Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/03/2022 i'w hateb ar 29/03/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddileu gwrthsemitiaeth yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Datganiad y Gwanwyn 2022 gan y Canghellor i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith COVID ar wasanaethau mamolaeth yng Ngorllewin De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am drigolion Cymru sydd wedi cael eu diswyddo'n anghyfreithlon gan P&O?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth feicio yng ngorllewin Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi amddiffyniadau ar waith yn erbyn codiadau mewn prisiau i bobl ledled Cymru wledig sy'n dibynnu ar olew gwresogi ac LPG?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru unrhyw effeithiau negyddol y gallai Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU eu cael ar aelwydydd yn Nwyrain De Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Cyfoeth Naturiol Cymru i liniaru llifogydd ar dir yng nghanolbarth Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dargedau plannu coed Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ganlyniad y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ynghylch yr adolygiad o'r rhestrau dyletswyddau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hen gymunedau glofaol?