Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/01/2024 i'w hateb ar 31/01/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cael ei rhoi ar waith er budd pobl anabl yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith mesuryddion rhagdalu ar dlodi tanwydd?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i effaith argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r cysylltiad rhwng tlodi a'r lefel uchel o ysmygu ymysg merched beichiog yn Arfon?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur sut y mae'r Siarter Budd-daliadau Cymru newydd yn gwella mynediad at fudd-daliadau yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fanciau bwyd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith y gronfa gynghori sengl o ran gwneud gwasanaethau cynghori yn hygyrch i bobl na fyddent yn eu defnyddio fel arfer neu bobl nad oeddent wedi eu defnyddio o'r blaen?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith bosibl llai o ddosbarthiadau llythyrau gan y Post Brenhinol ar drigolion sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol yng Nghymru?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o nifer y trigolion yng Nghymru y mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post wedi effeithio arnynt?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar ddatganoli polisi ynni?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynglŷn ag ymgyrch Hillsborough Law Now?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar ddatganoli plismona i Gymru?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli plismona a chyfiawnder?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau datganoli cyfiawnder a phlismona?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganfyddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru o ran egwyddor cydsyniad deddfwriaethol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith Deddf Iechyd Meddwl 1983 ar gleifion o Gymru sy'n defnyddio gwasanaethau yng ngwledydd eraill y DU?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael â Llywodraeth y DU ynghylch effaith technoleg adnabod wynebau ar gyfiawnder yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith bosibl Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar y nifer sy'n pleidleisio?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i rhoi i'r argymhellion yn adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ar gonfensiwn Sewel?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effeithiolrwydd ymgysylltiad y llywodraethau datganoledig o ran cysylltiadau rhwng yr UE a’r DU ar ôl Brexit?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu haddysgu am rôl y Senedd?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i annog ysgolion yn Nyffryn Clwyd i ymweld â'r Senedd?