Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/11/2022 i'w hateb ar 29/11/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad cleifion at eu meddyg teulu?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl Gorllewin Casnewydd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Chyngor Caerdydd ynglŷn â dyfodol Neuadd Dewi Sant?
Pa gamau brys y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dorri amseroedd aros ambiwlansys?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r diwydiant adeiladu ar ddatgarboneiddio holl gartrefi Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y chwistrelliad o £1.2 biliwn i Gymru o ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU o fudd i bobl sir Ddinbych?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan ysbytai weithdrefnau rhyddhau diogel yn eu lle?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod peiriannau ATM yn hygyrch mewn cymunedau yng ngogledd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau masnach y mae wedi cymryd rhan ynddynt tra yn Qatar?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar berfformiad Rhentu Doeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar amseroedd aros am driniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?