Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/11/2024 i'w hateb ar 27/11/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

1
OQ61946 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo Dydd Sadwrn Busnesau Bach yn Sir Drefaldwyn?

 
2
OQ61944 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr wedi'i chael ar fentrau cymdeithasol?

 
3
OQ61916 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ym Mhreseli Sir Benfro?

 
4
OQ61947 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Llywodraeth yn ymwneud ag wythnos waith pedwar diwrnod?

 
5
OQ61952 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yng Ngogledd Cymru?

 
6
OQ61945 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gwyddorau bywyd yng Ngorllewin De Cymru?

 
7
OQ61951 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r effaith fydd ymestyn rhaglen waith atgyweirio Pont y Borth yn ei gael ar fusnesau Ynys Môn?

 
8
OQ61934 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Banc Datblygu Cymru i annog twf a buddsoddiad mewn diwydiannau creadigol, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu yn ôl amserlenni hirach ar gyfer eu prosiectau?

 
9
OQ61940 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gweithwyr manwerthu y Nadolig hwn?

 
10
OQ61938 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Pa waith dadansoddi y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynglŷn ag effaith economaidd ymadawiad y DU â'r UE ar Gymru?

 
11
OQ61922 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fusnesau yng Ngogledd Cymru?

 
12
OQ61942 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Sut fydd Llywodraeth Cymru yn creu swyddi gwyrdd yn y Rhondda?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

1
OQ61921 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y ganolfan driniaeth ranbarthol arfaethedig yn Llantrisant?

 
2
OQ61931 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu mynediad i byllau hydrotherapi?

 
3
OQ61923 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gofal cymdeithasol?

 
4
OQ61928 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwella hygyrchedd i wasanaethau iechyd ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd i drigolion Rhondda?

 
5
OQ61949 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cynlluniau i ddatblygu canolfan iechyd a lles integredig yng Nghaergybi?

 
6
OQ61927 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o'r £50 miliwn o gyllid i gefnogi byrddau iechyd, y cyfeiriwyd ato yn ei ddatganiad ar 17 Tachwedd 2024, y mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi'i gael?

 
7
OQ61924 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o niwrowahaniaeth o fewn byrddau iechyd?

 
8
OQ61932 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu diweddariad ynglŷn â datblygu'r cynllun iechyd menywod GIG Cymru arfaethedig?

 
9
OQ61935 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad at wasanaethau meddyg teulu yn Nelyn?

 
10
OQ61925 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am nifer y cleifion sy'n aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth yn GIG Cymru?

 
11
OQ61914 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd ymateb ambiwlansys?

 
12
OQ61937 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o nifer y cleifion mewn adrannau brys sy'n aros neu'n cael eu trin mewn cadeiriau am dros 24 awr?