Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 26/01/2023 i'w hateb ar 31/01/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ers ei chyhoeddi'r llynedd?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu adnewyddu economaidd yn dilyn y pandemig yn Islwyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â safbwyntiau eithafol ymysg pobl ifanc?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gryfhau diogelwch bwyd yng Nghymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau arbenigol meddygol ymhellach ledled Cymru?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i lenwi swyddi nyrsio gwag yn y gogledd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio technoleg ddigidol i leihau amseroedd aros y GIG i gleifion ar draws Pen-y-bont?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i weithwyr ambiwlans yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yn dilyn cyhoeddi cyllid ffyniant bro ar gyfer rheilffyrdd yng Nghaerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Llywodraeth mewn perthynas ag wythnos pedwar diwrnod?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei darparu i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghaerffili?
Sut mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru?
Gweinidog yr Economi
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cadernid economaidd yng Nghanol De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi prosiect Porth Wrecsam yn ei chael ar economi Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella darpariaeth bancio gwledig yn Sir Ddinbych?
A oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth chwaraeon elît?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion cyfatebol Llywodraeth y DU ar ddiogelu dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau bach a chanolig ar draws Dwyrain Casnewydd?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i sector twristiaeth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth ariannol sydd ar gael i fentrau bach a chanolig sy'n ceisio ehangu yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i fynd i'r afael ag effaith cyllid strwythurol yr UE yn dod i ben yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefelau cyflogaeth yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynglŷn â'r rownd ddiweddaraf o gyllid ffyniant bro ar Gymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau deintyddol y GIG yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut mae'r GIG yng Nghymru yn ymdrin â chwynion hanesyddol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i reoli'r broses o ryddhau cleifion o ysbytai yn effeithiol?
Pa bwysau ychwanegol y mae'r argyfwng costau byw yn ei roi ar y GIG mewn perthynas â phobl â chyflyrau iechyd cymhleth sy'n byw gartref?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gyflwr ystadau ysbyty ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau amseroedd aros ar gyfer gofal deintyddol y GIG?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella'r ddarpariaeth gofal llygaid yng Nghymru?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella recriwtio a chadw staff yn y GIG?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella gwasanaethau optometreg yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gwiriadau iechyd meddwl ar gyfer deiliaid trwyddedau drylliau?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu'r capasiti llawfeddygol yn y GIG yng Nghymru?