Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/06/2023 i'w hateb ar 27/06/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi perchnogion tai yn Nwyrain De Cymru sy'n wynebu taliadau morgais uwch?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo datblygu economaidd yng nghanolbarth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ystâd y GIG yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r manteision o gyflwyno dyletswydd sifig i bleidleisio mewn etholiadau Cymreig?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y cleifion sydd wedi cael mynediad at apwyntiadau gyda deintyddion y GIG yn 2022-23?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant treialu sesiynau cyfoethogi ychwanegol yn ysgolion Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl â nam ar eu golwg?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella canlyniadau iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa ystyriaeth a roddodd Llywodraeth Cymru i bobl o ffydd wrth lunio elfen addysg cydberthynas a rhywioldeb y Cwricwlwm i Gymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth o lety rhent?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi clybiau a chymdeithasau chwaraeon yn Sir Ddinbych?