Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/09/2026 i'w hateb ar 29/09/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64609 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio'n llawn ac yn brydlon â'u rhwymedigaethau cyfreithiol o ran rhyddid gwybodaeth a mynediad at ddata personol?

 
2
OQ64607 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i adolygu'r fformiwla ariannu llywodraeth leol?

 
3
OQ64587 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi lleoliadau cerddoriaeth annibynnol a llawr gwlad i ffynnu?

 
4
OQ64584 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd trigolion Afan Ogwr Rhondda yn elwa o'r strategaeth ynni genedlaethol?

 
5
OQ64610 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r defnydd o agregau o ansawdd uchel, wedi'u hailgylchu a'u golchi, mewn prosiectau adeiladu ledled Cymru?

 
6
OQ64589 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pellach i Gymru?

 
7
OQ64608 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd ym Mrycheiniog Tawe Nedd?

 
8
OQ64588 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw cyfleoedd plentyn mewn bywyd yn cael eu pennu gan lle maen nhw'n tyfu i fyny?

 
9
OQ64576 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi ymgyrch y Gwarchodlu Cymreig i geisio'r gwir am ddigwyddiad RFA Syr Galahad ar 8 Fehefin 1982?

Manylion Buddiant yr Aelod

 Datgan buddiant fel cyn-Filwr yn cefnogi fy nghyd-gyn-Filwyr
 
10
OQ64572 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

Beth yw blaenoriaethau cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru?

 
11
OQ64566 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith polisi Cenedl Noddfa ar faint o dai sydd ar gael yng ngogledd Cymru?

 
12
OQ64564 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/09/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y strategaeth ganser genedlaethol?