Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/09/2021 i'w hateb ar 28/09/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddiogelu swyddi sgiliau uchel yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargen twf canolbarth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y defnydd o gyfarpar diogelu personol mewn cartrefi gofal yn Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fentrau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yng nghymoedd de Cymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi canol trefi?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y codiadau arfaethedig mewn yswiriant gwladol ar y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i leihau troseddau gwledig?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno i wella ansawdd aer yn ystod tymor presennol y Senedd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn y gogledd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu llywodraeth leol?