Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/06/2022 i'w hateb ar 28/06/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw cost trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio'n andwyol ar bresenoldeb disgyblion cynradd ac uwchradd?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am Ddeddf Syndrom Down 2022?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau canser Llywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ddeintyddion y GIG yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi ac annog entrepreneuriaid ifanc yn Sir Ddinbych?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at feddygon teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl gyda chostau byw cynyddol?
Pa asesiadau diogelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud o ran diogelwch menywod wrth ddrafftio'r cynllun gweithredu LHDTC+ arfaethedig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i annog diwydiant i leihau allyriadau niweidiol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent?