Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 23/01/2025 i'w hateb ar 28/01/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62224 (d) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sicrhau mynediad at gefnogaeth cyflogaeth a rhaglenni ailsgilio?

 
2
OQ62229 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith newidiadau treth etifeddiant ar ffermydd teuluol yng Nghymru?

 
3
OQ62231 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn cymunedau gwledig?

 
4
OQ62226 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau dyfodol hirdymor gofal cymdeithasol?

 
5
OQ62192 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi busnesau ym Mhreseli Sir Benfro?

 
6
OQ62216 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella bywydau pobl ifanc yn Nelyn?

 
7
OQ62222 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cydlyniant cymunedol?

 
8
OQ62225 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cynhyrchwyr bwyd yng Nghymru?

 
9
OQ62202 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y gwaith sy'n cael ei wneud gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i bennu cwmpas rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint ledled Cymru yn dilyn y peilot llwyddiannus yn Rhondda?

 
10
OQ62232 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd ym Mlaenau Gwent?

 
11
OQ62205 (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i dyfu economi Cymru?

 
12
OQ62200 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 23/01/2025

Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i leihau nifer y cleifion sy'n aros ar welyau troli ar wardiau ac yng nghoridorau ysbytai?