Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/03/2022 i'w hateb ar 30/03/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ57887 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch tomenni glo yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ57878 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatgarboneiddio tai?

 
3
OQ57867 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun atal llifogydd bae Hirael, Bangor?

 
4
OQ57890 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau diogelwch ynni?

 
5
OQ57877 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i brosiectau ynni adnewyddadwy bach a chymunedol?

 
6
OQ57872 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion i yrru cerbydau gwyrddach?

 
7
OQ57875 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni?

 
8
OQ57882 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau tai addas i ateb galw cymunedol?

 
9
OQ57869 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i asesu a diwallu'r angen am gartrefi rhent?

 
10
OQ57884 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael landlordiaid yn y sector preifat i ddatgarboneiddio eu heiddo?

 
11
OQ57897 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer metro de Cymru?

 
12
OQ57894 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i geisiadau i alw i mewn y cais cynllunio ar gyfer parc busnes yn Model Farm ym Mro Morgannwg?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ57891 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?

 
2
OQ57864 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi myfyrwyr safon uwch eleni o ystyried effaith y pandemig ar eu haddysg?

 
3
OQ57873 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y cronfeydd ariannol wrth gefn sydd gan ysgolion?

 
4
OQ57868 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngogledd Cymru?

 
5
OQ57883 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith amser chwarae yn ystod y diwrnod ysgol ar iechyd meddwl plant?

 
6
OQ57893 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am uno Ysgol Gynradd Evenlode ac Ysgol Feithrin Bute Cottage ym Mhenarth?

 
7
OQ57885 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gymorth y mae'r Gweinidog yn ei roi ar waith i gefnogi disgyblion sy'n byw mewn tlodi dros wyliau ysgol y Pasg?

 
8
OQ57899 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perthnasoedd iach yng nghwricwlwm yr ysgol?

 
9
OQ57888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y penderfyniad i gau ysgolion ym Mhowys a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar dargedau Llywodraeth Cymru i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg?

 
10
OQ57892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r disgyblion mwyaf difreintiedig yn Rhondda?

 
11
OQ57870 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi teuluoedd i dalu cost y diwrnod ysgol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
12
OQ57896 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2022

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol addysg uwch?