Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/06/2021 i'w hateb ar 30/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol i Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo cydraddoldeb o fewn gweithlu'r sector cyhoeddus yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i gyn-filwyr yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau tlodi plant yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â charchardai a'r gwasanaeth prawf ers yr etholiad?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydlyniant rhwng cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a thrigolion Dyffryn Clwyd?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynlluniau ar gyfer banc cymunedol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran agor banc cymunedol yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd ar drywydd datganoli gweinyddu lles?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gyn-filwyr yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru ynghylch ymgysylltu â'r gymuned leol ar blismona a diogelwch cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran banc cymunedol Cymru?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ar ffyrdd y gellid hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy ddeddfwriaeth?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch effeithiolrwydd gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am asesiad cyfreithiol Llywodraeth Cymru o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2021?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gynigion ar gyfer comisiwn sefydlog i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ynghylch effaith deddfwriaeth a chanllawiau ar lefelau ffosffad mewn ardaloedd cadwraeth arbennig afonol?
Beth yw’r amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i'w gwneud yn ofynnol cael cardiau adnabod gyda llun er mwyn pleidleisio?
Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch priodoldeb y ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch gwneud cynnydd o ran datganoli darlledu i Gymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfreithiol ynghylch gorfodi amodau cynllunio?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ymdrechion i ddiogelu'r Senedd i sicrhau bod Aelodau a staff yn ddiogel?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyflwyno trefniadau rhannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Senedd?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr a chontractwyr y Senedd?
Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch rhuban gwyn?
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei bolisi TGCh ar gyfer y chweched Senedd?
A wnaiff y Comisiwn gadarnhau ei drefniadau ar gyfer cwrdd yn ystod y tymor sydd i ddod?
Pa gamau y mae'r Comisiwn yn eu cymryd i gynyddu bioamrywiaeth ar ystâd y Senedd?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd i adeiladu ar ymgyrch pleidlais 16 i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael cyfle i ymgysylltu gyda gwaith yn y Senedd?