Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/06/2022 i'w hateb ar 29/06/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ58276 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa effaith fydd y cynlluniau cyllidebu ar sail rhywedd yn ei chael ar etholaeth Arfon?

 
2
OQ58269 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Beth yw blaenoriaethau gwariant y Gweinidog ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru am y 12 mis nesaf?

 
3
OQ58249 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa effaith a gaiff newid dosbarthiad eiddo hunanarlwyo at ddibenion treth ar drigolion mewn cymunedau sydd â mwy a mwy o lety hunanarlwyo?

 
4
OQ58274 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch ariannu prydau ysgol am ddim i bawb yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol?

 
5
OQ58251 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith polisi economaidd Llywodraeth y DU ar gyllideb Llywodraeth Cymru?

 
6
OQ58252 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa strwythurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i fonitro'r defnydd o arian grant a ddyfernir i brosiectau yng Nghymru?

 
7
OQ58267 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i ddyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu tai hygyrch wrth benderfynu ar setliad llywodraeth leol 2022-23?

 
8
OQ58259 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi busnesau bach a chanolig eu maint wrth benderfynu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23?

 
9
OQ58260 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella perfformiad llywodraeth leol wrth ddarparu gwasanaethau?

 
10
OQ58243 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa adnoddau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol?

 
11
OQ58256 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae cynllun cymorth disgresiynol ar gyfer costau byw Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw?

 
12
OQ58264 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cynllun cymorth costau byw drwy awdurdodau lleol?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ58257 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddarparu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus rheolaidd ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes i wrthbwyso'r risg o gynnydd yn nifer yr anifeiliaid a gaiff eu gadael o ganlyniad i'r argyfwng costau byw?

 
2
OQ58261 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yng Ngogledd Cymru?

 
3
OQ58278 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Sut y bydd polisi ffermio Llywodraeth Cymru yn y dyfodol helpu i leihau gwastraff amaethyddol?

 
4
OQ58270 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol stadiwm Valley Greyhounds?

 
5
OQ58248 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi canolfannau ailgartrefu anifeiliaid i ofalu am gŵn sy'n cael eu hachub rhag bridio anghyfreithlon?

 
6
OQ58244 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd deddfwriaeth Cymru o ran diogelu cŵn?

 
7
OQ58280 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl ifanc i ymuno â'r sector amaethyddol a'u cadw?

 
8
OQ58277 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU am effaith oedi cyn cyflwyno archwiliadau mewnforio'r Undeb Ewropeaidd ar ffermio yng Nghymru?

 
9
OQ58273 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ffermwyr yn Nyffryn Clwyd?

 
10
OQ58255 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella lles anifeiliaid yng Nghymru?

 
11
OQ58263 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau amaethyddol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn wyneb costau cynyddol am gyflenwadau hanfodol fel tanwydd a gwrtaith?

 
12
OQ58271 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/06/2022

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi gael gyda Gweinidogion eraill am gynlluniau i wella canol dinas Bangor?