Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 21/03/2023 i'w hateb ar 28/03/2023

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Prif Weinidog

WQ87841 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Beth oedd cyfanswm y gost o'r Prif Weinidog a'i staff yn ymweld â Pharis ym mis Mawrth 2023?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 27/03/2023

This information will be published here - Ministerial Code information publication: 6th Senedd | GOV.WALES - in line with the Ministerial code, after the end of the financial year.

 
WQ87842 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Beth oedd cyfanswm y gost or Prif Weinidog a'i staff yn ymweld â Brwsel ym mis Mawrth 2023?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 27/03/2023

This information will be published here - Ministerial Code information publication: 6th Senedd | GOV.WALES - in line with the Ministerial code, after the end of the financial year.

Gweinidog yr Economi

WQ87839 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw trafodaethau wedi'u cynnal gydag Aerodyne Aircrafts Development Limited, ac a yw'r trafodaethau hynny wedi arwain at unrhyw renti neu gaffael unedau busnes gan y cwmni yn Ardal Fenter Sain Tathan?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi | Wedi'i ateb ar 28/03/2023

My officials have been in discussion with the company and are currently progressing negotiations for their leasehold occupation of 3 buildings at Bro Tathan on commercial terms.

 
WQ87840 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Pa fan gadael a chyrraedd a ddefnyddiodd y Prif Weinidog i deithio i'r UDA ac yn ôl ym mis Mawrth 2023?

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 28/03/2023

The First Minister did not travel to the USA in March 2023

 
WQ87844 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Beth oedd cyfanswm y gost o'r Gweinidog a'i staff yn ymweld â'r Unol Daleithiau ym mis Mawrth 2023?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi | Wedi'i ateb ar 28/03/2023

This information will be published here - Ministerial Code information publication: 6th Senedd | GOV.WALES - in line with the Ministerial code, after the end of the financial year.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

WQ87846 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i awdurdodau lleol i gynnal a chadw ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 24/03/2023

Unadopted roads are maintained privately and not at public expense, therefore it is not the local authorities’ responsibility to maintain them.

 
WQ87847 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol i'w galluogi i fabwysiadu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 24/03/2023

A fund of up to £1.4 million was established by Welsh Government and expended in the financial year 2021/22 for a pilot programme for local authorities to adopt roads.

A full report will be published on the findings this Spring, but evidence so far suggests the pilots have been well received locally and the roads are all in the process of being adopted. Following the report publication we will consider how future funding could be provided.

 
WQ87837 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru wrth brynu'r safle datblygu yn Hwlffordd am £9.6 miliwn?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 27/03/2023

The Welsh Government has acquired land at Haverfordwest for £7.14m. Our land can accommodate in the region of 500 homes of which up to 50% will be affordable. The development will be low carbon and centred around a sustainable, well planned community which will seek to reduce dependence on the use of the private car by having active travel as a central theme.

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

WQ87848 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Beth yw'r gost gyfartalog, y pen, o ddarparu prydau ysgol am ddim?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 28/03/2023

Under section 512ZB of the Education Act 1996, local authorities are required to provide a free school meal at lunchtime for eligible free school meal pupils. Funding for this is un-hypothecated and is provided to local authorities through the local government Revenue Support Grant (RSG) settlement. Local authorities are responsible for allocating budgets in relation to this provision.

It is not possible to isolate the funding provided to schools in Wales for free school meals because this is included in an overarching category of ‘delegated school catering expenditure’ in the Local Government Settlement.

Regarding Universal Primary Free School Meals, £200m of revenue funding has been committed across the three years 2022-23 to 2024-25 to implement the programme over the course of the Co-operation Agreement.

The unit rate per meal is currently set at £2.90. A review of the unit rate is underway to develop a deeper understanding of costs and possibly refine the rate for future years.

The universal provision of free school meals in primary schools is being delivered in collaboration with Plaid Cymru as part of the Co-operation Agreement.  

 
WQ87845 (w) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r galw am therapi lleferydd ac iaith yn y dyfodol, o ystyried mai anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yw'r math mwyaf cyffredin o anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 29/03/2023

Mae therapi lleferydd ac iaith yn wasanaeth pwysig i blant ledled Cymru. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am adolygu a chynllunio eu darpariaeth ddysgu ychwanegol, a Byrddau Iechyd yn cynllunio eu gweithlu ar sail patrymau demograffig. Ar 30 Medi 2022, roedd nifer y therapyddion lleferydd ac iaith cymwysedig a oedd wedi’u cyflogi gan y GIG wedi cynyddu 14.6% i 530.4 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ers 30 Medi 2017. Bob blwyddyn, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn datblygu argymhellion ar lefel y lleoedd hyfforddi newydd mewn gofal iechyd, ar sail Cynlluniau Tymor Canolig Integredig byrddau iechyd a gwybodaeth ehangach am y gweithlu.

Nod ‘Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu’, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020, yw ysgogi gwelliant yn y ffordd y mae plant yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae’r cynllun hwn yn cynnwys polisi addysg, polisi iechyd a pholisi cymdeithasol, gan adeiladu ar bolisïau presennol a’r hyn sy’n gweithio. Cafodd ei ddatblygu mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, ac mae’n amlinellu rhaglen waith Llywodraeth Cymru i wella’r gefnogaeth lleferydd, iaith a chyfathrebu i blant 0 i 4 oed 11 mis.

Mae Cronfa Datblygiad Plant Llywodraeth Cymru wedi dyrannu dros £18 miliwn i awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag oedi yn natblygiad plant o dan bump oed, gan gynnwys dirywiad mewn sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu, oedi yn natblygiad sgiliau motor manwl a bras, ac o ran datblygiad personol a chymdeithasol.

 
WQ87843 (e) Wedi’i gyflwyno ar 21/03/2023

Beth oedd cyfanswm y gost o'r Gweinidog a'i staff yn ymweld â Dulyn ym mis Chwefror a Mawrth 2023?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 29/03/2023

This information will be published here - Ministerial Code information publication: 6th Senedd | GOV.WALES - in line with the Ministerial code, after the end of the financial year.