Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 25/01/2024 i'w hateb ar 30/01/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu llywodraeth leol i fantoli eu cyllidebau yng Ngorllewin Casnewydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd â chlefyd Crohn a cholitis yn cael diagnosis mor gyflym â phosibl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion sy'n wynebu digartrefedd yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i dyfu'r economi gydweithredol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hawliau o ran datblygu a ganiateir yng Nghymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i gyhoeddiad Ofcom y gallai'r Post Brenhinol leihau sawl gwaith y dosberthir llythyrau i dri diwrnod yr wythnos?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau'r GIG yn Islwyn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o sut mae elw gormodol mewn rhai sectorau o’r economi yn effeithio ar drigolion Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi canol trefi yng Ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gryfhau, datblygu a hyrwyddo chwaraeon proffesiynol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwr presennol gwasanaethau gofal iechyd?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at driniaeth ffrwythlondeb?