Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/02/2023 i'w hateb ar 28/02/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl ifanc i gael gwaith yn Ne Clwyd?
Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gyda Chyngor Sir Ddinbych ynglŷn â chynlluniau i ailosod pont Llannerch rhwng Trefnant a Thremeirchion?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun i greu canolfan iechyd a lles yng nghanol Bangor?
Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gan blant fynediad at ddeintyddiaeth o ansawdd da?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo teithio cynaliadwy yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar effeithiolrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i fudiadau gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r gwasanaethau brys?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau iechyd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch sicrhau pwerau dros benderfynu ar y lwfans tai lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau pellach mewn perthynas â'r adolygiad manylach o Fesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog mwy o fyfyrwyr, yn enwedig merched, i ystyried gyrfa ym maes STEM?