Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/06/2021 i'w hateb ar 29/06/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella cyfleusterau addysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am darged Llywodraeth Cymru i ariannu swyddogion cymorth cymunedol heddlu ychwanegol?
Pa gefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru am ei rhoi i gymunedau fedru cael mynediad at well gwasanaeth bandeang?
Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o ledaeniad amrywiolyn Delta yn Ne Clwyd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar drenau yn ystod y pandemig?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i fusnesau y mae ymbellhau cymdeithasol wedi effeithio arnynt yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r coronafeirws yn etholaeth Caerffili?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar reoli ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yng Nghymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ysbytai cymunedol newydd yng Nghymru?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau datgarboneiddio'r holl dai cymdeithasol erbyn 2030?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd fferyllfeydd yn rhoi'r brechlyn COVID-19 yng Nghymru?