Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/09/2021 i'w hateb ar 29/09/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro ar gyfer y 12 mis nesaf?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y rheoliadau diogelwch yn y gweithle y disgwylir i gyflogwyr yn Nwyrain De Cymru eu dilyn?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â denu buddsoddiad ynni gwyrdd i Ynys Môn?
Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i seryddiaeth o fewn ei pholisi gwyddoniaeth?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch gweithredu adolygiad Kalifa o sector technoleg ariannol y DU?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog twf diwydiannol yng ngorllewin Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar economi etholaeth Caerffili?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflogaeth yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i greu swyddi gweithgynhyrchu yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch amodau a thelerau gwaith yng Ngorllewin De Cymru?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad am gymorth iechyd meddwl amenedigol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd gwasanaethau strôc brys yng Nghaerdydd?
Pa gynlluniau wrth gefn sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i gefnogi Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ystod cyfnodau annisgwyl o brysur?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella argaeledd deintyddion y GIG ledled Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at feddygon teulu yng Nghaergybi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff GIG Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn ag effaith ceisio sicrhau mesurau diogelwch tân yn eu cartrefi ar iechyd meddwl preswylwyr fflatiau uchel?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaethau ar gyfer gwella'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol GIG Cymru i Gyn-filwyr?
A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen ar gyfer datrys y prinder poteli gwaed sy'n effeithio ar wasanaethau mewn practisau meddygon teulu ledled Cymru ar hyn o bryd?