Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 24/01/2019 i'w hateb ar 29/01/2019

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ53287 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynghylch materion capasiti ffyrdd a rheilffyrdd Pencoed?

 
2
OAQ53329 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau costau'n gysylltiedig â gweithwyr asiantaethau yn y GIG?

 
3
OAQ53289 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl grwpiau gorchwyl a gorffen o ran datblygu cyfrifoldebau gweinidogol?

 
4
OAQ53324 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog nodi ei flaenoriaethau ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru?

 
5
OAQ53277 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gontractau PFI gyda chyrff cyhoeddus yng Nghymru a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru?

 
6
OAQ53282 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth yn 2019?

 
7
OAQ53325 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd o ran paratoi deddfwriaeth i gael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol?

 
8
OAQ53323 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros ar gyfer pen-glin newydd yng Ngorllewin De Cymru?

 
9
OAQ53326 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gofal iechyd i gleifion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
10
OAQ53296 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?

 
11
OAQ53294 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar sut bydd cynllun twf y gogledd yn datblygu’r economi yn Arfon?

 
12
OAQ53311 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?

 
13
OAQ53322 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyhoeddiad REHAU ynghylch dyfodol eu ffatri yn Amlwch?

 
14
OAQ53328 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch Brexit?

 
15
OAQ53291 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2019

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chyfraddau hunanladdiad yng Nghymru?