Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/09/2025 i'w hateb ar 30/09/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ63183 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cymunedau i ddefnyddio ynni glân?

 
2
OQ63180 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau y mae canol trefi yn eu hwynebu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OQ63178 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i liniaru effaith tomenni sborion nas defnyddir ar gymunedau yng Ngorllewin De Cymru?

 
4
OQ63182 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl sydd ag anifeiliaid anwes yn gallu sicrhau tenantiaethau?

 
5
OQ63179 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf cymryd rhan mewn chwaraeon llawr gwlad yng Ngogledd Cymru?

 
6
OQ63147 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Beth yw asesiad y Prif Weinidog o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

 
7
OQ63145 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i hyrwyddo busnesau a chynhyrchwyr Cymru dramor ar gyfer gweddill y Senedd hon?

 
8
OQ63185 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r amserlen ar gyfer sefydlu banc cymunedol yng Nghymru?

 
9
OQ63181 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar berfformiad economi Gogledd Cymru?

 
10
OQ63184 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar y berthynas rynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

 
11
OQ63153 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

Beth y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i sicrhau statws cyfansoddiadol y Senedd ar gyfer y dyfodol?

 
12
OQ63177 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/09/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar rôl ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus o ran gwella canlyniadau iechyd?