Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 22/01/2026 i'w hateb ar 27/01/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fewnoli triniaethau dermatoleg ac endosgopi?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran sicrhau poblogaeth iachach a mwy egnïol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am gynlluniau ar gyfer canolfannau iechyd a llesiant newydd yn Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau canser Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymgysylltiad Llywodraeth Cymru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynghylch rhedeg Ysbyty Athrofaol Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i leddfu amddifadedd yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid addysg ym Mlaenau Gwent?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r stryd fawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o adeiladu tai fforddiadwy a chymdeithasol newydd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi elusennau sy'n cefnogi cyn-filwyr yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd i drigolion yn Nwyrain De Cymru?
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â goblygiadau achos Norton v Bwrdeistref Llundain Haringey ar gyfer y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r camau y gall eu cymryd i sicrhau bod Cynllun Datblygu Lleol Torfaen yn cael ei fabwysiadu'n gyfreithlon erbyn 2028?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynglŷn ag effaith dyfarniad rhywedd y Goruchaf Lys ar chwaraeon menywod?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i phwerau i gefnogi ymgyrch y menywod a anwyd yn y 1950au a amddifadwyd o'u pensiwn?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol nodi enghreifftiau penodol o sut mae ei rôl fel Gweinidog Cyflawni wedi arwain at ganlyniadau mesuradwy o ran cyflawni blaenoriaethau iechyd y llywodraeth?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Llywodraeth ar statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn perthynas â chynllun £45 biliwn Rheilffordd Pwerdy Gogledd Lloegr a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'w gwneud yn ofynnol i aelodau tribiwnlysoedd Cymru dyngu llw neu roi cadarnhad o'u hymrwymiad i gynnal annibyniaeth farnwrol?