Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 20/01/2021 i'w hateb ar 27/01/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella economi Gorllewin De Cymru yn ngoleuni’r pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth i fusnesau yng Nghaerffili y mae pandemig y coronafeirws yn effeithio arnynt?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith Brexit ar economi Gogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am broses WelTAG sy'n archwilio amlder cynyddol ar lwybr rheilffordd Maesteg-Pen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y coronafeirws ar yr economi yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol i fusnesau a gaewyd ym mis Ionawr 2021 oherwydd rheoliadau COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau gwella ffyrdd yng nghanolbarth Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella cryfder ac ansawdd mynediad band eang i gartrefi yng Nghymru lle mae pobl yn gweithio neu'n dysgu?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yn ystod y pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd ar Borthladd Caergybi?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi economi rhanbarth Dinas Abertawe?
Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith y bydd y cytundeb masnach rhwng y DU a'r UE yn ei chael ar ddyfodol diwydiant dur Cymru, yn enwedig gwaith Trostre yn Llanelli?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch hawliau gweithwyr ers diwedd y cyfnod pontio?
Pa fesurau sydd ar waith i helpu allforwyr Cymru i bontio i'r telerau masnach newydd gyda marchnad sengl yr Undeb Ewropeaidd?
Pa ddadansoddiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o'r cyfyngiadau all Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 eu rhoi ar allu'r Senedd i ddeddfu nawr fod y cyfnod pontio wedi dod i ben?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch effaith ehangu llwybrau llongau uniongyrchol o Iwerddon i'r UE ar economi Cymru?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd fframweithiau cyffredin y DU?
Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud tuag at gymryd rhan yn y cynllun Erasmus, ar ôl cyfnod pontio’r UE?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar borthladdoedd Cymru?