Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/11/2023 i'w hateb ar 28/11/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i weithredu'r 29 argymhelliad a wnaed gan grŵp arbenigol Llywodraeth Cymru ar yr argyfwng costau byw?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau IVF y GIG yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi elusennau sy'n helpu cleifion dementia a'u teuluoedd?
Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu'r economi yng Ngorllewin De Cymru dros weddill tymor y Senedd hon?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi practisau meddygon teulu yng Ngorllewin De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith datganiad yr hydref ar bobl Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gyrff cyhoeddus yn defnyddio meddalwedd ffynhonnell agored?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gofalwyr di-dâl ym Mynwy yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd datganiad yr hydref y Canghellor yn ei chael ar ariannu gwasanaethau cyhoeddus?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg pobl ifanc 14 i 19 oed?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddileu cam-drin domestig a thrais?