Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/03/2023 i'w hateb ar 28/03/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru ag ymchwiliad COVID-19 y DU?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ddarpariaeth ddeintyddol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi gofal lliniarol a hosbisau ledled Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng nghanolbarth Cymru?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r effaith y bydd cyllideb Llywodraeth y DU yn ei chael ar allu awdurdodau lleol Cymru i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus?
Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i awdurdodau lleol ynglŷn â gwneud penderfyniadau am ofal cymdeithasol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo mabwysiadu diffiniad Cynghrair Ryngwladol Cofio'r Holocost o wrthsemitiaeth gan sefydliadau sy'n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o welyau ysbyty yn Nwyrain De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo diwylliant a threftadaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymunedau twristiaeth?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal plant a darpariaeth y blynyddoedd cynnar?