Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/06/2018 i'w hateb ar 27/06/2018

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OAQ52403 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am les addysgol plant mabwysiedig?

 
2
OAQ52411 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi oedolion i uwchsgilio ac ailsgilio pan fyddant mewn gwaith?

 
3
OAQ52407 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lefelau cyrhaeddiad ymysg disgyblion mwyaf difreintiedig Gorllewin De Cymru?

 
4
OAQ52416 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu sgiliau digidol mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru?

 
5
OAQ52421 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant ysgolion bach a gwledig?

 
6
OAQ52399 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi addysg ym Mhowys?

 
7
OAQ52412 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Beth yw'r strategaeth ar gyfer ariannu'r grant cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig y tu hwnt i 2018/19?

 
8
OAQ52425 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fagloriaeth Cymru?

 
9
OAQ52390 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig?

 
10
OAQ52408 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau i ysgolion yng Nghymru?

 
11
OAQ52396 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ystyriaeth a roddir i absenoldeb oherwydd anabledd wrth gasglu ffigurau presenoldeb ysgol?

 
12
OAQ52414 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi mynediad ysgolion Llywodraeth Cymru?

 
13
OAQ52402 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o rôl egwyddorion cydweithredol o fewn y system addysg yng Nghymru?

 
14
OAQ52420 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag aelodau'r cabinet ar yr effaith y gallai toriadau i Llenyddiaeth Cymru ei chael ar lefelau cyrhaeddiad addysgol mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1
OAQ52426 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Llywodraeth Cymru i gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf?

 
2
OAQ52409 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lleihau'r diffygion yng nghyllideb byrddau iechyd lleol?

 
3
OAQ52406 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ysmygu?

 
4
OAQ52401 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn?

 
5
OAQ52424 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i Gymru?

 
6
OAQ52422 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer diffibrilwyr?

 
7
OAQ52393 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i blant?

 
8
OAQ52423 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa ddadansoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r costau a gododd o ganlyniad i newid y ffiniau rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin?

 
9
OAQ52398 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygaeth cwsg?

 
10
OAQ52404 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?

 
11
OAQ52417 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn ag amseroedd aros i gofrestru am ddeintyddion y GIG yng Ngheredigion?

 
12
OAQ52415 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fodlonrwydd cleifion gyda mynediad i feddygon teulu?

 
13
OAQ52400 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau staff nyrsio mewn cartrefi gofal?

 
14
OAQ52410 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn bodloni'r targedau a bennwyd ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru?

 
15
OAQ52394 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/06/2018

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar y fframwaith anhwylderau bwyta?