Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 29/04/2024 i'w hateb ar 07/05/2024
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar genhadon Cymru ers eu sefydlu?
Welsh Government envoys are a small cohort of successful individuals who utilise their close connections to Wales alongside their own international profile to support and secure opportunities for Wales in the Middle East and the US.
It is not possible to directly attribute any export or investment results to their work as their roles are more faciliatory in nature. In their voluntary and unpaid capacity, the envoys support our export and inward investment ambitions and also play a wider role in raising awareness of Wales, promoting areas of Welsh excellence and, more recently, our equality agenda.
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynlluniau mewnfuddsoddi sydd wedi dod o ganlyniad uniongyrchol i waith cenhadon Cymru?
Welsh Government envoys are a small cohort of successful individuals who utilise their close connections to Wales alongside their own international profile to support and secure opportunities for Wales in the Middle East and the US.
It is not possible to directly attribute any export or investment results to their work as their roles are more faciliatory in nature. In their voluntary and unpaid capacity, the envoys support our export and inward investment ambitions and also play a wider role in raising awareness of Wales, promoting areas of Welsh excellence and, more recently, our equality agenda.
Pa gyfleoedd allforio sydd wedi dod o ganlyniad uniongyrchol i waith cenhadon Cymru?
Welsh Government envoys are a small cohort of successful individuals who utilise their close connections to Wales alongside their own international profile to support and secure opportunities for Wales in the Middle East and the US.
It is not possible to directly attribute any export or investment results to their work as their roles are more faciliatory in nature. In their voluntary and unpaid capacity, the envoys support our export and inward investment ambitions and also play a wider role in raising awareness of Wales, promoting areas of Welsh excellence and, more recently, our equality agenda.
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu Cymraeg?
£15.500 million is being invested in the National Centre for Learning Welsh for 2024-25, which provides a range of opportunities for adults and young people over compulsory school age to learn Welsh.
16,905 learners were enrolled with the National Centre in 2022-23, an increase of 11% compared with the previous year.
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu faint o gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Tata Steel dros y flwyddyn ddiwethaf?
Although in previous years, the Welsh Government has provided funding to Tata Steel, we have not been asked over the last year to do so. We will however be making available our employability and skills support programmes to workers affected by the recent announcement by the company.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio'r anghysondeb rhwng yr ymatebion i WQ92439 a WQ92580 o ran cyfanswm nifer y myfyrwyr sy'n astudio deintyddiaeth y tu allan i Gymru?
Yn fy ymateb i WQ92580, ychwanegwyd y frawddeg gyntaf mewn camgymeriad. Fodd bynnag, er eglurder, ni allwn ddarparu dadansoddiad o ba awdurdod lleol yng Nghymru y daw y myfyrwyr oherwydd y niferoedd cymharol isel dan sylw.
Faint o'r myfyrwyr fydd yn dechrau ar eu hastudiaethau meddygol yn yr Ysgol Feddygol newydd ym Mangor ym mis Medi 2024 sydd yn gallu siarad Cymraeg?
Mae gan Brifysgol Bangor ofynion cyd-destunol o ran y Gymraeg. Mae hyn yn caniatáu iddi wneud cynnig academaidd mwy ffafriol i ymgeiswyr ar y sail bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu tangynrychioli ar raglenni meddygaeth.
Mae cynnig Prifysgol Bangor ar gael i'r rhai sydd â chymhwyster TGAU mewn Cymraeg iaith gyntaf, neu gymhwyster Safon Uwch mewn Cymraeg ail iaith.
Ar y sail hon, roedd 21 o'r 120 o ymgeiswyr (18%) yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y cwrs blwyddyn gyntaf. Yn ogystal, roedd dau o'r 25 o ymgeiswyr (8%) yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y rhaglen mynediad i raddedigion.
Pa ofynion neu ddisgwyliadau penodol y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi o ran gallu yn y Gymraeg fesul carfan bob blwyddyn wrth i'r Ysgol Feddygol ym Mangor ddod yn weithredol?
Fel y byddwch yn deall, mae sefydliadau addysg uwch yn gyrff annibynnol ac ymreolaethol, sy'n gyfrifol am eu materion academaidd a gweinyddol eu hunain, gan gynnwys unrhyw drefniadau o ran sgiliau iaith Gymraeg. Gallaf gadarnhau, fodd bynnag, fod Prifysgol Bangor, fel rhan o'i Strategaeth Ehangu Mynediad, yn ceisio cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.
Fel rhan o'r strategaeth hon, mae'r Brifysgol wedi cymryd nifer o gamau i wella'r niferoedd hyn, gan gynnwys:
- sicrhau grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer Darlithydd Gwyddorau Meddygol, a fydd yn creu ac yn cyflwyno deunyddiau Cymraeg. Bydd y Coleg yn arwain grŵp Dysgu Seiliedig ar Achos ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg, h.y. os bydd y niferoedd yn caniatáu.
- Gwersi Cymraeg i bob myfyriwr, a gyflwynir gan Ganolfan Bedwyr, sef canolfan o fewn y Brifysgol. Mae tair lefel: cyflwyno myfyrwyr Cymraeg iaith gyntaf i derminoleg feddygol Gymraeg; cynyddu hyder siaradwyr Cymraeg ail iaith; a darparu gwersi Cymraeg i ddechreuwyr.
- ymgysylltu â 'Doctoriaid Yfory' (sef rhaglen allgymorth i ysgolion uwchradd ledled Cymru), a 'Doctoriaid y Dyfodol' (sef rhaglen gyfatebol yn y Gogledd, a sefydlwyd gydag ysgolion ar draws y Gogledd).
- ymgysylltu â rhwydwaith Seren.
- gwobr ysgrifennu traethawd yn Eisteddfod yr Urdd.
- ysgol haf gan Eisteddfod yr Urdd yng Nglan Llyn.
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gyfanswm yr arian a wariwyd ar OpenEyes ledled Cymru hyd yma?
Cardiff and Vale University Health Board has received £4.02 million from the Digital Priority Investment Fund specifically designated for the development and deployment of an Electronic Patient Record and Electronic Referral Service programme across Wales to date. This includes the OpenEyes system and development work undertaken through other third parties.”
Ymhellach i WQ92440, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau fesul blwyddyn o ba brifysgolion y gwnaeth gweddill y myfyrwyr sy’n gwneud eu hyfforddiant deintyddol sylfaenol yng Nghymru raddio?
Mae’r wybodaeth y gofynnwyd amdani i’w gweld isod:
· Barts and the London, Queen Mary School of Medicine and Dentistry, Y Sefydliad Deintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Bryste (Prifysgol), Ysgol Gwyddorau’r Geg a Deintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol Cairo (yn y flwyddyn 2019/20). |
· Canol Swydd Gaerhirfryn (Prifysgol), Yr Ysgol Ddeintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2020/21, 2021/22, 2023/24). |
· Y Weriniaeth Tsiec (yn y flwyddyn 2019/20). |
· Glasgow (Prifysgol), Yr Ysgol Ddeintyddol (ym mlynyddoedd 2020/21, 2022/23 a 2023/24). |
· Hwngari (yn y flwyddyn 2021/22). |
· Y Coleg Deintyddol Rhyngwladol Islamaidd (yn y flwyddyn 2021/22). |
· Coleg y Brenin, Llundain, Y Sefydliad Deintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22 a 2023/24). |
· Prifysgol Swydd Gaerhirfryn (yn y flwyddyn 2022/23) |
· Leeds (Prifysgol), Sefydliad Deintyddol Leeds (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23). |
· Prifysgol y Gwyddorau Iechyd Lithwania (yn y flwyddyn 2022/23). |
· Lerpwl (Prifysgol), Ysgol y Gwyddorau Deintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Manceinion (Prifysgol), Yr Ysgol Ddeintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol Newcastle, Ysgol y Gwyddorau Deintyddol (ym mlynyddoedd 2020/21 a 2023/24). |
· Palacký University Olomouc (yn y flwyddyn 2023/24). |
· Prifysgol Plymouth, Peninsula Schools of Medicine and Dentistry (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol y Gwyddorau Meddygol Poznan (yn y flwyddyn 2022/23). |
· Prifysgol Queens Belfast, Y Ganolfan Addysg Ddeintyddol (ym mlynyddoedd 2019/20, 2020/21 a 2023/24). |
· Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr (yn y flwyddyn 2022/23). |
· Sheffield (Prifysgol),Yr Ysgol Deintyddiaeth Glinigol (ym mlynyddoedd 2020/21, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· The Tamil Nadu DR. M.G.R. Medical University (yn y flwyddyn 2021/22). |
· UCAM Universidad Católica San Antonio de Murcia (yn y flwyddyn 2023/24). |
· Universidad Católica de Valencia (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Universidad Católica de Valencia San Vicente Mártir (yn y flwyddyn 2023/24). |
· Universitat Europea de València (yn y flwyddyn 2021/22) |
· Prifysgol Birmingham, Yr Ysgol Ddeintyddiaeth (ym mlynyddoedd 2019/20, 2021/22, 2022/23 a 2023/24). |
· Prifysgol Debrecen, Yr Ysgol Feddygol (yn y flwyddyn 2022/23). |
Darparwyd yr wybodaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
A fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch cofnodi'r rhesymau y caiff plentyn ei fabwysiadu neu ei faethu mewn fformat y gellir ei rannu'n hawdd?
The Welsh Government publishes data about children who start to be looked after by local authority and their need for care. This is available at: Children starting to be looked after during year to 31 March by local authority and need for care (gov.wales).
This includes reasons why children are fostered or placed for adoption.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu mwy o dai fforddiadwy?
We remain committed to delivering 20,000 homes for rent in the social sector this Senedd Term. To support this, we have allocated a further £330million for 2024/25 to support the delivery of vital homes through our Social Housing Grant Programme. This brings the total investment into Social Housing this term to over £1.2bn so far.
Whilst our focus is on building new homes, acquisitions are important in helping to meet the needs of our most vulnerable groups and in addition to our Social Housing Grant Programme we are continuing to take action and support the Transitional Accommodation Capital Programme to ensure the earlier availability of homes for those most in need.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector preifat i ddarparu mwy o dai fforddiadwy?
Leasing Scheme Wales is targeted at the private sector to help deliver more affordable homes, as the property is leased to the local authority. A key aspect of the scheme involves properties being let at Local Housing Allowance (LHA) rates to ensure they are affordable.
To date 60% of the homes coming onto the scheme have previously been empty for more than 6 months bringing unused properties back into use.
The scheme includes the provision of grants and other financial support to cover property improvements, repairs and management costs.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i annog mwy o bobl i ddod yn athrawon cyfrwng Cymraeg?
I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa gymorth a ddarperir i ysgolion wrth fynd i'r afael â cheisiadau rhyddid gwybodaeth?
I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gydag ysgolion ynghylch sicrhau bod disgyblion yn cael eu haddysgu am ffynonellau newyddion dibynadwy?
We are committed to equipping our children and young people with the knowledge, skills, and resilience to navigate the online world. A key part of this includes developing media literacy skills and knowledge to recognise misinformation.
The Curriculum for Wales contains a range of expectations across areas of learning aimed at helping learners to find, evaluate and use appropriate evidence in forming their views, and to think critically about sources of information in both the digital world and the real world.
Media literacy resources are available on Hwb for learners and practitioners. These resources are designed to equip learners to recognise and deal with misinformation, clickbait and ‘deepfakes’ online. The Keeping Safe Online section of Hwb contains a range of information and resources for schools and learners on this topic. We have also worked with sector-leading experts Full Fact to deliver misinformation training modules for education practitioners.
We continue to have regular discussions with schools to understand their priorities and needs.
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddenu niferoedd uwch o athrawon addysg grefyddol i Gymru?
The Welsh Government offers a range of incentives to attract applicants into initial teacher education (ITE) in Wales.
These schemes are targeted at those areas and subjects where recruitment is most challenging; priority subjects, the Welsh medium sector and attracting more entrants from ethnic minorities. At present Religious Education is not a subject area where the statistics have indicated there was a need to incentivise to recruit student teachers.
We review the Priority Subject Incentives scheme annually and amend the scheme, including the subjects classified as ‘priority’, to meet our ITE and workforce requirements. If the data available shows there is a need to attract more Religious Education (RE) students into Initial Teacher Education we will consider this alongside existing priorities.
The Welsh Government is working in partnership with the Wales Association of Standing Advisory Councils on Religious Education (WASACRE) and religious education practitioners across Wales to develop a suite of modules to support practitioners with the changes to religion, values and ethics (RVE) (formerly Religious Education), within the Curriculum for Wales.
We are also continuing to work with WASACRE and other partners to explore the opportunities available to ensure that there are sufficient numbers of suitably qualified RE and RVE teachers available to deliver the Curriculum for Wales.
Pa wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal am nifer y rhai sy'n derbyn cymhelliant addysg gychwynnol athrawon ar gyfer pynciau â blaenoriaeth sydd a) wedi ymgeisio; a b) wedi aros yn y proffesiwn addysgu yng Nghymru?
The Welsh Government made changes to the Priority Subject incentive scheme for academic year (AY) 2022/23 so that a portion of the incentive would be paid on completion of an eligible teachers’ statutory induction period. The Priority Subject Incentive is paid over three instalments; one after the completion of a student teachers first term, one on award of Qualified Teacher Status and the final payment on completion of the Induction period. The award of QTS occurs at the end of a student teacher’s programme of initial teacher education. Most newly qualified teachers will then complete the statutory period of induction within one year.
As the refreshed incentive scheme only became avaliable to student teachers in AY2022/23 most claimants under the scheme are expected to complete their induction at the end of summer term 2024 and claim the final part of the incentive over the summer break or autumn term 2024. For those undertaking part-time provision starting AY2022/23 they are expected to graduate and achieve QTS at the end of this academic year (AY2023/24) and complete induction the following year (summer / autumn 2025). As such we do not have the data yet for new teachers that studied from AY2022/23.
We do not have the data you have requested for those that entered initial teacher education prior to AY2022/23 however my officials are currently working with the Education Workforce Council to secure a data agreement to receive this information via a data linking exercise.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth
Sawl gwaith y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfarfod â chwmnïau bysiau ers ymgymryd â swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth?
I am keen to engage with all parts of the bus industry. I have already met with the Confederation of Passenger Transport, as well as several operators and their representatives at the Cross-Party Group on Public Transport. I have several further meetings scheduled with the leaders of bus companies over the coming weeks.
Sawl gwaith y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyfarfod â Trafnidiaeth Cymru ers ymgymryd â swydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
A wnaiff yr Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch a oes bwriad i gyfyngu ar y defnydd o'r prif gyflenwad dŵr gan sefydliadau nad ydynt yn cynhyrchu bwyd a/neu fusnesau nad ydynt yn hanfodol?
The Welsh Government has no intention of restricting the use of mains water supply to any organisations or businesses.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r costau ariannol y bydd cynnwys gwydr yn y cynllun dychwelyd ernes yn ei gael ar fusnesau Cymru?
The financial impacts of including glass in the Deposit Return Scheme have been assessed and the inclusion of glass was shown to be the best option in a Regulatory Impact Assessment published jointly with the UK Government in 2021. A revised Regulatory Impact Assessment will be published alongside the legislation for the scheme in Wales. It should be noted that there are also costs associated with excluding glass.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu pa weithiau celf cyhoeddus y mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid cael gwared ohonynt oherwydd gwrthwynebiadau diwylliannol neu foesol?
In March the Welsh Government published new guidance to help public bodies in Wales make well-informed decisions about existing and future commemorations in public spaces, and in doing so, contribute to our goal of an anti-racist Wales. The guidance assumes that decisions about public commemoration should be made locally, and it is essentially a tool for good decision-making. The guidance will not be mandatory. It is for public bodies themselves to decide how they use it.