Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/11/2023 i'w hateb ar 29/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i’r argymhellion yn adroddiad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, 'Paratoi Cymru ar gyfer Ynni Adnewyddadwy 2050'?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ag asiantaethau allanol wrth weithredu'r cynllun adfer natur?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gymorth i bobl yn Arfon sydd wedi eu heffeithio yn negyddol gan y cynllun Arbed?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am yr adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru), a gynhaliwyd yn 2021?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi'r sector hydrogen yng Nghymru?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd i drigolion Sir Ddinbych?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i deithio ar drenau yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith seilwaith y grid ar drigolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc i ymgysylltu mwy â natur?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â GIG Cymru yn lleihau ei allyriadau carbon ac yn gweithio tuag at yr uchelgais sero net?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi’r ffordd y mae saethu adar hela yn cyfrannu at gadwraeth amgylcheddol?
Beth yw strategaeth y Llywodraeth ar gyfer ymdrin â safleoedd ôl-ddiwydiannol gwenwynig?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ran addysgu ieithoedd tramor modern yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau presenoldeb da gan ddisgyblion yn ysgolion Sir Ddinbych?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn addysgu dysgwyr am hanes lleol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog ysgolion i weithio gyda chyflogwyr fel bod dysgwyr yn cael gwybod mwy am gyfleoedd posibl ym myd gwaith yn y dyfodol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn lliniaru cost y diwrnod ysgol i deuluoedd ar draws gogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn Islwyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod ysgolion yn bodloni anghenion cyfathrebu disgyblion anabl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o addysgu ieithoedd modern mewn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo addysgu hanes lleol mewn ysgolion cynradd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ffordd y caiff cyllid ei ddosbarthu ar draws addysg gynradd ac addysg uwchradd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i recriwtio mwy o athrawon ysgol gynradd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni cynigion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llwyth gwaith staff sy'n gweithio yn y sector addysg?