Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/01/2020 i'w hateb ar 29/01/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OAQ54981 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru?

 
2
OAQ54997 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu ei pholisi ar gyfer rheoli adnoddau naturiol mewn trefi a dinasoedd?

 
3
OAQ54980 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a gomisiynwyd ym mis Hydref 2019?

 
4
OAQ54992 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i gyflwyno parthau perygl nitradau yng Nghymru?

 
5
OAQ54979 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at weithredu Deddf Lucy i reoleiddio ffermio cŵn bach yng Nghymru?

 
6
OAQ54990 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fonitro ansawdd aer yn y Gogledd?

 
7
OAQ55004 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau safonau lles uchel mewn sefydliadau bridio yng Nghymru?

 
8
OAQ55003 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddileu TB Llywodraeth Cymru?

 
9
OAQ54994 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddyfodol cynhyrchu ynni niwclear yng Nghymru?

 
10
OAQ54987 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynhyrchu trydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy yng nghanolbarth Cymru?

 
11
OAQ55012 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drosolwg Llywodraeth Cymru o Gyfoeth Naturiol Cymru?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OAQ54982 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch gweithrediadau Swyddfa'r Post yng Nghymru?

 
2
OAQ54991 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r berthynas rhwng rhagamcanion poblogaeth a chynlluniau datblygu lleol?

 
3
OAQ55010 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sydd ar gael i lywodraeth leol i atal cofrestru ail gartrefi fel busnesau?

 
4
OAQ55005 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith canran uchel o ail gartrefi ar yr angen am dai o fewn cymunedau?

 
5
OAQ54986 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phlastigau untro?

 
6
OAQ54999 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa asesiad sydd wedi'i wneud o sut y mae strategaeth dai Llywodraeth Cymru yn dylanwadu ar benderfyniadau cynllunio a wneir gan awdurdodau lleol?

 
7
OAQ55011 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ynghylch sut y gallent weithio gyda sefydliadau'r trydydd sector i ddarparu gwasanaethau?

 
8
OAQ54996 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru?

 
9
OAQ55001 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddarparu tai fforddiadwy yng Nghanol De Cymru?

 
10
OAQ55006 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/01/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion diogelwch tân a nodwyd yn y cyfadeilad o fflatiau Celestia ym Mae Caerdydd?