosi ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau ysbyty, yn enwedig yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan. O heddiw ymlaen, Llywydd, rwy'n falch iawn o ddweud bod y niferoedd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan yn parhau i ostwng, oherwydd yr ymdrechion y mae trigolion, yn enwedig trigolion ardal Caerffili, fel yr ydym ni wedi ei drafod yma yn y Senedd yn y gorffennol, yr ymdrechion enfawr y maen nhw wedi eu gwneud yn ystod y cyfyngiadau symud i'n helpu i gael y niferoedd hynny i symud i'r cyfeiriad iawn. Mae'r bwrdd iechyd wedi manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ganddo erbyn hyn i roi ei gymuned gofal sylfaenol ar waith, i frechu yn y ffordd y mae'r Aelod eisoes wedi ei ddisgrifio, ac ar y raddfa a fydd yn amlwg yn ardal Aneurin Bevan dros yr wythnos nesaf.

Nawr, ailadroddaf yr hyn a ddywedais yn gynharach, Llywydd: rwy'n canolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd yma yng Nghymru, rwy'n cyflawni'r addewid a wnaed gennym ni. Ond, ym mhob man yn y Deyrnas Unedig, byddwch yn canfod pobl yn codi pryderon bod pobl sy'n iau na nhw eu hunain wedi cael cynnig brechiad tra eu bod hwy eu hunain yn dal i aros amdano. Byddwch wedi gweld yr hyn y mae Thérèse Coffey, Gweinidog y Cabinet yn Llundain, wedi ei ddweud ddoe nad yw'r rhan o Loegr y mae hi'n ei chynrychioli wedi cael cyfran deg o'r brechlyn sydd ar gael yn Lloegr. Mae pob cymuned yn awyddus i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael popeth y gellir ei wneud. Mae hynny'n wir yma yng Nghymru, a gall pobl yn ardal Aneurin Bevan fod yn falch dros ben o bopeth y mae eu gwasanaeth iechyd yn ei wneud ar eu rhan.

14:35
COVID-19 yn Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

4. Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o COVID-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ56155

Llywydd, rydym ni'n parhau i weld tueddiad o gyfraddau mynychder a chyfraddau profion positif yn gostwng ar draws pob ardal awdurdod lleol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Fodd bynnag, mae'r niferoedd yn dal i fod yn uchel ac mae capasiti ein GIG yn dal i fod o dan bwysau mawr. Mae'n rhaid i'r holl ymdrechion barhau i ostwng y cyfraddau hynny ymhellach.

Prif Weinidog, mae'r rhaglen frechu yn hanfodol i achub bywydau, i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd gwladol, gyda'r holl fanteision sy'n dod yn sgil hynny i wasanaethau iechyd COVID-19 a gwasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai COVID-19, ac o ran caniatáu i gyfyngiadau gael eu lleddfu er mwyn gweld dychweliad gweithgarwch economaidd, ein hysgolion a byw yn fwy normal. Yn ddealladwy, mae disgwyliadau o gyflwyniad y rhaglen yn uchel iawn, ac mae fy etholwyr eisiau gweld pob ymdrech yn cael ei gwneud i frechu cynifer o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl. Gwn, Prif Weinidog, o'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud heddiw ac yn y gorffennol, eich bod chi wedi ymrwymo yn llwyr i hyn, ac felly hefyd Llywodraeth Cymru yn gyfunol, ac wrth gwrs, felly hefyd ein GIG. Prif Weinidog, a wnewch chi roi sicrwydd i'm hetholwyr sydd wedi cysylltu â mi yma yn Nwyrain Casnewydd y bydd brechu yn mynd rhagddo gyda'r brys mwyaf, gyda'r 4 grŵp blaenoriaeth uchaf yn cael cynnig brechlyn erbyn canol mis Chwefror, a'r grwpiau eraill yn dilyn cyn gynted â phosibl, i'n cael ni allan o'r argyfwng ofnadwy hwn yn yr amser byrraf posibl?

Llywydd, ni allaf wneud dim gwell nag adleisio yn union yr hyn a ddywedodd John Griffiths yn ei gwestiwn atodol. Polisi Llywodraeth Cymru yw brechu cymaint o bobl â phosibl, cyn gynted â phosibl. Ac mae'r ymdrechion yr ydym ni eisoes wedi eu trafod yma y prynhawn yma ymhlith staff gofal iechyd yng Ngwent yn dangos yr ymrwymiad sydd ganddyn nhw i'r union bolisi hwnnw. Nawr, rwyf i eisoes wedi nodi, Llywydd, y cynnydd cyflym iawn i nifer y meddygfeydd teulu yn etholaeth yr Aelod a fydd yn darparu'r brechlyn yr wythnos hon. Ond mae hynny yn ogystal â'r pedair canolfan frechu torfol sy'n gweithredu yn ardal Gwent ar hyn o bryd, ac, fel y gwn y bydd John Griffiths yn ymwybodol, agorodd canolfan frechu torfol fawr yng Nghasnewydd ddoe, yn gynharach na'r disgwyl, ac mae hynny yn nodweddiadol o'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru.

Fel y dywedais mewn ateb cynharach, Llywydd, pan roeddwn i yma yr wythnos diwethaf, roeddwn i'n cyflwyno ein huchelgeisiau ar gyfer canolfannau brechu torfol, meddygfeydd teulu, ac rydym ni'n rhagori ar yr uchelgeisiau hynny, fel yr ydym ni yn ei wneud yng Nghasnewydd, oherwydd yr holl ymdrechion sy'n cael eu gwneud. Ac, oherwydd hynny, gall y boblogaeth leol yn etholaeth yr Aelod fod yn ffyddiog y bydd y cynlluniau yr ydym ni'n eu cyflwyno yn cael eu cyflawni, y byddan nhw'n cael eu cyflawni ar frys a chyda phenderfyniad, a phan fyddwn ni'n cwblhau'r pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf, y bydd yr ymdrechion hynny yn parhau ac yn ehangu ymhellach wrth i ni yrru ein ffordd i lawr y naw prif grŵp blaenoriaeth ac yna symud ymlaen i weddill y boblogaeth.

14:40
Y Dreth Gyngor

5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynnydd yn y dreth gyngor ar gyllid pobl yn Nwyrain De Cymru sy'n wynebu anawsterau ariannol? OQ56164

Llywydd, gan gydnabod yr anawsterau ariannol sy'n wynebu unigolion a gwasanaethau cyhoeddus, mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn darparu cynnydd o 3.8 y cant mewn cyllid refeniw i awdurdodau lleol, ar adeg pan fo chwyddiant yn codi ar lefel o 0.6 y cant, a phan fydd ein cyllideb ein hunain yn 2021-22 yn fwy na 3 y cant yn is mewn termau real nag yr oedd ddegawd yn ôl.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna ac am y pwyntiau yna. Fodd bynnag, mae llawer o deuluoedd ac unigolion yn fy rhanbarth i wedi wynebu caledi ariannol gwirioneddol er nad ydyn nhw'n gymwys i gael cymorth gyda'r dreth gyngor yn y modd y mae ar gael. Canfu adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan fod incwm bron i chwarter aelwydydd wedi gostwng ers dechrau'r pandemig, ac ar yr un pryd mae eu costau byw wedi cynyddu. Canfu y bu'n rhaid i un o bob pum aelwyd gydag incwm o lai nag £20,000 y flwyddyn wneud toriadau o ran bwyd, gwres, trydan a dŵr. Rydym ni'n gwybod mai'r dreth gyngor yw'r dreth fwyaf atchweliadol sydd gennym ni, oherwydd ei bod yn rhoi'r baich mwyaf ar aelwydydd incwm isel ac rydym ni wedi cael cadarnhad bod cynghorau, gan gynnwys un yn fy rhanbarth i, yng Nghaerffili, yn bwriadu codi'r dreth gyngor gan 4 y cant. Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur yn Lloegr, Keir Starmer, ei bod hi'n hurt disgwyl i deuluoedd sydd o dan bwysau dalu mwy a galwodd ar Lywodraeth y DU i dalu am y cynnydd arfaethedig yn Lloegr. A fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny yng Nghymru?

Wel, Llywydd, os bydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid i ganiatáu i hynny ddigwydd, yna byddwn ni'n cael, rydym ni'n tybio—er bod honno'n dybiaeth sy'n dod yn fwy amheus y dyddiau hyn—swm canlyniadol Barnett o'r penderfyniad hwnnw a byddai hwnnw yn caniatáu i ni wneud mwy i helpu teuluoedd yma yng Nghymru. Bydd yr Aelod yn gwybod, yn wahanol i Loegr, bod ein system budd-dal y dreth gyngor yn gweithredu ledled Cymru gyfan, bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £22 miliwn yn ychwanegol at yr arian a ddaeth gan Lywodraeth y DU pan ddatganolwyd y budd-dal hwnnw i ni, a bod cannoedd o filoedd o aelwydydd yng Nghymru yn elwa ar y ddarpariaeth honno. Oherwydd ymgyrch hyrwyddo a gynhaliodd Llywodraeth Cymru gydag awdurdodau lleol yn gynharach y llynedd, rydym ni wedi cael 10,000 yn fwy o aelwydydd ychwanegol yn gwneud cais ers diwedd mis Mawrth i elwa ar fudd-dal y dreth gyngor, ac mae hynny oherwydd y pwysau ar incwm aelwydydd y mae'r Aelod yn ei nodi yn gwbl briodol.

Rydym ni'n manteision ar bob cyfle sydd gennym ni i ddarparu gwasanaethau a chymorth ariannol sy'n gadael arian ym mhocedi teuluoedd a fyddai fel arall yn gorfod talu am bethau eu hunain. Pan ddaw mwy o gymorth gan Lywodraeth y DU, byddwn yn defnyddio hwnnw i helpu'r teuluoedd hynny ymhellach. Yn y cyfamser, dychwelaf at bwynt a wnaeth Huw Irranca-Davies, Llywydd, yn y cwestiwn cyntaf un y prynhawn yma, mai'r cymorth mwyaf y gall Llywodraeth y DU ei ddarparu, a'r cymorth mwyaf brys y mae angen iddi ei ddarparu, yw sicrhau bod yr £20 yr wythnos y mae'r teuluoedd tlotaf yn y wlad yn ei gael nawr pan fyddan nhw'n derbyn credyd cynhwysol yn parhau y tu hwnt i 31 Mawrth eleni. Heb hwnnw, bydd y teuluoedd sydd o dan bwysau y mae Delyth Jewell wedi cyfeirio atyn nhw £1,000 y flwyddyn yn waeth eu byd, ac nid oes yr un teulu yng Nghymru sy'n byw ar y mathau hynny o incwm a all fforddio ar unrhyw gyfrif bod yn y sefyllfa honno.

14:45
Tlodi Plant

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y tlodi plant yn Llanelli? OQ56147

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Rhagwelir y bydd y pandemig yn cynyddu tlodi plant yn Llanelli a ledled Cymru. Byddai'r effaith honno yn cael ei gwaethygu drwy ddiddymu'r cynllun cadw swyddi yn gynamserol ac unrhyw wrthodiad i gynnal y cynnydd wythnosol o £20 i gredyd cynhwysol y tu hwnt i ddiwedd mis Mawrth.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mewn ateb cynharach, dywedodd wrthym, ac ni fyddwn i'n anghytuno, na allwn ni ymddiried yn y Torïaid, a phan ddaw'n fater o ddarparu cymorth i'n teuluoedd tlotaf a'n plant tlotaf, nid wyf innau'n credu y gallwn ni ymddiried ynddyn nhw ychwaith. Mae'r Prif Weinidog yn cyfeirio at y bygythiad o dynnu'r cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol yn ôl, ond o gofio'r hyn a ddywedodd wrthym ni am beidio ag ymddiried yn y Torïaid, a gaf i ofyn iddo unwaith eto ailystyried ei benderfyniad i beidio â cheisio datganoli budd-daliadau, fel yr argymhellwyd gan un o bwyllgorau'r Senedd hon a chan waith ymchwil a melinau trafod annibynnol, oherwydd byddai hynny yn ein galluogi, er gwaethaf yr heriau ariannol, i ddatblygu system ein hunain a fyddai'n decach o ran cynorthwyo teuluoedd yn y sefyllfaoedd hyn? Yn y cyfamser, yn dilyn y trafodaethau a gawsom yr wythnos diwethaf, a wnaiff ef ystyried ymarferoldeb ymestyn prydau ysgol am ddim i'r holl blant hynny y mae eu teuluoedd yn derbyn credyd cynhwysol? Os na allwn ni ddatganoli prif ran y system fudd-daliadau, onid yw'n bryd i'w Lywodraeth ef gynorthwyo'r teuluoedd hynny mewn ffyrdd sydd o fewn cymhwysedd presennol y Senedd hon?

Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiynau ychwanegol hynny. Rwy'n cael fy mherswadio gan lawer o'r hyn a ddywedwyd yn yr adroddiad a ddarparwyd gan bwyllgor y Senedd o dan gadeiryddiaeth John Griffiths ynghylch archwilio datganoli'r gwaith o weinyddu agweddau ar y system fudd-daliadau. Roedd yn adroddiad defnyddiol iawn, ac mae'n helpu i lywio meddylfryd Llywodraeth Cymru, ac rwy'n hapus iawn i barhau i archwilio hynny gydag Aelodau sydd o'r un farn.

O ran y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am brydau ysgol am ddim, bydd y newidiadau yr ydym ni wedi eu gwneud i'r hawl i gael prydau ysgol am ddim yn ystod y tymor hwn yn ymestyn cymhwysedd i filoedd yn fwy o blant dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. Polisi Plaid Cymru yw darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn teulu lle mae credyd cynhwysol yn cael ei hawlio. Esboniais i'r Aelod yr wythnos diwethaf, os oes gan y teuluoedd hynny ddau blentyn fesul teulu, bod hynny yn gost o £67 miliwn y flwyddyn, a byddai hynny yn codi i dros £100 miliwn y flwyddyn. Darparwyd y costau eraill hynny i mi gan swyddogion yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ein helpu i weinyddu'r cymorth yr ydym ni'n ei ddarparu ar hyn o bryd i deuluoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim. Mae'r rheini yn ddewisiadau y gall Llywodraethau eu gwneud.

Ond gofynnodd y holwr diwethaf, Llywydd, i mi ddod o hyd i arian Llywodraeth Cymru i helpu teuluoedd sydd mewn trafferthion oherwydd y dreth gyngor. Mae gan Blaid Cymru bolisi o ddarparu £35 yr wythnos i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim, unwaith eto am gost o filiynau lawer o bunnoedd. Mae ganddi bolisi o ddarparu gofal plant am ddim o 12 mis oed, am gost o £950 miliwn. Mae ganddi bolisi o ofal cymdeithasol am ddim i bawb yng Nghymru. Pan fo pleidiau yn cynnig polisïau, mae'n rhaid iddyn nhw allu egluro yn gredadwy i bobl nid pam mae rhywbeth yn ddymunol, ond pam y gellir ei gyflawni hefyd gyda'r adnoddau sydd gan Lywodraeth Cymru, ac mae arnaf i ofn pan fyddwch chi'n dechrau adio'r rhestr faith honno o bethau dymunol, rwy'n credu bod llawer iawn o farciau cwestiwn yn dechrau dod i'r amlwg ynglŷn â'r gallu i'w cyflawni.

Datblygiadau Cyfansoddiadol

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru? OQ56160

Llywydd, nodais ein cynigion ar gyfer trefniadau cyfansoddiadol Cymru yn y papur 'Diwygio ein Undeb' a gyhoeddwyd ddiwedd y llynedd. Rydym ni wedi bod yn eglur mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru yw drwy setliad datganoli grymus a sefydledig, o fewn Teyrnas Unedig lwyddiannus.

14:50

Mae'n ddogfen ddiddorol iawn, ond, Prif Weinidog, rydym ni'n gweld ar hyn o bryd effaith datganoli brechiadau. Sut byddai pethau pe byddech chi, fel yr ydych chi eisiau, hefyd yn cael eich dwylo ar gyfiawnder neu'n gallu benthyg arian heb unrhyw ataliad? Pan fydd datganoli yn broses nad yw ond byth yn symud i un cyfeiriad—tuag at annibyniaeth—sut gall pobl ddod yn gyfforddus gydag ef? Os nad oes setliad datganoli, os nad yw'n sefydlog, oni fydd yn rhaid i ni ddewis yn hwyr neu'n hwyrach rhwng diddymu'r lle hwn neu gerdded yn ein cwsg i annibyniaeth?

Llywydd, gan Aelod sydd, rwy'n credu, yn y bumed blaid wleidyddol y mae wedi ymuno â hi ers yr etholiad diwethaf erbyn hyn, mae pregethau ar sefydlogrwydd yn ymddangos braidd yn annhebygol. Y ffordd i drafod dyfodol cyfansoddiadol Cymru yw gwneud gwahanol gynigion, eu cyflwyno i'r cyhoedd, gwneud dadleuon o'u plaid. Bydd Plaid Lafur Cymru a'r Llywodraeth yr wyf i'n ei chynrychioli yn parhau i ddadlau mai'r ffordd orau o sicrhau dyfodol cyfansoddiadol Cymru yw drwy ffurf ar ffederaliaeth radical, lle y cydnabyddir dosbarthiad sofraniaeth i bedair gwahanol Senedd, a etholir yn uniongyrchol yn y Deyrnas Unedig, ond lle'r ydym ni'n dewis cyfuno'r sofraniaeth honno er mwyn sicrhau nodau cyffredin yn fwy effeithiol—setliad datganoli sefydledig ar gyfer Teyrnas Unedig lwyddiannus.

Dyna'r tir y mae Plaid Lafur Cymru yn ei feddiannu, nid cenedlaetholdeb Seisnig gynyddol y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru, a'r ymgeiswyr hynny y mae'n ymddangos eu bod hi'n barod i'w dewis ar y sail y byddan nhw, i ddyfynnu un ohonyn nhw, yn 'defnyddio gordd ar y Senedd', ac yn dod yma i ymgyrchu dros ddinistrio datganoli. Mae'n ymddangos mai dyna safbwynt y Blaid Geidwadol fodern yng Nghymru, ond ni fyddwn ychwaith yn cefnogi'r syniad o annibyniaeth—syniad o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar gyfer problem yr unfed ganrif ar hugain. Y dyfodol gwirioneddol, y dyfodol cyfansoddiadol y mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru eisiau ei weld yw datganoli priodol, grymus, sefydledig gyda'r manteision y mae aelodaeth barhaus o'r Deyrnas Unedig yn eu cynnig i Gymru.

Rhaglen Erasmus

9. Beth yw'r goblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ganslo cyfranogiad y DU yn rhaglen Erasmus Ewrop? OQ56157

Llywydd, mae penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chymryd rhan yn Erasmus+ yn golygu bod manteision rhaglen werthfawr iawn yn cael eu gwrthod i'n pobl ifanc. Am y tro cyntaf eleni, ni fydd sefydliadau yng Nghymru yn gallu gwneud ceisiadau newydd i Erasmus+ mwyach, mewn gweithred o fandaliaeth ddiwylliannol.

Diolch, Prif Weinidog. Byddwn i'n cytuno â chi—mae wir yn weithred o fandaliaeth ddiwylliannol. Un o'r agweddau mwyaf siomedig ar benderfyniad Llywodraeth y DU i droi ei chefn ar Ewrop a'r cyfleoedd yr oedd Erasmus yn eu cynnig i bobl ifanc, yn enwedig y rhai o deuluoedd difreintiedig, yw mai fy nealltwriaeth i yw nad yw'r cynllun Turing, y maen nhw'n gobeithio ei ddisodli gydag ef, yn caniatáu i wasanaethau ieuenctid enwebu pobl nad ydyn nhw efallai yn dilyn y llwybr academaidd yn eu llwybr gyrfaol yn y dyfodol, ond mae'r rhai sydd angen gwneud hynny, serch hynny, yn ehangu eu gorwelion, yn deall beth yw'r newyddbethau sydd eisoes yn bodoli yn Ewrop ac a allai fod yn cryfhau eu gallu i redeg busnesau llwyddiannus yma yng Nghymru. Felly, pa ddewisiadau sydd ar gael erbyn hyn i bobl ifanc ymgysylltu â'u cyfrifoldebau byd-eang mewn ffordd wybodus?

Llywydd, rwy'n credu ei fod yn gwestiwn da iawn gan Jenny Rathbone. Gadewch i mi ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y fan yma unwaith o'r blaen, Llywydd. Cynllun Seisnig sy'n cael ei orfodi ar weddill y Deyrnas Unedig yw cynllun Turing. Mae'n enghraifft gynnar o'r ffordd y mae'r Blaid Geidwadol yn bwriadu defnyddio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, oherwydd yn hytrach na darparu arian i Gymru i ni gyflawni ein cyfrifoldebau datganoledig dros addysg uwch ac addysg bellach a'r gwasanaeth ieuenctid, bydd hwn yn gynllun sy'n cael ei orfodi arnom ni, wedi'i ariannu yn uniongyrchol o Whitehall heb unrhyw gyfeiriad o gwbl at anghenion, amgylchiadau a dewisiadau democrataidd penodol pobl yma yng Nghymru. Mae Jenny Rathbone yn llygad ei lle—rydym ni wedi gwneud mwy o ddefnydd o'r rhaglen Erasmus ar gyfer pobl ifanc drwy'r gwasanaeth ieuenctid nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Mae wedi bod yn nodwedd arbennig i Gymru o'r defnydd yr ydym ni wedi ei wneud ohono, ac mae hynny yn mynd i gael ei wrthod i ni erbyn hyn. Mae hynny yn rhan o warth methiant Llywodraeth y DU i gytuno ar gyfranogiad priodol yn y cynllun, ac yna dwysáu hynny drwy orfodi cynllun arnom ni nad yw'n diwallu anghenion a dewisiadau pobl yma yng Nghymru.

Bydd yn rhaid i ni ddatblygu nawr, i ateb rhan olaf cwestiwn yr Aelod, y cynlluniau hynny sydd gennym ni ar waith yng Nghymru eisoes: rhaglen Seren, sy'n anfon pobl ifanc i Yale, Harvard, Chicago a Sefydliad Technoleg Massachusetts; yr ysgoloriaethau yr ydym ni'n eu hyrwyddo drwy Cymru Fyd-eang; labordai addysgu byd-eang MIT, ble cymerodd 25,000 o ddysgwyr yng Nghymru ran yn 2020. Llywydd, pan gyfarfûm â llysgennad yr Almaen wythnos yn ôl, cyflwynodd yn gadarnhaol iawn i mi y rhagolygon ar gyfer trefniadau dwyochrog rhwng pobl ifanc yng Nghymru a phobl ifanc yn yr Almaen y tu allan i'r trefniadau y mae Llywodraeth y DU yn ystyried eu gorfodi arnom ni. Byddwn yn mynd ar drywydd y cyfleoedd dwyochrog hynny—y cyfleoedd hynny yr ydym ni eisoes wedi buddsoddi ynddyn nhw—i geisio gwneud iawn am y ffaith na fydd pobl ifanc yng Nghymru bellach yn cael cyfleoedd y mae cenedlaethau o bobl ifanc wedi gallu eu mwynhau hyd yn hyn ac a addawyd iddyn nhw yn sicr gan Lywodraeth y DU, ac y methwyd â'u sicrhau yn y fargen y maen nhw wedi ei tharo gyda'r Undeb Ewropeaidd.

14:55
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn cael ei wneud gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar frechiad COVID-19 i swyddogion yr heddlu. Wrth ymateb i chi yr wythnos diwethaf, cyfeiriais at alwadau gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru i blismona gael ei ystyried am rywfaint o flaenoriaeth ar raglen frechu COVID-19. Yn hytrach, dywedodd y Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wrthyf wedyn, ac rwy'n dyfynnu,

Mae yna effaith wirioneddol o ran symud grwpiau staff galwedigaethol o gwmpas 

a chyfeiriodd at dreialon profi llif unffordd ar gyfer yr heddlu. Ddoe, dywedodd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru wrthyf, ac rwy'n dyfynnu, bod 'ffynonellau dibynadwy iawn sy'n gweithio yn y canolfannau brechu' wedi cysylltu â nhw dros y penwythnos, ac fe wnaethon nhw ddweud fod ysgrifenyddion ysbytai a hyd yn oed weithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gartref yn cael y brechlyn, ac eto i gyd nid yw plismyn rheng flaen yn cael eu hystyried yn risg, na hyd yn oed yn cael defnyddio unrhyw frechlynnau sbâr neu rai sydd heb eu defnyddio. Ychwanegodd, 'Hyd yn oed pe byddai modd rhoi swyddogion heddlu rheng flaen ar restr wrth gefn, fel sy'n digwydd mewn rhai rhannau o Loegr, byddai hynny'n ddechrau.' Mewn e-bost gan un o swyddogion heddlu rheng flaen y gogledd heddiw dywedwyd 'Mae ymdeimlad o sioc a dryswch bob amser pan fyddaf i'n siarad â phobl a rhoi gwybod iddyn nhw nad yw'r heddlu'n cael eu hystyried yn grŵp blaenoriaeth ar gyfer y brechlyn. Rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i roi rhywfaint o flaenoriaeth i blismon', meddai, 'lle mae angen i ni ddiogelu'r amddiffynwyr sydd, yn y pen draw, yn ein hamddiffyn ni i gyd.' Rwy'n galw am ddatganiad yn unol â hynny.

Diolch i Mark Isherwood am godi'r mater hwnnw y prynhawn yma, ac wrth gwrs, rwy'n deall yn iawn awydd pawb o ran gallu cael gafael ar y brechlyn cyn gynted ag y bo modd. Mae sawl cwestiwn i'r Gweinidog iechyd ar bapur trefn prynhawn yfory o ran brechlynnau COVID-19, felly efallai y bydd cyfle yno i godi hyn yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog. Ond rwy'n siŵr y byddai ymateb y Gweinidog yn debyg iawn i Lywodraeth Cymru yn cymryd cyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio o ran yr amserlen flaenoriaeth oherwydd dylai hyn fod yn rhywbeth sy'n cael ei arwain gan glinigwyr, gan ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael iddyn nhw, yn hytrach na gwleidyddion yn penderfynu ar drefn y brechu. Mae'n fater mor sensitif a difrifol, o ystyried ein bod yn sôn am achub cymaint o fywydau ag y gallwn ni. Ond mae sawl cyfle, rwy'n credu, o fewn y 24 awr nesaf i godi hyn, ac, wrth gwrs, mae'r Gweinidog iechyd newydd gael cwestiwn brys ar frechu y prynhawn yma.

15:00

A gawn ni ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ar gymorth iechyd meddwl amenedigol, sy'n cynnwys ffyrdd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu dull teulu cyfan ac yn cydnabod y ffaith nad oes gan lawer o rieni newydd y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd? Rwy'n gofyn hyn oherwydd bod fy swyddfa wedi cynnal arolwg a gafodd dros 300 o ymatebion, sy'n dangos yn glir bod dros 80 y cant wedi teimlo nad oedden nhw'n cael digon o gefnogaeth wrth roi genedigaeth y llynedd, a'u bod, er gwaethaf mân newidiadau yn y gwasanaeth iechyd i'r rhai sy'n gallu bod yn bresennol yn ystod yr enedigaeth, yn dal i ganfod eu bod i raddau helaeth ar eu pennau eu hunain yn ystod y broses honno. Dywedodd dros ddwy ran o dair nad ydyn nhw wedi cael cyswllt ag ymwelydd iechyd. Ac yn syfrdanol, dywedodd 68 y cant o'r rhai â symptomau iechyd meddwl amenedigol ysgafn i gymedrol, nad oedden nhw wedi cael unrhyw gymorth o gwbl. Felly, byddai datganiad ynghylch hynny'n dda.

Fy ail gais yw datganiad ar ddarparu prydau ysgol am ddim. Yng Nghymru, mae rhai cynghorau'n dal i ddarparu parseli, ac rydym wedi gweld hynny'n cael ei ddileu yn Lloegr, er mawr lawenydd i lawer o'ch cyd-Aelodau Llafur. Ond yma yng Nghymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dal i weinyddu parseli bwyd ac ar hyn o bryd maen nhw'n gwrthod caniatáu unrhyw daliadau uniongyrchol neu unrhyw dalebau bwyd, er bod llawer o'r bwyd wedi mynd yn ddrwg, neu nad ydyn nhw'n derbyn bwyd sy'n briodol i ofynion dietegol eu pobl ifanc. Rwy'n credu ei bod yn bryd nawr i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn hyn, o ystyried nad yw tri o'r cynghorau hyn yn fodlon ildio o ran yr agenda parseli bwyd ac nad ydyn nhw'n caniatáu i rieni wneud penderfyniadau dros eu plant eu hunain a fyddai'n caniatáu iddyn nhw wario'r arian yn ôl eu dymuniad.

Diolch am godi'r ddau fater hynny. O ran cymorth iechyd meddwl amenedigol, rwy'n gwybod y byddai gan y Gweinidog iechyd ddiddordeb gwirioneddol yng nghanlyniadau'r arolwg a gynhaliwyd gennych. Rydych chi'n dweud eich bod wedi cael mwy na 300 o ymatebion, felly rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhoi sylfaen dystiolaeth ddefnyddiol iawn i Lywodraeth Cymru. Os gallech chi rannu hynny gyda'r Gweinidog iechyd, rwy'n gwybod y byddai'n awyddus i archwilio canlyniadau eich arolwg.

O ran prydau ysgol am ddim, y tro hwn byddwn yn eich gwahodd chi i ymgymryd â hyn efallai drwy ysgrifennu yn y lle cyntaf at y Gweinidog llywodraeth leol, a fydd yn gallu codi pryderon penodol gydag arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr o bosibl ynglŷn â'r hyn yr ydych chi wedi'i ddisgrifio o ran bwyd sydd wedi mynd yn ddrwg ac ati. Mae hynny, yn amlwg, yn rhywbeth na fyddem eisiau ei weld yn digwydd.

Trefnydd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch a fydd yn gofyn i'r cyd-gyngor dros frechiadau ychwanegu gweithwyr angladd rheng flaen, technegwyr corffdai a phereneinwyr at y rhestr o staff gofal iechyd rheng flaen yng Nghymru y mae imiwneiddio galwedigaethol â'r brechiad COVID-19 yn cael ei argymell iddyn nhw? Rwy'n deall bod Gogledd Iwerddon yn debygol o wneud hynny o fewn y dyddiau nesaf, ac, yn wir, mae'r Alban a Lloegr wedi gwneud hynny yn y dyddiau diwethaf.

A gawn ni hefyd ddatganiad ynghylch tâl athrawon cyflenwi profiadol? Cafwyd croeso i roi ar waith fframwaith yng Nghymru i sicrhau bod yr holl athrawon cyflenwi yn cael eu talu i o leiaf M1, y cyflog lefel mynediad, ac mae'n welliant mawr i lawer. Fodd bynnag, i'r athrawon mwy profiadol, gan gynnwys un o fy etholwyr i sydd ar y lefel U1, mae hyn gryn dipyn o dan yr hyn y maen nhw wedi hyfforddi ar ei gyfer a'r hyn y maen nhw wedi cael profiad ohono dros lawer o flynyddoedd. Os yw athrawon cyflenwi'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan gynghorau, maen nhw'n cael eu talu i'r raddfa y maen nhw arni, ond yr ofn yw bod asiantaethau cyflenwi'n cymryd drosodd ac nad yw'r ysgolion yn defnyddio'r cronfeydd cyflenwi mwyach, felly mae athrawon profiadol yn ennill llawer llai nag y maen nhw'n gymwys i'w gael.

Byddai datganiad, Gweinidog, hefyd yn gallu egluro'r trefniadau ar gyfer athrawon cyflenwi ar ffyrlo. Mae yna lawer o asiantaethau sy'n dal i benderfynu a ddylen nhw roi eu staff cyflenwi ar ffyrlo ai peidio. Gan fod athro cyflenwi yn dibynnu'n llwyr ar waith o ddydd i ddydd, mae'r asiantaethau cyflenwi'n cael y broses ffyrlo yn eithaf anodd, ac wrth gwrs, mae hyn yn effeithio, felly, ar eu hathrawon cyflenwi hefyd. Byddwn i'n croesawu'r ddau ddatganiad hynny, os gwelwch chi'n dda.

15:05

Diolch am godi'r ddau fater hynny y prynhawn yma. Mae'n wir fod canllawiau'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a gafodd eu cyhoeddi ar 2 Rhagfyr yn nodi bod gweithredwyr angladdau rheng flaen a thechnegwyr corffdai neu bereneinwyr mewn perygl o gysylltiad. Cytunwyd bellach y byddai'r rheini yn y sector angladdau, y byddai angen cyfarpar diogelu personol arnynt i ymgymryd â'u swydd, yn dod o dan garfan 2 ac, felly, y dylen nhw gael eu brechu. Felly, byddem ni'n gofyn i unrhyw un o'r rheini sy'n gweithio yn y diwydiant hwnnw drosglwyddo eu gwybodaeth i'r bwrdd iechyd lleol er mwyn sicrhau bod y brechiad yn cael ei gynnig iddyn nhw ar yr adeg briodol.

O ran yr ail fater, sy'n ymwneud â thalu am athrawon cyflenwi, fel rhan o'm cyfrifoldebau dros gaffael fe fyddaf i'n ysgrifennu atoch ar y mater hwnnw gan ddarparu ymateb manwl.

A gaf i yn gyntaf, gytuno â galwad Bethan Sayed am well cymorth iechyd meddwl amenedigol? Rwy'n credu bod hwnnw'n faes sydd wedi bod angen rhywfaint o waith arno ers tro, ac rwy'n falch o weld hynny'n mynd rhagddo.

Dau fater, os caf i, Trefnydd. Yn gyntaf oll, roeddwn i'n bresennol mewn cyfarfod, ynghyd â rhai cynrychiolwyr eraill, gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru ddoe, lle codwyd mater cyflymder cyflwyno'r brechlyn—ac mae wedi'i godi gan lawer o Aelodau heddiw hefyd, wrth gwrs—a rhan bosibl fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru yn helpu i ddarparu'r brechlyn. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi sôn am hyn yn gynharach. Tybed a oes modd inni gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch pa drafodaethau sy'n digwydd gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru i gynyddu eu hymgysylltiad yn y broses o gyflwyno'r brechlyn. Rwy'n credu bod ganddyn nhw rai sylwadau diddorol i'w gwneud am y brechlyn Pfizer sydd, yn amlwg, yn gorfod cael ei storio o dan dymheredd isel iawn, a gwn fod rhai fferyllfeydd cymunedol sydd wedi bod yn darparu brechlynnau ffliw ers peth amser, efallai, yn gallu ymdrin yn well â brechlyn fel hwnnw.

Yn ail, ac yn fyr, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog diwylliant ar ddigwyddiadau mawr a lleoliadau digwyddiadau mawr, a'r gefnogaeth y maen nhw'n ei chael yn ystod y pandemig. Gwn fod cae rasys Cas-gwent wedi cael ei effeithio'n arbennig. Mae busnes sy'n cynnal digwyddiadau blynyddol yng Nghas-gwent wedi cysylltu â mi, ac maen nhw'n ystyried cyfeirio at fwy o gefnogaeth i'w cael nhw drwy'r cyfnod hwn, fel y gallan nhw wedyn ailddatblygu'n well.

Diolch am y materion hynny y prynhawn yma. O ran fferyllwyr cymunedol, byddan nhw'n chwarae rhan bwysig iawn wrth gyflwyno'r brechlyn coronafeirws. Byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, fod y cynllun peilot fferylliaeth gymunedol cyntaf wedi'i gynnal yn y gogledd eisoes, felly byddwn ni'n ceisio dysgu o hynny a datblygu o hynny. Bydd fferyllwyr cymunedol eu hunain yn chwarae rhan bwysig. Efallai na fydd hyn o reidrwydd yn digwydd yn eu fferyllfa leol, ond efallai y byddant yn cael eu symud, er enghraifft, i rai o'r canolfannau brechu torfol, oherwydd nid yw pob fferyllfa o'r maint a'r raddfa briodol i gynnig y brechlyn. Rwy'n gwybod bod yr holl faterion hyn wedi'u trafod a'u bod yn dal i gael eu trafod. Pan fydd y Gweinidog yn rhoi ei wybodaeth ddiweddaraf ar frechu, rwy'n siŵr y bydd yn awyddus i bwysleisio ac ymhelaethu ar y rhan y bydd fferylliaeth gymunedol a fferyllwyr yn ei chwarae, ac y maent yn ei chwarae, yn y rhaglen frechu.

O ran yr ail fater, sef digwyddiadau chwaraeon mawr, a digwyddiadau chwaraeon i wylwyr yn benodol, gwn fod y Dirprwy Weinidog wrthi'n ystyried pa gymorth a allai fod ar gael a'i fod yn awyddus iawn i ddweud rhagor am hynny cyn bo hir.

A gaf i hefyd, fel Huw Irranca-Davies, ofyn am ddatganiad gweinidogol ynghylch athrawon cyflenwi? Rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir nad ydyn nhw'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan gynghorau neu grwpiau o gynghorau. Hoffwn i holi'n benodol o ran cymorth ariannol i athrawon cyflenwi, oherwydd ychydig iawn o addysgu cyflenwi sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae rhai wedi eu rhoi ar ffyrlo ac eraill ddim. Pa gymorth ariannol y gall Llywodraeth Cymru naill ai ei roi neu weithio gyda Llywodraeth San Steffan i'w gyflawni ar gyfer y bobl hyn, sydd â chymwysterau uchel, sy'n ymroddedig iawn ac yn cael eu trin yn eithriadol o wael? Os byddai gofyn i mi nodi un grŵp o weithwyr yng Nghymru sy'n cael eu trin yn wael, byddwn i'n dewis athrawon cyflenwi. Rwy'n credu ei fod yn echrydus, y ffordd y maen nhw'n cael eu trin, a hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar hynny, neu, os oes modd, ddadl.

Diolch i Mike Hedges am godi pryderon athrawon cyflenwi. Rwy'n gwybod bod hyn yn destun pryder i sawl Aelod, felly byddwn ni'n archwilio'r hyn a allai fod yn bosibl o ran darparu gwybodaeth ddiweddar sy'n ehangach na'r honno a ddisgrifiais y prynhawn yma i Huw Irranca-Davies. Yng Nghymru, wrth gwrs, mae gennym ni fframwaith yr asiantaeth gyflenwi genedlaethol ar waith, a nod hwnnw yw sicrhau cyflog teg ac amodau i athrawon cyflenwi yma. Mae'r holl asiantaethau ar y fframwaith hwnnw wedi cadarnhau eu bod wedi defnyddio'r cynllun ffyrlo ar gyfer eu staff cyflenwi ers mis Mawrth, ac mae'r rhan fwyaf o'r asiantaethau fframwaith hynny wedi ymrwymo i roi staff cymwys ar ffyrlo unwaith eto o'r cyfnod presennol hwn o gyfyngiadau symud. Bydd telerau ac amodau staff cyflenwi yn amrywio, felly mae'n bwysig bod staff yn disgrifio ac yn trafod eu hamgylchiadau personol gyda'u hasiantaeth i weld a oes rhywfaint o gefnogaeth neu ffyrlo pellach, yn enwedig, ar gael iddyn nhw. Ond rwy'n cydnabod yn fawr sylw Mike Hedges, yn sicr o'r ohebiaeth yr wyf i wedi'i chael yn lleol gan athrawon cyflenwi ynghylch yr anhawster y maen nhw wedi'i gael wrth geisio cymorth. Felly, byddaf yn ymchwilio i beth arall y gallwn ni ei wneud i roi'r wybodaeth bellach honno y mae Mike Hedges wedi gofyn amdani.

15:10

Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. A gaf i ofyn am ddau ddatganiad y prynhawn yma, os gwelwch chi'n dda? Yn gyntaf oll ar bysgodfeydd, ac yn ail ar y gronfa ffyniant gyffredin.

Gweinidog, nid wyf i'n credu y gallai'r un ohonom fod wedi methu â chael ein cyffwrdd gan yr adroddiadau yr ydym ni'n eu gweld gan y diwydiant pysgota ar hyn o bryd. Nid wyf yn hoffi defnyddio'r iaith hon, ond mae'n anodd dweud bod y diwydiant pysgota wedi cael unrhyw beth heblaw eu bradychu gan Lywodraeth y DU, nid yn unig gan y cytundeb, y daethpwyd iddo ar noswyl y Nadolig, lle'r oedden nhw wedi ildio mewn gwirionedd, ond hefyd yn y ffordd y maen nhw wedi cael eu trin ers hynny. Nid yw'r diwydiant pysgota'n ddiwydiant enfawr yng Nghymru, ond mae'n ddiwydiant pwysig, ac mae pobl yn dibynnu arno am eu bywoliaeth. Mae'r bobl hynny wedi cael eu trin yn ofnadwy gan Lywodraeth y DU ac mae'n anodd gorbwysleisio hynny. Felly, rwy'n credu y byddai'n bwysig inni gael naill ai datganiad ar gefnogaeth i'r diwydiant pysgota, neu ddadl ar sut y gallwn ni barhau i gefnogi'r diwydiant pysgota.

Sylwais i dros y penwythnos fod Stephen Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, wedi ysgrifennu at Weinidog Cyllid yr Alban, y Gweinidog sy'n cyfateb i chi yn Llywodraeth yr Alban. Nid wyf i'n gwybod a gawsoch chi gopi o'i lythyr, ond roedd yn ymddangos ei fod yn nodi rhai strwythurau ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin. Roedd yn ymddangos ei fod yn dweud yr hyn yr oeddem wedi'i dybio o'r blaen, rwy'n credu, sef y byddai'r cronfeydd newydd yn cael eu rheoli gan San Steffan, byddan nhw'n cael eu rheoli gan Whitehall, byddan nhw'n ceisio'n fwriadol, fel canolbwynt polisi, i osgoi ymwneud â'r Llywodraethau a gafodd eu hethol yn ddemocrataidd yng Nghymru neu'r Alban.

Nawr, nid wyf i eisiau mynd i ddadl dros bwerau, fel mae'n digwydd, ond rwyf i eisiau mynd i ddadl dros arian a sut mae'n cael ei wario, a'r strwythurau ar gyfer ei wario. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, pan gafodd ei hethol, fy mod i'n Weinidog rhaglenni Ewropeaidd, a chyhoeddais y gwersi a ddysgwyd o gylch cyntaf Amcan 1 yn y swydd honno. Ac mae'n ymddangos i mi nad yw Llywodraeth y DU heddiw'n dysgu'r gwersi hynny, ond yn ailadrodd rhai o'r camgymeriadau gwaethaf. Yr hyn a welaf i yw strwythur sydd wedi'i sefydlu er hwylustod gwleidyddol, sy'n mynd i dynnu arian oddi ar y cymunedau tlotaf yng Nghymru fel mater o bolisi, a'i wastraffu mewn mannau eraill fel mater o bolisi. Rwy'n credu bod gwir angen inni fynd i'r afael â'r materion hynny ar frys mawr.

Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater hynny y prynhawn yma. Rwy'n credu bod y ddau ohonyn nhw'n disgrifio meysydd lle mae Llywodraeth y DU wedi camarwain yn llwyr, rwy'n credu, y bobl a fydd yn derbyn y gwahanol fathau o gymorth. Rwy'n gwybod bod llawer sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota yn teimlo bod dyfodol wedi'i werthu iddyn nhw na chafodd ei wireddu mewn gwirionedd, ac rydym wedi gweld yr anawsterau y mae hynny'n ei olygu i'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant pysgota ar hyn o bryd. Byddaf yn siarad â'r Gweinidog ynglŷn â'ch cais am yr wybodaeth ddiweddaraf i archwilio'r ffordd orau o ddangos cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant pysgota yma yng Nghymru.

Rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw o ran y gronfa ffyniant gyffredin a'r effaith y gallai ei chael ar gymunedau fel y rhai y mae Alun Davies yn eu cynrychioli, a'r cyfleoedd y bydd ganddyn nhw am gyllid yn y dyfodol. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw'n cyflwyno cynllun peilot gwerth £220 miliwn, gan ddechrau gyda rhagor o wybodaeth ar gael o'r mis hwn ymlaen. Wel, wrth gwrs, yr amser ar gyfer cynllun peilot oedd amser maith yn ôl, ac rydym  mewn sefyllfa lle mae gennym ni gynllun gwerth £220 miliwn ar gyfer y DU gyfan, ond os byddem wedi cadw ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, byddem yn edrych ar £375 miliwn i Gymru yn unig. Felly, mae'r dadansoddiad y mae Alun Davies yn ei ddisgrifio yn rhywbeth y byddwn i'n cytuno ag ef yn llwyr, a byddaf yn ymchwilio gyda fy nghydweithiwr, y Gweinidog sy'n gyfrifol am bontio'r UE a'n perthynas yn y dyfodol, i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd ynghylch y materion hyn.

15:15
3. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar ymateb y Llywodraeth i argymhellion terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. Yn galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad, Lee Waters.

Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein hymateb ni i'r argymhellion a wnaeth Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru, wedi cwblhau adolygiad cychwynnol o'r holl argymhellion a wnaeth Arglwydd Burns a'i gyd gomisiynwyr. Ac, unwaith eto, rydym ni'n diolch iddyn nhw am eu gwaith. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ymateb fesul llinell er mwyn inni gael bod yn gwbl glir ynghylch statws pob un o'r argymhellion. Mae hon yn gyfres hyderus ac ymarferol o argymhellion, ac ni ellir eu cyflawni heb gael amrywiaeth o gyrff yn gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth. Ac yn yr ysbryd hwnnw, rwy'n dymuno ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r awdurdod lleol, y cynrychiolwyr lleol, Llywodraeth y DU a phartneriaid allweddol eraill i gyflawni glasbrint comisiwn Burns.

Yn ganolog i hyn, mae'r argymhellion yn nodi gweledigaeth ar gyfer y system drafnidiaeth gyhoeddus fodern sy'n deilwng o ddinas o faint Casnewydd. Ac fel y nodwyd yn ein strategaeth drafnidiaeth i Gymru, gweledigaeth o'r fath sydd gennym  ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r ddadl ddyrys i chwilio am ddatrysiad priodol i fynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid ehangach. Mae adroddiad Burns wedi helpu i'n harwain ni ar hyd llwybr newydd, ac am y rheswm hwn rwy'n hapus i gadarnhau y byddwn ni'n derbyn yr argymhellion hyn i gyd mewn egwyddor.

Mae'r strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru yn nodi'r ddadl gref o blaid symud tuag at rwydwaith trafnidiaeth metro integredig, carbon isel ac aml-ddull ar draws Cymru, ac mae adroddiad comisiwn Burns yn nodi glasbrint ar gyfer gweithredu'r weledigaeth honno, er mai dull rhanbarthol a geir o ymdrin â chynllunio trafnidiaeth a defnydd tir. Mae'r strategaeth yn pennu pecyn o fesurau i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd mewn ffordd sy'n helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd hefyd, yn ogystal â gwella ansawdd yr aer a hybu cyfiawnder cymdeithasol. Mae argymhellion y comisiwn yn cwmpasu pob dull o drafnidiaeth, ac felly mae angen rhannu'r cyfrifoldeb o'u gweithredu nhw. Mae gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd ran bwysig i'w chwarae yma, fel sydd gan Drafnidiaeth Cymru a Network Rail.

Llywydd, rydym ni eisoes wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd ar gyfer arwain ar y cyd y ffordd ymlaen ar gyfer mesurau bysiau a theithio llesol yn y ddinas, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Mae'r adolygiad o gysylltedd undebau, dan arweiniad Syr Peter Hendy, yn gyfrwng i Lywodraeth y DU roi ymrwymiad cynnar i gyflawni'r argymhellion mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli. Fe ysgrifennais i heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol Trafnidiaeth ac at Network Rail, gan dynnu sylw at y rhesymeg gadarn pam mae angen i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhanbarth hwn gael ei godi i'r un safon â rhannau eraill o'r DU. Ers gormod o amser mae Cymru wedi bod ar ddiwedd y ciw pan oedd Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd, ond mae hwn yn gyfle cadarnhaol i Lywodraeth y DU wneud cyfiawnder am y tanfuddsoddi a fu. Ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw i unioni'r cam hwnnw a chyflawni'r weledigaeth hon.

Mae'r comisiwn wedi gwneud argymhellion ar gyfer pum pecyn: seilwaith; polisïau rhwydwaith; newid ymddygiad; llywodraethu trafnidiaeth; a defnydd a chynllunio tir. Mae ein hymateb fesul llinell ni yn nodi lle mae camau eisoes yn cael eu cymryd  a lle gellir gweithredu yn y dyfodol i ddatblygu ymhellach. Mae nifer o bwyntiau penodol yr hoffwn i dynnu sylw atynt heddiw ac egluro sut y bwriadwn eu datblygu.

Y cyntaf yw gwella prif reilffordd y de a threblu nifer y gorsafoedd sydd yn y rhanbarth. Gan ddefnyddio adroddiad Burns, mae fy swyddogion i wedi cynnal trafodaethau cadarnhaol eisoes gyda Network Rail ac Adran Drafnidiaeth y DU ar y  cynigion ar gyfer yr ased hwn sydd heb ei ddatganoli. Ein bwriad ni yw gweithio eto gyda Network Rail ar yr argymhellion hyn yn benodol, yn ogystal â'r gwaith ehangach o wella'r brif reilffordd, ac fe fydd Trafnidiaeth Cymru yn chwarae rhan hanfodol fel ein hasiant yn hyn o beth. Mae uned ddatblygu bwrpasol wedi ei sefydlu erbyn hyn o fewn Trafnidiaeth Cymru. Fe fydd yr uned hon yn rhoi cyngor i grŵp llywio ac, yn y pen draw, i Weinidogion Cymru ar y cynnydd yn erbyn yr holl  argymhellion.

Bydd yr Aelodau eisoes wedi gweld, yn y tabl a gyhoeddwyd heddiw, fod llawer o'r mesurau a argymhellwyd gan Arglwydd Burns ar y gweill yn barod mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Os felly, mae'r uned ddatblygu bellach yn gyfrifol am fonitro'r cynnydd, ac adrodd i'r grŵp llywio pe byddai angen ymyrryd i wthio'r maen i'r wal.

Gan ddefnyddio'r sylfaen dystiolaeth a ddarparodd Arglwydd Burns a'r comisiynwyr, rwy'n awyddus i gynnal ymarfer  blaenoriaethu cyflym i nodi mesurau y gall yr uned ddatblygu fod â rhan weithredol yn y gwaith o'u datblygu ar fyrder. Er enghraifft, drwy weithio gyda chyngor Casnewydd, rwy'n credu y gallwn ddethol mesurau blaenoriaeth o ran bysiau a theithio llesol fel bod modd i'r uned ddatblygu weithio ar ddylunio ac ymgynghori manwl, ac yna fe allwn ni symud yn gyflym i wneud penderfyniadau ar weithredu. Gan baratoi ar gyfer y tymor hwy, mae'r uned wedi cael cyfarwyddyd i ddatblygu'n fanylach raglen gyflawni botensial ar gyfer pob un o'r argymhellion.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, gan gydnabod swyddogaeth ganolog grŵp llywio'r uned ddatblygu, rwy'n awyddus i benodi cadeirydd â'r profiad addas i arwain y gwaith datblygu. Ac fe fyddaf i'n rhoi diweddariadau pellach maes o law i roi gwybod i'r Aelodau am hynny a sut mae argymhellion ehangach y comisiwn yn datblygu. Dirprwy Lywydd, roedd cyrraedd y pwynt hwn yn daith anodd. Ond rwy'n gobeithio y bydd adroddiad Burns a'n hymateb ni iddo yn dangos y ffordd ymlaen, gan fynd i'r afael â thagfeydd a hefyd newid hinsawdd, a gwella ansawdd a chyfleoedd bywyd i bobl y de-ddwyrain a thu hwnt. Diolch.

15:20

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Ac yn ogystal â hynny hoffwn i fynegi fy niolch innau i Arglwydd Burns a'r comisiynwyr am eu hargymhellion. Ac fe hoffwn i ddiolch hefyd i Arglwydd Burns a Peter McDonald o ysgrifenyddiaeth y comisiwn am fod yn bresennol yn y pwyllgor Economi, Seilwaith, a Sgiliau yr wythnos diwethaf, a oedd, yn fy marn i, yn arbennig o fuddiol.

Fel rwyf i'n ei gweld hi, Dirprwy Weinidog, mae cyfradd y traffig yng Nghymru yn cynyddu'n flynyddol yn gyffredinol. Mae fy mhlaid i a minnau'n croesawu'r argymhellion a nodir yn adroddiad y comisiwn; rwyf am fynegi fy marn i'n glir iawn ynglŷn â hynny nawr hefyd. Ond rwy'n credu, wrth gwrs, nad yw'r argymhellion yn disodli ffordd liniaru i'r M4—i fod yn glir ynglŷn â hynny hefyd. Yn fy marn i, yn bennaf, ni ddylid cyflawni'r argymhellion hyn ar eu pen eu hun; fe ddylid eu cyflawni yn gyfochrog â llunio ffordd liniaru i'r M4. 

Mewn tystiolaeth yr wythnos diwethaf, fe glywodd y pwyllgor gan Arglwydd Burns, ac fe gyfeiriodd ef—pan ofynnwyd iddo—at rywfaint o amheuaeth ymysg rhanddeiliaid ynghylch a fyddai unrhyw un o'r argymhellion yn gweld golau dydd. Nawr, rwy'n deall pam y gallai amheuaeth fodoli. A ydych chi'n deall pam mae yna amheuaeth, ac a oes yna unrhyw un wedi mynegi'r amheuaeth honno i chi hefyd? A beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y rhai sy'n rhannu'r amheuaeth honno?

O ran yr argymhellion, rydych chi wedi nodi yn eich datganiad heddiw y bydd yr uned gyflawni yn edrych yn fanwl ar y rhain ac yn dod yn ôl atoch chi o ran y blaenoriaethau. Rwy'n deall hynny'n burion, ond efallai y gallech chithau nodi'r hyn yr ydych chi'n teimlo fydd yr argymhellion cynnar cychwynnol y credwch y dylid eu mabwysiadu a gweithio arnyn nhw eich hun, cyn cael barn gan yr uned gyflawni. Roedd yna lawer o sôn am yr uned gyflawni a'r grŵp llywio hefyd. Rwy'n credu eich bod chi wedi bod yn eithaf eglur ynglŷn â hynny, ond fe hoffwn ichi fod ychydig yn fwy eglur o ran pwy ydych chi'n ystyried sy'n gyfrifol am weithredu'r argymhellion. Mae sôn am y ddau grŵp; pwy fydd yn cysylltu â'r rhanddeiliaid yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw? A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am lywodraethu'r uned gyflawni hefyd—fe wn ichi gyfeirio at benodi'r cadeirydd—ychydig mwy am lywodraethu, ariannu'r uned gyflawni honno a'i chylch gwaith—a fydd ganddyn nhw lythyr cylch gwaith? Oherwydd, yn amlwg, mae'n debyg y bydd yr uned gyflawni yn gorff a fydd yn weithredol am bump i 10 mlynedd eto. A hefyd, efallai, sut ydych chi am fwrw ymlaen â'r argymhellion ar newid ymddygiad yn benodol, ochr yn ochr neu'n gyfochrog â'r argymhellion ar seilwaith?

Ac yna nod Llywodraeth Cymru o 30 y cant yn gweithio o gartref; yn amlwg, fe fu yna newid mewn patrymau teithio yn ystod 2020, felly sut wnaeth y comisiwn roi ystyriaeth i'r rhain yn ei waith, yn eich barn chi? Ni ddylai'r cynnydd mewn gweithio o gartref yn ystod y pandemig gael ei ystyried yn esgus, yn fy marn i, i ohirio gweithredu'r argymhellion hyn, ac fe fyddwn i'n gobeithio y byddech chi'n cytuno â hynny. Ond rwy'n cytuno ag Arglwydd Burns pan ddywed ef fod yna amser i anadlu nawr yn sgil y pandemig, oherwydd nid yw'r ffordd mor brysur ag y bu, ac felly mae'n golygu defnyddio'r amser hwn i anadlu mewn modd priodol, mewn ffordd briodol, ac felly efallai y gwnewch chi ddweud wrthyf a ydych chi'n cytuno â'r safbwynt hwnnw.

Mae'n hanfodol cynyddu'r newid mewn ymddygiad, a'r argymhelliad sy'n peri'r pryder mwyaf i mi yw'r ardoll ar barcio sy'n cael ei grybwyll. Er mai'r cyflogwyr, nid y gweithwyr, fyddai'n gyfrifol am dalu'r ardoll hon, rwy'n pryderu am effaith ganlyniadol hyn ar y gweithwyr a fyddai, i bob pwrpas, yn talu am yr ardollau hynny eu hunain. Fe fyddwn i'n croesawu rhagor o sylwadau am hynny.

Ac yn olaf, o ran yr effeithiau ariannol, roedd y Prif Weinidog yn nodi o'r blaen mai'r alwad gyntaf ar Lywodraeth Cymru ar gyfer y £1 biliwn hwnnw fyddai gwneud gwelliannau o'r mathau hyn. Mae llawer wedi digwydd ers hynny, wrth gwrs, ac fe nododd y Prif Weinidog hefyd fod costau yn ystyriaeth bwysig o ran yr argymhellion. Mae'r comisiwn wedi dweud y byddai costau'r argymhellion yn rhywbeth rhwng £600 miliwn a £800 miliwn o wariant dros 10 mlynedd. A ydych chi'n credu bod hynny'n cynrychioli gwerth da am arian? Sut wnaiff hynny roi ystyriaeth i anghenion eraill gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran ymdrin â'r pandemig?

15:25

Diolch. Wel, dyna amrywiaeth o gwestiynau. Rwy'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r argymhellion. Mae Russell George yn holi ynglŷn ag amheuon o ran y cyflawni, ac, wrth gwrs, rwy'n deall hynny, oherwydd mae Llywodraethau Cymru wedi bod yn bwriadu mynd i'r afael â thagfeydd yng Nghasnewydd ers cryn amser, ac mae'r tagfeydd yno o hyd, ac felly yn sicr mae angen inni neidio i mewn i'r bwlch hwnnw a dangos y bydd camau'n cael eu cymryd. Wrth gwrs, mae'n rhaid imi dynnu sylw Russell George at y ffaith, pe byddai'r cyllid haeddiannol gan Gymru ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd, yna byddem yn gallu gweithredu'n gyflymach o lawer. Felly rwy'n credu y byddai'n ddigon teg iddo yntau gydnabod diffygion Llywodraeth y DU yn hyn o beth, oherwydd yn seiliedig ar yr ymrwymiadau sy'n hysbys ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2029, rydym yn amcangyfrif diffyg o ran buddsoddiad yng Nghymru o hyd at £5 biliwn yn y 10 mlynedd nesaf. Mae hynny'n seiliedig ar ymrwymiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn Lloegr dros y cyfnod hwn, a phe byddai gennym ni gyfran pro rata i Gymru. Rydym yn fyr o bum biliwn o bunnoedd, heb sôn am y methiant o ran cwblhau'r broses o drydaneiddio rheilffordd y de. Felly gellid fod wedi goresgyn llawer iawn o ran y ddarpariaeth a'r amheuaeth pe byddai Llywodraeth y DU yn cyflawni ei rhethreg am godi'r lefel. Felly, rwy'n credu ei bod yn ddigon teg bod hynny'n cael ei gydnabod, yn union fel rwyf innau'n cydnabod nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon cyflym i wneud yr hyn a addawodd o ran mynd i'r afael â thagfeydd. Felly, rwyf i o'r farn fod gan y ddau ohonom ddigon i fyfyrio yn ei gylch, o ran pethau y gellid fod wedi eu gwneud yn well.

O ran blaenoriaethau cynnar, mae e'n holi amdanynt—rwy'n credu, fel y soniais i yn y datganiad, rydym ni'n sicr yn ystyried bod y rhwydwaith bysiau a'r rhwydwaith teithio llesol yn faterion y gallwn ni eu cwblhau o fewn rhyw flwyddyn. Fe ŵyr pawb ohonom fod newidiadau trafnidiaeth ar lawr gwlad yn cymryd amser a bod rhaid iddyn nhw fynd trwy ystod eang o brosesau, ond rydym ni'n gwybod bod angen newidiadau i brif lein y de, rhai gwelliannau i'r seilwaith ar gyfer bws Casnewydd fel y gall pobl weld y bws yn ddewis amgen gwirioneddol i'r car—mae'n rhaid inni alluogi'r bysiau i deithio'n gyflymach, heb gael eu dal mewn traffig, ac felly gael pobl o'u ceir ac ar eu beiciau neu'n cerdded ar gyfer eu teithiau bob dydd. Felly, mae yna rai pethau gwirioneddol ac ymarferol y gellir eu gwneud a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn dangos i bobl Casnewydd fod gwelliant yn digwydd ar lawr gwlad. Fe fydd honno'n sicr yn flaenoriaeth gynnar i'r uned gyflawni, sef y  cwestiwn nesaf a ofynnodd Russell George i mi: pwy sy'n gyfrifol am y cyflawni?

Wel, rydym ni'n cydnabod, fel y dywedais i, mai cyfrifoldeb a rennir yw hwn, ond rydym ni'n cydnabod hefyd fod yna gyfyngiadau ar allu Cyngor Casnewydd, fel sydd ar bob cyngor. Felly, rydym yn ffurfio uned gyflawni ar y cyd gyda Thrafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Casnewydd. Fe fydd honno'n gorwedd yn bennaf o fewn Trafnidiaeth Cymru, ond gyda memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda chyngor Casnewydd, sydd eisoes wedi ei lofnodi. Fe fydd y rhanddeiliaid—fe ofynnodd ef am hyn—yn cael eu cysylltu drwy gyfrwng grŵp ac rydym yn awyddus i gadeirydd deinamig y grŵp hwnnw allu gwthio pethau ymlaen a galw Trafnidiaeth Cymru i gyfrif.

O ran y cyllid a'r llythyr cylch gwaith, fe fydd y rhain yn cael eu cynnwys yn nhrefniadau cyfredol Trafnidiaeth Cymru, ond, fel y dywedodd, mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo y bydd arian yn cael ei ganfod i weithredu hynny. Fe ofynnodd a oeddem ni'n ystyried hyn yn werth am arian. Wel, rwyf am dynnu sylw at y ffaith y bydd hyn yn costio llai na hanner beth fyddai cost yr M4, a hynny heb unrhyw un o'r effeithiau amgylcheddol niweidiol, na ellir—ni ellir rhoi pris ar golli gwastadeddau unigryw Gwent, er enghraifft, nac ychwaith, er efallai ei bod yn haws ei fesur yn ariannol, y niwed economaidd a achosir gan effeithiau cynyddol newid hinsawdd oherwydd traffig cynyddol, yr hyn a fyddai wedi ei ennyn drwy adeiladu traffordd chwe milltir yn ei ennyn. Mae digon o dystiolaeth i ddangos y byddai hynny'n weddol debygol. Felly, rwy'n credu y gallwn ni ddweud y bydd hyn yn rhoi gwerth da iawn am arian.

Mae ef hefyd yn gofyn am newid mewn ymddygiad, ac, wrth gwrs, mae newid moddol wrth wraidd ein strategaeth drafnidiaeth ddrafft ni i Gymru, ac mae newid ymddygiad yn elfen allweddol o honno. Ond yna mae e'n bychanu swyddogaeth anghymhellion ymddygiadol wrth gyflawni newid mewn ymddygiad, ac mae'n siŵr ei fod yn gweld ei gyfle i ymgyrchu yn sgil unrhyw ardoll benodol ar barcio. Ond fe fyddwn i'n dweud bod yr holl dystiolaeth yn dangos, os ydych chi am newid ymddygiadau, fod angen cymell a chosbi arnoch. Fy marn i yw y dylem ni gael y cymhellion yn eu lle cyn dechrau cosbi pobl, ond, fel rhan o ystod o ymyriadau, mae gan anghymhellion eu rhan. Ac mae'n ddigon hawdd iddo ef groesawu'r argymhellion a bod yn eiddgar i weld y newidiadau ond, os nad yw'n barod i gefnogi hynny, geiriau gwag yw'r rhain. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb y cwestiynau a ofynnodd Russell George. 

15:30

Fe hoffwn i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad. Fel y dywedodd Russell George, roedd yn fuddiol iawn cael Arglwydd Burns yn bresennol yn y pwyllgor ac fe gawsom ni, aelodau'r pwyllgor, gyfle felly i archwilio rhai o'r syniadau gydag ef yn uniongyrchol. Rwy'n dymuno rhoi i'r Dirprwy Weinidog gefnogaeth Plaid Cymru i'r dull hwn, a dweud ein bod ni'n falch ei fod wedi gallu derbyn yr argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r ymateb fesul llinell, oherwydd mae'r Dirprwy Weinidog yn gwybod cystal â minnau nad yw derbyn mewn egwyddor bob amser yn golygu y gallwn ni wneud hynny mewn gwirionedd. Felly, fe fydd angen inni edrych ar hynny gyda rhywfaint o ofal rwy'n credu, ond rwyf i'n croesawu'r dull yn fawr iawn.

A gaf i ofyn ychydig mwy am gyflawni hyn? Nawr, mae'r Dirprwy Weinidog yn llygad ei le pan fo'n sôn am annog y galw, ac fe wyddom ni, pe bai'r ffordd hon wedi cael ei hadeiladu, fe fyddai'n orlawn ymhen ychydig flynyddoedd, ond yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yma yw newid tymor hwy. Mae yna heriau yn hyn o beth. Rwy'n credu y byddem ni'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Dirprwy Weinidog am yr angen, pan fydd dewisiadau amgen da ar waith, i weld anghymhellion yn dod i rym o ran pobl yn gallu parhau i ddefnyddio ceir preifat, er fy mod i'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn dweud bod angen i ni ddechrau gyda'r cymhellion cadarnhaol drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, gan wneud i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus deimlo'n fwy diogel, gan ei gwneud hi'n haws i bobl ei defnyddio.

Rwy'n pryderu mai un o'r heriau mawr o ran cyflawni fydd y sefyllfa gyda rhannau o'r rhwydwaith rheilffyrdd nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Nawr, efallai nad y drafodaeth y prynhawn yma yw'r cyfle priodol i gael y drafodaeth am y cyfle a gollwyd pan allai Llywodraeth Cymru fod wedi gofyn am ddatganoli llawn ond ni wnaeth felly, ond, yng nghyd-destun y drafodaeth heddiw, mae hyn yn cyflwyno rhai heriau gwirioneddol. Mae'r Dirprwy Weinidog yn iawn i ddweud bod Cymru wedi cael bargen wael ofnadwy o ran gwariant cyfalaf gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog yn iawn pan ddywedodd ef wrthym yn gynharach y prynhawn yma na allwn ni ymddiried yn y Torïaid. Ond, o ran cyflawni'r gyfres benodol hon o ganlyniadau, fe hoffwn i ofyn i'r Dirprwy Weinidog y prynhawn yma pa lwyddiant sydd wedi bod gyda'r trafodaethau cychwynnol hynny y mae ef a'i swyddogion wedi bod yn eu cael gyda Llywodraeth y DU. Mae'n gynnar iawn i ddweud, wrth gwrs, ond a yw'n teimlo eu bod nhw'n deall pwysigrwydd a gwir frys yr angen i gyflawni ar gyfer pobl y de-ddwyrain, ac, yn wir, y tu hwnt i hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae tagfeydd yn y de-ddwyrain yn cael effaith y tu hwnt i'r de-ddwyrain ei hun? Felly, a yw ef yn credu y bydd diffyg pŵer dros seilwaith y rheilffyrdd yn broblem o ran cyflawni'r gyfres hon o argymhellion?

O ran gwaith yn y tymor byrrach y mae ef wedi sôn amdano o ran teithio llesol a'r rhwydwaith bysiau, a yw ef yn hyderus bod gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer i allu sicrhau bod hyn yn digwydd gyda bysiau? Wrth gwrs, gyda Newport Bus eu hunain, maen nhw'n parhau i gael eu rheoli, yn ôl a ddeallaf i, gan yr awdurdod lleol, ac felly fe fydd hynny'n gymharol syml. Ond mae yna wasanaethau bws eraill sy'n mynd i mewn ac allan o Gasnewydd, yn enwedig y gwasanaethau bysiau hynny sy'n gwasanaethu cymunedau'r Cymoedd—nid ydyn nhw i gyd dan reolaeth uniongyrchol awdurdodau lleol. Felly, tybed: a yw'r Dirprwy Weinidog yn teimlo y gallai fod angen i'r Llywodraeth nesaf fynd yn ôl at y ddeddfwriaeth bysiau, ac efallai y bydd angen iddi fynd â'r ddeddfwriaeth bysiau honno ymhellach efallai nag a gynlluniwyd yn y drafft yr oeddem ni'n ei ystyried cyn i COVID daro, ar gyfer sicrhau fod yna ddigon o bwerau ar gael?

Ac fe soniodd y Dirprwy Weinidog am lywodraethu mewn ymateb i Russell George, ac yn wir fe soniodd am hynny yn y datganiad ei hunan. A yw ef wedi ystyried beth fydd swyddogaeth Llywodraeth y DU gyda'r mecanweithiau llywodraethu hynny, wrth iddo ddechrau cyflwyno'r prosiectau seilwaith mwy o gwmpas y rheilffyrdd? Oherwydd mae'n ymddangos i mi ei bod yn bwysig iawn fod yna ryw fecanwaith i allu monitro'r cytundebau hynny, pan fydd y cytundebau wedi eu gwneud. Ac a yw ef yn gweld hynny'n dod o fewn cylch gwaith yr uned y mae ef yn sôn amdani yn ogystal â'r cadeirydd annibynnol?

Ac yn olaf, a wnaiff ef roi ryw syniad i ni'r prynhawn yma o ba bryd y bydd pobl yn ardal Casnewydd yn dechrau gweld rhai o'r newidiadau hyn, yn ei farn ef? Rwy'n llawer llai amheus na Russell George i bob golwg, ac rwy'n credu bod y bwriadau hyn yn rhai cadarn, ac mae gennym ni dystiolaeth dda gan gomisiwn Burns o'r rhesymau pam y dylid cyflwyno'r newidiadau hyn. Ond fe wn i fod y Dirprwy Weinidog yn deall rhwystredigaethau'r bobl sy'n cael eu heffeithio'n fwyaf uniongyrchol, ac yn wir y cymunedau cyfagos y mae'r sgil-effeithiau yn effeithio arnyn nhw. Felly, a all ef roi rhyw syniad inni pryd y mae'n credu y bydd pobl yn dechrau teimlo rhai newidiadau ar lawr gwlad o ganlyniad i'r gwaith hwn, gan ddeall, wrth gwrs, y bydd y gwaith seilwaith mwy yn cymryd rhagor o amser?

15:35

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am groesawu'r dull a nodwyd gennym ni heddiw, ac am ei chyfres adeiladol o gwestiynau? Rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi datganoli seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a chafwyd dadl a phleidlais yn y Senedd yn ôl ym mis Chwefror 2019 a oedd yn galw am hynny. Felly, rwy'n credu fy mod i'n awyddus i sicrhau bod Plaid Cymru yn deall y pwynt hwnnw—mae hwnnw'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei gefnogi.

Fe ofynnodd hi, 'A wyf i'n credu bod Llywodraeth y DU yn deall yr angen i gyflawni yn ôl yr adroddiad hwn a'r brys i wneud hynny?' Wel, mae'n debyg bod y rheithgor yn myfyrio ar hynny, pe bawn i'n onest. Fel yr eglurais i, cyfrifoldeb a rennir yw hwn. Mae'n rhaid i'r ffaith nad ydyn nhw wedi rhoi ein cyfran deg i ni o ran buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd ers peth amser yn rhoi achos imi ofidio am hynny. Yn wir, dim ond wedi nodi cynllun ar gyfer gwerth £60 miliwn o welliannau rheilffordd am y 10 mlynedd nesaf y maen nhw, yn hytrach na'r gwerth o £5 biliwn y byddai gennym ni'r hawl i'w gael. Felly, rwy'n credu bod y galw arnyn nhw, mewn gwirionedd, i ddangos eu bod nhw'n deall y sefyllfa. Ac rydym wedi cael sgyrsiau adeiladol gyda'r Adran Drafnidiaeth a Syr Peter Hendy, fel rwyf i'n dweud. Felly, gadewch inni fod yn obeithiol mai dyna fydd yn digwydd.

Mae hi'n holi hefyd ynglŷn â'r rhwydwaith bysiau a'r pwerau angenrheidiol. Wel, mae yna lawer y gallwn ni ei wneud drwy ein Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau. Fe wnes i gyfarfod â phrif arweinwyr llywodraeth leol ledled Cymru'r wythnos hon i drafod cydweithio ar gyfer yr hyn yr ydym ni'n ei alw'n Gynllun Brys rhif 2 ar gyfer y Sector Bysiau, a chofrestru ar gyfer hwnnw. Ac roedd honno'n sgwrs gydsyniol a chalonogol tu hwnt. Mae yna ymgysylltu da iawn hefyd rhwng y diwydiant â ninnau. Felly, rydym ni'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i allu sicrhau bod yr holl bartneriaid wedi ymrwymo i fframwaith ar gyfer bwrw ymlaen â'r cyllid a threfnu diwydiant bysiau sy'n ein galluogi ni i gyflawni llawer o'r pethau yr oeddem ni'n bwriadu defnyddio'r ddeddfwriaeth i'w cyflawni. Nid yw'n bosibl erbyn hyn i basio'r gyfraith honno yn y tymor Seneddol hwn. Rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i ffordd arall o gyflawni llawer iawn, ond nid popeth, ac mae swyddogion yn drafftio deddfwriaeth bysiau pe byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn dymuno datblygu hynny. Ac yn sicr, pe byddem ni mewn sefyllfa i ffurfio Llywodraeth, yna fe fyddem ni'n sicr yn dymuno gwneud hynny, oherwydd mae yna fusnes heb ei orffen, sy'n angenrheidiol i gael system sy'n gweithio'n dda.

O ran y mecanweithiau llywodraethu—mae Helen Mary Jones yn gofyn—wel, fel y dywedais i, cyfrifoldeb a rennir yw hwn. A'i chwestiwn olaf hefyd, 'Pryd fydd pobl yn gweld newid?'—wel, fe allwn ni ymrwymo i'n rhan ni o hynny, ond mae'n amlwg ei bod yn ofynnol i eraill ymrwymo i'w rhan nhw hefyd. Felly, er enghraifft, cyfrifoldeb yr awdurdod priffyrdd lleol yw'r ffyrdd lleol yng Nghasnewydd. Nid oes gan Lywodraeth Cymru bŵer dros ffyrdd Casnewydd. Felly, y mesurau bysiau a'r mesurau teithio llesol—fe allwn ni roi cyllid ar eu cyfer nhw, fe allwn ni roi anogaeth iddyn nhw, fe allwn ni roi'r cymorth i'w cynllunio nhw, ond ni allwn eu cyflawni nhw heb gydweithrediad yr awdurdod lleol. Ac, wrth gwrs, hanes cymysg sydd wedi bod yn y degawdau diwethaf yng nghyngor Casnewydd o ran eu hagwedd nhw tuag at lonydd bysiau. Diddymwyd y lonydd bysiau'n llwyr gan y weinyddiaeth Geidwadol flaenorol yng Nghasnewydd. Felly, rwy'n deall bod amheuaeth ymysg y cyhoedd ynglŷn â hynny, ond mae'r weinyddiaeth bresennol hon yn gweithio gyda ni'n dda iawn, yn gadarnhaol iawn, ac yn sicr mae wedi ymrwymo i gyflawni gweledigaeth yr adroddiad hwn.

Felly, pryd fydd pobl yn gweld unrhyw newid? Wel, nid yn ein dwylo ni'n llwyr y mae hynny, ond rwy'n sicr yn gobeithio y bydd pobl yn gweld newid o fewn 18 mis i ddwy flynedd—dechrau'r prosiect—ond prosiect 10 mlynedd yw hwn ac fe fydd angen—yn sicr fe fydd angen—llawer o waith ar y mesurau rheilffordd ar lefel y DU. Ar ddiwedd y prosiect, rydym ni'n disgwyl gweld 80 y cant o'r bobl yn y rhanbarth o fewn milltir i safle trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel. Fe allai hynny drawsnewid sefyllfa dinas o faint Casnewydd, sydd wedi dioddef llawer gormod oherwydd ansawdd aer gwael, gyda phobl ar incwm is dan anfantais am nad oedden nhw'n gallu defnyddio trafnidiaeth yn hawdd, a chyfleoedd bywyd a chyflogaeth a oedd ar gael iddyn nhw oherwydd hynny. Felly, mae'r wobr am hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i lawer o fanion sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Mae hyn yn ymwneud â gwella bywydau pobl a'u cyfleoedd nhw mewn bywyd ac rwyf i o'r farn ei bod yn weledigaeth y gallwn ni i gyd ei choleddu.

15:40

Roedd yn dda clywed Helen Mary Jones yn cefnogi penderfyniad dewr Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r ateb cynaliadwy hwn ar gyfer mynd i'r afael â thagfeydd o amgylch Casnewydd, sy'n cael effaith sylweddol iawn ar bobl yng Nghaerdydd ac yn fy etholaeth i yn arbennig felly. Gan hynny, rwy'n croesawu'r cyfle yn fawr iawn i fod yn gatalydd ar gyfer y newid y mae'n rhaid i ni ei gael i gyflawni ein rhwymedigaethau ni o ran newid hinsawdd. Yn wir, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud hi'n ofynnol inni wneud ein holl benderfyniadau yng ngoleuni'r ffordd yr ydym ni'n mynd i'r afael â newid hinsawdd, gwella ansawdd aer, a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.

Felly, fe hoffwn i ganolbwyntio ar argymhelliad 1, sef yr un pwysicaf i mi. Uwchraddio'r rheilffyrdd rhwng y dwyrain a'r gorllewin rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt yw'r asgwrn cefn ar gyfer gweddill cynllun rhagorol Burns ar gyfer system drafnidiaeth gynaliadwy a chydgysylltiedig, sy'n golygu y gall pob dinesydd, fel yr oeddech chi'n dweud, fyw o fewn milltir i orsaf drenau neu daith fysiau trafnidiaeth gyflym ac fe allwn ni i gyd fynd i'r gwaith neu'r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac nid yn y car sy'n achosi llygredd.

Felly, nid yw dweud wrthym eich bod chi am weithio gyda Network Rail, Trafnidiaeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth yn dweud llawer mwy wrthym ni na'n hatgoffa ni o gapasiti meistri gwleidyddol yr Adran Drafnidiaeth i gerdded ymaith oddi wrth unrhyw ymrwymiadau a wneir, er enghraifft, ynglŷn â thrydaneiddio'r brif reilffordd y tu hwnt i Abertawe. Felly, rwy'n sylweddoli ein bod ni'n clywed awgrymiadau o hyd bod Prif Weinidog y DU yn parhau i fod yn frwdfrydig ynglŷn â'r hen syniad aneffeithiol o adeiladu ffordd liniaru o amgylch Casnewydd, nad yw'n cynnig unrhyw ddatrysiad o gwbl.

Felly, sut ydych chi'n credu y byddwch chi'n gallu cyflwyno, os hoffech chi, yr achos dros gefnogaeth i Gymru ar gyfer uwchraddio ei seilwaith yng Nghymru a esgeuluswyd mor ofnadwy yn y cyd-destun na chawn ni'r un ddimai o'r biliynau sy'n cael eu tywallt ar HS2? Siawns nad oes angen i Gymru gael rhywfaint o arian y DU a fydd yn cael ei wario ar lunio trafnidiaeth y dyfodol?

Wel, diolch i chi am eich sylwadau cefnogol. Mae'n hollol wir, pe byddai Llywodraeth y DU yn ddiffuant o ran ei rhethreg am godi lefel yn uwch, yna mae angen gweld y prawf am hynny yn ei hymateb i'r adroddiad hwn a'r buddsoddiad y mae'n barod i'w roi ynddo, a pharodrwydd Network Rail i flaenoriaethu'r llwybrau hyn. Fel yr oeddech chi'n dweud, argymhelliad rhif 1 yw'r un allweddol mewn gwirionedd o ran y rhwydwaith rheilffyrdd lleol, i wahanu'r gwasanaethau lleol ar gyfer cymudo oddi wrth y gwasanaethau rhwng dinasoedd, ac uwchraddio'r rheilffyrdd rhyddhad fel y gall y pedwar trac gael eu defnyddio hyd at gyflymder o 90 mya. Mae hwnnw'n amlwg yn ddarn sylweddol o waith ac fe fydd angen ei wneud fesul cam.

Ochr yn ochr â hynny, mae yna argymhelliad ar gyfer chwe gorsaf drên newydd. Mae gwaith wedi dechrau ar dair o'r rhain mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac fe fydd yna dair gorsaf arall newydd, yn ogystal â'r cyfle am ddau drên arall ar lein y Gororau o Fagwyr a Maesglas. Felly, gyda'i gilydd, mae hwn yn becyn sylweddol o seilwaith rheilffyrdd, sydd y tu hwnt i allu a grym ariannol Llywodraeth Cymru i'w gyflawni. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r uned ddatblygu o fewn Trafnidiaeth Cymru eisoes yn gweithio arno trwy gyfrwng achosion busnes a siarad â Llywodraeth y DU am ddatblygu hynny, fel y gall fynd drwy glwydi'r camau i gael cymeradwyaeth ariannol. Ond rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith na fydd yr adroddiad hwn, heb yr ymrwymiad hwnnw gan Lywodraeth y DU, yn gallu cyflawni'r potensial a nododd Arglwydd Burns a'r comisiynwyr ar gyfer trawsnewid y system drafnidiaeth gyhoeddus yn ninas Casnewydd.

15:45

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad? Un siom fach yn natganiad y Dirprwy Weinidog, y cyfeiriodd Helen Mary Jones ati, yw'r defnydd o'r geiriau, 'derbyn mewn egwyddor'. Nawr, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r adroddiad hwn ac wedi dewis y cadeirydd, mae'n syndod bod y geiriau hyn wedi eu defnyddio o gwbl. Serch hynny, ar wahân i'r feirniadaeth fechan honno, mae'n braf gweld ei bod yn sicr yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn gyfan gwbl i weithredu llawer o argymhellion yr adroddiad.

Nid oes unrhyw amheuaeth nad yw adroddiad Burns yn asesiad llawn a chynhwysfawr o'r problemau sy'n cael eu hachosi gan y tagfeydd yn nhwnnel Malpas, ac mae'n mynd yn ei flaen, yn ddoeth iawn, i ddisgrifio dull cyfannol o ddatrys y problemau sy'n parhau. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn iawn i nodi bod traffig lleol sy'n defnyddio'r M4 yn gwaethygu'r broblem yn fawr iawn. Rwy'n credu bod Arglwydd Burns a'i dîm yn iawn hefyd i argymell nifer o fesurau y dylid eu rhoi ar waith i sicrhau newid enfawr yn agweddau pobl tuag at deithio, sy'n golygu ein bod ni'n hepgor y car modur ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r adroddiad yn amlinellu, ymhlith pethau eraill, agor gorsafoedd rheilffordd newydd a chanolfannau bysiau newydd. O gofio bod bysiau'n cario llawer mwy o deithwyr na threnau, rwyf i o'r farn mai blaenoriaeth bennaf y Dirprwy Weinidog ddylai fod sicrhau cysylltedd y bysiau. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa gynigion sy'n cael eu cyflwyno i wella gwasanaethau bysiau yng Nghasnewydd a'r cylch ar unwaith?

Os ydym yn awyddus i sicrhau'r newid enfawr yn y defnydd cyffredinol o geir, mae'n hanfodol nid yn unig bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch, ond mae'n rhaid i hynny fod yn gost-effeithiol hefyd. Yn wir, mae'n rhaid i brisiau fod mor isel fel eu bod yn llawer mwy cystadleuol yn hytrach na defnyddio'r car. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi unrhyw syniad inni am y strategaethau prisio, yn enwedig yn y tymor byr?

Rydym wedi cyfeirio at— 

Siŵr iawn. Mae gennym ni—[Anghlywadwy.]—gynnig trafnidiaeth gyhoeddus cyflym ac effeithlon. O ystyried yr oedi anghyffredin a welsom ni o ran gweithredu'r prosiect trafnidiaeth hynod bwysig hwn, ni allwn ni ond dymuno'n dda i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth—

Diolch yn fawr iawn. Gallaf roi tawelwch meddwl i David Rowlands nad oes unrhyw amwysedd wrth ddefnyddio'r term 'derbyn mewn egwyddor'; y ffaith amdani yn syml yw mai gweledigaeth 10 mlynedd yw hon ac efallai y bydd angen ystwytho'r manylion i ryw raddau wrth i'r agweddau ymarferol gael eu harchwilio wrth fynd ymlaen, ac nid lleiaf gan fod yna brosesau statudol i fynd drwyddynt, y mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth ynddynt, ac mae'r cyfreithwyr yn gofyn imi fod yn ofalus yn yr hyn a ddywedaf. Ond fe allaf i eich sicrhau chi bod ein cefnogaeth ni'n gadarn ac yn sylweddol i'r weledigaeth a nodir, ac rydym wedi ymrwymo i weithio drwy'r manylion, i'w rhoi nhw ar waith ac ychwanegu cymaint ag y gallwn ni ati. Ac yn sicr, fel y dywedais i, mae 'Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru' wedi cymryd y weledigaeth hon a'i chwyddo hi ar gyfer Cymru gyfan, felly rydym ni'n sicr yn gobeithio—. A'r cwestiwn y mae ef yn ei godi am fforddiadwyedd defnyddio bysiau, mae hwnnw'n sicr yn gwestiwn allweddol ar gyfer cyflawni newid moddol, i berswadio pobl i adael eu ceir gartref a defnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth ar gyfer eu teithiau dyddiol, oherwydd, yn amlwg, fforddiadwyedd yw un o'r mesurau hynny. Felly, os na wnawn ni sicrhau bod system drafnidiaeth gyhoeddus yn ddeniadol—ac mae yna lawer ffordd o'i gwneud yn ddeniadol, a dyna un ohonyn nhw'n sicr—yna ni chaiff y weledigaeth hon ei chyflawni, mae hynny'n sicr.

O ran mesurau bysiau, rwy'n cytuno ag ef; rwyf eisoes wedi dweud fy mod i'n rhagweld y bydd un o'r mesurau cyntaf a gymerwn ni'n ymwneud â rhoi blaenoriaeth i fysiau. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gwneud gwaith modelu, gan ystyried, er enghraifft, yr achosion pennaf pam mae teithwyr ar fysiau yn colli amser yn y boreau. Rwyf wedi cael cyflwyniad diddorol gan y rhai fu wrthi'n gweithio ar y modelu sy'n dangos yn gwbl eglur fod yna dair tagfa wahanol ar gyfer bysiau yng Nghasnewydd yn y boreau, lle mae teithwyr bysiau'n eistedd yn aros yno am eu bod yn cael eu dal mewn traffig, ac rwy'n credu y byddai edrych ar bob un o'r tair tagfa yn flaenoriaeth yn ogystal â gweld sut y gallwn ni greu rhai mesurau ar gyfer rhoi'r flaenoriaeth ar y ffordd i ganiatáu i fysiau symud yn rhydd, i annog pobl i neidio ar y bws yn lle neidio i gar.

Felly, mae hwnnw'n ddarn systematig o waith yr ydym ni'n dechrau ei gyflawni o fewn Trafnidiaeth Cymru, ac mae gwaith wedi dechrau ar hynny eisoes, ond fel y dywedais i, mae angen i'r Cyngor weithio gyda ni, gan fod yn barod i wneud penderfyniadau lleol i wneud y newidiadau hyn yn rhai sy'n bosibl yn ymarferol. Rwy'n sicr yn credu, fel bob amser, mai peth digon hawdd yw nodi'r weledigaeth ar gyfer y pethau hyn; ond y gamp yw ei darparu'n gyflym, ei hariannu, a mynd â phobl ar y daith gyda chi. Ac nid wyf yn bychanu'r her sydd o'n blaenau ni wrth fwrw ymlaen â hyn, yn enwedig o ystyried yr heriau yn yr ardal a amlinellais i eisoes, ond mae'n gwbl bosibl ac mae'r wobr yno i bawb ei gweld. O ystyried yr heriau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd ac wrth adfywio'r economi leol yn wyneb y dirwasgiad hwn, yna mae hon yn flaenoriaeth sy'n hanfodol i bob un ohonom ei symud ymlaen.

15:50

Diolch. A gaf i atgoffa'r siaradwyr mai un funud sydd ganddyn nhw i ofyn cwestiwn i'r Dirprwy Weinidog? Ac mae'n ddigon tebyg os mai dim ond funud sydd ganddyn nhw, Dirprwy Weinidog, y bydd eich atebion chi'n fyrrach wedyn. Diolch. Rhianon Passmore.

Fel rydych chi'n sylweddoli, mae Casnewydd, sef yr unig ddinas yng Ngwent, yn ganolbwynt gwirioneddol i gymunedau Cymoedd Gwent yr wyf i'n eu cynrychioli yn Islwyn, ac rwy'n croesawu'n fawr iawn ymateb cadarnhaol Llywodraeth Cymru i argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac mae yna hen ddisgwyl nawr am y rheilffordd y mae croeso mawr iddi yng Nghasnewydd. Felly, mae'n gwbl hanfodol heddiw bod y DU yn dod gerbron ac yn chwilio am gyfle i godi lefel yn uwch, oherwydd mae'n peri pryder cynyddol nad yw Cymru'n cael yr hyn sy'n ddyledus iddi, ac mae'n dorcalonnus gweld y duedd hon yn parhau hefyd yn y diwydiant hedfan pan gafodd Maes Awyr Bryste, yr wythnos hon, £8 miliwn gan Lywodraeth y DU i'w gefnogi ond ni chafodd Caerdydd ddim byd o gwbl.

Felly, y cwestiwn, ac fe af i'n syth ato: a wnaiff y Dirprwy Weinidog gytuno bod angen inni weld Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn llawn a theg yn rhwydwaith ein rheilffyrdd ni? Cafodd ffigur o £5 biliwn ei ddatgan heddiw i wneud trafnidiaeth gyhoeddus integredig ledled Gwent yn addas at y diben yn yr unfed ganrif ar hugain. A sut all cymunedau Islwyn ymgysylltu â'r broses bwysig iawn hon yn y ffordd orau wrth symud ymlaen, a beth yw'r trawsnewidiadau y gallai hyn eu cyflwyno i fywydau dinasyddion ym mhob rhan o Islwyn?

Diolch i chi am hynny. Mae Rhianon Passmore yn iawn i dynnu sylw unwaith eto at y penderfyniad anghyfiawn gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hedfan, sy'n rheswm ychwanegol pam mae angen iddyn nhw ddod i'r adwy o ran y pecyn hwn i ddangos eu bod nhw yr un mor ymrwymedig i godi lefel yn uwch ym mhob rhan o'r DU ag y maen nhw'n ei honni.

I ateb cwestiwn Rhianon Passmore, fel y dywedais i, yn sicr fe fydd 80 y cant o bobl o fewn ffiniau Casnewydd ei hunan o fewn milltir i safle trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel o ganlyniad i'r cynigion hyn, ond fe fydd yna fanteision i gefnwlad yn ogystal â Chymoedd Gwent yn rhan o hynny. Mae rheilffordd Glynebwy, y gwn ei fod yn fater y mae hi'n pwyso'n gyson ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy o'i herwydd, yn rhan bwysig o hynny. Rydym ni'n gobeithio y bydd gennym amserlen newydd eleni gyda gwasanaethau cyn belled â Phont-y-Cymer. Ni allwn fynd y tu hwnt i Bont-y-Cymer heb fuddsoddiad ac ymyrraeth gan Network Rail a Llywodraeth y DU, felly dyna enghraifft arall lle mae angen iddyn nhw ei 'siapo hi', chwedl fy mam-gu, ond rydym yn gobeithio gweld pedwar trên yr awr ar y lein honno, ac mae hynny'n sicr yn rhan o weledigaeth ehangach Burns.

15:55

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu llawer o'r cynigion yn yr adroddiad hwn, yn benodol er mwyn pobl Casnewydd, a'r gwelliannau a argymhellir i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn arbennig felly, ynghyd â'r gorsafoedd newydd a gynlluniwyd a'r coridorau bysiau cyflym newydd ledled y rhanbarth a fydd yn cysylltu ag asgwrn cefn y rheilffordd. Rwy'n cydnabod y bydd y rhain o fudd er mwyn lleihau maint y traffig ar yr M4. Serch hynny, fel y dywedwyd eisoes, ni all ddisodli ffordd liniaru'r M4—ffordd liniaru'r M4 y gwnaethoch chi anghofio, yn gyfleus iawn, fod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu miliynau ar filiynau o bunnoedd arni, ac eto nid oes datrysiad na ffordd i'w gweld.

Mae Llafur Cymru wedi methu'n gyson â chael datrysiad i broblem tagfeydd yr M4, gan dorri'r ymrwymiad yn ei maniffesto wrth wneud hynny. Er gwaethaf 20 mlynedd o drafodaeth ac ymgynghoriad, ni lwyddwyd i gael ateb ymarferol hyd yn hyn. Wrth i Lywodraeth Cymru din-droi a rhoi'r cynllun o'r neilltu, fe gynyddodd maint y traffig ar yr M4 yn gyflym. Fe fydd perfformiad rhwydwaith ffyrdd a thrafnidiaeth Cymru yn alluogwr hanfodol ar gyfer cynnal cynhyrchiant a chystadleurwydd. Onid ydych chi'n cytuno â mi y dylid gweithredu llawer o'r cynigion hyn yn gyfochrog â ffordd liniaru i'r M4 er mwyn sicrhau'r gostyngiad mwyaf posibl mewn traffig a dod â'r budd economaidd mwyaf posibl i'r rhanbarth? Mae eich seilwaith trafnidiaeth—

—yn cefnogi cynhyrchiant Cymru, felly nid mater yw hwn o ofyn a allwn ni fforddio adeiladu ffordd liniaru'r M4 hefyd, ond a allwn ni fforddio peidio â gwneud hynny.

Mae Laura Anne Jones yn dweud wrthym nad oes yna ateb ymarferol wedi cael ei gyflwyno, a dyma ni yn trafod ateb ymarferol a gyflwynodd comisiwn o arbenigwyr ar gynllunio trafnidiaeth. Mae gennym ni lasbrint ymarferol am y 10 mlynedd nesaf, felly nid oes syniad gennyf beth mae hi'n ceisio ei ddweud pan ddywed nad oes ateb ymarferol wedi ei gyflwyno. Dyna'n union yr ydym yn siarad amdano, Laura Anne.

Mae hi'n dweud na all hyn ddisodli ffordd liniaru i'r M4. Mae hynny'n hollol gywir; nid yw hyn yn disodli ffordd liniaru i'r M4. Fe wnaethom ni ganslo ffordd liniaru'r M4 oherwydd (a) byddai'n costio £2 biliwn, ac rwyf newydd ddweud bod Llywodraeth y DU wedi ein hamddifadu ni eisoes o £5 biliwn ar gyfer seilwaith rheilffyrdd, felly—. Rwy'n ei chlywed yn mwmian draw fan acw, ond nid yw wedi dangos inni o ble y daw'r £2 biliwn dychmygol hwn a hynny oherwydd nad yw ar gael. A hyd yn oed pe byddai ar gael, fe fyddai'n mynd yn erbyn yr holl ymrwymiadau a wnaethom ni ar sail drawsbleidiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Ni allwch sefyll wrth y goeden Geidwadol a dweud mai chi yw'r blaid werdd ac yna mynnu, ar yr un pryd, ein bod ni'n gwneud pethau a fydd yn torri ein hymrwymiadau carbon ni. Mae hwn yn gynnig gwahanol: un sy'n mynd i'r afael â thagfeydd. Fe fydd yn costio hanner y swm o arian y byddai ffordd ddrudfawr drwy wlyptir gwerthfawr yn ei wneud, ac mae'n helpu i leihau allyriadau, nid eu cynyddu nhw.

Gweinidog, rydych chi'n cwyno nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ariannu unrhyw beth a bod £2 biliwn am ffordd liniaru'r M4 yn rhy ddrud, ond fe gafwyd nifer o awgrymiadau o gwmpas Llywodraeth y DU y gellid defnyddio'r gronfa ffyniant a rennir, yn wir y Bil marchnad fewnol, ar gyfer hyn. Os oes cyfle i gael i fyny at £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i ymdrin â'r tagfeydd ac ysgogi ein heconomi ni gyda ffordd liniaru i'r M4, siawns na ddylem ni neidio at y siawns honno.

A gaf i, serch hynny, ofyn i'r Gweinidog fynegi ein gwerthfawrogiad ni i Arglwydd Burns a'i dîm am eu gwaith nhw ar sail drawsbleidiol ar draws y Senedd? Roeddwn i'n amau ar y dechrau mai dim ond ffordd oedd hon i'r Gweinidog osgoi beirniadaeth am nad oedd yn gwneud dim ynglŷn â ffordd liniaru'r M4. Ond mae hwn wedi bod yn gorff sylweddol o waith ac fe gefais i fy siomi ar yr ochr orau gan nifer o'r argymhellion sydd ynddo.

O ran y gwaith ar y rheilffordd, a yw hwnnw'n fater o gael popeth neu ddim o gwbl neu a allwn ni gael rhai gwelliannau hyd yn oed os na fyddwn ni'n cael pob un ohonyn nhw? Er enghraifft, beth sy'n digwydd ynglŷn â gorsaf parcffordd Caerdydd? Pryd fydd honno'n cael ei chyflawni, a'r ddwy arall hefyd lle mae'r gwaith wedi dechrau eisoes? Rwy'n atgoffa'r Gweinidog: onid oedd y comisiwn hwn yn ymwneud â'r hyn y gellid ei wneud â'r arian nad oeddech chi'n ei wario ar ffordd liniaru'r M4, neu gyfran sylweddol ohono? Felly, pam ydym ni'n clywed yr ateb, 'O wel, rhywbeth i'w ariannu gan Lywodraeth y DU yw hwn'? Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'i ddatganiad y dylai Llywodraeth y DU fod yn rhoi mwy o gyllid yng Nghymru i'r seilwaith rheilffyrdd, ond a wnaiff ef roi sicrwydd i mi na fydd yn defnyddio hynny'n esgus i beidio â symud ymlaen yn y maes hwn? Oherwydd fe fyddai'r rheilffordd liniaru hon, gyda chwe gorsaf yn gweithio gyda'i gilydd, a chael gwasanaeth yn stopio ym mhob un gorsaf, rwy'n credu y byddai hynny o fudd gwirioneddol i economi'r de.

Rwy'n gwerthfawrogi sylwadau Mark Reckless ynghylch natur sylweddol y swm o waith a wnaed wrth lunio'r adroddiad, sy'n deilwng o barch a chefnogaeth ar draws y Siambr rithwir.

O ran ariannu hyn, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd, sy'n gyfran fawr o gynnwys yr adroddiad—ar wahân i reilffyrdd canol y Cymoedd, a ddatganolwyd i Lywodraeth Cymru erbyn hyn. Rydym ni'n amcangyfrif bod cost rhoi adroddiad Burns ar waith yn golygu rhwng £500 miliwn ac £800 miliwn, ac rydym ni'n amcangyfrif bod tua £0.5 biliwn o hwnnw'n wariant i Lywodraeth y DU ar y rheilffordd. Mae hwn yn arian a danfuddsoddwyd ers blynyddoedd, fel y soniais eisoes. Felly, o ystyried y dylem fod yn cael £5 biliwn, ni ddylai £0.5 biliwn fod yn gais afresymol, ac nid y rheswm lleiaf yw y byddai'n cyflawni'r agenda o godi lefel yn uwch y mae Llywodraeth y DU yn sôn amdani.

Fe soniodd ef hefyd am y gronfa ffyniant a rennir, ond rwy'n credu bod ganddo fwy o ffydd nag sydd gen i fod honno'n mynd i gyflawni unrhyw beth, oherwydd hyd yn hyn, bedair blynedd neu fwy ers y refferendwm, rydym yn dal i aros i weld sut fath o beth yw'r gronfa ffyniant a rennir. Felly, nid wyf i'n credu y gallwn ni seilio ein gobaith ar y gronfa honno o ran y prosiect hwn, a hyd yn oed pe byddai gennym £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i ariannu ffordd liniaru'r M4, y datrysiad anghywir fyddai hwnnw. Rydym wedi datgan argyfwng newid hinsawdd ac nid adeiladu priffordd fawr sy'n cynhyrchu llygredd drwy wlyptiroedd gwarchodedig fyddai'r peth priodol i'w wneud.

Nawr, fel y dywedais i, y peth buddiol am adroddiad Burns yw ei fod wedi edrych o'r newydd ar y broblem o safbwynt lleihau carbon, ac wedi cyflwyno ffyrdd ymarferol o wella cysylltedd, gwella'r economi leol, ond heb effaith niweidiol cynllun sy'n creu ac yn cynyddu traffig. Felly, rwyf i o'r farn ein bod ni'n cael y gorau o ddau fyd. Mae angen inni fwrw ymlaen nawr â'i gyflawni, a dim ond mewn partneriaeth y gallwn ni wneud hynny.

16:00

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Sylwaf fod agwedd fawr ar gynllun Burns yn gofyn am fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU; mae hynny wedi codi nifer o weithiau y prynhawn yma. O gofio nad yw'r tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru gan Lywodraeth y DU yn dangos unrhyw arwydd o leihau, beth fyddai'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud yw'r cynllun wrth gefn os gwrthodant ddarparu'r arian y mae arnom ni ei angen? Roeddwn yn falch o'ch clywed yn dweud wrth fy nghyd-Weinidog Helen Mary Jones fod Llywodraeth Cymru nawr yn cefnogi datganoli'r seilwaith rheilffyrdd yn llawn, a gwn ichi ddweud yn gynharach eich bod eisiau bod yn gadarhaol, Dirprwy Weinidog, ond i fod yn realistig, os bydd Llywodraeth y DU yn parhau'n anhyblyg, a fyddech yn cytuno y byddai gan reilffyrdd Cymru ddyfodol mwy disglair fel ased cwbl wladoledig i Gymru annibynnol?

Wel, gallaf gytuno â rhywfaint o hynny, ond rwy'n credu eich bod yn mentro'ch lwc ar y cyfan. [Chwerthin.] Yn sicr, mae'n wir fod pethau y gallwn ni fod yn bwrw ymlaen â nhw wrth i ni wneud y gwaith gyda Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth ar y broses cynllunio rheilffyrdd. Fel y dywedais, rydym ni wedi dechrau'r gwaith hwnnw eisoes, ac o'r chwe gorsaf newydd y mae Burns yn eu nodi, mae tri ar y gweill. A Mark Reckless, mae'n ddrwg gennyf, anghofiais grybwyll hyn. Soniodd am orsaf Parkway Caerdydd, sy'n datblygu gyda'n cefnogaeth ni. Hefyd, o ran y mesurau teithio llesol, mae hynny hefyd yn rhywbeth sydd o fewn ein rheolaeth a'n bod yn cynyddu buddsoddiad yn sylweddol er mwyn gallu cyflawni hynny. Rwy'n awyddus iawn i weld llwybr o Gaerdydd i Gasnewydd yn cael ei ddarparu'n fuan yn rhan o'r gwaith teithio llesol hwnnw. Ond yn y pen draw, fel y mae Delyth Jewell yn sôn, mae hyn angen y DU. Rhwydwaith rheilffyrdd y DU yw hwn. Nid yw wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, yr ochr seilwaith ohono, ac felly mae angen iddyn nhw wneud eu rhan i sicrhau bod pobl o'r rhan hon o'r DU yn cael eu gwasanaethu'n dda gan ein rhwydwaith rheilffyrdd cyfunol.

Mae llawer o gamau gweithredu da wedi'u hawgrymu gan yr Arglwydd Burns a fydd yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru gyda phartneriaid, Dirprwy Weinidog. Gwyddoch, er enghraifft, fod gan yr orsaf reilffordd newydd ym Magwyr gefnogaeth gymunedol dda iawn a'i bod wedi'i chyflwyno ers cryn amser. Felly, credaf fod hynny'n addawol iawn, iawn, a'r gorsafoedd newydd yn Llanwern a Somerton yn yr un modd. Croesawaf hefyd y cynigion ar gyfer Cyffordd Twnnel Hafren, gyda gwell gwasanaethau trafnidiaeth cydgysylltiedig a mynediad i fysiau, a hefyd y cyswllt rhwng yr M48 a'r B4245 y mae hen ddyheu amdano, a fyddai'n lliniaru llawer o dagfeydd ar y ffyrdd drwy bentrefi Magwyr a Gwndy.

Mae llawer a fydd yn werthfawr iawn, ond, yn amlwg, mae angen i ni gyflawni hynny, ac rwy'n derbyn y pwynt a wnaethpwyd o ran a oes gennym ni ddigon o ewyllys da o du Llywodraeth y DU o ran y brif linell a'r llinellau lliniaru, a gobeithiaf yn fawr y gwelwn hynny'n dod i law. Ond o ran y materion hynny sydd o fewn ein rheolaeth fwy uniongyrchol, mae bysiau yn amlwg yn bwysig iawn, ac mae pwyntiau wedi'u gwneud am nifer y bobl sy'n teithio ar fws a'r cyfleoedd cynnar gyda blaenoriaethu bysiau ac yn y blaen. A wnewch chi roi ystyriaeth ofalus iawn, o ran bysiau a sut yr ydym ni'n symud pethau ymlaen, Dirprwy Weinidog, i gynllun treialu teithio am ddim ar fysiau yng Nghasnewydd, a fyddai, yn fy marn i â llawer o rinweddau? Byddai'n arwydd cynnar iawn o fwriad, a chredaf y byddai'n dal dychymyg a chefnogaeth pobl leol.

16:05

Rwy'n sicr yn fodlon ystyried y cynnig hwnnw. Wrth gwrs, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghasnewydd yw cyflwyno cynllun i dreialu ein prosiect bysiau sy'n ymateb i'r galw yno—rydym yn ei alw'n Fflecsi—ac mae hynny wedi'i adeiladu ar fodel profedig o ddarparu rhwydwaith bysiau ar alwad i bobl, os mynnwch chi. Mae hynny eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y rhannau o Gasnewydd lle'r ydym ni wedi rhoi cynnig arni. Yn wir, mae'r galw wedi mynd y tu hwnt i'n gallu i ymdrin ag ef, ac o ganlyniad rydym yn ei gynyddu. Felly, yn sicr, mae hwnnw'n brosiect yr hoffem ei gyflwyno i rannau eraill o Gymru, ac rydym yn ei dreialu mewn gwahanol gymunedau a gwahanol leoliadau mewn rhannau eraill o Gymru. Casnewydd yw'r lle yr ydym ni'n ei wneud ar y raddfa fwyaf, ac rwy'n sicr yn credu y gallai hynny fod yn ategiad gwych i'r rhwydwaith bysiau presennol. Y dystiolaeth hyd yma yw ei fod yn ysgogi cwsmeriaid newydd i ddefnyddio'r rhwydwaith bysiau—pobl na fydden nhw fel arall wedi ystyried dal y bws yn draddodiadol. Felly, mae'n ymddangos ei fod yn brosiect addawol iawn.

Mae John Griffiths yn sôn am amrywiaeth o orsafoedd lleol yn rhan o weledigaeth Burns, yn enwedig yr orsaf gerdded ym Magwyr, y byddaf yn ei thrafod gyda'r awdurdod lleol yn fuan, yn ogystal â'r prosiectau eraill sy'n adlewyrchu'r cymunedau yng Ngwndy a Maesglas a rhannau eraill o'r ardal. Nid oes amheuaeth na fydd y ddinas gyfan a'r bobl ynddi yn elwa ar yr ystod o wahanol gynigion yn hyn o beth ac, a dweud y gwir, y math o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern, na ddylai fod yn ddim byd arbennig mewn gwirionedd. Dylai hyn fod y safon ar gyfer dinas fel Casnewydd, ac nid ydym ni, dros gyfnod rhy hir, rwy'n credu, wedi buddsoddi mewn bysiau yn arbennig, gan sicrhau bod dewis realistig arall yn lle'r car.

Rwy'n gwybod bod amser yn brin, felly byddaf yn gryno. A gaf i ofyn i chi, Dirprwy Weinidog, am y gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus yr ydych chi wedi sôn amdanyn nhw? Mae'n dda clywed am y cynnydd arfaethedig yn nifer y gorsafoedd yng Nghasnewydd, ond, wrth gwrs, dim ond pan fydd gennych chi reilffordd y mae'r cynnydd yn nifer y gorsafoedd yn gweithio. Dau gwestiwn ar sail hynny: yn gyntaf oll, a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer rheilffordd Casnewydd i Henffordd, ar gyfer unrhyw gynnydd yn nifer y gorsafoedd yno, neu rywfaint o gynnydd mewn capasiti? Oherwydd, wrth gwrs, mae honno'n gwasanaethu ardal Casnewydd a byddai'n cludo cymudwyr.

Yn ail, yn nwyrain fy etholaeth, nid oes rheilffyrdd ac ni fu ers 60 neu 70 mlynedd. Felly, ar wahân i'r car, bydd yn rhaid cael gwelliannau eraill i drafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf wedi holi'r Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth o'r blaen am y posibilrwydd o ganolfan yn y Celtic Manor, yn y ganolfan gynadledda newydd. A yw hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried? Oherwydd heb unrhyw un o'r newidiadau hynny yn fy etholaeth i, bydd yn rhaid i'm hetholwyr barhau i deithio mewn car ac achosi tagfeydd o amgylch Casnewydd.

Dyna pam mae strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru mor bwysig, oherwydd mae'n cynnig yr holl fathau hyn o ddewisiadau, a byddant yn wahanol i wahanol gymunedau. Felly, rwy'n credu bod y rhwydwaith sy'n ymateb i'r galw a grybwyllais, yn enwedig ar gyfer ardaloedd fel eich un chi, Nick Ramsay, nad oes ganddi seilwaith rheilffyrdd cynhenid, yn ffordd o gael pobl allan o geir a symud pobl o gwmpas yn y tymor cymharol fyr. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei gynyddu a'i gyflwyno'n gyflym. Felly, yn sicr, ar sail y llwyddiant yng Nghasnewydd, byddem eisiau cyflwyno hynny i gymaint o gymunedau â phosib. O ran y cwestiwn penodol y mae'n ei ofyn i mi am orsafoedd o Gasnewydd i Henffordd, bydd yn rhaid imi ysgrifennu ato am hynny, ond mae hon yn agenda a fydd yn cynyddu. Po fwyaf y cymorth sydd ar gael i wella gwasanaethau a seilwaith, y mwyaf y gallwn i gyd awgrymu gwelliannau yn ein hardaloedd ein hunain i roi'r egwyddorion hyn ar waith.

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog hefyd. Sylwaf fod y Llywodraeth yn derbyn yr argymhelliad i reilffordd Cwm Ebwy gynyddu i un â phedwar trên yr awr a byddwn yn ddiolchgar am gael syniad o amserlen hynny. Hoffwn ddeall hefyd beth yw gweledigaeth y dyfodol ar gyfer y rheilffordd, oherwydd pan gafodd ei chreu a phan gafodd ei hadfer a'i hagor, roedd yn wasanaeth rhyngdrefol yn cysylltu blaenau'r Cymoedd â chanol y ddinas yng Nghaerdydd. Mae perygl gwirioneddol gyda rhai o'r cynigion yn yr adroddiad hwn y bydd yn dod yn wasanaeth maestrefol sy'n cysylltu Caerdydd â Chasnewydd, a byddai hynny'n broblem wirioneddol i ni o ran cael ateb rhanbarthol. Po fwyaf o orsafoedd sydd, y mwyaf yw'r amser teithio, a chredaf fod angen inni gael sgwrs am hynny.

Yr ail fater yr oeddwn eisiau ei grybwyll yw bysiau rhanbarthol. Rydym ni eisoes wedi trafod rhyng-gysylltedd ac integreiddio gwahanol wasanaethau, ond mae angen i ni sicrhau bod gennym ni ddull rhanbarthol o ymdrin â hyn. Ni fydd cysylltu Caerdydd â Chasnewydd yn unig yn ddigon i ddatrys y problemau, ac mae hynny'n golygu llywodraethu ar lefel ranbarthol, mae gennym ni'r gallu i drefnu llwybrau bysiau ar lefel ranbarthol, mae gennym ni'r gallu i sicrhau bod gennym ni system docynnau bws a thrên, a'r gallu i sicrhau bod pobl yn symud yn rhwydd o un math o drafnidiaeth i'r llall. Diolch.

16:10

Cytunaf yn llwyr â'r sylw olaf yna, a dyna pam mae'n bwysig ein bod ni, drwy greu'r cydbwyllgorau trafnidiaeth, yn cynllunio ein rhwydwaith bysiau ar sail ranbarthol, fel y gellir gosod a chyflawni'r cysylltiadau hyn. Fel y dywedais, cefais sgwrs galonogol iawn gydag arweinwyr llywodraeth ranbarthol a llywodraeth leol yn gynharach yr wythnos hon ynghylch cefnogi'r weledigaeth honno. Credaf ein bod ni eisoes wedi cyhoeddi gwelliant yn y gwasanaeth rhanbarthol yn etholaeth Alun Davies, gan ddefnyddio rhwydwaith TrawsCymru i gysylltu ag ysbyty newydd y Faenor. Felly, rwy'n credu bod rhai pethau yr ydym ni eisoes wedi'u cyflawni yn hynny o beth ac rwy'n credu ein bod yn rhoi'r strwythur ar waith er mwyn gallu cyflawni mwy.

O ran ei sylw am rwydwaith maestrefol a'r angen i gysylltu Glynebwy yn arbennig â Chaerdydd ac â Chasnewydd, bwriad gwelliannau rheilffordd Glynebwy yn sicr yw y byddant yn gwneud y ddau beth yna—y bydd y gwelliant yr ydym ni'n gobeithio ei weld eleni i Crosskeys yn mynd i Gasnewydd, lle mae'r gwasanaeth presennol yn mynd i Gaerdydd. Wrth inni gynyddu i bedwar gwasanaeth, byddant yn gwasanaethu'r ddwy ddinas. Ond mae ei ddadl yn un gref ac yn un y credaf y bydd angen i ni barhau i'w gwyntyllu er mwyn sicrhau, wrth i ni wella a mireinio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ei fod yn gweithio i bob cymuned.

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau

Mae eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o siarad â'r Aelodau heddiw am lansio ein Papur Gwyn, sy'n cynnig cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd i Gymru. Fel y gŵyr yr Aelodau, lansiwyd y Papur Gwyn yr wythnos diwethaf ochr yn ochr â datganiad ysgrifenedig, ond teimlwn hefyd ei bod hi'n bwysig eich annerch chi'n uniongyrchol a rhoi cyfle ar gyfer sylwadau a chwestiynau ar y maes pwysig hwn.

Gwn fod hwn yn fater o bwys mawr i'r Aelodau, fel y dengys y cwestiynau a'r dadleuon niferus a heriol a gawsom ni ar y pwnc hwn eisoes yn y fan yma. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno y dylai'r pwnc hwn fod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth. Er mwyn inni gyflawni'r weledigaeth hon yn llwyddiannus yn gyflym, credaf yn wirioneddol fod yn rhaid i hon fod yn weledigaeth gyffredin sy'n croesi llinellau gwleidyddol pleidiol. Rwyf hefyd yn falch o gynnig sesiwn friffio dechnegol gan fy swyddogion i'r holl Aelodau gan fod hwn yn faes technegol a chymhleth ac rwyf eisiau sicrhau bod ein cynigion yn glir ac yn cael eu deall yn iawn.

Fel y soniais yn fy natganiad ysgrifenedig, mae'r newidiadau a nodwyd gennym ni yr wythnos diwethaf yn gam sylweddol ymlaen yn ein cynlluniau i wella diogelwch adeiladau. Mae cwmpas y gyfundrefn yn helaeth. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau sicrhau mai diogelwch yw'r brif ystyriaeth ar bob cam o gylch oes adeilad a bod yr holl adeiladau sydd â sawl preswylydd yn dod o dan y mesurau newydd y mae ein cyfundrefn yn bwriadu eu rhoi ar waith. Mae'r mesurau diogelwch y bwriadwn eu cyflwyno yn eang eu cwmpas, ond maen nhw hefyd yn gymesur, a chredwn eu bod wedi'u teilwra'n briodol i'r gwahanol gategorïau adeiladu a fydd yn dod o fewn y cwmpas.

Yn hollbwysig, rhaid i'r newidiadau hyn weithio i breswylwyr. Gan mai nhw yw y rhai a fydd yn elwa ar y diwygiadau hyn yn y pen draw, rwyf yn arbennig o awyddus i glywed eu barn. Rwyf wedi cyfarfod ac wedi gohebu â llawer o drigolion ar y materion sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd diffygion yn yr adeiladau presennol, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond mae'n bwysig hefyd ein bod yn ceisio eu barn ar newidiadau ar gyfer y dyfodol; mae profiad personol trigolion yn hanfodol i'n helpu i ddod o hyd i'r atebion cywir. Er mwyn helpu i sicrhau bod cymaint o breswylwyr â phosib yn ymateb i'n hymgynghoriad, rydym ni wedi cyhoeddi amrywiaeth o ddogfennau a deunyddiau ategol, megis y fideo yr oeddwn yn gobeithio ei chwarae, Dirprwy Lywydd, ond nid yw hynny wedi bod yn bosib—byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau serch hynny—a fersiwn gryno a hawdd ei darllen o'r Papur Gwyn. Rwyf eisiau sicrhau bod pawb sydd â diddordeb neu y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnyn nhw yn gallu eu gweld a'u deall, a rhannu eu barn â ni.

Ailadroddaf fy nymuniad hefyd i weld cymaint â phosib o'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws y diwydiant a'r sector tai yn ymateb i'n hymgynghoriad. Bydd swyddogion yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ac yn siarad â phawb sydd â diddordeb am ein cynigion drwy gydol y cyfnod ymgynghori i'n helpu i gael cynifer o ymatebion â phosib. Rwy'n sylweddoli ei fod yn gyfnod prysur iawn i lawer, wrth i ni barhau i chwilio am ffordd drwy'r heriau a gyflwynir gan COVID-19, ond rhaid inni beidio â cholli golwg ar ein nodau hirdymor. Os yw'r rhain i gael eu gwireddu, mae gofyn i ni weithredu a'u hystyried nawr. Er bod cyhoeddi'r Papur Gwyn hwn yn garreg filltir bwysig, mae llawer mwy o waith i'w wneud ac mae angen cefnogaeth a mewnwelediad ein holl bleidiau arnom ni i'n helpu i ddod i'r ateb cywir ar gyfer Cymru a sicrhau bod ein cartrefi'n ddiogel. Diolch.

16:15

Hoffwn ddweud ar goedd ein bod ni, mewn egwyddor, yn cefnogi'n fawr y gwaith o gyflwyno Bil a fydd mewn gwirionedd yn sicrhau y gall ein trigolion deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ac na fyddwn ni byth, byth yn dyst i ddim byd eto fel trychineb Grenfell. Fel y mae'r Fonesig Judith Hackitt wedi'i gwneud yn glir, mae angen ailfeddwl yn radical am y system gyfan a sut mae'n gweithio. Mae hi wedi disgrifio'r sefyllfa hon fel:

ras i'r gwaelod a achoswyd naill ai drwy anwybodaeth, difaterwch neu am nad yw'r system yn hwyluso arfer da.

Nawr, mae angen i'r Senedd hon yng Nghymru ddarparu adeiladau diogel o'r ansawdd gorau posib er mwyn i'n trigolion deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn eu cartrefi. Rwy'n sylweddoli nad yw hon yn dasg hawdd, fel y mae'r ddogfen ymgynghori gynhwysfawr yn dangos, ond diolchaf i'r Gweinidog am greu Papur Gwyn sy'n amlinellu ffordd ymlaen i Gymru. Er hynny daw'r Papur Gwyn 32 mis ar ôl adroddiad terfynol y Fonesig Hackitt, a thros dair blynedd a hanner ers trychineb Grenfell, sy'n rhwystredig iawn.

Yn y Papur Gwyn, Gweinidog, rydych chi wedi cynnig sefydlu tîm arolygu ar y cyd am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd. Yn realistig, yn eich barn chi, faint o amser y dylai hi gymryd i sefydlu cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd i Gymru?

Mae llawer o bwyntiau yr wyf yn eu croesawu yn y cynigion, a dywedaf nawr, pan ddeuwn i graffu ar y Bil, mae'r hyn sy'n cael ei gyflwyno'n ddarn mor bwysig o ddeddfwriaeth fel bod yn rhaid i bob un ohonom ni weithio ar draws y pleidiau i sicrhau bod y Bil yn gwneud yn union yr hyn yr ydym ni i gyd yn gobeithio y bydd yn ei wneud.

Felly, croesawaf rai o'r cynigion, gan gynnwys dyletswydd gyffredinol newydd i gynnal adrannau mewn adeiladau; y nod o ddarparu eglurder o ran pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch mewn adeiladau preswyl sydd â sawl preswylydd, nid yn unig yn ystod eu hadeiladu ond drwy gydol y cylch oes—rwy'n credu, yn rhy aml, yr ydym i gyd wedi bod yn ymwybodol o bawb yn ceisio gwadu cyfrifoldeb pan ddaw'n fater o ganfod pwy yw'r person cyfrifol, ac mae'n rhaid i hynny ddod i ben; gwneud awdurdodau tân ac achub yn gyrff ymgynghori penodol a chael un broses ar gyfer uwchgyfeirio pryderon at y rheoleiddiwr.

Byddai cwmpas y gyfundrefn arfaethedig yn cynnwys popeth o dŷ a drowyd yn ddwy fflat i floc fflatiau uchel. Rydych yn ystyried dau gategori; gallai categori 2 gwmpasu 37,000 eiddo a thua 130,000 o fflatiau. A yw'n rhesymol cael tŷ sy'n cael ei droi'n ddwy fflat yn yr un categori â bloc o fflatiau pwrpasol pum llawr?

Nawr, dylid ystyried rhannu categori 2 yn ddau. Er fy mod yn ymwybodol y gallech gyflwyno deddfwriaeth mewn ffordd a fyddai'n caniatáu diwygio dosbarthiadau categori drwy reoliadau, mae angen i ni wneud hyn yn gywir yn y lle cyntaf fel y bydd disgwyl i bob un, beth bynnag fo nifer y categorïau, gael asesiad risg tân blynyddol gan unigolyn â chymwysterau addas. Dyma'r hyn yr wyf yn poeni amdano, sef y gallai hyn, o bosib, fod yn fan gwan.

Mae eich tîm eisoes wedi dweud wrthyf nad oes amcangyfrifon eto ynghylch faint o bobl â chymwysterau addas sydd yng Nghymru ar hyn o bryd i asesu tua 37,000 eiddo bob blwyddyn, ac a fyddai'r gofyniad newydd mewn gwirionedd yn amlygu prinder enfawr o'r bobl gymwysedig hyn, ac a allai weld y gost a'r galw am y gwasanaeth yn cynyddu'n sylweddol. Mae angen comisiynu'r ymchwil honno, felly erfyniaf arnoch i wneud hyn yn gyflym a chysylltu â'ch Cabinet felly i ystyried rhoi hwb i hyn drwy addysg a dod â phrentisiaethau i fod yn rhan o hyn. Nawr, yn ôl adran 6 o'r awdurdod lleol, byddent yn darparu'r swyddogaeth rheoli adeiladu ar gyfer pob eiddo categori 1. Nodir, lle mae problemau capasiti mewn un awdurdod, y gallai'r gwasanaeth gael ei ddarparu gan un arall. Felly, a fyddai gan yr awdurdod arall adnoddau ariannol ar gyfer y gwasanaeth? Ac a wnewch chi roi rhagor o fanylion am yr ystyriaeth yr ydych chi eisoes wedi'i rhoi i faterion capasiti presennol mewn awdurdodau lleol? Gwyddom mai rhai o'r adrannau hyn a gafodd ergyd enfawr yn sgil rhai o'r problemau setliadau a gawson nhw o ganlyniad i setliadau lleol gwael, fy un fi wedi'i gynnwys yma.

Nawr, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y tri phorth a nodaf y byddai'r un olaf yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r prif gontractwr gyflwyno datganiad terfynol yn cadarnhau bod yr adeilad yn cydymffurfio'n llawn â rheoliadau adeiladu. Felly, mater i'r awdurdod lleol fyddai penderfynu a ddylid derbyn y datganiad hwnnw, a gwyddom nawr, fel gyda COVID, ein bod ar ei hôl hi gyda chaniatâd cynllunio. Rydym ar ei hôl hi o ran gorfodaeth gynllunio, naill ai oherwydd COVID neu oherwydd ddiffyg adnoddau. Gwyddom—

16:20

Iawn. Mae'r rheoleiddiwr yn allweddol i'r diwygiad mawr sydd ei angen. Tynnodd adroddiad Hackitt sylw at y ffaith bod y drefn reoleiddio bresennol yn ddiffygiol, felly beth am fod yn feiddgar ac ymchwilio i'r dewis o un rheoleiddiwr cenedlaethol?

Croesawaf yr ymgynghoriad hwn, Gweinidog, a gobeithiaf y bydd cynnydd cyflym a phendant i gyflwyno deddfwriaeth yn y Senedd nesaf, pa un ai chi neu ein plaid ni fydd mewn grym. Diolch yn fawr.

Wel, diolch am y gyfres yna o sylwadau a chwestiynau, Janet, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gallu cael cymaint o fanylion o'r briff technegol a gynigiwyd gennym ni i chi. Mewn gwirionedd, mae hynny'n gyfle da i ddangos pa mor werthfawr ydoedd i Aelodau eraill a allai fod eisiau cymryd rhan ynddo hefyd.

Dirprwy Lywydd, nid wyf yn bwriadu mynd drwy'r rhestr o faterion technegol a gododd Janet yn y fan yna, oherwydd nid wyf yn credu mai dyma'r lle i wneud hynny. Maen nhw i gyd yn ddiddorol iawn. Mae nifer o faterion yn codi o'r ymgynghoriad, a holl ddiben yr ymgynghoriad yw mynd at wraidd yr hyn y mae pobl yn ei ystyried fyddai'r canlyniad gorau. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn, Janet, pe baech chi ac eraill yn cyflwyno eich ymatebion. Fe wnaethoch chi grybwyll nifer o faterion.

Mae'r mater o gapasiti'n un diddorol, serch hynny, oherwydd, yn amlwg, mae awdurdodau lleol wedi cael 10 mlynedd o gyni a orfodwyd gan y Torïaid, ac felly maen nhw wedi gorfod cwtogi ar nifer fawr o wasanaethau. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf yn ystod eu hymateb rhagorol i COVID, ac maen nhw wedi datblygu galluoedd amrywiol iawn er mwyn ei gwneud hi'n bosib rhannu staff a chyd-gymorth ac, wrth gwrs, ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), rydym ni wedi rhoi trefniant rhanbarthol ar waith sy'n eu galluogi i gyflogi staff yn rhanbarthol pan fo staff yn brin, ac mae'n caniatáu i lwybr gyrfa gwahanol ddatblygu. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn ar faterion capasiti. Ond, yn amlwg, ni ddylai'r rheini ein rhwystro rhag rhoi trefn ragorol ar waith.

Rwy'n falch iawn o'ch clywed yn dweud y byddai unrhyw Lywodraeth ar ôl yr etholiad—a oedd yn cynnwys eich plaid eich hun—eisiau datblygu'r Bil hwn. Hoffwn yn fawr glywed hynny gan bob plaid yn y Senedd, oherwydd mae angen inni anfon neges gadarn i'r diwydiant adeiladu bod hyn ar ei ffordd ac y dylen nhw gymryd eu dyletswydd o ddifrif i weithredu nawr yn hytrach nag ein bod yn cael ein hunain yn y sefyllfa lle maen nhw'n cael caniatâd cynllunio sy'n mynd ymlaen ac ymlaen i'r dyfodol, ac rydym wrthi'n ceisio'r gallu i gyflwyno'r rheoliadau yr eiliad y cânt eu pasio gan y Senedd heb orfod aros tan fydd y broses caniatâd cynllunio yn mynd yn ei blaen ac ati. Felly, byddwn yn gweithredu ar yr agwedd yna yn benodol.

Ond nid af drwy'r atebion technegol i'r holl gwestiynau a ofynnwyd gennych chi, Dirprwy Lywydd, ond byddwn i'n gofyn i Aelodau sydd â sylwadau manwl fel yna i'w gwneud, i'w hanfon atom ni yn ysgrifenedig cyn gynted â phosib fel y gallwn ni eu hystyried yn yr ymgynghoriad.

Wel, yn gyffredinol mae Plaid Cymru'n croesawu'r Papur Gwyn hwn. Ein dealltwriaeth ni yw bydd e'n weithredol ar gyfer adeiladau newydd yn unig a ddim yn ôl-weithredol ar gyfer hen adeiladau. So, allwn ni ei gael e ar y record, plîs, bod y Llywodraeth hefyd eisiau taclo problemau mewn ffordd ôl-weithredol gan fod llawer o bobl yn byw mewn fflatiau sydd ddim yn ddiogel? A dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn teimlo'r un peth am hyn, ac mae'r bobl hynny yn methu gwerthu y fflatiau yna oherwydd methiannau gwarthus yn y system gynllunio dros y degawdau diwethaf. Rŷn ni'n gorfod gorfodi datblygwyr i gymryd cyfrifoldeb. A dwi'n gwybod, eto, bod y Gweinidog yn cytuno â hwnna. Buaswn i'n hoffi clywed beth mae'r Llywodraeth yn gobeithio gwneud yn ôl-weithredol.

Wnewch chi roi mwy o fanylion am sut dŷch chi'n gwneud ychydig mwy o bethau, plîs? Yn fwy penodol, roeddwn i eisiau gofyn cwestiynau ynghylch y person atebol. Beth fydd yn digwydd pan fo'r person atebol yn codi pryderon ond eu bod nhw'n cael eu hanwybyddu? Mae'r mesurau i warchod whistleblowers yn annigonol, ac, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y bobl ddim eisiau rhoi eu swydd dan fygythiad. Beth fydd yn digwydd pan fo'r person atebol yn gadael y rôl? A fydd y person atebol newydd yn gyfrifol am benderfyniadau oedd yn cael eu cymryd cyn iddyn nhw gymryd y rôl ymlaen?

Gan symud, yn olaf, at y gofynion o ran ymgysylltu a datrys cwynion, mae'r Papur Gwyn yn nodi y bydd gan y rheoleiddiwr rôl pan nad oes modd datrys problemau. Allech chi fod yn fwy penodol, plîs, ac amlinellu sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu adfer hyder yn y cyrff swyddogol sydd yn caniatáu i nifer o sefyllfaoedd annerbyniol ddatblygu dros y blynyddoedd diwethaf? Maen nhw wedi dros y blynyddoedd diwethaf. Wedi'r cwbl, fe gafodd trigolion Grenfell eu hanwybyddu am flynyddoedd ac fe gafodd eu cwynion nhw eu trin mewn modd rhagfarnllyd. Felly, pa gamau gall y Llywodraeth eu cymryd i wneud yn siŵr bod pethau fel yna ddim yn digwydd? Diolch.

16:25

Diolch, Delyth, am y sylwadau yna, ac rwy'n gwybod y cawsoch chi'r cyfle i gael y briff technegol hefyd. Gwn y bydd y pwyllgor yn clywed y briff hefyd, ond rwy'n argymell bod Aelodau eraill yn cael y briff technegol, oherwydd mae hwn yn faes hynod o gymhleth ac, fel y dywedwch yn gywir, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gwneud pethau'n iawn a'i fod yn gweithio i—ei fod yn diogelu dyfodol y diwydiant adeiladu cyfan. Mae'n gwbl gywilyddus ein ni bod ni wedi hyd yn oed cyrraedd y sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd am amrywiaeth o resymau hanesyddol nad wyf yn credu eu bod yn destun balchder i neb.

Dim ond i ddweud bod dau Fil ar waith yma—dyna'r Bil y byddwn yn ei gyflwyno drwy'r Senedd ar gyfer materion sy'n ymwneud â chyfundrefn arbennig yng Nghymru, ond rydym ni hefyd wedi gweithio gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU gyda'u Bil diogelwch adeiladu i ddatblygu rhai mesurau cyn gynted â phosib, oherwydd ni fyddai wedi bod yn bosib fel arall i ni ddeddfu yn yr amser a oedd ar gael. Felly, yr hyn yr ydym ni'n gobeithio ei wneud yw, yn amlwg, cael y gorau o'r ddau fyd. Felly, bydd gennym ni system sy'n gweddu'n arbennig i strwythurau Cymru mewn llywodraeth leol a meysydd eraill, ond byddwn hefyd yn manteisio ar Fil y DU ar ddiogelwch adeiladu, a bydd hynny'n ein helpu gyda'r diwydiant. Yn amlwg, mae gennym ni nifer fawr o adeiladwyr yn arbennig sy'n gweithredu, a datblygwyr sy'n gweithredu, ledled y DU ac mewn gwirionedd, ar draws gogledd Ewrop. Felly, mae hynny'n ddefnyddiol iawn.

Bydd cam meddiannu'r cynigion yr ydym ni'n eu cyflwyno wrth gwrs yn berthnasol i bob adeilad yng Nghymru, ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Felly, byddant yn berthnasol i adeiladau sy'n bodoli eisoes yn ogystal ag adeiladau newydd. Felly, bydd holl ddyletswyddau pwy bynnag sy'n gyfrifol am sicrhau diogelwch tân ac ati yn berthnasol i bob adeilad. Yn amlwg nid yw'r cam cynllunio, adeiladu a datblygu yn berthnasol yn ôl-weithredol. Nid yw'r ddadl hon heddiw'n ymwneud â'r mesurau yr ydym ni eisiau eu gweithredu ar gyfer adeiladau sy'n bodoli eisoes. Mae ystod eang o faterion yn berthnasol yn hynny o beth, ac rydym yn sgwrsio â Llywodraeth y DU, yswirwyr ac adeiladwyr a datblygwyr ac ati, ac rydym ni hefyd yn cael cyngor cyfreithiol arbenigol ar yr hyn sy'n bosib i helpu'r trigolion niferus iawn. Mae rhywun yn cydymdeimlo’n fawr â'r sefyllfa y mae pobl ynddi. Felly, mae'n faes hynod o gymhleth i weithio drwyddo. Felly, rydym yn y broses o wneud hynny hefyd.

Yr hyn y mae'r Papur Gwyn hwn yn ei gynnig yw cyfundrefn drylwyr na fydd byth yn caniatáu i hyn ddigwydd eto, er mwyn bod yn gwbl sicr bod yr hyn a adeiladwn ni ar gyfer y dyfodol yn addas i'r diben a bod ganddo gyfundrefn drylwyr sy'n dwyn y bobl briodol i gyfrif. A bydd yn manteisio ar lawer iawn o dechnoleg newydd hefyd. Felly, ni fyddem yn cael hapwiriadau mwyach a byddai cynllunio integredig ac ati. Bydd yn rhaid i ni weithio'n galed iawn gyda'n cydweithwyr mewn awdurdodau lleol i sicrhau bod gennym yr orfodaeth ddigonol a'r trefniadau yswiriant cywir ar waith a bod gennym ni'r gwarantau gwasanaeth cyhoeddus cywir sy'n cefnogi'r holl bethau yr ydych chi newydd sôn amdanyn nhw, Delyth, o ran pobl atebol ac ati. Felly, mae llawer iawn o waith i'w wneud.

Mae'r Papur Gwyn ar gael i sicrhau, yn benodol, fel y dywedais yn fy natganiad, ein bod yn ystyried profiad personol trigolion yn y system newydd fel ein bod yn deall eu safbwyntiau ac yn sicrhau y caiff y problemau y maen nhw wedi'u profi eu cynnwys yn y system newydd. Ond rwy'n falch iawn o glywed gennych chi, fel y gwyddwn y byddwn i, fod eich plaid chithau hefyd yn benderfynol o sicrhau y caiff y drefn hon ei rhoi gweithredu cyn gynted â phosib yng Nghymru.

16:30

Efallai fy mod wedi fy nhawelu. Na. Mae'n ddrwg gennyf. Diolch—cymerodd ychydig mwy o amser i ddad-dawelu nag yr oeddwn yn ei ddisgwyl.

Cytunaf â'r Gweinidog y dylai'r pwnc hwn fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth; mae yn flaenoriaeth ar gyfer llawer iawn o'm hetholwyr sy'n byw i lawr yn SA1. Er mwyn inni gyflawni'r weledigaeth yn llwyddiannus ac ar fyrder, credaf hefyd fod angen gweledigaeth gyffredin sy'n croesi llinellau gwleidyddol pleidiol. Rwy'n falch iawn o glywed y sylwadau a gawsoch chi gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru heddiw. Rwy'n cytuno bod y newidiadau a nodwyd yr wythnos diwethaf yn gam sylweddol ymlaen mewn cynlluniau i wella diogelwch adeiladau; mae cwmpas y gyfundrefn yn helaeth. Credaf hefyd fod yn rhaid i'r newidiadau hyn weithio i breswylwyr. A gaf i droi at yr hyn sy'n digwydd nawr? Mae gennyf etholwyr yng Nghei'r De ac Altamar yn SA1 sy'n wynebu costau sylweddol. Gan ddyfynnu etholwr, 'Rydym yn berchnogion yng Nghei'r De. Rydym wedi derbyn llythyr sy'n awgrymu bod pob un o'r perchnogion yn debygol o wynebu bil o ddegau o filoedd o bunnau i roi rhywbeth yn lle'r cladin ar y tŵr. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn golygu, i lawer, y byddant yn colli gwerth eu heiddo i lawr i ffracsiwn o'i werth blaenorol, gyda'r holl ganlyniadau cysylltiedig.' A dywedant, 'Gadewch i mi gael y newyddion diweddaraf wrth i ddatblygiadau ddigwydd, yn enwedig o ran ymrwymiad blaenorol Llywodraeth Cymru', yn ôl eu deall nhw, 'i dalu am gostau ail-orchuddio.' Mae hyn yn rhywbeth sy'n achosi llawer iawn o bryder, ac mae'n achosi nosweithiau di-gwsg i bobl sy'n byw yn y datblygiadau hyn. Diolch.

Ie, yn hollol, Mike. Fel y dywedais, rydych chi'n cydymdeimlo â'r bobl sy'n teimlo'n gaeth yn sgil cyfundrefn nad yw wedi bod yn addas i'r diben. Holl ddiben y drefn newydd hon yw tynnu llinell derfyn a'i gwneud hi'n llawer haws i ddatblygwyr ac adeiladwyr wneud pethau'n iawn y tro cyntaf ac yn llawer anoddach gwneud pethau'n anghywir. Felly, wyddoch chi, mae'n gweithio'r ddwy ffordd. Ac yna mae system orfodi gyfan a chyfrifoldeb terfynol am wahanol bethau, nad yw'n glir o gwbl yn y drefn bresennol. Byddwch yn ymwybodol bod gan fy etholaeth i hefyd nifer fawr o adeiladau sy'n dioddef o'r un trafferthion, ac mae nifer fawr o bobl—Aelodau'r Senedd—wedi ysgrifennu ataf am etholwyr yn eu hardaloedd eu hunain sydd â phob math o broblemau gyda hynny. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn yn wir i geisio gweithio ein ffordd drwy'r materion cyfreithiol gwirioneddol gymhleth sy'n codi ynghylch hawliau cytundebol, yswiriant, honiadau croes ynghylch pwy sy'n gyfrifol am hyn a'r llall ac ati. Ac mae cymhlethdodau lu o ran cwmnïau sydd wedi mynd yn fethdalwyr neu o ran cymalau yswiriant ac ati y byddaf yn hapus iawn eu trafod gyda'ch trigolion.

Yr hyn y bu'n rhaid ei wneud oedd cyfarfod â grwpiau o breswylwyr mewn blociau penodol, oherwydd mae gan bob bloc gyfres unigryw o anawsterau cyfreithiol, oherwydd maen nhw i gyd wedi'u strwythuro ychydig yn wahanol ac ati. Felly, mae hyd yn oed yn anodd creu cynllun cyffredinol sy'n addas i bawb ar eu cyfer. Ond rydym yn hapus iawn i wneud hynny, Mike. Felly, os hoffech chi fy ngwahodd i gyfarfod â'r trigolion, yna gallaf yn sicr geisio datrys eu problemau presennol, ond, yn amlwg, yr hyn sydd o'n blaenau heddiw yw sicrhau nad yw'r problemau hynny'n codi yn y dyfodol.

Gweinidog, rwyf hefyd eisiau siarad ar ran y lesddeiliaid. Roedden nhw'n gweithredu diwydrwydd dyladwy, ac, oherwydd methiant trychinebus rheoliadau adeiladau, arolygu ac, mae'n rhaid dweud, ansawdd yr adeiladu, maen nhw bellach mewn eiddo diffygiol. Mae llawer ohonyn nhw'n ifanc, maen nhw eisiau dechrau teulu, ni allan nhw symud, ac maen nhw mewn eiddo sy'n anaddas i fagu plant. Nawr, dim ond un ffordd allan o'r llanastr trychinebus hwn sydd, a hynny yw i'r Llywodraeth arwain—Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru—gyda'r datblygwyr a'r adeiladwyr a'r lesddeiliaid, gan gydweithio. Mae pedair blynedd wedi mynd heibio, bron, ers Grenfell—mae angen ateb arnom ni. Rhaid i'n Llywodraeth arwain, rhaid iddi ddarparu adnoddau. Mae wedi darparu peth arian i gael gwared ar gladin, ond nid dyna'r holl broblem o bell ffordd, ac mae ganddi'r pŵer i ddod â'r adeiladwyr a'r datblygwyr cyfeiliornus hynny i gyfrif—y rhai sy'n dal mewn busnes, hynny yw. Ni ddylem fod yn rhoi'r cyfrifoldeb ar lesddeiliaid, fel yr ydym ni ar hyn o bryd, i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn cwmnïau a allai fod yn fethdalwyr, neu sy'n amhosibl eu holrhain oherwydd y cwmnïau cregyn y maen nhw'n eu defnyddio i guddio eu harferion gwael. Mae'r lesddeiliaid hyn angen camau gweithredu nawr—cyfarfyddwch â Llywodraeth y DU a sonwich am ein pryderon.

Diolch yn fawr iawn, David Melding. Gwyddoch fy mod yn rhannu eich pryder a'ch dicter ar ran eich etholwyr. Rydym ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried nifer o fesurau yn y Bil diogelwch adeiladau, yn enwedig ymestyn y cyfnod rhwymedigaeth gytundebol ar gyfer datblygwyr ac isgontractwyr, sy'n achosi cymaint o broblem gyfreithiol i bobl yn yr adeiladau hyn lle mae eu cyfnod cytundebol wedi dod i ben, ac mae hynny'n broblem gyffredin iawn, ac yn un enghraifft yn unig. Cytunaf â chi fod Llywodraeth y DU—wel, mewn gwirionedd, barn bersonol yw hyn, ond fy marn i yw mai'r unig beth i'w wneud yw rhoi treth annisgwyl ar y datblygwyr i wneud y gronfa'n ddigon mawr i dalu am yr holl broblemau, oherwydd nid yw'r arian presennol sydd ar gael yn ddigonol o bell ffordd.

Hefyd, rydych wedi nodi'r broblem fod cael gwared ar y cladin dim ond yn amlygu'r problemau eraill sydd gan y rhan fwyaf o'r adeiladau, ac felly rydym ni wrthi'n archwilio gyda'r gronfa i Gymru yr hyn y gallwn ni ei wneud i sicrhau y bydd yr ystod o broblemau adeiladau'n cael eu datrys, y rhannu i adrannau yw'r un mwyaf ohonyn nhw, ac, wrth gwrs, y ffordd y caiff y cladin ei ddal ar yr adeilad. Rydym wedi ariannu'r gwaith o ddileu a disodli'r holl gladin a systemau yn y tai rhent cymdeithasol yma, ac rydym yn chwilio am ffordd o wneud hynny yng nghanol cymhlethdodau megis pwy sy'n gyfrifol am beth yn yr adeiladau y gwyddom yr effeithir arnyn nhw yng Nghymru. Ond rydym ni, gallwch fod yn dawel eich meddwl, wedi lobïo Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd wedi gofyn i nifer o Aelodau Seneddol Cymru wneud yr un peth, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai Aelodau'r Senedd yn gwneud hynny hefyd, wrth i Fil diogelwch adeiladau'r DU fynd ar ei hynt drwy'r Senedd.

16:35

Gadewch imi ddatgan buddiant yn gyntaf, gan fy mod yn byw, ar adegau arferol, yn un o'r blociau sy'n destun yr adolygiad o ddiogelwch adeiladau yng Nghaerdydd. Gweinidog, croesawaf newyddion am y Papur Gwyn heddiw, tua thair blynedd a hanner ar ôl y golygfeydd ofnadwy hynny yn Llundain. Sylwaf fod nifer yr anheddau o'r fath yng Nghymru yn llawer llai. Fodd bynnag, dylid rhoi'r un amddiffyniad i holl drigolion y blociau hyn, ble bynnag y bônt. Felly, croesawaf eich bwriad datganedig i gyd-fynd â deddfwriaeth a bwriadau'r DU pan fo'n briodol gwneud hynny.

Gwelaf fod llawer o gynnydd wedi'i wneud o ran unioni rhai o'r materion sy'n weddill gydag adeiladau sy'n bodoli eisoes a bod cynlluniau ar waith i rai, er budd trigolion sy'n teimlo nad ydyn nhw'n gwbl saff a diogel. Pryd ydych chi'n rhagweld y bydd yr holl waith perthnasol yn cael ei gwblhau? Rwyf hefyd yn ymwybodol o breswylwyr mewn blociau lle yr ymdriniwyd â materion, ond lle mae tystysgrifau diogelwch tân yn ddiffygiol mewn gwirionedd. Mae hyn yn golygu nad oes modd diogelu eu heiddo, ac maen nhw'n gaeth, yn llythrennol heb unrhyw ffordd o symud ymlaen gyda'u bywydau na'u cynlluniau. Felly, sut yr ymdrinnir â hyn?

O ystyried yr amser sydd ar ôl i ni yn nhymor y Senedd, mae'n iawn ei bod hi'n dal yn ofynnol i Lywodraeth nesaf Cymru roi mesurau ar waith i sicrhau bod pob adeilad yn ddiogel i'w breswylwyr, felly edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn hwn ac ymgorffori arferion diogelwch adeiladau y gallwn ymfalchïo ynddyn nhw wrth symud ymlaen. Diolch.

Diolch, Mandy Jones. Mae'r materion yn gymhleth iawn, ac, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau blaenorol, rydych chi yn cydymdeimlo'n llwyr â phobl sydd wedi'u dal yn gaeth, yn arbennig, gyda phrydlesi na allant eu gwerthu na'u hailforgeisio na dim byd arall. Ond y cymhlethdod yw nad lesddeiliaid bach yn unig sy'n berchen ar brydlesi yn yr adeilad hwn. Yn anffodus, mae cwmnïau eiddo hefyd yn prynu'r prydlesau am bris rhad yn y gobaith y bydd y Llywodraeth yn pennu'r ecwiti. Felly, bydd drysni ac anialwch o'n blaenau o ran pwy sy'n gallu hawlio am beth yn y maes hwn. Holl ddiben y Papur Gwyn o'n blaenau yw ei gwneud hi'n berffaith glir yn y dyfodol pwy sy'n gyfrifol am hynny, ac, fel y dywedais mewn ymateb i Mike Hedges, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i chi edrych ar bob adeilad unigol i geisio canfod pwy sy'n gyfrifol, ac nid yw hynny'n ddigon da. Felly, mae'r Papur Gwyn hwn yn cynnig cyfundrefn sy'n gwneud y cyfrifoldeb hwnnw'n berffaith glir; bydd yn ei gwneud hi'n berffaith glir pwy sy'n gyfrifol am sicrhau hynny. Fel y dywedais, bydd yn ei gwneud hi'n llawer haws gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf ac yn llawer anoddach gwneud pethau'n anghywir, a bydd yn egluro'r holl bethau hynny. Ac, a dweud y gwir, bydd yn codi adeiladau sy'n addas i bobl fyw ynddyn nhw a buddsoddi yn hirdymor ynddyn nhw, sef yr hyn y mae ar ein model tai ei angen.

O ran y sector cymdeithasol, rydym ni wedi sicrhau bod £10.5 miliwn ar gael eto ar gyfer gwaith adfer yn y sector cymdeithasol, lle mae gennym ni dai rhent cymdeithasol. Gallwn wneud hynny drwy strwythurau sy'n bodoli eisoes yn ein strwythur grantiau. Nid yw hynny'n bosib yn y sector preifat, felly rydym yn ceisio rhoi cronfa ar waith a fyddai'n cynorthwyo pobl. Ond, fel y dywedais, mae'n gymhleth iawn deall sut i strwythuro'r gronfa honno fel y gall y bobl briodol hawlio ac nad ydym yn gwobrwyo buddsoddiadau hapfasnachwyr, er enghraifft. Dim ond un enghraifft yw honno, serch hynny, ac nid yw hynny'n tynnu oddi ar y ffaith fy mod yn deall yn llwyr drafferthion y lesddeiliaid unigol a faint o arian y gofynnir iddyn nhw ei dalu bob dydd. 

16:40

A minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, croesawaf yn fawr ddatganiad y Gweinidog heddiw, ynghyd â chyhoeddi'r Papur Gwyn yr wythnos diwethaf. Mae'r pwyllgor wedi cymryd diddordeb mawr ym mhob mater sy'n ymwneud â diogelwch tân ers y digwyddiadau erchyll a thrasig hynny yn Grenfell yn 2017, ac yn arbennig rydym ni wedi bod yn pwyso am gyflwyno'r newid deddfwriaethol angenrheidiol yn gyflym, gan gydnabod hefyd gymhlethdod y materion a'r angen am ddull mwy cydlynol sy'n ystyried y system gyfan. Mae cyhoeddi'r Papur Gwyn hwn, yn fy marn i, yn gam pwysig iawn yn y gwaith parhaus hwn a fydd yn gwella diogelwch adeiladau ledled Cymru. Ac, fel pwyllgor, byddwn yn ystyried y Papur Gwyn yn fanylach yn ystod yr wythnosau nesaf ac, yn rhan o hynny, yn cymryd tystiolaeth gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys ymgysylltu â dinasyddion fel y gall y rhai y mae'r sefyllfa sydd ohoni yn effeithio arnyn nhw—trigolion a lesddeiliaid—roi eu barn inni'n uniongyrchol. Byddwn ni, y pwyllgor, wedyn yn ymateb yn ffurfiol i'r Papur Gwyn. A gaf i ddweud hefyd fy mod yn croesawu ffordd hirben Llywodraeth Cymru o fynd ynghylch hyn, megis defnyddio deddfwriaeth Llywodraeth y DU, fel y gallwn ni, gobeithio, wneud rhywfaint o gynnydd buan o ran y materion hyn? 

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol ein bod ni'r pwyllgor wedi codi materion yn ymwneud â chost gwaith adfer ac, yn amlwg, fel eraill, rydym ni'n pryderu'n fawr am y straen a'r ansicrwydd anhygoel sydd ar hyn o bryd ar lesddeiliaid, ac mae angen mynd i'r afael â hynny ar frys, fel y clywsom ni. Dydw i ddim yn gwybod a oes unrhyw beth arall y gallwch chi ei ddweud, Gweinidog, o ran eich trafodaethau gyda datblygwyr a sut y maen nhw'n symud ymlaen a pha mor agos ydym ni at ryw fath o gynnydd o ran datblygwyr, er ein bod ni wedi clywed am ffyrdd posib eraill o fynd i'r afael â'r materion hyn.

Rydym ni hefyd wedi clywed materion yn ymwneud â rheoli adeiladu ar lefel awdurdod lleol ac, unwaith eto, roeddem yn pryderu'n fawr am lefel y toriadau i wasanaethau rheoleiddio dros nifer o flynyddoedd a'r effaith a gafodd hynny ar awdurdodau lleol. Tybed a oes unrhyw beth arall y gallech ei ddweud heddiw, Gweinidog, o ran astudiaeth gynhwysfawr efallai ar adnoddau a chapasiti a sut y gellid bwrw ymlaen â hynny. Ond rwy'n falch iawn—

A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gennyf, a wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd. Iawn, mae'r pwyllgor felly yn edrych ymlaen yn fawr at edrych ar y Papur Gwyn yn fanylach dros yr wythnosau nesaf, ac rydym yn croesawu ei gyhoeddi'n fawr iawn. Diolch yn fawr.

Diolch, John Griffiths. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith y pwyllgor, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi. Rwy'n credu y bydd gennych chi sesiwn friffio dechnegol ar 28 Ionawr. Byddai'n ddefnyddiol iawn i chi gynorthwyo preswylwyr i sôn am eu profiad personol eu hunain ac yna dod â'r cwbl at ei gilydd mewn adroddiad i ni, a byddwn yn edrych ymlaen yn fawr at ei dderbyn gennych.

Fel y dywedais o'r blaen, rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod profiad personol pobl o'r anawsterau yn cael ei ystyried wrth ddylunio'r drefn newydd. Byddwn hefyd yn gweithio, fel y dywedais wrth ateb Aelodau blaenorol, gydag awdurdodau lleol i edrych ar y materion staffio ac agweddau eraill sydd ganddyn nhw o ran gallu a chapasiti. Rydym ni, wrth gwrs, yn rhan o'n hadferiad o COVID-19, mewn gwirionedd, yn trafod gyda'r awdurdodau lleol ynghylch cael ton newydd o brentisiaid sector cyhoeddus awdurdodau lleol ym mhob un o'r proffesiynau sydd gan awdurdodau lleol. Felly, rydym ni eisoes yn dechrau ystyried ailhyfforddi ar gyfer nifer fawr o'r proffesiynau y gwyddom eu bod bellach yn brin ar ôl 10 mlynedd o gyni'r Torïaid, yn enwedig swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd bellach wedi profi eu gwerth gymaint yn ystod COVID-19 a oedd o'r blaen yn cael eu hystyried yn staff cefn swyddfa nad oeddent yn cael eu hystyried yn weithwyr rheng flaen. Mae'n dangos i chi nad yw'r math hwnnw o ddisgrifiad difrïol o staff byth yn un y dylech fod yn gyfforddus yn ei gylch. A dyma un arall: mae swyddogion rheoli adeiladu bellach yn gwbl hanfodol yn y frwydr i sicrhau bod ein hadeiladau wedi'u hadeiladu'n gywir. Felly, byddaf yn croesawu gweithio gyda'r pwyllgor, John, ac edrychaf ymlaen yn fawr at hynny dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

16:45
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adroddiad Blynyddol Estyn 2019-2020

Mae eitem 5 ar yr agenda yn ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ar adroddiad blynyddol Estyn yn 2019-20, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud y datganiad.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i Meilyr Rowlands, y prif arolygydd addysg a hyfforddiant yng Nghymru am ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2019-20, ac am y gwaith y mae Estyn wedi bod yn ei wneud ar yr adeg arbennig o heriol hon. Fel y gwyddoch chi i gyd, ym mis Mawrth, bu'n rhaid i Estyn atal eu gweithgarwch arolygu arferol, gan eu bod, wedi troi eu sylw, yn briodol, at bandemig COVID. Mae'r adroddiad yn rhoi disgrifiad cychwynnol pwysig o ymateb y sector addysg a hyfforddiant hyd at fis Awst 2020. Wrth wneud hynny, mae'n ein helpu ni i ddeall effeithiau cychwynnol coronafeirws ar addysg.

Rwy'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod ymdrechion aruthrol holl staff, disgyblion a theuluoedd yr ysgol i sicrhau bod y dysgu wedi parhau eleni. Mae hyn yn dyst i waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad pawb sy'n gysylltiedig, ac mae'n adlewyrchu'r ymrwymiad cyffredin i gefnogi dysgwyr ledled Cymru.

Roedd yn galonogol darllen bod ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill, yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, wedi blaenoriaethu diogelwch a lles dysgwyr, ac yn enwedig ein dysgwyr mwyaf agored i niwed. Aethom ni ati ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod plant yn cael eu diogelu a bod plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnyn nhw.

Mae'r ymateb yng Nghymru i helpu i ddarparu offer TG i ddisgyblion ac ysgolion wedi creu argraff fawr arnaf i. Fodd bynnag, mae'n iawn i'r adroddiad dynnu sylw at y ffaith bod lleiafrif o'n dysgwyr dan anfantais yn ystod y cyfnod hwn oherwydd nad oedd ganddynt y gallu i ddefnyddio offer addas. Roedd y Sefydliad Polisi Addysg yn ei gymhariaeth o wledydd y DU yn gwbl glir bod Cymru wedi arwain y ffordd o ran darparu offer TG i ddysgwyr. Hyd yn hyn, rydym ni wedi darparu 120,000 o ddyfeisiau ar gyfer ysgolion a bydd 35,000 o ddyfeisiau eraill yn cael eu dosbarthu yn ystod yr wythnosau nesaf. Fodd bynnag, rydym ni'n cydnabod bod yn rhaid i ni fynd ymhellach o hyd a byddaf i'n parhau i weithio gyda'r Gweinidog Cyllid i sicrhau ein bod ni'n darparu cyllid pan fydd angen y cyllid hwnnw i sicrhau bod gan bob dysgwr y ddyfais y mae ei hangen arnyn nhw.

Mae'r adroddiad blynyddol hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod gwybodaeth a phrofiad ysgolion a staff unigol â thechnoleg ddigidol wedi amrywio cyn y cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, mae'n gadarnhaol sut mae'r cyfnod hir hwn o ddefnyddio technoleg ddigidol wedi golygu bod llawer o ddysgwyr ac athrawon wedi gwella eu sgiliau digidol yn fawr. Roeddwn i'n arbennig o falch bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at rai o'r manteision sydd gennym ni yng Nghymru wrth fynd i'r afael â'r argyfwng diolch i'n platfform digidol cenedlaethol sefydledig Hwb.

Mae'r adroddiad yn nodi heriau cymhleth y pandemig sydd wedi'i gwneud yn ofynnol i arweinwyr a staff ledled addysg a hyfforddiant wneud penderfyniadau o dan amgylchiadau anodd a gweithio mewn ffyrdd newydd. Ond maen nhw wedi ymateb i'r her, ac mae mwy o werthfawrogiad o'u gwaith a phwysigrwydd disgyblion yn mynychu'r ysgol wedi bod. Fel y mae'r adroddiad yn ei amlygu, nid yw'n syndod bod yr heriau ychwanegol wedi rhoi pwysau ar benaethiaid ac uwch arweinwyr i flaenoriaethu a gwneud penderfyniadau cyflym gydag amser cyfyngedig i ystyried opsiynau'n fanwl, gan effeithio weithiau ar eu lles. Dyna pam yr ydym ni wedi cyllido gydag arian grant, Cymorth Addysg, elusen llesiant staff ysgolion y DU, i ymgymryd â phecyn cymorth pwrpasol i'r gweithlu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd.

Rwy'n cydnabod, fel y mae'r adroddiad, fod hwn wedi bod yn gyfnod pryderus i fyfyrwyr hŷn, gan eu bod wedi wynebu ansicrwydd ynghylch arholiadau a chwblhau eu hastudiaethau heb yr asesiadau diwedd cwrs arferol. Gwnaethom ni benderfyniad cynnar i ganslo arholiadau haf 2021 a sefydlu trefniadau asesu eraill am y rheswm hwn, er mwyn sicrhau tegwch i ddysgwyr a gwneud y mwyaf o'r amser addysgu a dysgu sydd ar gael i gefnogi cynnydd. Wrth i sefyllfa COVID-19 barhau i ddatblygu, bydd ein dull o ymdrin â chymwysterau ac asesu yn parhau i fod yn ymatebol a bydd yn rhoi blaenoriaeth i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr.

Hoffwn i droi'n fyr nawr at rai o ganlyniadau'r arolygiadau sydd wedi'u crybwyll yn yr adroddiad. Mae hyn i bob pwrpas yn adlewyrchu perfformiad sylfaenol ein system addysg wrth fynd i mewn i'r pandemig. Mae'r dystiolaeth yn dangos patrwm tebyg o welliant i'r blynyddoedd diwethaf ac rwy'n falch bod safonau, darpariaeth ac arweinyddiaeth ar draws llawer o ddarparwyr ôl-16 hefyd. Ac er ei bod yn braf bod safonau mewn ysgolion cynradd yn parhau i fod yn uchel, rydym ni'n ymwybodol bod yn rhaid i ni barhau i gefnogi ein hysgolion uwchradd yn yr ymdrech i'w gwella, a bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth i ni symud i'r cyfnod adfer o'r pandemig. 

Wrth edrych i'r dyfodol, nid yw'n syndod bod heriau sylweddol yn parhau i'n system addysg. Er enghraifft, mae tystiolaeth gychwynnol o dymor yr hydref yn awgrymu y gallai llawer o ddisgyblion fod wedi cymryd cam yn ôl yn eu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Ochr yn ochr â chymhwysedd digidol, llythrennedd a rhifedd yw'r sgiliau sy'n ffurfio sylfaen yr holl ddysgu ac sy'n galluogi dysgwyr i fanteisio ar ehangder y cwricwlwm cyfan. Rwyf i'n cytuno'n llwyr felly â sylwadau'r prif arolygydd fod helpu dysgwyr, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed ac yn ddifreintiedig, i ddal i fyny yn dasg fawr i'r system addysg nawr ac i'r dyfodol.

Yn ystod yr argyfwng, daeth yn amlwg nad yw llawer o ddysgwyr wedi symud ymlaen gymaint ag y bydden nhw wedi disgwyl. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu amrywiaeth o gyllid ychwanegol i roi hwb i gymorth i ddysgwyr ar adegau tyngedfennol yn eu haddysg, gan gynnwys £29 miliwn i ysgolion recriwtio, adfer a chodi safonau. Rydym ni wedi gosod nod o 900 o staff cyfwerth ag amser llawn ychwanegol ac rydym ni wedi rhagori ar hynny, ac mae pob un yn chwarae rhan hollbwysig yng ngweithrediadau ysgolion y tymor hwn.

Rwyf i wedi fy nghalonogi gan sylwadau'r prif arolygydd y gall mwy o ganolbwyntio ar les, cadernid ac annibyniaeth dysgwyr, mwy o brofiad o ddysgu digidol, a chyfathrebu agosach â theuluoedd roi ysgolion mewn gwell lle i baratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru, a hefyd bod llawer o ysgolion wedi dechrau ceisio addasu eu dulliau o addysgu a dysgu i adlewyrchu'r cwricwlwm newydd.

Aelodau, dyma'r adroddiad blynyddol olaf gan Meilyr Rowlands fel prif arolygydd. Ymunodd Meilyr ag Estyn ar ddechrau democratiaeth Cymru ein hunain, ac mae ef wedi bod yn ffigwr allweddol wrth lunio ein system addysg yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Yn bersonol, rwyf i wedi gwerthfawrogi ei gyngor meddylgar a'i ymrwymiad i le a swyddogaeth ysgolion o fewn cymunedau, ac i godi safonau i bawb, sydd unwaith eto'n amlwg yn yr adroddiad hwn. Rwy'n siŵr y bydd gan Aelodau eraill eu teyrngedau eu hunain. Diolch, Meilyr. Diolch o galon.

I gloi, er yr holl heriau a'r materion y mae system addysg Cymru wedi'u hwynebu'n anochel drwy gydol y pandemig hwn, ac y mae adroddiad Estyn yn ei ddisgrifio'n briodol, gallwn ni hefyd ymfalchïo yn rhai o'r ffyrdd cadarnhaol y mae ein system addysg wedi ymateb. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.

16:50

A gaf i ddechrau hefyd drwy ddiolch i Meilyr am y gwaith rhagorol y mae ef wedi'i wneud fel y prif arolygydd, a dweud diolch iddo am fod mor rhwydd gweithio gyda ef ac am iddo fod mor agored wrth gael ei holi? Mae'n sicr yn gwneud gwahaniaeth o ran ein helpu ni i graffu ar waith Estyn. Hoffwn i ddiolch i Estyn yn gyffredinol am ei waith parhaus yn helpu ein hysgolion a'n colegau a lleoliadau addysg eraill yn eu taith i safonau gwell.

Ond wedi dweud hynny, rwy'n meddwl yr hoffwn i ofyn rhai cwestiynau i chi, Gweinidog, ynghylch y chwe mis cyn y cyfyngiadau symud ym mis Mawrth, oherwydd er bod gwelliant cymedrol wedi bod, fel y dywedwch chi, o ran atgyfnerthu mewn rhai mân feysydd efallai, mewn gwirionedd nid ydym ni'n gweld llawer iawn o welliant. Er tegwch i'r lleoliadau meithrinfeydd neu gyn-ysgol a'r ysgolion cynradd, mae'r canlyniadau'n well yno, ond rwy'n meddwl tybed a wnewch chi ddweud wrthyf i pam eich bod yn credu na fu gwelliant, neu welliant amlwg beth bynnag, yn y sector uwchradd. Oherwydd nid yw hon yn her newydd yr ydym ni wedi bod yn ei hwynebu, ac er bod Estyn yn amlwg yn arolygu gwahanol ysgolion na'r rhai sydd wedi mynd o'r blaen, mae'r ysgolion hynny wedi cael y cyfle i weld yr holl adroddiadau, cael yr holl gefnogaeth gan gonsortia, yr holl honiadau o ganlyniadau arholiadau gwell ac, a bod yn deg, mwy o arian yn y flwyddyn ddiwethaf cyn COVID er mwyn gwella safonau eu hysgolion.

A oes rhywbeth ynghylch y ffordd yr ydym ni'n arolygu ysgolion uwchradd sydd â gogwydd cynhenid yn eu herbyn mewn rhyw ffordd? Neu a ydyn nhw yn gyffredinol yn addas i'r diben, yr adnoddau sy'n cael eu defnyddio i ddatgelu a oes problemau yma? Oherwydd er i chi ei arddangos mewn goleuni da iawn, rwy'n credu bod yn rhaid i ni dderbyn bod angen monitro ychydig o dan hanner ein hysgolion uwchradd ymhellach. O'r 25 o ysgolion uwchradd a gafodd eu harolygu eleni, mae angen monitro 11 ohonyn nhw—hynny yw bron hanner—ac mae pedair ohonyn nhw wedi ymuno â'r 18 ysgol uwchradd y llynedd sydd yn dal i fod mewn categori statudol flwyddyn yn ddiweddarach. Allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r broblem yma yn eich barn chi? Beth nad yw'n gweithio yn y system gwella safonau i helpu'r ysgolion hyn i ddod, er gwaethaf y cymorth yr oeddwn i wedi sôn amdano'n gynharach? Un o'r pethau sydd wir wedi fy nghythruddo i, am yr adroddiad penodol hwn, yw'r 48 y cant o ysgolion uwchradd yr oedd angen eu gwella neu eu gwella ar frys—mae hynny bron yn hanner y garfan—hyn, ac rwy'n dyfynnu o'r adroddiad,

'mae hyn yn aml yn ganlyniad i ddisgwyliadau isel a chynllunio gwael.'

Pam ar y ddaear ydym ni'n dal i ddarllen am ddisgwyliadau isel mewn adroddiadau fel hyn? Pam ydym ni'n dal i'w gweld? Mae arweinyddiaeth ysgolion ac ansawdd yr addysgu yn ymddangos yn yr adroddiadau estyn hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, felly hoffwn i wybod pam eich bod chi'n meddwl ein bod yn dal i ddarllen hynny.

Ac yna, yn olaf, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn gwestiwn pwysig, y £29 miliwn yr ydych chi wedi cyfeirio ato—ac rwy'n credu y byddan nhw'n cael £12 miliwn yn fwy—i helpu ysgolion i adennill eu safonau, i ba lefel o safonau yr ydych chi'n disgwyl iddyn nhw wella? Oherwydd wrth ddarllen yr adroddiadau hyn, os ydym ni'n ceisio cyrraedd y cam yr ydym ni arno nawr—ac rwy'n gwerthfawrogi y gallai hynny fod yn demtasiwn, oherwydd mae COVID wedi bod yn niweidiol iawn—nid yw'n ddefnydd arbennig o uchelgeisiol o'r arian hwnnw, ydyw e? Dylem ni fod yn ceisio codi safonau er gwaethaf y sefyllfa anodd yr ydym ni ynddi. 

Ac os byddwch chi'n caniatáu un arall i mi, Dirprwy Lywydd, beth yw'ch barn chi ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm nawr? Rydych chi'n hollol gywir wrth dynnu sylw at y ffaith bod Estyn wedi dweud bod defnydd digidol wedi gwella a defnyddio'r adnoddau i wella llesiant, mae hynny wedi gwella, ond mae llawer mwy yn y cwricwlwm newydd na hynny. Nid wyf i wedi fy argyhoeddi y bydd ysgolion uwchradd, yn arbennig, yn agos at fod yn barod ar gyfer hyn yn y ffordd yr wyf i'n amau eich bod chi'n gobeithio y byddan nhw. Diolch.

16:55

Diolch, Suzy, a diolch yn fawr am fynd i'r drafferth o gydnabod cyfraniad ein prif arolygydd i'r system addysg. Rwy'n credu ei bod yn gwbl deg dweud bod ei berthynas naill ai â'r Gweinidog neu â llefarwyr addysg wedi bod yn un o dryloywder llwyr, ac mae ef wedi bod eisiau rhannu ei wybodaeth a'i farn ynghylch addysg yng Nghymru mewn ffordd gwbl ddiduedd fel y mae ei swydd yn mynnu. Felly, diolch am eich sylwadau; gwerthfawrogir hynny yn fawr. 

O ran safonau mewn ysgolion uwchradd, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy o gynnydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol nodi cyn gynted â phosibl yr ysgolion hynny sydd mewn risg o danberfformio neu sy'n achosi pryder. Mewn rhai ffyrdd, erbyn i Estyn wneud dyfarniad ffurfiol yn yr achos hwnnw, mae pethau wedi mynd ymlaen yn rhy hir. Felly, mae her wirioneddol yno i'r consortia rhanbarthol a'r awdurdodau lleol fod mewn cysylltiad agos, ac i nodi a darparu cymorth yn gynharach.

Rwy'n ymwybodol bod Estyn wedi parhau i ymgysylltu'n agos ag ysgolion mewn categori statudol yn ystod y pandemig, felly nid yw fel petai'r materion hyn wedi'u diystyru neu wedi'u hanwybyddu oherwydd ein bod ni yng nghanol pandemig. Mae Estyn wedi mabwysiadu dull o weithredu sensitif a hyblyg gyda'r ysgolion hyn, ac wedi neilltuo arolygydd bugeiliol i bob un ohonyn nhw i weld sut y maen nhw'n ymdrin â'r pandemig, i gadw llygad ar lesiant ac i gynnig cymorth parhaus, fel y gwnaeth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Ond does dim dianc rhag y peth, ac rwy'n cydnabod bod gormod o'n hysgolion uwchradd nad ydyn nhw'n gwella'n ddigonol neu'n ddigon cyflym, a dyna pam y gwnaethom ni dreialu dull amlasiantaethol ar gyfer ysgolion uwchradd sydd angen y lefel uchaf o gymorth, ar gyfer ysgolion sydd eisoes yn achosi pryderon neu'r ysgolion hynny a oedd mewn risg o wneud hynny.

Rwy'n nodi sylwadau'r prif arolygydd am y treial a'r dull newydd hwnnw. Gwnaethom ni weithio'n agos gyda rhanddeiliaid ledled yr haen ganol i'w ddatblygu, ac mae wedi datblygu o waith y pedwar consortiwm rhanbarthol sydd wedi bod yn fwyaf effeithiol o ran gwella ein hysgolion mwyaf heriol. Felly, mae'n datblygu arfer da o'r hyn a weithiodd mewn amgylchiadau blaenorol. Gwnaethom ni ddechrau profi'r dull amlasiantaethol gyda nifer fach o ysgolion uwchradd ledled Cymru—dwy o bob rhanbarth, mewn gwirionedd—ond, yn anffodus, cafodd y broses o dreialu'r dull newydd hwn ei hatal ym mis Mawrth gan fod angen i ysgolion ac awdurdodau lleol ganolbwyntio ar yr ymateb i'r pandemig. 

Mae Estyn a Llywodraeth Cymru wedi cynnal arolwg anffurfiol o ysgolion, awdurdodau lleol a rhanbarthau a oedd wedi cymryd rhan yn y treial hwnnw, ac rydym ni wedi cydnabod rhai o bwyntiau cryfder y dull gweithredu hwnnw. Yn amlwg, byddwn ni yn awr yn ceisio cyflwyno'r dull hwnnw i bob ysgol uwchradd sydd mewn categori cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny. Ond rwy'n credu bod y ffordd yr ydym ni'n nodi ysgolion yn gynharach cyn iddyn nhw gyrraedd y categoreiddio hwnnw, ac yna sut y mae gennym ni ddull amlasiantaethol, felly nid gwaith yr ysgol yn unig ydyw, ac mae Estyn yn dod nifer o wythnosau neu fisoedd;yn ddiweddarach i lunio barn eto, ond mewn gwirionedd mae'n rhan o daith gwella'r ysgol—bydd y dull newydd hwnnw, yn ein barn ni, yn talu ar ei ganfed. 

O ran y £29 miliwn a pha safonau yr ydym ni'n dychwelyd atyn nhw, Suzy, byddwch chi'n ymwybodol o'r hyn y mae'r arolygydd yn ei ddweud ynghylch dirywiad mewn llythrennedd a rhifedd. Mae hyn yn arbennig o heriol i'n plant ieuengaf, a'n plant mwyaf difreintiedig. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw mynd i'r afael, yn y lle cyntaf, â cholli'r dysgu hwnnw a chael plant yn ôl i lefel y mae modd disgwyl ganddyn nhw yn rhesymol—felly, lle bydden nhw wedi disgwyl i'w cynnydd fod wedi cyrraedd pe na bai'r pandemig wedi ein taro ni. Mae angen i ni gael y plant hynny'n ôl at y pwynt hwnnw yn y lle cyntaf, ac yna ceisio gwella o hynny. Ond byddwch chi'n ymwybodol bod yr arolygydd yn dweud bod adroddiadau cynnar o fis Medi yn dangos bod nifer o blant wedi cwympo nôl, felly mae angen i ni eu cael nhw nôl i'r hyn y byddai safon ddisgwyliedig wedi bod, neu'r disgwyliadau y byddai athro wedi'u cael ar gyfer y plant hynny, pa gam bynnag o addysg y maen nhw arno, cyn i'r pandemig daro.

O ran y cwricwlwm, a gaf i ddweud yn gwrtais eich bod chi wedi dewis a dethol yr hyn y mae'r arolygydd wedi'i ddweud o ran y cwricwlwm? Rydych chi'n gywir; mae'n adrodd yn gadarnhaol ar well cymhwysedd digidol, mae'n sôn am lesiant, ond mae'n dweud mewn gwirionedd fod ysgolion cynradd ac uwchradd eisoes—er gwaethaf yr her y maen nhw'n ei hwynebu yn yr adegau anoddaf hyn, bod lefel yr amhariad wedi bod gymaint fel eu bod wedi defnyddio'r cyfle hwn i symud i ffwrdd o'r ffordd yr oedd pethau arfer bod, i ddechrau newid eu dulliau gweithredu gan ragweld y cwricwlwm. Felly, mae hynny'n dda i'w weld—hyd yn oed yn yr adegau anoddaf hyn, pan fo agor y drws yn y bore weithiau wedi bod yn fuddugoliaeth, yn enwedig mewn rhannau o Gymru lle mae sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi bod fwyaf difrifol, mae ysgolion cynradd ac uwchradd yn dechrau meddwl ac ymarfer yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Yn amlwg, mae gennym ni ddwy broses yma. Mae gennym ni'r broses ddeddfwriaethol, yr ydych chi a finnau'n ymwneud â hi'n weithredol iawn, ac yna mae gennym ni'r broses weithredu, a byddwn ni'n parhau i weithio, fel yr ydym ni wedi'i wneud drwy gydol cyfnod cynllunio'r cwricwlwm hwn, gyda'r sector i fynd i'r afael â materion parodrwydd ac i barhau i adolygu a yw'r amser yn ddigonol ac a yw lefel yr amhariad wedi achosi gormod o anhawster i ysgolion. Ond fel y dywedais i, rwy'n cael fy nghalonogi. Efallai y byddai wedi bod yn reddfol credu nad oedd yr un ysgol yn dechrau meddwl am y cwricwlwm ar hyn o bryd, ac mae'r arolygydd yn dweud rhywbeth gwahanol iawn. Diolch.

17:00

Hoffwn innau ddymuno'n dda iawn i Meilyr Rowlands ar ei ymddeoliad a diolch am bob cydweithrediad dros y blynyddoedd diweddar. Mae Meilyr wedi bod yn llais cryf dros ysgolion cymunedol, ac mae gan y weledigaeth honno le pwysig, dwi'n credu, wrth i ni adlewyrchu ar yr hyn sydd angen newid yn y blynyddoedd a ddaw. 

O'r arolygiadau y llwyddodd Estyn i'w cynnal—tua 60 y cant o'r hyn a gynlluniwyd—rydym ni'n gweld darlun tebyg i flynyddoedd blaenorol. Mae'r safonau yn rhagorol neu'n dda mewn tua 80 y cant o ysgolion cynradd, ond dim ond mewn tua hanner o ysgolion uwchradd. O roi hynny ffordd arall, mae yna le i bryderu am 20 y cant o'n hysgolion cynradd, a lle i bryderu am hanner ein hysgolion uwchradd ni, a dwi'n credu roedd Suzy Davies yn iawn i dynnu sylw at y broblem barhaus hon, sydd yn mynd tu hwnt i COVID.

Mae'r arolygydd o'r farn y gallai'r profiadau a'r gwersi sy'n cael eu dysgu wrth ddelio efo'r pandemig helpu i gryfhau addysg yng Nghymru yn y tymor hir. Wel, amser a ddengys ydy hynny, wrth gwrs. Mae'n dibynnu ar lefel y buddsoddiad, byddwn i'n dadlau. Mae'r arolygydd yn pryderu bod sgiliau craidd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd wedi dirywio'n gyffredinol oherwydd y tarfu ar addysg, ac mae o'n sôn bod helpu dysgwyr, yn enwedig y rhai agored i niwed a'r rhai o gefndiroedd difreintiedig, i ddal i fyny yn dasg fawr—ei eiriau o ydy'r rheini—sydd angen ei gwneud yn y dyfodol.

Dwi wedi bod yn galw am i chi a'ch Llywodraeth gyhoeddi cynllun adfer addysg ôl-COVID, a gwneud pob ymdrech i sicrhau arian sylweddol i gefnogi hwnnw. Dwi'n meddwl bod dyletswydd arnoch chi i greu cynllun uchelgeisiol o'r hyn sydd angen ei wneud, ac wedyn gwneud y ddadl am lefel y buddsoddiad sydd ei angen. Fel dwi'n ei ddweud, 'tasg fawr' meddai'r arolygydd, ac mae pob tasg fawr angen buddsoddiad y tu cefn iddi hi. Mae'r £29 miliwn wedi'i ddyrannu gan eich Llywodraeth chi eisoes, ac mae pawb yn falch iawn o hynny, ond tu draw i'r arian hwnnw, beth ydy'ch cynllun buddsoddi er mwyn adfer yn y tymor hir? Ac yn benodol, beth ydy'ch bwriad i fuddsoddi i helpu'r dysgwyr sy'n agored i niwed a'r rhai difreintiedig?

Efo'r mwyafrif o ddisgyblion yn dysgu o gartref, mae dysgu digidol yn ffactor allweddol. Mae Estyn yn tynnu sylw at y ffaith bod ymgysylltiad disgyblion efo dysgu o bell yn amrywio gryn dipyn o ryw 95 y cant o ymgysylltu yn yr achosion gorau i gyn lleied ag 20 y cant mewn rhai darparwyr sydd efo'r heriau mwyaf. Felly, hoffwn wybod sut y mae'ch Llywodraeth chi yn mynd i gefnogi'r ysgolion a'r colegau sydd wedi wynebu'r heriau mwyaf—y rhai yn y categori 20 y cant yma. Sut ydych chi'n mynd i'w helpu nhw i symud ymlaen o ran y diffyg ymgysylltu sydd wedi bod efo disgyblion?

Y pwynt olaf y buaswn i'n hoffi ei wneud ydy bod Estyn wedi canfod bod bron pob ysgol wedi darparu cefnogaeth i staff ac mae'r arweinwyr yn pryderu'n fawr am les eu staff o ran cynaliadwyedd y trefniadau cyfredol a'r effaith hirdymor. Mae yna sawl ffactor, wrth gwrs, wedi effeithio'n andwyol ar les penaethiaid ac uwch arweinwyr, yn ogystal â staff gweddill yr ysgolion, yn cynnwys ymateb i ganllawiau sydd yn newid, pryderon am les cydweithwyr a disgyblion, a'r llwyth gwaith ychwanegol sy'n cael ei achosi ar faterion gweithredol, yn aml iawn. Felly, beth ydy'ch cynllun chi ar gyfer delio â'r pwysau sylweddol sy'n wynebu staff yn ein hysgolion ni? Rydych chi wedi sôn am roi grant i Education Support, sy'n elusen lles sy'n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig, dwi'n credu, ac maen nhw'n gweithio ar becyn o gymorth i'r gweithlu ysgol yng Nghymru. Faint o grant sydd wedi cael ei roi i'r elusen yma, os gwelwch yn dda, ac oes modd gweld yn union pa fath o gymorth y gallem ni fod yn ei ddisgwyl?

Ac yn olaf, fedrwch chi roi eglurder am beth fydd yn digwydd efo arolygiadau Estyn ar ôl mis Medi? Maen nhw i fod i ailgychwyn ym mis Medi, dwi'n credu, ar ôl hoe oherwydd y cyfnod a oedd i fod wedi'i neilltuo ar gyfer darparu ar gyfer y cwricwlwm. Fydd hi'n deg disgwyl i ysgolion ymdopi efo arolygiadau unwaith eto ar ôl yr haf, o gofio'r holl heriau, a hefyd o gofio'ch awydd chi i yrru ymlaen efo gweithredu'r cwricwlwm newydd—gwaith sydd wedi mynd ar ei hôl hi, mae'n debyg?

17:05

A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian, Dirprwy Lywydd, eto am ei sylwadau caredig am Meilyr Rowlands? Tynnodd hi sylw at un o'i ddiddordebau penodol, sef addysg sy'n canolbwyntio ar y gymuned, sydd wedi bod yn ysgogiad gwirioneddol y tu ôl i waith Meilyr. Pan fydd Meilyr yn sôn am ysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned, nid yw'n sôn am ysgol sy'n llogi neuadd yr ysgol; mae'n sôn am ysgol sydd wedi'i gwreiddio'n ddwfn, sy'n â dealltwriaeth ddofn o'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu ac sy'n edrych tuag allan, y tu hwnt i amgylchedd ei chaeau chwarae neu iard ysgol ac sy'n ymgysylltu'n weithredol â phob aelod o'r gymuned ym mywyd yr ysgol, ac wrth wneud hynny, yn cyfoethogi'n fawr y cyfleoedd addysgol sy'n cael eu cynnig i'r plant yn yr ysgol. Mae ef bob amser wedi bod yn awyddus iawn i hyrwyddo'r agwedd honno ar addysg yng Nghymru.

Mae'r Aelod yn sôn am lawer o'r materion y mae Suzy Davies wedi'u codi hefyd, felly ni wnaf ailadroddaf yr atebion i'r rheini. Y cyfan y byddwn i'n ei ddweud yw, pan fydd yr Aelod yn sôn am gynllun adfer ar ôl COVID, mawredd mawr, rydym ni yn dal i fod yng nghanol COVID, ac ni fyddai cynllun a fyddai wedi'i ysgrifennu ychydig wythnosau'n ôl wedi rhagweld yr holl gau ar y fath raddfa yr ydym ni'n ei wynebu ar hyn o bryd. Yr hyn sydd wir yn bwysig yw bod y £29 miliwn hwnnw wedi'i ddefnyddio. Rwy'n gwybod bod consortia rhanbarthol bellach yn gweithio gyda'u hysgolion i ddeall sut y mae modd addasu'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr arian hwnnw i gefnogi'r sefyllfa bresennol yr ydym ni’n ei chael ein hunain ynddi, ond yr wyf i a'r Gweinidog Cyllid, ac rwy'n ei weld yn gwrando'n astud ar y datganiad y prynhawn yma, yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu ein system addysg. Dyna pam ein bod wedi nodi arian o fewn y gyllideb addysg ei hun i barhau i gynorthwyo ysgolion, a pham mae'r Llywodraeth gyfan wedi blaenoriaethu cyllid awdurdodau lleol.

Mewn sawl ffordd, y llinell sylfaen honno o gyllid y mae ein hysgolion ni'n ei chael drwy'r awdurdodau addysg lleol y bydd angen i ni, drwy gydweithio, eu cefnogi nhw, wrth symud ymlaen, oherwydd mae'r colli dysgu a oedd wedi'i nodi gan yr arolygydd ym mis Medi yn cael ei dwysáu, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb dan sylw, gan cyfnod hir hwn o ysgolion yn peidio â bod yn agored ar gyfer addysg wyneb yn wyneb i fwyafrif y disgyblion. Byddwn ni'n parhau i weithio ledled y maes addysg i ddeall beth yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi plant. Rydym ni o'r farn mai drwy gefnogi penaethiaid unigol i wneud cynlluniau ar gyfer eu hysgol y mae hynny. Y nhw'n sy'n adnabod eu carfan o blant orau, ac maen nhw a'u cyrff llywodraethu yn gwybod yr hyn sydd ei angen ar eu plant, a'n gwaith ni yw rhoi'r arian angenrheidiol iddyn nhw addasu i'r amgylchiadau y mae'n nhw'n eu cael eu hunain ynddyn nhw.

Rwy'n falch bod Siân Gwenllian wedi codi'r cwestiwn o bwysau ar y gweithlu. Mae'r arolygydd yn nodi'n briodol y sefyllfa y mae arweinwyr ysgolion ac uwch dimau rheoli wedi cael eu hunain yn gweithio ynddi, sydd wedi'u rhoi o dan bwysau mawr. Yn wir, rydym ni wedi darparu cyllid grant i Gymorth Addysg i ymgymryd â phecyn cymorth pwrpasol ar gyfer y gweithlu cyfan yng Nghymru yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys digwyddiadau llesiant, cymorth rhwng cymheiriaid i benaethiaid a phenodi cynghorydd llesiant i roi cyngor ac arweiniad ychwanegol i staff. Mae cyllid ychwanegol i ddarparu prosiect estynedig eisoes wedi'i gytuno. Bydd hyn yn caniatáu i elfennau ychwanegol o gymorth i benaethiaid yn arbennig, gael eu cynnwys, i gydnabod y pwysau sylweddol sydd arnyn nhw. 

Rwy'n ymwybodol bod consortia rhanbarthol hefyd wedi bod yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cymorth, yn aml yn anhysbys, er mwyn i benaethiaid allu camu ymlaen heb ofni stigma, neu heb ofni cael eu hadnabod, er mwyn iddyn nhw allu cael cymorth. Rwy'n gwybod, er enghraifft, ar ôl cael sgyrsiau gyda Chonsortiwm Canolbarth y De y bore yma, fod llawer o benaethiaid wedi nodi eu bod yn gyfranogwyr o ganlyniad i gefnogaeth y rhaglen honno, ac wedi dweud ei bod wedi eu helpu'n fawr yn eu gallu i ymdopi yn y sefyllfa ddigynsail hon.

Rydym ni hefyd wedi ystyried, ac wedi cymryd camau i liniaru gwasgbwyntiau lle y gallwn ni. Er enghraifft, rydym ni wedi ceisio, lle bynnag y bo modd, leihau ceisiadau am ddata neu ddileu gofynion nad ydyn nhw'n ychwanegu gwerth ar hyn o bryd. Weithiau gall hynny fod yn her; mae pobl yn y Siambr hon yn mynnu data drwy'r amser. Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid dod o hyd i'r data hwnnw yn rhywle, ac mae hynny fel arfer yn disgyn ar ysgol unigol. Felly, mae'n ymwneud â sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng sicrhau ein bod ni'n gwybod beth sy'n digwydd, a hefyd dileu galwadau ar y gweithlu ar hyn o bryd nad ydyn nhw'n ychwanegu gwerth. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, sydd, drwy ei rhaglen gyswllt, hefyd wedi bod yn rhoi cymorth i arweinwyr ysgolion ar yr adeg benodol hon. Rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw wedi gweld hynny'n arbennig o ddefnyddiol wrth fynd i'r afael â straen a phwysau.

O ran dyfodol arolygiadau, mae'n amlwg bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r sefyllfa iechyd y cyhoedd sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd. Nid ydym ni eisiau i fwy o bobl fynd i ysgolion nag sydd wir angen iddyn nhw fod yno, ac mae'n rhaid i ni fyfyrio ar y pwysau y mae'r system ysgolion yn ei hwynebu ar hyn o bryd. Mae Estyn wedi profi eu bod yn arbennig o fedrus wrth drawsnewid y ffordd y maen nhw wedi gweithio, gan gefnogi'r ysgolion hynny sydd mewn categori, gan weithio gydag awdurdodau addysg lleol i ddeall a datblygu arfer gorau, a byddem ni'n disgwyl i hynny barhau. Ond, yn amlwg, bydd yn rhaid gwneud unrhyw symudiad tuag at arolygiadau ffurfiol eto ar yr adeg briodol. Yn amlwg, ar hyn o bryd, oni bai bod newid sylweddol yn y ffordd y mae'r ysgolion yn gweithredu, yna ni fyddai'n briodol dychwelyd at y model arolygu ffurfiol ar hyn o bryd.

17:15

Fe hoffwn i hefyd dalu teyrnged i Meilyr Rowlands yr wyf wedi'i adnabod ers dros ddegawd ers imi fod yn arolygydd lleyg di-nod, ac roedd Meilyr yno bob amser i bob un ohonom ni, ac mae wedi bod yno i blant Cymru yn arbennig i ganolbwyntio ar ansawdd yr addysgeg sydd ei hangen i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Ond hefyd yr ymrwymiad hwnnw i lesiant ein holl blant. Felly, rwy'n credu y bu yn wych, ac rwy'n credu bod rhai o'r pethau y mae'n eu dweud yn ei ragair yn arbennig o berthnasol i'r heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Mae'n sôn am bwysigrwydd Hwb, sy'n destun cenfigen i gyd-Aelodau dros y ffin, a hefyd am bwysigrwydd fframwaith y cwricwlwm newydd, lle credaf ei fod yn sôn am bwysigrwydd meddwl o'r egwyddorion cyntaf am yr hyn y mae ar ddysgwyr ei angen mewn gwirionedd, a sut mae'n rhaid inni feddwl o'r newydd am y ffordd y mae disgyblion yn dysgu a'r ffordd orau o ddarparu'r rhain, gan ystyried eu sefyllfaoedd gartref.

Mae pennod y blynyddoedd cynnar yn adroddiad ingol iawn gan ei fod yn ein hatgoffa o'r profiadau gwych y mae plant wedi'u cael yn y blynyddoedd cynnar ac sy'n anodd iawn eu hefelychu gartref. Pa faint bynnag yr ydych chi wedi ymrwymo fel rhiant, nid yw'r un peth â galluogi plant i ddysgu drwy chwarae gyda'i gilydd, gyda chefnogaeth fedrus gan y rhai sy'n eu dysgu. Ond rwy'n credu mewn gwirionedd, fel y dywed Meilyr, fod hyn wedi gorfodi athrawon i gael perthynas lawer agosach â rhieni oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw wneud hynny. Felly, gobeithio, bydd hynny'n cryfhau'r ffordd yr ydym ni'n bwrw ymlaen â'r cwricwlwm i sicrhau ei fod yn gweithio i bawb mewn gwirionedd.

Hoffwn ofyn, Gweinidog, sut y credwch chi fod y gyfundrefn arolygu'n cyd-fynd â'r heriau, sydd gymaint yn fwy mewn ysgolion lle mae llawer o anfantais yn hytrach na rhai ysgolion, sydd mewn maestrefi deiliog ac sy'n gallu cyflawni graddau uchel mewn TGAU a Safon Uwch yn hawdd, oherwydd mae ganddyn nhw bob amser yr adnoddau ychwanegol y gall llawer o deuluoedd eu rhoi i'w plant, ond nid yw rhai'n gallu gwneud hynny. Felly, sut ydych chi'n meddwl y gallwn ni symud tuag at bwyslais llawer mwy ar y gwerth a ychwanegir gan ysgolion unigol, o gofio'r llinell sylfaen y cyrhaeddodd plant yr ysgol honno arni, fel y gallwn ni mewn gwirionedd weld y—

Diolch, Jenny. Rydych chi'n gywir—mae Meilyr wedi canolbwyntio'n ddi-baid ar blant drwy gydol ei yrfa, ac yn yr arolygiaeth, ac mae'n canolbwyntio'n fawr ar blant yn ei feirniadaeth ac yn ei ddadansoddiad o'r system addysg.

Credaf mai un agwedd gadarnhaol—a bobl bach, maen nhw'n brin iawn, ond mae angen inni chwilio amdanyn nhw yng nghanol y sefyllfa ofnadwy hon yr ydym ni ynddi—yw'r cyfathrebu gwell rhwng ysgolion a rhieni, y mae'r adroddiad yn cyfeirio ato. Mae wedi bod yn nodwedd angenrheidiol o ddysgu o bell ac addysg o bell, a gobeithio y bydd y newid hwnnw mewn diwylliant a'r disgwyliadau hynny am gyfathrebu rheolaidd yn newid diwylliant parhaol. Yn aml iawn, mae pob un ohonom ni eisiau dychwelyd i'n trefniadau arferol, ond mae'n rhaid i ni gydnabod weithiau nad oedd yr hen drefn arferol yn ddigon da, ac mae hon yn enghraifft lle gall normal newydd ysgogi gwelliannau go iawn, a bod cyfathrebu â rhieni yn gwbl allweddol. Ni all ysgol addysgu plant ar ei phen ei hun; rhaid i hynny fod yn bartneriaeth rhwng y gweithwyr proffesiynol yn yr ysgol a'r teulu, ac mae ein hysgolion gorau yn datblygu'r berthynas gref iawn honno, ac mae hynny'n dod â manteision gwirioneddol i blant.

Ac rwyf yn credu, Jenny, fod y drefn arolygu'n dda o ran sicrhau gwerth ychwanegol. Nawr, yn amlwg, mae'r arolygiaeth eu hunain yn mynd drwy raglen ddiwygio. Nid yw hi ond yn briodol, pan edrychwn ni ar ddiwygio ein rhan ni o'r system addysg, eu bod hwythau hefyd wedi edrych arnyn nhw eu hunain fel y gallan nhw ddiwygio eu prosesau a'u rhagolygon, fel y gallan nhw wneud eu rhan i wella addysg. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn yn Weinidog addysg yw noson flynyddol Estyn, lle mae'r rhai sydd wedi eu graddio'n 'rhagorol' mewn unrhyw gategori, boed hynny y sector meithrin neu ar ben arall y sbectrwm y colegau addysg bellach a phopeth yn y canol, lle caiff y rhagoriaeth honno ei chydnabod. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r nosweithiau hynny, fy mod yn wir wedi ysgwyd llaw â phenaethiaid rhai o'n hysgolion yn ein maestrefi deiliog, ond rwyf hefyd wedi ysgwyd llaw â phenaethiaid ysgolion sy'n gwasanaethu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, ac sy'n ymdrin â phlant sydd o dan lawer o bwysau, teuluoedd sy'n wynebu llawer iawn iawn o bwysau, a chredaf y caiff hynny ei gydnabod yn y ffordd y mae Estyn yn gwneud ei waith. A allwn ni fynd ymhellach i wella ein system atebolrwydd ein hunain i adlewyrchu hynny? Gallwn, fe allwn ni, ac rydym ni wrthi'n gwneud hynny, ac rwy'n gwybod fod Estyn eisiau sicrhau eu bod yn cydnabod effaith addysgeg dda ac ysgolion da ar blant.

17:20

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, ac fe hoffwn i ddiolch i'r prif arolygydd a'i dîm a dymuno'n dda iddo yn y dyfodol. Hefyd, 'diolch' enfawr i'r holl athrawon a staff sydd wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gyfyngu ar yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar addysg pobl ifanc yn ystod y 12 mis diwethaf.

Tynnodd y prif arolygydd sylw, yn ei adroddiad, at sut y gallai dysgu digidol ategu addysgu a dysgu traddodiadol yn y dyfodol. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i alluogi ac annog gwelliannau i ddysgu digidol yn y dyfodol? Sut ydych chi'n gweld dysgu o bell yn datblygu yn y tymor byr i ganolig, a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sbarduno arloesedd yn y gofod hwn? A fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn llwyfannau dysgu ffynhonnell agored ac yn sicrhau na fydd pob buddsoddiad cyhoeddus mewn technoleg yn arwain at ddatblygu offer a llwyfannau perchenogol?

Ac yn olaf, Gweinidog, mae pandemig COVID wedi amlygu pa mor eang yw'r rhaniad digidol mewn gwirionedd. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau ynghylch ffyrdd o gau'r rhaniad a bod yn barod ar gyfer pandemigau yn y dyfodol? Diolch yn fawr.

Diolch, Caroline, am hynna, ac rwy'n siŵr y bydd yr arolygydd yn gwerthfawrogi eich dymuniadau da yn fawr.

O ran cymhwysedd digidol, wel, cymhwysedd digidol yw rhan gyntaf ein cwricwlwm newydd a gyhoeddwyd ac mae'n fodd i sbarduno datblygiad sgiliau yn y maes hwn i'n pobl ifanc. Maen nhw, os nad yn barod—ac mae'r pandemig hwn wedi profi hynny—yr un mor bwysig â sgiliau llythrennedd a rhifedd. O ran sut y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef, rydym yn parhau i adolygu canllawiau a chymorth o ran beth yw model dysgu o bell da. Mae ymchwil yn dod i'r amlwg drwy'r amser, o ganlyniad i'r pandemig hwn, ynglŷn â beth sy'n gwneud cyfuniad dysgu da, ac fe gaiff yr wybodaeth honno ei dosbarthu i ysgolion. A'r hyn sydd hefyd yn wirioneddol bwysig yw bod llawer o ysgolion mewn gwirionedd yn gwrando ar ddysgwyr a theuluoedd ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio iddyn nhw a'r hyn y mae angen iddyn nhw wella arno, ac mae angen adlewyrchu hynny yn y cynigion y mae ysgolion yn eu cyflwyno.

A gaf i ddweud, o ran sut y gallwn ni gefnogi ysgolion a theuluoedd, rydym yn unigryw gan fod gennym ni gyfle anhygoel, gan weithio gyda rhai o'r cwmnïau meddalwedd mwyaf yn y byd? A does neb yn fwy na Microsoft. Gall pob un plentyn yng Nghymru a phob un athro yng Nghymru gael meddalwedd Microsoft am ddim ar hyd at bum dyfais, oherwydd mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ac wedi darparu hynny ar eu cyfer. Ni yw'r genedl gyntaf yn y byd, rwy'n credu, i gael mynediad am ddim i feddalwedd Adobe i staff ac i blant, ac mae hynny'n llwyfan anhygoel i adeiladu arno. Ond bydd angen i ni adeiladu ar hynny, ac, unwaith eto, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn chwilio am agweddau cadarnhaol.

Mae dulliau addysgeg newydd yr ydym ni wedi'u dysgu drwy'r pandemig hwn. Mae sgiliau athrawon yn y maes hwn wedi tyfu'n aruthrol. Ac o bosib, mae cyfleoedd gwirioneddol drwy ddysgu o bell i gefnogi plant y mae bod mewn ysgol draddodiadol yn heriol ac yn anodd iddyn nhw, ac felly mae eu helpu, gan barhau i ddysgu o bell, yn rhywbeth y gallwn ni ddysgu ohono, yn ogystal â mynd i'r afael ag ef, ar raddfa ehangach, y gwersi rydym ni eisoes wedi'u dysgu o'n prosiect ysgol. Mae fy merch yn gallu astudio pwnc Safon Uwch na fyddai ar gael iddi mewn ysgol, oherwydd mae'n cael ei gyflwyno o bell gan athro mewn ysgol arall. Byddai wedi gorfod cyfaddawdu ar ei dewisiadau oni bai am sgil yr athro unigol hwnnw i ddysgu nid yn unig y plant sydd o'i flaen yn ei ystafell ddosbarth, ond hefyd ystafell ddosbarth mewn ysgol tua 15 milltir i ffwrdd. Felly, credaf fod cyfleoedd yn bendant yn bodoli i allu gwella cyfleoedd addysgol. Ac ar hyn o bryd, mae plant ysgol Cymru yn cael darlithoedd a gwersi a gyflwynir iddyn nhw gan Sefydliad Technoleg Massachusetts—y brifysgol orau yn y byd. Mae eu myfyrwyr a'u staff yn cyflwyno darlithoedd i fyfyrwyr o Gymru bellach o Massachusetts, ac mae hynny'n dangos i chi sut y gallwn ni ddefnyddio'r dechnoleg hon i chwalu rhwystrau a galluogi i'n plant gael y gorau posib, lle bynnag y bo hynny, i ehangu eu cyfleoedd, i ehangu eu gorwelion ac i'w cefnogi i gyrraedd eu llawn botensial.

17:25
6. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021

Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.

Cynnig NDM7546 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ger ein bron heddiw.

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 yn sicrhau bod yn rhaid i deithwyr sy'n dod i Gymru o wledydd a thiriogaethau tramor ynysu am 10 diwrnod, a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain. Fel arfer, caiff diwygiadau i'r rheoliadau hynny eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol; gan fod y rheoliadau hyn wedi diwygio'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol a'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 ar wahân a mwy cyffredinol, maen nhw, yn yr achos hwn, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Bydd aelodau'n ymwybodol o amrywiolyn newydd o COVID-19 a ganfuwyd yn ddiweddar yn Ne Affrica. Mae hwn yn wahanol i amrywiolyn y DU, ond gall rannu nodweddion tebyg o ran bod yn haws ei drosglwyddo. Ers 24 Rhagfyr, mae'n ofynnol felly i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru o Dde Affrica ynysu am 10 diwrnod ac ni fyddant ond yn cael gadael y lleoliad lle maen nhw'n hunanynysu mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, ac nid oes unrhyw eithriadau o ran sector. Er bod y rhan fwyaf o ymwelwyr o Dde Affrica yn cyrraedd drwy Loegr, mae cyfyngiadau pellach yn golygu na fydd llongau ac awyrennau teithwyr yn uniongyrchol o Dde Affrica a nwyddau gyda gyrwyr yn cael glanio na docio ym mhorthladdoedd Cymru. Yn unol â'r dull sy'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraethau eraill ledled y DU, gan gynnwys yn Lloegr, mae'r rheoliadau hyn hefyd yn darparu mesurau cyfatebol i wledydd eraill yn Affrica, gan gynnwys y Seychelles a Mauritius. Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru, sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol, ynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y bydd yn cael gadael lleoliad ei hunanynysu. Mae'r cyfyngiadau tynnach hyn hefyd yn golygu y bydd gofynion ynysu yn berthnasol i bob aelod o'u cartref.

Yn dilyn y newidiadau hyn, dros y penwythnos, rydym ni wedi atal pob coridor teithio. Mae hyn, unwaith eto, yn cyd-fynd â'r camau tebyg sy'n cael eu gweithredu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd angen i'r rhai sy'n dymuno teithio i Gymru nawr ddarparu prawf negyddol cyn teithio, a bod mewn cwarantin am 10 diwrnod. Bydd y cyfyngiadau ychwanegol ar deithio o wledydd penodol, fel y rhai yr ymdrinnir â nhw gan y rheoliadau sy'n cael eu trafod heddiw, yn parhau i fod yn berthnasol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau hyn, sydd, rwy'n credu, yn rhan hanfodol o'r gwaith i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.

Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw?

Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn fore ddoe ac mae ein hadroddiad wedi'i gyflwyno yn y Swyddfa Gyflwyno er mwyn cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae ein hadroddiad yn cynnwys un pwynt adrodd technegol, yn ogystal â phedwar pwynt adrodd rhinwedd.

O ran yr un pwynt technegol, fe wnaethom ni sylwi ar anghysondebau rhwng y testun Cymraeg a Saesneg yn rheoliad 8(7), sy'n ymdrin â diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Roedd yr anghysondeb hwn yn bwysig gan fod y rhestr o safleoedd a gaewyd o ganlyniad i'r rheoliadau yn wahanol, yn dibynnu ar ba fersiwn iaith o'r rheoliadau yr edrychir arni. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn ein cyfarfod fore ddoe, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â'r mater hwn yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau Teithio a Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021, a wnaed ddydd Gwener diwethaf.

Bydd rhai o'r pwyntiau rhinwedd yn ein hadroddiad yn gyfarwydd i'r Aelodau. Unwaith eto, rydym ni wedi cydnabod cyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros ymyrraeth bosib â hawliau dynol. Rydym ni hefyd yn cydnabod na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau hyn ac nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i gynnal ychwaith.

Mae ein pedwerydd pwynt rhinwedd, a'n un terfynol, yn tynnu sylw at wallau teipograffyddol yn y troednodiadau i'r rheoliadau, sy'n cael sylw. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:30

Diolch, Gweinidog, am gynnig y rheoliadau y prynhawn yma. Byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn. Yn amlwg, rydym ni wedi cael gwybodaeth ychwanegol wrth i'r wythnos diwethaf fynd rhagddi am fathau newydd eraill o amrywiolion y feirws o Frasil a De America. Yr wythnos diwethaf, gofynnais y cwestiwn penodol ichi ynghylch a oedd gennych chi unrhyw bryderon am wledydd eraill ac a fyddai'n rhaid gosod amodau neu gyfyngiadau eraill. Bryd hynny, dydd Mawrth, nid oeddech chi yn gallu tynnu sylw at unrhyw bryderon, ond, o fewn 24 awr, cawsom wybod am fath arall ym Mrasil a chyfyngiadau ychwanegol y gallai fod angen eu cyflwyno. Rwy'n sylweddoli nad yw'r cyfyngiadau hyn yr ydym ni'n pleidleisio arnyn nhw y prynhawn yma yn cyfeirio at hynny, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe baech chi, wrth gloi'r rhan hon o'r ddadl, yn dal sylw ar y y modd y caiff Llywodraeth Cymru wybod am y sefyllfa sy'n esblygu o ran mwtantiaid o'r feirws, oherwydd, fel y mae'r nos yn dilyn y dydd, yn sicr bydd mwtantiaid ychwanegol ar draws cyfandiroedd eraill yn codi, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn ceisio deall sut y gwneir y penderfyniadau hyn ynghylch cyfyngiadau teithio fel y gallwn ni gael sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn wrth wneud y penderfyniadau hynny.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi gofyn am gael siarad. Felly, galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Unwaith eto, rwy'n diolch i'r pwyllgor deddfwriaeth a chyfiawnder am eu gwaith craffu. Mae'n ein helpu i sicrhau bod ein rheoliadau'n gyson, ac rydym yn sylwi ar wallau drafftio posib y mae'r pwyllgor yn sylwi arnyn nhw, felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am y gwaith y maen nhw'n parhau i'w wneud i sicrhau bod deddfwriaeth yn addas i'r diben.

O ran sylwadau llefarydd yr wrthblaid, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, byddwn yn ei gwneud hi'n gwbl glir ein bod ni yn cael cyfarfod wythnosol rheolaidd rhwng y pedair Llywodraeth yn y DU i adolygu materion teithio. Yn y cyfarfodydd rheolaidd hynny, rydym ni'n ystyried newidiadau i'r amgylchedd, i gyfraddau achosion mewn rhannau eraill o'r byd. Dyna lle yr ydym ni'n arwain at ddiweddaru cyfraddau achosion yn gyffredinol, ac, a bod yn deg, y rhan fwyaf o'r amser nid yw'r rheini'n ddewisiadau dadleuol mwyach, ac, y rhan fwyaf o'r amser, mae'r pedair Llywodraeth yn gweithredu ar yr un cyflymder.

Mae Brasil yn enghraifft wahanol, serch hynny, oherwydd daeth hynny o'r dystiolaeth am amrywiolyn newydd, amrywiolyn sy'n destun pryder, oherwydd, fel y byddwch chi wedi clywed gan y dirprwy brif swyddog meddygol ac eraill dro ar ôl tro, mae pob feirws yn mwtadu ac yn newid. Mae'n rhan o'r rheswm pam y mae'n rhaid i ni gael ymgyrch ffliw tymhorol, oherwydd ceir gwahanol amrywiolion o'r ffliw sy'n cylchredeg bob blwyddyn a all achosi gwahanol raddau o niwed. Nid yw'r rhan fwyaf o'r amrywiolion newydd yn amrywiolion sy'n peri pryder. Yr hyn sydd yn digwydd yw pan fo un, fel sy'n wir am amrywiolyn Caint yn haws ei drosglwyddo, mae hynny'n amrywiolyn o bryder, oherwydd mae'n newid yr ymddygiad mewn ffordd sy'n rhoi mantais gystadleuol iddo ac a allai olygu y bydd yn achosi mwy o niwed. Rydym ni wedi gweld hynny gyda'r trosglwyddo yn Ne Affrica. Rydym ni wastad yn pryderu am amrywiadau eraill sy'n ymffurfio.

Rydym yn cael ein hysbysu yng Nghymru gan ein cysylltiadau â chydweithwyr eraill yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr, fel yn wir y mae rhannau eraill o'r DU, am eu gwaith gwyliadwriaeth rhyngwladol a'r gwaith a wneir yn gyffredinol yn y DU a thu hwnt ar ddilyniannu genomau a dealltwriaeth o amrywiolion sy'n peri pryder. Rwy'n gobeithio ar draws y Siambr hon y bydd rhywfaint o falchder gwirioneddol yn swyddogaeth Cymru o ran deall a chyfrannu at ddilyniannu genomau. Rydym ni yn gwneud yn dda iawn o ystyried ein maint, nid yn unig yn rhyngwladol, ond yn y DU hefyd, o ran faint yr ydym yn ei wneud i ddeall y gwahanol amrywiolion hynny o'r feirws. Felly, mae hynny'n ymwneud yn rhannol â'r gwaith a wnawn ein hunain, yn rhannol am y gwaith a wnawn gyda rhannau eraill o'r DU ac yn rhyngwladol. A gobeithio y caiff Aelodau sicrwydd ynglŷn â'r ffaith y caiff yr wybodaeth honno ei rhannu'n agored ac yn dryloyw rhwng holl asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU, pob un o'n prif swyddogion meddygol a chynghorwyr gwyddonol, ac, yn wir, Gweinidogion, o ran gwneud penderfyniadau. Dyna pam y mae'r dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud heddiw yn rhai sy'n cael eu gwneud yn gyson mewn rhannau eraill o'r DU hefyd, a dyna pam, pan fyddwn ni'n dod i drafod y mesurau newydd a weithredwyd ar fyrder ym Mrasil a gwledydd tebyg, fe welwch chi fod rhannau eraill o'r DU wedi gweithredu ar fyrder ac yn unol ag amserlen debyg. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ateb cwestiynau'r Aelod ac yn rhoi'r sicrwydd i bobl rwy'n gwybod eu bod yn chwilio amdano. Diolch, Dirprwy Lywydd. 

17:35

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig yna—Julie James.

Cynnig NDM7545 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 wedi'u llunio i ddiogelu iechyd y cyhoedd drwy sicrhau nad yw tenantiaid yn cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn o'r pandemig. Mae'r rheoliadau'n atal, ac eithrio mewn amgylchiadau penodedig, swyddogion gorfodi'r Uchel Lys neu feilïaid rhag mynd i dŷ annedd at ddibenion gweithredu gwrit neu warant o feddiant, gweithredu gwrit neu warant adferiad, neu gyflwyno hysbysiad o droi allan. Mae'r amgylchiadau penodedig yn cynnwys, er enghraifft, pan wneir yr hawliad yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Daw'r rheoliadau i ben ar 31 Mawrth 2021, ond byddant yn ddarostyngedig i gylch adolygu yn ystod y cyfnod y maen nhw mewn grym i sicrhau bod y cyfyngiadau a'r gofynion yn parhau i fod yn gymesur. Rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf yn y cyfnod cyn 28 Ionawr 2021. Yna, rhaid eu hadolygu o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o dair wythnos. Bydd hyn yn galluogi'r adolygiadau i gyd-fynd â'r amser adolygu sydd yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Mae'r rheoliadau, i bob diben, yn barhad o'r amddiffyniadau a roddwyd ar waith gan Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020, a oedd yn atal gorfodi troi allan dros gyfnod y Nadolig ac a ddaethant i ben ar 11 Ionawr. O ystyried y dirywiad yn y pandemig yn yr wythnosau diwethaf a chyflwyno'r rheoliadau lefel rhybudd 4 ar 20 Rhagfyr, credaf ei bod hi'n hanfodol bod tenantiaid, am y tro, yn parhau i gael eu hamddiffyn rhag y perygl o gael eu troi allan. Mae'r rhai sy'n cael eu troi allan mewn llawer mwy o berygl o gael eu gwneud yn ddigartref ar hyn o bryd. Gall hygyrchedd gwasanaethau, cyngor a chymorth leihau'n sylweddol o ganlyniad i'r pandemig a'r pwysau a roddwyd ar wasanaethau cyhoeddus. Yn yr un modd, mae'r broses o gael gafael ar lety amgen yn debygol o fod yn llawer mwy cyfyngedig. Mae person sy'n ddigartref, wrth gwrs, mewn mwy o berygl o ddal COVID-19 a'i drosglwyddo i eraill. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd ati i osgoi troi allan gan arwain at ddigartrefedd oherwydd y risg y mae hyn yn ei achosi i bobl ddigartref ac iechyd y cyhoedd yn ehangach. Os bydd y sefyllfa'n gwella a bod y cyfyngiadau diogelu iechyd ehangach yn cael eu lleddfu, bydd yr adolygiadau rheolaidd yn ein galluogi i ystyried a yw'r rheoliadau hyn yn parhau i fod yn angenrheidiol. Cymeradwyaf y cynnig i'w gymeradwyo gan Aelodau. 

Diolch eto, Dirprwy Lywydd. Fel yr eglurodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020, a ddaeth i ben ar 11 Ionawr 2021, ac, fel rheoliadau newydd, maen nhw yn dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 31 Mawrth 2021.

Fe wnaethom ni adrodd ar bedwar pwynt rhinwedd i'r Senedd. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio mewn amgylchiadau penodedig, rhag mynd i dŷ annedd er mwyn cyflawni gwrit neu warant meddiannu neu adfer, neu gyflwyno hysbysiad troi allan. Nododd ein pwynt rhinwedd cyntaf yr eithriadau penodedig ac esboniad Llywodraeth Cymru pam y mae angen y rheoliadau. Nododd ein hail a'n trydydd pwynt rhinwedd na fu ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau hyn ac na pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod y rheoliadau'n ymwneud â hawliau landlord o dan erthygl 1, protocol 1 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, sy'n dod â mi at ein pedwerydd pwynt rhinwedd. Fe wnaethom ni sylwi, ar y cyd â rheoliadau blaenorol, bod landlordiaid wedi cael eu hatal rhag adennill meddiant oherwydd rhent na gafodd ei dalu am gyfnod sylweddol o amser. Gall ôl-ddyledion rhent gael effaith economaidd sylweddol ar rai landlordiaid. Felly, gofynnwyd a yw'r Llywodraeth wedi ystyried pa gymorth ariannol y gallai ei roi i landlordiaid sy'n cael eu hunain mewn trafferthion ariannol oherwydd ymestyn y cyfyngiadau a osodir.

Yn ei hymateb, sydd wedi'i gynnwys yn ein hadroddiad, mae Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae wedi ceisio lliniaru effaith ariannol y pandemig ar denantiaid a landlordiaid.

Fel y soniais ar y dechrau, mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu rheoliadau 2020 o'r un enw. Yng nghyd-destun rheoliadau 2020 ac eraill sy'n ymwneud â thenantiaethau, rydym ni wedi bod yn bryderus ynghylch amharodrwydd ymddangosiadol Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am sut y mae darpariaethau a gynhwysir yn y rheoliadau hynny yn gymesur yng nghyd-destun hawliau dynol ac y gellir eu cyfiawnhau. Credwn fod hyn yn hanfodol nid yn unig o ran deddfu da ac er budd y rhai yr effeithir arnyn nhw, ond hefyd o ran yr ymrwymiad i lywodraeth agored a thryloyw. Mae'n destun gofid unwaith eto mewn ymateb i'n llythyr diweddaraf dyddiedig 21 Rhagfyr nad yw'r mater hwn wedi cael sylw llawn. Hoffwn ei gwneud hi'n glir nad ydym yn ceisio rhoi sylwadau ar yr amcanion polisi, ond mae gennym ni swyddogaeth o ran monitro cydymffurfiaeth is-ddeddfwriaeth â hawliau dynol. Yn yr achos hwn, rydym ni eisiau sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi ystyried hawliau dynol yn ofalus, gan gynnwys erthygl 1 o brotocol 1, hawliau landlordiaid. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog, yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn agored ac yn dryloyw, a fydd yn ymrwymo i gyhoeddi asesiad ffurfiol o oblygiadau hawliau dynol y rheoliadau sydd wedi effeithio ar fater landlordiaid yn ogystal â thenantiaid. Diolch, Dirprwy Lywydd.

17:40

A yw'r meic ar agor? Iawn. Byddwn yn cefnogi'r rheoliadau hyn i atal gorfodi troi allan yng Nghymru ac eithrio o dan yr amgylchiadau mwyaf difrifol fel ymateb iechyd cyhoeddus i drosglwyddo feirws COVID-19, gan ymestyn yr ataliad ar orfodi troi allan hyd 31 Mawrth. Fodd bynnag, yn wahanol i Loegr, nid oes eithriad i'r gwaharddiad ar gyfer y rhai sydd â dros chwe mis o ôl-ddyledion, sydd yn berthnasol, yn enwedig yng nghyd-destun y cyfraniad blaenorol gan Aelod. Gall y Gweinidog gyfeirio efallai at y cynllun benthyciad arbed tenantiaeth fel rheswm dros beidio â chael hynny yng Nghymru. Fodd bynnag, fel y cadarnhaodd y Gweinidog wrthyf yn ei hateb i'm cwestiynau ysgrifenedig am y cynllun benthyciad arbed tenantiaeth ar 22 Rhagfyr, mae'r nifer sy'n manteisio ar y benthyciadau hyn yn isel ac, er bod taliad yn cael ei wneud yn uniongyrchol i landlord ar ran yr ymgeisydd drwy undeb credyd, dim ond 22 o fenthyciadau a gymeradwywyd bryd hynny, ynghyd â rhyw 800 datganiad o ddiddordeb a dderbyniwyd gan denantiaid, sy'n cynrychioli llai na hanner 1 y cant o aelwydydd y sector rhentu preifat yng Nghymru. At hynny, mae'r benthyciadau hyn wedi'u targedu at denantiaid yn y sector preifat nad oeddent mewn ôl-ddyledion rhent sylweddol cyn mis Mawrth ac nad ydyn nhw ar fudd-daliadau.

Dim ond un neu ddau eiddo sydd gan y rhan fwyaf o landlordiaid preswyl yng Nghymru ac maen nhw'n dibynnu ar yr incwm a gynhyrchir o'r rhain i ariannu gorbenion a'u treuliau byw eu hunain. Felly, anogaf y Gweinidog i ymateb i alwadau ar Lywodraeth Cymru naill ai i ehangu gwybodaeth a'r nifer sy'n manteisio ar y benthyciad yn aruthrol, ac efallai hyd yn oed ehangu cymhwysedd, neu i gyfaddef, gan nad oes fawr o angen tybiedig i ad-dalu ôl-ddyledion yng Nghymru, y dylid caniatáu'r eithriad yn Lloegr yma hefyd, oherwydd mae'r rhai sydd ag ôl-ddyledion sy'n manteisio ar fenthyciad yn fach o ran nifer ac felly nid oes fawr ddim i helpu landlordiaid a thenantiaid i gynnal tenantiaeth, yn hytrach na gorfodi tenantiaeth ar landlord sydd ag ôl-ddyledion sylweddol. Galwaf hefyd ar y Gweinidog i fuddsoddi mewn ymgynghori llawer mwy effeithiol â'r sector i lunio cynllun gwell, gan gynnwys, er enghraifft, yr eithriad yn Lloegr. Diolch.

Diolch. Nid oes gennyf unrhyw Aelodau sydd wedi gofyn am gyfle i siarad, felly, gofynnaf i'r Gweinidog ymateb i'r ddadl. Gweinidog.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Dim ond yn fyr iawn, rwyf eisoes wedi sicrhau Cadeirydd y pwyllgor ein bod wedi gwneud y dadansoddiad o'r Ddeddf Hawliau Dynol A1P1 y soniodd amdano. Mae wedi cael llythyr gennyf i'r perwyl hwnnw. Nid wyf yn siŵr beth arall y gallaf ei wneud i sicrhau'r pwyllgor o hynny.

Ac o ran cyfraniad Mark Isherwood, mae arnaf ofn nad wyf yn cytuno y byddai caniatáu eithriad ar gyfer ôl-ddyledion rhent cronnol yn briodol neu'n gymesur ar hyn o bryd, gan fod hynny'n debygol iawn o arwain at nifer fwy o bobl yn cael eu troi allan ac yn wynebu digartrefedd, ac felly credwn ein bod ni wedi gwneud y peth iawn yn hyn o beth yn yr eithriadau cyfyngedig yr ydym ni wedi'u cyflwyno, a chymeradwyaf y cynnig i'r Senedd.

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Mae eitem 8 ar yr agenda yn gynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

17:45

Cynnig NDM7544 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

a) Adrannau 1 - 3;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 4 - 6;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 7 - 10;

f) Atodlen 3;

g) Adran 11;

h) Atodlen 4;

i) Adrannau 12 – 14;

j) Atodlen 5;

k) Adrannau 15 – 16;

l) Atodlen 6;

m) Adrannau 17 – 18;

n) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf siaradwyr, felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf yn gweld gwrthwynebiad, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cyfnod Pleidleisio

Yr eitem nesaf ar ein hagenda yw'r cyfnod pleidleisio, ond nid oes gennym eitemau i bleidleisio arnyn nhw heddiw, felly fy lle i yw dweud mai dyna ddiwedd y trafodion heddiw a dymuno noson dda i chi i gyd. Felly, diolch yn fawr iawn. Dyna derfyn y cyfarfod. 

Daeth y cyfarfod i ben am 17:45.