Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/01/2019 i'w hateb ar 30/01/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella caffael cyhoeddus yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatganoli treth incwm?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas â rhwydwaith y swyddfeydd post?
A wnaiff y Gweinidog nodi polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datblygu mesurau trethiant?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Trysorlys ynghylch ailddyrannu unrhyw arian gan neu i'r UE pan fydd y DU yn ymadael â'r UE?
Pryd y gwnaiff y Gweinidog gyhoeddi canllawiau cylch cyflog 2019 ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ofal iechyd yng Ngogledd Cymru wrth benderfynu ar gyllideb 2019/20?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd ystadegau gwladol mewn perthynas â gamblo cymhellol?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynglŷn a seibiannau treth i'r sector ynni hydro cymunedol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi annomestig yn cefnogi busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor?
Pa effaith y mae'r dreth trafodiadau tir wedi'i chael ar refeniw o drafodiadau eiddo masnachol ers mis Ebrill 2018?
A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddiwygio ardrethi annomestig yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud cyfraddau'r dreth gyngor yn decach i drigolion yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o gyfraddau treth incwm Cymru?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddenu mwy o ddigwyddiadau mawr i Gymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y cynllun nofio am ddim i blant a phensiynwyr?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gynyddu twristiaeth yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog nodi blaenoriaethau cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Cymru?
Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran meithrin cysylltiadau â chenhedloedd di-wladwriaeth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd tuag at ei tharged o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau beicio cymunedol ym Mhowys?
Sut y gwnaiff y Gweinidog asesu llwyddiant y fenter Blwyddyn Darganfod?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am raglen arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol yn 2019?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus i gefnogi cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i ddenu swyddfeydd consyliaid i Gymru?
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol i sicrhau bod yr agwedd hon ar ddiwylliant Cymru ar gael i genedlaethau'r dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i grwpiau sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cynnal ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i sefyllfa'r carcharorion gwleidyddol yng Nghatalwnia?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo Cymru dramor?
Comisiwn y Cynulliad
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o fannau diogel i storio beiciau ar ystâd y Cynulliad?
Sut y mae lefel y gwastraff bwyd a gynhyrchwyd ar ystâd y Cynulliad yn ystod y chwarter diwethaf yn cymharu â'r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru yn dilyn y cyfarfodydd rhanbarthol cyntaf?
Sut y bydd Comisiwn y Cynulliad yn ariannu unrhyw gostau ychwanegol a fydd yn gysylltiedig â'r posibilrwydd o newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru?