Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/04/2025 i'w hateb ar 29/04/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62631 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ffermydd teuluol?

 
2
OQ62603 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thrais a materion eraill yn ymwneud ag ymddygiad mewn ysgolion ledled Cymru?

 
3
OQ62627 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029?

 
4
OQ62605 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i goffáu 80 mlynedd ers diwrnod VE?

 
5
OQ62611 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i'r effaith bosibl ar ddyfodol cynhyrchu dur ym Mhort Talbot o ganlyniad i ymyrraeth Llywodraeth y DU yng ngwaith dur Scunthorpe?

 
6
OQ62630 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi twf busnesau bach?

 
7
OQ62609 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn dilyn dyfarniad Goruchaf Lys y DU o'r diffiniad o fenyw?

 
8
OQ62628 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y cyllid o £1 miliwn ar gyfer lido Brynaman a ddynodwyd yng nghyllideb y Llywodraeth ar gyfer 2025-26?

 
9
OQ62594 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella seilwaith trafnidiaeth ym Mhreseli Sir Benfro?

 
10
OQ62593 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chytundeb masnach posibl rhwng y DU a'r UDA?

 
11
OQ62629 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau diogelwch carcharorion yng ngharchardai Cymru?

 
12
OQ62591 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar rôl cwmnïau cydweithredol yn economi Cymru?