Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 07/11/2018 i'w hateb ar 14/11/2018

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

WAQ77382 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud asesiad o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 14/11/2018

Rydym yn ymwybodol y gall gadael yr Undeb Ewropeaidd gael effaith ar yr iaith Gymraeg ac ar allu Llywodraeth Cymru i ymateb i strategaeth Cymraeg 2050.  Bydd yr effaith yn anuniongyrchol yn ei natur o ganlyniad i’r effaith ar rai sectorau allweddol gan gynnwys amaethyddiaeth, ardaloedd gwledig a'r economi.

 

Rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth, dadansoddiad a chynigion manwl ar gyfer Brexit fyddai'n diogelu swyddi ac economi Cymru yn ein Papur Gwyn ‘Sicrhau Dyfodol Cymru', ac mewn papurau polisi dilynol ar fasnachu, ymfudo, buddsoddi rhanbarthol, trefniadau cyllido a chyllidol a datganoli wedi eu cyhoeddi.  Trwy ddefnyddio’r data gorau sydd ar gael, dengys 'Sicrhau Dyfodol Cymru' ddadansoddiad o ddylanwad posib Brexit ar economi cyffredinol Cymru , gan nodi cymaint ag sy'n bosib, yr effaith ar wahanol sectorau a mathau o fusnesau.

 

O'r dechrau, rydym wedi cysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid i ddeall eu pryderon a’u blaenoriaethau.  Rydym wedi bod yn weithredol wrth osod safbwyntiau polisi clir i ddylanwadu ar drafodaethau Llywodraeth y DU wrth drafod telerau ymadael a pharatoi ar gyfer nifer o ganlyniadau posib.  Bydd gweithio'n agos gyda phob elfen o’r gymdeithas Gymreig a chynnal sgyrsiau gonest ar ddylanwad Brexit yn hollbwysig er mwyn rhoi y llais cryfaf posib i Gymru yn y trafodaethau.  Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector sy’n gynnwys busnesau, ffermwyr, undebau llafur, sefydliadau addysgol, gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a'r cyhoedd.

 

Mae’r gwaith o ddatblygu polisi sy'n ymateb i heriau o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn parhau ar draws Llywodraeth Cymru. Fel mae polisïau a gweithgareddau newydd yn cael eu datblygu mewn ymateb i’r ymadael; lle bo hynny'n briodol cwblheir asesiad o ddylanwad y polisïau newydd ar y Gymraeg.

 
WAQ77383 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag a) Ysgrifennydd Gwladol Cymru a b) Comisiynydd y Gymraeg am effaith posib gadael yr Undeb Ewropeaidd ar siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 14/11/2018

Mae trafodaethau rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru o ran ein hymadael o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys trwy'r Cydbwyllgor Gweinidogol (Trafodaethau Ewropeaidd). Nid ydym wedi trafod yn benodol y cwestiwn o effaith bosibl Brexit ar siaradwyr Cymraeg a chymunedau Cymraeg gyda'r Ysgrifennydd Gwladol na Chomisiynydd yr Iaith Gymraeg.

Rydym yn parhau i bwysleisio i Lywodraeth y DU a rhan ddeiliaid yn gyhoeddus ac yn breifat y bydd effaith negyddol o ganlyniad i Brexit ar bob un o bobl Cymru, a bydd y rhain yn arbennig o ddifrifol yn achos canlyniad o ddim cytundeb yn dilyn y trafodaethau cyfredol. Mae'n debyg y bydd canlyniad o'r fath yn effeithio'n ddifrifol ar gymunedau gwledig, nifer ohonynt yn siarad Cymraeg yn bennaf, oherwydd yr effeithiau difrifol posibl ar ffermio a cholli mynediad i farchnadoedd Ewropeaidd.

 
WAQ77384 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatgan faint o raglenni a phrosiectau sy'n cyfrannu at greu gweithlu dwyieithog medrus yng Nghymru, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ar effaith posib gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y rhaglenni a phrosiectau hyn?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes | Wedi'i ateb ar 14/11/2018

Mae rôl gan bob un o’n rhaglenni sgiliau ni i ddatblygu gweithlu dwyieithog â’r sgiliau angenrheidiol, ond mae gan rhai o’r rhaglenni hynny fwy o ddylanwad ar ddatblygu sgiliau dwyieithog nac eraill.

 

Mae rhaglenni cyflogaeth a sgiliau cyfredol Llywodraeth Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cefnogi ein nod o ddatblygu’r Gymraeg. Mae rhaglenni tebyg i ReAct, Twf Swyddi Cymru a raglenni dysgu seiliedig ar waith, yn cyfrannu at y nod hwn drwy sicrhau bod pob un o’r rhaglenni a gwasanaethau ar gael, ac yn cael eu hyrwyddo, drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog. Mae’r rhaglenni hyn hefyd yn hyrwyddo buddion y Gymraeg fel sgil ar gyfer gyrfa unigolyn.

 

Bydd ‘Cymru’n Gweithio’, ein rhaglen newydd cyflogadwyedd pob oed sydd yn cychwyn yn Ebrill 2019, yn parhau yn ein hymrwymiad i hyrwyddo ac ymgorffori y Gymraeg yn narpariaeth y rhaglen. Bydd disgwyl i gontractwyr ddarparu cefnogaeth i ddatblygu’r Gymraeg fel sgil yn y gweithle a chynyddu nifer sy’n manteisio ar gyfleoedd hyfforddi Cymraeg a dwyieithog.

 

Os oes cytundeb pontio yn cael ei gytuno, bydd rhaglenni UE yn parhau i weithredu yn yr un modd, gan dderbyn arian CGE hyd at Ragfyr 2023. Os na fydd cytundeb, mae Trysorlys EM wedi gwarantu’r holl gyllideb a fydd wedi ei gymeradwyo cyn i ni adael yr UE, fydd hefyd yn sicrhau bod modd ariannu’r rhaglen hyd at Ragfyr 2023. Yn y tymor byr, rydyn ni’n tynnu i lawr yr uchafswm er mwyn gwneud y mwyaf o’r gyllideb ar gael a lleihau unrhyw effaith wedi Brexit.

 

Y rhaglen Cymraeg i Oedolion, sydd erbyn hyn yn cael ei gydlynu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yw’r rhaglen allweddol er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg. Yn ogystal â darpariaeth prif ffrwd, mae’r Ganolfan hefyd yn gyfrifol am raglen ‘Cymraeg Gwaith’, sydd wedi ei dargedu yn benodol at ddatblygu sgiliau Cymraeg cyflogeion a’u hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

 

Yn ogystal â chyllidebau prif-ffrwd addysg, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ystod o weithgareddau i gefnogi datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi’r sectorau addysg bellach, prentisiaethau ac addysg uwch, gyda’r nod o gynnal a datblygu sgiliau Cymraeg i’w defnyddio yn y gweithle. Nid yw’r gweithgareddau hyn, na darpariaeth Cymraeg i Oedolion, yn ddibynnol ar ariannu UE.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

WAQ77386 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pryd ydd y data o dreial Llywodraeth Cymru i ymestyn y parth 50mya heibio Port Talbot ac Abertawe ar draffordd yr M4 yn cael eu cyhoeddi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 14/11/2018

The effect of the measures on NO2 concentrations at the five trial 50mph locations is currently being monitored by diffusion tubes. This will be supplemented with continuous monitoring using reference method analysers by the New Year.

 

The earliest date that a full set of validated annual data will be available is September 2019 and the information will be published thereafter.

 
WAQ77378 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet restru'r holl fuddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru yn Raytheon a natur y buddsoddiadau hynny?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 16/11/2018

Mae Raytheon yn gyflogwr pwysig yn y Gogledd ac mae wedi datblygu cryn allu ym marchnad y sector cyhoeddus ac yn y farchnad fasnachol. Mae Brychdyn yn gartref i Ganolfan Ragoriaeth Raytheon ar Integreiddio Systemau Cyrchoedd.  

 

Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn Raytheon hyd yma:

 

  • 2014: £407,704 ar gyfer busnes Airborne Solutions er mwyn sefydlu Brychdyn yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dylunio a rheoli rhaglenni, gan greu 50 o swyddi sgiliau uchel.

 

  • 2016: £4,279 i gefnogi Her Cwadrenyddion Raytheon – rhaglen ar y cyd ag ysgolion i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

 

Mae Raytheon yn cyflogi mwy na 400 o bobl ar ei safle ym Mrychdyn. Mae cymorth buddsoddi oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi galluogi Raytheon i symud i mewn i siediau awyrennau 119 a 125 ym Mrychdyn, a oedd gynt yn gartref i Marshall Aviation. Caeodd Marshall yn 2017 a chollwyd 126 o swyddi sgiliau uchel. Dylid nodi bod y Cwmni wedi mynd allan o’i ffordd i gymryd nifer o brentisiaid a oedd wedi colli eu swyddi pan gaeodd Marshalls.

 

Disgwylir i fuddsoddiadau fel hyn arwain at greu 200 yn rhagor o swyddi dros y 3 blynedd nesaf – gan ddibynnu ar gyfleoedd i allforio.

 

Mae amddiffyn yn fater a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.

 
WAQ77379 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A yw Canolfan Rhagoriaeth Raytheon ym Mrychdyn, sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, wedi chwarae rhan mewn diwallu anghenion cytundeb caffael taflegrau o'r awyr i'r ddaear ar gyfer llywodraeth Saudi Arabia a gafodd ei negodi gan Adran Amddiffyn Llywodraeth Unol Daleithiau?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 16/11/2018

Mae Raytheon yn gyflogwr pwysig yn y Gogledd ac mae wedi datblygu cryn allu ym marchnad y sector cyhoeddus ac yn y farchnad fasnachol. Mae Brychdyn yn gartref i Ganolfan Ragoriaeth Raytheon ar Integreiddio Systemau Cyrchoedd.  

 

Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn Raytheon hyd yma:

 

  • 2014: £407,704 ar gyfer busnes Airborne Solutions er mwyn sefydlu Brychdyn yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer dylunio a rheoli rhaglenni, gan greu 50 o swyddi sgiliau uchel.

 

  • 2016: £4,279 i gefnogi Her Cwadrenyddion Raytheon – rhaglen ar y cyd ag ysgolion i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

 

Mae Raytheon yn cyflogi mwy na 400 o bobl ar ei safle ym Mrychdyn. Mae cymorth buddsoddi oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi galluogi Raytheon i symud i mewn i siediau awyrennau 119 a 125 ym Mrychdyn, a oedd gynt yn gartref i Marshall Aviation. Caeodd Marshall yn 2017 a chollwyd 126 o swyddi sgiliau uchel. Dylid nodi bod y Cwmni wedi mynd allan o’i ffordd i gymryd nifer o brentisiaid a oedd wedi colli eu swyddi pan gaeodd Marshalls.

 

Disgwylir i fuddsoddiadau fel hyn arwain at greu 200 yn rhagor o swyddi dros y 3 blynedd nesaf – gan ddibynnu ar gyfleoedd i allforio.

 

Mae amddiffyn yn fater a gedwir yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

WAQ77380 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

Ymhellach i WAQ77312, faint o gwynion ffurfiol na chafodd eu datrys neu na ymdrinwyd â hwy o fewn a) tri mis, a b) chwe mis?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 19/11/2018

Data on timescales for dealing for formal complaints in accordance with Putting Things Right is collected using the categories below:

 

The number which received a final response within the following timescales:

  • Within 30 working days of receipt
  • Within a period exceeding 30 working days but within 6 months of receipt
  • A period exceeding 6 months of receipt
  • Still open but yet to hit a specific timescale.

 

Data on the number of formal complaints not resolved or dealt with within three months, is not collected.

 

The details of these for the 2017-18 financial year are set out below:

 

Health Board

Total

Within 30 working days of receipt

Within a period exceeding 30 working days but within 6 months of receipt

A period exceeding 6 months of receipt

Still open but yet to hit a specific timescale

Abertawe Bro Morgannwg UHB

1287

1029 (80%)

182 (14%)

15 (1.2%)

61 (4.7%)

Aneurin Bevan UHB

1034

542 (52%)

414 (40%)

2 (0.2%)

76 (7.3%)

Betsi Cadwaladr UHB

1339

450 (34%)

800 (60%)

58 (4.3%)

31(2.3%)

Cardiff & Vale UHB

1059

615 (58%)

404 (38%)

14 (1.4%)

26 (2.4%)

Cwm Taf UHB

309

74 (24%)

163 (53%)

0

72 (23%)

Hywel Dda UHB

613

144 (23%)

345 (56%)

45 (7.3%)

79 (13%)

Powys UHB

227

139 (61%)

63 (28%)

11 (4.8%)

14 (6.2%)

For 2017/18 a target has been set for health boards and trusts to meet the 30 working day target in 75% of cases.  Reports against the target are submitted quarterly and the results monitored to identify any issues and take steps to address them. 

 

The target was set at 75% as some complaints are too complicated to be dealt with within 30 working days.  The target takes into account the need for a good quality response to complaints to help ensure a satisfactory resolution whenever possible.  The key is to keep patients regularly informed if a delay occurs. 

Data in respect of concerns that are taken through the NHS redress arrangements are recorded separately.  

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

WAQ77381 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/11/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch faint o'r rhodd o £500,000 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst sydd wedi'i ryddhau i elusennau ffermio i helpu i ddarparu cymorth tymor byr i'r teuluoedd hynny yng Nghymru sy'n lleiaf abl i dalu costau byw?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig | Wedi'i ateb ar 19/11/2018

My officials are in regular contact with the rural charities who have indicated the pressure, as a consequence of the hot and dry weather earlier this year, will materialise from January onwards. Proposals have been received from the charities and we are now considering how best to deliver funding to those in need. There are also a number of governance and state aid requirements which need to be properly addressed.

 

We are on course to make funding available before the end of the year. In the meantime, the rural charities continue to offer support in the normal way and I will receive an update when I meet with RABI on 28 November.

 

As part of my response to the hot, dry weather I am ensuring Basic Payment Scheme payments are made from 3 December and loans, for those who are eligible and have applied, are made from 10 December. I am keen to ensure all farm businesses are in a stronger position to manage their cash flow and address the impacts of the hot, dry summer.