Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/01/2025 i'w hateb ar 29/01/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Beth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei wneud i gefnogi'r cyfryngau Cymraeg?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar bwysigrwydd amlygrwydd y Gymraeg ar y cyfryngau torfol i'r ymdrech i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun buddsoddi i arbed?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddyfodol fformiwla Barnett?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i leihau baich y cynnydd blynyddol yn y dreth gyngor?
Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei roi i neilltuo cyllid yng nghyllideb y Llywodraeth er mwyn digolledu cyrff trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau a gomisiynir gan y sector gyhoeddus, yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i godi taliadau yswiriant gwladol cyflogwyr?
Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn cyflawni'r pedair blaenoriaeth allweddol a nodwyd gan y Prif Weinidog?
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i oedolion sy’n dysgu Cymraeg?
Pa effaith y bydd y cyllid cyfalaf ychwanegol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU yn ei chael ar wasanaethau rheng flaen yng Nghymru?
Pa ddadansoddiad a wnaed o'r gwerth am arian i Lywodraeth Cymru yn sgil rhoi prydau ysgol am ddim i’r holl blant mewn ysgolion cynradd?
Pa drafodaethau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ariannu'r gronfa gyfalaf integreiddio ac ailgydbwyso iechyd a gofal cymdeithasol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â setliadau cyllid yn y dyfodol?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â pherchnogaeth anghyfrifol ar gŵn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wyrdroi colli rhywogaethau?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwinllannoedd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â sbwriel yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at gamlesi yng Ngorllewin De Cymru, ac i wella eu budd amgylcheddol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru?
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol i wella ansawdd aer pobl sy'n byw ger safleoedd glo brig a chwareli?
Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei rhoi i dyfu morwellt?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cynllun ffermio cynaliadwy?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd dŵr yng Ngorllewin De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â llygredd afonydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei waith ar faterion cyfansoddiadol?