Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 19/11/2025 i'w hateb ar 26/11/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ63492 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella cysylltedd ffyrdd yn Nyffryn Clwyd?

 
2
OQ63467 (w) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am ei drafodaethau efo Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y cynllun i sefydlu uned mam a’i phlentyn ar gyfer teuluoedd o ogledd Cymru?

 
3
OQ63473 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Adran Drafnidiaeth y DU ar newidiadau a gwelliannau i'r llinell lliniaru yn Ne Caerdydd a Phenarth?

 
4
OQ63486 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ar ffyrdd lleol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru?

 
5
OQ63460 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau mynediad at drafnidiaeth i bobl anabl?

 
6
OQ63457 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwytnwch llinell y Gororau rhwng Caerdydd a Henffordd?

 
7
OQ63454 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gysylltedd trafnidiaeth yn Nhaf Elái?

 
8
OQ63465 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i gefnogi cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029?

 
9
OQ63482 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion yr adolygiad o'r canllaw Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru?

 
10
OQ63491 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod y rhwydwaith ffyrdd yn gallu delio â llifogydd ac amodau tywydd garw eraill?

 
11
OQ63456 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau bysiau yng Ngorllewin De Cymru?

 
12
OQ63471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa rôl mae strategaeth Llwybr Newydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae ym mhroses yr Ysgrifennydd Cabinet o wneud penderfyniadau ar drafnidiaeth?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ63469 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd ac unigolion ledled Rhondda gyda chostau byw y gaeaf hwn?

 
2
OQ63485 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynglŷn ag ehangu Carchar y Parc?

 
3
OQ63484 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl anabl gyda chostau byw?

 
4
OQ63496 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynghylch effaith cau toiledau cyhoeddus yng ngogledd Cymru ar bobl anabl a phobl hŷn?

 
5
OQ63472 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i feithrin gweithgareddau'r sector gwirfoddol yn y rhannau o Gymru sydd â'r mwyaf o amddifadedd?

 
6
OQ63490 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cymdeithas heb arian parod ar gynhwysiant ariannol?

 
7
OQ63466 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau achosion o drais domestig?

 
8
OQ63470 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd y cynlluniau presennol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi aelwydydd sy'n cael trafferth gyda thlodi tanwydd?

 
9
OQ63468 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan unigolion a chymunedau fynediad digonol at wasanaethau bancio?

 
10
OQ63455 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar strategaeth plismona cymunedol Llywodraeth Cymru?

 
11
OQ63459 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran?

 
12
OQ63462 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau ei blaenoriaethau cyfiawnder cymdeithasol ar gyfer Canol De Cymru am weddill tymor y Senedd?

Comisiwn y Senedd

1
OQ63487 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Sut mae'r Comisiwn yn gweithio gyda newyddiadurwyr i sicrhau bod adroddiadau ar fusnes y Senedd yn gywir?

 
2
OQ63461 (e) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa ddarpariaeth y mae'r Comisiwn yn ei gwneud ar gyfer dehonglwyr BSL ar gyfer trafodion y Senedd yn y seithfed Senedd?

 
3
OQ63464 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/11/2025

Pa ystyriaeth mae'r Comisiwn yn ei rhoi i hygyrchedd dogfennau wrth gefnogi busnes y Senedd?