Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/11/2022 i'w hateb ar 30/11/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol am ddefnyddio cronfeydd ariannol?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i effaith datganiad yr hydref ar y gefnogaeth ariannol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar reoli adnoddau Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith gwariant ar lety dros dro ar gyllidebau awdurdodau lleol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar wasanaethau llywodraeth leol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag awdurdodau lleol am ddefnyddio cronfeydd wrth gefn llywodraeth leol?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref Llywodraeth y DU ar waith byrddau gwasanaethau cyhoeddus?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o effaith datganoli gosod trothwyon treth incwm i Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â dyrannu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i'w galluogi i ofalu am y trigolion mwyaf agored i niwed?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau buddsoddi isadeiledd Llywodraeth Cymru ar gyfer Sir Benfro am y 12 mis nesaf?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth ddyrannu'r grant cymorth refeniw i awdurdodau lleol?
Beth yw'r mesurau y cytunwyd arnynt rhwng y Gweinidog a Gweinidog yr Economi ynglŷn â gwerth am arian ac effeithiolrwydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn hyrwyddo Cymru fel rhan o Dîm Pêl-droed Dynion Cymru yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau dyfodol hyfyw i ffermio?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cynllun lles anifeiliaid i Gymru?
Pa ystyriaeth y mae Pwyllgor Sefydlog y Cabinet ar Ogledd Cymru wedi'i rhoi i gydweithio ar draws ffiniau drwy Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i annog cymunedau i ymgysylltu â ffermio?
Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran cydweithio â Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau hirdymor y Llywodraeth i olynu cynllun LEADER?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr achosion o'r ffliw adar presennol ar gynhyrchwyr wyau yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ychwanegu at y capasiti prosesu bwyd yng Nghymru?
Pa sgyrsiau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chydweithwyr yn y cabinet ynghylch adeiladu tai yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi’r sector gwlân yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ymgorffori cynnyrch bwyd lleol yn y cynllun prydau ysgol am ddim?
Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gynyddu cynhyrchiant bwyd yng Nghymru?