Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 24/07/2024 i'w hateb ar 31/07/2024

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Comisiwn y Senedd

WQ93600 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

A wnaiff y Comisiwn esbonio sut y mae ei arfer o beidio cyhoeddi trawsgrifiad llawn o drafodion pwyllgor yn Gymraeg fel ag y gwneir yn Saesneg yn cydymffurfio gydag adran 35(1)(c) Deddf Llywodraeth Cymru 2006?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 17/09/2024

Adam Price AS ar ran Comisiwn y Senedd

Nid yw adran 35(1)(c) yn rhoi dyletswydd ar y Senedd i gyhoeddi trawsgrifiadau dwyieithog o drafodion cyfarfodydd pwyllgor.

Nodir fel a ganlyn yn adran 35(1)(c):

“(1C) Reports of Senedd proceedings must, in the case of proceedings which fall within section 1(5)(a) (proceedings of the Senedd), contain a record of what was said, in the official language in which it was said, and also a full translation into the other official language.”

Yn unol ag adran 35(1)(c), dim ond trafodion sydd o fewn y diffiniad a roddir yn adran 1(5)(a) y mae angen eu cyfieithu’n llawn. 

Yn adran 1(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006), nodir fel a ganlyn:

“(5) In this Act “Senedd proceedings” means any proceedings of—

(a) the Senedd,

(b) committees of the Senedd, or

(c) sub-committees of such committees.”

Mae adran 1(5)(a) yn ymwneud â thrafodion y Senedd yn unig h.y. y Cyfarfod Llawn. Nid yw’n cynnwys trafodion pwyllgorau neu is-bwyllgorau, sy’n cael eu diffinio’n glir yn adrannau 1(5)(b) ac (c) o Ddeddf 2006, yn y drefn honno. Nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol ar y Senedd felly o dan adran 35(1)(c) i gyhoeddi trawsgrifiadau llawn o drafodion pwyllgorau yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Yn unol ag adran 35(1)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, caiff Cofnod o drafodion y Cyfarfod Llawn gan gynnwys cyfieithiad i Gymraeg o gyfraniadau a wnaed yn Saesneg ei gyhoeddi o fewn 3 diwrnod gwaith.

Mae’r Comisiwn wedi cytuno i ystyried adolygu’r fframwaith cyfreithiol yn ymwneud ag ieithoedd swyddogol wrth baratoi at y seithfed Senedd.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

WQ93599 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet restru'r awdurdodau lleol y mae hi'n gwybod amdanynt sydd wedi cyhoeddi gwybodaeth am y refeniw ychwanegol sydd wedi'i godi yn sgil codi premiymau treth cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet | Wedi'i ateb ar 05/08/2024

Mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i gyhoeddi manylion ar eu gwefannau ynghylch yr incwm a gynhyrchwyd o godi premiymau yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Rydym yn ymwybodol, hyd yma, o'r 15 awdurdod lleol sydd wedi codi premiymau’r dreth gyngor mewn blynyddoedd ariannol blaenorol, fod y canlynol wedi cyhoeddi'r wybodaeth hon. (Mae'r wybodaeth ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd.)

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyngor Sir Powys

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Caerdydd

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

WQ93588 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Ymhellach i WQ93281, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cwblhau'r trafodaethau uwch gyda'r awdurdod lleol ynghylch defnyddio tir ac eiddo Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar Heol Dinerth yn Llandrillo-yn-Rhos?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 29/07/2024

We hope that advanced discussions between Officials and the local authority with regards to next steps for land and property on Dinerth Road in Rhos-on-Sea will draw to a close in autumn of this year.

 
WQ93598 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Faint o bobl sydd wedi manteisio ar y cynllun Cymorth i Aros hyd yma?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 01/08/2024

Lansiwyd y cynllun Cymorth i Aros Cymru ym mis Tachwedd 2023 ac mae'n cynnig cymorth i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu morgais. Mae'r cynllun yn cynnig cymorth i berchnogion tai ar ffurf benthyciad ecwiti a rennir, fodd bynnag, mae yn annog aelwydydd i geisio cyngor ar ddyledion am ddim. I'r rhai sy'n gymwys am y cynllun darperir cymorth hefyd drwy Gynghorydd Ariannol Annibynnol a fydd yn cynnal asesiad ariannol.

Hyd yn hyn, derbyniwyd 56 o geisiadau ar gyfer y cynllun, mae 5 aelwyd wedi elwa o'r rhaglen, gyda 7 arall wedi'u cymeradwyo ac yn symud ymlaen i'w cwblhau. Fodd bynnag, mae'r cynllun hefyd wedi annog nifer o aelwydydd i ofyn am gyngor am ddim ar ddyledion a allai fod wedi cynnig ateb amgen i ddiwallu eu hanghenion.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

WQ93585 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn adfer tir sydd wedi'i lygru â charthffosiaeth sy'n peri risg i dda byw yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 29/07/2024

Since January 2019 Welsh Government has made sustainable drainage systems (SuDS) mandatory on almost all new building developments. This will relieve pressure on the sewage network by redirecting and slowing down the speed at which surface water enters the sewer system.

We are also working closely with water companies and Natural Resources Wales to tackle pollution from storm overflows and build long-term strategies that will improve water quality across our waterways. We have the highest expectations of our water companies to deliver across all areas of service. These expectations are set out in our Strategic Priorities and Objectives Statement which the then Minister for Climate Change issued to Ofwat in July 2022.

Untreated raw sewage, compared with treated sludge, may pose a higher risk to the environment and any livestock grazing sewage contaminated pasture. All sewage sludge producers and users in Wales must follow the Sewage Sludge in Agriculture: Code of Practice published in 2018.

 
WQ93593 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i gynyddu'r dirwyon a roddir i unigolion am daflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 29/07/2024

Enforcement action forms part of a holistic approach to tackling littering and fly-tipping which integrates prevention, collaboration and partnership working with stakeholders  and citizens.

There are a number of factors that should be considered in relation to the level of fines imposed.  These include the ability to pay and the proportionality of higher fine levels in respect of low level environmental offences.  Accordingly, we currently encourage Local Authorities to fully utilise the range of existing enforcement tools available to them for dealing with littering and fly-tipping.

We introduced the Household Waste Duty of Care (Fixed Penalties) (Wales) Regulations 2019 and The Unauthorised Deposit of Waste (Fixed Penalties) (Wales) Regulations 2017, to allow enforcement agencies to deal more efficiently with small scale, low-level fly-tipping offences.

 
WQ93584 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn mynd i'r afael â llygru tir preifat gyda charthffosiaeth oherwydd suddfan dŵr glaw tir cyhoeddus?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 30/07/2024

Natural Resources Wales (NRW) has both statutory and regulatory duties to discharge in its role as Wales’ environmental regulator.

In discharging these duties, NRW follows a structured response process to address and mitigate the impact of any pollution incident. This ensures that NRW can effectively manage and respond to environmental incidents, minimising impacts (where possible) and ensuring compliance with environmental regulations.

Incidents are assessed by urgency and severity in order to prioritise response efforts. In many cases it is not only NRW’s officers who respond but also partner organisations which include emergency services, Local Authorities and Public Health Wales.

 
WQ93601 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Ymhellach i'r ymrwymiad a roddwyd ym mharagraff 153 cofnod y Cyfarfod Llawn ar 17 Gorffennaf 2024, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu'r ystadegau a'r data dan sylw?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 01/08/2024

Daeth y ffigur y cyfeiriwyd ato gennych o'r Arolwg Bwyd y Sector Cyhoeddus diweddaraf i Gymru, a gynhaliwyd yn 2022.  Nid yw'r un arolwg wedi'i ailgynnal eto, felly nid oes gennym gymharydd uniongyrchol eto.  Fodd bynnag, rydym yn bwriadu cynnal yr arolwg unwaith eto ar ddiwedd tymor y Senedd hon i fesur effeithiau ein prosiectau Economi Sylfaenol, meithrin cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu'r cyflenwad o fwyd Cymreig i'r sector cyhoeddus.

Mae datblygu a gwella ein cadwyni cyflenwi bwyd lleol yn rhaglen newid hirdymor wrth gwrs, ond mae’r prosiectau hyn eisoes yn cyflawni cynnydd.

Er enghraifft, mae'r adnodd ar-lein 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol' wedi cefnogi cynnydd o 173% yn y bwyd o Gymru a gyflenwir ar gyfer prydau ysgol drwy Gastell Howell (£854k yn 2021 o'i gymharu â £2.3m ar hyn o bryd). 

Mae hyn wedi deillio’n bennaf o waith gan Gyngor Caerffili, wrth iddynt gymhwyso'r canllawiau caffael bwyd 'Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol' i Fframwaith Bwyd De Cymru, a ddyfarnwyd ym mis Ebrill ac a ddefnyddir gan 15 o awdurdodau lleol. Mae'r fframwaith yn cynnwys lot ar gyfer Cymru am y tro cyntaf, gan ddarparu dewisiadau bwyd lleol i gynghorau. O blith 150 lot, enillodd Castell Howell 100, gan sicrhau diogelwch o ran y cyflenwad a chadw arian yng Nghymru. Ers lansio'r adnodd hwn, mae Castell Howell hefyd wedi nodi cynnydd o 86% mewn bwyd Cymreig a gyflenwir i GIG Cymru (£598k i £1.1m).

Yn ogystal, mae ein prosiect ‘Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru’ gan Synnwyr Bwyd Cymru, wedi datblygu 8 tyfwr newydd i gynyddu'r cyflenwad o gynnyrch Cymreig i ysgolion. O ganlyniad, maent yn cyflenwi tua 40 tunnell o lysiau organig i ysgolion ar draws 6 awdurdod lleol. Maent hefyd wedi tyfu erw newydd sbon o foron (10 tunnell) i ysgolion er mwyn mynd i'r afael â’r prinder diweddar o ran cyflenwad, a arweiniodd at eu mewnforio o Tsieina.

Bydd y prosiectau hyn yn dod i ben erbyn mis Mawrth 2025, a bydd gwerthusiad llawn yn cael ei gynnal bryd hynny. Dylai canlyniadau hyn gael eu cyhoeddi erbyn haf 2025.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg

WQ93597 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Ymhellach i WQ92455 ac ymrwymiadau dilynol a roddwyd i rannu diweddariad cyn toriad yr haf, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ym mha le y gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 29/07/2024

Rhoddais ddiweddariad am y mater hwn mewn ymateb i’r ddadl a gyflwynwyd gennych ar 3 Gorffennaf 2024. Mae’r trawsgrifiad ar gael yma. Mae fy ymateb i i’r ddadl yn dechrau ym mharagraff 188.

 
WQ93596 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ystyriaeth Llywodraeth Cymru o alwadau i ddiweddaru canllawiau'r Bathodyn Glas i alluogi awdurdodau lleol i ddyfarnu Bathodynnau Glas am oes i'r rhai sydd â chyflyrau cronig neu ddirywiol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar 25/07/2024

Blue badges are valid for three years. This length of award is set out in legislation and is common across the UK. However, applicants who will permanently meet the eligibility criteria can be awarded a badge on a ‘not for reassessment’ basis, which means that when re-applying in three years’ time they will not need to provide any additional evidence from healthcare professionals to support their application, only proof of identity and residency. We regard these as reasonable and proportionate requirements to protect the integrity and robustness of the Blue Badge scheme.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

WQ93594 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyhoeddi cynllun cyflawni lleihau ceir-cilometr?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 31/07/2024

The National Transport Delivery Plan sets out the actions we are taking to meet the targets set out in Net Zero Wales Carbon Budget 2, which include a 10 per cent per person reduction in car mileage. The Plan also sets out our commitment to develop a decarbonisation delivery pathway.

Data on the uptake of electric vehicles in Wales is published by the UK Department for Transport (VEH0133) Vehicle licensing statistics data tables - GOV.UK (www.gov.uk).

The Welsh Government worked in collaboration with the UK Government and Scottish Government to introduce the Vehicle Emissions Trading Schemes Order from January 2024. This ensures that a minimum of 22% of cars sold (and 10% of vans) are zero emission from 2024 rising to 80% of cars (and 70% of vans) by 2030. The uptake of zero emission vehicles is also supported by our investment to deliver the actions set out in our EV Charging Strategy and Action Plan. 

 
WQ93595 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fonitro a chynyddu'r nifer sy'n defnyddio cerbydau trydan?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 31/07/2024

The National Transport Delivery Plan sets out the actions we are taking to meet the targets set out in Net Zero Wales Carbon Budget 2, which include a 10 per cent per person reduction in car mileage. The Plan also sets out our commitment to develop a decarbonisation delivery pathway.

Data on the uptake of electric vehicles in Wales is published by the UK Department for Transport (VEH0133) Vehicle licensing statistics data tables - GOV.UK (www.gov.uk).

The Welsh Government worked in collaboration with the UK Government and Scottish Government to introduce the Vehicle Emissions Trading Schemes Order from January 2024. This ensures that a minimum of 22% of cars sold (and 10% of vans) are zero emission from 2024 rising to 80% of cars (and 70% of vans) by 2030. The uptake of zero emission vehicles is also supported by our investment to deliver the actions set out in our EV Charging Strategy and Action Plan. 

 
WQ93591 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi gwerth masnachol diweddaraf Maes Awyr Caerdydd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 02/08/2024

The current value of the Welsh Governments shares in Cardiff International Airport Limited is £17.83m. The valuation is reviewed annually and included in WGC HoldCo Limited’s latest published accounts.

Since 2013, the Welsh Government has invested a total of £179.6 million in Cardiff Airport. A full breakdown of our investment can be accessed via the following link:

Cardiff Airport: our role | GOV.WALES

 
WQ93592 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet nodi'r cyfanswm a wariwyd hyd yma ar Faes Awyr Caerdydd ers ei gaffael yn 2013?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 02/08/2024

The current value of the Welsh Governments shares in Cardiff International Airport Limited is £17.83m. The valuation is reviewed annually and included in WGC HoldCo Limited’s latest published accounts.

Since 2013, the Welsh Government has invested a total of £179.6 million in Cardiff Airport. A full breakdown of our investment can be accessed via the following link:

Cardiff Airport: our role | GOV.WALES

 
WQ93590 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu dadansoddiad blynyddol o'r holl gymorth ariannol a roddwyd i Faes Awyr Caerdydd gan Lywodraeth Cymru ers 2013?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 02/08/2024

A full breakdown of our investment in Cardiff Airport can be accessed via the following link:

Cardiff Airport: our role | GOV.WALES

 
WQ93589 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith economaidd ar Gymru o gael ei thynnu o'r Undeb Tollau a Marchnad Sengl Ewrop?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 05/08/2024

I will write to you with a substantive response and a copy of the letter will be published on the internet.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

WQ93586 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cap budd-dal dau blentyn ar lefelau tlodi plant yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 02/08/2024

We know relative poverty among families with three or more children has continued to increase. I welcome announcement of a new ministerial taskforce to explore how they can use all available levers across government, recognising the wide-ranging causes of child poverty.

I am keen to work closely with the new UK Government on our shared ambition of tackling poverty, this will include discussing the role of the benefit system at the DWP and Welsh Government Interministerial Group.  Our own ambitious Child Poverty Strategy for Wales published earlier this year will be informing our discussions at a Wales and UK level.

 
WQ93587 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/07/2024

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth newydd y DU i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 02/08/2024

I am keen to work closely with the new UK Government on our shared ambition of tackling poverty, including discussing the role of the benefit system at the DWP and Welsh Government Interministerial Group. 

I welcome announcement of a new UK Government ministerial taskforce will explore how they can use all available levers across government, recognising the wide-ranging causes of child poverty.

Our own ambitious Child Poverty Strategy for Wales published earlier this year will be informing our discussions at a UK level.