Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/04/2025 i'w hateb ar 30/04/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ62618 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i gynyddu nifer y teithwyr ar fysiau cyn cyflwyno model masnachfreinio newydd Llywodraeth Cymru?

 
2
OQ62612 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar wasanaethau trên ar lein Calon Cymru?

 
3
OQ62625 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU o ran argaeledd profion gyrru yng Nghymru?

 
4
OQ62614 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Sut bydd y Llywodraeth yn sicrhau y bydd gwasanaethau bysiau yn diwallu anghenion cymunedau gwledig yn Arfon, o ystyried na fydd darpariaethau'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn weithredol am rai blynyddoedd?

 
5
OQ62601 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau effaith y cyfyngiadau pwysau HGV sydd ar fin cael eu cyflwyno ar bont Hafren yr M48, ar lwybrau amgen?

 
6
OQ62616 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar amserlen rheilffordd Arfordir Cambrian?

 
7
OQ62607 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf o ran mapio llwybrau teithio llesol i ysgolion ledled Cymru?

 
8
OQ62599 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus?

 
9
OQ62595 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella seilwaith trafnidiaeth ym Mhreseli Sir Benfro?

 
10
OQ62606 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
11
OQ62592 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cynlluniau Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu cyswllt rheilffordd coridor gogledd-orllewin Caerdydd o Gaerdydd i Bont-y-clun, Llantrisant a Beddau?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ62610 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU ar y diffiniad o fenyw?

 
2
OQ62621 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal y defnydd o lafur caethweision mewn cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu?

 
3
OQ62617 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â sicrhau bod darpariaeth frecwast ar gyfer pob plentyn ysgol gynradd sydd ei angen, er mwyn lliniaru effeithiau tlodi plant?

 
4
OQ62608 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch amddiffyn hawliau dynol pobl drawsryweddol yng ngoleuni dyfarniad diweddar y Goruchaf Lys?

 
5
OQ62626 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynglŷn â dileu'r cap budd-dal dau blentyn er mwyn lleihau tlodi plant yng Nghymru?

 
6
OQ62613 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y codiad ariannol o £1.3 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer undebau credyd yng Nghymru?

 
7
OQ62615 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bolisi practis trais domestig CAFCASS Cymru?

 
8
OQ62604 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu nodi deng-mlwyddiant Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015?

 
9
OQ62600 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran agor canolfan breswyl i fenywod yng Nghymru fel dewis arall yn lle carchar?

 
10
OQ62598 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi elusennau bach yn Sir Benfro?

 
11
OQ62624 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Pa gynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud o ran gwella cydlyniant cymunedol yn Nwyrain De Cymru?

 
12
OQ62602 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio cymorth y sector gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?

Comisiwn y Senedd

1
OQ62620 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2025

Sut y mae'r Comisiwn yn hyrwyddo digwyddiadau sy'n digwydd ar ystad y Senedd i aelodau o'r cyhoedd?