Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 08/01/2021 i'w hateb ar 15/01/2021
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y gwaith paratoadol sydd wedi digwydd yn dilyn pasio cynnig yn y Senedd ar 3 Mehefin 2020 yn galw am gynnal ymchwiliad annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig COVID-19?
Er ein bod yn cefnogi’r syniad o sefydlu ymchwiliad annibynnol i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r pandemig COVID-19, gan gadw mewn cof bod llawer iawn o'r ymateb i'r pandemig wedi cael ei reoli ar lefel y DU, fel yr oedd yn gywir i’w wneud, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i feddwl y dylai ymchwiliad o'r fath fod yn un a gynhelir ar draws y DU gyfan. Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar hyn o bryd, fel y mae llawer o'r rheini a fyddai'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliad, ar fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd y cyhoedd parhaus.
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Pryd fydd y set derfynol o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru y darperir ar eu cyfer yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn cael eu cyhoeddi?
The Welsh Government is committed to publishing national milestones in 2021 and we will publish a detailed plan in February.
A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am ei safbwynt o ran hawliau a chydnabyddiaeth perthnasau amlgariadon?
Polyamory does not fall directly under the protected characteristics set out in the Equality Act 2010, although it may coincide with other characteristics which are protected such as religion or belief or sexual orientation. Protections for marriage or civil partnership status apply to those who are married or in a civil partnership but do not protect those not in a legal marriage or civil partnership. Our approach to the promotion of equality is set out in the Strategic Equality Plan 2020-2024.
Many of the rights and recognitions which relate to the relationship status of individuals fall to marriage law. At present England and Wales law only recognises marriage or civil partnership as a union between two people, polyamorous unions are not recognised as lawful. Marriage law is not devolved to Wales.
The Law Commission is currently reviewing Weddings Law. The scope of this review is limited to how and where marriages and civil partnerships can be solemnised. It does not extend to the legal status of being married and the consequences that flow from that.
Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog amlinellu beth yw cost gyfartalog prydau ysgol am ddim fesul disgybl yng Nghymru?
It is not possible to isolate the funding provided to schools in Wales for free school meals because this is included in an overarching category of ‘delegated school catering expenditure’ in the Local Government Settlement.
To estimate the cost of providing free school meals, the Welsh Government has used an assumed annual cost of £440 per pupil.
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
A fydd is-etholiadau cyngor yn cael eu cynnal yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth?
Newidiodd Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020 y gyfraith etholiadol i roi caniatâd dros dro i Swyddogion Canlyniadau bennu’r dyddiad ar gyfer cynnal is-etholiadau prif gynghorau neu gynghorau tref a chymuned a oedd wedi’u gohirio’n flaenorol.
Mae’r Rheoliadau’n pennu bod rhaid cynnal yr is-etholiadau yn ystod y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2021 ac 16 Ebrill 2021.
Bydd newidiadau pellach yn cael eu gwneud i newid y cyfnod hwnnw i 1 Mawrth 2021 a 6 Mai 2021 i adlewyrchu’r sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol.
Cyfrifoldeb pob Swyddog Canlyniadau unigol fydd pennu’r dyddiad o fewn y cyfnod hwn ar gyfer cynnal yr is-etholiad, gan ystyried eu hamgylchiadau lleol penodol.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ystyried ailgyflwyno cynllun cymorth gofal plant coronafeirws?
Registered childcare remains open for all children up to 12 years of age, and this includes Flying Start provision and settings delivering the Childcare Offer. Childcare is not currently restricted in any way as we consider settings safe, if they follow Welsh Government guidelines, and it is important that all parents are able to access childcare to work. Schools are making provision for the school‑aged children of critical workers and vulnerable children.
We are continuing to support parents with 3 and 4 year olds with childcare costs through the Childcare Offer for Wales.
We are monitoring the data and evidence and will review decisions as and when necessary as the situation relating to Coronavirus develops.
There are no current plans for the return of the coronavirus childcare assistance scheme.
A wnaiff y Gweinidog nodi a fydd staff gweinyddol byrddau iechyd sy'n gweithio mewn ysbytai yn cael brechlyn coronafeirws yn ystod yr un cyfnod â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen eraill?
An agreed UK approach is being taken to prioritisation.
Frontline health and social care workers, defined by the expert Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) as they are at high risk of acquiring infection, at high individual risk of developing serious disease or are at risk of transmitting infection to multiple vulnerable persons or other staff in a healthcare environment, are considered of higher priority for vaccination than those at lower risk. Chapter 14a of the Green Book and the WHO/ SAGE roadmap provides national guidance to immunisers on these groups, and both these have been shared with health boards in Wales.
Administrative staff meeting this definition will be included, otherwise they will be vaccinated in line with the JCVI indications on age and clinical risk factors.
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch defnyddio ysbytai maes y lluoedd arfog i frechu pobl rhag coronafeirws?
The support of the military is in place across Wales. We have: 14 immunisers; and 70 other personnel supporting at vaccination centres. All venues offered to Health Boards are considered on their merits.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio lleoliadau cyhoeddus fel canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol fel canolfannau brechu?
The interest in supporting health boards with their local programmes and offers from national organisations for use of their premises and staff has been incredible. Health boards are actively considering adding more vaccination centres as we look to have at least one in each county of Wales. At the same time, the capacity at existing centres is also being increased.
A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r ddogfennaeth a gafodd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio mewn perthynas â'i argymhelliad i ymestyn yr amser rhwng y dos cyntaf a'r ail ddos o frechlynnau COVID-19?
The interval between first and second doses has been confirmed as “up to 12 weeks”. This is a UK-wide decision based on the latest scientific evidence and clinical advice. The JCVI and the 4 UK CMOs have confirmed that this is safe and effective for both vaccines. Doing this will enable millions more to get that effective first dose earlier. More information on this decision can be found here:
Faint o staff y gwasanaeth iechyd wnaeth ymddiswyddo a gadael y gwasanaeth iechyd fesul mis yn 2019 o'i gymharu gyda phob mis yn 2020?
Mae gwybodaeth reoli GIG Cymru sy’n dangos nifer y staff nad ydynt bellach yn cael eu cyflogi o un mis i’r mis nesaf wedi’i dangos yn y tabl isod. Nid yw’n bosibl darparu gwybodaeth ar gyfer staff sydd wedi ymddiswyddo yn benodol; mae’r wybodaeth isod yn cynnwys nifer y staff sydd wedi gadael GIG Cymru am amryw o resymau, gan gynnwys: ymddeoliad; ymddiswyddo oherwydd salwch; staff sydd wedi ymddiswyddo o’u swydd ond sy’n dal i gael eu cadw gan y gwasanaethau iechyd fel staff banc neu locwm; diwedd contractau tymor penodol; diswyddiadau; a seibiant gyrfa neu gyfnod sabothol.
Yn ogystal, o fis Mawrth 2020 cafodd nifer fawr o staff eu recriwtio i gefnogi ein hymateb i COVID-19, fel myfyrwyr iechyd proffesiynol er enghraifft. Felly bydd y data ar gyfer 2020 yn cynnwys nifer fawr o weithwyr ‘cefnogi COVID-19’ sydd wedi gadael.
Rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020 cynyddodd gweithlu cyffredinol GIG Cymru cymaint â 4,359 (cyfrif pennau).
Nid yw data o fis Hydref 2020 ar gael ar hyn o bryd.
|
2019 |
2020 |
Ionawr |
516 |
598 |
Chwefror |
642 |
592 |
Mawrth |
777 |
764 |
Ebrill |
523 |
662 |
Mai |
643 |
648 |
Mehefin |
629 |
1896 |
Gorffennaf |
1209 |
1379 |
Awst |
821 |
1051 |
Medi |
583 |
856 |
Hydref |
569 |
nid yw’r data ar gael |
Tachwedd |
656 |
nid yw’r data ar gael |
Rhagfyr |
649 |
nid yw’r data ar gael |
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r canlynol mewn perthynas â'r ysbytai enfys a gafodd eu hagor ar ddechrau'r pandemig yng ngwanwyn 2020: (i) cost adeiladu pob ysbyty, (ii) cyfanswm y cleifion sydd wedi'u trin ym mhob ysbyty a (iii) statws cyfredol y gweithgareddau sy'n digwydd ym mhob ysbyty?
Bydd yr aelod yn ymwybodol ar ddechrau pandemig COVID-19 yng ngwanwyn 2020, fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i gefnogi’r gwaith o agor 19 o ysbytai maes dros dro ar draws Cymru fel rhan o’r ymdrechion i gynyddu capasiti iechyd a gofal yn gyflym rhag ofn inni weld y cynnydd sylweddol a ragwelwyd yn y galw o ganlyniad i’r pandemig. Roedd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer sefydlu, adeiladu a phrynu offer. Ar 29 Medi, cyhoeddais ddatganiad yn amlinellu sut y byddai’r capasiti gwelyau ychwanegol yn cael ei fodloni ar gyfer gweddill 2020/2021, gan gynnwys cadw deg o’r ysbytai maes dros dro hyn mewn pedair ardal bwrdd iechyd.
Nid yw’r wybodaeth ynglŷn â chostau adeiladu pob ysbyty maes dros dro yn cael ei chadw’n ganolog gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau y gwnaed y dyraniadau a ganlyn i’r byrddau iechyd i’w galluogi i sefydlu ysbytai maes yn eu hardal:
Sefydlu ysbyty maes |
Cyfanswm £m (adroddwyd) |
Aneurin Bevan |
9.3 |
Betsi Cadwaladr |
24.7 |
Caerdydd a’r Fro |
61.6 |
Cwm Taf Morgannwg |
6.8 |
Hywel Dda |
21.1 |
Bae Abertawe |
35.9 |
Cyfanswm Cost a Adroddwyd |
159.4 |
Mae Llywodraeth Cymru’n cael adroddiad dyddiol gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth am nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio, ar lefel ysbyty ac ar lefel bwrdd iechyd lleol. Oherwydd bod y data yn cael eu darparu’n ddyddiol, ni allaf roi cyfanswm y cleifion sydd wedi’u trin mewn ysbytai maes gan fod risg o gyfrif ddwywaith a bydd y ffigurau’n cynnwys yr un cleifion ar gyfer sawl diwrnod. Fodd bynnag, bydd gan y byrddau iechyd lleol wybodaeth ynglŷn â chyfanswm nifer y cleifion sydd wedi’u trin mewn ysbytai maes yn eu hardal.
Mae data ar gyfer defnydd gwelyau mewn ysbytai maes, fesul bwrdd iechyd lleol yn cael eu cyhoeddi yn ddyddiol ar wefan StatsCymru a gallwch eu gweld drwy ddilyn y ddolen isod:
Mae’r ffigur dyddiol diweddaraf ar gyfer nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio ym mhob un o’r pedwar ysbyty maes sydd ar agor ar gyfer derbyn cleifion ar 13 Ionawr 2021 wedi’i nodi yn y tabl isod:
Safle ysbyty maes |
Dyddiad derbyn y cleifion cyntaf |
Gwelyau sy’n cael eu defnyddio (ar 13/1/2021) |
Ysbyty’r Seren, Pen-y-bont ar Ogwr |
15 Hydref 2020 |
74 |
Ysbyty Enfys Selwyn Samuel |
16 Tachwedd 2020 |
21 |
Ysbyty Enfys Carreg Las |
16 Rhagfyr 2020 |
13 |
Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy |
4 Tachwedd 2020 |
20 |
Roedd dau safle ysbyty maes yn weithredol yn ystod ton gyntaf pandemig COVID-19 ac oherwydd bod y safleoedd hyn wedi’u datgomisiynu bellach, gallaf gadarnhau’r cyfanswm cleifion a dderbyniwyd i’r safleoedd hyn tra roeddent yn weithredol. Cafodd cyfanswm o 46 o gleifion eu trin yn Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality Caerdydd rhwng 28 Ebrill a 4 Mehefin 2020; ac fe gafodd 34 o gleifion eu trin yn Ysbyty Enfys Caerfyrddin rhwng 22 Mehefin a 14 Awst 2020.
Byrddau iechyd lleol sy’n gyfrifol am y modelau clinigol sydd ar waith yn yr ysbytai maes yn eu hardal, ac fe allai'r modelau hyn newid yn unol â natur a lefel y galw yn lleol. Mae’r pedwar ysbyty maes sy’n weithredol yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd fel cyfleusterau cam i lawr i gleifion sy’n adfer ar ôl cael COVID-19, ond sydd wedi bod heb symptomau am o leiaf 10 diwrnod, neu ar gyfer cleifion nad ydynt yn gleifion COVID, ag aciwtedd isel, sydd angen rhagor o amser a/neu gyfnod o adsefydlu cyn cael eu rhyddhau’n ddiogel o’r ysbyty.
Mae’r safleoedd nad ydynt eto ar agor ar gyfer derbyn cleifion yn cael eu defnyddio fel canolfannau brechu torfol COVID / ffliw a chyfleusterau hyfforddi ar hyn o bryd.
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch ehangu'r meini prawf ar gyfer grwpiau brechu â blaenoriaeth i gynnwys athrawon a darlithwyr?
Wales, like the other UK nations, is vaccinating people who are most at-risk of catching coronavirus and developing serious illnesses first, in line with the recommendations from the expert Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI). It has recommended the vaccine is offered, in the first instance, to care home residents and staff; frontline health and social care workers, people aged 70 and over and people who are clinically extremely vulnerable.
Our Vaccination Strategy sets out that we will offer vaccination to these first priority groups by mid-February.
The contribution of critical workers during the course of the pandemic has been incredible. The JCVI has not identified teachers and lecturers as a specific priority group for vaccination, many people working in the sector will fall into the age-based or clinically vulnerable groups on which the roll-out of the vaccination programme is based.
The JCVI is considering its advice on the second phase of roll out beyond the priority groups one to nine. Further information about these groups are in our Vaccination Strategy
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i flaenoriaethu darparu'r brechlynnau coronafeirws i griwiau ambiwlans ac ymatebwyr cyntaf yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i flaenoriaethu brechiadau coronafeirws i weinidogion crefydd ac offeiriaid o ystyried eu rolau o ran darparu gofal bugeiliol a gofal ysbrydol a chynnal angladdau?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddarparu canolfannau brechu symudol i gael mynediad i gymunedau anghysbell?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i flaenoriaethu brechiadau coronafeirws i drefnwyr angladdau o ystyried eu rôl bwysig fel gweithwyr allweddol sy'n gofalu am gyrff yr ymadawedig?
Pa ganran o'r teithwyr a gyrhaeddodd o wledydd nad ydynt yn goridorau teithio a gafodd eu profi ym Maes Awyr Caerdydd ym mhob mis yn 2020?
A wnaiff y Gweinidog nodi a fydd canolfannau brechu ar agor i ddarparu gwasanaethau 24 awr y dydd , 7 diwrnod yr wythnos?
Pa gamau a gaiff eu cymryd i sicrhau bod teithwyr rhyngwladol y mae'n rhaid iddynt hunanynysu yng Nghymru yn cydymffurfio yn ystod y cyfnod ynysu 10 diwrnod?
A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o'r bobl sydd wedi derbyn brechlyn COVID-19 Oxford AstraZeneca, gan gynnwys nifer y preswylwyr cartrefi gofal, staff cartrefi gofal, staff rheng flaen y GIG, staff ystafell gefn y GIG, pobl dros 80 oed y tu allan i leoliad cartref gofal sydd wedi cael eu brechu?
A fydd gweithredwyr gwasanaethau angladd, ynghyd â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer y brechlyn coronafeirws fel y maent yn yr Alban a Lloegr?
Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Ymhellach i'r ymateb i WQ81793, a yw'r Gweinidog wedi modelu'r opsiwn o sut y gellir gweithredu'r newid i feini prawf prydau ysgol am ddim, yn ogystal â modelu cost y newid polisi, ac os felly a wnaiff hi ddarparu manylion?
Rydyn ni wedi gwneud gwaith modelu dangosol ar gyfer cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar nifer o wahanol senarios. Bydd y Gweinidog Addysg yn gosod dogfen yn amlinellu’r gwaith modelu dangosol yn Llyfrgell y Senedd erbyn diwedd mis Ionawr 2021.
Ymhellach i'r ymateb i WQ81793, a yw'r Gweinidog wedi modelu'r opsiwn o sut y gellir gweithredu'r newid i feini prawf prydau ysgol am ddim o fewn y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â modelu cost y newid polisi, ac os felly a wnaiff hi ddarparu manylion?
Rydyn ni wedi gwneud gwaith modelu dangosol ar gyfer cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yn seiliedig ar nifer o wahanol senarios. Bydd y Gweinidog Addysg yn gosod dogfen yn amlinellu’r gwaith modelu dangosol yn Llyfrgell y Senedd erbyn diwedd mis Ionawr 2021.
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pwy heblaw’r British Pub and Beer Association sydd yn rhan o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru?
Yn dilyn yr ymateb i WQ81811: Rydym wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Lletygarwch ble y ceir y cynrychiolwyr canlynol:
The British Beer & Pub Association;
The Welsh Independent Restaurants Collective;
UK Hospitality Cymru;
Clwstwr Diodydd Cymru;
Undebau Llafur;
Sefydliadau Hawliau Anabledd;
Timau Trwyddedu Awdurdodau Lleol a CLlLC;
Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd £227 miliwn ar gael i Lywodraeth Cymru, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd yr holl arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi busnesau a darparu amserlen ar gyfer pryd y gall entrepreneuriaid wneud cais am y cymorth?
The UK Treasury has confirmed that the announcement of £227m does not include new money for Wales. This funding is already within our existing COVID funding guarantee. Greater transparency is urgently needed to prevent the confusion these UK announcements cause for people and businesses across Wales.
The Welsh Government has provided nearly £2bn to support businesses through the crisis, the most generous support package across the UK and the biggest business support package ever seen in Wales.
This includes our announcement before Christmas of a further £450m for hospitality and retail businesses affected by the latest restrictions. Funds are reaching businesses as quickly as possible and more will receive support over the coming days and weeks.
Our latest Restrictions Fund has already seen over 14,000 grants paid automatically to impacted Hospitality businesses - totalling over £50m. Registration has commenced in for non-essential retail businesses to now also claim.
The £180m Sector Specific Fund opened on Wednesday 13 January. Eligibility checker went live on 10 December.
We will continue to do all we can to support Welsh businesses through these incredibly difficult times.
Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Gyda phwy o blith y sector tafarndai y mae Llywdodraeth Cymru yn trafod ynglŷn a chyfyngiadau COVID-19?
Rwy’n eich cyfeirio chi at yr atebion a roddwyd i WQ81811 a WQ81812 yn flaenorol.