Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/01/2019 i'w hateb ar 30/01/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

1
OAQ53295 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella caffael cyhoeddus yng Nghymru?

 
2
OAQ53308 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli treth incwm?

 
3
OAQ53319 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas â rhwydwaith y swyddfeydd post?

 
4
OAQ53314 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog nodi polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu mesurau trethiant?

 
5
OAQ53310 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Trysorlys ynghylch ailddyrannu unrhyw arian gan neu i'r UE pan fydd y DU yn ymadael â'r UE?

 
6
OAQ53309 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pryd y gwnaiff y Gweinidog gyhoeddi canllawiau cylch cyflog 2019 ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru?

 
7
OAQ53279 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ofal iechyd yng Ngogledd Cymru wrth benderfynu ar gyllideb 2019/20?

 
8
OAQ53301 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd ystadegau gwladol mewn perthynas â gamblo cymhellol?

 
9
OAQ53313 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglŷn a seibiannau treth i'r sector ynni hydro cymunedol?

 
10
OAQ53306 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi annomestig yn cefnogi busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
11
OAQ53305 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor?

 
12
OAQ53280 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pa effaith y mae'r dreth trafodiadau tir wedi'i chael ar refeniw o drafodiadau eiddo masnachol ers mis Ebrill 2018?

 
13
OAQ53298 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru?

 
14
OAQ53300 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud cyfraddau'r dreth gyngor yn decach i drigolion yn Islwyn?

 
15
OAQ53286 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyfraddau treth incwm Cymru?

Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

1
OAQ53278 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i Gymru?

 
2
OAQ53285 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun nofio am ddim i blant a phensiynwyr?

 
3
OAQ53299 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu twristiaeth yn Islwyn?

 
4
OAQ53312 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru?

 
5
OAQ53316 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran meithrin cysylltiadau â chenhedloedd di-wladwriaeth?

 
6
OAQ53284 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at ei tharged o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

 
7
OAQ53292 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau beicio cymunedol ym Mhowys?

 
8
OAQ53304 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Sut y gwnaiff y Gweinidog asesu llwyddiant y fenter Blwyddyn Darganfod?

 
9
OAQ53283 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol yn 2019?

 
10
OAQ53320 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus i gefnogi cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg?

 
11
OAQ53303 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i ddenu swyddfeydd consyliaid i Gymru?

 
12
OAQ53290 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol i sicrhau bod yr agwedd hon ar ddiwylliant Cymru ar gael i genedlaethau'r dyfodol?

 
13
OAQ53307 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i grwpiau sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg?

 
14
OAQ53317 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cynnal ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i sefyllfa'r carcharorion gwleidyddol yng Nghatalwnia?

 
15
OAQ53288 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo Cymru dramor?

Comisiwn y Cynulliad

1
OAQ53297 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o fannau diogel i storio beiciau ar ystâd y Cynulliad?

 
2
OAQ53293 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Sut y mae lefel y gwastraff bwyd a gynhyrchwyd ar ystâd y Cynulliad yn ystod y chwarter diwethaf yn cymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol?

 
3
OAQ53315 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru yn dilyn y cyfarfodydd rhanbarthol cyntaf?

 
4
OAQ53318 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2019

Sut y bydd Comisiwn y Cynulliad yn ariannu unrhyw gostau ychwanegol a fydd yn gysylltiedig â'r posibilrwydd o newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru?