Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/04/2022 i'w hateb ar 27/04/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ57912 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch effaith Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 Llywodraeth Cymru ar y diwydiant twristiaeth?

 
2
OQ57934 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gefnogi'r gwaith o gyflwyno strategaethau adeiladu cyfoeth cymunedol wrth ddyrannu cyllidebau awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru?

 
3
OQ57910 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o nifer y seddi lle nad oes ond un ymgeisydd yn etholiadau llywodraeth leol Cymru?

 
4
OQ57922 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Thrysorlys EM i sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi pobl Islwyn drwy'r argyfwng costau byw?

 
5
OQ57916 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch darparu cymorth ariannol i'r sector twristiaeth yng Ngogledd Cymru?

 
6
OQ57937 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Beth yw asesiad y Gweinidog o'r setliad llywodraeth leol a ddarperir i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol?

 
7
OQ57908 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gydag arweinwyr cynghorau i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir ganddynt o fudd i'r cyhoedd?

 
8
OQ57935 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn?

 
9
OQ57928 (e) Datganodd yr Aelod fuddiant Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ardoll brentisiaethau Llywodraeth y DU ar gyllid awdurdodau lleol?

 
10
OQ57917 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau tegwch o ran cyllid cynghorau?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ57929 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gydnabod yn gyfreithiol ymdeimlad anifeiliaid yn y broses o lunio polisïau datganoledig?

 
2
OQ57915 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu faint o fwyd o Gymru sy'n cael ei brosesu yng Nghymru?

 
3
OQ57924 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ag adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU i ddiogelu lles anifeiliaid drwy atal mewnforio cŵn yn anghyfreithlon drwy borthladdoedd Cymru?

 
4
OQ57920 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith anallu pobl ar incwm isel i dalu costau milfeddyg a bwyd i'w hanifeiliaid anwes ar les anifeiliaid?

 
5
OQ57907 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith a gaiff smyglo cŵn bach yn anghyfreithlon drwy borthladdoedd Cymru ar les anifeiliaid yng Nghymru?

 
6
OQ57909 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Gweinidog yr Economi i sicrhau bod Gogledd Cymru yn elwa o ganlyniadau economaidd sy'n gyfartal â gweddill Cymru?

 
7
OQ57931 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith y rhyfel yn Wcráin ar y sector amaethyddiaeth yng Ngorllewin a Chanolbarth Cymru?

 
8
OQ57918 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i gefnogi ffermwyr llaeth yng Nghymru?

 
9
OQ57936 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y diwydiant bwyd môr yn Ynys Môn?

 
10
OQ57932 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector bwyd a diod yng Nghymru?

 
11
OQ57930 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/04/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gydnabod ymdeimlad anifeiliaid yng nghyfraith Cymru?