Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/11/2017 i'w hateb ar 28/11/2017

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OAQ51384 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllideb Rhentu Doeth Cymru?

 
2
OAQ51382 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau iechyd meddwl i oedolion yng Nghymru?

 
3
OAQ51368 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i sicrhau y caiff yr amgylchedd ei ddiogelu’n well dros y 12 mis nesaf?

 
4
OAQ51378 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch cynlluniau i adleoli staff o swyddfa'r Adran Gwaith a Phensiynau yn ardal y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd?

 
5
OAQ51388 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ragolygon dros y pedwar mis nesaf ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn Sir Fynwy?

 
6
OAQ51347 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi safleoedd o ddiddordeb hanesyddol ledled Cymru?

 
7
OAQ51350 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau anghydraddoldeb yng Nghymru?

 
8
OAQ51342 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched?

 
9
OAQ51390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am feysydd parcio a reolir gan awdurdodau lleol yng Nghymru?

 
10
OAQ51387 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio a chadw staff yn y sector gofal cymdeithasol?

 
11
OAQ51355 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cynghori i bobl sy'n ymdrin â phroblemau dyledion personol?

 
12
OAQ51389 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynigion ar gyfer rhyddhad treth stamp fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU?

 
13
OAQ51373 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

Pa waith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ystyried effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

 
14
OAQ51383 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yn ei chwarae yn y broses o wella cyfleoedd gwaith yng Nghymru?

 
15
OAQ51385 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2017

Pa drafodaethau diweddar y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr ystad carchardai yng Nghymru?