Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
16/12/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau heddiw, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd, ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar eich agenda. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr â'r rhai sydd yn ymuno drwy fideo.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiwn brys, sydd i'w ofyn i'r Prif Weinidog, ac mae'n mynd i gael ei ofyn gan Paul Davies.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfyngiadau pellach i ymateb i'r pandemig COVID-19? (EQ0008)
Mae nifer achosion y feirws yng Nghymru yn parhau i godi, gan roi ein GIG o dan straen dwys a pharhaus, drwy gyfuniad o bwysau’r pandemig a phwysau’r gaeaf. Mae'r amodau wedi'u cyrraedd yng Nghymru i symud i lefel rhybudd 4, fel y nodir yn y ddogfen a gyhoeddwyd—[Torri ar draws.]
Mae’n ddrwg gennyf, Brif Weinidog. Rwy'n credu y gallwch barhau.
Ymddiheuriadau, Lywydd. Mae'r amodau wedi'u cyrraedd yng Nghymru i symud i lefel rhybudd 4, fel y nodir yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun yr wythnos hon. Byddwn yn cyflwyno mesurau newydd tynnach i ddiogelu iechyd pobl ac i achub bywydau.
Diolch am eich ymateb, Brif Weinidog. Wrth gwrs, mae'n destun cryn ofid fod Cymru wedi cyrraedd y pwynt lle bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu rhoi ar waith yn genedlaethol i ymladd y cynnydd dramatig mewn achosion o COVID-19 ledled y wlad, a bydd hon yn ergyd chwerw i lawer o bobl ar draws Cymru sydd wedi cydymffurfio â chyfyngiadau’r Llywodraeth drwy'r flwyddyn ac sydd bellach yn wynebu cyfyngiadau pellach ar eu bywydau. Fodd bynnag, mae'r ffigurau'n siarad drostynt eu hunain, ac o ystyried bod cyfradd R bellach yn uwch na 1.4 yng Nghymru, a chan fod cyfradd yr achosion a gadarnhawyd yn uwch na'r trothwy ar gyfer lefel rhybudd 4 yng nghynllun rheoli’r coronafeirws, rwy’n deall yn iawn yr hyn sy’n sail i benderfyniad Llywodraeth Cymru.
Yn gyntaf, bydd llawer o bobl, yn ddealladwy, yn cwestiynu cymesuredd y mesurau hyn o bosibl, yn enwedig pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Gwynedd ac Ynys Môn. Felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau y bydd y trefniadau hyn yn cael eu hadolygu, ac y bydd cyfyngiadau wedi'u targedu yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd penodol os yw'r dystiolaeth wyddonol yn caniatáu hynny? Wrth gwrs, ar hyn o bryd, bydd y mesurau hyn yn dilyn cyfnod o lacio cyfyngiadau rhwng 23 a 27 Rhagfyr, lle caniateir i bobl o Gymru deithio ledled y DU. A gwn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn trafod cyfnod y Nadolig dros y 24 awr ddiwethaf, a deallaf y bydd datganiad yn cael ei wneud maes o law. Ond efallai y gallai'r Prif Weinidog egluro beth yn union yw'r trefniadau mewn perthynas â theithio, yng Nghymru, ac yn wir, ar draws rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd.
Mae hefyd yn hanfodol fod cyllid ac adnoddau digonol ar waith yn sail i'r newid i gyfyngiadau lefel 4 yng Nghymru, fel y gall pobl a busnesau sydd angen cymorth gael mynediad ato. Yn syml, ni allwn ganiatáu i bobl a busnesau ysgwyddo baich y cyfyngiadau hyn heb gymorth y Llywodraeth. Ac felly, a all ddweud wrthym pa gymorth ychwanegol sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cyfyngiadau lefel 4, ac a all gadarnhau y bydd cymorth yn cael ei ddarparu ar frys ac nid yn nes ymlaen?
Nawr, mae’n rhaid rhoi cymorth i bobl sydd ei angen er mwyn eu hiechyd meddwl, ac rwy’n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau a chymorth iechyd meddwl, er mwyn sicrhau y bydd pobl yn cael eu cynnal drwy gydol y cyfnod hwn. Felly, a all y Prif Weinidog ddweud mwy wrthym am y cymorth y bydd yn ei ddarparu yn ystod y cyfnod rhybudd lefel 4?
Er bod y cyfyngiadau hyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfnod pan nad yw plant a phobl ifanc yn yr ysgol ac mewn lleoliadau prifysgol, bydd pryderon o hyd ynghylch yr hyn y gall y cyhoeddiad hwn ei olygu ar gyfer dechrau'r tymor academaidd nesaf. Ac felly, a all y Prif Weinidog gadarnhau pa drafodaethau sy'n mynd rhagddynt gyda'r sector addysg ynghylch effaith cyfyngiadau lefel 4? Ac a all gadarnhau ei fod yn dal yn bwriadu caniatáu i blant a myfyrwyr ddychwelyd i ysgolion, colegau a phrifysgolion ym mis Ionawr?
Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru hefyd i gyfleu unrhyw fesurau rhagofalus i bobl Cymru yn effeithiol er mwyn ennyn hyder y cyhoedd a’u cydymffurfiaeth â'r mesurau newydd hyn. Ac felly, rhwng nawr a 26 Rhagfyr, a all ddweud wrthym pa ganllawiau a chyfathrebiadau a gaiff eu gwneud gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn deall y mesurau newydd yn llawn, sut y gallant gael gafael ar gymorth, ac yn allweddol, pam fod y cyfyngiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith yn y lle cyntaf?
Ac yn olaf, Lywydd, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael eu gwerthuso ochr yn ochr â’r rhaglen frechu, gan y bydd gan honno hefyd rôl bwysig yn mynd i'r afael â'r feirws dros gyfnod y Nadolig. Mae angen gobaith ar bobl Cymru, ac mae'r rhaglen frechu yn rhan bwysig o atgoffa'r bobl fod golau ar ben draw’r twnnel tywyll iawn hwn ac mae’n rhaid i ni fod yn bositif ynglŷn â'r cynnydd a wneir yn hyn o beth. Felly, mae'n hanfodol fod mwy o fanylion yn cael eu darparu nawr ar y materion hyn, ac rwy'n croesawu unrhyw ddiweddariadau pellach y gall y Prif Weinidog eu rhoi yn ei ymateb. Diolch, Lywydd.
Lywydd, diolch i arweinydd yr wrthblaid am ei ddealltwriaeth o'r amgylchiadau sydd wedi arwain at y cyhoeddiad heddiw ac am y cwestiynau manwl y mae wedi'u gofyn. Ein bwriad yw y bydd y rhain yn gyfyngiadau ar gyfer Cymru gyfan, er gwaethaf y ffaith bod amrywiad yn lefel y coronafeirws mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae’r coronafeirws yn codi ym mhob rhan o'n gwlad, ac mae'n rhaid inni gymryd y camau a fydd yn diogelu pob rhan o'n gwlad, a dyna pam y byddwn yn gwneud hyn ar sail Cymru gyfan. Ond fel y cydnabu Paul Davies, mae’r ddogfen a gyhoeddwyd ddydd Llun yn nodi llwybr y gellid ei gydnabod drwy wahanol lefelau o gyfyngiadau pe bai rhai rhannau o Gymru yn dangos mewn ffordd ddibynadwy a chynaliadwy eu bod ar ran wahanol o’r sbectrwm i rannau eraill o Gymru. Nid ydym yn y sefyllfa honno yma heddiw. Ond rwyf wedi rhoi ymrwymiad heddiw y byddwn yn adolygu'r cyfyngiadau lefel 3, lefel 4 dair wythnos ar ôl iddynt gael eu cyflwyno, a bydd hynny'n rhoi cyfle i ni weld a yw'r gwahaniaeth dibynadwy, cynaliadwy hwnnw wedi'i gyflawni.
O ran trefniadau teithio, nid yw'r trefniadau teithio ar gyfer pum niwrnod cyfnod y Nadolig yn newid. Bydd y cyngor i bobl yn cael ei gryfhau heddiw yn y datganiad ar y cyd y byddwn yn ei gyhoeddi gan y pedair Llywodraeth, yn annog pobl i deithio pan fo angen yn unig, ac yn arbennig, i beidio â theithio o ardaloedd lle ceir nifer uchel o achosion i ardaloedd lle ceir nifer isel o achosion, ac rwy'n llwyr gefnogi’r cyngor hwnnw, a fydd yn cael ei nodi yn ddiweddarach y prynhawn yma.
O ran cyllid, byddwn yn darparu lefel uwch o gyllid y tu hwnt i'r £340 miliwn rydym eisoes wedi'i gyhoeddi. Byddwn yn sicrhau bod manylion ynglŷn â hynny ar gael cyn diwedd yr wythnos hon. Byddwn yn ceisio gwneud cymaint â phosibl o ddefnydd o'r dulliau sefydledig o roi cymorth gan Lywodraeth Cymru i'r busnesau sydd ei angen gan fod defnyddio mecanweithiau sefydledig yn golygu y gallwn wneud hynny’n gyflym. A dywedais wrth y Senedd ddoe, yn y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd yn wreiddiol pan wnaed newidiadau i letygarwch, mae miliynau o bunnoedd eisoes wedi'u rhoi i fusnesau yr effeithir arnynt, ac rwy'n ddiolchgar iawn yn wir i'n cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol am y cymorth y maent yn ei roi gyda hynny.
Fe fuom yn trafod ddoe a gwnaeth arweinydd yr wrthblaid nifer o bwyntiau pwysig am iechyd meddwl, Lywydd. Nid wyf am eu hailadrodd yma, ar wahân i ddweud, o ran cydbwysedd y niwed sydd y tu ôl i'r holl benderfyniadau a wnawn fel Llywodraeth, fod yr effaith ar iechyd meddwl a lles pobl bob amser yn rhan ymwybodol o'r cyfrifiad a wnawn, ac rydym yn parhau i wneud hynny, a bydd y gwasanaethau a ddarparwn i helpu pobl gydag effaith y newidiadau ar eu lles meddyliol ar gael yn y cyfnod ar ôl y Nadolig.
Mae trafodaethau’n parhau, wrth gwrs, ynglŷn â dechrau’r tymor addysg nesaf. Trafodais y mater hwn fy hun gyda’r Gweinidog Addysg ddoe, ac mae’n parhau i ymgysylltu’n uniongyrchol ag awdurdodau addysg lleol, undebau llafur, rhieni ac eraill. Mae sicrhau nad yw plant ar eu colled o ran addysg yn parhau i fod yn flaenoriaeth hollbwysig i Lywodraeth Cymru, a dyna sut y byddwn yn mynd ati ar ddechrau'r tymor ysgol nesaf.
Yn olaf, gan gytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies ynglŷn â phwysigrwydd cynnig rhywfaint o obaith i bobl, hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn, bydd brechu’n parhau fel y cynlluniwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau lefel 4. Rhoddwyd y brechlynnau cyntaf i breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru heddiw. Er gwaethaf yr heriau tymor byr sylweddol iawn sy'n ein hwynebu, mae'r rhagolygon ar gyfer y flwyddyn nesaf yn wahanol, ac mae cyfathrebu hynny i'n cyd-ddinasyddion yn parhau i fod yn rhan o'r ffordd y byddwn yn helpu pobl i ymdopi â'r anawsterau y gwyddom eu bod yn cael eu hwynebu ym mywydau unigolion yn sgil lledaeniad y feirws yng Nghymru.
Fe wnaethom alw arnoch ddoe, Brif Weinidog, i roi ystyriaeth frys i gyflwyno cyfyngiadau haen 4 cyn 28 Rhagfyr os oes llawer o ardaloedd yng Nghymru, fel sy'n amlwg, eisoes ar lefel y difrifoldeb a nodir yn y ddogfen a gyhoeddwyd gennych. Felly, rydym yn croesawu hynny. Y cwestiwn amlwg yw, o gofio bod llawer o ardaloedd yng Nghymru eisoes ar y lefel honno o ddifrifoldeb, pam aros hyd yn oed tan noswyl y Nadolig a'r dyddiau canlynol. Pam ddim ymyrryd yn gynharach, yn enwedig yn yr ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o haint? Mewn perthynas â rhai ardaloedd yng Nghymru, er enghraifft, yn y gogledd-orllewin—ni chredaf y cafwyd unrhyw achosion newydd ar Ynys Môn ddoe—onid oes achos i ddadlau o hyd, o ystyried eich bod wedi cyfaddef bod egwyddor defnyddio dull rhanbarthol neu ddull lleol yn briodol, pam na ddylid rhoi’r dull rhanbarthol hwnnw ar waith yn gynharach hefyd i adlewyrchu’r hyn sydd i'w weld yn batrwm gwahanol yn y rhannau hynny o Gymru?
Mewn perthynas â’r llacio ar gyfer y Nadolig, rwy'n croesawu'r canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru, ond onid oes perygl, os nad yw'r canllawiau a'r rheolau wedi'u halinio, y gallai hynny arwain at negeseuon cymysg a dryswch? A dywedaf hynny'n arbennig o gofio’r neges wahanol iawn a ddaw o Lundain a San Steffan y prynhawn yma, lle mae Prif Weinidog y DU, yn yr awr ddiwethaf, wedi bod ar ei draed yn dweud bod ‘cytundeb unfrydol’ fod yn rhaid i gynlluniau’r Nadolig fynd yn eu blaenau o hyd. Ac mae wedi bod yn disgrifio arweinydd eich plaid fel y Grinch a fyddai'n dwyn y Nadolig, ac mai ef yw'r un sy'n ei warchod. Dywedodd rai pethau negyddol iawn am bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r cyfnod atal byr ar yr un pryd. Felly, ymddengys i mi fod perygl, oherwydd y negeseuon cymysg, na fydd pobl yn deall y neges rydych yn ceisio’i chyfleu ein bod mewn sefyllfa wahanol yng Nghymru, ac o ganlyniad i hynny, ni allwn lacio’r rheolau yn yr un modd, ac oni bai eich bod yn newid y rheolau, gallai pobl ddod i’r casgliad anghywir, Brif Weinidog. Felly, hoffwn i chi roi sylw arbennig i'r pwynt hwn ynglŷn ag a oes angen i ni newid y rheolau er mwyn cynnal y canllawiau clir rydych bellach wedi'u rhoi.
Ar lefel fwy cyffredinol, rydym wedi cael nifer o newidiadau polisi gan Lywodraeth Cymru mewn cyfnod byr, onid ydym, dros y chwe wythnos ddiwethaf? Felly, cawsom y cyfnod atal byr. Credwn ein bod wedi dod allan o'r cyfnod atal byr yn rhy sydyn. Dywedasom ar y pryd—y dylem fod wedi cael rhyw fath o gyfnod clustogi o gyfyngiadau uwch byth. Wedyn, fe gawsom drefn fwy llac ei rheolau nag unman yn y DU am gyfnod, yn ôl pob tebyg, Brif Weinidog, yna cawsom yr hyn y byddai rhai wedi'i ystyried yn newid sydyn neu lym i gyfyngiadau uwch. Nawr, rydym wedi cael y cyhoeddiad hwn heddiw. Credaf fod Llywodraeth Cymru, o’i chymharu—yn sicr o’i chymharu â Llywodraeth y DU—wedi cael cryn dipyn o gymeradwyaeth, yn bennaf oherwydd y cysondeb a'r dull gofalus, pwyllog a chyson rydych wedi'i fabwysiadu am y rhan fwyaf o'r pandemig. A ydych yn credu bod hynny wedi'i ddadwneud dros yr wythnosau diwethaf? Sut y gallwch ailadeiladu'r ymdeimlad hwnnw o lwybr clir a chyson fel nad oes gennym ddull sy’n newid o un peth i'r llall o hyd, lle rydym yn mynd i mewn ac allan o gyfyngiadau gan beri dryswch a chryn dipyn o flinder ymhlith y cyhoedd, fel y gallwn weld, a ninnau'n symud bellach, yn anffodus, at sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gynyddu lefel y cyfyngiadau unwaith eto, inni allu gweld llwybr clir a chyson tuag at leihau nifer yr achosion a symud i lawr yr haenau yn hytrach na gorfod eu symud i fyny ac i lawr, fel rydym wedi’i weld, yn anffodus, dros yr wythnosau diwethaf?
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi, ‘Pam aros?’ Wel, oherwydd ein bod, fel bob amser, yn cydbwyso sawl gwahanol fath o niwed. Yn ymarferol, yr unig beth y gallem ei wneud heddiw nad ydym yn ei wneud tan Noswyl Nadolig yw cau pob busnes manwerthu nwyddau dianghenraid. Wrth gwrs, rydym wedi ystyried yn ofalus iawn a ddylem wneud hynny nawr, ond fe fydd yn gwybod mai'r cyfnod masnachu hwn cyn y Nadolig yw'r ychydig wythnosau pwysicaf yn y flwyddyn gyfan i gynifer o gwmnïau yng Nghymru.
Rydym yn cydbwyso niwed i'r economi fel rydym yn cydbwyso niwed i iechyd. Rydym yn cydbwyso materion cydraddoldeb hefyd: po dlotaf yr ydych, yr agosaf at y Nadolig yr ewch chi allan i brynu pethau gan fod yn rhaid i chi aros i wybod faint o arian sydd gennych yn eich poced i wneud hynny. Gallem gau busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid heddiw, a byddai'r bobl sy'n ddigon ffodus i fod ag arian yn barod, neu sy'n gallu prynu pethau ar-lein yn hawdd, yn dod o hyd i ffyrdd o gwmpas hynny, a byddai'r teuluoedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru eisoes o dan anfantais bellach. Mae cyfres o wahanol fathau o niwed y mae'n rhaid i chi ei chydbwyso o hyd. Ein barn ni yw bod y cydbwysedd rydym wedi'i daro, gan fod yn glir y bydd cyfyngiadau newydd sylweddol ar waith yn syth ar ôl y Nadolig oherwydd y niwed rydym yn ei wynebu i iechyd, ynghyd â'r pethau rydym yn eu gwneud yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn taro’r cydbwysedd gorau y gallwn ei ganfod.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru i mi pam yn benodol na wnaethom gyflwyno'r newidiadau hynny yn yr ardaloedd â’r lefelau uchaf o'r haint. Wel, yr ateb yw na fyddent yn effeithiol. Nid yw cau busnesau manwerthu nwyddau dianghenraid mewn rhai rhannau o Gymru yn warant o gwbl na fyddai pobl wedyn yn teithio i rannau eraill o Gymru lle mae’r siopau ar agor. Ni fyddai’n fesur effeithiol i'w roi ar waith, a byddai’n gam gwag heb effaith. Ni chredaf ein bod yn dymuno gwneud rhywbeth felly. Ar ôl gofyn i mi pam nad wyf wedi gwneud mwy mewn rhai ardaloedd, gofynnodd i mi pam nad wyf wedi gwneud llai mewn ardaloedd eraill, a’r ateb i hynny yw ein bod yn parhau i dderbyn cyngor cryf mai mesurau cenedlaethol—negeseuon unigol yn cael eu cyfleu ym mhobman yn y ffordd gliriaf y gallwn eu rhoi—sydd â’r cyfle gorau i gael eu dilyn, ac felly i fod yn effeithiol. Nid wyf am gynnig lefel is o ddiogelwch i rai rhannau o Gymru nag eraill a minnau’n credu y byddai hynny'n arbed bywydau pobl.
Ac er ei bod yn wir, ar hyn o bryd—ar hyn o bryd—nad yw pethau cynddrwg yng Ngwynedd ac Ynys Môn ag a oeddent yn y siroedd hynny ychydig wythnosau yn ôl, na chynddrwg â’u cymdogion, nid wyf yn teimlo bod gennym batrwm dibynadwy eto, a phatrwm sy'n rhoi hyder i ni, y bydd yr ardaloedd hynny’n parhau i fod ar lefelau is yn y dyfodol i’r graddau y byddech yn barod i gynnig lefel is o ddiogelwch iddynt. Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Llundain dros yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi cadarnhau popeth y mae'r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau wedi’i ddweud wrthym: fod lefelau is o ddiogelwch yn arwain at lefelau heintio uwch yn y dyfodol. Nid wyf am weld hynny'n digwydd mewn unrhyw ran o Gymru. Fel y dywedais wrth Paul Davies fodd bynnag, pe bai patrwm gwahaniaethol dilys, dibynadwy a chynaliadwy yn dod i’r amlwg, byddai'r cyfnod adolygu ar ddiwedd y tair wythnos yn caniatáu i ni roi sylw i hynny, ac mae’r cynllun a gyhoeddwyd gennym ddydd Llun yn rhoi llwybr i ni tuag at wahaniaethu rhanbarthol. Nid ydym yn y sefyllfa honno heddiw; ni fyddai'n fuddiol i'r cymunedau y cyfeiriodd Adam Price atynt.
Lywydd, nid wyf yn gyfrifol am farn anffodus Prif Weinidog y DU, ac nid oes neges gymysg yma yng Nghymru. Y neges rwyf wedi bod yn ei rhoi, ac fe’i hailadroddaf nawr, yw: mae’r sefyllfa yng Nghymru mor ddifrifol fel mai dwy aelwyd yn unig a ddylai feddwl am ddod ynghyd dros gyfnod y Nadolig yn yr un aelwyd estynedig sydd gennym eisoes. Am y pum niwrnod hynny, byddwn yn caniatáu i aelwyd un person ymuno â'r aelwyd estynedig honno, ond dyna'r graddau llawn y dylem ei weld yma yng Nghymru o ran cymysgu rhwng aelwydydd. Cytunwyd yn y cyfarfod rhwng y pedair gwlad heddiw ar set gryfach o negeseuon a fydd yn berthnasol ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Cytunwyd hefyd ei bod yn hanfodol i ni allu parhau i ymateb i'r gwahanol batrymau a welwn ar draws y pedair gwlad. Rwyf wedi ymrwymo'n llawn i'r datganiad ar y cyd y byddwn yn ei wneud fel pedair gwlad y prynhawn yma, ac rwyf wedi ymrwymo'n llawn i'r neges y bûm yn ei rhoi drwy gydol yr awr a hanner ddiwethaf mai dwy aelwyd yn unig a ddylai ddod ynghyd yma yng Nghymru.
Mae Adam Price yn tynnu sylw at y ffaith ein bod wedi cael patrymau newidiol o'r coronafeirws yma yng Nghymru a'n bod wedi gorfod ymateb iddynt. Nid wyf yn cytuno ag ef y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru o’r farn fod yr amodau pan ddaethom allan o'r cyfnod atal byr yn rhai llac; dwy aelwyd yn unig sydd wedi gallu cyfarfod â’i gilydd yng Nghymru, pedwar o bobl yn unig sydd wedi gallu cyfarfod â’i gilydd mewn unrhyw leoliad awyr agored. Mae'r rheini'n gyfyngiadau anarferol ar allu normal pobl i gyfarfod â'i gilydd, ac maent wedi bod ar waith yma yng Nghymru ers diwedd y cyfnod atal byr. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom galibradu ein hymateb i'r patrwm newidiol a welwn. Wythnos yn ôl yn unig, roedd arweinydd Plaid Cymru yn fy annog i gadw tafarndai ar agor yn hirach ac yn cwyno nad oeddwn yn caniatáu i alcohol gael ei werthu. Heddiw, mae'n cydnabod y sefyllfa wahanol rydym ynddi yng Nghymru. Mae pob un ohonom yn gorfod meddwl am ein hymateb gan fod y feirws yn newid o'n blaenau bob dydd, ac mae'r effaith y mae'n ei chael ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn newid hefyd.
Diolch i arweinydd Plaid Cymru am yr hyn a ddywedodd am y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddydd Llun; ei bwriad oedd darparu mwy o eglurder i bobl ynghylch y llwybrau sy'n bodoli rhwng y gwahanol lefelau o ymyrraeth sydd eu hangen arnom yma yng Nghymru. Bu’n rhaid i ni ddweud heddiw y bydd y manylion y mae’r ddogfen honno’n eu darparu ar gyfyngiadau lefel 4 yn dod i rym yng Nghymru yn syth ar ôl y Nadolig, ond mae hefyd yn nodi i bobl sut y gall pethau fod yn wahanol yn y dyfodol. Pan fydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn newid o'r cyfyngiadau difrifol iawn hynny a'r cyfyngiadau angenrheidiol yn y cyfnod ar ôl y Nadolig i ddyfodol gwahanol, ac wrth wneud hynny, credaf y byddwn yn parhau i gael cefnogaeth gadarn y mwyafrif helaeth o'r bobl yma yng Nghymru.
A gaf fi ddweud fy mod yn llwyr gefnogi penderfyniadau'r Prif Weinidog? Ond rydym yn agosáu at saith diwrnod mwyaf peryglus y flwyddyn: amser partïon swyddfa. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i geisio atal y partïon hyn rhag cael eu cynnal? Bydd gan rai fwyd, bydd gan rai ddiodydd, bydd rhai’n cael eu cynnal yn y swyddfa, ond y partïon swyddfa hyn—mae'n rhaid i ni geisio eu hatal rhag digwydd. Er bod gan deuluoedd sy'n cyfarfod gadwyn fer, mae gan bartïon swyddfa—ac yna dychwelyd adref, ar drafnidiaeth gyhoeddus o bosibl—gadwyni hirion.
Mae Mike Hedges yn gwneud pwynt pwysig iawn rwy'n awyddus iawn i'w gadarnhau. Wrth gwrs rydym mewn cyfnod lle na ddylai unrhyw un sy’n barod i gymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif fod yn ystyried dod â nifer fawr o bobl ynghyd i gymysgu o dan unrhyw amgylchiadau. Ac mewn gweithle, nid yn unig y bydd yno unigolion a ddylai ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw, ond bydd y bobl sy’n gyfrifol am y lleoliadau hynny'n rhwym i'r rheoliadau sydd gennym yma yng Nghymru fod yn rhaid rhoi’r holl fesurau angenrheidiol ar waith yn y gweithle i ddiogelu rhag y perygl y mae coronafeirws yn ei achosi. Felly, gadewch i mi ddweud yn glir: byddai’n gwbl groes i’r rheoliadau hynny, ac yn gwbl groes i gyfrifoldebau’r bobl hynny sy’n gyfrifol am leoliadau swyddfa, pe bai partïon swyddfa o’r math y disgrifiodd Mike Hedges yn cael eu cynnal. Mewn lleoliadau eraill, mewn lleoliadau lletygarwch wrth gwrs, byddai'r cyfyngiadau rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith yn atal hynny, gan na all mwy na phedwar o bobl o bedair aelwyd wahanol ddod ynghyd mewn lleoliadau o'r fath. Felly, gobeithio nad oes unrhyw un yn meddwl bod hwn yn gyfle i geisio ymestyn, plygu neu dorri'r rheolau hynny, ac nad oes unrhyw leoliad yn meddwl mai dyma'r adeg i ymgymryd â’r math hwnnw o weithgarwch. Mae'r sefyllfa yng Nghymru ymhell y tu hwnt i'r pwynt lle dylai unrhyw un gredu y byddai hynny'n rhywbeth call i'w wneud neu'n rhywbeth y byddai modd ei amddiffyn.
Rwy'n codi i siarad, yn amlwg, o blaid y Prif Weinidog. Fy ymateb pennaf i'r cyhoeddiad heddiw yw rhyddhad. Rydym yn edrych ar y niferoedd, ac rydym yn gwrando ar y swyddogion iechyd a staff rheng flaen y GIG, yn fy rhanbarth fy hun yn unig, ac mae'r sefyllfa mewn perygl eithafol o fynd y tu hwnt i reolaeth. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, wrth gwrs; dyna eiriau'r bobl hynny y bu’n rhaid iddynt wneud y penderfyniadau anodd iawn hynny. Rydych chi a'ch Cabinet, Brif Weinidog, wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn, ac rwy'n eich canmol am wneud hynny. Nid oes unrhyw un yn dymuno dweud wrth bobl eraill, 'Ni allwch wneud yr hyn rydych yn dymuno’i wneud'. Ond mae'n rhaid i chi wrando hefyd ar y bobl y mae pob un ohonom wedi'u clywed ar y radio, ar y teledu, ar Twitter—y gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gofyn i ni weithredu. Ac ni allwn anwybyddu hynny. Gobeithio y bydd pawb sy'n siarad heddiw—ac rwy'n falch iawn fod y rhai sydd wedi siarad eisoes wedi gwneud hynny—yn adlewyrchu'r sefyllfa honno, a'i difrifoldeb, a'r pwysau anghynaladwy sy'n codi ar staff ein GIG. Gŵyr pob un ohonom, wrth gwrs, ein bod ynghanol misoedd y gaeaf, ac fel arfer, mae pwysau ar rai mannau, ond os ydych yn ychwanegu ffigurau COVID-19 at hynny, credaf ei bod yn eithaf amlwg i unrhyw un sy'n deall y ffigurau hynny fod rhaid gweithredu ar frys—
Mae angen i chi ddod at gwestiwn nawr, Joyce Watson, os gwelwch yn dda.
Mae golau ar ben draw’r twnnel—twnnel a fu ac sy'n parhau i fod yn dwnnel tywyll iawn—ac rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych wedi'i ddweud. Ond mae gennyf un cais heddiw, Brif Weinidog. Gofynnaf i chi gyfleu neges i bobl am weithwyr archfarchnadoedd. Mae pob un ohonom wedi gweld y ffaith eu bod wedi cael eu difrïo yn y siopau eleni, yn fwy felly nag unrhyw flwyddyn arall, felly a wnewch chi ymuno â mi i ofyn i bobl, wrth iddynt ruthro i brynu bwyd, barchu’r gweithwyr yn yr archfarchnadoedd a’r siopau a fydd yn gweithio i'w gwasanaethu fel eu bod yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt a'r hyn y maent ei eisiau?
A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am yr hyn a ddywedodd? Un o'r prif resymau pam y penderfynodd y Cabinet gyflwyno'r cyhoeddiad hwn heddiw oedd sicrhau bod pobl sy'n gweithio ar reng flaen ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwybod bod eu Llywodraeth yn gweithredu ar eu rhan. Rydym wedi bod yn asesu hyn dros nifer o ddyddiau, felly gwyddom ein bod wedi paratoi ar gyfer y foment hon, ond nid oes unrhyw reswm pam y dylent hwy wybod hynny, ac mae'r ymdeimlad hwnnw o ryddhad y cyfeiriodd Joyce Watson ato, yn fy marn i, yn cael ei rannu gan y bobl sy’n gwybod bellach fod camau’n cael eu cymryd yng Nghymru, nad ydym yn eu hosgoi, ac na fyddwn yn gwneud yr hyn sydd weithiau’n hawdd i’w wneud ac osgoi’r negeseuon anodd y mae’n rhaid i Lywodraethau eu rhannu.
Felly, credaf y byddwn yn cadarnhau greddfau gorau'r Cymry, gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn awyddus i wneud y peth iawn. Maent yn dymuno gwneud eu cyfraniad. Maent am wybod bod eu Llywodraeth yn darparu’r cyd-destun sy’n caniatáu iddynt chwarae eu rhan yn yr ymdrech genedlaethol fawr hon, a’r rheswm dros wneud y penderfyniad hwn a’i gyhoeddi heddiw oedd i gydnabod safbwyntiau ein gweithwyr ar y rheng flaen, ond i roi’r amser sydd ei angen ar ein cyd-ddinasyddion i baratoi ar gyfer y newidiadau y bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â hwy nawr.
Heb os, bydd hynny'n rhoi mwy fyth o bwysau ar y bobl sydd wedi mynd i’w gwaith bob dydd yn ein harchfarchnadoedd drwy gydol y pandemig hwn, a rhoi eu hunain mewn perygl er mwyn sicrhau bod y gweddill ohonom yn gallu mynd allan i gael y bwyd sydd ei angen arnom, hyd yn oed yn ystod y cyfyngiadau mwyaf ar rannau eraill o'n bywydau. Gadewch i mi ddweud y prynhawn yma, Lywydd: rwy’n disgwyl i’r archfarchnadoedd eu hunain sicrhau eu bod yn gwneud popeth i ddiogelu'r lleoedd hynny fel lleoedd lle mae angen diogelu iechyd y cyhoedd, ac i ddiogelu eu staff yn y gwaith a wnânt.
Rwy’n disgwyl i’r archfarchnadoedd sicrhau eu bod yn gosod terfynau uchaf ar gyfer y nifer fwyaf o bobl a ddylai fod y tu mewn i archfarchnad ar unrhyw adeg; eu bod yn plismona hynny'n ofalus wrth y fynedfa, a phan fydd ganddynt systemau unffordd yn eu siopau, y cedwir at y systemau unffordd hynny, yn hytrach na’u bod yno ar y llawr yn unig; eu bod yn darparu cyngor rheolaidd i bobl dros yr uwchseinyddion fel bod pobl yn deall yr hyn y disgwylir iddynt ei wneud; pan fydd pobl yn ciwio i adael yr archfarchnad ac i dalu am eu nwyddau, fod hynny'n digwydd mewn ffordd sy'n parchu'r argyfwng iechyd cyhoeddus rydym ynddo, ac yn parchu'r gweithwyr sydd yno i helpu'r gweddill ohonom.
Felly, rwy'n fwy na pharod i anfon y neges y gofynnodd Joyce Watson i mi ei rhoi. Mae'r bobl hynny’n mynd i’w gwaith bob dydd fel y gall y gweddill ohonom fynd i brynu'r pethau, y pethau angenrheidiol mewn bywyd, a dylid dathlu eu cyfraniad a’i barchu hefyd.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr hyn a oedd ganddo i'w ddweud; mae'n amlwg yn gyfnod anodd iawn i bawb. Mae gennyf rai cwestiynau penodol iawn yr hoffwn eu gofyn. Yn gyntaf oll, Brif Weinidog, sut y bydd hyn yn effeithio ar westai, gyda llawer ohonynt wedi cymryd archebion am y cyfnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr. Roeddent yn tybio eu bod yn ddiogel i wneud hynny. Os yw lletygarwch yn cau’n llwyr ar Ddydd Nadolig, sut y mae hynny'n effeithio ar y gwestai hynny? Mae angen iddynt wybod nawr, Brif Weinidog, oherwydd os oes rhaid iddynt ganslo archebion, mae'n rhaid iddynt wneud hynny ar unwaith.
Brif Weinidog, ni fydd yr agor a chau, agor a chau hwn yn gynaliadwy i rai busnesau. Rydym wedi siarad â'ch Llywodraeth o'r blaen am yr angen, o bosibl, am gefnogaeth hirdymor i alluogi rhai busnesau gael seibiant tan gyfnod y gwanwyn. Rwy'n gwybod y byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r costau i fusnesau o agor a chau, yn enwedig busnesau lletygarwch. A all y Llywodraeth roi ystyriaeth bellach i sut y gellir darparu'r cymorth hwnnw yn y tymor canolig i fusnesau y gallai fod yn well ganddynt gael seibiant dros y gaeaf, yn hytrach nag agor a chau?
Pryd y mae'n meddwl y gallai roi unrhyw syniad i fusnesau sydd am ailagor o'r math o amserlen a allai eu hwynebu? Brif Weinidog, rwy’n derbyn bod y cyfan yn dibynnu ar sut y mae'r feirws yn ymddwyn ac ni allwn ragweld hynny, ond mae'n anodd i fusnesau os nad ydynt yn gwybod a ydynt yn edrych ar ailagor ganol mis Ionawr, fod dim ystyriaeth o hynny’n bosibl tan ddiwedd mis Ionawr. A all roi unrhyw arweiniad arall iddynt?
Ac yn olaf, o ran yr hyn a ddywedodd heddiw am ddim ond dwy aelwyd yn cyfarfod yng Nghymru ar gyfer y Nadolig, a all egluro i ni—ai cyngor gan Lywodraeth Cymru yw hwnnw nawr, ai arweiniad, neu ai dyna fydd y gyfraith? Oherwydd fel y dywedoch chi, rwy’n credu, mewn ymateb i nifer o bobl eisoes heddiw, Brif Weinidog, mae'n bwysig iawn fod pobl yn deall yr hyn y mae gofyn iddynt eu wneud. Fe wnaiff faddau i mi, rwy'n siŵr, ond nid wyf yn siŵr yn fy meddwl fy hun beth rydych wedi'i ddweud hyd yn hyn, a ydym yn siarad yma am gyngor, cyngor wedi'i eirio'n gryf, arweiniad sy'n fwy ffurfiol ond os byddwch yn ei dorri, nid ydych y torri'r gyfraith, neu ofyniad cyfreithiol go iawn.
Lywydd, ar y pwynt olaf gan Helen Mary Jones, byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol ar y mater hwnnw pan fydd y datganiad rhwng y pedair gwlad wedi’i gytuno a'i gyhoeddi. Mae'n darparu'r cyd-destun y mae'n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw ynddo. Rwy'n credu ei bod hi'n bosibl gorddatgan arwyddocâd y penderfyniad. Nid yw'r rhan fwyaf o'n cyd-ddinasyddion yn myfyrio dros y gwahaniaeth rhwng arweiniad a rheoliad. Maent eisiau gwybod beth yw'r peth iawn i'w wneud. A dyma’r peth iawn i’w wneud: yng Nghymru, ni ddylai mwy na dwy aelwyd gyfarfod dros y Nadolig. Dyna ni. Nid wyf yn credu y gall fod yn fwy plaen. Nid wyf yn credu y gellir ei ddweud yn gliriach. Bydd p'un a ydym yn parhau i ddarparu hynny fel arweiniad neu reoliad yn dibynnu ar y cyd-destun ehangach, a ddaw'n amlwg y prynhawn yma, a byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol yn ei gylch bryd hynny, ond bydd y neges yr un fath. Mae'r neges yn union yr un fath yn y naill achos neu'r llall, ac fel y dywedodd Adam Price, y neges yw'r peth allweddol yma, ein bod yn cyfleu'r neges i bobl mor glir ag y gallwn, ac nid wyf yn credu y gallwn fod wedi bod yn gliriach.
Rydym yn gweithio gyda gwestai a sectorau eraill yn ystod y dydd i roi'r eglurder sydd ei angen arnynt. Mae llawer o'r hyn rydym wedi'i ddarparu eisoes yn ddigonol i ganiatáu ar gyfer cyfnod o seibiant mewn twristiaeth a rhai busnesau lletygarwch, a bydd cymorth pellach o ganlyniad i'r penderfyniadau a wnaethom heddiw. Mae arnaf ofn fod Helen Mary Jones yn gywir mewn gwirionedd pan atebodd ei chwestiwn ei hun ynglŷn â pha bryd y gall busnesau ailagor. Bydd adolygiad tair wythnos, felly byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth bryd hynny. Os yw’n bosibl cynnig unrhyw lacio ar y cyfyngiadau’n rhanbarthol neu’n genedlaethol, dyna fyddem am ei wneud wrth gwrs, ond bydd yn dibynnu’n llwyr ar i ba raddau y mae’r mesurau erbyn hynny'n lleddfu’r pwysau a welwn ar y gwasanaeth iechyd heddiw, pwysau sy'n anghynaladwy oni roddir camau ar waith i wrthdroi'r duedd honno. Os bydd y duedd yn cael ei gwrthdroi'n gynaliadwy o fewn tair wythnos, bydd hynny'n creu un cyd-destun. Os oes rhaid i ni fynd ymhellach a gwneud mwy er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd ar gael i bobl Cymru, nid yn unig ar gyfer coronafeirws ond yr holl bethau eraill yr edrychwn amdanynt, dyna a wnawn.
Diolch i'r Prif Weinidog am ei atebion i'r cwestiynau heddiw. Mae'r rhain yn amseroedd anodd i fusnesau, ac i gymunedau, ac yn wir i'r Llywodraeth. Bydd y rhai ohonom sy'n eistedd ar y meinciau cefn yn y Siambr hon yn gwybod, am bob e-bost a gawn yn mynnu bod cyfyngiadau'n cael eu llacio, ein bod yn cael e-bost arall yn mynnu bod cyfyngiadau'n cael eu tynhau. Nid yw'n hawdd gwneud y penderfyniad gorau o dan yr amgylchiadau hynny, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniadau cywir. Nid yw'n hawdd cynnig atebion rhanbarthol yng Nghymru ychwaith. Mae gan Gymru lawer llai o arwynebedd tir na Lloegr a'r Alban, a gobaith ofer yw credu y gellir atal y feirws neu ei gadw o un rhan o Gymru. Pan fyddwch yn croesi i sir Conwy o'r dwyrain, nid ydych yn mynd drwy siecbwynt. Mae'n hawdd croesi'r ffin, a hynny'n gwbl briodol. Nid lled môr Iwerddon yw afon Menai, felly nid yw'n gweithredu fel rhwystr naturiol, a bydd pobl yn croesi ffiniau os bydd yn rhaid iddynt wneud hynny. Rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid a fy nghyd-Aelod Joyce Watson ynglŷn â phwysigrwydd gobaith. Mae golau ym mhen draw'r twnnel. Mae'n fater o faint o fywydau y gallwn eu harbed nes i ni gyrraedd y fan honno. Felly, fy nghwestiwn i, Lywydd, yw hwn: gyda golwg ar gynnig gobaith i bobl, oherwydd yn anochel fe gafwyd llawer o gyfyngiadau dros y misoedd diwethaf, a all y Prif Weinidog ddweud pryd y gallem gyrraedd nifer arwyddocaol yn glinigol o bobl wedi'u brechu, fel y gall pobl ddechrau breuddwydio am ddychwelyd i normalrwydd bryd hynny?
Lywydd, diolch i Carwyn Jones am y cwestiynau hynny ac am y crebwyll y mae'n ei ddangos, wrth gwrs, ynglŷn â'r cydbwysedd heriol parhaus sydd i'w daro yn y penderfyniadau sy'n rhaid inni eu gwneud yn Llywodraeth Cymru, ac mae'n iawn wrth gwrs. Pan fydd pobl yn ysgrifennu atom gyda safbwyntiau gwahanol iawn, nid yw byth oherwydd bod gan un safbwynt yr holl bethau cywir ar ei ochr ac nad oes unrhyw rinwedd o gwbl yn perthyn i'r safbwynt arall.
Yn y dyddiau diwethaf bûm yn gwrando'n astud iawn ar yr holl negeseuon a gawn gan uwch glinigwyr a gweithwyr rheng flaen, yn union fel y bûm yn gwrando ar negeseuon gan ofalwyr anffurfiol mewn cymunedau yng Nghymru sydd wedi dweud wrthyf am yr angen iddynt gael cefnogaeth ehangach gan deuluoedd dros y Nadolig er mwyn parhau i wneud yr holl bethau a wnânt bob dydd i ofalu am bobl eraill yng Nghymru. Mae un grŵp o bobl yn fy annog i dynhau pethau, a'r grŵp arall o bobl yn fy annog i beidio. Mae gan y ddau ddadleuon cryf iawn i'w gwneud, wrth iddynt drosglwyddo'r negeseuon hynny i mi. Ac mae'n rhaid i ni gael y penderfyniad cytbwys y cyfeiriodd Carwyn Jones ato. Ac wrth gwrs, mae'n iawn i dynnu sylw at y cyfyngiadau ar atebion rhanbarthol yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n dal i orfod pwysleisio nad gwahaniaeth dros dro rhwng un rhan o Gymru a'r llall yw'r hyn y byddai'n rhaid i ni ei weld, neu batrwm yn pendilio rhwng niferoedd yn codi a niferoedd yn gostwng, ond gwahaniaeth cyson a chynaliadwy rhwng rhai rhannau o Gymru ac eraill. Nawr, gall hynny ddigwydd a gall ddigwydd dros yr wythnosau i ddod, ac os bydd yn digwydd, mae ein cynllun yn caniatáu inni ymateb i hynny. Ond yn union fel y gwelsom rannau o Gymru gyda niferoedd yn gostwng, mae'r un rhannau o Gymru, ar wahanol adegau, wedi bod ar ben uchaf coronafeirws yn ystod y misoedd sydd wedi mynd heibio. Felly, byddai angen inni fod ar lefel wahanol o ddibynadwyedd gwahaniaethu er mwyn manteisio ar y llwybr penderfynu y mae'r cynllun yn caniatáu inni ei ddilyn.
Rwyf am orffen fy ateb i gwestiwn Carwyn Jones drwy gytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd gobaith. Heddiw, rydym yn brechu pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal am y tro cyntaf yng Nghymru. Fe wnaethom frechu nifer o bobl yng Nghymru ar ben uchaf yr hyn a ddisgwyliem yr wythnos diwethaf. Os ydym am gyrraedd y niferoedd yr hoffem eu gweld a'r effaith y byddem am ei gweld ym mywydau pobl, rhaid inni weld brechlynnau eraill hefyd yn cael cymeradwyaeth reoleiddiol er mwyn cael brechu ar raddfa fawr i ddigwydd yma yng Nghymru. A hyd yn oed gyda phopeth yn ei le a chyda phenderfyniad enfawr ein gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru i wneud y cyfraniad hwnnw, mae arnaf ofn na fyddwn yn y sefyllfa honno tan ymhell i mewn i ail chwarter y flwyddyn nesaf ar y cynharaf.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod tymor y Senedd hon o sut mae'r Cod ar yr Arfer Orau wrth Ddefnyddio Maglau i Reoli Cadnoid wedi gweithio? OQ56037
Diolch. Yn dilyn cyhoeddi'r cod yn 2015, mae fy swyddogion wedi cyfarfod yn flynyddol â rhanddeiliaid i gasglu tystiolaeth ar y defnydd o faglau yng Nghymru. Defnyddir y dystiolaeth a gasglwyd i gynorthwyo swyddogion i ystyried a yw dull gwirfoddol o wella arferion gweithredwyr a safonau lles anifeiliaid yn gweithio.
Diolch i chi, Weinidog. Adroddwyd am 115 achos o anifeiliaid wedi'u dal mewn maglau i'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid ers cyflwyno'r cod. Anifeiliaid gwyllt, gan gynnwys rhywogaethau a warchodir, anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes, gyda llawer o'r achosion hyn yn ymwneud â thrapiau wedi'u gosod yn groes i'r cod, a gallai hyn, wrth gwrs, fod yn ddim mwy na rhan fach iawn o'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd.
Mae elusennau lles anifeiliaid yn dweud yn gywir nad yw'r cod yn gweithio. Yr unig ffordd o atal y dioddefaint difeddwl hwn yw cyflwyno gwaharddiad. Felly, roeddwn yn siomedig o weld mai am reoleiddio'n unig y mae'r Papur Gwyn yn sôn. Nid yw'r dull gwirfoddol wedi gweithio, felly pam y mae Llywodraeth Cymru yn teimlo mai rheoleiddio yn hytrach na gwaharddiad llwyr ar y creulondeb a'r boen a achosir gan faglau yw'r ffordd gywir ymlaen?
Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn a chredaf ei bod yn bwysig inni barhau i geisio casglu tystiolaeth ar y defnydd o faglau yng Nghymru lle gallwn. Ond yn amlwg, mae angen gofynion clir, rwy'n meddwl, ar gyfer cofnodi ac adrodd, er mwyn cwblhau ein sylfaen dystiolaeth. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn amaethyddol heddiw, a bydd hwnnw'n paratoi'r ffordd ar gyfer Bil amaethyddol i Gymru yn chweched tymor y Senedd. Bydd hwnnw'n cynnwys darpariaethau i roi pwerau deddfwriaethol i Weinidogion Cymru reoleiddio pob agwedd ar werthu a defnyddio maglau, ac yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y gellid ei ystyried hefyd yn y ddeddfwriaeth honno.
Weinidog, mae defnyddio maglau yn weithred farbaraidd ac nid oes lle iddi mewn Cymru fodern ddi-greulondeb. Mae'r cod ymarfer yn caniatáu i'r fasnach anfoesol mewn ffwr llwynogod barhau, ac nid yw'n gwneud dim i atal dioddefaint aruthrol i anifeiliaid a dargedir ac anifeiliaid nad ydynt wedi'u targedu. Mae'r RSPCA yn ymdrin yn rheolaidd â moch daear a chathod anwes sydd wedi treulio dyddiau wedi'u dal mewn maglau. Weinidog, a ydych yn cytuno nad yw'r cod yn ymarferol ac nad oes modd ei blismona, a bod angen ei ddileu o blaid gwaharddiad llwyr ar yr anwarineb hwn yng Nghymru?
[Anghlywadwy.]—wedi clywed fy ateb i Vikki Howells a'r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth bellach o fewn y Bil amaethyddol. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y cod ymarfer yn aros yno i hyrwyddo arferion gorau, ac na ddylid defnyddio maglau polion, er enghraifft, heblaw pan nad oes dulliau rheoli eraill ar gael.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56056
Diolch. Mae ein strategaeth genedlaethol yn nodi ein dull o reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd a sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r risgiau cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Bydd ein rhaglen llifogydd yn buddsoddi dros £3 miliwn yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru eleni, gan gynnwys £566,000 ar gyfer atgyweiriadau brys i'r seilwaith llifogydd.
Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Y penwythnos hwn, ymwelais â thrigolion a busnesau yn Heol Capel Teilo, sydd rhwng Trimsaran a Chydweli yn Sir Gaerfyrddin. Effeithir ar nifer gymharol fach o eiddo, ond effeithir arnynt yn ddifrifol iawn, gyda wythnosau'n mynd heibio weithiau heb allu cael eu cerbydau i mewn ac allan. Mae'r patrwm yn gymhleth, Weinidog, gyda phroblemau llifogydd llanw, a rhai problemau'n codi o agosrwydd rheilffordd ac anhawster clirio dŵr. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi, Weinidog, pan ddywedodd aelod o asiantaeth gyhoeddus wrth un o'r teuluoedd fod eu heiddo, ac rwy'n dyfynnu, yn 'hepgoradwy' ac na ellid gwneud dim, nad oedd hynny'n derbyniol. Nid wyf am enwi'r asiantaeth oherwydd, yn amlwg, gallai hynny ddangos pwy yw'r unigolyn.
Ond Weinidog, os ysgrifennaf atoch a gofyn ichi wneud hynny, a wnewch chi ymateb, ac annog yr holl asiantaethau sy'n weithredol yma—ac mae hynny'n cynnwys Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru—. Mae hefyd yn cynnwys, yn amlwg, yr awdurdod lleol a'r rheilffyrdd, oherwydd y lein reilffordd. A wnewch chi eu hannog i gyfarfod â'r trigolion a minnau ar y safle, er mwyn inni allu trafod y posibiliadau? Rwy'n sylweddoli bod rhaid buddsoddi lle caiff y nifer fwyaf o eiddo ei diogelu, ond onid yw'n wir hefyd, pan effeithir ar bobl dro ar ôl tro, eu bod hwythau hefyd yn haeddu ein hystyriaeth a rhywfaint o fuddsoddiad o bosibl?
Ydi, yn bendant. Fe fyddwch yn ymwybodol mai ein strategaeth yw diogelu cartrefi a busnesau, a bywydau pobl felly, oherwydd gwyddom fod llifogydd yn ddigwyddiad hollol ddinistriol. Ond mae'n ymwneud â mwy na'r ffigurau mawr, fel y dywedwch. Mae'n ymwneud ag unigolion hefyd. Yn sicr, rwy'n cytuno. Yn bendant, gwelsom y gwaith partneriaeth rydych yn cyfeirio ato yn amlwg iawn yn ystod y llifogydd ym mis Chwefror, yn enwedig yn y Rhondda, er enghraifft. Felly, byddwn yn annog yr holl sefydliadau a enwyd gennych i ddod at ei gilydd gyda chi i weld beth y gallwn ei wneud, a byddaf yn hapus iawn i fod yn rhan o hynny hefyd.
Weinidog, mae cynlluniau ar y gweill yn Swydd Amwythig i ddatblygu cynllun atal llifogydd ar hyd Afon Hafren i ddiogelu Amwythig a'r ardaloedd cyfagos rhag llifogydd. Nawr, gwn fod y Cynghorydd Lucy Roberts, sy'n cynrychioli ward Llandrinio, sydd ar ochr Cymru i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, wedi bod yn awyddus iawn i sefydlu cysylltiadau a hefyd i gynrychioli barn trigolion ar ochr Cymru. Os ydych yn ymwybodol o'r cynllun hwn, a yw Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwbl fodlon na fydd y cynlluniau hyn yn niweidiol i ganolbarth Cymru ac i fy etholwyr oherwydd, wrth gwrs, rydym i fyny'r afon o ran hynny? Ac os nad ydych yn ymwybodol o'r cynllun penodol hwn, tybed a wnewch chi ofyn i'ch swyddogion edrych ar y cynllun ar eich rhan, ac ymateb er mwyn rhoi'r sicrwydd hwnnw i ni.
Diolch am ddwyn hyn i fy sylw, Russell George. Nid wyf yn ymwybodol o'r cynllun; fe edrychaf i weld a yw fy swyddogion yn gwybod amdano. Ond fel y dywedwch, rwyf am sicrhau fy mod yn cael cyfarwyddyd yn ei gylch a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod maes o law.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rŷn ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar amaethyddiaeth y bore yma. Dwi'n edrych ymlaen i bori drwy hwnnw dros y dyddiau nesaf. Ond, ar yr olwg gyntaf, mae'n rhaid i fi ddweud does yna fawr ddim gwahaniaeth neu newid o rai o'r dogfennau ymgynghori rŷn ni wedi'u gweld yn flaenorol. Mae yna elfennau, wrth gwrs, rŷn ni'n cytuno â nhw—a dwi'n meddwl ei bod hi'n bryd inni symud yn nes at fodelau sydd yn talu am nwyddau cyhoeddus—ond, wrth gwrs, byddwch chi a phawb arall yn ymwybodol ein bod ni yn anghytuno ac yn dal i anghytuno ynglŷn â'r angen am ryw fath o daliad sefydlogrwydd fel rhan o'r gefnogaeth sydd ar gael i'r sector. Ond fe addawoch chi, wrth gwrs, na fyddech chi'n dod â chynigion gerbron heb eich bod chi wedi gwneud asesiadau effaith llawn ac wedi gwneud modelu trylwyr, ond mi oeddwn i'n darllen, yn y Papur Gwyn, ac mi ddyfynnaf i:
Mae gwaith dadansoddol pellach yn cael ei wneud i sefydlu effaith economaidd ein hargymhellion ar lefel busnes fferm, lefel sector a lefel ranbarthol. Bydd canlyniadau'r gwaith hwn yn bwysig ar gyfer asesu effaith bosibl y cynllun ar gymunedau gwledig.
Wel, mae hynny'n dweud wrthyf i nad ydych chi'n gwybod beth fydd effaith y cynigion sydd yn eich Papur Gwyn chi ar yr union ffermydd teuluol hynny y byddwch chi'n dibynnu arnyn nhw i ddelifro y nwyddau cyhoeddus a'r canlyniadau dŷn ni i gyd eisiau eu gweld. Felly, sut allwch chi gyhoeddi Papur Gwyn mor arwyddocaol a mor bellgyrhaeddol pan, yn amlwg, rydych chi heb wneud eich gwaith cartref?
Bydd Llyr Huws Gruffydd yn ymwybodol iawn mai'r Papur Gwyn hwn yw pen draw llawer iawn o drafodaethau a dadleuon a dau ymgynghoriad sylweddol, ac rydym bellach wedi cyflwyno'r Papur Gwyn, a dywedais mewn ateb cynharach y bydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil amaethyddol i Gymru yn y chweched Senedd.
Mae llawer iawn o dystiolaeth a dadansoddiadau y bydd angen edrych arnynt cyn cyflwyno'r Bil. Fe fyddwch yn ymwybodol fod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gosod contract i ymgysylltu â chonsortiwm annibynnol i archwilio effeithiau'r cynigion ar economi amaethyddol Cymru. Mae'n waith cymhleth iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud pethau'n iawn, nad ydym yn ei ruthro, ac nid wyf yn disgwyl i adroddiad terfynol ar hyn ddod i law cyn hydref y flwyddyn nesaf. Nid oes rhuthr i wneud hyn. Mae gennym bwerau dros dro o dan Fil Amaethyddol Llywodraeth y DU. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gwneud pethau'n iawn, ac mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ar baratoi'r Papur Gwyn hwn. Mae gennym y rhaglen monitro a modelu amgylcheddol a materion gwledig, rydym wedi sefydlu grŵp tystiolaeth rhanddeiliaid fel y gall swyddogion ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac fel y dywedais, ac fel rydych newydd ei nodi, ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar natur unrhyw gynllun yn y dyfodol hyd nes y bydd y dadansoddiad economaidd hwnnw wedi'i gwblhau.
Felly, os nad oes brys, Weinidog, pam eich bod yn cyflwyno Papur Gwyn cyn bod y grŵp rydych yn ei sefydlu i ystyried gwneud yr asesiadau hyn wedi cwblhau eu gwaith? Rydych yn gwrthddweud eich hun yn yr ateb hwnnw. A bydd unrhyw waith sydd eisoes wedi'i wneud, y gwn eich bod yn cyfeirio ato yn yr adroddiad, wedi dyddio, os nad yn amherthnasol, ar 1 Ionawr, wrth gwrs, oherwydd, ar ddiwedd y cyfnod pontio, mae popeth yn newid. Nid oes gennym syniad pa fynediad fydd gan ffermwyr Cymru at farchnadoedd allforio, boed yn yr UE neu ymhellach. Nid oes gennym syniad pa lefel o fewnforion rhad a allai fod yn llifo i'n marchnad ddomestig gan danseilio a chodi prisiau is na'n cynhyrchwyr yma yng Nghymru, gan ddechrau'r ras i'r gwaelod wrth gwrs. Ac nid ydym yn gwybod yn iawn o hyd pa lefel o arian a gawn yng Nghymru yn lle arian yr UE; yr hyn a wyddom yw bod Llywodraeth y DU wedi torri'r cyllid y byddwn yn ei gael y flwyddyn nesaf. Felly, nid yw'n argoeli'n dda o ran gwybod pa lefel o gyllid fydd gennych i gyflawni rhai o'r uchelgeisiau sydd gennych yn eich Papur Gwyn. Felly, mae'n sicr y dylai'r hyn rydym yn ei gynnig mewn unrhyw Bapur Gwyn fod yn seiliedig ar yr hyn y down i'w wybod ar ôl i bethau dawelu ar ôl Brexit, ac nid dim ond cyhoeddi Papur Gwyn sydd ond yn taro allan a gobeithio am y gorau, yn ôl fel y gwelaf fi, pan nad oes unrhyw beth o gwbl yn glir.
Rydych yn llygad eich lle fod llawer iawn o ansicrwydd ar hyn o bryd, yn enwedig mewn perthynas â chyllid. Fel y dywedwch, mae Llywodraeth y DU wedi torri'r cyllid amaethyddol—rydym £137 miliwn yn brin; rydym yn dal i ymladd i sicrhau bod y cyllid hwnnw'n cael ei ddychwelyd i ni, ond yn amlwg, mae cyllid yn fater o bwys. Fodd bynnag, mae hwn yn gyfle. Gwyddom fod angen inni gyflwyno Bil amaethyddol yn gynnar iawn yn y chweched Senedd. Ymgynghoriad yw hwn, unwaith eto. Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 25 Mawrth. Nid oes dim yn bendant ac fel y dywedais, ni wneir unrhyw benderfyniadau terfynol. Rydym wedi ymgysylltu'n sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf, ers refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Mae swyddogion wedi cyfarfod ag ystod eang o randdeiliaid; rwyf fi'n bersonol wedi cyfarfod ag ystod eang o randdeiliaid. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau wrth ddatblygu'r sylfaen dystiolaeth y seiliwyd y Papur Gwyn arni.
Ac nid oes eglurder o hyd ynglŷn â sut y bydd eich cynigion yn cael eu gweithredu mewn gwirionedd. Fel y dywedoch chi: bedair blynedd ers y refferendwm, dair blynedd, mae'n debyg, ers i'r ddeialog hon gyda'r sector ddechrau o ddifrif. Dyma'r trydydd ymgynghoriad y byddwch yn ymgysylltu â'r sector a'r gymdeithas ehangach yn ei gylch, ond unwaith eto, ceir llawer o uchelgeisiau lefel uchel, fel y gwelsom eisoes yn 'Ffermio cynaliadwy a'n tir', yr ymgynghoriad o'i flaen, a 'Brexit a'n tir', yr un cyn hwnnw. Prin fod yna unrhyw fanylion gweithredol, dim gwybodaeth am yr hyn y bydd yr argymhellion yn ei olygu ar lefel fferm, dim eglurder ynghylch amserlenni, dim manylion am y trefniadau pontio, dim gwybodaeth gyllidebol ychwaith. Felly, rwy'n meddwl tybed beth rydych chi'n gobeithio ei ddysgu o'r ymgynghoriad hwn nad yw eisoes wedi dod yn amlwg i chi yn y ddau ymgynghoriad a gynhaliwyd gennych o'i flaen? Ac unwaith eto, fe ddof yn ôl at y pwynt a wnaethoch nad oes unrhyw frys. Ac rwy'n cytuno ei bod yn bwysicach ei gael yn iawn na'i wneud yn gyflym, ond ai'r 12 wythnos nesaf yw'r amser gorau i gynnwys y sector mewn ymgynghoriad ystyrlon? Maent eisoes yn mynd i'r afael â chanlyniadau pandemig byd-eang, sy'n dinistrio'r system gyflenwi bwyd yn fyd-eang, ac nid yw Brexit wedi taro eto. Rhowch bythefnos iddo a bydd y sector cyfan mewn anhrefn llwyr yn ymdrin â diwedd y cyfnod pontio, ac rydych yn disgwyl ymgynghoriad ystyrlon pan fo'r sector yn ei chanol hi'n ceisio sicrhau eu bod yn goroesi. Does bosibl nad yw amseriad hyn yn hollol anghywir.
Rwy'n cydnabod yn llwyr ein bod mewn cyfnod anodd iawn, ond yn anffodus, credaf y bydd yn para ychydig yn hwy. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn fy mod wedi ymrwymo i gyflwyno'r Papur Gwyn hwn cyn diwedd y flwyddyn, ac rwy'n siŵr mai chi fyddai'r cyntaf i fy meirniadu pe na bawn wedi gwneud hynny. Felly, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf wedi clywed gan neb, ar wahân i'r hyn rydych newydd ei ddweud wrthyf, mai dyma'r adeg anghywir i ymgynghori. Roedd pawb yn gwybod bod y Papur Gwyn hwn yn dod cyn diwedd y flwyddyn. Rwy'n credu mai nôl—os nad yn yr haf, yn sicr yn yr hydref yr addewais wneud hynny cyn diwedd y flwyddyn galendr. Felly, ni fydd neb yn synnu ein bod wedi cyflwyno hyn. Mae'r ymgynghoriad yn agored tan 25 Mawrth; rwy'n gobeithio clywed cynifer o safbwyntiau â phosibl ar y Papur Gwyn. Ac rwy'n credu bod rhanddeiliaid yn cydnabod ein bod ynghanol argyfwng hinsawdd hefyd, ac wrth gwrs, rydym ynghanol pandemig. Mae'r argyfwng hinsawdd yma hefyd, a gwn fod y sector amaethyddol yn arbennig yn teimlo eu bod yn rhan o'r ateb i'r argyfwng hinsawdd, ac rwy'n awyddus iawn i glywed eu barn ynglŷn â sut y byddant yn parhau i ymateb iddo.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Lywydd. Wrth edrych ymlaen at gyhoeddi'r Papur Gwyn heddiw, rhaid i mi adleisio a chymeradwyo rhai o sylwadau fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd. Nid yw'r argymhellion Papur Gwyn hyn yn darparu'r fframwaith sydd ei angen i gyflawni'r egwyddorion a'r uchelgeisiau y mae ein ffermwyr yng Nghymru yn eu haeddu. Rydym i gyd yn gwybod canlyniad pleidlais Brexit, ac ar y darlleniad cyflym y cefais gyfle i'w wneud ar hyn heddiw, nid yw'n rhy glir fod rhai o'r ymgynghoriadau blaenorol wedi ychwanegu unrhyw bwysau at hynny, o ran bwrw ymlaen â'r rheini.
Ein ffermydd yw conglfaen ein cymunedau gwledig, ac maent yn creu swyddi hanfodol, sy'n diogelu arferion rheoli tir hanesyddol a chynaliadwy am genedlaethau i ddod. Er bod eich Papur Gwyn yn 74 tudalen o hyd, rwy'n synnu mai tair gwaith yn unig y cyfeiriwch at y gair 'cyflogaeth', a'ch bod ond wedi rhoi un sylw wrth fynd heibio i swyddi yn y sector ffermio. Mae hyn yn tanseilio'r gwerth aruthrol y mae ein ffermydd yn ei gyfrannu i gymunedau gwledig ac economïau rhanbarthol. Felly, Weinidog, a wnewch chi adolygu eich argymhellion i gydnabod yn llawn pa mor bwysig yw'r sector ffermio fel cyflogwr allweddol mewn ardaloedd gwledig, ac a wnewch chi geisio rhoi mwy o bwyslais ar werth gwirioneddol y gwaith o gynhyrchu bwyd gan ein ffermwyr yng Nghymru?
Rwy'n synnu at ddadansoddiad Janet Finch-Saunders o'r Papur Gwyn. Yn amlwg, y Bil ac yna'r Ddeddf a fydd yn darparu'r fframwaith hwnnw, ond holl ddiben cael ein bil amaethyddol ein hunain yng Nghymru—y tro cyntaf i ni gael y cyfle; gadewch i ni edrych ar y cyfleoedd yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae hwn yn gyfle enfawr i gael ein polisi amaethyddol ein hunain yng Nghymru, wedi'i deilwra'n gyfan gwbl ar gyfer Cymru—polisi amaethyddol pwrpasol. Mae gwir angen inni gadw ffermwyr ar y tir—yn sicr. Hebddynt hwy, ni fyddem yn gallu cyflawni unrhyw un o'r canlyniadau rydym yn ceisio’u cyflawni. Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy yn ganolog i'r Papur Gwyn hwn—nid fel un Lloegr. Felly, rydym yn gwbl sicr fod yn rhaid cynnwys cynhyrchu bwyd. Ac os edrychwch ar 'Brexit a'n tir', roedd hynny’n un o bryderon y sector amaethyddol, nad oedd digon o amlygrwydd yn cael ei roi i fwyd. Newidiodd hynny gyda'r ail ymgynghoriad, mewn perthynas â 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', ac mae’n sicr yn cael lle canolog yn y Papur Gwyn, ynghyd â'r canlyniadau amgylcheddol y mae ein ffermwyr yn eu cynhyrchu ond heb gael eu gwobrwyo amdanynt ar hyn o bryd.
Diolch, Weinidog, ond o ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio ers eich ymgynghoriad cyntaf un, rwy'n siomedig ynglŷn â’r diffyg manylion o sylwedd yn y ddogfen hon, a chyn lleied o gydnabyddiaeth o'r amser a'r egni y mae ein ffermwyr wedi'i roi wrth ymateb i chi yn flaenorol ar lawer o ymgynghoriadau eraill. Ac wrth ddarllen y ddogfen—er yn gyflym iawn—heddiw, nid yw'n adlewyrchu eu mewnbwn. Dylai'r cynnig hwn fod yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth. Rydym yn edrych ar gynllun 15 i 20 mlynedd, i ddatblygu a chyflwyno polisi bwyd a ffermio cynhwysfawr, i sicrhau diogelwch bwyd, a hybu gwerthiant a chaffael bwyd o Gymru ar gyfer y farchnad ddomestig. Yn hytrach, fodd bynnag, mae eich Papur Gwyn yn sôn llawer am orfodaeth, gan grybwyll rheoliadau 79 o weithiau. Rwy’n ystyried hynny’n sarhad pur ar ein ffermwyr—cam na fydd yn gwneud unrhyw beth heblaw amharu ar gystadleurwydd ein ffermydd.
Mae COVID-19 wedi tynnu sylw at freuder ein cadwyni cyflenwi, a pha mor bwysig yw ein ffermwyr i gynhyrchiant bwyd yng Nghymru. Cofiwch sut y daethant i’r adwy yn ystod y pandemig, ac maent yn parhau i wneud hynny. Pan ddechreuodd pobl fod yn ofnus ynglŷn â mynd i mewn i archfarchnadoedd, roedd ein ffermwyr yno, gyda'n cigyddion, yn danfon bwyd lle roedd ei angen, ac ni ellir anwybyddu hynny. Yn syml, nid yw dilyn polisi sy'n arwain at grebachiad ffermio a chynhyrchiant bwyd yng Nghymru yn rhywbeth cyfrifol i'r Llywodraeth hon ei wneud ar sail fyd-eang, a dyna'r teimlad hyd yn hyn. Felly, Weinidog, yn y cyd-destun hwn, pam mai dwy waith yn unig y mae’r Papur Gwyn yn crybwyll diogelwch bwyd, heb roi unrhyw ystyriaeth yn ôl pob golwg i’r angen i gynnal a gwella lefelau cynhyrchu bwyd yng Nghymru?
Felly, cawsom yr ymgynghoriad cyntaf yn ôl yn 2018 a’r ail un y llynedd, yn 2019. Unwaith eto, rwy’n synnu nad ydych yn teimlo y bu newid yng nghywair yr iaith na’r argymhellion a gyflwynwyd, oherwydd mae'n amlwg fod hynny wedi digwydd. Felly, hoffwn ofyn i chi fynd yn ôl i edrych ar y ddau ymgynghoriad blaenorol, dim ond er mwyn gweld hynny.
Mae ein cynnig i gyflwyno cynllun ffermio cynaliadwy yn rhoi gwerth teilwng ar y canlyniadau amgylcheddol y mae ein ffermwyr yn eu cynhyrchu. Nid ydynt yn cael eu gwobrwyo am hynny ar hyn o bryd. Mae cynhyrchu bwyd cynaliadwy yn sicr yn ganolog iddo hefyd, ac roedd hynny ar gais penodol yr ymgynghoriad cyntaf a gawsom, lle cawsom dros 12,000 o ymatebion. Felly, mae dweud nad ydym wedi gwrando ar bobl a roddodd amser i ymateb yn gwbl anghywir yn fy marn i.
Mae rhai wedi galw am status quo, ond rwy'n credu, fel y—. Yn sicr, yn yr ymgynghoriad cyntaf, roedd pobl yn dweud eu bod yn awyddus i gael status quo. Ond os siaradwch â’r rhan fwyaf o ffermwyr, byddant yn dweud nad yw'r polisi amaethyddol cyffredin wedi galluogi'r sector i fod yn wydn nac i oresgyn yr heriau amgylcheddol sy'n codi o'r argyfwng hinsawdd, fel rwy'n dweud. Cytunaf yn llwyr â chi fod ein sector amaethyddol, a'n ffermwyr, wedi bod ar flaen y gad yn sicrhau bod pob un ohonom yn cael ein bwydo. Nid oes unrhyw un wedi mynd heb fwyd yng Nghymru, ac wrth gwrs, roeddent yn rhan o hynny.
Felly, ymgynghoriad yw hwn eto, felly os oes gan unrhyw un syniadau pellach, yn amlwg, rydym yn gobeithio clywed llawer ganddynt. Rydym yn mynd i weithio'n agos iawn gyda'r diwydiant a chyda'n ffermwyr i ddatblygu manylion y cynllun. Ac rwyf wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau hyd nes y gallwn ddangos bod y cynllun newydd wedi'i gynllunio'n addas.
Fe sonioch chi am gaffael, ac rwy’n cytuno’n llwyr â chi fod hwnnw’n gyfle pellach. A'r diogelwch bwyd hwnnw y mae pob un ohonom yn poeni amdano, rwy'n sicr yn cael trafodaethau gyda fy swyddogion cyfatebol ar hyn o bryd, gan na fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn gwneud unrhyw beth i helpu i ddiogelu ein cyflenwad bwyd.
Diolch unwaith eto. Weinidog, wrth ymdrin â'r safonau gofynnol cenedlaethol ar gyfer amaethyddiaeth, dywed eich Papur Gwyn:
‘Bydd ymgynghoriad manylach ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn rhan o’r is-ddeddfwriaeth hon.’
Felly, ceir teimlad eich bod, unwaith eto, yn gadael y manylion tan yn ddiweddarach. Nawr, o ystyried eich bod yn bwriadu gwneud y rhain mor eang â phosibl, gan gyfuno rheoliadau ar barthau perygl nitradau a deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid o'i fewn, mae rhanddeiliaid wedi dweud eu bod yn credu y bydd amseriad y cyhoeddiad yn ei gwneud yn anoddach i ffermwyr gymryd rhan weithredol, a'u bod yn teimlo nad yw'r papur hwn yn adlewyrchu lefel gyson eu hymgysylltiad â chi mewn ymgynghoriadau blaenorol.
Gadewch i mi eich atgoffa, pan fydd ein ffermwyr gweithgar yn ymateb i ymgynghoriadau, fod llawer o'u hamser a'u hegni yn mynd i mewn i hynny, felly mae'n rhaid i'r ddogfen hon, ac unrhyw Fil yn y dyfodol, adlewyrchu eu barn. Felly, gan fy mod wedi codi pryderon gyda chi ynglŷn ag ymgysylltu o'r blaen, a allwch roi rhywfaint o sicrwydd i'r Siambr hon y bydd amser digonol yn cael ei roi i ffermwyr graffu ar y cynigion hyn gyda dyddiad targed ar gyfer darparu’r eglurder pellach hwn? Oherwydd, yn syml iawn, fel rydych wedi’i nodi'n gwbl gywir, rydym yng nghanol COVID o hyd, rydym mewn argyfwng hinsawdd, a chyda holl drafodaethau a pharatoadau Brexit ar ddechrau’r flwyddyn, mae'n mynd i fod yn anodd iawn—[Torri ar draws.] Ni chredaf fod angen unrhyw help ar y Gweinidog, Joyce. [Torri ar draws.]
Arhoswch funud, nid sgwrs rhwng y ddwy ohonoch yw hon. Parhewch, Janet Finch-Saunders.
Ychydig iawn o amser a fydd ar gael, unwaith eto, i ffermwyr ymgysylltu os ydynt yn teimlo nad oes unrhyw un yn gwrando arnynt. Felly, y cyfan rwy'n ei wneud yw erfyn arnoch, unwaith eto, ar ôl blwyddyn sydd wedi bod yn erchyll i bob un ohonom, i wrando ar y ffermwyr ac i sicrhau mai ein cynhyrchwyr bwyd a'n ffermwyr yw'r rhan fwyaf canolog o unrhyw Fil amaethyddol yn y dyfodol. Diolch.
Mae Janet Finch-Saunders yn ein hatgoffa ein bod yng nghanol storm berffaith; ni allwn gytuno mwy â chi ar hynny. Ond rwyf bob amser wedi sicrhau bod y ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd yn rhan gwbl ganolog o hyn. Rwyf wedi gwrando arnynt bob amser. Rwyf wedi ymgysylltu â hwy bob amser. Credaf y byddech yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i ffermwr a fyddai'n dweud yn wahanol.
Fe gyfeirioch chi at y safonau gofynnol cenedlaethol mewn perthynas â rheoliadau, ac un o'r cwynion cyntaf a gefais pan ddeuthum i'r portffolio hwn bedair blynedd yn ôl oedd bod y rheoliadau'n rhy gymhleth, nad oedd y rheoliadau hynny mewn un man, eu bod mewn gwahanol rannau o ddeddfwriaeth. Mae hwn yn gynnig i ddod â phopeth ynghyd mewn un ddeddf. Hefyd, mae gennych y gwaith o orfodi rheoliadau amaethyddol, sydd, mewn gwirionedd, yn canolbwyntio'n helaeth ar hyn o bryd ar gynlluniau taliadau'r PAC. A’r tu hwnt i'r cynlluniau hynny, mae’n ymwneud ag erlyniadau troseddol. Mae'n gam mawr iawn o hynny i erlyniadau troseddol. Nid wyf am droseddoli ein ffermwyr, a chredaf fod angen opsiynau cymesur arnom ar gyfer gorfodi mewn perthynas â throseddau llai difrifol. Felly, dyna'r cynllun gyda'r safonau gofynnol cenedlaethol. Ond unwaith eto, mae'n ymgynghoriad 12 wythnos.
Ac un o'r rhesymau—. Credwch fi, y tîm o swyddogion sydd wedi gweithio ar hyn, fe wnaethant chwarae rhan fawr iawn ar ddechrau’r ymateb i COVID-19 ar ran Llywodraeth Cymru. Roeddent yn gwybod fy mod yn dymuno cyflwyno’r Papur Gwyn hwn erbyn diwedd y flwyddyn: (1) fe wnes i ei addo, a (2) er mwyn cael y 12 wythnos lawn o ymgynghori, a dyna un o'r rhesymau dros ei gyflwyno nawr, ac rwy’n talu teyrnged i'r gwaith caled y maent wedi'i wneud i alluogi hynny i ddigwydd.
3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y cŵn bach a gaiff eu gwerthu yn ystod pandemig COVID-19? OQ56048
Dylai pobl feddwl yn galed am yr ymrwymiad sydd ynghlwm wrth fod yn berchen ar anifail anwes. Mae'n bwysig fod darpar berchnogion anifeiliaid anwes newydd yn sicrhau eu bod yn prynu’r anifail mewn modd cyfrifol. Am y rheswm hwn, rydym wedi ail-lansio ein hymgyrch #ArosAtalAmddiffyn a byddwn yn parhau i gyhoeddi negeseuon cryf ar hyn yn y dyfodol.
Diolch. Yn ystod mis cyntaf y cyfyngiadau symud, cynyddodd nifer y chwiliadau ar-lein am gŵn a chathod bach 120 y cant yn ôl Dogs Trust. Ac mae’r cynnydd hwnnw yng ngwerthiant cŵn a chathod bach, yn ôl adroddiad gan Gartref Cŵn Battersea, wedi arwain at gynnydd o 94 y cant mewn mewnforion cyfreithiol o dramor i ateb y galw. Yn anffodus, yn ôl yr elusen, mae'r cynnydd hwn yn debygol o nodi cynnydd ym masnach anghyfreithlon smyglo cŵn a chathod bach ar draws ffiniau gwledydd hefyd. Bydd llawer ohonynt yn cael eu gwerthu drwy drydydd partïon ar wefannau ar-lein fel Facebook a Gumtree, er enghraifft.
Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddant yn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwerthu cŵn a chathod bach gan drydydd parti yn anghyfreithlon yng Nghymru, ac rydym yn ei galw’n gyfraith Lucy. Mae'n ddeddfwriaeth bwysig a'r gobaith yw y bydd yn cael gwared ar y bridwyr diegwyddor nad oes ganddynt fawr o barch at les anifeiliaid. Felly, Weinidog, a allwch roi amserlen glir i ni ar gyfer pa bryd rydych yn bwriadu rhoi’r ddeddf a elwir yn gyfraith Lucy ar waith yng Nghymru?
Felly, fel y soniais, rwy’n credu, wrth Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yr wythnos diwethaf—ac mae'r prif swyddog milfeddygol yn wirioneddol awyddus i mi bwysleisio'r pwynt hwn—rydym yn mynd y tu hwnt i gyfraith Lucy, ac mae’n ymwneud â gwerthiannau gan drydydd partïon. Felly, bydd hyn yn cael ei gyflwyno cyn diwedd tymor y Senedd hon. Ni allaf roi union amserlen i chi, ond fel y dywedaf, dim ond tri, pedwar mis sydd gennym bellach i'n galluogi i wneud hyn. Ac er gwaethaf yr holl alwadau eraill ar amser y tîm, rydym ar y trywydd iawn gyda'n deddfwriaeth ar werthu gan drydydd partïon.
Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud lawer gwaith, Joyce, na fydd y ddeddfwriaeth ar ei phen ei hun yn gwneud popeth y byddem am iddi ei gwneud, a dyna pam y cawsom brosiect gorfodaeth bridio cŵn ar gyfer awdurdodau lleol hefyd. Gwnaethom ei ariannu, a buom yn gweithio'n agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol. Lywydd, hoffwn atgoffa pobl ein bod, yn anffodus, yn gwybod bod y Nadolig yn draddodiadol yn gyfnod pan fydd pobl yn prynu cŵn a chathod bach ar fympwy. Soniais am ymgyrch #ArosAtalAmddiffyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym wedi’i hail-lansio. Fe wnaethom ni hynny y llynedd cyn y Nadolig, ac rydym wedi ail-lansio’r ymgyrch yr wythnos hon i atgoffa pobl.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd yn Nhorfaen ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon? OQ56057
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer Cymru gyfan drwy'r polisi adnoddau naturiol. Mae datganiad ardal de-ddwyrain Cymru, a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn amlinellu'r heriau a'r cyfleoedd allweddol i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn yr ardal, ac mae hynny'n cynnwys Torfaen.
Diolch, Weinidog. Mae SL Recycling Ltd wedi bod yn gweithredu safle llosgi gwastraff ar hen safle llosgydd Shanks mewn ardal breswyl yn y Dafarn Newydd yn fy etholaeth. Rhoddwyd caniatâd iddynt gan CNC fisoedd lawer yn ôl, er mai nawr y mae'r cwmni'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol. Ers iddynt ddechrau gweithredu, rwyf wedi derbyn nifer fawr o gwynion gan drigolion lleol yr effeithir arnynt gan niwsans sŵn a phethau eraill fel drewdod. Bu'n rhaid i fy awdurdod lleol, sydd eisoes o dan bwysau, fynd i’r afael â’r materion hynny, gan nad yw CNC yn gallu bod yn ddigon ymatebol. A ydych yn rhannu fy mhryder, Weinidog, am y datgysylltiad amlwg rhwng gweithrediad CNC a fy awdurdod lleol? A wnewch chi godi hyn gyda CNC, gyda golwg ar sicrhau na fydd y datgysylltiad hwn yn parhau yn y dyfodol? Diolch.
Diolch. Rwy'n bryderus iawn wrth glywed hyn, ac rwy'n sicr yn rhannu eich pryderon, oherwydd yn amlwg, mae cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol yn gyfundrefnau sy’n ategu ei gilydd. Mae'r caniatâd cynllunio yn penderfynu a yw'r datblygiad yn ddefnydd tir derbyniol, er enghraifft, ac mae'n gwbl iawn fod y cwynion wedi mynd i'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf, ond rwy’n sicr yn fwy na pharod i godi hyn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn fy nghyfarfodydd misol rheolaidd, ac fe ysgrifennaf at yr Aelod wedyn i nodi beth yn union yw eich pryderon. Yn amlwg, nid yw trwydded amgylcheddol gan CNC yn dileu'r gofyniad y dylai fod gan safle ganiatâd cynllunio priodol. Felly, gofynnaf unwaith eto i CNC ymgynghori â'r awdurdod lleol a sicrhau bod popeth yn ei le.
Bron i 10 mlynedd yn ôl, pennwyd targed gan Lywodraeth Cymru i blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn tan 2030. Fodd bynnag, yn y pum mlynedd diwethaf, 300 hectar yn unig yw'r ffigur cyfartalog ar gyfer coetir newydd a blannwyd. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged ei hun yn rhwystro ei gallu i gyflawni ei nodau newid hinsawdd? A pha gamau y bydd yn eu cymryd i annog plannu mwy o goed yn Nhorfaen a ledled Cymru?
Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud lawer gwaith nad ydym wedi plannu digon o goed, yn sicr, a dyna pam rydym wedi cyflwyno sawl menter yn ystod y 12 mis diwethaf, yn enwedig y brif fenter, sef y fforest genedlaethol, a bydd hynny'n creu ardaloedd o goetir newydd i’n helpu i adfer a chynnal rhai o'n coetiroedd hynafol digymar, a hefyd i sicrhau ein bod yn plannu mwy o goed i'n helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd. Unwaith eto, byddwch wedi clywed fy atebion cynharach mewn perthynas â’r Papur Gwyn ar amaethyddiaeth a gyhoeddwyd heddiw, ac yn hwnnw, fe welwch y cynllun i blannu mwy o goed. Ond rwyf wedi dweud bob amser fod angen i ni weithio gyda'n ffermwyr, gyda'n rheolwyr tir, gyda CNC i sicrhau ein bod yn cynyddu nifer y coed rydym yn eu plannu yn sylweddol.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar les anifeiliaid yng Nghymru? OQ56041
Diolch. Drwy gydol pandemig COVID-19, rydym wedi cyhoeddi canllawiau, gan weithio gyda'r proffesiwn milfeddygol a grwpiau lles anifeiliaid anwes presennol ac wedi sefydlu ein grŵp iechyd a lles anifeiliaid fferm ein hunain i ystyried effaith COVID-19 ar les anifeiliaid yn benodol. Mae hyrwyddo safonau lles anifeiliaid uchel yn parhau i fod yn flaenoriaeth, er gwaethaf yr heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu.
Diolch, Weinidog. Yn ystod pandemig COVID-19, wrth gwrs, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am gŵn bach a’u gwerthiant o amrywiol ffynonellau. Nawr, mae chwiliadau Google yn y DU am gŵn bach ger fy nghartref i wedi cynyddu fwy na chwe gwaith, ac mae nifer y trwyddedau a roddwyd ar gyfer mewnforio cŵn yn fasnachol wedi mwy na dyblu o’i gymharu â'r cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Awst 2019, i 12,733 yn yr un cyfnod o dri mis eleni. Felly, mae pryder difrifol ein bod yn eistedd ar fom amser mewn perthynas â lles anifeiliaid. Mae’n anghredadwy fod trwyddedau i fewnforio cŵn a chŵn bach wedi dyblu yn y ffordd honno, pan welwch faint o gŵn crwydr sydd i’w cael, faint o gŵn gadawedig sy'n aros am gartrefi parhaol. Felly, gallai fod cynnydd sylweddol yn niferoedd anifeiliaid gadawedig wrth i ganlyniadau economaidd pellach y coronafeirws gael eu gwireddu. Felly, mae'n deg dweud bod yn rhaid i'n canolfannau achub fod yn barod. Fodd bynnag, mae nifer y cyfleoedd i godi arian wedi lleihau'n sylweddol, a dangosodd arolwg o aelodau Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru fod 71 y cant o sefydliadau'n galw am ryddhau grantiau ar gyfer canolfannau achub—mae hynny’n nifer sylweddol o bobl sydd angen help i ofalu am y cŵn hyn sydd mewn trafferthion enbyd. Felly, a wnewch chi ystyried darparu rhywfaint o arian ar ryw bwynt i gynorthwyo'r canolfannau achub os gallant brofi, er y grantiau y gallent fod wedi'u cael o ffynonellau eraill, y gallech helpu mewn rhyw ffordd? Diolch.
Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn. Fe godoch chi’r mater hwn pan fûm gerbron y pwyllgor ddydd Iau diwethaf, a dywedodd y prif swyddog milfeddygol a minnau nad ydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr anifeiliaid gadawedig. Ond efallai ei bod yn rhy gynnar oherwydd yn amlwg, efallai fod pobl yn gweithio gartref, a heb fynd yn ôl i'r gwaith, ac os ydynt wedi cael ci neu gi bach yn ystod y cyfnod hwnnw, efallai ei bod braidd yn gynnar i asesu hynny, ond rydym yn cadw llygad ar hynny.
Credaf i mi grybwyll yr wythnos diwethaf hefyd fod y gronfa cadernid economaidd, sy'n unigryw i Gymru ac sy'n cefnogi busnesau, ar gael i rai o'r canolfannau y cyfeirioch chi atynt wneud cais iddi am gyllid. Yn amlwg, mae'n rhywbeth rydym yn cadw llygad arno, ac wrth i'r pandemig fynd rhagddo ac wrth i ni ddod allan o hyn a gweld pobl yn dychwelyd i'r gwaith ac ati, bydd yn rhaid i ni gadw llygad ar y sefyllfa, fel rwy'n dweud. Ond yn sicr, nid ydym yn gweld y lefelau o anifeiliaid gadawedig y credaf i chi gyfeirio atynt.
Mae nifer o bobl wedi prynu anifeiliaid anwes am y tro cyntaf gan eu bod yn gweithio gartref oherwydd COVID, ac maent yn teimlo bod ganddynt amser i ofalu amdanynt. A ddylid cynnig hyfforddiant mewn lles anifeiliaid i bobl sy'n prynu eu hanifail anwes cyntaf, oherwydd, a dweud y gwir, pe bawn yn prynu cwningen, ni fyddai syniad gennyf beth i'w wneud â hi?
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac ni fyddwn yn dweud bod hyn yn ymwneud â’r anifail anwes cyntaf yn unig; credaf y dylai fod yn berthnasol i unrhyw un sy’n prynu anifail anwes, oherwydd, fel y dywedwch, mae pobl weithiau’n prynu cwningod neu gŵn ac ati. Ond mae gennym hyfforddiant priodol ar gael. Mewn perthynas â chŵn, gwn fod gennym brosiect bridio cŵn yr awdurdodau lleol. Mae hwnnw’n edrych ar welliannau mewn perthynas â chynlluniau cymdeithasoli sy'n cael eu rhoi ar waith mewn safleoedd bridio cŵn trwyddedig, a chredaf fod hwnnw’n gam cyntaf, wrth hyfforddi cŵn bach i sicrhau eu bod yn anifeiliaid anwes da i deuluoedd.
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar yr economi wledig hyd yma? OQ56054
Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob sector, ac nid yw'r economi wledig yn wahanol. Ym mis Medi, ymrwymais £106 miliwn i gefnogi'r economi wledig dros y tair blynedd nesaf. Rydym yn asesu effeithiau'r pandemig yn barhaus ac rydym wedi ymateb mewn modd pendant.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, mae'r pandemig COVID wedi taro’r economi wledig yn galed, a bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser i ddod. Un nodwedd gywilyddus o'r economi wledig yng Nghymru yw ffermio cŵn bach. Mae gweinidogion o wledydd eraill wedi bod yn ddigon penderfynol i wahardd gwerthiannau cŵn bach gan drydydd partïon, ac mae eich datganiad diweddaraf ar y mater hwn yn nodi y byddai gwaharddiad yn cael ei roi ar waith cyn diwedd tymor y senedd hon. Fodd bynnag, nid ydych wedi dweud pryd, ac nid ydych wedi dweud pam eich bod yn parhau i adael i anifeiliaid ddioddef yn y cyfamser. Mae'r ddeddfwriaeth dan sylw yn syml, a gellid ei hatgynhyrchu o ddeddfwriaeth gwledydd eraill y DU sydd wedi dangos mwy o ofal am les anifeiliaid na'r Llywodraeth hon ac sydd eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau. Mae eich Llywodraeth wedi dod o hyd i amser i roi'r bleidlais i garcharorion, ond nid yw wedi dod o hyd i amser i wahardd gwerthiannau gan drydydd parti sy'n bwydo'r diwydiant ffermio cŵn bach. Felly, Weinidog, pam eich bod yn gohirio'r gwaharddiad ar y busnes creulon hwn? Ai oherwydd eich bod, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, yn ceisio diogelu elw unrhyw fusnes nad yw'r cyfyngiadau COVID wedi peri iddynt fynd i'r wal, hyd yn oed os yw'r busnes hwnnw'n gwneud elw o ddioddefaint?
Nid oedd Michelle Brown yn gwrando ar fy ateb cynharach i Joyce Watson y byddwn yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth, sy’n mynd y tu hwnt i gyfraith Lucy, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, h.y. mis Ebrill. Felly, os na chlywodd hynny, wel, rwyf newydd ei ailadrodd iddi.
Gwyddom y gall materion iechyd meddwl fod yn guddiedig yn aml, yn enwedig yn ardaloedd mwy gwledig Cymru, ac yn aml iawn tan ei bod hi'n rhy hwyr, gwaetha'r modd. Mae'r pandemig wedi ychwanegu haen arall nawr at y mathau niferus o straen a phwysau sy'n wynebu busnesau a ffermwyr, er enghraifft, yn yr ardaloedd gwledig. Pa asesiad rydych wedi'i wneud, a pha drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ymdrin â materion iechyd meddwl i asesu'r heriau sy'n wynebu busnesau a ffermwyr a phobl yn yr economi wledig, a pha gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau yn yr ardaloedd hynny ar yr adeg anodd hon i sicrhau bod y baich yn cael ei ysgwyddo gan y Llywodraeth i’r graddau mwyaf posibl ar gyfer y rheini yr effeithir arnynt?
Mae Nick Ramsay yn nodi pwynt pwysig iawn. Mae'n ymwneud â chydbwysedd y niwed y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato, ac rydym yn amlwg wedi gweld lefelau iechyd meddwl gwael yn cynyddu'n sylweddol yn ystod y pandemig hwn. Mewn perthynas â'r sector gwledig a'r sector amaethyddol, rydym wedi cyflwyno cynlluniau penodol i helpu ein sector amaethyddol. Rydym wedi sefydlu grŵp o'r holl elusennau sy'n gweithio yn y maes hwn. Mynychais sawl cyfarfod, yn enwedig dros yr haf a'r gwanwyn, pan oedd y pandemig ar ei waethaf, i sicrhau bod yr elusennau a'r sefydliadau hynny'n cydweithio'n agos iawn fel y gallai ffermwyr gael mynediad at y cyllid hwnnw. Fe wnaethom hefyd gyflwyno cynllun a oedd wrthi’n cael ei ddatblygu, ond fe wnaethom ei gyflwyno’n gynharach, cynllun o'r enw FarmWell, lle gall pobl gael mynediad at gymorth cyflym iawn, i weithio gyda sefydliadau, mewn perthynas â gwell iechyd meddwl. Rwyf wedi cael trafodaethau ynglŷn â hyn gyda fy nghyd-Aelod, Eluned Morgan, a chyn hynny, gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i sicrhau ein bod yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, ac rwy'n talu teyrnged i’r elusennau yn y sector amaethyddol sydd wedi darparu cymaint o gefnogaeth dros y naw mis diwethaf.
Mae COVID-19 yn amlwg yn effeithio ar ein heconomi wledig a bydd yn parhau i wneud hynny am beth amser i ddod, ond a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y mae wedi'i wneud o effaith ychwanegol gadael yr UE ar yr economi wledig a chymunedau drwy golli cymorth amaethyddol a chymorth datblygu gwledig, colli rhaglenni cymdeithasol a rhaglenni seilwaith a ariennir gan yr UE, fel band eang, a heb i Lywodraeth y DU gadw at ei haddewidion i ddarparu cyllid yn lle’r cronfeydd hyn a throsglwyddo'r cronfeydd hynny yn ôl i Gymru o dan ein pwerau datganoledig, ac mae'n rhaid i mi ddweud, heb i Boris Johnson allu sicrhau cytundeb masnach Brexit parod i’w bobi bondigrybwyll, gan wneud tro gwael iawn, felly, â ffermwyr Cymru? A fyddai’n cytuno, ni waeth pa ochr i'r ddadl Brexit roeddech arni'n wreiddiol, fod pwyntiau y gall pawb gytuno arnynt bellach: fod addewidion Brexit yn ffug, a bod pobl Cymru wedi cael eu twyllo gan Boris Johnson a chan gefnogwyr amrywiol Farage? Maent wedi gwneud tro gwael iawn â Chymru, ac mae angen iddynt gydnabod nawr mai hwy sy'n gyfrifol am y llanast hwn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac yn sicr, mae’r methiant i ddarparu cyllid amaethyddol llawn yn lle cyllid yr UE yn amlwg yn rhywbeth sy'n fy ngwylltio'n fawr—dylai wylltio pob un ohonom. A dylai pob Aelod o'r Senedd hon fod yn dadlau dros Gymru i sicrhau ein bod yn cael yr arian hwnnw yn ôl i gefnogi ein sector amaethyddol. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn elwa o dros £700 miliwn o ganlyniad i’n cyfranogiad mewn ystod o raglenni'r UE, ac mae'r mwyafrif helaeth o'r rheini'n sicr yn cefnogi ein heconomi a'n cymdeithas wledig. Byddwn yn parhau i ymladd am y cyllid hwnnw, ond mae’n rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth y DU wedi bradychu'r Gymru wledig.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OQ56031] yn ôl, felly cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon mewn lleoliadau gwledig anghysbell yn Islwyn? OQ56061
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen Taclo Tipio Cymru, sy'n cael ei harwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rhaglen yn parhau i gynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Mae hyn wedi cynnwys darparu offer gwyliadwriaeth, arwyddion a hyfforddiant. Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi atebion i atal tipio anghyfreithlon ar dir comin yn y rhanbarth hwn.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae tipio anghyfreithlon yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda'r rhan fwyaf o’r sbwriel yn cael ei ddympio ar ddarnau o dir agored, fel y Twmbarlwm hanesyddol yn fy etholaeth i, Islwyn. Nid yn unig fod cost ariannol i'w thalu, ond mae cost aruthrol i dirweddau naturiol hardd Islwyn. Weinidog, yn gynharach eleni, ail-lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch dyletswydd gofal i annog pobl i helpu i ddod â thipio anghyfreithlon i ben. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo a grymuso Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac awdurdodau lleol eraill i helpu i ymladd malltod tipio anghyfreithlon?
Mae Rhianon Passmore yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'r rhan hon o Lywodraeth Cymru wedi dod yn ôl i fy mhortffolio yn ddiweddar, ac mae gennyf gryn ddiddordeb yn hyn gan y credaf, yn sicr yn ystod y pandemig, ein bod wedi gweld cynnydd nad ydym yn dymuno’i weld mewn tipio anghyfreithlon. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl awdurdodau lleol fel y gallwn eu cefnogi gydag unrhyw fesurau a gyflwynir ganddynt i atal ac ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon.
Credaf fod yr ymgyrch y cyfeirioch chi ati, ymgyrch Dyletswydd Gofal, wedi’i chroesawu’n fawr. Mae pecyn cymorth cyfathrebu, er enghraifft, ar gael i bob sefydliad partner ei ddefnyddio, ac mae hynny'n annog deiliaid tai i gael gwared ar eu gwastraff a'u hailgylchu mewn modd cyfrifol. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi dyfarnu cyllid drwy raglen cymunedau gwledig y rhaglen datblygu gwledig ar gyfer y prosiect cydweithredu ar y tiroedd comin sydd wedi’u lleoli'n rhannol yn eich etholaeth, rwy'n credu, ond yn sicr yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. A bydd rhan o'r prosiect hwnnw'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddau tirwedd, ac mae hynny'n cynnwys swyddog Taclo Tipio Cymru i weithio'n agos gyda’r gymdeithas cominwyr a chyngor Caerffili i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal halogi tir yn Nwyrain De Cymru? OQ56058
Diolch. Mae awdurdodau lleol yn Nwyrain De Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am atal halogi tir drwy'r drefn gynllunio, rheoleiddio diwydiannol neu weithredu deddfwriaeth tir halogedig. Roeddem yn arfer darparu cymorth drwy'r gronfa cyfalaf tir halogedig. Rydym hefyd yn ariannu hyfforddiant ar dir halogedig ar gyfer awdurdodau lleol a CNC.
Diolch, Weinidog. Rwyf wedi ysgrifennu atoch ar sawl achlysur mewn perthynas â gweithgareddau Bryn Group ger Gelligaer, sydd wedi halogi tir drwy roi plastig wedi'i ddarnio drwy'r pridd, ac sydd yn ôl pob golwg wedi bod yn taenu hadau glaswellt i guddio hynny. Nawr, mae cyngor Caerffili a CNC wedi dweud nad oes problem gyda'r safle, er gwaethaf yr holl dystiolaeth rwyf fi ac eraill wedi'i hanfon drwy fideo a ffotograffau. Rwyf fi'n bersonol wedi cerdded ar hyd y bwnd am ddwy awr a gallaf dystio i ba mor helaeth a dinistriol yw'r halogiad. Mewn ymateb i fy llythyr diweddaraf, Weinidog, rydych wedi dweud wrthyf y byddwch yn gofyn i CNC ymchwilio i'r mater hwn eto, ond rydych wedi dweud nad ydych o’r farn fod angen ymchwiliad annibynnol. A gaf fi erfyn arnoch, Weinidog, i ailystyried y penderfyniad hwnnw, i gadw'r drws ar agor i gynnal eich ymchwiliad eich hun i'r halogiad cyn i'r holl dystiolaeth gael ei chelu'n ddwfn yn y pridd fel problem i genedlaethau'r dyfodol orfod ymdrin â hi? Rwyf wedi dweud wrthych o'r blaen fy mod yn poeni y gallai'r plastig fod yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd drwy silwair. Nid yw hon yn broblem sy'n mynd i ddiflannu, felly a wnewch chi fy sicrhau i, a'r preswylwyr sy'n byw gerllaw, eich bod yn mynd i roi sylw agos iawn i hyn?
Gallaf dawelu meddwl yr Aelod fy mod o ddifrif yn ei gylch. Rwyf wedi'i godi gyda CNC. Ni allaf gofio yr eiliad hon a ydynt wedi dod yn ôl ataf ar hynny, ond byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny pan fyddaf yn dychwelyd i'r swyddfa ac fe ysgrifennaf at yr Aelod eto.FootnoteLink
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Siân Gwenllian.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoleiddio gosodiadau gwyliau tymor byr? OQ56042
Fel y gŵyr yr Aelod, mae hwn yn un o nifer o faterion sy'n cael eu hystyried gan y gweithgor trawsbleidiol, a hefyd yn cael eu hystyried gan swyddogion, yn gysylltiedig â phryderon ynghylch ail gartrefi mewn rhai cymunedau. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r grŵp trawsbleidiol yn y flwyddyn newydd.
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi cynllun tai newydd i'r sir efo chyllideb o bron i £80 miliwn. Pwrpas y cynllun ydy ymateb i'r argyfwng cynyddol sydd yna yn y maes tai yng Ngwynedd, gan roi'r pwyslais ar gartrefi i bobl leol, pobl sydd mewn angen, a buddsoddi yn y stoc tai lleol i'r dyfodol. Ond fel cam arall i ymateb i'r argyfwng, mae Plaid Cymru am weld pob uned wyliau tymor byr yn sicrhau trwydded cyn dechrau gosod, a sicrhau caniatâd cynllunio mewn rhai ardaloedd. Mae'r Alban ar fin cael y pwerau hynny drwy eu trosglwyddo nhw i'r awdurdodau lleol. Ydych chi'n cytuno efo fi bod angen cynllun tebyg yma yng Nghymru i atal colli mwy o'r stoc tai o ddwylo lleol? Mae Cyngor Gwynedd wedi canfod bod 92 y cant o bobl Abersoch wedi cael eu prisio allan o'r farchnad dai.
Fe fyddwch yn gwybod y byddwn yn monitro effeithiau newidiadau a wnaed i ddeddfwriaeth sylfaenol yn yr Alban drwy Ddeddf Cynllunio (Yr Alban) 2019, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gofrestru pob eiddo gosod tymor byr ac sy'n caniatáu i awdurdod cynllunio ddynodi ardal gyfan neu ran ohoni fel ardal rheoli eiddo gosod tymor byr. Mewn ardaloedd dynodedig—fel y gwyddoch, mae'n siŵr—byddai defnyddio'r tŷ annedd ar gyfer gosod tymor byr yn newid defnydd sylweddol. Ond rydym yn deall nad yw'r prosesau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hyn yn dod i rym yn llawn tan 2024, ac felly nid ydynt yn ateb cyflym o bell ffordd.
Roeddwn hefyd yn ymwybodol iawn fod pwyllgor craffu Cyngor Gwynedd wedi'i drefnu i gyfarfod ar 10 Rhagfyr i edrych ar bapur ymchwil rydych newydd gyfeirio ato—rwy'n credu mai dyna'r papur rydych newydd gyfeirio ato, 'Rheoli'r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau'—ac rydym yn awyddus iawn i weithio gyda hwy ar yr argymhellion a gyflwynwyd ganddynt, ond mae hwnnw at ei gilydd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru yn hytrach na'r awdurdod lleol wneud pethau, a bydd hynny i gyd yn cynnwys rhyw fath o ddeddfwriaeth sylfaenol. Ond rydym yn hapus iawn i edrych ar hynny fel rhan o'r gweithgor trawsbleidiol hefyd.
Rwy'n hapus iawn i edrych gyda Gwynedd ar adolygu nifer o faterion eraill y gallai'r awdurdod lleol eu gwneud ac rydym yn awyddus i ddatblygu'r hyn y gellir ei wneud heb ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol. Bydd Siân yn ymwybodol—yn ogystal â'r holl Aelodau eraill o'r Senedd—o'r anhawster i gael unrhyw ddeddfwriaeth drwodd yn ystod y Senedd hon nawr o ganlyniad i bwysau ar adnoddau yn sgil COVID-19, Brexit a diffyg amser. Ond rwy'n hapus iawn i edrych gyda'r grŵp trawsbleidiol ar argymhellion yr adroddiad yng Ngwynedd. Rwyf yr un mor awyddus â hithau i wneud rhywbeth am anawsterau cynyddol rhannau o Gymru lle—wyddoch chi, maent yn hardd iawn, onid ydynt? Felly, mae mwy a mwy o bobl am ddod i fyw yno neu i aros yno ar sail fwy hirdymor.
Wedi dweud hynny, wrth gwrs ein bod am sicrhau bod y diwydiant twristiaeth, sy'n bwysig iawn i Gymru, hefyd yn wydn ac yn gynaliadwy, yn enwedig ar ôl yr ergydion y maent i gyd wedi'u cael eleni. Felly, mae'n fater o gydbwysedd fel bob amser, ond rwy'n derbyn yn llwyr fod gan Wynedd yn arbennig broblem wirioneddol gyda nifer y bobl sy'n dod i mewn i'r sir i chwilio am wyliau hyfryd.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru? OQ56055
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn parhau i ddarparu ystod o gymorth i gymuned ein lluoedd arfog. Mae adroddiad blynyddol y lluoedd arfog, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Medi 2020, yn nodi'n fanwl y cymorth cynhwysfawr a ddarparwn i gyn-filwyr yng Nghymru.
Diolch, Weinidog. Mae Hyb Cyn-filwyr Casnewydd yn grŵp cymorth cymdeithasol sy'n ceisio sicrhau nad yw cyn-filwyr yn teimlo wedi'u hynysu ac yn rhoi lle iddynt gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd. Yn ogystal â chynnig cymorth a gweithgareddau i gyn-filwyr a'u teuluoedd, gan gynnwys gwasanaeth dosbarthu prydau am ddim i'r rhai sy'n dioddef o salwch, maent yn cysylltu â sefydliadau lleol a chenedlaethol eraill i sicrhau bod eu haelodau'n gallu cael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Maent yn awyddus iawn i'r hyb gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd hefyd. Maent wedi cysylltu'n ddiweddar â Rygbi'r Dreigiau a'u cenhadaeth yw gwneud Casnewydd yn un o'r lleoedd gorau ar gyfer cefnogi cyn-filwyr yn y DU.
Wrth siarad â rhai o'r cyn-filwyr pan ymwelais â'r sesiwn galw heibio ddydd Iau, mae'r gwaith y maent yn ei wneud yn rhyfeddol, ac yn angenrheidiol iawn, yn anffodus. Rydym i gyd yn ymwybodol o'r anawsterau y mae milwyr yn eu hwynebu pan fyddant yn dychwelyd o wasanaeth gweithredol, ac er bod geiriau cynnes i'w croesawu, mae cyn-filwyr a'u teuluoedd eisiau ac angen gweld cefnogaeth mewn ffyrdd ymarferol. Mae'r cymorth a gynigir gan yr hyb wedi'i deilwra i anghenion y defnyddwyr, ac mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae'r hyb yn sefydliad elusennol sy'n dibynnu ar roddion, felly a wnaiff y Gweinidog edrych yn fanwl ar waith rhagorol Hyb Cyn-filwyr Casnewydd a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gefnogi ein cyn-filwyr a'u teuluoedd yn ein cymunedau?
A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am rannu ei hymweliad diweddar a'r gwaith rhagorol a gwerthfawr iawn y mae Hyb Cyn-filwyr Casnewydd yn ei wneud? Fe sonioch chi am bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth hefyd, a'r gefnogaeth a arweinir gan gymheiriaid y gwyddom ei bod yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac mae'n ffordd y gallwn wneud popeth rydym yn gallu ei wneud ac angen ei wneud i gefnogi'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'n cyn-filwyr yng Nghymru. Un o'r pethau y byddwn yn ei ddweud mewn gwirionedd yw ein bod wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ac adeiladu ar y gefnogaeth honno i'r rhai sydd wedi gwasanaethu yng Nghymru, ac mewn gwirionedd yr ymarfer cwmpasu a gynhaliwyd y llynedd i nodi'r meysydd lle gallai fod angen inni adeiladu ar gymorth a'i gryfhau o bosibl—gwn fod Canolfan Cyn-filwyr Casnewydd wedi cymryd rhan yn hynny, a hefyd eu bod yn gweithio'n agos ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt y lluoedd arfog a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Ond rwy'n hapus iawn i barhau â'r sgwrs gyda'r Aelod os hoffai ysgrifennu ataf am waith yr hyb, i weld sut y gallwn sicrhau eu bod yn cyd-gysylltu'n dda â'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth, a grŵp arbenigol y lluoedd arfog hefyd.
Diolch i chi, Weinidog. Hoffwn innau hefyd longyfarch a diolch i Hyb Cyn-filwyr Casnewydd. Maent yn gwneud gwaith gwych. Mae elusennau sy'n cefnogi cyn-filwyr wedi cael eu taro'n galed gan y pandemig coronafeirws, ac rwy'n meddwl am apêl y pabi yn enwedig yn ystod y cyfnod atal byr. O ystyried hyn, pa gymorth ychwanegol penodol ac wedi'i dargedu y bydd y Gweinidog yn ei ddarparu i gyn-filwyr yng Nghymru a allai fod wedi cael eu heffeithio'n andwyol yn sgil colli cyllid ar yr adeg hon?
Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiwn hefyd, ac rwy'n ategu ein gwerthfawrogiad o sefydliadau fel Hyb Cyn-filwyr Casnewydd. Fel y dywedwch, fel llawer o sefydliadau mae wedi wynebu cyfnod anodd a gwahanol iawn o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad agos â'r Lleng Brydeinig Frenhinol, yn enwedig cyn apêl y pabi, i sicrhau ein bod yn gweithio gyda hwy fel Llywodraeth i gefnogi eu gwaith, er mewn amgylchiadau gwahanol iawn, ac amgylchiadau heriol, ar gyfer cyfnod y cofio 2020. Roedd yn amlwg yn wahanol iawn i'r hyn ydoedd mewn blynyddoedd blaenorol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'r elusennau a'r sefydliadau eraill hynny i adeiladu ar y gefnogaeth sydd yno eisoes. Mae hon yn sefyllfa barhaus a adolygir gennym, ond os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, byddwn yn eich annog i edrych ar yr adroddiad blynyddol, sy'n edrych ar y cymorth a ddarparwn a sut rydym yn anelu i adeiladu ar hynny. Ond hoffwn gofnodi heddiw fod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo'n llwyr i weithio mewn partneriaeth ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid awdurdodau lleol a thrydydd sector i sicrhau y gallwn wneud popeth a allwn i gefnogi ein cyn-filwyr yng Nghymru. Er nad ydym yn gyfrifol am amddiffyn, rydym yn gwbl gefnogol i'n cyn-filwyr mewn amrywiaeth o feysydd o iechyd i dai i addysg ac yn y blaen, a'u teuluoedd hefyd.
Mae Hyb Cyn-filwyr Porthcawl a'r gwirfoddolwyr niferus yno'n rhoi cymaint o gefnogaeth i gyn-filwyr, a heb y cymorth hwn, byddai llawer ohonynt yn cael eu colli. Ond Weinidog, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y ffaith ein bod ni fel cenedl yn dal i wneud cam â'n cyn-filwyr, ac mae cyn-filwyr yn dal i'w chael hi'n anodd cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ac y maent yn ei haeddu, a cheir llawer gormod o gyn-filwyr bellach y nodir eu bod yn dal i gysgu ar y stryd neu ar soffas pobl, er gwaethaf ymrwymiad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Chymru. Weinidog, a ydych yn cytuno bod rhaid inni wneud llawer mwy dros yr arwyr hyn sy'n rhoi eu bywydau yn y fantol ar ein rhan yn gyson, ac a wnewch chi ymrwymo i ddod o hyd i lety i bob un o'r cyn-filwyr yng Nghymru sydd cymaint o'i angen? Diolch.
Diolch, Caroline Jones. Unwaith eto, rydych yn tynnu sylw at waith rhagorol y llu o hybiau a sefydliadau sy'n cefnogi ein cyn-filwyr ac yn gweithio mewn partneriaeth mewn cymunedau ledled y wlad. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i adeiladu ar y cymorth hwnnw. Fel y dywedais, nod ein hymarfer cwmpasu a gynhaliwyd y llynedd oedd nodi lle gellid cysgysylltu rhai pethau'n well, a lle roedd y bylchau yn y cymorth. Buont yn gweithio gyda nifer o hybiau a sefydliadau sy'n gweithio'n agos gyda chyn-filwyr, a chyda chyn-filwyr eu hunain, yn nodi sut y gallwn adeiladu ar y cymorth hwnnw yn y meysydd y mae gennym gyfrifoldeb drostynt yng Nghymru.
Fel rhan o'r gwaith cwmpasu hwnnw ar gyfer cyn-filwyr, byddwn yn diweddaru'r llwybr tai sydd eisoes yn ei le, gan weithio gyda'r sector mewn perthynas â'r sector tai a'r rhai sy'n cefnogi cyn-filwyr, i wneud yn siŵr fod darparwyr tai yn gwbl ymwybodol o'r llwybr ac yn sicrhau ymgysylltiad llawn ag ef. Ochr yn ochr â hynny, byddwn hefyd yn sicrhau bod ein canllawiau tai yn cael eu hadolygu a'u diweddaru er mwyn i ddarparwyr wneud yn siŵr fod anghenion ein lluoedd arfog yn cael eu hystyried ac yn cael eu rhoi yn y canol yn wir wrth i ni ddatblygu'r gwaith hwnnw. Oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac Aelodau eraill sydd wedi crybwyll cefnogaeth i'n cyn-filwyr yn y Senedd heddiw, ein bod wedi ymrwymo'n gyfan gwbl a bod arnom ddyled i'r rhai a wasanaethodd a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu, i sicrhau bod y gefnogaeth a'r arweiniad hwnnw yno mewn cymunedau ledled y wlad.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae COVID wedi dangos inni pa mor bwysig yw cyllid priodol i wasanaethau sy'n tynnu pwysau oddi ar wasanaethau statudol. Mae gwasanaethau a ariennir gan y grant cymorth tai yn chwarae rhan hanfodol yn atal digartrefedd a lleihau costau, yn enwedig i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gweithwyr digartrefedd a chymorth tai wedi bod ar flaen y gad yn yr ymateb i bandemig COVID-19, ar ôl helpu dros 4,000 o bobl i gael llety a chymorth brys, yn ogystal â pharhau i gefnogi miloedd o bobl eraill i osgoi digartrefedd. Er mwyn cynnal hyn, mae angen cynnydd mawr yn y grant cymorth tai yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, gan ystyried y ffaith na fu cynnydd chwyddiannol yn y grant hwn ers 10 mlynedd. A allwch chi ddweud wrthym a fydd hyn yn digwydd?
Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn a'r gydnabyddiaeth i'r gwaith hynod o galed sydd wedi'i wneud ar draws gwasanaethau digartrefedd gan wasanaethau statudol, gan wasanaethau gwirfoddol a gwasanaethau'r trydydd sector. Rwyf bob amser yn hapus i gael cyfle arall i dalu teyrnged i'r gwaith hynod o galed, a chryfder a gwytnwch llwyr y gwasanaeth. Mae fy nheyrnged i'r bobl ym mhen blaen y gwasanaeth yn gwbl ddiffuant, oherwydd mae'r hyn rydym wedi llwyddo i'w gyflawni yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw'n rhyfeddol. Fel y dywedodd, erbyn hyn mae gennym dros 4,000 o bobl sydd wedi cael eu cartrefu drwy gam 1 y gwasanaeth digartrefedd.
Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na chartrefu pobl o ran pedair wal a tho; mae'n ymwneud â'r gwasanaethau cymorth sy'n cyd-fynd â hynny, yr holl wasanaethau cymorth sydd eu hangen i gynnal rhywun yn y denantiaeth honno. Felly, rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl wasanaethau a'r sefydliadau ymbarél. Mae Cymorth, yn enwedig, wedi bod yn hynod gefnogol yr holl ffordd drwodd yn helpu i gynnal hynny. Ni fydd Mark Isherwood yn synnu deall, fodd bynnag, nad wyf yn mynd i achub y blaen ar gyllideb Llywodraeth Cymru y gŵyr y caiff ei chyhoeddi ar ffurf drafft ar 21 Rhagfyr, ac ni fyddai'n disgwyl i mi wneud hynny.
Yn eich datganiad ar 23 Tachwedd, roeddech yn derbyn mewn egwyddor yr argymhellion yn nhrydydd adroddiad ac adroddiad terfynol y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, gan gynnwys bwrw ymlaen ag ymyrraeth gynharach a gweithgarwch ataliol fel nad yw pobl yn mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Dengys tystiolaeth fod bron i 50 y cant o bobl sengl ddigartref wedi mynd yn ddigartref am y tro cyntaf cyn eu bod yn 21 oed, gan dynnu sylw at yr angen am ymyrraeth gynharach a gweithgarwch ataliol sy'n canolbwyntio ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc er mwyn lleihau'n sylweddol nifer y bobl ddigartref yn gyffredinol. Mae adroddiad y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn ei gwneud yn glir fod angen cynyddu'r grant cymorth tai er mwyn gosod Cymru ar lwybr i roi diwedd ar ddigartrefedd. Felly, mae cyllideb yr wythnos nesaf yn gyfle i wireddu hynny. Mae staff rheng flaen ym maes digartrefedd a chymorth tai wedi bod yn eithriadol yn ystod y pandemig hwn, ond gwyddom fod gostyngiadau mewn cyllidebau termau real yn golygu bod taer angen cyllid ychwanegol arnynt i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. O gofio bod y grant cymorth tai bellach yn mynd i awdurdodau lleol i'w ddosbarthu, pa sicrwydd o gwbl y gallwch ei ddarparu y byddant yn cael cynnydd yn y grant ar lefel awdurdod lleol, ac a wnewch chi annog awdurdodau lleol i gomisiynu gwasanaethau sy'n darparu'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth allweddol hon i staff sy'n gweithio mewn amgylchiadau mor heriol?
Fel y dywedais, Mark Isherwood, nid wyf am achub y blaen ar y datganiad cyllideb y bydd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, yn ei wneud yr wythnos nesaf, na'r cyhoeddiad ar y setliad llywodraeth leol y byddaf yn ei wneud y diwrnod wedyn, a hynny am resymau amlwg. Fodd bynnag, rwy'n ddiolchgar iawn am eich cydnabyddiaeth o'r gwaith anhygoel o galed y mae'r sector wedi'i wneud. Rwy'n credu y dylem fod yn falch iawn o Gymru. Mae'n cyferbynnu'n llwyr â'r hyn sydd wedi digwydd dros y ffin wrth gwrs, lle mae gwasanaethau digartrefedd wedi dechrau llithro'n ôl. Rydym ni, yn anffodus, wedi gweld rhywfaint o lithriad bach o bobl yn ôl ar y strydoedd, ond mae'n fach iawn o'i gymharu â nifer y bobl y buom yn gweithio gyda hwy, a gallaf sicrhau'r Aelodau o'r Senedd fod pob un o'r bobl y gwyddom eu bod wedi llithro'n ôl ar y strydoedd yn cael gwasanaethau allgymorth pendant, felly rydym yn gwybod pwy ydynt ac rydym yn gweithio gyda hwy i'w cael yn ôl i mewn i wasanaethau cyn gynted ag y bo modd.
Rwy'n manteisio ar y cyfle hwn, Lywydd, i gywiro rhywbeth a ddywedodd Caroline Jones am nifer y cyn-filwyr sy'n cysgu allan. Mae'r llwybr cyn-filwyr yn gweithio'n dda iawn yng Nghymru, ac nid oes gennym nifer fawr o gyn-filwyr yn ôl ar y strydoedd, yn groes i'r hyn a ddywedodd yr Aelod yn ei chwestiwn blaenorol.
Wel, rwyf am bwysleisio bod y cwestiynau rwyf wedi'u gofyn i chi wedi'u dwyn i fy sylw gan y sector, sy'n haeddu'r ganmoliaeth lawn y mae'r ddau ohonom wedi'i rhoi iddynt, ond hefyd maent yn poeni'n fawr na fydd y gyllideb eleni yr un fath â chyllidebau blynyddoedd blaenorol ac na fyddant yn cael y cynnydd sydd ei angen arnynt, o ystyried y gwaith gwych y maent wedi'i wneud a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae.
Os caf orffen yn awr drwy symud at y farchnad dai yn ehangach, gan adlewyrchu pryder a gafodd ei ddwyn i fy sylw gan fusnesau asiantaethau tai yng Nghymru sy'n gweithio yn ein rhanbarthau trawsffiniol, yn dilyn y cyhoeddiad heddiw y bydd Cymru'n mynd i gyfyngiadau symud lefel 4—yr uchaf posibl—o 28 Rhagfyr, gyda siopau nwyddau dianghenraid yng Nghymru i gau ar ddiwedd y dydd ar Noswyl Nadolig. Fel y dywedant, mae'r farchnad dai ei hun yn fywiog. Mae prynwyr yn awyddus i sicrhau eu bod wedi cwblhau cyn diwedd y seibiant treth ar drafodiadau tir ar 31 Mawrth, ac eto bydd gwerthwyr tai yng Nghymru sy'n gweithredu yn y trefi ar y ffin o dan anfantais unwaith eto, gyda siopau cystadleuwyr yn Lloegr yn aros ar agor. Fel y dywedant hefyd, mae siopau gwerthu tai yn ddiogel rhag COVID, ac mae'r farchnad dai wedi aros ar agor y drws nesaf yn Lloegr drwy gydol y cyfyngiadau symud a chyfyngiadau haen 3 yno. Felly, mae angen iddynt wybod: pa dystiolaeth wyddonol ar gau'r farchnad dai sydd gan Lywodraeth Cymru nad yw Lloegr yn meddu arni?
Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw, Mark Isherwood. Yn amlwg, rydym yn wynebu un o'r sefyllfaoedd mwyaf enbyd o ran y pandemig a wynebwyd gennym hyd yma. Mae'r ffigurau'n wirioneddol arswydus, ac yn codi ym mhob ardal o Gymru heblaw Ynys Môn. Heddiw ddiwethaf cyfarfûm â holl arweinwyr a phrif weithredwyr yr awdurdodau lleol, ac maent yn unfryd eu barn y dylem wneud rhywbeth am y ffigurau hyn cyn i'n gwasanaeth iechyd fethu ymdopi. Felly, er bod fy nghalon yn gwaedu dros unrhyw un sy'n ceisio symud tŷ yn yr amgylchiadau hyn, ac wrth gwrs mae'n rhaid inni gydbwyso niwed yn erbyn niwed economaidd i'r diwydiant ac yn y blaen, yn y pen draw rydym ynghanol pandemig byd-eang, ac ni allwn fod yn hyderus ynglŷn â ffigurau Cymru. Felly, mae arnaf ofn fod yn rhaid inni roi iechyd y cyhoedd yn gyntaf. Fodd bynnag, byddaf yn gweithio gyda'r diwydiant i geisio cadw cymaint ohono ar agor ag sy'n bosibl. Am resymau amlwg, ni fyddem am i bobl fynd i edrych ar dai lle mae rhywun yn preswylio ac yn y blaen, ond rwy'n siŵr y gallwn weithio gyda'r diwydiant i sicrhau bod o leiaf rai rhannau o'r farchnad yn aros ar agor.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r nifer o gartrefi yng Nghymru sy'n cael eu rhentu yn breifat wedi mwy na dyblu. Er roedd dirywiad bach iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dal yn wir fod dros 200,000 o gartrefi wedi eu rhentu gan landlord preifat, ac, yn gyfrannol, hwn oedd yr unig tenure a oedd wedi cynyddu dros y cyfnod hwnnw. Mae'r cartrefi sy'n cael eu perchen gan y person sy'n byw yn y cartref, a hefyd tai cymdeithasol, wedi dirywio dros y cyfnod yna. Ydy hyn yn duedd hoffech chi ei gweld yn cynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf?
Na. Yn bendant iawn na, Delyth. Fe fyddwch yn ymwybodol, o'r sgyrsiau niferus rydym wedi'u cael y byddem yn—. Er bod i'r sector rhentu preifat ei le o ran darparu llety, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r nifer fawr o landlordiaid da sydd gennym ledled Cymru am ddarparu cartrefi da i bobl, serch hynny, hoffem weld cynnydd, yn enwedig mewn tai i'w rhentu'n gymdeithasol. O ganlyniad i ddileu'r cap o'r cyfrifon refeniw tai ychydig flynyddoedd yn ôl, rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda chynghorau a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru i gynyddu'r gwaith o adeiladu cartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol yn enwedig. Rwy'n falch iawn ein bod wedi cyrraedd y targed—y targed o 20,000 o dai fforddiadwy—ond y rhan rhent cymdeithasol o hynny sydd ei hangen fwyaf. Ac fe fyddwch yn gwybod o'r sgyrsiau hir a gawn, a gwn ein bod yn rhannu'r uchelgais, mai'r ffordd i'w wneud—wyddoch chi, mae angen inni gynyddu hynny cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn, drwy ein rhaglen dai arloesol, yn ogystal â thrwy ein llwybrau adeiladu arferol, i gynyddu gwaith adeiladu ein landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'n cynghorau sy'n dal stoc i gael cymaint â phosibl o gartrefi cymdeithasol wedi'u hadeiladu ac i mewn i'r farchnad. Ac wrth gwrs, mae gennym nifer o gynlluniau gyda'r nod o fynd â llety rhent preifat i mewn i'r farchnad tai cymdeithasol, naill ai ar sail dreigl pum mlynedd, neu'n wir, rydym wedi caniatáu i gynghorau eu prynu lle mae hynny'n briodol.
Diolch, Weinidog. Dwi'n gwybod dŷn ni yn cytuno ar nifer o'r meysydd yma. Yn wir, dwi'n meddwl bod consensws yn gyffredinol bod angen gwrthdroi'r duedd yna dŷn ni newydd osod mas gydag angen, fel dŷch chi wedi'i ddweud, am fwy o dai cymdeithasol a mwy o gefnogaeth i bobl ifanc i allu dianc rhag gorfod rhentu—ar gyfer rhai pobl, byddan nhw'n dewis rhentu, ond rhag gorfod rhentu ac fel eu bod nhw'n gallu dod yn berchnogion tai.
Er ein bod ni wedi gweld dirywiad bach mewn cartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat ers cyflwyno'r gofyniad i gofrestru fel landlord, ni fu dim byd tebyg i'r exodus o'r sector gafodd ei fygwth pan ddechreuodd Llywodraethau siarad am roi'r sector hwn o dan reoliad priodol. So, a allaf i ofyn: a fydd y Llywodraeth, felly, yn cryfhau'r rheoliadau ar gyfer y sector hwnnw, gan fydd llawer yn dadlau bod angen cryfhau ansawdd a diogelwch y tenure sydd gan denantiaid? Wedi'r cyfan, ni ddylai bobl ddim ond cael sicrwydd dros y Nadolig yn unig.
Yn sicr, Delyth; rwy'n cytuno'n llwyr. Un o'r rhesymau pam y gwnaethom basio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn Senedd Cymru yn ôl yn 2016 oedd er mwyn gwneud yn union hynny—newid y cydbwysedd, mewn gwirionedd, rhwng tenantiaid a landlordiaid yn y sector rhentu preifat a rhoi llawer mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn edrych ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) ar hyn o bryd i wella'r Ddeddf honno, unwaith eto, gan fod pedair blynedd wedi mynd heibio ac rydym yn hapus iawn, bob amser, i edrych ar welliannau.
Yn anffodus, oherwydd COVID-19, nid ydym wedi gallu gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) mor gyflym ag y byddem wedi hoffi. Rwyf wedi bod yn awyddus iawn i weld pob plaid yn y Senedd hon yn ymrwymo i wneud hynny ym maniffestos yr etholiad fel y byddai pwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth ar ôl mis Mai wedi ymrwymo i ddod â'r Ddeddf honno i rym cyn gynted ag y gellir gwneud hynny. Mae nifer o offerynnau statudol angen eu cwblhau o hyd ac mae angen cwblhau nifer o ddarnau o waith gyda Rhentu Doeth Cymru a'r cymdeithasau landlordiaid ac yn y blaen er mwyn trosglwyddo'n ddidrafferth. Ond rydym wedi datrys llawer o'r problemau a oedd gennym a oedd yn ein hatal rhag ei weithredu, ac felly, mae'n destun rhywfaint o rwystredigaeth i mi nad ydym wedi gallu gwneud hynny o ganlyniad i'r pandemig.
Rwy'n falch iawn o fod wedi gwneud hynny yng Nghymru, a byddwn yn ailadrodd eich pwynt, mewn gwirionedd: mae lleiafrif bach iawn o landlordiaid bob amser yn dweud wrthym y bydd unrhyw newid a wnawn yn arwain at niferoedd yn gadael y farchnad, ac yn y blaen. Nid yw'r ffigurau byth yn cadarnhau hynny. Ac mae'r landlordiaid da yn gwybod nad ydym yn gwneud unrhyw beth y bydd ganddynt unrhyw broblem ag ef; dim ond landlordiaid diegwyddor sydd ag unrhyw beth i'w ofni o hyn.
Diolch ichi am hynny, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich ateb blaenorol am COVID-19 a'r effaith y mae wedi'i chael ar gynifer o agweddau ar y farchnad dai. Nawr, mae'n amlwg fod y cyfyngiadau sydd wedi bod ar waith eleni wedi cael eu profi'n wahanol gan wahanol grwpiau o bobl. Rydym wedi siarad am hyn droeon. Ond mae'r gwahaniaeth yn adlewyrchu anghydraddoldebau ehangach yn ein cymdeithas. Mae'n amlwg, er enghraifft, y bydd pobl sy'n byw mewn llety gorlawn heb fynediad at fannau gwyrdd a glas yn fwy tebygol o brofi problemau mwy hirdymor na phobl sydd wedi gallu cysgodi mewn tai mawr gyda gerddi. O ystyried hyn, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog: a fyddwch yn ystyried ehangu gofynion am fannau gwyrdd a glas ar gyfer datblygiadau newydd yn ystod y broses gynllunio? Ac yn olaf, a fyddwch yn edrych ar sut y gallech wella mynediad yn ôl-weithredol at y mannau hynny i ystadau sy'n bodoli eisoes, er enghraifft drwy gynyddu amddiffyniadau i'r mannau hynny yn erbyn datblygiadau newydd a sicrhau ein bod yn ystyried mynediad i fannau gwyrdd a glas fel hawl?
Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gwneud hynny, Delyth. Felly, mae rhai pethau tymor byr rydym wedi'u dysgu yn ystod pandemig COVID-19. Felly, er enghraifft, hyd yn oed ar lefel 4, rydym yn gofyn i'n hawdurdodau lleol weithio'n galed iawn i sicrhau bod parciau a meysydd chwarae yn aros ar agor lle mae'n ddiogel iddynt wneud hynny, a bod ganddynt staff i wneud hynny'n bosibl. Gwyddom nad yw hynny'n wir ym mhobman yng Nghymru, oherwydd nifer o broblemau lleol—. Ni fydd yn bosibl cadw pob parc a chae chwarae ar agor, ond rydym wedi gofyn iddynt eu cadw ar agor lle bo hynny'n bosibl o gwbl, fel bod gan bobl mewn ardaloedd trefol adeiledig yn arbennig y parciau a ddylai fod ar gael iddynt. Gwn fod awdurdodau lleol wedi ystyried hynny'n helaeth iawn wrth ddysgu gwersi o gyfnodau cynharach y pandemig.
Hefyd, un o'r pethau rwy'n drist iawn yn ei gylch yw ein bod wedi colli'r gallu i roi Rhan L o'r rheoliadau adeiladu ar waith yn ystod tymor y Senedd hon. Unwaith eto, roedd yna gytundeb trawsbleidiol. Credaf mai David Melding oedd y llefarydd ar feinciau'r Ceidwadwyr bryd hynny, ond roedd llawer o gytundeb rhyngoch chi, fi ac ef ynglŷn â'r hyn oedd yn angenrheidiol. Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â gofod, safonau a mynediad at amgylchedd o ansawdd da. Unwaith eto, nid wyf yn meddwl ei fod yn ddadleuol. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gallu gwneud hynny—y bydd yr holl brif bleidiau, beth bynnag, yn y Senedd yn gallu cynnwys hynny fel rhan o'u hymrwymiadau maniffesto, fel y gallwn wneud hynny cyn gynted ag y bo modd pan fyddwn drwy'r pandemig a bod gennym rywfaint o ofod deddfwriaethol i wneud hynny.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym yn awyddus iawn i bobl ddeall bod angen iddynt fynd allan, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol adeiledig lle mae'n anodd. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyngor meddygol i gymryd ychwanegion fitamin D os nad yw hynny'n bosibl. Hoffwn ailadrodd y cyngor hwnnw, o gael y cyfle i wneud hynny.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu'r fframwaith datblygu cenedlaethol yng nghanolbarth Cymru? OQ56033
Fe wnaf, gyda phleser. Byddwn yn dechrau gweithredu 'Cymru'r Dyfodol' pan gaiff ei gyhoeddi ym mis Chwefror, er mwyn sicrhau ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant, ffyniant a datgarboneiddio. Yng nghanolbarth Cymru, bydd cynnydd ym maes cynllunio strategol yn chwarae rhan weithredol yn cyflawni cynnydd tuag at ganlyniadau 'Cymru'r Dyfodol'.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Y tu hwnt i rinweddau ac anfanteision ynni gwynt ar y tir, sydd, yn fy marn i, yn fwy o fater ar gyfer eich cyd-Weinidog, mae gan weithredu'r fframwaith datblygu cenedlaethol oblygiadau sylweddol o'm safbwynt i, o ran cydbwysedd grym rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol—materion y mae gennyf farn arnynt ers tro byd. Fe gofiwch, efallai, ym mis Mehefin 2011, ychydig ar ôl i chi a minnau gael ein hethol i'r lle hwn am y tro cyntaf, daeth miloedd lawer o bobl o ganolbarth Cymru ar ddwsinau o fysiau i brotestio bryd hynny am y difrod—fel y'i gwelent, ac fel roeddwn innau'n ei weld hefyd—i rannau o gefn gwlad canolbarth Cymru.
Yn Lloegr, cynghorau a chymunedau lleol sydd â'r gair olaf am y mathau hyn o ddatblygiadau, ac mae'r diffyg craffu digonol yn tanlinellu fy ofnau gwreiddiol am natur o'r brig i lawr y fframwaith datblygu cenedlaethol, sydd yn y pen draw yn rhoi'r pwerau hynny i Weinidogion yma. Beth y gallwch ei ddweud i leddfu ofnau cymunedau lleol sy'n teimlo nad yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn adlewyrchu penderfyniadau democratiaeth leol yn ddigonol?
Felly, credaf fod hynny'n gamddealltwriaeth lwyr o'r system a arweinir gan gynllun sydd gennym yma yng Nghymru. Russell George, rwy'n deall eich bod yn ceisio rhoi golwg dda ar yr hyn sy'n digwydd yn Lloegr, ond byddwn yn arddel y safbwynt cwbl groes, a dweud y gwir. Mae'r dadreoleiddio sy'n cael ei argymell yn Lloegr yn dileu'r holl gyfranogiad cymunedol yn y broses gynllunio. Yn wir, pan fydd y dynodiad wedi'i wneud, gallwch adeiladu unrhyw beth a hoffwch yn y parthau a ddynodwyd i'w datblygu. Credaf y byddai'r datblygiadau diweddar yn wleidyddol dros y ffin, gyda phrotestiadau nifer o ASau Ceidwadol o siroedd canolbarth Lloegr ynglŷn â'r union bwynt hwnnw'n tanlinellu'r pwynt rwy'n ei wneud.
Yma yng Nghymru, mae gennym system sy'n cael ei harwain gan gynllun. Ymgynghorir yn helaeth ar y cynlluniau, ac maent yn ddarostyngedig i holl brosesau craffu'r lle hwn a'r broses ymgynghori ddemocrataidd. Mae'n strategaeth ofodol genedlaethol ers 20 mlynedd. Rydym hefyd, wrth gwrs, wedi rhoi'r trefniadau rhanbarthol ar waith a fydd yn caniatáu i ranbarthau gyflwyno eu cynlluniau datblygu rhanbarthol, i gyd-fynd â'r fframwaith datblygu cenedlaethol, neu 'Cymru'r Dyfodol' fel rydym am iddo gael ei alw, ac wrth gwrs gyda 'Polisi Cynllunio Cymru'. Rwyf wedi gwneud y pwynt sawl gwaith yn y Siambr hon nad oes yr un o'r dogfennau hyn yn ddogfen annibynnol. Rhaid eu darllen fel cyfres o ddogfennau gyda'i gilydd. Ymgynghorir yn eang ar 'Polisi Cynllunio Cymru' hefyd, ac wrth gwrs mae'n sail i awdurdodau lleol wneud eu cynlluniau datblygu lleol.
Felly, yr hyn a fydd gennym—ac rwyf wedi cydnabod droeon inni ddechrau, efallai, yn y lle anghywir, ar y pen isaf—. Byddai wedi bod yn llawer gwell dechrau yn y pen uchaf. Ond mae gennym y strategaeth ofodol genedlaethol bron yno. Mae'n dal i fynd drwy ei phrosesau craffu yn y Senedd, ac rwyf wedi derbyn argymhellion defnyddiol iawn gan bwyllgorau'r Senedd ar y fersiwn ddiweddaraf o'r cynllun, a byddwn yn ystyried y rheini cyn inni gyhoeddi'r fersiwn derfynol ym mis Chwefror. Bydd hyn yn caniatáu i'r rhanbarthau gyflwyno eu cynlluniau strategol rhanbarthol, ac wrth gwrs ymgynghorir yn eang arnynt yn lleol hefyd, a bydd gan eich etholwyr nifer enfawr o gyfleoedd i gyfrannu at y cynlluniau rhanbarthol hynny ar gyfer eu rhanbarth, oherwydd, wrth gwrs, nid ydym am i ranbarthau Cymru i gyd edrych yn union yr un fath; rydym am iddynt gael y blas lleol hwnnw, a'r mewnbwn lleol hwnnw. Ac yna, wrth gwrs, maent yn trosi'n gynlluniau datblygu lleol, lle mae gan bobl leol lais mawr.
Hefyd, roeddech chi a minnau'n aelodau o'r pwyllgor hwnnw gyda'n gilydd, ac fe edrychasom ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Ac fe fyddwch yn cofio fy mod yn gwrthwynebu dileu mesurau diogelu maes y pentref yn chwyrn, a chawsom nifer o drafodaethau bywiog yn ei gylch, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y Ddeddf gynllunio yng Nghymru wedi cynnal mesurau diogelu ar gyfer meysydd pentref. Felly, ni allwch roi hynny yn y fframwaith datblygu lleol a gwneud cais wedyn am ganiatâd cynllunio. Ar hyn o bryd, gallwch ddal i hawlio statws maes y pentref ar gyfer hynny. Cododd Delyth Jewell fater mynediad at fannau gwyrdd, oni wnaeth? Fy marn i yw mai'r tro cyntaf yn aml y bydd y bobl sy'n defnyddio maes y pentref yn lleol yn deall bod cynnig datblygu ar ei gyfer yw pan fydd yr arwyddion yn ymddangos ar y pyst lamp lleol. Felly, anonest yn fy marn i oedd dweud y dylent fod wedi gwybod pan roddwyd y cynllun datblygu lleol ar waith. Felly, yn bersonol rwy'n eithaf balch o'r ffaith bod ein pwyllgor wedi gwneud yr argymhelliad hwnnw a bod y Llywodraeth wedi'i ddal ato.
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae o ran gwella ymgysylltiad y cyhoedd â gwleidyddiaeth leol? OQ56053
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn chwarae rôl arwyddocaol yn gwella'r rhan y mae'r cyhoedd yn ei chwarae mewn gwleidyddiaeth. Drwy ddeddfwriaeth, rydym wedi ymestyn yr etholfraint bleidleisio ac wedi gwneud darpariaethau i ddiwygio cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol. Ac i gefnogi hyn, bydd ein hymgyrch gyfathrebu sydd i ddod yn annog dinasyddion i ymgysylltu â gwleidyddiaeth drwy gymryd rhan.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Ac ydych, rydych wedi gwneud nifer o newidiadau sylweddol i'r system etholiadau lleol, ac rydych wedi sôn am rai ohonynt heddiw mewn gwirionedd. Ond rydym wedi colli cyfle, a fyddai wedi cynyddu ymgysylltiad yr etholwyr yn ehangach, i sicrhau system etholiadol fwy cyfrannol ar gyfer cynghorau lleol. Nawr, gwn fod eich deddfwriaeth yn caniatáu i awdurdodau lleol fabwysiadu'r model pleidlais drosglwyddadwy sengl, ond nid yw'n gorfodi iddynt wneud hynny, ac nid yw hyd yn oed yn eu gorfodi i ofyn i'w hetholwyr a fyddent yn awyddus i'r system honno fod ar waith. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw gyngor yng Nghymru yn mabwysiadu system fwy cyfrannol o'i wirfodd, oherwydd yn y bôn mae'r rhai sydd mewn grym bob amser yn amharod iawn i newid y system bleidleisio sydd wedi’u rhoi mewn grym, rhag ofn y bydd yn arwain at ganlyniadau gwahanol y tro nesaf. Felly, mewn gwirionedd, onid yw cynnwys yr opsiwn i gynnal etholiad pleidlais drosglwyddadwy sengl yn eithaf diystyr? Heb ei wneud yn orfodol, mae'n ymddangos fel pe baech yn defnyddio'r system ddemocrataidd yn sinigaidd i warchod eich ffrindiau yn siambr y cyngor, sydd, heb amheuaeth, yn dosbarthu taflenni ac yn cnocio drysau i chi yn gyfnewid am hynny. Felly, Weinidog, a wnewch chi ystyried opsiynau i orfodi cynghorau lleol i ddefnyddio model etholiadol mwy cyfrannol, neu a fydd pleidleiswyr yn gaeth i’r system bresennol am byth?
Wel, Michelle Brown, rwy'n gwrthod yr honiad rydych yn seilio eich cwestiwn arno yn llwyr. Nid wyf yn credu bod defnyddio'r gair 'gorfodi' mewn sgwrs am gyfranogiad y cyhoedd o fudd i chi nac i unrhyw un arall. Felly nid wyf yn cytuno â chymell awdurdodau lleol i wneud pethau—maent hwy eu hunain yn sefydliadau a etholwyd yn ddemocrataidd. Yr hyn y mae ein Deddf yn ei wneud yw grymuso awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain, lle maent yn dymuno gwneud hynny. Ac wrth gwrs, mae'r Bil hefyd yn cynyddu nifer fawr o fethodolegau cyfranogiad y cyhoedd, a fydd yn caniatáu iddynt ymgynghori'n eang a chynnwys eu trigolion lleol.
Rydym hefyd, wrth gwrs, yn cymryd rhan fawr yn ein cynlluniau cynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth. Ac mae'r Bil hefyd yn nodi nifer o bethau y credwn y byddant yn galluogi mwy o bobl i sefyll mewn etholiad ar gyfer cynghorwyr lleol, gan gynnwys mynediad at ddysgu o bell, at gyfarfodydd, mynediad o bell i swyddogion, ac wrth gwrs canllawiau cryfach ar gymorth i gynghorwyr lleol gyflawni eu llwyth achosion a'u rolau lleol.
Rwy'n credu y bydd pob un ohonom yn ystod ein hamser fel Aelodau etholedig wedi cael ein syfrdanu gan ymgyrchoedd cymunedol a ysgogwyd gan unigolion yn dod at ei gilydd i ymladd naill ai o blaid neu yn erbyn rhywbeth sy'n bwysig iawn iddynt. Mae llwyth ohonynt yng Ngorllewin De Cymru, ond mae un—‘Save Our Fields’ ym Mracla—yn ymgyrchu ar hyn o bryd i gadw'r unig fan gwyrdd helaeth yn yr anheddiad hwn, sy'n gartref i oddeutu chwarter poblogaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n enghraifft berffaith. Nawr, mae hynny’n gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol hefyd, a chaiff ei ymarfer yn aml mewn ffordd sy'n datgelu problemau gyda nodau polisi Llywodraeth sy'n cystadlu â'i gilydd. Ac nid yw pob ymgyrchydd eisiau sefyll etholiad ei hun, wrth gwrs. Ond beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud er mwyn sicrhau bod ymgynghoriadau'n ystyrlon ac yn cael eu hyrwyddo'n iawn, a bod pobl fel ymgyrchwyr ‘Save Our Fields’ ym Mracla yn teimlo bod eu llais yn wirioneddol bwysig, a’i fod yn cael ei gymryd o ddifrif?
Ie, ac rwy'n cytuno'n llwyr â Suzy Davies fod llawer o bobl yn cael eu blas cyntaf ar wleidyddiaeth—gwleidyddiaeth gyda ‘g' fach—oherwydd eu bod wedi ymgyrchu yn erbyn cau cae chwarae lleol neu agor rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi yn lleol, a chânt syniad o sut y gall eu llais gael ei glywed wrth iddynt ddod at ei gilydd fel cymuned. Felly, rwy'n credu ein bod, os mynnwch, yn rhannu hoffter o'r math hwnnw o weithredu cymunedol, ac rwy’n awyddus iawn i'w hwyluso, os mai dyna’r gair cywir.
Felly, mae'n rhaid i bob awdurdod lleol nodi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd i nodi'n glir sut y maent yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o waith y cyngor, a sut y mae ei benderfyniadau'n effeithio ar fywydau pobl, ac maent hefyd yn egluro sut y gall unigolion gael mynediad at benderfyniadau a chyflwyno sylwadau i’r cyngor, ac yn bwysig, sut y gallant wneud y sylwadau hynny'n hysbys mewn da bryd fel eu bod yn effeithio ar y penderfyniad y maent yn bryderus yn ei gylch. Fel y dywedais wrth ateb cwestiwn blaenorol, nid pan fo arwydd yn cael ei roi ar y polyn lamp lleol yn dweud mai dim ond ychydig ddyddiau sydd gennych i wneud sylwadau yw'r adeg honno; mae'n ymwneud ag ymwybyddiaeth, yn ehangach, o sut y gallwch leisio'ch barn. Ac felly, bydd dyletswydd ar bob awdurdod lleol i hyrwyddo'r cynllun cyfranogiad y cyhoedd mor eang â phosibl, ac i roi mynediad, yn bersonol—fel y gallwch fynychu'n bersonol, pan fydd rheoliadau COVID wedi dod i ben wrth gwrs—ond hefyd, mynediad electronig, mynediad dros y ffôn ac ati, er mwyn caniatáu i bobl gael eu lleisiau wedi'u clywed, ac rydym yn disgwyl iddynt gael y strategaethau ar waith ac adrodd arnynt yn flynyddol er mwyn craffu ar eu cynghorau eu hunain a'r Senedd.
Un maes lle mae'r cyhoedd yn ymgysylltu yw ceisiadau cynllunio. Y broblem fawr yw bod ceisiadau cynllunio amhoblogaidd, fel tai amlfeddiannaeth dros y terfynau a osodir gan ganllawiau cynllunio atodol, yn cael eu gwrthod gan y cyngor ond yn cael eu caniatáu gan arolygwyr cynllunio. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai rhoi diwedd ar allu arolygwyr cynllunio i ddiystyru amodau cynllunio'r cynghorau a gwneud i ymgeiswyr aflwyddiannus fynd am adolygiad barnwrol yn lle hynny, yw’r ffordd orau o wella ymgysylltiad y cyhoedd ac ennyn hyder y cyhoedd?
Wel, bydd Mike Hedges yn gwybod ei fod ef a minnau wedi cael un neu ddwy o ddadleuon ar y pwynt hwn dros nifer fawr o flynyddoedd. Felly, mae'n gwybod nad wyf yn cytuno ag ef ar hynny, mae'n ddrwg gennyf ddweud. Gall ymgeiswyr apelio pan fydd cais yn cael ei wrthod, a bydd arolygydd annibynnol yn gwirio penderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol yn erbyn polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol ac unrhyw ystyriaeth berthnasol arall sy’n codi. Rwy'n llwyr gydnabod y pwynt am gynlluniau lleol, ardaloedd strategol lleol, ardaloedd strategaeth tai amlfeddiannaeth ac ati—mae yna nifer ohonynt—gorchmynion cynllunio strategol, ac ati.
Mae gennym berthynas dda gyda'n holl awdurdodau lleol yng Nghymru, a lle gofynnwyd imi wneud hynny—ac rwy'n hapus iawn i wahodd cais o'r fath gan unrhyw awdurdod lleol arall—mae'r arolygwyr cynllunio wedi gallu gweithio gyda swyddogion o'r awdurdodau hynny i ddeall beth yw'r gofynion tystiolaeth er mwyn amddiffyn apêl, er mwyn gwneud y penderfyniad yn y lle cyntaf, ac yn wir, er mwyn cryfhau eu gorchmynion cynllunio penodol, neu orchmynion atal tai amlfeddiannaeth, neu beth bynnag y maent yn ei wneud, fel nad ydynt yn cael eu gwrthdroi ar apêl. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi cynhyrchu ystadegau oherwydd ceir canfyddiad fod mwy yn cael eu gwrthdroi ar apêl na pheidio, ac rydym wedi cynhyrchu ystadegau sy'n dangos nad yw hynny’n wir.
5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi atebion tai arloesol yng Nghymru? OQ56049
Diolch, Joyce. Ym mis Tachwedd, ymrwymais i fuddsoddiad o £35 miliwn i ddarparu 470 o dai fforddiadwy arloesol newydd, sy'n ychwanegu at y 1,400 o gartrefi sydd eisoes wedi'u hariannu o dan y rhaglen dai arloesol hyd yn hyn. Mae hynny'n golygu bod cyfanswm y cymorth a ddarparwyd dros y pedair blynedd diwethaf dros £125 miliwn.
Hoffwn groesawu dull Llywodraeth Cymru o weithredu’r rhaglen dai arloesol honno, sydd eleni wedi canolbwyntio ei chyllid ar ddulliau adeiladu modern. Rydych eisoes wedi dweud y bydd buddsoddiad o £35 miliwn yn mynd i gwmnïau lleol, ac rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd mai cwmnïau lleol a'u cadwyni cyflenwi ydyw, ac mae hwnnw'n hwb i'w groesawu yn ystod yr amseroedd ansicr hyn. Ac rwy'n fwy balch fyth fod nifer o'r rheini'n dod â gwaith mawr ei angen i mewn i fy rhanbarth ar adeg sydd, heb amheuaeth, yn heriol.
Weinidog, a oes gennych unrhyw syniad faint o gyfleoedd hyfforddi a phrentisiaeth rydych yn rhagweld y cânt eu creu gyda'r rhaglen hon, ac yn amlwg, os na allwch roi ateb pendant imi nawr, edrychaf ymlaen at gael un yn y dyfodol agos.
Diolch, Joyce. Gwn am eich angerdd ynglŷn â chael prentisiaid i mewn i'r diwydiant adeiladu ac yn benodol, grŵp mwy amrywiol o brentisiaid, gan gynnwys eich cefnogaeth i fenywod ym maes adeiladu ers nifer o flynyddoedd. Fe wyddoch fy mod yn rhannu eich brwdfrydedd ar hynny.
Rwy'n falch iawn fod y rhaglen dai arloesol wedi rhoi Cymru ar flaen y gad o ran arloesedd a chreadigrwydd tai yn y DU. Eleni'n unig, rydym yn buddsoddi £45 miliwn yn y diwydiant tai modiwlar yng Nghymru sydd â’r potensial i gynhyrchu cannoedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol gyda busnesau bach a chanolig Cymreig a'u cadwyni cyflenwi lleol. Mae dulliau adeiladu modern—a gwn eich bod yn gwybod hyn eisoes—yn ddiwydiant newydd sydd wedi profi ei fod yn gallu denu gweithlu sy’n fwyfwy amrywiol, gan gynnwys annog mwy o fenywod ac ymgeiswyr iau i’r diwydiant adeiladu. Mae’n ymwneud â thai cymdeithasol newydd a gwell, ond mae hefyd yn rhoi hwb i ddiwydiant hollol newydd sy'n chwarae rhan bwysig yn yr adferiad economaidd gwyrdd.
Felly, rydym yn disgwyl y bydd dull Cymru yn gyntaf yn cael ei weithredu mewn perthynas â’r deunyddiau a'r cydrannau a ddefnyddir yn y genhedlaeth nesaf hon o gartrefi a adeiladir drwy ddulliau adeiladu modern, a ffafriaeth i ddeunyddiau a llafur fel bod mwy o ddeunyddiau a llafur yn dod o ffynonellau lleol yng Nghymru, cyn edrych am rai amgen o'r economi fyd-eang ehangach. Ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda darparwyr dulliau adeiladu modern drwy'r rhaglen dai arloesol i wneud y mwyaf o gadwyn gyflenwi Cymru a nifer y swyddi a'r cyfleoedd hyfforddi y mae'r gadwyn gyflenwi honno'n eu cynhyrchu'n lleol o ganlyniad, fel y bydd cartrefi a adeiladir yn lleol yn cael eu hadeiladu gan bobl leol ar gyfer pobl leol.
6. Beth yw blaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro? OQ56025
Diolch, Paul. Rydym wedi bod yn gyson yn ein neges mai tai cymdeithasol yw ein prif flaenoriaeth. Ein nod yw adeiladu cartrefi cymdeithasol gwell, mwy ohonynt, a hynny’n gyflymach. Rwy'n wirioneddol falch o'n buddsoddiad mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai i gefnogi ein darpariaeth o dros 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad—mae'n ddrwg gennyf, tymor y Senedd. Mae'n ddrwg gennyf.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Nawr, mae ffigurau diweddar yn dweud wrthym fod tai gwael yn costio tua £95 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru yn ystod y pum mlynedd gyntaf o gostau triniaeth ac yn costio dros £1 biliwn y flwyddyn i'r gymdeithas yng Nghymru. Nawr, ni allwn fforddio colli golwg ar hynny oherwydd, yn amlwg, ceir prawf fod buddsoddi mewn tai o ansawdd da yn gwneud elw ar fuddsoddiad mewn buddion iechyd. Felly, a allwch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni yn ei phrosiectau tai wrth symud ymlaen, a pha gamau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â chostau iechyd o ganlyniad i dai gwael yng Nghymru, ac yn Sir Benfro yn enwedig?
Yn sicr, Paul. Cytunaf yn llwyr fod tai da yn sylfaen i iechyd da a bywyd da. Rydym yn cytuno'n llwyr â hynny. Yn Sir Benfro, mae'r awdurdod lleol wedi derbyn gwerth £6.397 miliwn o grant tai cymdeithasol ac £1.142 miliwn o grant cyllid tai ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy. Mae hynny'n cynnwys £2.4 miliwn ar gyfer dau gynllun yn etholaeth Preseli, sy'n darparu 20 yn fwy o gartrefi. Dyraniad y grant tai cymdeithasol ar gyfer 2020-2021 yw £3.928 miliwn ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy. Felly, mae'n fuddsoddiad sylweddol. Ac mae'r rheswm dros y buddsoddiad hwnnw yn union fel y nodwyd gennych, oherwydd gwyddom fod darparu tai da, fforddiadwy a chynnes i bobl yn cael effaith enfawr ar eu hiechyd a'u llesiant.
Mae gennym hefyd nifer o gynlluniau sydd ym mhortffolio fy nghyd-Aelod, Lesley Griffths—Nyth ac Arbed ac ati. Ac rwy'n arbennig o falch o'r cynllun ôl-osod er mwyn optimeiddio, a gyhoeddais yn ddiweddar, lle rydym yn gweithio gyda nifer o landlordiaid cymdeithasol a chynghorau ledled Cymru i edrych ar wella’r ffordd rydym yn ôl-osod cartrefi sy'n bodoli'n barod yng Nghymru, gan ddysgu gwersi safon ansawdd tai Cymru. Er ei fod yn llwyddiannus iawn yn wir, roedd un neu ddwy wers roedd angen inni eu dysgu, ac nad yw un ateb yn addas i bawb.
Felly, bydd y cynllun hwnnw'n cyflwyno ystod o wahanol fathau o dai ar hyd a lled Cymru. Yr enghreifftiau a roddwyd i mi yw tai teras Fictoraidd, er enghraifft, yn y Cymoedd, a'r tai a adeiladwyd rhwng y rhyfeloedd neu'r tai o'r 1970au a welwch yn fy etholaeth i, er enghraifft. Ac mae'n amlwg na fydd cynlluniau ôl-osod ar gyfer y tai hynny yr un fath. Felly, bydd y rhaglen yn caniatáu inni optimeiddio'r gwaith ôl-osod, meithrin y sgiliau a'r diwydiant sy'n angenrheidiol i gyflwyno hynny ar draws pob math o ddeiliadaeth yn y stoc dai yng Nghymru er mwyn darparu cartrefi cynnes a fforddiadwy i bawb, ni waeth beth yw eu deiliadaeth, yn unol â’u hanghenion.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru? OQ56028
Cyfres o gwestiynau ar yr un thema heddiw, Lywydd. Ydy, Mark, mae cynyddu nifer y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, yn enwedig ar gyfer rhent cymdeithasol, yn flaenoriaeth sylfaenol i'r Llywodraeth hon. Rydym wedi gwneud y lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad mewn tai ac rwy'n hyderus o gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
Wel, mae pandemig COVID-19 wedi rhoi sioc fawr i farchnad dai'r DU, gyda nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd i gael eu hadeiladu yn ystod y tri chwarter cyntaf wedi gostwng ym mhob un o wledydd y DU. Fodd bynnag, roedd Cymru'n dechrau o'r sylfaen isaf. Y llynedd—y flwyddyn lle cafodd y lefel uchaf o gartrefi newydd eu cofrestru yn y DU ers 2007—cafwyd gostyngiad o dros 12 y cant yn y niferoedd yng Nghymru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ynghyd â gostyngiad o 13 y cant yn nifer y cartrefi newydd a adeiladwyd i'r nifer isaf ers 2012-13. Cynnydd o 1 y cant yn unig a welwyd yn y stoc tai cymdeithasol yng Nghymru, gyda dim ond 1,288 o dai cymdeithasol neu gartrefi newydd wedi'u hadeiladu.
Sut rydych chi'n ymateb felly i'r datganiad gan ymgyrch Back the Bill, a gefnogir gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Shelter Cymru a Tai Pawb, fod Cymru ynghanol argyfwng tai—mae'r galw'n llawer mwy na'r cyflenwad, mae llawer o bobl yn methu fforddio cartrefi yn eu cymunedau lleol—a'u galwad am hawl i dai digonol yng Nghymru, ac i alwadau ar draws y sector i Lywodraeth nesaf Cymru ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn ystod tymor nesaf Senedd Cymru?
Ie, Mark, rwy'n llwyr rannu eich ymrwymiad i adeiladu nifer fawr o dai cymdeithasol mor gyflym ag y gallwn. Mae tai yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth a dyna pam rydym wedi buddsoddi'r swm mwyaf erioed o £2 biliwn mewn tai yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Rydym hefyd wedi bod yn gyson yn ein neges mai tai cymdeithasol yw ein prif flaenoriaeth, a dyna pam mai dyma'r elfen unigol fwyaf o'n hymrwymiad i ddarparu'r 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor hwn o Lywodraeth, ac rwy'n hyderus iawn ein bod wedi gwneud hynny.
Yr hyn sy'n drist am y pandemig yw y byddem wedi darparu cryn dipyn yn fwy na hynny oni bai am y pandemig. Ond serch hynny, yn wahanol i'r ystadegau rydych newydd eu darllen, mae ein datganiad ystadegol diweddaraf—datganiad ystadegol y Llywodraeth—yn dangos bod awdurdodau lleol wedi adrodd bod 2,592 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi cael eu darparu ledled Cymru, sy'n gynnydd o 12 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol a'r cyfanswm blynyddol uchaf hyd yma. Mae cyfanswm o 13,142 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu rhwng 2016 a 2019, ac mae'r arwyddion cynnar yn dangos y bydd 2019-20 yn gweld cynnydd sylweddol yn y ddarpariaeth well yn 2018-19. Yn 2019-20, gwnaethom fuddsoddi dros £137 miliwn mewn grantiau tai cymdeithasol a thros £25 miliwn mewn grantiau cyllid tai i gefnogi'r ddarpariaeth o dai cymdeithasol ledled Cymru. Ac mae £89 miliwn arall wedi'i gyllidebu eleni.
Yn ogystal â hynny, rydym yn buddsoddi £75.1 miliwn o gyllid refeniw dros 29 mlynedd o dan y rhaglen grant tai fforddiadwy i gynorthwyo awdurdodau tai lleol i adeiladu cartrefi cyngor newydd. Disgwylir i tua 400 o gartrefi cymdeithasol newydd gael eu hariannu drwy'r fenter newydd hon ledled Cymru. Rydym eisoes wedi rhoi £40 miliwn i gynghorau yng Nghymru i helpu perchnogion eiddo i wneud defnydd o'u heiddo gwag, a hyd yma, rydym wedi buddsoddi tua £90 miliwn mewn atebion tai arloesol o dan ein rhaglen tai arloesol. Bydd buddsoddiad pellach yn y rhaglen eleni i gyflymu ein huchelgeisiau i adeiladu cartrefi cymdeithasol carbon isel o ansawdd uchel sy'n effeithlon o ran ynni ar raddfa fawr ac yn gyflym. A chyhoeddais £25 miliwn yn ddiweddar ar gyfer cronfa arbennig y rhaglen dai arloesol ar gyfer dulliau adeiladu modern, fel rwyf newydd ei drafod gyda fy nghyd-Aelod, Joyce Watson, a chronfa o £19.5 miliwn ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, rwyf newydd ei disgrifio yn yr ateb hwn.
Cyhoeddwyd ein hystadegau diweddaraf ar adeiladu tai yng Nghymru rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2019 ar 5 Mawrth 2020. Yn ystod y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2019, roedd gwaith wedi dechrau ar gyfanswm o 6,129 o anheddau newydd, sydd 2 y cant yn uwch na'r 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2018. Ac yn ystod y 12 mis hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2019, cwblhawyd cyfanswm o 6,071 o anheddau newydd, sydd 4 y cant yn uwch na'r 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2018.
Yn olaf, cwestiwn 8, Mark Reckless.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl awdurdodau lleol o ran ymateb i COVID-19 yng Nghymru? OQ56050
Gwnaf hynny gyda phleser, Mark. Mae awdurdodau lleol wedi chwarae rhan gwbl ganolog ac allweddol drwy gydol pandemig COVID-19, o ran rhoi cymorth i unigolion, busnesau a chymunedau ledled Cymru, yn enwedig i'r rhai mwyaf agored i niwed.
Diolch i chi, Weinidog. Mae gennym nifer fawr o awdurdodau lleol cymharol fach yng Nghymru ac mae dau o'r rhai lleiaf yn fy rhanbarth i—Merthyr Tudful a Blaenau Gwent—ac ynddynt y ceir rhai o'r lefelau uchaf o achosion COVID ar hyn o bryd. Ac rwy'n meddwl tybed a yw'r Gweinidog yn siŵr y byddant yn gallu ymdopi â maint yr her honno, o ystyried pa mor fach yw'r awdurdodau, ac a oes trefniadau ar waith ar gyfer cyd-gymorth neu gefnogaeth gan awdurdodau lleol eraill neu gan Lywodraeth Cymru pe bai angen hynny?
Ie, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda holl arweinwyr awdurdodau lleol, aelodau etholedig a phrif weithredwyr yng Nghymru. Y bore yma cefais gyfarfod gyda holl arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol i drafod agweddau ar bandemig COVID-19. Rwy'n ddiolchgar tu hwnt iddynt ar ran y Llywodraeth. Ni allaf ddweud digon am ymdrechion staff rheng flaen ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru, ni waeth beth fo'u maint, yn eu hymdrechion i sicrhau bod eu poblogaethau'n parhau i gael eu bwydo, eu cartrefu, a'u diogelu. Rydym yn parhau i weithio gyda hwy i ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed a dysgu gwersi.
Rydym wedi cefnogi eu gallu i weithredu drwy leihau gofynion statudol sy'n ymwneud â chyfarfodydd a thrafodion lle bo angen, ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn y trydydd sector a'r sector gwirfoddol i ddarparu cymorth lleol wedi'i deilwra i gymunedau mewn angen. Mae awdurdodau lleol wedi rhoi darpariaethau cyd-gymorth ar waith. Yn ddiddorol, nid o reidrwydd gan yr awdurdodau lleol lleiaf, oherwydd mae gan bob un broblemau gwahanol, yn dibynnu ar sut y mae'r pandemig yn eu taro ac ar ba gam a ble. Mae'r ffigurau'n newid yn gyflym iawn. Felly, yn ardal fy mwrdd iechyd fy hun, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, prin fod y ffigurau yno'n rhywbeth i'w canmol, a dyna rai o'r awdurdodau mwyaf yng Nghymru. Felly, nid yw maint yn bwysig yn yr achos hwn.
Serch hynny, rydym yn dal i gadw llygad barcud, gyda hwy, ar eu gwytnwch a'u gallu i ymdopi, ac rydym yn parhau i reoli'r cyllid, drwy'r gronfa galedi, gyda chydweithrediad Cymdeithas Trysoryddion Cymru. Rwy'n falch iawn o'r ffordd gydweithredol rydym wedi gweithio gyda'n gilydd, fel awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yng Nghymru, ar lefel gwleidyddion, ar draws rhaniadau pleidiau, ac ar yr holl lefelau swyddogol y byddech yn eu disgwyl, hyd at y rheng flaen, lle mae'r gweithwyr wedi bod yn rhagorol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol. Dau gwestiwn amserol heddiw. Mae'r un cyntaf i'w ofyn i'r Gweinidog economi, ac i'w ofyn gan Mick Antoniw.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am golli swyddi yn Rhys Davies Logistics yn Ffynnon Taf o ganlyniad i roi'r cwmni yn nwylo gweinyddwyr? TQ523
Gwnaf, wrth gwrs. Mae'r colledion swyddi sydd wedi'u cyhoeddi yn ergyd drom, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydym yn cydymdeimlo â phawb a gyflogir ar y safle. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu, ochr yn ochr â'r Adran Gwaith a Phensiynau, i sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Weinidog, ychydig dros flwyddyn yn ôl, prynwyd cwmni teuluol hirsefydlog, Rhys Davies Logistics, sydd wedi'i leoli yn Ffynnon Taf yn fy etholaeth i, gan Cathay Investments, cwmni o Loegr sydd â buddiannau mewn logisteg, cemegion a llawer o feysydd eraill. Fe'i disgrifiwyd gan y perchnogion newydd ar y pryd fel bargen y mis, gan ddweud y bydd
yn galluogi RDL i ffynnu yn y dyfodol... ac rydym yn hyderus fod amseroedd cyffrous o'n blaenau.
Felly, prin wythnos yn ôl, a phrin bythefnos cyn y Nadolig, daeth y gweithlu ffyddlon yn Ffynnon Taf a depos eraill i'r gwaith, a bu'n rhaid iddynt aros yn yr oerfel am oriau cyn derbyn eu hysbysiadau diswyddo a chael gwybod na fyddent yn cael eu talu. Yr unig ddewis yw gwneud cais i Wasanaeth Ansolfedd Llywodraeth y DU am daliad, a gall hyn gymryd misoedd lawer.
Nawr, mae'r ffordd y mae'r gweithwyr hyn wedi cael eu trin yn warthus, Weinidog, ac mae'n dangos cyflwr gwael hawliau cyflogaeth yn y wlad hon. Mae'n ymddangos bod y cwmni naill ai wedi'i gamreoli'n enbyd neu wedi'i lethu'n fwriadol, lle mae gweithwyr wedi cael eu rhoi ar ffyrlo ar rota, ac ar yr un pryd, cyflogwyd gweithwyr asiantaeth i wneud gwaith y gweithwyr ar ffyrlo a gallai hynny fod yn gamddefnydd o'r cynllun cadw swyddi. Weinidog, rwyf wedi ysgrifennu atoch ynglŷn â hyn, ond tybed a fyddwch yn cynnal ymchwiliad i'r hyn sydd wedi digwydd yn y cwmni hwn, i sicrhau na chafodd unrhyw arian cyhoeddus ei gamddefnyddio ac i ganfod y rhesymau dros ei fethiant sydyn. Rwy'n sicr yn ddiolchgar am ymateb buan eich swyddogion a ddaeth i gyfarfod â mi y diwrnod o'r blaen, a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan undeb Unite i gefnogi eu haelodau.
Felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ddarpar brynwyr y cwmni hwn, ac yn benodol, pa gymorth y gellir ei roi i'r gweithlu? Weinidog, gwn fod cyfraith cyflogaeth yn fater a gedwir yn ôl, ond a wnewch chi ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru, yn y dyfodol, roi cymorth i weithwyr sy'n wynebu triniaeth mor enbyd? Gwn fod Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn y gorffennol, wedi crybwyll y syniad o'r hyn y byddwn yn ei alw'n gronfa gefnogi'r gweithwyr; efallai ei bod yn werth ailedrych ar yr argymhelliad hwn yn yr amgylchiadau economaidd presennol. Felly, tybed a wnewch chi ystyried cefnogi'r gweithwyr yn Rhys Davies ac eraill yn y dyfodol.
Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw a dweud ei bod yn amlwg bod gweithwyr ffyddlon wedi cael eu trin yn ofnadwy ar y safle penodol hwn? Rydym yn bryderus iawn am rai o'r honiadau sydd wedi'u gwneud yn erbyn y cwmni, yn enwedig yr honiad ynglŷn â chamddefnyddio'r cynllun ffyrlo. Byddwn yn annog Mick Antoniw i ysgrifennu at Drysorlys y DU ynglŷn â'r pwyntiau y mae wedi'u codi heddiw, a gallaf hefyd ei sicrhau y bydd fy swyddogion yn codi'r mater hwn gyda'r Trysorlys hefyd.
Mae Mick Antoniw yn codi nifer o bwyntiau pwysig, gan gynnwys y cymorth y gellid ei gynnig i unigolion a darpar brynwyr. Rydym yn awyddus i ddysgu am unrhyw ddull posibl o achub y cwmni hwn, felly dylai unrhyw brynwr posibl gysylltu â Llywodraeth Cymru, a byddem yn archwilio pa gymorth y byddem yn gallu ei roi iddynt. O ran cymorth i weithwyr, serch hynny, mae gennym lu o fesurau ar waith a fydd ar gael i'r rhai yr effeithiwyd arnynt wrth gwrs, gan gynnwys, yn hollbwysig, y rhaglen ReAct, a chynlluniau eraill, gan gynnwys cyfrifon dysgu personol. Byddwn yn gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod gweithwyr yr effeithiwyd arnynt yn cael yr holl gymorth, arweiniad a chyngor y gellir ei ddarparu.
Nawr, o ran yr awgrym ynglŷn â chronfa gefnogi, credaf fod y syniad hwn yn haeddu ystyriaeth. Mae gennym y dull partneriaethau cymdeithasol yma yng Nghymru, sy'n galluogi undebau llafur i helpu i lunio pecynnau cymorth, a byddwn yn annog Cyngres Undebau Llafur Cymru i dynnu sylw fy swyddogion at y cynllun posibl hwn, fel y gellir ei drafod mewn cyngor partneriaeth gymdeithasol yn y dyfodol.
Diolch.
Diolch am eich ymateb i'r cwestiwn amserol hwn, Weinidog. Mae'n amlwg ei bod yn ofid mawr gweld cwmni logistaidd mor fawr yn rhoi'r gorau i fasnachu—170 o gerbydau, 150 o drelars cymalog a gweithgarwch warws sy'n rhychwantu naw safle ledled y Deyrnas Unedig. Ac yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gyda'r ansicrwydd, mae'n hanfodol nawr fod y cymorth rydych wedi'i nodi gan Lywodraeth Cymru ar gael i unrhyw un o'r gweithwyr sy'n galw am y cymorth hwnnw. Ceir cefnogaeth yn yr ardal leol. Rwyf fi fy hun heddiw wedi bod yn gweithredu ar ran rhai etholwyr a fu'n gweithio i'r cwmni hwn, gan eu rhoi mewn cysylltiad â chyflogwyr eraill sydd â swyddi gwag, ac felly gobeithio y gellir dod o hyd i swyddi eraill. Ond a yw eich swyddogion wedi gallu asesu a yw'r rhain yn gyfres unigryw o amgylchiadau i'r un cwmni hwn neu a oes problemau logistaidd ehangach yn y sector a fydd yn achosi problemau i gwmnïau eraill, a'ch bod yn ymateb i'r larymau hynny a allai fod yn canu ar draws y sector trafnidiaeth?
Wel, a gaf fi ddiolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau? Rwy'n rhannu'r teimladau y mae wedi'u mynegi ynglŷn â pha mor ofidus yw'r newyddion hwn i'r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt. Wrth gwrs, mae gennym y £40 miliwn ychwanegol ar gyfer yr ymrwymiad COVID. Mae wedi'i gynllunio'n benodol i helpu pobl sydd yn yr un sefyllfa â'r rheini yn y cwmni ar hyn o bryd, ac mae'r ymrwymiad COVID hwnnw'n cynnwys cynnydd sylweddol mewn gwariant ar gynlluniau fel y cyfrifon dysgu personol a'r rhaglen brentisiaethau. Mae gennym hefyd y timau ymateb rhanbarthol sydd ar gael i gefnogi gweithwyr, i geisio dod o hyd i waith i'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio, sydd â set sgiliau debyg i'r cyfleoedd a allai fodoli ar hyn o bryd.
Mae'r sector logisteg, yn ei gyfanrwydd, wedi cael trafferth gyda chadw a recriwtio staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chredaf ei bod yn deg dweud bod y sector, yn ôl adroddiadau, wedi'i chael yn anodd dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau priodol. Felly, mae cyfleoedd ar gael. Mae'n ymddangos i ni—ni allaf wneud sylwadau am rai o'r honiadau sy'n cael eu gwneud ynglŷn â rheolaeth y cwmni penodol hwn yn ddiweddar—ond mae'n ymddangos i ni fod yr hyn sydd wedi effeithio ar y cwmni hwn wedi'i gyfyngu i'r cwmni hwn, ac nid yw'n arwydd o haint, os hoffech, yn y sector logisteg cyfan. Ond wrth gwrs, mae gennym dimau yn Llywodraeth Cymru sy'n edrych yn fanwl iawn ar y cwmni penodol hwn, i ganfod a oes unrhyw themâu cyffredin o ran rhai o'r problemau y maent wedi'u profi. Os felly, byddwn yn gweithio gyda sefydliadau fel Logistics UK, a chyrff cynrychioliadol, i sicrhau bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, oherwydd mae hwn yn sector DU gyfan sy'n wynebu heriau ar hyd a lled y DU mewn perthynas â chadw sgiliau, er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn darparu'r cymorth sy'n angenrheidiol i roi rhywfaint o wytnwch i'r sector mewn cyfnod eithriadol o anodd.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â phwysau ar y GIG dros y gaeaf, ar wasanethau ac amseroedd aros am ddiagnosis a thriniaeth? TQ525
Diolch. Lle bynnag y bo'n ymarferol, bydd y GIG yn ymdrechu i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer diagnosteg a thriniaethau, yn seiliedig ar flaenoriaeth glinigol ac amseroldeb. Bydd ein GIG yn parhau i asesu risg cleifion ar restr driniaeth weithredol, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen clinigol mwyaf yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth yn unol â chanllawiau clinigol cenedlaethol.
Diolch. Hoffwn wneud apêl ar ran dau sefydliad mewn ymateb i'ch datganiad yr wythnos diwethaf ar bwysau COVID y GIG a fframweithiau newydd sy'n cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r pwysau hwnnw. Yr hyn y mae Cancer Research UK yn ei ofni yw bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fframwaith yma sy'n caniatáu i fyrddau iechyd lleol israddio rhai gwasanaethau allweddol, gan gynnwys llawdriniaethau canser dewisol a diagnosteg nad yw'n ddiagnosteg frys ond sy'n hynod bwysig. A chofiwch, maent wedi dadlau'n gyson dros gynyddu gwasanaethau i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion canser, argymhelliad allweddol a wnaed gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser fis diwethaf hefyd. Maent yn pryderu nad yw'r gwersi a ddysgwyd o don gyntaf y pandemig wedi'u gweithredu.
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gwneud galwadau y gellid ystyried ar yr wyneb, eu bod bron yn gwrth-ddweud hynny, ond nid yw hynny'n wir. Yr hyn y mae'n ei wneud yw tynnu sylw at gymhlethdod y sefyllfa a wynebwn, fel y gwyddoch yn iawn, a'r angen am ganllawiau clir iawn gan y Llywodraeth i'n cael ni drwy'r cymhlethdod hwnnw. Yr hyn a ddywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol mewn llythyr cyhoeddus atoch yw bod pwysau difrifol ar y gweithlu, fod staff yn cael eu gorlethu a'u bod wedi blino'n lân a'r realiti syml fod y prinder o nyrsys cofrestredig ar gael i weithio mewn rhai rhannau o Gymru bellach yn golygu y gallai fod angen oedi gofal dewisol nad yw'n ofal brys unwaith eto, yn union fel a ddigwyddodd yn ystod y don gyntaf, ac maent yn dweud hynny gyda chalon drom.
Yr hyn sydd gan Cancer Research UK a'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gyffredin iawn yma yw'r farn fod yn rhaid cael eglurder llwyr gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r cyd-destun y mae ein byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau ynddo. Nawr, mae opsiynau lleol, fel y nodir yn y fframwaith, yn iawn, ond a all y Gweinidog sicrhau'n bendant fod yna eglurder ynglŷn â pha bryd y dylid sbarduno cyfyngiadau ar driniaethau nad ydynt yn ddewisol, er enghraifft, fel bod cysondeb ar draws y GIG, a nodi pa wasanaethau, gan gynnwys mewn diagnosis a thriniaeth canser, na allwn adael iddynt lithro yn ystod yr ail don ddifrifol iawn hon?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n credu, gyda pharch, ein bod eisoes wedi mynd i'r afael â hynny yn yr hyn rydym wedi'i ddweud. Rwy'n deall ofnau gwahanol grwpiau diddordeb a gwasanaethau, ac rwy'n deall safbwynt y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dda iawn. Maent yn iawn i ddweud y dylent hwy, a phob un ohonom, boeni am realiti absenoldebau staff. Rwyf newydd fod mewn galwad gyda byrddau iechyd ac arweinwyr llywodraeth leol o bob rhan o ardal de Cymru yn gyffredinol, ac mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan newydd gadarnhau bod ganddynt gyfradd absenoldeb staff o 11 y cant. Nawr, mae hynny'n cael effaith sylweddol ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau, ac os oes cynifer â hynny o staff yn absennol, ni allwch barhau i ddarparu'r holl wasanaethau.
Mae hefyd yn golygu nad oes gan y bwrdd iechyd hwnnw, na rhai eraill sy'n wynebu heriau tebyg, opsiwn i barhau i agor darpariaeth ychwanegol gyda'r staff sydd ganddynt, ac felly, ceir heriau gwirioneddol. Ac unwaith eto, pe baech yn siarad ag arweinwyr llywodraeth leol, byddent hwy hefyd yn disgrifio'r math o bwysau sydd arnynt gydag absenoldebau staff, a gwyddom fod comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid yn wynebu pwysau tebyg hefyd. Felly, dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r fframwaith gweithredu.
Mae'n ymwneud â mwy na byrddau iechyd unigol yn gwneud dewis drostynt eu hunain yn unig gan anwybyddu gwasanaethau eraill, oherwydd gwyddom fod cyd-gymorth eisoes yn digwydd. Mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, eisoes yn cynorthwyo bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg i reoli rhywfaint o'r pwysau sydd arnynt. Gwyddom fod gwasanaethau canser yn aml yn digwydd yn ôl patrwm rhanbarthol. Mae amrywiaeth o wasanaethau arbenigol eraill yn digwydd ar draws ffiniau byrddau iechyd, a'r neges rwyf wedi bod yn ei rhoi, a'r neges y mae byrddau iechyd wedi bod yn ei hadlewyrchu'n ôl, yw eu bod, o fewn y dewisiadau y maent yn eu gwneud i reoli pwysau lleol, eisoes yn edrych ar yr heriau i wasanaethau rhanbarthol. Nid oes unrhyw un o'r dewisiadau hynny wedi effeithio ar wasanaethau rhanbarthol eto, ond mae prif swyddogion byrddau iechyd yn siarad yn rheolaidd am hyn. Cafwyd sgwrs ddoe ym mwrdd y GIG, dan gadeiryddiaeth prif weithredwr GIG Cymru. Mae ffyrdd rheolaidd i bobl gael y sgyrsiau hynny ar draws y gwasanaethau.
Dylwn ddweud, er mwyn i bobl ddeall y pryder am wasanaethau canser, fod gwasanaethau canser yn cael eu cynnal lle mae'n ddiogel i wneud hynny. Mae'n ymwneud â diogelwch y gwasanaeth. Felly, nid yw gwasanaethau canser yn cael eu hisraddio. Rydym yn gorfod ymdopi yn erbyn y pwysau gwirioneddol sy'n ein hwynebu, ac mae'n gwbl bosibl, yn y dyfodol agos, y bydd angen imi wneud penderfyniad cenedlaethol ynglŷn â sut y caiff gwasanaethau eu rheoli. Gwyddom, serch hynny, fod y sefyllfa yn Hywel Dda yn cynyddu, mae'r sefyllfa'n wahanol ym Mhowys, oherwydd maent yn comisiynu eu gofal eilaidd, a gwyddom fod y sefyllfa ychydig yn wahanol yng ngogledd Cymru hefyd. Felly, pe bawn yn gwneud dewis cenedlaethol ar hyn o bryd, gallai hynny effeithio ar bobl yng ngogledd Cymru, yn enwedig, a fyddai'n gallu rheoli rhai o'r gwasanaethau hynny am gyfnod estynedig o bosibl. Ond os bydd cyfraddau coronafeirws yn parhau i godi yn y modd y maent yn ei wneud, mae arnaf ofn ar ryw bwynt y bydd angen i ni fynd yn ôl i'r sefyllfa roeddem ynddi ar 13 Mawrth gyda dewis cenedlaethol ynglŷn â gwasanaethau. Nid ydym yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd, ond rwy'n ystyried pwyntiau adeiladol yr Aelod. Ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod rhaid ystyried dewisiadau lleol o fewn cyd-destun ehangach.
Diolch am yr atebion hyd yn hyn, Weinidog. A allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am gyflwr y byrddau iechyd sydd heb atal llawdriniaethau dewisol hyd yma? Gwyddom fod dau yng Nghymru, byrddau iechyd Aneurin Bevan a Bae Abertawe, wedi canslo llawdriniaethau dewisol. Fe ddywedoch chi yn eich ateb blaenorol eich bod newydd ddod o gyfarfod am absenoldebau staff o fewn y GIG, felly a allech chi roi'r sefyllfa ddiweddaraf i ni? Oherwydd mae'n amlwg fod atal llawdriniaethau dewisol mewn unrhyw fwrdd iechyd yn cael effaith ddramatig ar wasanaethau a ddarperir i gleifion sydd, yn amlwg, wedi bod yn disgwyl cael eu gweld.
Mae'r ddau fwrdd iechyd a nodais yn gynharach yn yr wythnos wedi cyhoeddi eu dewisiadau i gyfyngu ar rai gwasanaethau—nid llawdriniaethau dewisol yn unig ond amrywiaeth o apwyntiadau cleifion allanol ac eraill hefyd. Credaf ei bod yn gwbl bosibl y byddwn yn gweld angen i fyrddau iechyd eraill wneud yr un peth. A chyfeiriaf at 'angen' i wneud yr un peth—nid eisiau gwneud hynny ond angen—oherwydd y pwysau gwirioneddol ar wasanaethau. Felly, fel y nodais yn fy ateb i lefarydd Plaid Cymru, rydym eisoes wedi gweld Caerdydd a'r Fro yn cynorthwyo Cwm Taf Morgannwg gyda rhywfaint o'r pwysau sy'n eu hwynebu, ac mae'n bwysig fod cyd-gymorth yn bodoli ar draws ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Rwy'n credu ei fod yn ymwneud â hanfod y cwestiwn cyntaf ynglŷn â sicrhau nad yw byrddau iechyd yn gweithredu mewn modd ynysig lle nad ydynt ond yn meddwl mewn ffordd gul iawn, ond eu bod, yn hytrach, yn deall yr effaith ehangach. Ac mae'n rhaid i hynny hefyd fod yn ystyriaeth o'r effaith ar wasanaeth ambiwlans Cymru hefyd, oherwydd bydd y ffordd y caiff pwysau ei reoli yn effeithio ar y gallu i gyrraedd pobl yn y gymuned, i reoli'r galwadau brys y maent yn eu cymryd ac yna i symud y bobl hynny i'r lle iawn er mwyn i'w gofal barhau.
Felly, fel y dywedais, y sefyllfa ddiweddaraf yw bod Aneurin Bevan yn nodi lefel absenoldeb staff o 11 y cant. Byddaf eisiau darparu mwy o ffigurau i'r Aelodau a'r cyhoedd mewn perthynas ag absenoldeb staff. Nid oes gennyf restr bendant i'w rhoi i chi ar bob bwrdd iechyd, ond ni ddylai pobl synnu gweld absenoldeb staff cynyddol ar draws pob bwrdd iechyd, i gyd-fynd â'r trosglwyddiad cymunedol y gwyddom ei fod yn digwydd. Mae'r gyfradd R yn codi ledled Cymru, mae lefel y bygythiad yn codi ledled Cymru; dyna pam y gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiadau a wnaeth heddiw.
Ar ofal dewisol a gofal arall a gynlluniwyd, rwy'n cydnabod bod niwed yn deillio o oedi gofal o'r fath. Nid oes unrhyw beth yn ddymunol ynglŷn â gohirio triniaeth, ac fe fydd yn achosi pryder i bobl, hyd yn oed os ydynt yn deall ac yn cefnogi pam fod hynny'n digwydd. Os ydych yn dioddef anghysur, efallai na fydd yn fawr o gysur i chi fod rhywun arall mewn mwy o angen na chi. Ond dyna pam fod ein GIG yn gwneud y dewisiadau hyn. Dyna pam, fel Gweinidog iechyd, fy mod wedi cymeradwyo'r ffaith bod gan y GIG fframwaith i helpu i lywio'r dewisiadau hynny. Oherwydd mae'r angen mor fawr ac mae gennym bobl a fydd angen gofal a allai olygu'r gwahaniaeth rhwng anabledd hirdymor neu'r gwahaniaeth rhwng goroesi a pheidio â goroesi, a dyna'r dewisiadau rydym yn gorfod eu gwneud. Felly, dyna pam rwy'n cefnogi ac wedi cymeradwyo'r fframwaith gweithredu, ac mae arnaf ofn fod mwy o'r dewisiadau hynny i ddod yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud nad wyf mewn unrhyw ffordd yn beirniadu staff y GIG yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn fy etholaeth yn Nwyrain De Cymru? Maent yn gwneud gwaith anhygoel dan bwysau eithafol ar hyn o bryd. Ond rwyf wedi cael meddygon, meddygon teulu, yn cysylltu â mi o ddalgylch Ysbyty Athrofaol y Faenor yn dweud eu bod yn poeni am y cleifion y maent yn eu hanfon yno gan eu bod o'r farn nad yw'r ysbyty yn ddiogel nac yn addas i'r diben. Yn ogystal â'r ffaith ein bod yn amlwg yn gweld cleifion yn aros mewn meysydd parcio am 17 awr gydag anhwylderau sy'n peryglu eu bywydau, a phobl yn aros mewn ambiwlansys am amser eithriadol o hir, yr hyn sydd hefyd yn amlwg, nid yn unig o ganlyniad i'r ffaith bod achosion COVID yn codi, yw nad yw'r seilwaith yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn barod. Nid yw'n ymdopi. Nid oes digon o welyau, nid oes digon o staff, nid yw'r systemau ffôn mewnol yn gweithio'n iawn, a hefyd nid yw'r ysbyty wedi'i sefydlu ar gyfer derbyn ceir. A phan oedd fflyd gyfan o ambiwlansys y tu allan i'r ysbyty y penwythnos diwethaf, mae angen iddo fod wedi'i sefydlu ar gyfer ceir, mae angen iddo fod yn barod. Mae'n amlwg nad yw'r systemau hyn, y prosesau mewnol hyn, yn barod. Felly, pa gamau brys rydych yn eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod Ysbyty Athrofaol y Faenor yn addas i'r diben?