Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/02/2023 i'w hateb ar 28/02/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ59159 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl ifanc i gael gwaith yn Ne Clwyd?

 
2
OQ59153 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynglŷn â chynlluniau i ailosod pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion?

 
3
OQ59154 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol?

 
4
OQ59158 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun i greu canolfan iechyd a lles yng nghanol Bangor?

 
5
OQ59157 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan blant fynediad at ddeintyddiaeth o ansawdd da?

 
6
OQ59163 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo teithio cynaliadwy yn Nwyrain De Cymru?

 
7
OQ59175 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar effeithiolrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
8
OQ59190 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fudiadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r gwasanaethau brys?

 
9
OQ59152 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau iechyd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?

 
10
OQ59189 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch sicrhau pwerau dros benderfynu ar y lwfans tai lleol?

 
11
OQ59156 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau pellach mewn perthynas â'r adolygiad manylach o Fesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008?

 
12
OQ59160 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/02/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog mwy o fyfyrwyr, yn enwedig merched, i ystyried gyrfa ym maes STEM?