Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/06/2026 i'w hateb ar 30/06/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella recriwtio yn y sector addysg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yng ngoleuni dyfarniad y Goruchaf Lys ar y diffiniad o ryw fiolegol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau diogeledd bwyd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i ofalwyr di-dâl?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o addysg uwch?
Sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y trawsnewidiad i ynni glân o fudd i gymunedau lleol yng Ngheredigion Penfro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau diogeledd a gwydnwch bwyd?
A yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu meddyginiaeth atal y glasoed i blant 11 oed?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion Penfro?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella llythrennedd gwleidyddol mewn ysgolion?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r angen i gydnabod y rhyngweithio rhwng niwroamrywiaeth a chyflyrau iechyd eraill?
Y Cwnsler Cyffredinol
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i estyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol i ystod ehangach o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys cyrff nad yw eu swyddogaethau wedi'u datganoli, yng ngoleuni darpariaethau Deddf Lles Plant ac Ysgolion 2026?
Manylion Buddiant yr Aelod
Rwy'n Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth ond nid yw hyn yn cyffwrdd â bil cyfredol.
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â rhoi Confensiwn Sewell ar sail statudol?
Pa rôl sydd gan y Cwnsler Cyffredinol o ran sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gapasiti Swyddfa'r Cwnsleriaid Deddfwriaethol i gefnogi rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth mewn Senedd fwy o faint gyda 96 Aelod?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar i ba raddau y mae trefniadau gofal iechyd trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn cael eu hategu gan gytundebau gweinyddol, neu rwymedigaethau statudol neu gontractiol gorfodadwy?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut mae'r fframwaith rhianta corfforaethol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cymharu, o ran effaith gyfreithiol a gorfodadwyedd, â'r dyletswyddau statudol cryfach sydd bellach mewn grym yn Lloegr?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i herio achosion cynllunio a gymeradwywyd gan awdurdodau lleol er gwaethaf gwrthwynebiad lleol cryf?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli Ystad y Goron?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar geisio datganoli dŵr yn llawn?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o ran p'un a fydd angen cydsyniad y Senedd ar gyfer gwaharddiad arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfryngau cymdeithasol i bobl dan 16 oed?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau plismona?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o fynediad at gyfiawnder i bobl sy'n ceisio herio penderfyniadau a wneir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru?