Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/09/2023 i'w hateb ar 27/09/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa waith dadansoddi polisi a wnaeth Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno terfynau cyflymder o 20mya?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo plannu coed trefol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu gorchudd coed ar draws Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch ffyrdd ar gefnffordd yr A494 ym Mhwllglas?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a gwella rhwydwaith camlesi Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydbwyso'r angen am waith datblygu yn erbyn ei hymrwymiad i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y camau diweddaraf mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i wella gwytnwch croesiadau'r Fenai?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr mewn llywodraeth leol i sicrhau bod gan bobl mewn llety dros dro amodau byw addas?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith amgylcheddol datblygiadau tai mawr ym Mwrdeistref Sirol Caerffili?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y tai cymdeithasol yng Nghymru a adeiladwyd gan ddefnyddio dulliau annhraddodiadol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r broses datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol fel y nodir yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer lliniaru llifogydd?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch darparu cyrsiau galwedigaethol?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar wella trafnidiaeth ysgolion i fyfyrwyr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion?
Pa effaith y mae'r grant datblygu disgyblion wedi'i chael ar gyrhaeddiad disgyblion ers ei gyflwyno yn 2012?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal gwahaniaethu yn erbyn disgyblion awtistig mewn lleoliadau addysg?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau'r cynllun treialu diwrnod ysgol hirach?
Pa gyllid y mae'r Gweinidog yn ei ddarparu i ysgolion i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr ynghylch lleihau cost gwisgoedd ysgol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi disgyblion ag amhariad ar eu clyw yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd?
A yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o'r effaith ar sector addysg uwch Cymru yn sgil yr oedi wrth ailymuno â Horizon Ewrop?