Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/03/2023 i'w hateb ar 29/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i daclo tlodi ar Ynys Môn?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith sancsiynau lles ar hawlwyr?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch gorfodi gosod mesuryddion rhagdalu?
Pa gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo gwirfoddoli yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n helpu ffoaduriaid o Wcráin i geisio noddfa yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog wneud ddatganiad am ariannu Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl sydd wedi colli eu clyw?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi ymhlith pobl hŷn yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi trigolion Canol De Cymru y mae ganddynt ddyledion nad yw'n fforddiadwy iddynt eu had-dalu?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y caiff Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) ar bobl mewn tlodi?
Pa effaith y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd cyllideb gwanwyn Llywodraeth y DU yn ei chael ar wasanaethau sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynglŷn ag unrhyw ddulliau cyfreithiol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn atal hyrwyddo negeseuon casineb hiliol?
A fydd argymhellion terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn dylanwadu ar fewnbwn Llywodraeth Cymru i gynigion ar gyfer diwygio cyfansoddiadol yn y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith eraill ynglŷn ag effaith Bil Mudo Anghyfreithlon Llywodraeth y DU ar gaethwasiaeth fodern a hawliau dynol yng Nghymru?
Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch Llywodraeth y DU yn categoreiddio prosiectau HS2 a Northern Powerhouse Rail fel prosiectau Cymru a Lloegr?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol datganiad am ymateb diweddaraf Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Dribiwnlysoedd Cymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd wrth baratoi ar gyfer datganoli posibl rhai neu pob un o'r swyddogaethau cyfiawnder i Gymru?
Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r amddiffyniadau cyfreithiol y gall pobl Cymru eu colli o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y DU?
Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd fel rhan o'i waith o gyflwyno opsiynau ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru?
Sut mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â chyfraith a chonfensiynau rhyngwladol ar gydraddoldeb a hawliau dynol?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU ynglŷn â cheisiadau gan deuluoedd aelodau o'r lluoedd arfog yng Nghymru am ddadddosbarthu pob dogfen yn ymwneud ag ymchwiliad 1982 i suddo'r RFA Sir Galahad?
Comisiwn y Senedd
Sut mae'r Comisiwn yn sicrhau cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymweld â'r Senedd yn sgil y cynnydd mewn costau trafnidiaeth?
Sut mae'r Comisiwn yn symleiddio'r broses archebu ar gyfer cynnal digwyddiadau ar ystâd y Senedd?
Sut mae Comisiwn y Senedd yn cefnogi staff sy'n dioddef ag endometriosis?
A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ynghylch y polisi caffael ar gyfer deunydd ar ystâd y Senedd?
A yw'r cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbydau trydan wedi cael ei gyflwyno ar gyfer staff cymorth Aelodau o'r Senedd a staff y Senedd?
Pa gamau mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i atal lledaenu twyllwybodaeth ar ystâd y Senedd?
Sut mae ystâd y Senedd yn darparu ar gyfer pobl ag epilepsi ffotosensitif?