Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/11/2021 i'w hateb ar 30/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pryd mae'r Prif Weinidog yn disgwyl i Gymru gael cynllun dychwelyd ernes gweithredol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar strategaeth y Llywodraeth i ddileu tlodi plant?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau bach i dyfu yn Ogwr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu nifer y gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu faint o fwyd sydd wedi'i dyfu'n lleol a ddefnyddir mewn prydau ysgol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi theatrau i adfer o'r pandemig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o ddifrifoldeb yr argyfwng hinsawdd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ansawdd gwasanaethau iechyd meddwl yn Nwyfor Meirionnydd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyriadau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn garbon niwtral erbyn 2030?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas â chyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi addysg cerdd yng Nghymru?