Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/06/2018 i'w hateb ar 27/06/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am les addysgol plant mabwysiedig?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi oedolion i uwchsgilio ac ailsgilio pan fyddant mewn gwaith?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lefelau cyrhaeddiad ymysg disgyblion mwyaf difreintiedig Gorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu sgiliau digidol mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grant ysgolion bach a gwledig?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi addysg ym Mhowys?
Beth yw'r strategaeth ar gyfer ariannu'r grant cyrhaeddiad lleiafrifoedd ethnig y tu hwnt i 2018/19?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fagloriaeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgwyr ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau i ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ystyriaeth a roddir i absenoldeb oherwydd anabledd wrth gasglu ffigurau presenoldeb ysgol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi mynediad ysgolion Llywodraeth Cymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o rôl egwyddorion cydweithredol o fewn y system addysg yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag aelodau'r cabinet ar yr effaith y gallai toriadau i Llenyddiaeth Cymru ei chael ar lefelau cyrhaeddiad addysgol mewn iaith a llenyddiaeth Saesneg?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun Llywodraeth Cymru i gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lleihau'r diffygion yng nghyllideb byrddau iechyd lleol?
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau lefelau ysmygu?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau iechyd yn Sir Drefaldwyn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd i Gymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyllid ar gyfer diffibrilwyr?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i blant?
Pa ddadansoddiad a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r costau a gododd o ganlyniad i newid y ffiniau rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau meddygaeth cwsg?
Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn ag amseroedd aros i gofrestru am ddeintyddion y GIG yng Ngheredigion?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fodlonrwydd cleifion gyda mynediad i feddygon teulu?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau staff nyrsio mewn cartrefi gofal?
Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn bodloni'r targedau a bennwyd ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad ar y fframwaith anhwylderau bwyta?