Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/09/2020 i'w hateb ar 30/09/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Addysg

1
OQ55603 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr adolygiad annibynnol o'r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau yn haf 2020, a'r ystyriaethau ar gyfer haf 2021?

 
2
OQ55616 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg ôl-16 yn ddiogel yn ystod pandemig COVID-19?

 
3
OQ55597 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i ddysgwyr sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yng Nghymru?

 
4
OQ55617 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru?

 
5
OQ55604 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau nad yw addysg plant a phobl ifanc yn cael ei darfu arni yn ystod y chwe mis nesaf?

 
6
OQ55607 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa asesiad diweddar sydd wedi'i wneud o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
7
OQ55588 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gynnwys Saesneg yn Adran 3(2) o'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)?

 
8
OQ55586 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr achosion o blant yn Islwyn yn cael eu hanfon adref o'r ysgol i hunanynysu ar ôl cael canlyniad positif mewn prawf ar gyfer COVID-19?

 
9
OQ55596 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried i leihau faint o amser ysgol a gaiff ei golli o ganlyniad i COVID-19?

 
10
OQ55611 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa gamau sy'n cael eu cymryd ar unwaith i leihau nifer yr ysgolion uwchradd mewn mesurau arbennig?

 
11
OQ55606 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch trefniadau cludiant i'r ysgol yn ystod argyfwng y coronafeirws?

 
12
OQ55593 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yng Ngogledd Cymru?

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OQ55615 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai a oedd ar restr warchod gynt yn sgil y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf yng Nghymru?

 
2
OQ55595 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu rhag y ffliw y gaeaf hwn?

 
3
OQ55587 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailddechrau gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?

 
4
OQ55618 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau o ganlyniad i COVID-19 o fewn ysbytai yn y gogledd?

 
5
OQ55583 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem unigrwydd ymhlith pobl hŷn?

 
6
OQ55601 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyfyngiadau coronafeirws ar iechyd meddwl a lles yng Nghymru?

 
7
OQ55605 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau symud COVID-19 yn Rhondda Cynon Taf?

 
8
OQ55602 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau llywodraethu a rheoli prosiectau cyfalaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
9
OQ55592 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y nifer sy'n manteisio ar apwyntiadau meddygon teulu ar-lein yng Ngogledd Cymru?

 
10
OQ55608 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynlluniau i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd ar safle'r Northern Meadows yng Nghaerdydd?

 
11
OQ55609 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella capasiti'r GIG wrth i ni nesáu at y cynnydd yn y galw sy'n digwydd yn y gaeaf?

 
12
OQ55590 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/09/2020

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ardaloedd gwledig Cymru i atal trosglwyddo cymunedol COVID-19?